R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i bwysau ar wasanaethau brys yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)2305(FM)W
2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu nifer y tai newydd sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru? OAQ(4)2297(FM)
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn 2015 i wella gwasanaethau i bobl sy'n dioddef o diabetes yng Nghymru? OAQ(4)2299(FM)
4. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cyfraniad Llywodraeth Cymru at ddigwyddiad beicio Velothon Cymru? OAQ(4)2301(FM)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Prif Weinidog wedi'u gomisiynu parthed yr effaith y bydd diddymu neu ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998 yn ei chael ar ddatganoli yng Nghymru? OAQ(4)2300(FM)W
6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gomisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer pobl Brycheiniog a Sir Faesyfed gan Gyngor Sir Powys? OAQ(4)2304(FM)
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymrwymiad ei weinyddiaeth i gynyddu cyllid ysgolion 1 y cant yn uwch na'r newid yng ngrant bloc y Cynulliad? OAQ(4)2296(FM)
8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal i bobl hŷn eiddil eu meddwl yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2307(FM)W
9. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa faterion y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu codi yng nghyfarfod nesaf cydbwyllgor y Gweinidogion? OAQ(4)2306(FM)W
10. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud de-ddwyrain Cymru yn bwerdy economaidd ar gyfer y DU? OAQ(4)2298(FM)
11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2303(FM)
12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth targed Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy? OAQ(4)2294(FM)
13. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw gyfathrebu sydd wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe? OAQ(4)2302(FM)
14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y byddai'r DU yn gadael yr UE ei chael ar sector ymchwil Cymru? OAQ(4)2295(FM)
15. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd morol am weddill y Cynulliad hwn? OAQ(4)2308(FM)