Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Mai 2015
 i'w hateb ar 20 Mai 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weinyddu practisiau meddygon teulu sy'n croesi ffiniau byrddau iechyd lleol? OAQ(4)0586(HSS)

2. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau ymarferwyr cyffredinol y tu allan i oriau arferol yn Ysbyty Glan Clwyd? OAQ(4)0603(HSS)

3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o berfformiad y gronfa gofal canolraddol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0598(HSS)W

4. David Rees (Aberafan):Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran lleihau nifer y bobl ifanc sy'n dechrau ysmygu? OAQ(4)0597(HSS)

5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nyrsys arbenigol yng Nghymru? OAQ(4)0593(HSS)

6. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan y Gweinidog a'i adran i sicrhau gwell canlyniadau i gleifion sydd angen gofal brys yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0599(HSS)

7. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae'n eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau iechyd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0600(HSS)

8. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am roi'r gronfa cynaliadwyedd meddygon teulu ar waith? OAQ(4)0601(HSS)

9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa effaith y mae carchardai gorlawn yn ei chael ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru? OAQ(4)0594(HSS)

10. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y cafodd y Gweinidog ei gyfarfod perfformiad diweddaraf â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)0604(HSS)W

11. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf i weithredu cynllun Cylch Caron? OAQ(4)0590(HSS)W

12. Christine Chapman (Cwm Cynon):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau faint o alcohol a gaiff ei yfed yng Nghymru? OAQ(4)0595(HSS)

13. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau staffio yn y gwasanaeth iechyd? OAQ(4)0602(HSS)W

14. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at ddulliau o reoli poen yng Nghymru? OAQ(4)0596(HSS)

15. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyfforddiant meddygol mewn ysbytai yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0592(HSS)W

Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith ynghylch y model cadw pwerau? OAQ(4)0079(CG)W

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol ynghylch goblygiadau Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Cymru 2014? OAQ(4)0078(CG)W

3. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):Wrth roi cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru, a yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi gofyn am gyngor gan drydydd partïon? OAQ(4)0077(CG)