Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 33 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r prawf y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei gymhwyso i ddyfarnu p’un a oes gan unigolyn y mae ei anghenion wedi eu nodi mewn asesiad o dan adran 19, 21 neu 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf) hawlogaeth ai peidio i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu gan awdurdod lleol. Mae’r Rheoliadau yn nodi’r profion sydd i’w cymhwyso mewn perthynas ag oedolion, â phlant ac â gofalwyr.

Mae rheoliadau 3, 4 a 5 yn nodi’r meini prawf cymhwystra ar gyfer oedolion, ar gyfer plant ac ar gyfer gofalwyr yn ôl eu trefn. Ym mhob achos mae’r meini prawf yn cynnwys gofyniad ynghylch sut y mae’r angen o dan sylw yn codi, ynghylch a yw’n ymwneud ag un o’r ffactorau sy’n gysylltiedig â llesiant, ynghylch p’un a all yr angen gael ei ddiwallu ai peidio gan y person ar ei ben ei hun neu gyda chymorth, ac ynghylch a yw person yn debyg o sicrhau canlyniadau personol ai peidio heb ddarpariaeth gofal a chymorth gan yr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 6 yn darparu, at ddibenion barnu p’un a yw person yn gallu diwallu un o’i anghenion ai peidio, p’un a yw hynny gyda chymorth neu hebddo, y dylid ystyried nad yw’n gallu gwneud hynny hyd yn oed os yw’n gallu diwallu’r angen mewn gwirionedd ond dim ond drwy ddioddef poen, gorbryder neu drallod sylweddol, drwy beryglu ei hun neu berson arall, neu drwy gymryd amser sylweddol hwy na’r hyn y byddid yn ei ddisgwyl fel rheol.

Pan fo anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra hyn, mae adran 32 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ystyried yr hyn y gellid ei wneud i ddiwallu’r anghenion hynny ac a ddylai osod ffi yn unol â Rhan 5 o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 33 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

 

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                             6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 32(3), (4) a (5) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Cafodd drafft o’r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 33 o’r Ddeddf honno, a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 196(6) o’r Ddeddf honno.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn

ystyr canlyniadau personol (personal outcomes) yw’r canlyniadau sydd wedi eu nodi mewn perthynas â pherson drwy asesiad o dan adran 19, 21 neu 24 o’r Ddeddf;

ystyr dyfarniad cymhwystra (eligibility determination) yw dyfarniad o dan adran 32(1)(a) o’r Ddeddf;

ystyr y Ddeddf (the Act) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

mae i gofalwr (carer) yr ystyr a roddir yn adran 3 o’r Ddeddf;

ystyr hunanofal (self-care) yw tasgau y mae person yn eu cyflawni fel rhan o fywyd beunyddiol gan gynnwys

(i)   bwyta ac yfed;

(ii)  cynnal hylendid personol;

(iii) codi a gwisgo amdano;

(iv) symud o gwmpas y cartref;

(v)  paratoi prydau bwyd;

(vi) cadw’r cartref yn lân, yn ddiogel ac yn hylan.

Dyfarniadau cymhwystra

2.(1)(1) Pan fo’r awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad cymhwystra mewn perthynas ag oedolyn sydd wedi ei asesu o dan adran 19 o’r Ddeddf fel un y mae arno un neu fwy o anghenion am ofal a chymorth, mae unrhyw un o’r anghenion hynny’n bodloni’r meini prawf cymhwystra os yw o ddisgrifiad a bennir yn rheoliad 3.

(2) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad cymhwystra mewn perthynas â phlentyn sydd wedi ei asesu o dan adran 21 o’r Ddeddf fel un y mae arno un neu fwy o anghenion am ofal a chymorth, mae unrhyw un o’r anghenion hynny’n bodloni’r meini prawf cymhwystra os yw o ddisgrifiad a bennir yn rheoliad 4.

(3) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad cymhwystra mewn perthynas â gofalwr sydd wedi ei asesu o dan adran 24 o’r Ddeddf fel un y mae arno un neu fwy o anghenion am gymorth, mae unrhyw un o’r anghenion hynny’n bodloni’r meini prawf cymhwystra os yw o ddisgrifiad a bennir yn rheoliad 5.

Anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth

3. Mae angen oedolyn y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 2(1) yn bodloni’r meini prawf cymhwystra os yw

(a)     yr angen yn codi o afiechyd corfforol neu feddyliol yr oedolyn, ei oedran, ei anabledd, ei ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu amgylchiadau tebyg eraill;

(b)     yr angen yn ymwneud ag un neu fwy o’r canlynol

                            (i)    gallu i gyflawni arferion hunanofal neu arferion domestig;

                          (ii)    gallu i gyfathrebu;

                        (iii)    amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod;

                        (iv)    ymglymiad mewn gwaith, addysg, dysgu neu mewn gweithgareddau hamdden;

                          (v)    cynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu rai personol eraill o bwys;

                        (vi)    datblygu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol ac ymglymiad yn y gymuned; neu

                      (vii)    cyflawni cyfrifoldebau gofalu am blentyn;

(c)     yr angen yn un nad yw’r oedolyn yn gallu ei ddiwallu, naill ai

                            (i)    ar ei ben ei hun;

                          (ii)    gyda gofal a chymorth([2]) eraill sy’n fodlon darparu’r gofal a’r cymorth hwnnw; neu

                        (iii)    gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned y mae gan yr oedolyn fynediad iddynt; a

(d)     yr oedolyn yn annhebyg o sicrhau un neu fwy o’i ganlyniadau personol oni bai

                            (i)    bod yr awdurdod lleol yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i ddiwallu’r angen; neu

                          (ii)    bod yr awdurdod lleol yn galluogi’r angen i gael ei ddiwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol([3]).

Anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra plant y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth

4.(1)(1) Mae angen plentyn y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 2(2) yn bodloni’r meini prawf cymhwystra os yw

(a)     naill ai

                            (i)    yr angen yn codi o afiechyd corfforol neu feddyliol y plentyn, ei oedran, ei anabledd, ei ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu amgylchiadau tebyg eraill; neu fod

                          (ii)    yr angen yn un sy’n debyg, os na chaiff ei ddiwallu, o gael effaith andwyol ar ddatblygiad y plentyn;

(b)     yr angen yn ymwneud ag un neu fwy o’r canlynol

                            (i)    gallu i gyflawni arferion hunanofal neu arferion domestig;

                          (ii)    gallu i gyfathrebu;

                        (iii)    amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod;

                        (iv)    ymglymiad mewn gwaith, addysg, dysgu neu mewn gweithgareddau hamdden;

                          (v)    cynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu rai personol eraill o bwys;

                        (vi)    datblygu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol ac ymglymiad yn y gymuned; neu

                      (vii)    cyflawni nodau datblygu;

(c)     yr angen yn un nad yw’r plentyn, rhieni’r plentyn na phersonau eraill mewn rôl rhiant yn gallu ei ddiwallu, naill ai

                            (i)    ar eu pennau eu hunain neu gyda’i gilydd,

                          (ii)    gyda gofal a chymorth eraill sy’n fodlon darparu’r gofal a’r cymorth hwnnw; neu

                        (iii)    gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned y mae gan y plentyn, y rhieni neu bersonau eraill mewn rôl rhiant fynediad iddynt; a

(d)     y plentyn yn annhebyg o sicrhau un neu fwy o’i ganlyniadau personol oni bai

                            (i)    bod yr awdurdod lleol yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i ddiwallu’r angen; neu

                          (ii)    bod yr awdurdod lleol yn galluogi’r angen i gael ei ddiwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol.

(2) Yn y rheoliad hwn

                            (i)    mae cyfeiriadau at ddatblygiad plentyn yn cynnwys datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol y plentyn hwnnw;

                          (ii)    mae personau eraill mewn rôl rhiant (other persons in a parental role) yn cynnwys personau sydd â chyfrifoldeb rhiant([4]) neu berthnasau sy’n chwarae rôl o ran gofalu am y plentyn;

                        (iii)    mae i perthynas (relative) yr ystyr a roddir yn adran 197 o’r Ddeddf.

Anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra gofalwyr y mae arnynt anghenion am gymorth

5. Mae angen gofalwr y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 2(3) yn bodloni’r meini  prawf cymhwystra

(a)     os yw’r angen yn codi o ganlyniad i ddarparu gofal naill ai

                            (i)    i oedolyn y mae arno anghenion sy’n dod o fewn Rheoliad 3(a) a (b), neu

                          (ii)    i blentyn anabl;

(b)     os yw’r angen yn ymwneud ag un neu fwy o’r canlynol

                            (i)    gallu i gyflawni arferion hunanofal neu arferion domestig;

                          (ii)    gallu i gyfathrebu;

                        (iii)    amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod;

                        (iv)    ymglymiad mewn gwaith, addysg, dysgu neu mewn gweithgareddau hamdden;

                          (v)    cynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu rai personol eraill o bwys;

                        (vi)    datblygu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol ac ymglymiad yn y gymuned; neu

                      (vii)    yn achos gofalwr sy’n oedolyn, cyflawni cyfrifoldebau gofalu am blentyn;

                    (viii)    yn achos gofalwr sy’n blentyn, cyflawni nodau datblygu;

(c)     os nad yw’r gofalwr yn gallu diwallu’r angen p’un ai

                            (i)    ar ei ben ei hun;

                          (ii)    gyda chymorth eraill sy’n fodlon darparu’r cymorth hwnnw; neu

                        (iii)    gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned y mae gan y gofalwr fynediad iddynt; a

(d)     os yw’r gofalwr yn annhebyg o sicrhau un neu fwy o’i ganlyniadau personol oni bai

        (i)(i)  bod yr awdurdod lleol yn darparu neu yn trefnu cymorth i’r gofalwr i ddiwallu angen y gofalwr;

                          (ii)    bod yr awdurdod lleol yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i’r person y mae’r gofalwr yn darparu gofal iddo, er mwyn diwallu angen y gofalwr; neu

                        (iii)    bod yr awdurdod lleol yn galluogi’r angen i gael ei ddiwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol.

Gallu i ddiwallu angen

6. At ddibenion rheoliadau 3(c), 4(1)(c) a 5(c), mae person sy’n gallu diwallu’r angen, ar ei ben ei hun neu gyda chymorth eraill i’w ystyried yn un nad yw’n gallu diwallu’r angen os byddai gwneud hynny

(a)     yn achosi poen, gorbryder neu drallod sylweddol i’r person hwnnw;

(b)     yn peryglu neu’n debyg o beryglu iechyd neu ddiogelwch y person hwnnw neu berson arall;

(c)     yn cymryd amser sylweddol hwy i’r person hwnnw na’r hyn y byddid yn ei ddisgwyl fel rheol.

 

 

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

 

Dyddiad



([1]) 2014 dccc  4.      

([2])   Diffinnir gofal a chymorth yn rhannol yn adran 4 o'r Ddeddf.

([3])   Caiff rheoliadau o dan adrannau 50 i 53 o'r Ddeddf ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu ei anghenion. Cyfeirir at daliadau o'r fath yn y Ddeddf fel taliadau uniongyrchol

([4])   Diffinnir parental responsibility yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p. 41).