R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol mewn gweithleoedd yng Nghymru? OAQ(4)2243(FM)
2. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y Llwybr Du a gaiff ei ffafrio i'r M4 ar ddyfodol Dociau Casnewydd? OAQ(4)2242(FM)
3. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu mentrau Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)2246(FM)
4. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddatganoli pwerau dros ynni i Gymru? OAQ(4)2253(FM)W
5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau iechyd i gleifion y GIG yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)2251(FM)
6. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar flaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer hybu economi'r gorllewin? OAQ(4)2248(FM)W
7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn ne ddwyrain Cymru? OAQ(4)2255(FM)
8. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)2252(FM)
9. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cam nesaf y Metro arfaethedig ar gyfer de Cymru? OAQ(4)2245(FM)
10. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gofal plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?OAQ(4)2254(FM)
11. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y prosiect cysylltu canolbarth Cymru? OAQ(4)2249(FM)
12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros y GIG yn y gogledd? OAQ(4)2240(FM)
13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau i ddiogelu adeiladau hanesyddol yn nhrefi Cymru? OAQ(4)2244(FM)
14. Simon Thomas (Mid and West Wales): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu tir coedwig yng Nghymru? OAQ(4)2250(FM)W
15. Aled Roberts (North Wales): Pa asesiad a wnaethpwyd ar ddarpariaeth cyrsiau galwedigaethol yn dilyn toriadau ar gyllidebau colegau addysg bellach gan Lywodraeth Cymru? OAQ(4)2256(FM)W