Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Ebrill 2015 i'w hateb ar 29 Ebrill 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y caiff cyllid yr UE ei ddefnyddio yng Nghymru? OAQ(4)0545(FIN)

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i baratoi at feddu ar yr hawl i godi treth incwm? OAQ(4)0551(FIN)W

3. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau yr ymgymerodd â hwy yn ystod ei hymweliad â Brwsel fis diwethaf? OAQ(4)0549(FIN)

4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith unrhyw gyllideb Llywodraeth y DU yn y dyfodol ar weithredu trethi datganoledig? OAQ(4)0553(FIN)

5. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda busnesau ynghylch rheolau caffael y sector cyhoeddus? OAQ(4)0541(FIN)

6. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf? OAQ(4)0555(FIN)

7. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiectau cyllid strwythurol cymeradwy yng Nghastell-nedd? OAQ(4)0546(FIN)

8. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar fuddsoddi i arbed? OAQ(4)0539(FIN)

9. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau gwerth am arian o'i grantiau a'i rhaglenni ariannu? OAQ(4)0548FIN)

10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gyllid Ewropeaidd sydd ar gael ar gyfer prosiectau seilwaith yn mhrifddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ(4)0542(FIN)

11. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu swyddogaeth Trysorlys Cymreig? OAQ(4)0550(FIN)W

12. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi trosolwg o effaith toriadau i'r grant bloc ar yr arian sydd ar gael i adrannau Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0554(FIN)W

13. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd prosiectau cyfalaf yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0544(FIN)

14. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid cyfalaf i bortffolio'r economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth? OAQ(4)0547(FIN)

15. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith datganoli posibl y tollau ar y Pontydd Hafren ar gyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0552(FIN)

Gofyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau o ran diogelwch cymunedau? OAQ(4)0562(PS)

2. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i sefydlu comisiwn staff i’r gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0561(PS)

3. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ffitrwydd diffoddwyr tân yng Nghymru? OAQ(4)0549(PS)

4. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae o ran gwella'r ffordd y caiff troseddwyr benywaidd eu rheoli? OAQ(4)0554(PS)

5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau a ddarperir i awdurdodau lleol ar benderfyniadau sy'n ymwneud â defnyddio cyfleusterau cymunedol? OAQ(4)0552(PS)

6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ddatganoli gweinyddu cyfiawnder? OAQ(4)0555(PS)W

7. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd cynghorau yn gweithio gyda'i gilydd? OAQ(4)0560(PS)

 

8. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl cynghorau bro a thref yng Nghymru? OAQ(4)0556(PS)W

 

9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu lefelau cyfartal o wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru? OAQ(4)0548(PS)

10. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ad-drefnu llywodraeth leol yn ne Cymru? OAQ(4)0550(PS)

11. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio contractau sero awr o fewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0557(PS)

12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dreth cyngor sy'n daladwy yng Nghymru? OAQ(4)0553(PS)

13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)? OAQ(4)0558(PS)

14. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei drafodaethau gyda'r gwasanaethau brys ynghylch tanau a gaiff eu cynnau yn fwriadol? OAQ(4)0551(PS)