20/04/2015
Clerc y Pwyllgor
 Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru 
 Bae Caerdydd
 CF99 1NA
 
 SeneddCCLLL@Cynulliad.cymru
  


Annwyl Glerc

Ymgynghoriad ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru)

1.    Mae Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu’r cyfle i roi sylw ar Fil Llywodraeth Leol (Cymru). Mae’r sylwadau isod yn ymwneud yn benodol ag egwyddorion y Bil ac unrhyw oblygiadau anfwriadol a allai ddeillio o’r Bil. Yn ogystal, tynnir sylw at rai cymalau penodol yng nghyd destun gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

2.    Prif nod y Comisiynydd yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Gwneir hyn drwy ddwyn sylw at y ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a thrwy osod safonau ar sefydliadau. Bydd hyn, yn ei dro yn arwain at sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg.

Mae dwy egwyddor yn sail i waith y Comisiynydd:

¢  Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru;

¢  Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Dros amser fe fydd pwerau newydd i osod a gorfodi safonau ar sefydliadau yn dod i rym trwy is-ddeddfwriaeth. Hyd nes y bydd hynny’n digwydd bydd y Comisiynydd yn parhau i arolygu cynlluniau iaith statudol trwy bwerau y mae wedi eu hetifeddu o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Crëwyd swydd y Comisiynydd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Caiff y Comisiynydd ymchwilio i fethiant i weithredu cynllun iaith; ymyrraeth â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghymru ac, yn y dyfodol, i gwynion ynghylch methiant sefydliadau i gydymffurfio â safonau.

 

Un o amcanion strategol y Comisiynydd yw dylanwadu ar yr ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg mewn datblygiadau polisi a deddfwriaethol. Felly un o brif swyddogaethau’r Comisiynydd yw darparu sylwadau yn unol â’r cylch gorchwyl hwn gan weithredu fel eiriolwr annibynnol ar ran siaradwyr Cymraeg yng Nghymru y gallai’r newidiadau arfaethedig hyn effeithio arnynt. Mae’r ymagwedd hon yn cael ei harddel er mwyn osgoi unrhyw gyfaddawd posibl ar swyddogaethau’r Comisiynydd ym maes rheoleiddio, a phe byddai’r Comisiynydd yn dymuno adolygu’n ffurfiol berfformiad cyrff unigol neu Lywodraeth Cymru yn unol â darpariaethau’r Mesur.

3.    Safonau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Fe fyddwch yn ymwybodol bod Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog wedi gosod Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015[1] gerbron y Cynulliad ar 3 Mawrth 2015 ac y bydd pleidlais i’w cymeradwyo yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad Cenedlaethol ar 24 Mawrth 2015. O’u cymeradwyo, daw’r safonau i rym ar 31 Mawrth 2015, gan alluogi Comisiynydd y Gymraeg i gyflwyno Hysbysiadau Cydymffurfio i 26 sefydliad sydd yng nghylch 1 y safonau. Bydd gofyn i’r sefydliadau hyn gydymffurfio â’r safonau sy’n berthnasol i’w sefydliadau hwy o fewn cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cydymffurfio iddynt. Mae Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r 22 awdurdod lleol presennol ymysg y 26 corff. Bydd gofyn iddynt gydymffurfio â safonau mewn 5 maes sef:

 

·         Cyflenwi gwasanaethau

·         Llunio polisi

·         Gweithredu

·         Hybu

·         Cadw cofnodion

 

4.    Mae’r Comisiynydd eisoes wedi cynnig sylwadau i Lywodraeth Cymru ar ddau ymgynghoriad yn y maes adrefnu llywodraeth leol sef ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru: Diwygio Llywodraeth Leol[2] a Chomisiwn Staff i’r Gwasanaethau Cyhoeddus[3]. Mae ein sylwadau ynghylch adrefnu llywodraeth leol wedi canolbwyntio ar effaith yr adrefnu ar effaith newidiadau ar weithleoedd Cymraeg a dwyieithog a sut mae cynllunio’r gweithlu er mwyn hwyluso cydymffurfio â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn ogystal, dylid ystyried goblygiadau adrefnu llywodraeth leol ar y cymunedau a wasanaethir, yn arbennig gan fod perthynas rhwng y defnydd a wneir o iaith mewn gweithleoedd a’r defnydd a wneir o iaith yn y gymuned. 

 

Mae gweithleoedd neu adrannau o weithleoedd nifer o awdurdodau lleol unai yn gweithredu yn ddwyieithog neu yn Gymraeg yn unig. Iaith gwaith nifer o swyddogion felly yw’r Gymraeg. Mae hyn yn ganlyniad cynllunio bwriadus a phenderfyniadau polisi dros nifer o flynyddoedd. Yn ogystal, yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 bydd gofyn i nifer o sefydliadau gydymffurfio â safonau gweithredu, sef safonau ynghylch defnyddio’r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth fewnol corff. Mae’n hollbwysig nad yw’r newidiadau a ddaw yn sgil y Bil Llywodraeth Leol yn tanseilio gallu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith a’i fod, i’r gwrthwyneb yn rhoi cyfle i gynyddu gweithleoedd dwyieithog a’r cyfle sydd i weithwyr weithio a defnyddio eu sgiliau yn y Gymraeg. Yn wir, un o feysydd strategol Llywodraeth Cymru yn ei dogfen strategaeth ar yr iaith Gymraeg, Iaith fyw: iaithbyw[4] yw cynyddu cyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle gan nodi hefyd fod ‘gan y gweithle rôl allweddol o ran ennyn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith mewn agweddau eraill ar eu bywydau’.

 

5.    Mae’r Gymraeg yn cael ei siarad ymhob cymuned yng Nghymru ac mae’n brif iaith naturiol bywyd dyddiol nifer o’r cymunedau hynny. Mae cynaliadwyedd y Gymraeg fel prif iaith nifer o’r cymunedau hynny yn faes sy’n peri gofid, yn arbennig yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2011 sy’n dangos nid yn unig leihad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ond hefyd leihad arwyddocaol yn y cymunedau hynny lle siaradir y Gymraeg gan fwy na 70% o’r boblogaeth. Mae hyn yn ganlyniad mewnfudo ac allfudo, ac yn arbennig allfudo pobl ifanc sy’n siarad Cymraeg o’u cymunedau er mwyn ceisio gwaith. Mae awdurdodau lleol yn un o brif gyflogwyr Cymru. Mae’n hanfodol felly, fod y newidiadau i awdurdodau lleol a ddaw yn sgil Bil Llywodraeth Leol (Cymru) yn fodd i atgyfnerthu cymunedau Cymraeg drwy sicrhau cyflogaeth a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

 

6.    Hoffem yn benodol gynnig sylwadau ar adrannau canlynol Bil Llywodraeth Leol (Cymru) yn y llythyr hwn:

 

              i.        Adran 5 Canllawiau ynghylch ceisiadau i uno

            ii.        Adran 10 Darpariaeth ganlyniadol etc. arall

           iii.        Adran 13 Swyddogaethau pwyllgorau pontio

           iv.        Adran 16 (4) (d)

            v.        Adran 17 Cyfarwyddydau a chanllawiau i’r Comisiwn

 

7.    Adran 5 Canllawiau ynghylch ceisiadau i uno, ac yn benodol y canllawiau ‘ynghylch y materion y dylid eu hystyried wrth lunio’r cynnig sydd mewn cais o dan adran 3(1)’ (Adran 5 (1) (d))

Mae’n deg nodi ei bod yn bosibl y byddai uno awdurdodau lleol yn effeithio ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg. Ein disgwyliad yw y byddai’r canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch ceisiadau i uno yn cynnwys canllaw ynghylch ystyried materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac yn arbennig dyletswyddau statudol ar y Gymraeg. 

 

8.    Adran 10 Darpariaeth ganlyniadol etc. arall, ac yn benodol Adran 10(4)(a)

Ein disgwyliad yn y fan hon yw y bydd rhwymedigaethau awdurdodau sy’n uno yn cynnwys rhwymedigaethau i gydymffurfio â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

 

9.    Adran 13 Swyddogaethau pwyllgorau pontio, ac yn benodol 13(1)(a) ac 13 (1)(b)

Yn unol â’r hyn a nodir yn 7 uchod ein disgwyliad yn y fan hon yw y bydd y pwyllgorau pontio yn darparu cyngor ac argymhellion i’r awdurdodau sy’n uno ynghylch hwyluso trosglwyddo rhwymedigaethau sy’n ymwneud â chydymffurfio â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

10. Adran 13 Swyddogaethau pwyllgorau pontio, ac yn benodol 13(2) – rhoi cyfarwyddyd

Ein disgwyliad yn y fan hon yw y bydd y cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bwyllgorau pontio ystyried rhwymedigaethau awdurdodau lleol i gydymffurfio â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn ogystal, yn unol â’r hyn a nodir yn 4 a 5 uchod ystyriwn mai da fyddai i’r pwyllgor pontio ystyried darparu cyngor ac argymhellion i’r awdurdodau sy’n uno ynghylch sut mae ymestyn y cyfle i weithio’n Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y sefydliadau a unir gan gynnwys ystyried addasrwydd gwneud y Gymraeg yn iaith gweinyddiaeth fewnol sefydliadau a unir.

 

11. Adran 13 Swyddogaethau pwyllgorau pontio, ac yn benodol 13(4) – dyroddi canllawiau

Deallwn o’r memorandwm esboniadol y bydd y canllawiau a gyhoeddir dan y Bil yn mynnu bod cyd-bwyllgorau pontio’n sicrhau bod materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn cael eu hystyried yn y fan hon. Ein disgwyliad yw y byddai canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bwyllgorau pontio ystyried rhwymedigaethau awdurdodau lleol i gydymffurfio â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.Mae’r memorandwm hefyd yn nodi’r angen i sicrhau bod ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â’r Gymraegyn rhan o ddiwylliant gweithio awdurdodau newydd o’r dechrau.  Ystyriwn mai da fyddai i’r pwyllgor pontio ddarparu cyngor ac argymhellion i’r awdurdodau sy’n uno ynghylch sut mae ymestyn y cyfle i weithio’n Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y sefydliadau a unir gan gynnwys ystyried addasrwydd gwneud y Gymraeg yn iaith gweinyddiaeth fewnol sefydliadau a unir.

 

12.Adran 16 (4) (e)

Ystyriwn y byddai enw unrhyw ward etholiadol neu ward gymuned yn cynnwys enw Cymraeg a Saesneg neu enw Cymraeg yn unig.

 

13.Adran 17 Cyfarwyddydau a chanllawiau i’r Comisiwn

Ystyriwn y byddai cyfarwyddydau a chanllawiau i’r Comisiwn yn cynnwys cyfarwyddydau a chanllawiau yn unol â’r safonau llunio polisi a nodir yn 7 uchod. Ymhellach credwn y dylent hefyd ystyried cyfansoddiad ieithyddol y cymunedau a wasanaethir.

 

14. Diolch yn fawr iawn ichi am y cyfle i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ichi ynghylch Bil Llywodraeth Leol (Cymru). Buaswn yn falch o gyfrannu ymhellach at yr ymchwiliad gan gynnwys ddarparu tystiolaeth ar lafar os ydych yn dymuno hynny.

 

Yr eiddoch yn gywir,

 

Meri Huws

Comisiynydd y Gymraeg



[1] http://www.cynulliad.cymru/laid%20documents/sub-ld10115%20-%20the%20welsh%20language%20standards%20%20(no.%201)%20regulations%202015%20rheoliadau%20safonau%e2%80%99r%20gymraeg%20(rhif%201)%202015/sub-ld10115-w.pdf

[2] http://www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/20141001%20Ymateb%20i%20ymgynghoriad%20ar%20ddiwygio%20Llywodraeth%20Leol.pdf

[3] http://www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/20150113%20C%20DG%20Ymateb%20Comisiynydd%20y%20Gymraeg%20i%20Bapur%20Gwyn%20Comisiwn%20Staff%20i.pdf

[4] http://gov.wales/docs/dcells/publications/122902wls201217cy.pdf