R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau'r gostyngiad yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)2218(FM)W
2. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)2208(FM)W
3. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen drafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)2215(FM)
4. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ystyriaeth Llywodraeth Cymru o adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig, 'An Economic Strategy for Wales'? OAQ(4)2222(FM)
5. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithlonrwydd ynni stoc dai Cymru? OAQ(4)2221(FM)W
6. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gau ysgolion yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)2213(FM)
7. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoleiddio gwasanaethau bysys yng Nghymru?OAQ(4)2212(FM)
8. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa astudiaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cynnal i ddiweddaru canfyddiadau Adroddiad Holtham 2010? OAQ(4)2210(FM)W
9. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau twf economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(4)2206(FM)
10. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safonau ysgolion yn Nhorfaen? OAQ(4)2219(FM) TYNNWYD YNOL
11. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn 2015 i wella amseroedd aros y GIG? OAQ(4)2207(FM)
12. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gofal plant? OAQ(4)2223(FM)
13. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau gorfodi yn erbyn tipio anghyfreithlon yng Nghymru? OAQ(4)2217(FM)
14. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol adeiladau eglwysi a chapeli yng Nghymru? OAQ(4)2205(FM)
15. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i Gymru? OAQ(4)2214(FM)