Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 19 Mawrth 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.01 - 15.35 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Jenny Rathbone AC (yn lle John Griffiths AC) Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC (ar gyfer eitemau 3 a 7 i 12) Peter Black AC (yn lle Kirsty Williams AC ar gyfer eitemau 1 i 2 a 4 i 6) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Kirsty Williams AC, yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) Lisa Salkeld, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru Philippa Watkins, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Dr Ruth Hussey, Llywodraeth Cymru Martin Sollis, Llywodraeth Cymru Melanie Minty, Fforwm Gofal Cymru Anne Thomas, Linc Cymru ac yn cynrychioli Fforwm Gofal Cymru Michele Millard, Spire Cardiff Hospital ac yn cynrychioli Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru Simon Rogers, Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru Sue Goodman, y Wallich Antonia Watson, y Wallich Stephen Coole, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru Lucy-Ann Henry, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru Nick McLain, Heddlu Gwent Paul Roberts, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi Jon Stratford, Heddlu De Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Rhys Morgan (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) Martin Jennings (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan John Griffiths. Dirprwyodd Jenny Rathbone.
1.2 Dirprwyodd Peter Black ar ran Kirsty Williams AC ar gyfer yr eitemau'n ymwneud â'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).
2 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 14
2.1 Ymatebodd Kirsty Williams, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, i gwestiynau gan Aelodau.
3 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd: gwaith craffu cyffredinol a chyllidol.
3.1 Ymatebodd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog i gwestiynau gan Aelodau.
3.2 Cytunodd y Gweinidog:
· i ddarparu gwybodaeth ystadegol gefndir yn ymwneud â nifer yr unigolion yng Nghymru sydd â salwch cronig a'r nifer sy'n cael triniaethau;
· i roi gwybod i'r Pwyllgor pan fydd yr adroddiad cenedlaethol 'Ymddiried Mewn Gofal', ynghylch hapwiriadau o wardiau iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru, yn cael ei gyhoeddi;
· i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn darparu manylion am ddyraniadau'r rhaglen gyfalaf sydd wedi'u nodi yng nghynllun tair blynedd drafft Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gyfeirio'n benodol at unrhyw gynlluniau i ddatblygu adran achosion brys Ysbyty Gwynedd; ac
· i adolygu canllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â newid gwasanaethau byrddau iechyd lleol er mwyn sicrhau eu bod yn darparu'n ddigonol ar gyfer ymgysylltu â staff yr effeithir arnynt, o bosibl.
4 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 15
4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 6, 7 a 12 o'r cyfarfod, ac o eitem 1 o'r cyfarfod ar 25 Mawrth 2015.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ynghylch a fydd Fframwaith Llywodraethu'r Offeryn Aciwtedd (pan gaiff ei ddilysu) yn cynnwys cymarebau staffio sefydlog sy'n berthnasol i'r holl wardiau cleifion mewnol i oedolion, boed yn wardiau meddygol neu lawfeddygol.
7 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â chanllawiau ar lefelau diogel o ran defnyddio meddygon locwm.
8 Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 7
8.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
9 Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 8
9.2 Cytunodd y tystion i ddarparu i'r Pwyllgor:
10 Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 9
10.2 Cytunodd y tystion i ddarparu i'r Pwyllgor:
11 Papurau i’w nodi
11.1 Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2015
11.1a Cytunodd y Pwyllgor i ddiwygio cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth i gynnwys manylion am y wybodaeth ychwanegol y cytunodd yr Aelodau i ofyn amdani gan fyrddau iechyd lleol a Chymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru ynghylch y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).
11.2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth: gohebiaeth gan y Llywydd
11.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth, a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd rôl y Cynulliad o ran craffu ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.
11.3 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
11.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
12 Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
12.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.