Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Ebrill 2015 i'w hateb ar 22 Ebrill 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau iechyd a ddarperir i gyn-aelodau o'r lluoedd arfog? OAQ(4)0571(HSS)

2. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw? OAQ(4)0583(HSS)

3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0580(HSS)

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch ariannu gwasanaethau iechyd ar gyfer y carchar newydd yn Wrecsam? OAQ(4)0573(HSS)W

5. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardaloedd gwledig Cymru? OAQ(4)0569(HSS)

6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn 2015 i wella gwasanaethau i bobl yng Nghymru sy'n byw gyda nam ar y synhwyrau? OAQ(4)0570(HSS)

7. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gofal diwedd oes yng Nghymru? OAQ(4)0577(HSS)

8. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran hyfforddi meddygon teulu? OAQ(4)0572(HSS)W

9. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal cartref ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0575(HSS)

10. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at optometryddion yng Nghymru ar gyfer cleifion sydd angen gofal llygaid acíwt? OAQ(4)0581(HSS)

11. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd i bobl Sir Drefaldwyn? OAQ(4)0574(HSS)

12. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0578(HSS)W

13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y nyrsys sy'n arbenigo mewn diabetes? OAQ(4)0582(HSS)

14. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw'r camau nesaf i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd yng nghefn gwlad canolbarth Cymru? OAQ(4)0585(HSS)

15. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae ei adran yn cydweithio gydag ymgyrch 'On Your Feet Britain' Sefydliad Prydeinig y Galon? OAQ(4)0579(HSS)

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi'u cynnal gyda Chomisiynydd Iaith Cymru ynghylch Cynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad? OAQ(4)087(AC)W

Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau a gymerwyd yn ddiweddar i sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad at ddeddfwriaeth ddatganoledig? OAQ(4)076(CG)W