MEMORANDWM ESBONIADOL I

Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) Cymru 2015

 

 

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan Adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru ac fe’i gosodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

 

Datganiad Prif Weinidog Cymru

 

Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015.  Rwy’n fodlon bod y manteision yn cyfiawnhau'r costau tebygol.

 

Carwyn Jones AC

Prif Weinidog Cymru

 

 

24 Chwefror 2015

 

 


1.    Disgrifiad

1.1. Mae Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 ('y Safonau') yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau; safonau llunio polisi; safonau gweithredu; safonau hybu; a safonau cadw cofnodion. 

 

1.2. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud y safonau'n benodol gymwys i Weinidogion Cymru, Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol, ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, gan alluogi Comisiynydd y Gymraeg ('y Comisiynydd') i roi Hysbysiadau Cydymffurfio i'r sefydliadau hynny mewn perthynas â'r safonau a bennwyd.

 

2.    Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

2.1. Rhifau yn y Rheoliadau

 

Mae'r Rheoliadau'n defnyddio'r wyddor Gymraeg h.y. (a), (b), (c), (ch) etc. Mae hyn ond yn effeithio ar un grŵp o safonau - safonau 27A-D. Mae hefyd yn effeithio ar:

 

(1)             nifer fach o is-baragraffau mewn safonau unigol (gweler safonau 94, 115, 128, 136, 137A, 154, 170); 

(2)             paragraff 29 a 42 o Atodlen 1, paragraff 2 o Atodlen 2, paragraff 12 o Atodlen 3; a

(3)             rheoliad 2(6).   

Mae'r arddull hwn yn wahanol i'r arddull arferol a ddefnyddir mewn is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Fel arfer, defnyddir y wyddor Saesneg yn y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg. Yn yr achos hwn, oherwydd natur a phwnc y Rheoliadau, defnyddiwyd y wyddor Gymraeg. Defnyddiwyd yr arddull hwn yn y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg er mwyn sicrhau cysondeb ac osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddryswch wrth groesgyfeirio.

 

2.2. Enw'r Rheoliadau

 

Teitl y Rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt oedd Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Gweinidogion Cymru, Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol, ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) 2015. Teitl y Rheoliadau a osodwyd yw Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015.

 

Mae'n anarferol i '(Rhif 1)' ymddangos yn nheitl y cyntaf mewn cyfres o reoliadau, gan na wyddir fel arfer y bydd rheoliadau pellach yn y gyfres. Yn yr achos hwn, bydd Rheoliadau pellach yn cael eu gwneud er mwyn pennu Safonau ar gyfer y personau eraill a restrir yn Atodlen 6 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ('y Mesur').

Felly, rydym yn cynnig bod yr holl reoliadau a wneir o dan adran 26 o'r Mesur yn un gyfres barhaus, yn yr un modd â gorchmynion cychwyn. Bydd hyn yn golygu bod y Rheoliadau'n haws i'w trin ac i gyfeirio atynt, yn enwedig pan fydd Hysbysiadau Cydymffurfio'n cyfeirio at reoliadau.

 

2.3. Ad-drefnu Llywodraeth Leol

Mae Atodlen 6 o'r Mesur yn nodi pa gyrff sy'n gorfod cydymffurfio â'r Safonau. Nid yw'n enwi Cynghorau Bwrdeistref Sirol a Chynghorau Sir unigol. Felly, nid yw ad-drefnu arfaethedig Llywodraeth Leol yn effeithio ar allu'r Comisiynydd i roi Hysbysiadau Cydymffurfio i'r Cynghorau presennol.

 

Caiff hyn ei drafod eto os bydd y Cynghorau'n cael eu had-drefnu yn y dyfodol.

 

3.    Y cefndir deddfwriaethol

Caiff y Rheoliadau ei gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru o dan adran 26, 27, 39 a 150(5) o'r Mesur. Mae adran 26 y Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau drwy reoliadau. Mae adran 27 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau gwahanol ar gyfer ymddygiadau gwahanol. Mae hefyd yn eu galluogi i bennu un safon neu nifer o safonau ar gyfer ymddygiad penodol.

Cyn y gall y Comisiynydd roi hysbysiad cydymffurfio i berson yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â safon, rhaid i'r safon honno fod yn benodol gymwys i'r person hwnnw (adran 25).  Mae adran 39 yn darparu bod safon yn benodol gymwys i berson pan fydd Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw yn ymwneud â'r safon honno. Mae adran 150(5) yn darparu bod unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn cynnwys pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaethau trosiannol, darfodol, canlyniadol ac arbed, darpariaethau cysylltiedig ac unrhyw ddarpariaethau eraill y mae Gweinidogion Cymru'n eu hystyried yn angenrheidiol neu'n briodol.

 

Yn unol ag Adran 150(2) o'r Mesur, rhaid i'r Rheoliadau gael eu gosod gerbron a'u cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (h.y. y weithdrefn gadarnhaol).

 

4.    Diben y ddeddfwriaeth a'r effaith y bwriedir ei chael

 

Gwnaeth y Mesur gadarnhau statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru a chreu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer yr iaith. 

 

Cam allweddol i roi effaith i'r Mesur yw pennu safonau ac awdurdodi'r Comisiynydd i orfodi personau i gydymffurfio â'r Safonau hyn.

 

Mae adran 25 y Mesur yn darparu ei bod yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon a bennir gan Weinidogion Cymru os bodlonir amodau penodol. Mae'r amodau hynny'n cynnwys y canlynol:

 

      i.        bod safon yn benodol gymwys i'r person (h.y.mae Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw mewn perthynas â'r safon honno);

    ii.        bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r person;

   iii.        bod yr hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i'r person gydymffurfio â'r safon;

   iv.        bod yr hysbysiad cydymffurfio mewn grym. 

 

Bydd y ddyletswydd i gydymffurfio â'r safonau yn cymryd lle'r Cynlluniau Iaith Gymraeg a ddatblygwyd o dan Ddeddf yr Iaith 1993 a'u monitro gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg nes iddo gael ei ddiddymu ar 31 Mawrth 2012, a gan y Comisiynydd Iaith ers 1 Ebrill 2012.

 

Mae dau ddiben i'r Rheoliadau. Y cyntaf yw pennu Safonau.

 

Mae safonau sy'n perthyn i'r categorïau canlynol wedi'u pennu yn y Rheoliadau:

 

·         Safonau cyflenwi gwasanaethau- bydd y rhain yn cael eu gosod mewn perthynas â hybu neu hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, neu i sicrhau na chaiff ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau.

·         Safonau llunio polisi- bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ystyried effaith eu penderfyniadau polisi ar allu pobl i ddefnyddio'r iaith ac ar yr egwyddor o beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

·         Safonau gweithredu - bydd y rhain yn delio â'r defnydd o'r Gymraeg o fewn sefydliadau. 

·         Safonau hybu - bydd y rhain yn rhoi dyletswydd ar sefydliadau i fabwysiadu strategaeth yn amlinellu sut maent yn bwriadu hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. 

·         Safonau cadw cofnodion- bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol cadw cofnodion am rai o'r safonau eraill, ac am unrhyw gwynion a dderbynnir gan sefydliad. Bydd y cofnodion hyn yn helpu'r Comisiynydd i sicrhau bod sefydliad yn cydymffurfio â'r safonau.

 

Mae'r safonau wedi'u drafftio gyda'r nod o:

·         wella'r gwasanaethau Cymraeg y gall siaradwyr Cymraeg eu disgwyl gan sefydliadau

·         annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg yn fwy

·         ei gwneud yn glir i sefydliadau'r hyn y mae angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg 

·         sicrhau cysondeb priodol o ran y dyletswyddau a roddir ar gyrff sydd yn yr un sectorau a'r un ardaloedd daearyddol.

 

Mae rhai safonau'n dibynnu ar ei gilydd. Felly, mae'r Rheoliadau'n cynnwys tablau (yn Rhan 2 o Atodlenni 1, 3 a 4) i ategu'r safonau cyflenwi gwasanaethau, y safonau gweithredu a'r safonau hybu sy'n nodi pa safonau eraill y bydd angen eu gosod hefyd pan fydd safon benodol wedi'i chynnwys mewn hysbysiad cydymffurfio.

 

Ail ddiben y Rheoliadau yw awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiadau cydymffurfio i Weinidogion Cymru, Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â'r safonau a nodwyd. Nid yw'r Rheoliadau'n awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i Weinidogion Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â'r safonau hybu. Hynny am fod adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 eisoes yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg.

 

Ni fydd y Rheoliadau, pan fyddant yn dod i rym, yn cael effaith uniongyrchol ar sefydliadau ac ni fyddant, ar eu pennau eu hunain, yn creu hawliau i'r rheini sy'n defnyddio'r Gymraeg. Bydd hynny ond yn digwydd pan fydd yr holl amodau yn adran 25 wedi'u bodloni. Fodd bynnag, mae'r Rheoliadau yn gam hanfodol yn fframwaith y Mesur, ac yn galluogi'r Comisiynydd i gydymffurfio â'r safonau.

 

Mater i'r Comisiynydd fydd dewis pa safonau i'w gosod ar bob sefydliad drwy hysbysiad cydymffurfio. Mae'r Rheoliadau'n pennu'r ystod o safonau y gellir eu gosod ar sefydliad. Nid oes raid i'r Comisiynydd ofyn bod pob sefydliad yn cydymffurfio â phob safon. Efallai y bydd sefydliad yn gorfod cydymffurfio â safon mewn rhai amgylchiadau yn unig ac nid mewn sefyllfaoedd eraill, neu mewn rhai ardaloedd yn unig ac nid mewn ardaloedd eraill, yn dibynnu ar yr hyn a nodir yn ei hysbysiad cydymffurfio. Bydd yr hysbysiad cydymffurfio hefyd yn nodi erbyn pryd y mae'n ofynnol i'r sefydliad gydymffurfio â safon.

 

Apelio

Bydd unrhyw sefydliad yn gallu herio'r gofyniad i gydymffurfio â safon benodol, ar sail p'un a yw'n rhesymol ac yn gymesur disgwyl iddynt wneud hynny.

 

Yn y lle cyntaf, bydd sefydliad yn gallu herio'r Comisiynydd ei hun. Os na allant ddatrys yr anghydfod, mae modd apelio i Dribiwnlys newydd y Gymraeg, ac wedi hynny i'r Uchel Lys.

 

Sancsiynau

Comisiynydd y Gymraeg fydd yn gyfrifol am orfodi cydymffurfiaeth â'r safonau.   Mewn achosion lle bydd y Comisiynydd yn penderfynu bod sefydliad wedi methu â chydymffurfio â safon, gall gymryd camau gorfodi. O dan y Mesur, gall camau gorfodi amrywio o lunio argymhellion neu roi cyngor i sefydliad, i orfodi cosb sifil nad yw'n fwy na £5,000.   

 

5.    Risgiau peidio â gwneud deddfwriaeth

 

Os nad yw'r Rheoliadau arfaethedig yn cael eu gwneud, bydd y materion canlynol yn codi:

·         Bydd y Cynlluniau Iaith Gymraeg a gyflwynwyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn parhau yn eu lle ar gyfer Gweinidogion Cymru, Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru

·         Os yw'r Cynlluniau Iaith yn parhau, ni fydd mecanwaith gorfodi ar gael os yw sefydliad yn methu â chydymffurfio â'i Gynllun.

·         Ar hyn o bryd, mae Cynlluniau Iaith yn amrywio o un sefydliad i'r llall, ac mae'r ymrwymiadau mewn rhai Cynlluniau yn amhenodol. Mae hyn yn arwain at sefyllfa lle mae'r cyhoedd yn ansicr pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg. Bydd yr ansicrwydd hwn yn parhau os nad yw'r Rheoliadau'n cael eu gwneud. Mae'r safonau'n benodol eu natur ac felly byddant yn lleihau ansicrwydd y cyhoedd.  

·         Ansicrwydd ymhlith sefydliadau ynghylch eu darpariaethau Cymraeg, yn sgil y ffaith eu bod o dan yr argraff y bydd y safonau'n disodli eu Cynlluniau. Mae nifer o sefydliadau wedi dechrau paratoi ar gyfer cyflwyno'r safonau a'r drefn fonitro a gorfodi newydd.

·         Dim gwelliant o ran y defnydd o'r Gymraeg o fewn sefydliadau. Byddai'r defnydd o'r Gymraeg o fewn sefydliad yn parhau i ddibynnu ar ewyllys da'r sefydliad hwnnw, heb system fonitro yn ei lle.

·         Ni fydd rhan allweddol o'r Mesur yn cael ei gweithredu.

Ceir rhagor o wybodaeth am risgiau a manteision gweithredu'r safonau yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol isod, ac mae'r risgiau o beidio â chyflwyno safonau wedi'u hamlinellu yn yr adran "Opsiwn 1: gwneud dim" yn y manteision.

 

6.    Ymgynghori 

 

Rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2014, cynhaliodd Comisiynydd y Gymraeg ymchwiliad gyda'r 26 o sefydliadau a fydd yn gorfod cydymffurfio â'r safonau a bennwyd yn y Rheoliadau. Gwnaeth Gweinidogion Cymru ystyried yn llawn yr argymhellion a gyflwynodd y Comisiynydd yn yr adroddiadau ar y Safonau ac mewn nodyn cyngor ar wahân. Mae'r adroddiadau hynny i'w cael ar wefan y Comisiynydd.

 

Cynhaliodd Gweinidogion Cymru ymgynghoriad ar y Rheoliadau drafft yn ystod mis Tachwedd 2014. Gwahoddwyd sylwadau gan sefydliadau y mae'r set gyntaf o safonau'n berthnasol iddynt a gan aelodau'r cyhoedd sydd â diddordeb yn y safonau. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru a'i hyrwyddo drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Cyfarfu swyddogion polisi â'r sefydliadau y mae'r set gyntaf o safonau'n berthnasol iddynt a grwpiau lobïo yn ystod y cyfnod ymgynghori. Cafwyd trafodaeth hefyd â phobl ifanc i gasglu eu sylwadau. Cafodd y materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad eu hystyried yn llawn wrth ddrafftio'r Rheoliadau terfynol. Cyhoeddwyd adroddiad yn crynhoi'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn sydd ar gael yn 

http://wales.gov.uk/consultations/welshlanguage/welsh-language-standards-regulations/?status=closed&lang=cy

 

Ceir rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol isod.

 

 

7.    Asesiad o'r gystadleuaeth

Ni fydd busnesau, elusennau a/neu'r sector gwirfoddol yn gorfod cydymffurfio â'r safonau a bennwyd yn y Rheoliadau. Fodd bynnag, efallai y bydd busnesau, elusennau a/neu'r sector gwirfoddol (yn dibynnu ar hysbysiad cydymffurfio sefydliad) yn elwa ar rai o'r safonau, yn dibynnu ar eu cysylltiad â'r sefydliad - gweler y safonau'n ymwneud â grantiau er enghraifft (safonau 71-75).

 

8.    Adolygu ar ôl gweithredu

Mae'r Mesur yn darparu nifer o gyfleoedd i'r Comisiynydd ddwyn sylw Gweinidogion Cymru at addasrwydd y safonau a bennwyd yn y Rheoliadau. Er enghraifft;

 

·         Gall y Comisiynydd gyflwyno argymhellion neu roi cyngor i Weinidogion Cymru (adran 4 o'r Mesur) a allai argymell yn uniongyrchol diwygio'r Rheoliadau, os yw'n dymuno gwneud hynny. Hefyd gallai Gweinidogion Cymru benderfynu ar sail cyngor a roddir ganddi y byddai'n briodol adolygu'r safonau. Rhaid iddynt roi sylw dyledus i unrhyw argymhellion neu gyngor ysgrifenedig y mae'r Comisiynydd yn eu rhoi wrth arfer y swyddogaeth y mae'r argymhelliad neu'r cyngor yn ymwneud â hi.

·         Mae adran 18 y Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd baratoi adroddiad blynyddol. Rhaid i'r adroddiad hwnnw gynnwys adolygiad o faterion sy'n berthnasol i'r iaith Gymraeg (ymhlith materion eraill) a gallai hefyd gynnwys unrhyw faterion eraill y mae'r Comisiynydd o'r farn ei bod yn briodol eu cynnwys.

 

·         Yn ogystal, mae gan y Comisiynydd y pŵer i gynnal Ymchwiliad Safonau (adrannau 61 a 62 o'r Mesur) a all ystyried pa safonau a ddylai, neu a ddylai barhau i fod yn benodol gymwys i berson, p'un a yw'r safonau eisoes wedi'u pennu gan Weinidogion Cymru ai peidio. Ar ôl cynnal Ymchwiliad Safonau, rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad Safonau a darparu copi ohono i Weinidogion Cymru.

 

Yn amodol ar eu hysbysiadau cydymffurfio, bydd sefydliadau'n cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol bob blwyddyn sy'n amlinellu sut y maent wedi cydymffurfio â'r safonau a osodwyd arnynt (gweler safonau 158, 164 ac 170). Gallai'r adroddiadau blynyddol hyn hefyd godi materion yn ymwneud ag addasrwydd y safonau a bennwyd.



 

 

 


 

RHAN 2 – ASESIAD EFFAITH RHEOLEIDDIOL

 

Cefndir

1.    Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru safonau arfaethedig ar 6 Ionawr 2014, a chynhaliwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol arnynt gyda’r 26 o sefydliadau yr oedd y gyfres gyntaf o safonau’n berthnasol iddynt. Dosbarthwyd holiadur yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol gyda dogfennau Ymchwiliad Safonau Comisiynydd y Gymraeg ("y Comisiynydd"). Cynhaliwyd ymchwiliad y Comisiynydd rhwng 27 Ionawr 2014 a 18 Ebrill 2014, a gofynnwyd i sefydliadau gyflwyno eu hymatebion i'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.

 

2.    Ymatebodd 19 o'r 26 sefydliad i holiadur yr Asesiad. Er i dros 26 y cant o’r sefydliadau beidio ag ymateb, mae’r sefydliadau a ymatebodd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, pob un o’r Parciau Cenedlaethol ac 15 Awdurdod Lleol, sy’n cynrychioli ystod o nodweddion trefol a gwledig, ac amrywiaeth o nodweddion mewn perthynas â’r Gymraeg.  Darparodd y sefydliadau a ymatebodd wybodaeth fanwl am gost a manteision gweithredu'r safonau yn eu sefydliad. Yn ogystal, gwnaeth sawl grŵp lobïo a grŵp buddiant, ynghyd â 409 o aelodau'r cyhoedd, gyflwyno eu hymatebion i Ymchwiliad Safonau'r Comisiynydd i Lywodraeth Cymru. 

                                

3.    Ym mis Mehefin 2014, cyflwynodd y Comisiynydd ei hymateb swyddogol i'r Ymchwiliad Safonau i Lywodraeth Cymru, a hynny ar ffurf tri adroddiad a nodyn cyngor i Weinidogion Cymru o dan adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ('y Mesur').  Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i (i) Adroddiadau Safonau'r Comisiynydd wrth benderfynu a ddylid arfer y pwerau yn Rhan 4 o'r Mesur (sy'n cynnwys y pŵer i bennu safonau) a sut i wneud hynny, a (ii) unrhyw gyngor a roddir gan y Comisiynydd yn ysgrifenedig.

 

4.    Roedd nodyn cyngor y Comisiynydd yn cynghori Gweinidogion Cymru bod nifer o bobl a sefydliadau eisiau dweud eu dweud yn ystod ei Hymchwiliad Safonau am faterion a oedd y tu hwnt i gwmpas yr ymchwiliad. Felly, awgrymodd fod Gweinidogion Cymru'n cynnal ymgynghoriad i ofyn eu barn am y rheoliadau drafft ar gyfer gwneud y safonau.

 

Newidiadau: o safonau drafft i reoliadau drafft

 

5.    Bu'n rhaid gwneud rhai newidiadau wrth drosi'r safonau arfaethedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 6 Ionawr 2014 yn safonau i'w pennu mewn rheoliadau. Gwnaeth nifer y safonau gynyddu hefyd, gan fod rhai safonau ychwanegol wedi'u drafftio a rhai safonau wedi'u rhannu'n fwy nag un safon. Roedd y ddyletswydd i roi sylw dyledus i adroddiadau a chyngor y Comisiynydd hefyd wedi golygu rhai newidiadau. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys cyflwyno egwyddor y cynnig rhagweithiol, yr angen i gadw cofnod o ddewis iaith, a newidiadau yn ymwneud â chyfarfodydd ynghylch lles.

 

6.    Y cynnig rhagweithiol- roedd y safonau arfaethedig a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg pan ofynnwyd am wasanaeth Cymraeg. Fodd bynnag, yn y safonau a bennwyd yn y rheoliadau, rhoddwyd y cyfrifoldeb ar sefydliadau i ofyn a oes angen darparu gwasanaeth (er enghraifft galwad ffôn, gohebiaeth neu gyfarfod) yn y Gymraeg. Mae'r dull gweithio hwn yn seiliedig ar theorïau sy'n awgrymu y gallai fod angen annog defnyddwyr i ddefnyddio gwasanaethau yn Gymraeg os oeddent wedi'u defnyddio yn Saesneg o'r blaen.  Caiff ei dderbyn yn eang yn y maes cynllunio ieithyddol y gwneir rhagor o ddefnydd ar wasanaeth mewn iaith leiafrifol os yw’r gwasanaeth hwnnw’n cael ei gynnig, yn hytrach na bod angen i’r defnyddiwr ofyn amdano. Mae egwyddor y cynnig rhagweithiol hefyd yn gymwys i staff sefydliad drwy'r safonau gweithredu.

 

7.    Yn ymarferol, mae'r gofyniad i wneud cynnig rhagweithiol yn golygu y bydd yn rhaid i sefydliad gadw cofnod o ddewis iaith ar gyfer sgyrsiau ffôn a gohebiaeth, fel bod aelodau'r cyhoedd yn parhau i dderbyn y gwasanaethau hynny yn Gymraeg ar ôl y cysylltiad cyntaf heb iddynt orfod gofyn, neu heb orfod gofyn iddynt, bob tro.

 

8.    Cyfarfodydd personol yn ymwneud â lles unigolyn - mae rhai safonau (er enghraifft 25, 26, 26A, 26B) yn gofyn bod sefydliad yn cynnal cyfarfodydd yn Gymraeg (neu’n darparu gwasanaeth cyfieithu) os ydynt yn ymwneud â lles unigolyn.  Os nad yw'n ymarferol cynnal cyfarfod yn Gymraeg, bydd gofyn i'r sefydliad hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg drwy ddarparu cyfieithu ar y pryd, gan roi mwy o hyblygrwydd i unigolion ddefnyddio'r Gymraeg mewn amryw o amgylchiadau.

 

Newidiadau o ganlyniad i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y rheoliadau drafft

 

9.    Gwnaeth yr ymgynghoriad o bedair wythnos ar y rheoliadau drafft, a gynhaliwyd rhwng 5 Tachwedd a 7 Rhagfyr 2014, sicrhau bod y carfannau perthnasol wedi cael cyfle i roi eu barn am yr elfennau newydd hyn.

 

10. Daeth cyfanswm o 188 o ymatebion ysgrifenedig i law ar gyfer yr ymgynghoriad. Roedd y rhain yn cynnwys 17 sefydliad sy’n destun cylch cyntaf y safonau, 12 o sefydliadau eraill, 9 grŵp lobio / buddiant, a 150 o unigolion (gyda 136 o blith y rhain yn seiliedig ar dempled a baratowyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg). Yn ogystal, trefnodd Urdd Gobaith Cymru i’r rheoliadau drafft gael eu trafod gan aelodau bwrdd grŵp Syr IfanC – roedd pobl ifanc rhwng 14 ac 20 oed o bob rhan o Gymru yn bresennol yn y cyfarfod hwn.

 

11. Gofynnwyd i’r sawl a ymatebodd i’r ymgynghoriad ystyried 8 cwestiwn penodol.  Rhoddwyd cyfle iddynt hefyd gynnig sylwadau ar faterion perthnasol nad oedd y ddogfen ymgynghori, o bosibl, wedi ymdrin â nhw’n benodol.

 

12. O ganlyniad i’r adborth a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad, gwnaethpwyd nifer o ddiwygiadau i’r rheoliadau.  Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno safonau newydd mewn perthynas â pheiriannau hunanwasanaeth (safon 60) a’r cyfryngau cymdeithasol (safonau 58 a 59).

 

13. Mae’r newidiadau eraill yn cynnwys:

 

·         diwygio’r ymadrodd “buddiant personol neu lesiant” yn safonau 25, 26, 26A, 26B, 27, 27 A-D, 28, 29, 29A a 29B mewn perthynas â chyfarfodydd personol – gan ddileu’r term “buddiant personol” fel bo’r safonau hyn bellach ond yn cyfeirio at gyfarfodydd mewn perthynas â llesiant unigolyn.

 

·         diwygio safonau 35 a 36 mewn perthynas â digwyddiadau cyhoeddus – roedd y rheoliadau drafft ond yn gosod dyletswyddau lle’r oedd digwyddiad wedi’i drefnu neu ei ariannu yn gyfan gwbl gan sefydliad; rydym wedi diwygio hyn i osod dyletswyddau lle mae sefydliad yn ariannu o leiaf 50% o’r digwyddiad.

·         mewn perthynas â darparu gwasanaethau gan drydydd parti, mae rheoliad newydd wedi ei ddrafftio (rheoliad 1(5)) sy’n egluro bod y safonau’n berthnasol os yw sefydliad wedi trefnu i barti arall ddarparu gwasanaethau ar ei ran.  Cafodd y testun ychwanegol hwn ei ddrafftio gyda’r bwriad iddo gynnwys contractau a phartneriaethau ill dau.

 

·         yng nghyd-destun recriwtio, rydym wedi ychwanegu ail ran at safon 136, sydd bellach yn gosod dyletswydd ar sefydliad i asesu’r angen am sgiliau Cymraeg wrth asesu gofynion swydd newydd neu swydd wag, a’i chategoreiddio fel swydd lle mae un neu ragor o’r canlynol yn gymwys: 

o   bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol 

o   bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg 

o   bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol

o   nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol 

Mae’r diwygiad yn ei gwneud yn eglur y gall unrhyw swydd gael ei dynodi fel un lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol, os dyna ganlyniad yr asesiad.

 

·         Rydym wedi dileu 4 o’r safonau drafft mewn perthynas â chadw cofnodion (safonau drafft 150, 152, 153 a 154). Roedd y rhain yn gosod dyletswyddau ar sefydliadau i gadw cofnod o:

o   Nifer y galwadau i brif rif ffôn, llinell gymorth neu rif canolfan alwadau lle gofynnodd y galwr am wasanaeth Cymraeg

o   Nifer y bobl a ymatebodd i gynnig i ddweud eu bod yn dymuno derbyn galwad yn Gymraeg

o   Nifer y bobl a ymatebodd i gynnig i ddweud eu bod yn dymuno derbyn gohebiaeth yn Gymraeg 

o   Nifer y bobl a ymatebodd i gynnig i ddweud eu bod yn dymuno siarad Cymraeg mewn cyfarfod.

 

Casgliad

 

14. Er y diwygiadau a grybwyllir uchod, mae bwriad polisi cyffredinol y safonau wedi parhau’n ddi-newid. Felly mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2014 wedi'i gadw fel sylfaen, a'i ddiweddaru yn sgil gwybodaeth newydd a ddaeth i law yn sgil yr ymgynghoriad diweddar ar y rheoliadau drafft rhwng 7 Tachwedd 2014 a 5 Rhagfyr 2014.

 

15. Credwn fod yr ymatebion i holiadur yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a gwblhawyd gan sefydliadau yn ystod yr Ymchwiliad Safonau cyntaf yn 2014, yn parhau'n addas at y diben ac yn dal i adlewyrchu safbwynt sefydliadau unigol o ran y safonau. Cadarnhawyd hyn gan y ffaith mai un yn unig o’r 26 sefydliad (Wrecsam) a ddarparodd amcangyfrif pellach o gostau yn ystod yr ymgynghoriad ar y rheoliadau.

 

16. Cafodd y 26 sefydliad sy’n destun i’r Rheoliadau hefyd olwg cynnar ar fersiwn ddrafft o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn ym mis Ionawr 2015.  Roedd hwn yn gyfle iddynt edrych ar y ffigurau a rhoi gwybod am unrhyw wallau ffeithiol.  Darparodd un sefydliad (Castell-nedd Port Talbot) ffigurau ychwanegol yn ystod yr ymarfer hwn.

Crynodeb o'r ymatebion

 

17. Daeth ymatebion i holiadur yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol i law gan Lywodraeth Cymru (ar ran Gweinidogion Cymru), pob un o'r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol (Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro, ac Eryri), ac 15 o'r 22 Awdurdod Lleol (Mynwy, Wrecsam, Blaenau Gwent, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Torfaen, Gwynedd, Ceredigion, Merthyr, Sir Benfro, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Conwy a Sir y Fflint). Mae'r Awdurdodau Lleol a ymatebodd yn cynnwys cynghorau dinas ac ardaloedd trefol a gwledig; Awdurdodau Lleol lle mae'r Gymraeg yn amlwg a rhai lle mae’r iaith yn llai amlwg; ac maent yn dod o wahanol ardaloedd daearyddol ledled Cymru.

 

18. Mae'r ymatebion yn adlewyrchu cefnogaeth gyffredinol i'r syniad o gyflwyno safonau. Nododd dros hanner  yr ymatebwyr (12 o’r 19 a ymatebodd) y byddai’r safonau o fudd o ran datblygu'r iaith Gymraeg, a thynnwyd sylw at fanteision cymdeithasol a ieithyddol yn benodol. Roedd 8 o’r 19 sefydliad a ymatebodd hefyd o'r farn y byddai'r safonau'n dod â budd economaidd ac amgylcheddol ychwanegol i'r ardaloedd dan sylw.

 

Yr opsiynau

 

19. Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn yn ystyried dwy opsiwn:

 

o   Opsiwn 1: Gwneud dim - parhau gyda'r Cynlluniau Iaith presennol fel y'u gweithredir o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

 

o   Opsiwn 2: Cyflwyno safonau mewn perthynas â'r Gymraeg ar gyfer Gweinidogion Cymru, Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (26 sefydliad i gyd).

 

20. Mae'r dadansoddiad canlynol yn ystyried y costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â'r opsiynau hyn.

 

Costau

 

Opsiwn 1: Gwneud Dim

 

21. Nid oes costau ychwanegol yn gysylltiedig â'r opsiwn hwn. Fodd bynnag, mae'r canlynol yn rhoi amcangyfrif o'r costau cyfredol. 

 

22.Yn y gorffennol, nid oedd y costau a oedd yn gysylltiedig â chydymffurfio â'r gofynion o dan Ddeddf 1993 yn cael eu mesur yn rheolaidd, ac mae darparu gwasanaethau yn Gymraeg wedi cael ei ystyried fwyfwy yn rhan annatod o'r ddarpariaeth brif ffrwd yng Nghymru. Felly mae darparu unrhyw amcangyfrif cywir o'r costau sy'n gysylltiedig â chydymffurfio â'r dyletswyddau wedi bod yn dasg anodd.

 

23. Roedd yr holiadur a ddosbarthwyd i'r 26 sefydliad ym mis Ionawr 2014 yn gofyn am amcangyfrif o gost flynyddol bresennol eu Cynlluniau Iaith, ynghyd ag unrhyw gost ychwanegol a allai godi wrth weithredu a darparu'r system newydd o safonau.

 

24. Roedd cost bresennol y Cynlluniau Iaith yn cynnwys cyflogi staff â rôl benodol yn y broses o'u gweithredu, costau cyfieithu (mewnol ac ar gyfer trefnu gwaith cyfieithu yn allanol) a chostau hyfforddi (cyrsiau Cymraeg a chyrsiau i godi ymwybyddiaeth o'r Cynllun Iaith).

 

25. Roedd y costau blynyddol presennol yn amrywio o £33,000 (Awdurdod Lleol Sir Fynwy) i £3,211,122 (Llywodraeth Cymru).  Ar sail yr 19 o ymatebion a ddaeth i law, cyfanswm y gost i'r 26 sefydliad o ddarparu eu Cynlluniau Iaith presennol yw oddeutu £7,462,347 y flwyddyn:

·         Llywodraeth Cymru - £3,211,122 

·         Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol - £248,860

·         Awdurdodau Lleol - £4,002,365 (ar sail cyfartaledd y 15 Awdurdod Lleol a ymatebodd)

 

Opsiwn 2: Pennu Safonau'r Gymraeg ar gyfer Gweinidogion Cymru, Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol

 

26. Mae'r Mesur yn rhagnodi bod Comisiynydd y Gymraeg yn penderfynu pa safonau y bydd pob sefydliad dan ddyletswydd i gydymffurfio â nhw. Rhaid i'r dyletswyddau hynny fod yn rhesymol ac yn gymesur, a byddant yn cael eu gosod drwy Hysbysiad Cydymffurfio a roddir gan y Comisiynydd i'r sefydliad. O ganlyniad, nid yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i roi ateb pendant ar hyn o bryd ynghylch y goblygiadau terfynol o ran cost, gan nad yw'n wybyddus eto pa safonau y bydd y Comisiynydd yn eu gosod ar bob sefydliad. Fodd bynnag, gwnaeth holiadur yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol roi amcangyfrif o’r costau ychwanegol y gallai'r sefydliadau dan sylw fynd iddynt.

 

27. Ymatebodd Llywodraeth Cymru, pob un o'r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol, a 15 Awdurdod Lleol i'r holiadur a ddosbarthwyd ar 27 Ionawr 2014. Cyflwynodd un Awdurdod Lleol (Wrecsam) amcangyfrif pellach o’r gost fel rhan o'r ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft rhwng 7 Tachwedd a 5 Rhagfyr 2014, a darparodd un arall (Castell-nedd Port Talbot) ffigurau ychwanegol pan roddwyd cyfle i’r sefydliadau fwrw golwg ar yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft ym mis Ionawr 2015.

 

28. Gellir rhannu'r amcangyfrif o'r gost ychwanegol o weithredu'r safonau yn ddau grŵp - costau cylchol a chostau untro.  

 

29. Roedd y costau untro a nodwyd gan rai sefydliadau yn cynnwys adnoddau i wella systemau TGCh, er enghraifft y systemau Rheoli Cofnodion Corfforaethol sy'n gysylltiedig â'r safonau cadw cofnodion ac, i raddau llai, y safonau gweithredu. Byddai'r costau hyn yn cynnwys y costau sefydlu cychwynnol a'r costau ar gyfer rheoli a hyfforddi’r defnyddwyr.    

 

30.O ganlyniad i'r newidiadau a wnaed i'r rheoliadau drafft o'u cymharu â'r safonau a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2014 (y cyfeirir atynt uchod ym mharagraffau 6-11), rhagwelir rhai costau ychwanegol posibl mewn perthynas â safonau 2, 3 a 21, sy'n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gadw cofnod o ddewis iaith unigolion mewn ymateb i'r cynnig rhagweithiol ac mewn cysylltiad â’r safonau cyflenwi gwasanaethau. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu i ba raddau y mae eu trefniadau presennol yn bodloni gofynion y safonau hynny.  

 

31. Roedd y prif gostau cylchol yn cynnwys costau staffio, yn benodol staff ag arbenigedd ym meysysdd cyfieithu, marchnata a pholisi. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion hefyd yn rhagweld yr angen i ehangu cyfleusterau cyfieithu, naill ai drwy recriwtio mwy o gyfieithwyr mewnol neu, yn fwy cyffredin, drwy drefnu gwaith cyfieithu yn allanol. Cafodd hyn ei ragweld mewn perthynas â'r gofynion yn y safonau cyflenwi gwasanaethau (e.e. cyfieithu ar y pryd a gwella gwefannau) a'r safonau gweithredu (e.e. datblygu darpariaeth rhyngrwyd a gofynion Adnoddau Dynol).  

 

32. Nodwyd costau hyfforddi fel costau untro a chostau cylchol. Roedd y costau hyfforddi untro'n cynwys gweinyddu mewnol a TGCh, a'r costau hyfforddi cylchol yn canolbwyntio mwy ar yr angen posibl i ddarparu mwy o hyfforddiant statudol i staff yn Gymraeg, ynghyd â hyfforddiant i staff i wella eu sgiliau Cymraeg a hyfforddiant ar sut i weithredu'r safonau. Ar y cyfan, mae'r costau hyn yn codi yn sgil yr angen i gydymffurfio â’r safonau gweithredu a’r safonau cyflenwi gwasanaethau.   

 

33. Teg fyddai dweud bod yr amcangyfrifon o gost y safonau arfaethedig yn amrywio. Ond mae'n bwysig nodi bod nifer o'r ymatebion wedi rhoi amcan ar y sail bod angen i’r sefydliad gydymffurfio â'r holl safonau, ac felly roeddent wedi nodi’r gost uchaf bosibl.

 

34. Mater i'r Comisiynydd fydd pennu pa safonau y mae'n rhaid i bob sefydliad gydymffurfio â nhw, a hynny yn ôl yr hyn sy'n rhesymol ac yn gymesur. Mae'n annhebygol y bydd unrhyw sefydliad dan ddyletswydd i gydymffurfio â phob safon. Os yw sefydliad o'r farn bod y safonau a osodir arno'n afresymol ac yn anghymesur, bydd modd apelio i'r Comisiynydd yn y lle cyntaf ac wedyn i Dribiwnlys newydd y Gymraeg.

 

35.Mae gan bob un o'r 26 sefydliad a gafodd eu cynnwys yn y cylch cyntaf o safonau Gynlluniau Iaith yn eu lle eisoes, a weithredir o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Caiff y cynlluniau hynny eu monitro gan y Comisiynydd, ac felly dylai'r sefydliadau eisoes fod yn darparu ystod o wasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd.Gellir dadlau na ddylai cyflwyno safonau (yn enwedig y safonau cyflenwi gwasanaethau) arwain at faich ariannol sylweddol newydd ar y sefydliadau dan sylw.

 

36. Roedd dau o’r 19 sefydliad a ymatebodd (Awdurdodau Lleol Gwynedd a Sir Gaefyrddin) yn credu y byddai modd cynnwys y dyletswyddau a nodwyd yn y safonau yn eu cyllidebau presennol, tra bo 17 o’r 19 sefydliad a ymatebodd yn cydnabod y gallai fod costau ychwanegol.

 

37. Nododd yr 17 sefydliad a oedd yn cydnabod y gallai fod costau ychwanegol pa gategorïau o safonau (cyflenwi gwasanaethau, llunio polisi, gweithredu, hybu, neu gadw cofnodion) y gellid eu bodloni o fewn eu cyllidebau presennol a'r rhai na ellid eu bodloni. Y safonau cyflenwi gwasanaethau, y safonau gweithredu a'r safonau hybu oedd yn fwyaf tebygol o angen mwy gynllunio i’w bodloni a hefyd, yn anochel, mwy o wariant.  

 

38. Gwnaeth yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft (7 Tachwedd - 5 Rhagfyr 2014) ddarparu rhagor o wybodaeth am allu sefydliadau i fodloni'r safonau. Roedd y sylwadau'n dilyn patrwm tebyg i'r sylwadau a gafwyd mewn ymateb i holiadur yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol cynharach (er bod rhai, oherwydd y manylion ychwanegol yn y rheoliadau drafft, wedi dewis ymateb i safonau unigol yn hytrach na'r categorïau ehangach). 

 

39. O ran gweithredu'r safonau, byddai'n ymarferol i sefydliadau ystyried ffyrdd o gydweithio â sefydliadau eraill sy'n darparu gwasanaeth tebyg er mwyn sicrhau arbedion maint. Ceir enghreifftiau lle mae hyn wedi'i wneud yn llwyddiannus eisoes e.e. Awdurdodau Lleol yn rhannu adnoddau cyfieithu.  

Ymatebion i gategorïau o safonau

 

Safonau cyflenwi gwasanaethau

40. Nododd sefydliadau gostau a oedd yn amrywio o £0 i £636,000 ar gyfer gweithredu'r safonau cyflenwi gwasanaethau, gyda Llywodraeth Cymru ac 8 o'r 15 Awdurdod Lleol a ymatebodd yn rhagweld dim cost neu gost bach iawn. Ceir rhagor o wybodaeth am sut mae sefydliadau wedi dyrannu'r costau hyn yn y crynodeb o'r data yn yr atodiad.

 

41. Mae rhai o'r costau ychwanegol a nodwyd ar gyfer y safonau cyflenwi gwasanaethau yn awgrymu bod disgresiwn y Comisiynydd i amrywio'r safonau a osodir ar sefydliadau gwahanol wedi'i gamddeall, a bod sefydliadau, am nad ydynt yn gwybod eto pa safonau a fydd yn berthnasol iddynt, wedi amcangyfrif ar y sail y byddai'r holl ystod o safonau'n cael eu gosod arnynt. Mae'n annhebygol y bydd gofyn i unrhyw sefydliad gydymffurfio â phob un o'r 87 o safonau cyflenwi gwasanaethau, ac felly gellir tybio bod rhai o'r costau a amcangyfrifwyd yn sylweddol uwch nag y byddant mewn gwirionedd.

 

42. Byddem yn disgwyl i'r sefydliadau ddygymod â’r rhan fwyaf o'r gofynion a nodwyd yn y safonau cyflenwi gwasanaethau am eu bod yn cyd-fynd yn agos â'r gofynion a geir yn y Cynlluniau Iaith presennol. Mae hefyd yn werth nodi y bydd angen i Gomisiynydd y Gymraeg, wrth roi hysbysiadau cydymffurfio i sefydliadau unigol, ystyried pa mor rhesymol a chymesur ydyw i orfodi pob safon a hefyd erbyn pryd y mae'n rhaid i'r sefydliad gydymffurfio â'r safon (dyddiad gorfodi).  

 

 

Ystod

Cyfartaledd

Cyfanswm

 

Llywodraeth Cymru

ddim yn berthnasol

ddim yn berthnasol

£0

 

Awdurdod Parc Cenedlaethol

£1,800[1]– 163,000

£82,400

£247,200

 

Awdurdod Lleol

£0 - 636,000

£161,462*

£3,552,154**

 

 

CYFANSWM

£3,799,354

*yn seiliedig ar y 15 o Awdurdodau Lleol a ymatebodd i holiadur yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol

**y swm cyfanredol a ragwelir ar gyfer y 22 Awdurdod Lleol

 

Safonau llunio polisi

43. Yn ôl yr ymatebion i’r Asesiad, roedd dros hanner y sefydliadau (11/19) o'r farn y byddai'r safonau llunio polisi yn cael ychydig iawn neu ddim effaith ar y cyllidebau presennol ar gyfer yr iaith Gymraeg. Nododd pedwar Awdurdod Lleol y gallai fod goblygiadau ariannol mewn perthynas â gweithredu'r safonau hyn, ond ni ddarparwyd amcangyfrif o'r costau. Nododd Awdurdodau Lleol Ceredigion, Sir Benfro a Chonwy gostau o £22,500, £44,000, a £10,000.     

 

 

Ystod

Cyfartaledd

Cyfanswm

 

Llywodraeth Cymru

ddim yn berthnasol

ddim yn berthnasol

£0

 

Awdurdod Parc Cenedlaethol

£0 – 0

£0

£0

 

Awdurdod Lleol

£0 – 44,000

£6,955*

£153,000**

 

 

CYFANSWM

£153,000

*yn seiliedig ar y 15 o Awdurdodau Lleol a ymatebodd i holiadur yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol

**y swm cyfanredol a ragwelir ar gyfer y 22 Awdurdod Lleol

 

Safonau gweithredu a safonau hybu

44. Roedd y costau a ragwelwyd ar gyfer y safonau gweithredu a'r safonau hybu yn fwy, er bod mesur y costau hyn wedi bod yn dasg anodd i'r sefydliadau dan sylw. Nid yw'r gwariant a ragwelir gan sefydliadau yn y categorïau hyn o safonau yn annisgwyl, gan nad yw eu Cynlluniau Iaith wedi canolbwyntio o’r blaen ar y defnydd o'r Gymraeg yn fewnol ac ar eu rôl o ran hyrwyddo'r Gymraeg yn allanol.

Costau ychwanegol y safonau hybu   

 

Ystod

Cyfartaledd

Cyfanswm

 

Llywodraeth Cymru

ddim yn berthnasol

ddim yn berthnasol

£20,000

 

Awdurdod Parc Cenedlaethol

£0 – 19,000

£8,107

 

£24,320

 

Awdurdod Lleol

£0 – 45,000

£22,500*

£495,000**

 

 

CYFANSWM

£539,320

*yn seiliedig ar y 15 o Awdurdodau Lleol a ymatebodd i holiadur yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol

**y swm cyfanredol a ragwelir ar gyfer y 22 Awdurdod Lleol

 

Costau ychwanegol y safonau gweithredu 

 

Ystod

Cyfartaledd

Cyfanswm

 

Llywodraeth Cymru

ddim yn berthnasol

ddim yn berthnasol

ddim yn berthnasol

 

Awdurdod Parc Cenedlaethol

£0 – 15,000

£7,500

 

£22,500

 

Awdurdod Lleol

£0 – 258,000

£40,188*

£884,125**

 

 

CYFANSWM

£906,625

*yn seiliedig ar y 15 o Awdurdodau Lleol a ymatebodd i holiadur yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol

**y swm cyfanredol a ragwelir ar gyfer y 22 Awdurdod Lleol

 

Safonau cadw cofnodion

45. Fel ag yn achos y safonau gweithredu a'r safonau hybu, mae'r sefydliadau wedi'i chael hi'n anodd mesur effaith ariannol bosibl y safonau cadw cofnodion. Mae 11 o’r 19 sefydliad a ymatebodd yn rhagweld rhai costau, ac mae rhai yn cyfeirio at yr angen i ddiweddaru eu systemau TGCh neu neilltuo staff ychwanegol i wella eu cronfa ddata bresennol er mwyn cydymffurfio â'r safonau hyn.  

 

 

 

 

 

Ystod

Cyfartaledd

Cyfanswm

 

Llywodraeth Cymru

ddim yn berthnasol

ddim yn berthnasol

£0

 

Awdurdod Parc Cenedlaethol

£5,620 – 12,000

£8,810

£26,430

 

Awdurdod Lleol

£0 – 40,000***

£5,000*

£110,000**

 

 

CYFANSWM

£136,430

*yn seiliedig ar y 15 o Awdurdodau Lleol a ymatebodd i holiadur yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol

**y swm cyfanredol a ragwelir ar gyfer y 22 Awdurdod Lleol

***Nododd 7 o’r 15 o Awdurdodau Lleol a ymatebodd na fyddai unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â chadw cofnodion, tra bo 7 o’r 8 Awdurdod Lleol a oedd yn weddill o’r farn y byddai costau ychwanegol ond heb wybod faint. Conwy yn unig a ddarparodd cost fesuradwy.

 

Cyfanswm y gost ychwanegol a amcangyfrifir ar gyfer gweithredu'r safonau

 

 

Ystod

Cyfartaledd

Cyfanswm

 

Llywodraeth Cymru

ddim yn berthnasol

ddim yn berthnasol

£20,000

 

Awdurdod Parc Cenedlaethol

£12,740 - £178,000

£106,817

£320,450

 

Awdurdod Lleol

£0 - £758,000

£236,104*

£5,194,279 **

 

 

CYFANSWM

£5,534,729

 

 

 

*yn seiliedig ar y 15 o Awdurdodau Lleol a ymatebodd i holiadur yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol

**y swm cyfanredol a ragwelir ar gyfer y 22 Awdurdod Lleol

 

46.Mae'n bwysig pwysleisio mai amcangyfrifon yn unig yw'r ffigurau uchod, ac y bydd modd gwerthuso costau pob sefydliad yn fwy cywir dim ond pan fydd y Comisiynydd wedi rhoi ei hysbysiadau cydymffurfio iddynt. Yn yr Adroddiadau Safonau a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru gan y Comisiynydd, nododd y byddai'n ymgynghori â'r sefydliadau cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio. Byddai modd trafod ffactorau fel rhesymoldeb a chymesuredd safonau unigol yn y cam hwn, a ph'un a ddylai'r sefydliad gael ei orfodi i gydymffurfio â'r safonau mewn rhai amgylchiadau neu ym mhob un, neu mewn rhai ardaloedd neu ym mhob un ohonynt.  

 

47.Gall y Comisiynydd hefyd ddyroddi codau ymarfer at ddiben darparu canllawiau ymarferol am ofynion unrhyw safonau.

 

48.Mae’r ffordd y mae sefydliad yn cynllunio i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yn gallu effeithio ar gostau. Er enghraifft, gallai ychwanegu’r elfen Gymraeg o wasanaeth at y ddarpariaeth Saesneg fod yn fwy costus na'i chynnwys ym mhob prosiect neu weithgarwch o'r cychwyn cyntaf. Mae'n bwysig nodi yn y fan hon nad yw'r gost o ddefnyddio'r Saesneg i ddarparu gwasanaeth yn rhywbeth sydd fel rheol yn cael ei fesur - gellir dadlau y dylid dilyn yr un egwyddor ar gyfer y Gymraeg.

 

49.Gallai'r newidiadau arfaethedig o dan y Rhaglen Diwygio Llywodraeth Leol newid y ffordd y caiff gwasanaethau Cymraeg eu cyflenwi. Mae'r Papur Gwyn diweddaraf - 'Pŵer i bobl leol' - yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol Llywodraeth Leol. Mae'n ymateb i ganfyddiadau Comisiwn Williams bod amrywiadau annerbyniol ar lefel leol ym mherfformiad yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru, a bod angen newid mawr yn y ffordd y mae Awdurdodau Lleol yn cynnal eu busnes, yn gwneud penderfyniadau ac yn cael eu dwyn i gyfrif.

 

50.Yng nghyd-destun y Gymraeg, rhagwelir y dylai'r Awdurdodau Lleol diwygiedig fod â'r gallu a'r capasiti i sicrhau dull cydlynol o hyrwyddo a chynnal yr iaith, a hynny yn y gweithle ac wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r cynigion yn ceisio cryfhau’r llywodraethu corfforaethol a'r atebolrwydd yn yr Awdurdodau Lleol drwy, er enghraifft, gryfhau rôl y Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgorau Craffu a'i gwneud yn ofynnol i'r prif weithredwr lunio cynllun corfforaethol. Gan y bydd cynlluniau corfforaethol yn ymdrin â chyflenwi gwasanaethau a materion gweithredol, byddant yn gyfrwng priodol i ddangos cydymffurfiaeth â'r safonau newydd mewn perthynas â’r Gymraeg. Bydd hyn yn fodd i'r Awdurdodau Lleol fwrw ymlaen â'r gwaith o gynnwys y Gymraeg yn eu gwaith bod dydd a mynd ati i weithredu eu strategaethau ar gyfer hybu'r iaith.

 

51.Gallai hyn helpu'r Awdurdodau Lleol diwygiedig i gydymffurfio â'r safonau a osodir arnynt. Er enghaifft, bwriedir ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol sefydlu proses gwyno symlach ar-lein. Gallai hyn hwyluso'r gwaith o brosesu ac olrhain cwynion, darparu trywydd y gellir ei archwilio, a galluogi Awdurdod Lleol i greu darlun cynhwysfawr o'i berfformiad o ran cyflenwi gwasanaethau a gweithredu’n fewnol, ac o farn y cyhoedd. Gallai hyn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â'r safonau cadw cofnodion.

 

52.Mae'r Papur Gwyn yn cynnwys nifer o gynigion i gynyddu'r cysylltiad rhwng Awdurdodau Lleol a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu drwy, er enghraifft, sefydlu system newydd o lywodraethu cymunedau. Byddai system o'r fath yn rhoi mwy o ddylanwad i unigolion a chymunedau ar sut mae gwasanaethau'n cael eu cyflenwi yn eu hardal, yn rhoi rôl fwy i unigolion a grwpiau cymunedol yn y gwaith craffu, ac yn fodd i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i farn unigolion a chymunedau am unrhyw eitemau agored ar agendâu'r Weithrediaeth, y Cyngor neu ei bwyllgorau. 

 

53.Yn ogystal, mae'r Papur Gwyn yn cynnig sefydlu nifer o 'hawliau cymunedol' a fydd yn rhoi rôl i gyrff cymunedol o ran gwella'r modd y cyflenwir gwasanaethau, ynghyd â’r gallu i gymell trosglwyddo asedau o'r Awdurdod Lleol a hawl cynnig cyntaf i brynu asedau (preifat) o werth cymunedol.

 

54. Ar y cyd, mae gan y cynigion hyn botensial mawr i wella perfformiad Awdurdodau Lleol mewn perthynas â safonau'r Gymraeg a gwella ffyniant a chadernid cymunedau Cymraeg.

 

Manteision

Opsiwn 1: Gwneud Dim

 

55. Dyma'r opsiwn cychwynnol ac nid oes manteision ychwanegol yn gysylltiedig ag ef.

 

56. Byddai gwneud dim yn golygu bod y Cynlluniau Iaith presennol, sydd wedi bod yn eu lle ers 1993, yn parhau fel ag y maent. Byddai swyddogaeth reoleiddio’r Comisiynydd yn parhau’n debyg i swyddogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg.  Byddai’r gweithdrefnau ar gyfer cytuno ar gynlluniau a’u diwygio, sy’n llyncu llawer o adnoddau, hefyd yn parhau, ynghyd â’r drefn orfodi gyfyngedig bresennol.

 

57. Mewn llawer o feysydd, mae’r trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru wedi newid ers Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, yr oedd y Cynlluniau Iaith yn weithredol oddi tani. Fodd bynnag, nid yw'r fframwaith yn Neddf 1993 yn caniatáu i'r newidiadau hyn gael eu hystyried mewn ffordd gyson. Er enghraifft, mae newidiadau i strwythur gwasanaethau cyhoeddus allweddol, a ffyrdd newydd o’u darparu, yn golygu bod gwedd gyhoeddus rhai gwasanaethau allweddol y tu allan i gwmpas y Cynlluniau Iaith. Mae hyn yn creu'r posibilrwydd o ansicrwydd ynghylch y gwasanaethau y gall cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith ddisgwyl eu derbyn.

 

58. O ran gorfodi, dim ond un mecanwaith ffurfiol ar gyfer ymchwilio i achosion honedig o dorri cynlluniau a ddarparwyd gan Ddeddf 1993, ac nid oedd darpariaeth ar gyfer dewisiadau eraill wedi’u graddoli. Efallai nad yw un mecanwaith yn briodol ym mhob achos, ac efallai na fydd yn sicrhau'r canlyniadau cywir i bawb ym mhob achos. Yn ogystal, nid oes gan y Comisiynydd ar hyn o bryd bŵer i'w gwneud yn ofynnol i bersonau ddarparu tystiolaeth a gwybodaeth iddi a fydd yn ei chynorthwyo yn ei hymchwiliadau.

 

59. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2013-14: Arolwg Defnydd Iaith[2], a gyhoeddwyd ar 29 Ionawr 2015, yn cynnwys dangosyddion pwysig ynghylch y defnydd presennol o’r Gymraeg gan aelodau’r cyhoedd a chyflogeion, yn arbennig mewn perthynas â’r meysydd y mae’r safonau cyflenwi gwasanaethau a’r safonau gweithredu yn ymdrin â nhw.

 

60. Yng nghyd-destun derbyn gwasanaethau, wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru roedd yr arolwg yn dangos bod 51 y cant o siaradwyr Cymraeg wedi ceisio defnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus, a bod 37 y cant wedi ceisio defnyddio’r Gymraeg i lenwi ffurflenni swyddogol. 

 

61. O’r rheini oedd â disgrifiad swydd yn y gwaith, roedd sgiliau Cymraeg wedi eu nodi’n hanfodol ar gyfer 15 y cant ohonynt ac yn ddymunol ar gyfer 27 y cant ohonynt. Nid oedd sgiliau Cymraeg wedi eu nodi o gwbl yn nisgrifiadau swydd 57 y cant o’r rheini oedd â disgrifiad swydd.

 

62. O’r rheini a oedd yn gweithio yn y sector cyhoeddus, dywedodd 60 y cant oedd â disgrifiad swydd fod ganddynt un a oedd yn nodi bod sgiliau iaith Gymraeg nail ai’n hanfodol neu’n ddymunol (o’i gymharu â 18 y cant yn y sector preifat). 

 

63.Rydym o’r farn bod y sefyllfa a fanylir yn yr Arolwg Cenedlaethol yn annhebygol o wella os bydd Opsiwn 1 yn cael ei fabwysiadu.

 

Opsiwn 2: Pennu Safonau'r Gymraeg ar gyfer Gweinidogion Cymru, Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol

 

64. Diben y safonau yw gwella lefel y gwasanaeth y gall aelodau'r cyhoedd ddisgwyl ei derbyn. Bydd hyn yn arwain at greu hawliau y gellir eu gorfodi ar gyfer siaradwyr Cymraeg.  

 

65. Bydd y safonau'n datgan yn glir yr hyn y mae angen i sefydliadau ei wneud mewn perthynas â'r Gymraeg, fel bod pobl hefyd yn glir am yr hyn y gallant ei ddisgwyl o ran gwasanaethau Cymraeg.  Bydd yr eglurdeb hwn, ar gyfer y cyhoedd a sefydliadau fel ei gilydd, yn helpu i sicrhau bod modd gorfodi'r safonau'n effeithiol a'u bod yn arwain at gynnydd yn y defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg.

 

66. Nid yw hyn yn naid i'r gwyll i'r sefydliadau eu hunain. Mae pob un o'r sefydliadau yr oedd y gyfres gyntaf o safonau'n berthnasol iddynt - Awdurdodau Lleol, y Parciau Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru - eisoes yn gweithredu Cynlluniau Iaith ac wedi ymrwymo i gyflawni nifer o'r pethau sydd yn y safonau.

 

67. Mae'r safonau'n adeiladu ar y Cynlluniau hyn ac yn rhoi gofynion mwy trylwyr ar sefydliadau. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol bod y safonau a orfodir ar sefydliadau yn rhesymol ac yn gymesur, fel na fydd modd gofyn i unrhyw un wneud rhywbeth sy'n afresymol neu'n anghymesur i'w hamgylchiadau.

 

68. Yn ymarferol, bydd y safonau'n symleiddio'r gweithdrefnau ar gyfer cytuno ar Gynlluniau Iaith a'u diwygio, sy'n galw am lawer o adnoddau ar hyn o bryd. Mae'r ymrwymiadau a amlinellir yn y Cynlluniau Iaith yn amhenodol ar brydiau a gall y sefydliadau eu hunain, yn ogystal â'r cyhoedd, eu dehongli mewn sawl ffordd. Roedd y lefel o weithredu yn amrywio o sefydliad i sefydliad ar gyfer yr ymrwymiadau hynny yr oeddent yn eu hystyried yn rhai amhenodol. Bydd y dyletswyddau a osodir gan y safonau yn benodol ac yn cael eu gorfodi.

 

69. Bellach bydd yn rhaid i’r sefydliadau a fydd yn gorfod cydymffurfio â'r safonau fynd ati i brif ffrydio'r Gymraeg mewn ffordd fwy rhagweithiol a strategol. Bydd y "cynnig rhagweithiol" yn allweddol i hyn, sy'n rhoi'r cyfrifoldeb ar y sefydliad i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg yn hytrach na disgwyl i bobl ofyn amdanynt. Bydd hyn yn darparu sylfaen gadarn i wella gwasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg. 

 

70. Bydd cyflwyno safonau hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol ac awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru o ran hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn ehangach.

 

71. Bydd trefn orfodi well yn ffordd fwy effeithiol o ymdrin ag achosion honedig o ddiffyg cydymffurfiaeth ac yn fodd i ddatrys cwynion yn gynnar ac yn anffurfiol fel y bo'n briodol.

 

72. Os caiff y rheoliadau sy’n pennu’r safonau ar gyfer Gweinidogion Cymru, Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol eu gwneud, rydym o’r farn y gallai hynny wella’r sefyllfa a ddisgrifir gan yr Arolwg Cenedlaethol ym mharagraffau 59 i 62. Dylai defnyddwyr fod yn fwy eglur ynglŷn â’u hawliau mewn perthynas â gwasanaethau, a dylai’r drefn fonitro gryfach annog sefydliadau i feddwl mewn ffordd holistaidd am ystod y gwasanaethau Cymraeg a gynigir ganddynt, boed hynny’n fewnol neu’n allanol.

 

 

 

 

Crynodeb o'r opsiwn a ffefrir

 

73. Yn seiliedig ar y dadansoddiad a wnaed o'r ddau opsiwn, ystyrir mai opsiwn 2 y dylid ei fabwysiadu, h.y. gwneud rheoliadau i bennu Safonau’r Gymraeg ar gyfer Gweinidogion Cymru, Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Crynodeb o'r data a ddarperir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 



[1] Yn achos y tri Parc Cenedlaethol, darparodd ddau ohonynt ffigurau, a nododd un y byddai costau ond nad oedd yn gwybod faint.

[2] http://wales.gov.uk/docs/statistics/2015/150129-welsh-language-use-survey-cy.pdf