Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 150(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

Y GYMRAEG                                                                                                                                                                                                               

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“Mesur 2011”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”). Mae’r rhain yn disodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg y darperir ar eu cyfer yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38).

Mae adran 26 o Fesur 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, ac mae adran 39 yn eu galluogi i ddarparu bod safon yn benodol gymwys i berson drwy awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) i roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safon (“hysbysiad cydymffurfio”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad Gweinidogion Cymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel “cyrff”). Mae’r Rheoliadau hefyd yn awdurdodi’r Comisiynydd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol) i roi hysbysiad cydymffurfio, mewn perthynas â safonau a bennir gan y Rheoliadau, i’r cyrff hyn.

Yn unol ag adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd (drwy hysbysiad cydymffurfio) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau sy’n benodol gymwys iddo. I adlewyrchu hynny, mae’r safonau a bennir yn y Rheoliadau wedi eu geirio ar ffurf naratif ail berson, hynny yw ar ffurf “rhaid ichi” (ac ystyr “chi” yw’r corff perthnasol ym mhob achos).

Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd a ddarperir gan adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd (os yw’n dymuno gwneud hynny, a bod hynny’n rhesymol ac yn gymesur) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un safon  o dan rai amgylchiadau, a safon arall  o dan amgylchiadau eraill. Er enghraifft, os yw un safon yn benodol gymwys i gorff, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon honno o dan rai amgylchiadau, ond nid o dan amgylchiadau eraill, neu ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon honno mewn rhai ardaloedd yn unig. Yn yr un modd os oes dwy neu ragor o safonau yn ymwneud ag ymddygiad penodol (er enghraifft, safonau 8 i 11 mewn perthynas ag ateb galwadau ffôn), caiff y Comisiynydd (drwy gyfrwng hysbysiad cydymffurfio) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau hynny’n unig, neu â safonau gwahanol ar adegau gwahanol, o dan amgylchiadau gwahanol, neu mewn ardaloedd gwahanol, fel sy’n briodol i’r corff. Nid oes rheidrwydd ar y Comisiynydd felly i’w gwneud yn ofynnol i bob corff gydymffurfio â phob safon.

Yn unol ag adran 46 o Fesur 2011, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio a roddir i gorff ddatgan y diwrnod gosod, neu’r diwrnodau gosod; hynny yw, y diwrnod neu’r diwrnodau y daw’n ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon (neu gydymffurfio â safon mewn modd penodol). Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd a ddarperir gan adran 46, caiff y Comisiynydd osod diwrnod gosod buan i gorff gydymffurfio â safon  (cyn belled â bod hynny o leiaf 6 mis ar ôl dyddiad rhoi’r hysbysiad cydymffurfio perthnasol i’r corff), neu osod diwrnod gosod ymhellach i’r dyfodol (er enghraifft mewn perthynas â safonau sy’n fwy heriol).

Pan fo safon a bennir yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeunydd ysgrifenedig gael ei arddangos neu ei ddarparu yn Gymraeg, neu i wasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg, nid yw hyn yn golygu bod rhaid arddangos neu ddarparu’r deunydd hwnnw yn Gymraeg yn unig, na bod rhaid i’r gwasanaeth hwnnw gael ei ddarparu yn Gymraeg yn unig (oni bai bod hynny’n cael ei nodi’n benodol).

Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau. Mae adran 28 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cyflenwi gwasanaethau” yw safon sy’n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau, ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, pan gyflawnir y gweithgaredd hwnnw. Ystyr “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yw bod person yn cyflenwi gwasanaethau i berson arall, neu yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau i’r person hwnnw neu i drydydd person.

Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau yn pennu safonau llunio polisi. Mae adran 29 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon llunio polisi” yw safon sy'n ymwneud â phenderfyniad polisi ac y bwriedir iddi sicrhau, neu gyfrannu at sicrhau, bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried un neu ragor o’r canlynol—

(a)     pa effeithiau, os o gwbl, (a pha un a yw'r effeithiau’n bositif neu'n andwyol) y byddai'r penderfyniad polisi yn eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg;

(b)     sut y gellid gwneud y penderfyniad fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg;

(c)     sut y gellid gwneud y penderfyniad fel nad yw'r penderfyniad yn cael effeithiau andwyol, neu fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau llai andwyol, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Mae Atodlen 3 i’r Rheoliadau yn pennu safonau gweithredu. Mae adran 30 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon gweithredu” yw safon sy'n ymwneud â swyddogaethau, neu fusnes neu ymgymeriad arall (“gweithgareddau perthnasol”) person (“A”), ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg—

(a)     gan A wrth i A wneud ei weithgareddau perthnasol,

(b)     gan A a pherson arall wrth iddynt ddelio â'i gilydd mewn cysylltiad â gweithgareddau perthnasol A, neu

(c)     gan berson heblaw A wrth iddo wneud gweithgareddau at ddibenion gweithgareddau perthnasol A, neu mewn cysylltiad â hwy.

Mae Atodlen 4 i’r Rheoliadau yn pennu safon hybu. Mae adran 31 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon hybu” yw safon (yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd) y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg yn ehangach.

Mae Atodlen 5 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cadw cofnodion. Mae adran 32 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cadw cofnodion” yw safon sy’n ymwneud â chadw cofnodion ynghylch safonau penodedig eraill, cofnodion ynghylch cwynion mewn perthynas â chydymffurfedd â safonau penodedig eraill, neu gofnodion ynghylch cwynion eraill sy’n ymwneud  â’r Gymraeg.

Mae Atodlen 6 i’r Rheoliadau yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion atodol. Mae’r rhain yn fathau penodol o safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi, safonau gweithredu, safonau hybu a safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â’r materion y cyfeirir atynt yn adran 27(4) o Fesur 2011 (sy’n atodol i’r materion hynny yr ymdrinnir â hwy yn Atodlenni 1 i 5).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Uned y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 150(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

y gymraeg

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015

Gwnaed                                                 ***

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       ***

Yn dod i rym                                           ***

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 26, 27, 39 a 150(5) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011([1]), ac wedi cael cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 150(2) o’r Mesur hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2015.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod o staff” (“member of staff”) yw cyflogai i gorff neu unigolyn sy’n gweithio i gorff (a rhaid dehongli “staff” (“staff”) yn unol â hynny);

ystyr “corff” (“body”) yw Gweinidogion Cymru, cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol neu awdurdod Parc Cenedlaethol;

mae cyfeiriad at gyflogai i gorff neu unigolyn sy’n gweithio i gorff yn cynnwys, yn achos Gweinidogion Cymru, gyflogai i Lywodraeth Cymru neu unigolyn sy’n gweithio i Lywodraeth Cymru;

ystyr “unigolyn” (“individual”) yw aelod o’r cyhoedd.

(5) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)     mae cyfeiriadau at unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan gorff, neu at unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gorff, i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar ran y corff, neu at y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran y corff, gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhwng y trydydd parti a’r corff;

(b)     yn unol â hynny, oni bai bod hysbysiad cydymffurfio yn darparu i’r gwrthwyneb, bydd corff wedi methu â chydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi trefnu iddo gael ei gyflawni, neu wasanaeth y mae wedi trefnu iddo gael ei ddarparu, gan drydydd parti os nad yw’r gweithgaredd hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw wedi ei gyflawni neu ei ddarparu yn unol â’r safon.

Safonau a bennir

2.(1)(1) Yn Atodlen 1—

(a)     mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau;

(b)     mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;

(c)     mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(2) Yn Atodlen 2—

(a)     mae Rhan 1 yn pennu safonau llunio polisi;

(b)     mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(3) Yn Atodlen 3—

(a)     mae Rhan 1 yn pennu safonau gweithredu;

(b)     mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;

(c)     mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(4) Yn Atodlen 4—

(a)     mae Rhan 1 yn pennu safonau hybu;

(b)     mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill.

(5) Yn Atodlen 5—

(a)     mae Rhan 1 yn pennu safonau cadw cofnodion;

(b)     mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(6) Mae Atodlen 6 yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion sy’n atodol i’r materion yr ymdrinnir â hwy yn y safonau a bennir yn Atodlenni 1 i 5 ac, yn benodol—

(a)     mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi  gwasanaethau sy’n ymdrin â materion atodol;

(b)     mae Rhan 2 yn pennu safonau llunio polisi sy’n ymdrin â materion atodol;

(c)     mae Rhan 3 yn pennu safonau gweithredu sy’n ymdrin â materion atodol;

(ch) mae Rhan 4 yn pennu safonau hybu sy’n ymdrin â materion atodol;

(d)     mae Rhan 5 yn pennu safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â materion atodol;

(dd) mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli’r safonau atodol;

(e)     mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth atodol.

Safonau sy’n benodol gymwys

3.(1)(1) Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i Weinidogion Cymru, cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau a bennir o dan reoliad 2.

(2) Ond nid awdurdodir y Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i Weinidogion Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â safonau 145 neu 146 (safonau hybu) neu safonau 173 neu 174 (safonau hybu sy’n ymdrin â materion atodol).

 

 

Enw

Prif Weinidog Cymru

Dyddiad

                    ATODLEN 1     Rheoliad 2(1)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

RHAN 1

Y SAFONAU

 

1

 

Safonau ynghylch gohebiaeth a anfonir gan gorff

 

(1) Pan fo corff yn ateb gohebiaeth

Safon 1:

Os byddwch yn cael unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg oddi wrth berson, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb), oni bai bod y person wedi dweud nad oes angen ateb yn Gymraeg.

 

(2) Pan fo corff yn gohebu

 

(a) Pan fo corff yn gohebu ag unigolyn.

Safon 2:           

Pan fyddwch yn gohebu ag unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny rhaid ichi—

(a)     cadw cofnod o ddymuniad A,   

(b)     gohebu yn Gymraeg ag A wrth ohebu ag A o hynny ymlaen, ac

(c)     anfon unrhyw ffurflenni y byddwch yn eu hanfon at A o hynny ymlaen yn Gymraeg.

 

(b) Pan fo corff yn gohebu â mwy nag un aelod o’r un aelwyd

Safon 3:

Pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at ddau unigolyn sy’n aelodau o’r un aelwyd (er enghraifft, rhieni plentyn) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i’r unigolion hynny a ydynt yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os—     

(a)     yw’r ddau unigolyn yn ymateb i ddweud eu bod yn dymuno hynny, rhaid  ichi gadw cofnod o’u dymuniad, a gohebu yn Gymraeg o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny;

(b)     yw un o’r unigolion (ond nid y ddau) yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid  ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a darparu fersiwn Gymraeg o ohebiaeth o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny.

 

(c) Pan fo corff yn gohebu â sawl person (er enghraifft, pan fydd yn anfon cylchlythyr, neu’n anfon yr un llythyr at nifer o gartrefi)

Safon 4:

Pan fyddwch yn anfon yr un ohebiaeth at nifer o bersonau, rhaid ichi anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon unrhyw fersiwn Saesneg ohoni.

 

(3) Safonau cyffredinol ynghylch gohebu

Safon 5:

Os nad ydych yn gwybod a yw person yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg rhaid ichi ddarparu fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth pan fyddwch yn gohebu â’r person hwnnw.

Safon 6:           

Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg gyfatebol o ohebiaeth, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (er enghraifft, os  yw’r fersiwn Saesneg wedi ei llofnodi, neu os oes manylion cyswllt wedi eu darparu ar y fersiwn Saesneg, rhaid i’r fersiwn Gymraeg gael ei thrin yn yr un modd).

Safon 7:

Rhaid ichi ddatgan—

(a)      mewn gohebiaeth, a

(b)     mewn cyhoeddiadau a hysbysiadau swyddogol sy’n gwahodd personau i anfon ymateb neu i anfon gohebiaeth atoch,

eich bod yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwch yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

2

Safonau ynghylch galwadau ffôn i gorff ac  oddi wrth gorff

 

(1) Galwadau ffôn i brif rif ffôn y corff ac i unrhyw linellau cymorth neu ganolfannau galwadau

Safon 8:

Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi gyfarch y person yn Gymraeg.

Safon 9:

Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r person bod gwasanaeth Cymraeg ar gael.

Safon 10:

Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd os yw’r person yn dymuno hynny (gan drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg os yw hynny’n angenrheidiol).

Safon 11:

Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os yw’r person yn dymuno hynny—

(a)     hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a

(b)     hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 12:

Pan fyddwch yn hysbysebu rhifau ffôn, llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 13:

Os byddwch yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid i rif ffôn y gwasanaeth Cymraeg fod yr un peth â rhif ffôn y gwasanaeth Saesneg cyfatebol.

Safon 14:

Pan fyddwch yn cyhoeddi eich prif rif ffôn, neu unrhyw rifau sydd gennych ar gyfer llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi nodi (yn Gymraeg) eich bod yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Safon 15:

Os oes gennych ddangosyddion perfformiad ar gyfer delio â galwadau ffôn, rhaid ichi sicrhau nad yw’r dangosyddion perfformiad hynny yn trin galwadau ffôn a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na galwadau a wneir yn Saesneg.

Safon 16:

Rhaid i’ch prif wasanaeth (neu wasanaethau) ateb galwadau ffôn roi gwybod i bersonau sy’n galw, yn Gymraeg, fod modd gadael neges yn Gymraeg.

Safon 17:

Pan na fo gwasanaeth Cymraeg ar gael ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r personau sy’n galw (pa un ai drwy gyfrwng neges wedi ei hawtomeiddio neu fel arall) pryd y bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael.

 

(2) Galwadau ffôn i adrannau, ac i aelodau o staff corff

Safon 18:

Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddarparu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg yn ei gyfanrwydd (os yw’n angenrheidiol drwy drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg).

Safon 19:

Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg—

(a)     hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a

(b)     hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 20:

Pan fydd person yn cysylltu â chi ar rif llinell uniongyrchol (pa un ai ar rif llinell uniongyrchol adran neu ar rif llinell uniongyrchol aelod o staff), rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth gyfarch y person.

 

(3) Galwadau ffôn a wneir gan gorff

Safon 21:

Pan fyddwch yn ffonio unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael galwadau ffôn oddi wrthych yn Gymraeg; ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a chynnal galwadau ffôn a wneir i A o hynny ymlaen yn Gymraeg.

 

(4) Corff yn delio â galwadau ffôn drwy system wedi ei hawtomeiddio

Safon 22:

Rhaid i unrhyw system ffôn wedi ei hawtomeiddio sydd gennych ddarparu’r gwasanaeth cyfan wedi ei awtomeiddio yn Gymraeg.

3

Safonau ynghylch cyfarfodydd a gynhelir gan gorff nad ydynt yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol

 

(1) Cyfarfodydd rhwng corff ac un person gwahoddedig arall

Safon 23:

Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg; ac os yw P yn eich hysbysu ei fod yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, rhaid ichi gynnal y cyfarfod hwnnw yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 24:

Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi ofyn i P a fyddai’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu P y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw.

Safon 24A:

Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).

Safon 24B:

Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).

Safon 25:

Os byddwch yn gwahodd unigolyn (“A”) i gyfarfod, a bod y cyfarfod hwnnw yn ymwneud â llesiant A, rhaid ichi—

(a)      gofyn i A a yw’n dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, a

(b)    os yw A yn eich hysbysu ei fod yn dymuno hynny, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 26:

Os byddwch yn gwahodd unigolyn (“A”) i gyfarfod, a bod y cyfarfod yn ymwneud â llesiant A, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu A y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r  Gymraeg at y diben hwnnw.

Safon 26A:

Rhaid  ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg ar gael mewn cyfarfod—

(a)     os yw’r cyfarfod yn ymwneud â llesiant unigolyn (“A”) a wahoddwyd, a

(b)    os yw A wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu.

Safon 26B:

Rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg ar gael mewn cyfarfod—

(a)     os yw’r cyfarfod yn ymwneud â llesiant unigolyn (“A”) a wahoddwyd, a

(b)    os yw A wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu.

 

(2) Cyfarfodydd rhwng corff a mwy nag un person gwahoddedig

Safon 27:

Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw’n ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddir), rhaid ichi ofyn i bob person a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.

Safon 27A:           

Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw’n ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddir), a bod o leiaf 10% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.

Safon 27B:

Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw’n ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddir), a bod o leiaf 20% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.

Safon 27C:

Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw’n ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddir), a bod o leiaf 30% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.

Safon 27CH:

Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw’n ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddir), a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 27D:

Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw’n ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddir), a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).

Safon 28:

Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod y cyfarfod hwnnw yn ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd, rhaid ichi—

(a)     gofyn i’r unigolyn hwnnw neu i bob un o’r unigolion hynny a yw’n dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, a

(b)    os yw’r unigolyn hwnnw, neu os yw pob un o’r unigolion hynny, yn eich hysbysu ei fod yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod hwnnw yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 29:

Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod y cyfarfod hwnnw yn ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd, rhaid ichi—

(a)     gofyn i’r unigolyn hwnnw neu i bob un o’r unigolion hynny a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a

(b)     hysbysu’r unigolyn (neu’r unigolion hynny) y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg at y diben hwnnw.

Safon 29A:

Rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg mewn cyfarfod—

(a)     os ydych wedi gwahodd mwy nag un person i’r cyfarfod,

(b)     os yw’r cyfarfod yn ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd, ac

(c)     os oes o leiaf un o’r unigolion hynny wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu.

Safon 29B:

Rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg mewn cyfarfod—

(a)     os ydych wedi gwahodd mwy nag un person i’r cyfarfod,

(b)     os yw’r cyfarfod yn ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd, ac

(c)     os oes o leiaf un o’r unigolion hynny wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu.

4

Safonau ynghylch cyfarfodydd a drefnir gan gorff sy’n agored i’r cyhoedd

Safon 30:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi ddatgan ar unrhyw ddeunydd sy’n ei hysbysebu, ac ar unrhyw wahoddiad iddo, fod croeso i unrhyw un sy’n bresennol ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.

Safon 31:

Pan fyddwch yn anfon gwahoddiadau i gyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi eu hanfon yn Gymraeg.

Safon 32:           

Os byddwch yn gwahodd personau i siarad mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi—

(a)     gofyn i bob person a wahoddir i siarad a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg, a

(b)     os yw’r person hwnnw (neu o leiaf un o’r personau hynny) yn eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 33:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid  ichi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod, a rhaid ichi hysbysu’r rheini sy’n bresennol ar lafar yn Gymraeg—

(a)     bod croeso iddynt ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Safon 34:

Os byddwch yn arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi sicrhau bod y deunydd hwnnw’n cael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw destun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.

5

Safonau ynghylch digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan gorff

Safon 35:

Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth hybu’r digwyddiad  (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad).

Safon 36:

Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau a gynigir i bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad, mewn perthynas ag arwyddion a arddangosir yn y digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir ynddo).

6

Safon ynghylch cyhoeddusrwydd a hysbysebu gan gorff

Safon 37:

Rhaid i unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu ddeunydd hysbysebu yr ydych yn ei lunio gael ei lunio yn Gymraeg, ac os byddwch yn llunio’r deunydd hysbysebu yn Gymraeg ac yn Saesneg,  rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r  fersiwn Saesneg.

7

Safonau ynghylch corff yn arddangos deunydd yn gyhoeddus

Safon 38:

Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos yn gyhoeddus gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.

Safon 39:

Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus sydd wedi ei threfnu gennych gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg.

8

Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi dogfennau

Safon 40:

Rhaid i unrhyw ddogfennau at ddefnydd y cyhoedd yr ydych yn eu llunio gael eu llunio yn Gymraeg.

Safon 41:

Os byddwch yn llunio’r dogfennau a ganlyn rhaid  ichi eu llunio yn Gymraeg—

(a)     agendâu, cofnodion a phapurau eraill sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n ymwneud â chyfarfod o fwrdd rheoli neu gabinet;

(b)     agendâu, cofnodion a phapurau eraill ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau neu seminarau sy’n agored i’r cyhoedd.

Safon 42:

Rhaid i unrhyw drwydded neu dystysgrif yr ydych yn ei llunio gael ei llunio yn Gymraeg.

Safon 43:

Rhaid i unrhyw lyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn yr ydych yn ei lunio neu ei llunio er mwyn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd gael ei lunio neu ei llunio yn Gymraeg.

Safon 44:

Os byddwch yn llunio’r dogfennau a ganlyn, a’u bod ar gael i’r cyhoedd, rhaid ichi eu llunio yn Gymraeg—

(a)     polisïau, strategaethau, adroddiadau blynyddol a chynlluniau corfforaethol;

(b)     canllawiau a chodau ymarfer;

(c)     papurau ymgynghori.

Safon 45:           

Rhaid i unrhyw reolau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n gymwys i’r cyhoedd gael eu cyhoeddi yn Gymraeg.

Safon 46:           

Pan fyddwch yn rhyddhau unrhyw ddatganiad i’r wasg, rhaid ichi ei ryddhau yn Gymraeg, ac os oes fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddatganiad, rhaid ichi ryddhau’r ddwy fersiwn ar yr un pryd.

Safon 47:

Os byddwch yn llunio dogfen at ddefnydd y cyhoedd, a phan nad oes safon arall wedi ei gwneud yn ofynnol ichi ei llunio yn Gymraeg, rhaid  ichi ei llunio yn Gymraeg—

(a)     os yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei llunio yn Gymraeg, neu

(b)     os yw’r gynulleidfa a ragwelir, a’u disgwyliadau, yn awgrymu y dylid llunio’r ddogfen yn Gymraeg.

Safon 48:

Os byddwch yn llunio dogfen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.

Safon 49:

Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddogfen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ddogfen hefyd ar gael yn Gymraeg.

9

Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi ffurflenni

Safon 50:

Rhaid i unrhyw ffurflen yr ydych yn ei llunio at ddefnydd y cyhoedd gael ei llunio yn Gymraeg.

Safon 50A:

Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ffurflen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ffurflen hefyd ar gael yn Gymraeg.

Safon 50B:

Os byddwch yn llunio ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg, a rhaid ichi beidio â gwahaniaethu rhyngddynt o ran unrhyw ofynion sy’n berthnasol i’r ffurflen (er enghraifft mewn perthynas ag unrhyw ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen neu mewn perthynas â’r amser a ganiateir ar gyfer ymateb i gynnwys y ffurflen).

Safon 51:

Os byddwch yn mewnosod gwybodaeth ar fersiwn Gymraeg o ffurflen (er enghraifft, cyn ei hanfon at aelod o’r cyhoedd er mwyn iddo wirio’r cynnwys neu er mwyn iddo lenwi gweddill y ffurflen), rhaid ichi sicrhau bod yr wybodaeth yr ydych yn ei mewnosod yn cael ei mewnosod yn Gymraeg.

10

Safonau ynghylch gwefannau a gwasanaethau ar-lein corf

 

(1) Gwefannau a gyhoeddir gan gorff

Safon 52:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)      bod testun pob tudalen ar eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)     bod pob tudalen Gymraeg ar eich gwefan yn gweithredu’n llawn, ac

(c)     nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich gwefan.

Safon 53:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)     bod testun hafan eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)     bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich gwefan (neu, pan fo’n berthnasol, bod eich hafan Gymraeg) yn gweithredu’n llawn, ac

(c)     nad yw’r Gymraeg  yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich gwefan.

Safon 54:

Pan fyddwch yn cyhoeddi tudalen newydd ar eich gwefan neu’n diwygio tudalen, rhaid ichi sicrhau—

(a)     bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg,

(b)     bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac

(c)     nad yw’r Gymraeg  yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran testun y dudalen honno.

Safon 55:

Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich gwefan sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi nodi’n glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a darparu dolen uniongyrchol at y dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.

Safon 56:

Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar bob tudalen ar eich gwefan yn Gymraeg.         

 

(2) Apiau a gyhoeddir gan gorff

Safon 57:

Rhaid i bob ap yr ydych yn ei gyhoeddi weithredu’n llawn yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran yr ap hwnnw.

11

Safonau ynghylch defnydd corff o’r cyfryngau cymdeithasol

Safon 58:

 

Pan fyddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 59:

 

Os bydd person yn cysylltu â chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb).

12

Safon ynghylch peiriannau hunanwasanaeth

Safon 60:

Rhaid ichi sicrhau bod unrhyw beiriannau hunanwasanaeth sydd gennych yn gweithio’n llawn yn Gymraeg, a rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â’r peiriant hwnnw.

13

Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir gan gorff

Safon 61:

Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro) rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun cyfatebol yn Saesneg neu ar arwydd ar wahân); ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.

Safon 62:

Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.

Safon 63:

Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion yn gywir o ran ystyr a mynegiant.

14

Safonau ynghylch derbyn ymwelwyr i adeiladau’r corff.

Safon 64:

Rhaid i unrhyw wasanaeth derbynfa yr ydych yn ei roi ar gael yn Saesneg hefyd fod ar gael yn Gymraeg, a rhaid i unrhyw berson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Cymraeg beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na pherson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Saesneg.

Safon 65:

Os byddwch yn trefnu ymweliad neu apwyntiad i berson (“P”) ymlaen llaw a fydd yn golygu y bydd P yn dod i’ch derbynfa, rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno cael gwasanaeth derbynfa Cymraeg (oni bai eich bod yn gwybod eisoes a yw P yn dymuno cael y gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg).

Safon 65A:           

Rhaid ichi ddarparu gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg i berson (“P”) os byddwch wedi trefnu ymweliad neu apwyntiad ymlaen llaw i P, a—

(a)      bod P wedi eich hysbysu ymlaen llaw ei fod yn dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, neu

(b)    eich bod eisoes yn gwybod bod P yn dymuno cael y gwasanaeth yn Gymraeg.

Safon 66:

Os nad oes gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg ar gael gennych, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth derbynfa yn Gymraeg ar gael dros ffôn yn eich derbynfa.

Safon 67:

Rhaid ichi arddangos arwydd yn eich derbynfa sy’n datgan (yn Gymraeg) fod croeso i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa.

Safon 68:

Rhaid ichi sicrhau bod staff yn y dderbynfa sy’n gallu darparu gwasanaeth derbynfa Cymraeg yn gwisgo bathodyn sy’n cyfleu hynny. 

15

Safonau ynghylch corff yn gwneud hysbysiadau swyddogol

Safon 69:

Rhaid i unrhyw hysbysiad swyddogol yr ydych yn ei gyhoeddi neu ei arddangos gael ei gyhoeddi neu ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r hysbysiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.

Safon 70:

Pan fyddwch yn cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad swyddogol sy’n cynnwys y testun Cymraeg yn ogystal â’r testun Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.

16

Safonau ynghylch corff yn dyfarnu grantiau

Safon 71:

Rhaid i unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n ymwneud â cheisiadau am grant gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohonynt.

Safon 72:

Pan fyddwch yn gwahodd ceisiadau am grant, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Safon 72A:           

Rhaid ichi beidio â thrin ceisiadau am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael ceisiadau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau).

Safon 73:

Os byddwch yn cael cais am grant yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad yn Gymraeg ac, os yw’r ymgeisydd yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 74:

Os byddwch yn cael cais am grant yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais rhaid ichi—

(a)     cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn i’r ymgeisydd allu defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a

(b)     os yw’r ymgeisydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 75:

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ymgeisydd beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am grant, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg.

17

Safonau ynghylch corff yn dyfarnu  contractau

Safon 76:

Rhaid i unrhyw wahoddiadau i dendro am gontract yr ydych yn eu cyhoeddi gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o unrhyw wahoddiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.

Safon 77:

Pan fyddwch yn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro am gontract, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i dendrau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg.

Safon 77A:

Rhaid ichi beidio â thrin tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael tendrau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i dendrwyr am benderfyniadau).

Safon 78:

Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad hwnnw yn Gymraeg ac, os yw’r tendrwr yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 79:

Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr rhaid ichi—

(a)     cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg fel bod modd i’r tendrwr ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a

(b)     os yw’r tendrwr yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 80:

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i dendrwr beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â thendr, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y tendr yn Gymraeg.

18

Safonau ar gyfer codi  ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gorff

Safon 81:

Rhaid ichi hybu unrhyw wasanaeth Cymraeg a ddarperir gennych, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg.

Safon 82:

Os byddwch yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg sy’n cyfateb i wasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn Saesneg, rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd neu ddogfen yr ydych yn ei llunio, neu wefan yr ydych yn ei chyhoeddi, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg nodi bod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg.

19

Safon ynghylch hunaniaeth gorfforaethol corf

Safon 83:

Pan fyddwch yn llunio, yn diwygio neu’n cyflwyno eich hunaniaeth gorfforaethol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

20

Safonau ynghylch cyrsiau a gynigir gan gorff

Safon 84:

Os byddwch yn cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg.

Safon 85:

Os byddwch yn cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, ac sydd wedi ei anelu’n benodol at bersonau sy’n 18 oed neu’n iau, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg.

Safon 86:

Os byddwch yn datblygu cwrs addysg sydd i’w gynnig i’r cyhoedd, rhaid ichi asesu’r angen i’r cwrs hwnnw gael ei gynnig yn Gymraeg; a rhaid ichi sicrhau bod yr asesiad wedi ei gyhoeddi ar eich gwefan.

21

Safon ynghylch systemau annerch cyhoeddus a ddefnyddir gan gorff

Safon 87:

Pan fyddwch yn cyhoeddi neges dros system annerch gyhoeddus, rhaid ichi wneud y cyhoeddiad hwnnw yn Gymraeg, ac os yw’r cyhoeddiad yn cael ei wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf.

RHAN 2

safonau sy’n ddibynnol ar safonau eraill – amodau arbennig

 

22

Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2 (neu ag un neu ragor o’r safonau hynny pan nodir hynny).

 

TABL 1

 

 

 

Rhes

Colofn 1

 

Prif safon

Colofn 2

 

Safon ddibynnol

 

 

(1)

Ateb gohebiaeth

 

Safon 1

 

 

Safon 7

 

 

 

(2)

Gohebu ag aelodau o’r un aelwyd

 

Safon 3

 

 

 

Safon 6

 

 

 

(3)

Gohebu â sawl person

 

Safon 4

 

 

 

Safon 6

Safon 7

 

 

 

(4)

Safonau cyffredinol ynghylch gohebu

 

Safon 5

 

 

 

Safon 6

Safon 7

 

 

 

 

 

(5)

 

Codi ymwybyddiaeth ynghylch gohebu yn Gymraeg

 

Safon 7

 

 

 

 

 

Safon 1

 

 

(6)

 

Cael galwadau ffôn

 

Safon 9

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 10

Safon 11

 

 

(7)

 

Cael galwadau ffôn

 

Safonau 10 neu 11

 

 

Safon 9

Safon 14

 

 

 

 

 

 

(8)

 

Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau ffôn yn Gymraeg

 

Safon 14

 

 

 

 

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 10

Safon 11

 

a hefyd

Safon 16, a

Safon 17

 

 

 

(9)

 

Cyfarfodydd ag un person

 

Safon 24

 

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 24A

Safon 24B

 

 

 

(10)

Cyfarfodydd ag un person

 

Safonau 24A neu 24B

 

 

 

Safon 24

 

 

 

(11)

 

Cyfarfodydd ag un person

 

Safon 26

 

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 26A

Safon 26B

 

 

 

(12)

Cyfarfodydd ag un person

 

Safonau 26A neu 26B

 

 

 

Safon 26

 

 

 

(13)

 

Cyfarfodydd â mwy nag un person

 

Safon 27

 

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 27A

Safon 27B

Safon 27C

 

a hefyd un neu ragor o’r canlynol:

 

Safon 27CH

Safon 27D

 

 

 

(14)

 

Cyfarfodydd â mwy nag un person

 

Safonau 27A, 27B, 27C, 27CH neu 27D

 

 

 

Safon 27

 

 

 

(15)

 

Cyfarfodydd â mwy nag un person

 

 

Safon 29

 

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 29A 

Safon 29B

 

 

 

(16)

Cyfarfodydd â mwy nag un person

 

Safonau 29A neu 29B

 

 

 

Safon 29

 

 

 

(17)

Cyfarfodydd cyhoeddus

 

Safon 30

 

 

 

Safon 33

 

 

 

(18)

Cyfarfodydd cyhoeddus

 

Safon 33

 

 

 

Safon 30

 

 

(19)

Dogfennau

 

Safonau 40, 41, 42, 43, 44, 45, neu 47

 

 

Safon 48

Safon 49

 

 

(20)

Ffurflenni

 

Safon 50

 

 

Safon 50A

Safon 50B

 

 

(21)

 

Gwefannau

 

Safonau 52, 53 neu 54

 

 

Safon 55

 

 

(22)

Arwyddion

 

Safon 61 neu 62

 

 

Safon 63

 

 

(23)

 

Derbynfa

 

Safon 64

 

 

Safon 67

Safon 68

 

 

(24)

Derbynfa

 

Safon 65

 

 

Safon 65A

 

 

(25)

Derbynfa

 

Safon 66

 

 

Safon 67

 

 

 

 

 

 

(26)

 

Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg mewn derbynfa

 

Safon 67

 

 

 

 

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 64

Safon 66

 

 

(27)

 

Grantiau

 

Safon 72

 

 

Safon 72A

Safon 75

 

 

(28)

 

Grantiau

 

Safon 73 neu 74

 

 

Safon 72

Safon 72A

 

 

(29)

 

Contractau

 

Safon 77

 

 

Safon 77A

Safon 80

 

 

(30)

 

Contractau

 

Safon 78 neu 79

 

 

Safon 77

Safon 77A

RHAN 3

DEHONGLI’R SAFONAU

 

23

Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.

24

Nid yw’r safonau a bennir ond yn gymwys i’r graddau y mae corff yn—

(a)     cyflenwi gwasanaethau i berson, neu

(b)     yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—

                           (i)    i’r person arall hwnnw, neu

                         (ii)    i drydydd person.

25

Nid yw’n ofynnol i gorff lunio, arddangos nac anfon deunydd yn Gymraeg i’r graddau y mae deddfiad arall wedi pennu geiriad dogfen, arwydd neu ffurflen a fyddai’n groes i’r gofyniad hwnnw.

26

At ddibenion y safonau—

(a)     nid yw gofyniad i lunio unrhyw ddeunydd ysgrifenedig, i’w anfon, i’w gyhoeddi, i’w arddangos, i’w roi ar gael neu i’w ddyroddi yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r deunydd, ei anfon, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei roi ar gael neu ei ddyroddi, nac yn golygu y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei nodi’n benodol yn y safon);

(b)     nid yw gofyniad bod gwasanaeth i gael ei ddarparu yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid darparu’r gwasanaeth hwnnw (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon).

27

At ddibenion safonau 2, 3 ac 21, mae corff yn gohebu ag unigolyn neu’n ffonio unigolyn am y tro cyntaf pan fydd yn gohebu neu’n ffonio’r person am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon.

28

Yn safon 22, ystyr system ffôn “wedi ei hawtomeiddio” yw system sy’n ateb galwadau ffôn ac yn arwain personau drwy drefn benodedig gyda neges wedi ei  recordio sy’n gofyn, er enghraifft, i berson bwyso rhifau gwahanol er mwyn dewis opsiynau gwahanol.

29

Pan fo safon yn cyfeirio at ddeunydd sydd i’w lunio yn Gymraeg (ac eithrio safonau 52 i 57 (gwefannau ac apiau), 58 a 59 (cyfryngau cymdeithasol) a 76 (gwahoddiad i dendro)), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)     golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)     maint y deunydd;

(c)     lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)     fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd.

30

At ddiben safonau 40, 41, 44, 47 a 50, nid yw’r cyfeiriadau at ddogfennau neu ddeunydd arall sydd ar gael i’r cyhoedd,  neu sy’n cael eu llunio at ddefnydd y cyhoedd, yn cynnwys dogfenau neu ddeunyddiau nad yw ond ar gael i’r cyhoedd yn rhinwedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36).

31

(1) Nid yw safonau 50, 50A a 50B yn gymwys i’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3).

(2) At ddibenion safon 2, nid yw’n ofynnol i gorff anfon fersiwn Gymraeg o’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3).

(3) Y ffurflenni yw—

(a)      ffurflenni a ddefnyddir gan gorff i recriwtio cyflogeion (gweler safonau 137A, 138 a 139 mewn perthynas â recriwtio);

(b)     ffurflenni a ddefnyddir wrth wneud cais am gymorth grant gan gorff (gweler safonau 71 i 75 mewn perthynas â cheisiadau am grantiau);

(c)     ffurflenni a ddefnyddir pan gyflwynir tender i gontractio gyda chorff (gweler safonau 76 i 80 mewn perthynas â thendro am gontract).

32

Nid yw safonau 40, 47, 48 a 49 yn gymwys i ddeddfiad a wneir gan gorff neu i ddeddfiad drafft a lunnir gan gorff.

33

Nid yw safon 45 yn gymwys i reolau a bennir mewn deddfiad neu mewn deddfiad drafft a lunnir gan gorff.

34

Nid yw safonau 52 i 56 (gwefannau)  yn gymwys i—

(a)     dogfennau y darperir dolen iddynt ar wefan, deunydd hysbysebu ar wefan, na chlipiau fideo a sain ar wefan  (gweler safonau 40 i 49 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 37 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)     gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar  wefan corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau, neu ar fforwm drafod).

35

 

 

 

 

 

 

 

 

 

(1) At ddiben safon 57, ystyr “ap” yw cymhwysiad meddalwedd sydd wedi ei gynllunio i gyflawni tasg benodol ar ddyfais electronig.

(2) Nid yw safon 57 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu ar ap (gweler safon 37 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff).

36

At ddiben safonau 52 i 57 (gwefannau ac apiau) a safonau 58 a 59 (cyfryngau cymdeithasol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)     golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), neu

(b)     pan gyhoeddir deunydd ar y wefan, yr ap neu’r cyfryngau cymdeithasol;

ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â deunydd Saesneg, nac ar dudalen y mae person yn debygol o ddod o hyd iddi cyn y dudalen Saesneg wrth chwilio.

37

(1) Nid yw safonau 1 i 7 (gohebu) yn gymwys i ohebiaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 58 a 59 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).

(2) Nid yw safonau 52 i 57 (gwefannau ac apiau) yn gymwys i’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 58 a 59 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).

38

Nid yw safonau 58 a 59 (cyfryngau cymdeithasol) yn gymwys i—

(a)     dogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 40 i 49 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 37 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)     gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau).

39

At ddiben safon 60 (peiriannau hunanwasanaeth), mae cyfeiriad at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar sgrin yr un pryd â deunydd Saesneg.

40

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

At ddibenion safonau 64 i 68 (derbyn ymwelwyr)—

(a)     ystyr “derbynfa” yw ardal yn swyddfeydd a lleoliadau gwasanaeth corff lle y mae staff ar gael at ddiben croesawu personau;

(b)     ystyr “gwasanaeth derbynfa” yw gwasanaeth croesawu personau i swyddfeydd neu leoliadau gwasanaeth y corff gan staff sydd ar gael at y diben hwnnw;

(c)     mae “lleoliadau gwasanaeth” yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau celfyddydau, canolfannau cyngor a chanolfannau galw heibio.

41

 

 

 

At ddibenion safonau 7, 69 a 70 ystyr “hysbysiad swyddogol” yw unrhyw hysbysiad y mae corff yn ei gyhoeddi er mwyn rhoi gwybod i bersonau am weithgareddau cyflenwi gwasanaethau neu newidiadau i weithgareddau cyflenwi gwasanaethau’r corff, ond nid yw’n cynnwys hysbysiadau swyddogol a ragnodir gan ddeddfiad.

42

At ddibenion safon 76 (gwahoddiad i dendro)—

(1) Nid yw’n ofynnol i gorff gyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

(2) Mae cyfeiriad at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)     golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)     maint y deunydd;

(c)     lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)     fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd;

ond ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg drwy beidio â chyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

43

(1) At ddibenion safon 83, mae’r cyfeiriad at gorff yn cyflwyno ei “hunaniaeth gorfforaethol” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y ffordd y mae corff yn ei gyflwyno ei hun drwy ddatganiadau gweledol, yr enw neu’r enwau a ddefnyddir gan gorff, a’r brandio a’r sloganau a ddefnyddir gan gorff (er enghraifft, brandio a sloganau a argraffir ar ei bapur ysgrifennu).

(2) Nid yw safon 83 yn berthnasol i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ddefnyddio enw cyfreithiol.

44

At ddibenion safonau 84, 85 a 86 (cyrsiau), ystyr “cwrs addysg” yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg sy'n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd; ond nid yw’n cynnwys gweithgareddau na chyrsiau sy’n cael eu darparu fel rhan o’r cwricwlwm yn unol ag unrhyw ddeddfiad.

45

At ddibenion y safonau, ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y cafodd ei ddeddfu neu ei wneud) sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—

(a)      Deddf Seneddol; neu

(b)     Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

                    ATODLEN 2     Rheoliad 2(2)

Safonau Llunio Polisi

RHAN 1

Y SAFONAU

 

1

Safonau ynghylch ystyried effeithiau penderfyniadau polisi a wneir gan gorff ar y Gymraeg

Safon 88:

Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli,  rhaid ichi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 89:

Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel y byddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—

(a)      cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 90:

Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel na fyddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 91:

Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch yr effeithiau (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi o dan ystyriaeth yn eu cael ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 92:

Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 93:

Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 94:

Rhaid ichi lunio a chyhoeddi polisi dyfarnu grantiau (neu, pan fo’n briodol, ddiwygio polisi sydd eisoes yn bodoli) sy’n ei gwneud yn ofynnol  ichi ystyried y materion a ganlyn pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu grant—

(a)     pa effeithiau, os o gwbl (a pha un ai yw’r rheini’n  bositif neu’n andwyol), y byddai dyfarnu grant yn eu cael ar—

                           (i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

                         (ii)    peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

(b)     sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau grant) fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—

                           (i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

                         (ii)    peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

(c)     sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad  (er enghraifft, drwy osod amodau grant) fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol ar—

                           (i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

                         (ii)    peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

(ch) a oes angen  ichi ofyn i’r ymgeisydd am grant am unrhyw wybodaeth ychwanegol er mwyn eich cynorthwyo i asesu effaith dyfarnu grant ar—

                           (i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

                         (ii)    peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 95:

Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl (a pha un ai ydynt yn rhai positif neu’n rhai andwyol), y byddai’r penderfyniad  polisi sydd o dan ystyriaeth yn eu cael ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 96:

Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi sydd o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 97:

Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi sydd o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

RHAN 2

DEHONGLI’R SAFONAU

 

2

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

3

Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ystyr “penderfyniad polisi” yw unrhyw benderfyniad a wneir gan gorff sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau neu gynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall, ac mae hynny’n cynnwys, ymysg pethau eraill (ac fel y bo’n briodol i’r corff), penderfyniadau ynghylch—

(a)     cynnwys deddfwriaeth;

(b)     arfer pwerau statudol;

(c)     cynnwys datganiadau polisi;

(ch)strategaethau neu gynlluniau strategol;

(d)     strwythurau mewnol.

Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad at yr effeithiau hynny pa un ai ydynt yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

                    ATODLEN 3     Rheoliad 2(3)

Safonau gweithredu

RHAN 1

Y SAFONAU

 

1

Safonau ynghylch defnyddio’r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth fewnol corff

Safon 98:

Rhaid ichi ddatblygu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol, gyda’r bwriad o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, a rhaid ichi gyhoeddi’r polisi hwnnw ar eich mewnrwyd.

Safon 99:

Pan fyddwch yn cynnig swydd newydd i unigolyn, rhaid ichi ofyn i’r unigolyn hwnnw a yw’n dymuno i’r contract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau gael ei ddarparu yn Gymraeg; ac os yw’r unigolyn yn dymuno hynny rhaid ichi ddarparu’r contract yn Gymraeg.

Safon 100:

Rhaid ichi—

(a)     gofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ohebiaeth bapur sy’n ymwneud â’i gyflogaeth, ac sydd wedi ei chyfeirio ato’n bersonol, yn Gymraeg, a 

(b)     os yw cyflogai yn dymuno hynny, ddarparu unrhyw ohebiaeth o’r fath iddo yn Gymraeg.

Safon 101:

Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu anghenion neu ofynion ei hyfforddiant yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg.

Safon 102:

Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu ei amcanion perfformiad yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg.

Safon 103:

Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu neu’n cofnodi ei gynllun gyrfa yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg.

Safon 104:

Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a  fyddai’n  dymuno cael unrhyw ffurflenni sy’n cofnodi ac yn awdurdodi—

(a)     gwyliau,

(b)     absenoldebau o’r gwaith, ac

(c)     oriau gwaith hyblyg,

yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ffurflenni o’r fath iddo yn Gymraeg.

Safon 105:

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch ymddygiad yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

Safon 106:

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch iechyd a lles yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

Safon 107:

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch cyflogau neu fuddion yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

Safon 108:            

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch rheoli perfformiad, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

Safon 109:

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch absenoldeb o’r gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

Safon 110:

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch amodau gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

Safon 111:

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch patrymau gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

2

Safonau ynghylch cwynion a wneir gan aelod o staff corff

Safon 112:

Rhaid ichi ganiatáu i bob aelod o’ch staff—

(a)     gwneud cwynion ichi yn Gymraeg, a

(b)     ymateb i unrhyw gŵyn a wnaed amdano ef yn Gymraeg.

Safon 112A:

Rhaid ichi ddatgan mewn unrhyw ddogfen sydd gennych sy’n nodi eich gweithdrefnau ar gyfer gwneud cwynion y caiff pob aelod o staff—

(a)     gwneud cwyn ichi yn Gymraeg, a

(b)     ymateb i gŵyn a wnaed amdano ef yn Gymraeg;

a rhaid ichi hefyd roi gwybod i bob aelod o staff am yr hawl honno.

Safon 113:

Os byddwch yn cael cwyn gan aelod o staff neu’n cael cwyn ynghylch aelod o staff, a bod angen cyfarfod â’r aelod hwnnw o staff, rhaid ichi—

(a)     cynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg, a

(b)     os yw’r aelod o staff yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 114:

Os byddwch yn cael cwyn gan aelod o staff neu’n cael cwyn ynghylch aelod o staff, a bod angen cyfarfod â’r aelod hwnnw o staff, rhaid ichi—

(a)     gofyn i’r aelod o staff a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

(b)     esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw os yw’n ofynnol;

ac os yw’r aelod o staff yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 115:

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i aelod o staff beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chŵyn a wneir gan yr aelod hwnnw, neu mewn perthynas â chŵyn a wneir amdano ef, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff—

(a)     wedi gwneud y gŵyn yn Gymraeg,

(b)     wedi ymateb yn Gymraeg i gŵyn amdano ef,

(c)     wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r gŵyn yn cael ei gynnal yn Gymraeg, neu

(ch) wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r gŵyn.

3

Safonau ynghylch corff yn disgyblu staff

Safon 116:           

Rhaid ichi ganiatáu i bob aelod o staff ymateb yn Gymraeg i honiadau a wneir yn ei erbyn mewn unrhyw broses ddisgyblu fewnol.

Safon 116A:

Rhaid ichi—

(a)     datgan mewn unrhyw ddogfen sydd gennych sy’n nodi eich trefniadau ar gyfer disgyblu staff y caiff unrhyw aelod o staff ymateb yn Gymraeg i unrhyw honiadau a wneir yn ei erbyn, a

(b)     os byddwch yn dechrau gweithdrefn ddisgyblu mewn perthynas ag aelod o staff, rhoi gwybod i’r aelod hwnnw o staff am yr hawl honno.

Safon 117:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod ag aelod o staff ynghylch achos disgyblu mewn perthynas â’i ymddygiad, rhaid ichi—

(a)     cynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg, a

(b)     os yw’r aelod o staff yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 118:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod ag aelod o staff ynghylch achos disgyblu mewn perthynas â’i ymddygiad, rhaid ichi—

(a)     gofyn i’r aelod o staff a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a

(b)     esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu at y diben hwnnw os yw’n ofynnol;

ac, os yw’r aelod o staff yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 119:

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i aelod o staff beth yw’ch penderfyniad yn dilyn proses ddisgyblu, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff—

(a)     wedi ymateb i honiadau yn ei erbyn yn Gymraeg,

(b)     wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu yn cael ei gynnal yn Gymraeg, neu

(c)     wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu.

4

Safonau ynghylch technoleg gwybodaeth a deunyddiau cymorth a ddarperir gan gorff, ac ynghylch y fewnrwyd

Safon 120:

Rhaid ichi ddarparu meddalwedd gyfrifiadurol ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg y Gymraeg i’ch staff, a darparu rhyngwynebau Cymraeg ar gyfer meddalwedd (pan fo rhyngwyneb ar gael).

Safon 121:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)     bod testun pob tudalen ar eich mewnrwyd ar gael yn Gymraeg,

(b)     bod pob tudalen Gymraeg ar eich mewnrwyd yn gweithredu’n llawn, ac

(c)     nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich mewnrwyd.

Safon 122:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)     bod testun hafan eich mewnrwyd ar gael yn Gymraeg,

(b)     bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich mewnrwyd (neu, pan fo’n berthnasol, bod hafan Gymraeg eich mewnrwyd) yn gweithredu’n llawn, ac

(c)     nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich mewnrwyd.

Safon 123:

Bob tro y byddwch yn cyhoeddi tudalen newydd neu’n diwygio tudalen ar eich mewnrwyd, rhaid ichi sicrhau—

(a)     bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg,

(b)     bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac

(c)     nad yw’r Gymraeg  yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â thestun y dudalen honno.

Safon 124:

Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich mewnrwyd sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi nodi’n glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a rhaid darparu dolen uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.

Safon 125:

Rhaid ichi neilltuo a chynnal tudalen (neu dudalennau) ar eich mewnrwyd sy’n darparu gwasanaethau a deunydd cymorth i hybu’r  Gymraeg ac i gynorthwyo eich staff i ddefnyddio’r Gymraeg.

Safon 126:

Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar eich tudalennau mewnrwyd yn Gymraeg.

5

Safonau ynghylch corff yn meithrin sgiliau yn y Gymraeg drwy gynllunio a hyfforddi ei weithlu

Safon 127:           

Rhaid ichi asesu sgiliau Cymraeg eich cyflogeion.

Safon 128:           

Rhaid ichi ddarparu hyfforddiant yn Gymraeg yn y meysydd a ganlyn, os ydych yn darparu hyfforddiant o’r fath yn Saesneg—

(a)     recriwtio a chyf-weld;

(b)     rheoli perfformiad;

(c)     gweithdrefnau cwyno a disgyblu;

(ch) ymsefydlu;

(d)     delio â’r cyhoedd; ac

(dd) iechyd a diogelwch.

Safon 129:

Rhaid ichi ddarparu hyfforddiant (yn Gymraeg) ar ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol mewn—

(a)     cyfarfodydd;

(b)     cyfweliadau; ac

(c)     gweithdrefnau cwyno a disgyblu.

Safon 130:

Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd yn ystod oriau gwaith—

(a)     i’ch cyflogeion gael gwersi Cymraeg sylfaenol, a

(b)     i gyflogeion sy’n rheoli pobl eraill gael hyfforddiant ar ddefnyddio’r Gymraeg yn eu rôl fel rheolwyr.

Safon 131:

Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd i’ch cyflogeion sydd wedi cwblhau hyfforddiant Cymraeg sylfaenol gael hyfforddiant pellach yn rhad ac am ddim er mwyn datblygu eu sgiliau yn yr iaith.

Safon 132:

Rhaid ichi ddarparu cyrsiau hyfforddi er mwyn i’ch cyflogeion ddatblygu—

(a)     ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth am hanes yr iaith a’i lle yn niwylliant Cymru);

(b)     dealltwriaeth o’r ddyletswydd i weithredu yn unol â safonau’r Gymraeg;

(c)     dealltwriaeth am y modd y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Safon 133:

Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth i gyflogeion newydd (er enghraifft, fel rhan o broses ymsefydlu), rhaid ichi ddarparu gwybodaeth er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg.

Safon 134:           

Rhaid ichi ddarparu geiriad neu logo ar gyfer llofnodion e-bost eich staff sy’n eu galluogi i ddynodi a ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl neu’n  dysgu’r iaith.

Safon 135:

Rhaid ichi ddarparu geiriad ar gyfer eich cyflogeion fydd yn eu galluogi i gynnwys fersiwn Gymraeg o’u manylion cyswllt mewn negeseuon e-byst, ac i ddarparu fersiwn Gymraeg o unrhyw neges  sy’n hysbysu pobl eraill nad ydynt ar gael i ateb negeseuon ebost.

6

Safonau ynghylch recriwtio ac apwyntio

Safon 136:

Pan fyddwch yn asesu’r anghenion ar gyfer swydd newydd neu swydd wag, rhaid ichi asesu’r angen am sgiliau yn y Gymraeg, a’i chategoreiddio fel swydd pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—

(a)     bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol;

(b)     bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir rhywun i’r swydd;

(c)     bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu

(ch)nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.

Safon 136A:

Os byddwch wedi categoreiddio swydd fel un sy’n gofyn bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol, yn ddymunol neu fod angen eu dysgu, rhaid ichi—

(a)     pennu hynny wrth hysbysebu’r swydd, a

(b)     hysbysebu’r swydd yn Gymraeg.

Safon 137:

Pan fyddwch yn hysbysebu swydd, rhaid ichi ddatgan y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Safon 137A:

Os byddwch yn cyhoeddi—

(a)     ffurflenni cais am swyddi;

(b)     deunydd esboniadol ynghylch eich proses ar gyfer ymgeisio am swyddi;

(c)     gwybodaeth am eich proses gyf-weld, neu am unrhyw ddulliau asesu eraill wrth ymgeisio am swyddi;

(ch) swydd-ddisgrifiadau;

rhaid ichi eu cyhoeddi yn Gymraeg a rhaid ichi sicrhau nad ydych yn trin unrhyw fersiynau Cymraeg o’r dogfennau yn llai ffafriol na fersiynau Saesneg ohonynt.

Safon 137B:

Rhaid ichi beidio â thrin cais am swydd a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, o ran y dyddiad cau yr ydych yn ei osod ar gyfer cael ceisiadau, ac o ran amseriad rhoi gwybod i unigolion ynghylch penderfyniadau).

Safon 138:

Rhaid ichi sicrhau bod eich ffurflenni cais am swyddi yn rhoi lle i unigolion nodi eu bod yn dymuno cael cyfweliad neu’r dull arall o asesiad yn Gymraeg ac, os yw unigolyn yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal unrhyw gyfweliad neu ddull arall o asesiad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 139:           

Rhaid ichi sicrhau bod eich ffurflenni cais am swyddi—

(a)     yn rhoi lle i unigolion nodi eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg mewn cyfweliad neu ddull arall o asesiad, a

(b)     yn esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw os oes angen;

ac, os yw’r unigolyn yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad neu’r asesiad, rhaid  ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn y cyfweliad neu asesiad (os nad ydych yn cynnal y cyfweliad neu’r asesiad yn Gymraeg heb y gwasanaeth cyfieithu hwnnw).

Safon 140:

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i unigolyn beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am swydd, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os gwnaed y cais yn Gymraeg.

7

Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir yng ngweithle corff

Safon 141:

Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd yn eich gweithle (gan gynnwys arwyddion dros dro), rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun Saesneg cyfatebol neu ar arwydd ar wahân), ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.

Safon 142:

Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd yn eich gweithle (gan gynnwys arwyddion dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.

Safon 143:

Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion a arddangosir yn eich gweithle yn gywir o ran ystyr a mynegiant.

8

Safon ynghylch cyhoeddiadau a negeseuon sain yng ngweithle corff

Safon 144:

Pan fyddwch yn gwneud cyhoeddiadau dros offer sain yn eich gweithle, rhaid i’r cyhoeddiad hwnnw gael ei wneud yn Gymraeg, ac os gwneir y cyhoeddiad yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf.

RHAN 2

SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL– AMODAU ARBENNIG

 

9

Pan fydd hysbysiad cydymuffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2.

 

TABL 1

 

 

 

Rhes

Colofn 1

 

Prif safon

Colofn 2

 

Safon ddibynnol

 

 

(1)

Gweithdrefnau cwyno

 

Safon 112

 

 

Safon 112A

 

 

(2)

Gweithdrefnau cwyno

 

Safon 112A

 

 

Safon 112

 

 

(3)

Disgyblu staff

 

Safon 116

 

 

Safon 116A

 

 

(4)

Disgyblu staff

 

Safon 116A

 

 

Safon 116

 

 

(5)

Y fewnrwyd

 

Safonau 121, 122 neu 123

 

 

Safon 124

 

 

(6)

Recriwtio ac apwyntio

 

Safon 136

 

 

Safon 136A

 

 

(7)

 

Recriwtio

 

Safon 137

 

 

Safon 137A

Safon 137B

Safon 140

 

 

(8)

Arwyddion mewnol

 

Safon 141

 

 

Safon 143

RHAN 3

DEHONGLI’R SAFONAU

 

10

Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.

11

At ddibenion safonau 121, 122 a 123 (mewnrwyd corff), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg pethau eraill (ac yn ogystal â materion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)     golwg y deunydd (er enghraifft o ran lliw, ffont, maint a fformat unrhyw destun);

(b)     pryd y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar y fewnrwyd;

ond nid yw’n golygu bod yn rhaid i’r deunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â’r deunydd Saesneg, nac ar dudalen a fydd yn debygol o agor cyn y fersiwn Saesneg gyfatebol o’r dudalen.

12

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

At ddibenion safonau 137A (recriwtio) a 141 (arwyddion mewnol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg pethau eraill (ac yn ogystal â materion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)     golwg y deunydd (er enghraifft o ran lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)     maint y deunydd;

(c)     lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)     fformat cyhoeddi’r deunydd.

13

At ddibenion y safonau, nid yw gofyniad i gyhoeddi, darparu neu arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid cyhoeddi, darparu neu arddangos deunydd yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni nodir hynny yn benodol yn y safon).

14

Nid yw safonau 121 i 124 (y fewnrwyd) yn gymwys i—

(a)     dogfennau y darperir dolen iddynt ar y fewnrwyd, deunydd hysbysebu ar y fewnrwyd, na chlipiau fideo a sain ar y fewnrwyd (gweler safonau 105 i 111 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau);

(b)     gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar fewnrwyd corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau neu ar fforwm trafod).

15

At ddibenion safonau 136 a 136A yn unig—

(a)     mae “swydd” yn cynnwys penodiad cyhoeddus;

(b)     ystyr “penodiad cyhoeddus” yw unrhyw benodiad i gorff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus.

                    ATODLEN 4     Rheoliad 2(4)

Safonau Hybu

RHAN 1

Y SAFONAU

 

1

Safonau ynghylch corff yn hybu’r Gymraeg

Safon 145:

Rhaid ichi lunio, a chyhoeddi ar eich gwefan, strategaeth 5 mlynedd sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu mynd ati i hybu’r  Gymraeg ac i hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach yn eich ardal; a rhaid i’r strategaeth gynnwys (ymysg pethau eraill)—

(a)     targed (yn nhermau canran y siaradwyr yn eich ardal) ar gyfer cynyddu neu gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn eich ardal erbyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd o dan sylw, a

(b)     datganiad sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cyrraedd y targed hwnnw;

a rhaid  ichi adolygu’r strategaeth a chyhoeddi fersiwn ddiwygiedig ohoni ar eich gwefan o fewn 5 mlynedd i ddyddiad cyhoeddi’r strategaeth (neu i ddyddiad cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig ohoni).

Safon 146:

Bum mlynedd ar ôl cyhoeddi strategaeth yn unol â safon 145 rhaid  ichi—

(a)     asesu i ba raddau yr ydych wedi dilyn y strategaeth honno ac wedi cyrraedd y targed a osodwyd ganddi, a

(b)     cyhoeddi’r asesiad ar eich gwefan, gan sicrhau ei fod yn cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

                           (i)    nifer y siaradwyr Cymraeg yn eich ardal, ac oedran y siaradwyr hynny;

                         (ii)    rhestr o’r gweithgareddau a drefnwyd gennych neu a ariannwyd gennych yn ystod y 5 mlynedd flaenorol er mwyn hybu defnyddio’r Gymraeg.

RHAN 2

SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL – AMODAU ARBENNIG

 

2

Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir yng ngholofn 2 ar y rhes honno.

 

TABL 1

 

 

 

Rhes

Colofn 1

 

Prif safon

 

Colofn 2

 

Safon ddibynnol

 

 

 

(1)

Adolygu strategaeth

 

Safon 146

 

 

 

 

Safon 145

                    ATODLEN 5     Rheoliad 2(5)

Safonau Cadw Cofnodion

RHAN 1

Y SAFONAU

 

1

Safonau ynghylch cadw cofnodion gan gorff

 

Safon 147:

Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau.

 

Safon 148:

Rhaid ichi ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

 

Safon 149:

Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’r Gymraeg (pa un ai yw’r gŵyn yn ymwneud â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy ai peidio).

 

Safon 150:

Rhaid ichi gadw cofnod o’r camau yr ydych wedi eu cymryd i sicrhau y cydymffurfir â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

 

Safon 151:

Rhaid ichi gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau iaith Gymraeg eich cyflogeion a wnaed gennych yn unol â safon 127), o nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a, phan fo hynny’n wybyddus ichi, rhaid ichi gadw cofnod o lefel sgiliau’r cyflogeion hynny.

 

Safon 152:

Rhaid ichi gadw cofnod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, o—

(a)     nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd gennych yn Gymraeg (yn unol â safon 128), a

(b)     os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs gennych yn unol â safon 128, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y fersiwn honno o’r cwrs.

 

Safon 153:

 

Rhaid ichi gadw cofnod o bob asesiad a gynhaliwch (yn unol â safon 136) mewn cysylltiad â’r sgiliau Cymraeg y gallai fod eu hangen mewn perthynas â swydd newydd neu swydd wag.

 

Safon 154:

Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 136) fel swyddi sy’n gofyn—

(a)     bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol;

(b)     bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd;

(c)     bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu

(ch)nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.

RHAN 2

DEHONGLI’R SAFONAU

 

2

Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.

3

At ddibenion safonau 147, 151, 152 a 154—

(a)     pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio â safon am y tro cyntaf, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio â safon, ac sy’n dod i ben â’r 31 Mawrth dilynol;

(b)     yn ddarostyngedig i hynny, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth.

                    ATODLEN 6     Rheoliad 2(6)

Safonau sy’n ymdrin â Materion Atodol

RHAN 1

SAFONAU CYFLENWI GWASANAETH

 

 

1

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cyflenwi gwasanaethau

Safon 155:

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)    ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

2

Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno

Safon 156:           

Rhaid ichi—

(a)     sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn—

                           (i)    sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a

                         (ii)    sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny,

(b)     cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan, ac

(c)     sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

3

Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio, hybu etc.

Safon 157:

Rhaid ichi—

(a)     sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer—

                           (i)    goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy,

                         (ii)    hybu’r gwasanaethau a gynigir gennych yn unol â’r safonau hynny, a

                       (iii)    hwyluso defnyddio’r gwasanaethau hynny,

(b)     cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich gwefan, ac

(c)     sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

4

Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau cyflenwi gwasanaethau

Safon 158:

(1) Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.

(2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn honno a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

(3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin yn dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol.

(5) Rhaid  ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

5

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau cyflenwi gwasanaethau

Safon 159:

Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

6

Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg

Safon 160:

Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

RHAN 2

SAFONAU LLUNIO POLISI

 

7

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau llunio polisi

Safon 161:           

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

8

Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno

Safon 162:

Rhaid ichi—

(a)     sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn—

                           (i)    sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a

                         (ii)    sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny,

(b)     cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan, ac

(c)     sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael, ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

9

Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio

Safon 163:

Rhaid ichi—

(a)     sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy,

(b)     cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich gwefan, ac

(c)     sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

10

Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau llunio polisi

Safon 164:

(1) Rhaid ichi lunio adroddiad, (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.

(2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

(3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin yn dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol.

(5) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

11

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau llunio polisi

Safon 165:

Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

12

Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg

Safon 166:

Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

RHAN 3

SAFONAU GWEITHREDU

 

13

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau gweithredu

Safon 167:

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

14

Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno

Safon 168:

Rhaid ichi—

(a)     sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn—

                           (i)    sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a

                         (ii)    sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny, a

(b)     cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich mewnrwyd.

15

Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio, hybu etc.

Safon 169:

Rhaid ichi—

(a)     sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer—

                           (i)    goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy,

                         (ii)    hybu’r gwasanaethau a gynigir gennych yn unol â’r safonau hynny, a

                       (iii)    hwyluso defnyddio’r gwasanaethau hynny, a

(b)     cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich mewnrwyd.

16

Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau gweithredu

Safon 170:

(1) Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.

(2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn (pan fo’n berthnasol, i’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau y cyfeirir atynt)—

(a)     nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn o dan sylw (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 151);

(b)     nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd gennych yn y Gymraeg yn ystod y flwyddyn (ar sail cofnodion a gadwasoch  yn unol â safon 152);

(c)     os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs gennych yn ystod y flwyddyn, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn  Gymraeg (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 152);

(ch) nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gennych yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn—

                           (i)    bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol

                         (ii)    bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir i’r swydd,

                       (iii)    bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol, neu

                        (iv)    nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol,

(ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 154);

(d)     nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

(3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin yn dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol.

(5) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol  ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

17

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau gweithredu

Safon 171:

Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

18

Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg

Safon 172:

Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

RHAN 4

SAFONAU HYBU

 

19

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau hybu

Safon 173:

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau hybu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

20

Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg

Safon 174:           

Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau hybu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

RHAN 5

SAFONAU CADW COFNODION

 

21

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd I safonau cadw cofnodion

Safon 175:

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

22

Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg

Safon 176:           

Rhaid ichi ddarparu unrhyw gofnodion a gadwasoch yn unol â’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy i Gomisiynydd y Gymraeg, os bydd y Comisiynydd yn gofyn am y cofnodion hynny.

RHAN 6

DEHONGLI’R SAFONAU

 

23

Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 i 5 fel a ganlyn.

24

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

25

At ddibenion safonau 158, 164 a 170—

(a)     pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio â safon am y tro cyntaf, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio â safon, ac sy’n dod i ben â’r 31 Mawrth dilynol;

(b)     yn ddarostyngedig i hynny, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth.

At ddiben y safonau, nid yw gofyniad i lunio neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid llunio neu gyhoeddi’r deunydd hwnnw yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni nodir hynny yn benodol yn y safon).

 

RHAN 7

DARPARIAETH ATODOL

 

26

Gweithdrefnau cwyno

 

(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff—

(a)     cydymffurfio â hwy mewn un weithdrefn gwyno;

(b)     diwygio gweithdrefn gwyno sy’n bodoli eisoes.

(2) Y safonau yw—

(a)     safon 156;

(b)     safon 162;

(c)     safon 168.

27

Trefniadau goruchwylio

 

(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy drwy un set o drefniadau goruchwylio.

(2) Y safonau yw—

(a)     safon 157; 

(b)     safon 163;

(c)     safon 169.

28

Adroddiadau blynyddol

 

(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy drwy gynnwys yr wybodaeth angenrheidiol mewn un adroddiad blynyddol o’r enw “Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg”.

(2) Y safonau yw—

(a)     safon 158;

(b)     safon 164;

(c)     safon 170.

29

Rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae corff yn bwriadu cydymffurfio â safonau

 

(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy mewn un ddogfen.

(2) Y safonau yw—

(a)     safon 159;

(b)     safon 165;

(c)     safon 171.

 



([1])   2011 mccc 1.