2015 Rhif 622 (Cy. 50)

PENSIYNAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn sefydlu cynllun ar gyfer talu pensiynau a buddion eraill i ddiffoddwyr tân yng Nghymru o 1 Ebrill 2015 ymlaen. Mae’r cynllun a sefydlir felly yn gynllun enillion ailbrisiedig cyfartaledd gyrfa.

Mae Rhan 2 yn cynnwys darpariaethau sy’n penodi awdurdodau tân ac achub yn “rheolwyr cynllun” ac yn caniatáu dirprwyo swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r rheolwyr cynllun o dan y Rheoliadau hyn. Mae Rhan 2 hefyd yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â sefydlu, aelodaeth a gweithredu Byrddau Pensiynau Lleol a Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru.

Mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer aelodaeth o gynllun. Mae’n pennu’r cysyniadau allweddol o gyflogaeth cynllun ac enillion pensiynadwy. Mae’n cynnwys darpariaethau cymhwystra a chofrestru awtomatig.

Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer sefydlu cyfrifon pensiwn aelod mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn. Mae’n darparu hefyd ar gyfer sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn.

Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer hawlogaeth aelod i gael taliad o fuddion ymddeol, gan gynnwys buddion rhan-ymddeoliad a buddion afiechyd. Mae’n darparu hefyd ar gyfer aseinio buddion. Mae’n pennu’r cysyniad allweddol o wasanaeth cymwys.

Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer buddion marwolaeth taladwy i oedolion sy’n goroesi ac i blant cymwys ac ar gyfer talu buddion cyfandaliad.

Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer buddion i aelodau â chredyd pensiwn.

Mae Rhan 8 yn darparu ar gyfer talu cyfraniadau gan aelodau a chyflogwyr.

Mae Rhan 9 yn darparu ar gyfer gwneud taliadau i mewn ac allan o Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân.

Mae Rhan 10 yn darparu ar gyfer gwneud a chael taliadau trosglwyddo.

Mae Rhan 11 yn darparu ar gyfer prisiadau actiwaraidd ac yn darparu ar gyfer cap ar gostau cyflogwyr sy’n ganran o enillion pensiynadwy aelodau o’r cynllun.

Mae Rhan 12 yn darparu ar gyfer penderfynu cwestiynau ac apelau.

Mae Rhan 13 yn cynnwys darpariaethau atodol ar dalu pensiynau, fforffedu a gwrthgyfrif, a thalu a didynnu treth.

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud taliadau am bensiwn ychwanegol.

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth drosiannol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu 0300 062 8221.


2015 Rhif 622 (Cy. 50)

PENSIYNAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

Gwnaed                                 9 Mawrth 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru        10 Mawrth 2015

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2015

CYNNWYS

RHAN 1

Rhagarweiniol

 

1.              Enwi a chychwyn

2.              Sefydlu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

3.              Dehongli

 

RHAN 2

Llywodraethu

 

4.              Rheolwr cynllun

5.              Byrddau pensiynau lleol: sefydlu

6.              Bwrdd pensiynau lleol: aelodaeth

7.              Byrddau pensiynau lleol: gwrthdrawiad buddiannau

8.              Byrddau pensiynau lleol: canllawiau a chyngor

9.              Byrddau pensiynau lleol: cyhoeddi gwybodaeth

10.            Bwrdd cynghori’r cynllun: sefydlu

11.            Bwrdd cynghori’r cynllun: aelodaeth

12.            Bwrdd cynghori’r cynllun: gwrthdrawiad buddiannau

13.            Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru: canllawiau

14.            Dirprwyo

 

RHAN 3

Aelodaeth o’r cynllun

PENNOD 1

Cymhwystra ar gyfer aelodaeth actif

15.            Cyflogaeth gynllun

16.            Personau cymwys

17.            Gwasanaeth mewn dwy neu ragor o gyflogaethau cynllun

 

PENNOD 2

Gwasanaeth pensiynadwy

18.            Cymhwyso’r Bennod

19.            Dehongli’r Bennod

20.            Cofrestru awtomatig

21.            Optio i mewn i’r cynllun hwn

22.            Ailgofrestru awtomatig

23.            Optio allan o’r cynllun hwn

24.            Optio allan cyn diwedd y tri mis cyntaf

25.            Optio allan ar ôl y tri mis cyntaf

 

PENNOD 3

Tâl pensiynadwy

26.            Tâl pensiynadwy

27.            Ystyr “tâl pensiynadwy tybiedig”

 

PENNOD 4

Aelodaeth

28.            Aelodaeth actif

29.            Aelodaeth ohiriedig

30.            Aelod â chredyd pensiwn

 

RHAN 4

Cyfrifon pensiwn

PENNOD 1

Rhagarweiniol

31.            Disgrifiad o bensiwn

 

PENNOD 2

Cyfrifo pensiwn cronedig

32.            Cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol

 

PENNOD 3

Cyfrifo addasiadau

33.            Cyfrifo “addasiad mynegai ymddeol”

34.            Cyfrifo “addasiad mynegai DPC ymddeol”

35.            Penderfynu’r “ychwanegiad oedran”

36.            Penderfynu’r “ychwanegiad oedran tybiedig”

 

PENNOD 4

Cyfrifon pensiwn: cyffredinol

37.            Sefydlu cyfrifon pensiwn: cyffredinol

38.            Cau ac addasu cyfrifon pensiwn wrth drosglwyddo allan neu wrth ad-dalu balans o gyfraniadau

 

PENNOD 5

Cyfrif aelod actif

39.            Cymhwyso’r Bennod

40.            Sefydlu cyfrif aelod actif

41.            Derbyn taliad gwerth trosglwyddiad

42.            Derbyn taliad gwerth trosglwyddiad clwb

43.            Swm y pensiwn ar gyfer blwyddyn gynllun

44.            Balans agoriadol, addasiad mynegai ac ychwanegiad oedran

45.            Dyfarniad afiechyd sy’n peidio â bod yn daladwy

46.            Cau ac ailsefydlu cyfrif aelod actif

 

PENNOD 6

Cyfrif pensiwn ychwanegol

47.            Sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol

48.            Y cyfrif i bennu swm y pensiwn ychwanegol

49.            Y cyfrif i bennu’r balans agoriadol a’r addasiad mynegai DPC

50.            Cau a throsglwyddo cyfrif pensiwn ychwanegol

51.            Pensiwn afiechyd sy’n peidio â bod yn daladwy

 

PENNOD 7

Cyfrif aelod gohiriedig

52.            Cymhwyso’r Bennod

53.            Sefydlu cyfrif aelod gohiriedig

54.            Swm dros dro o bensiwn gohiriedig

55.            Swm y pensiwn gohiriedig ymddeol

56.            Addasu cyfrif wedi i daliadau cynnar o bensiwn gohiriedig ddod i ben

57.            Cyfrif a sefydlir ar ôl i ddyfarniad afiechyd beidio â bod yn daladwy

58.            Cau cyfrif aelod gohiriedig ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd

 

PENNOD 8

Cyfrif ymddeol

59.            Sefydlu cyfrif ymddeol ac addasiadau eraill

60.            Y cyfrif i bennu swm y pensiwn ymddeol (aelodau actif)

 

PENNOD 9

Cyfrifon pensiwn ar gyfer aelod-oroeswyr

61.            Sefydlu cyfrif aelod-oroeswr

62.            Swm y pensiwn sy’n daladwy i aelod-oroeswr

 

PENNOD 10

Cyfrifon pensiwn ar gyfer aelodau â chredyd pensiwn

63.            Sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn

64.            Cyfrifon pensiwn eraill

 

RHAN 5

Buddion ymddeol

PENNOD 1

Dehongli

65.            Cymhwyso’r Rhan

66.            Gwasanaeth cymwys

 

PENNOD 2

Buddion ymddeol

67.            Hawlogaeth i bensiwn ymddeol

68.            Cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)

69.            Cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau gohiriedig)

70.            Gostyngiad talu’n gynnar

71.            Ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr

 

PENNOD 3

Buddion rhan-ymddeoliad

72.            Arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad

73.            Cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol ar ôl arfer opsiwn o ran-ymddeoliad

 

PENNOD 4

Buddion afiechyd

74.            Hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf

75.            Cyfradd flynyddol dyfarniadau afiechyd

76.            Talu pensiwn ymddeol yn gynnar i aelod gohiriedig

77.            Adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar

78.            Canlyniadau adolygu

 

PENNOD 5

Talu buddion ymddeol

79.            Cychwyn pensiynau

80.            Opsiwn i gymudo rhan o’r pensiwn

 

PENNOD 6

Dyrannu rhan o bensiwn

81.            Dewisiad i ddyrannu

82.            Gwneud dewisiad i ddyrannu

83.            Effaith dyrannu

84.            Addasu budd a ddyrannwyd

 

RHAN 6

Buddion marwolaeth

PENNOD 1

Dehongli

85.            Ystyr “partner sy’n goroesi”

86.            Ystyr “cyfnod dechreuol”

 

PENNOD 2

Pensiynau ar gyfer partneriaid sy’n goroesi

87.            Pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif

88.            Pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod gohiriedig

89.            Pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod-bensiynwr

90.            Pensiwn profedigaeth: partner sy’n goroesi

91.            Lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang

92.            Lleiafswm pensiwn gwarantedig goroeswr

 

PENNOD 3

Pensiynau ar gyfer plant cymwys

93.            Pensiwn plentyn cymwys

94.            Ystyr “plentyn cymwys”

95.            Pensiwn plentyn cymwys ar farwolaeth aelod actif

96.            Pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod gohiriedig

97.            Pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr

98.            Cyfran benodedig

99.            Cynnydd mewn pensiwn plentyn cymwys pan nad oes partner sy’n goroesi

100.          Cynnydd ym mhensiwn plentyn cymwys os oedd yr aelod yn aelod â debyd pensiwn

101.          Pensiwn profedigaeth: plentyn cymwys

 

PENNOD 4

Cyfandaliadau o fuddion marwolaeth

102.          Ystyr “tâl terfynol”

103.          Ystyr “tâl blynyddol terfynol”

104.          Y person y mae cyfandaliad budd marwolaeth yn daladwy iddo

105.          Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod actif

106.          Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr

107.          Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth mewn achosion penodol

108.          Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod â chredyd pensiwn

 

PENNOD 5

Talu buddion marwolaeth

109.          Talu pensiynau o dan y Rhan hon

110.          Pensiynau partner sy’n goroesi a phensiynau plentyn cymwys: atal dros dro ac adennill

111.          Dyfarniadau dros dro o bensiynau plentyn cymwys: addasiadau diweddarach

112.          Addasu dyfarniadau plentyn cymwys o ganlyniad i adfer buddion pensiwn

113.          Addasu buddion i gydymffurfio â DC 2004 pan fydd farw aelodau dros 75 mlwydd oed

 

RHAN 7

Buddion ar gyfer aelodau â chredyd pensiwn

 

114.          Hawlogaeth i bensiwn aelod â chredyd pensiwn

115.          Cyfradd flynyddol pensiwn aelod â chredyd pensiwn

116.          Lleihau buddion aelod â debyd pensiwn

117.          Hawliau aelod â chredyd pensiwn

118.          Cymudo rhan o bensiwn

 

RHAN 8

Cyfraniadau

PENNOD 1

Cyfraniadau aelodau

119.          Cyfraniadau aelodau

120.          Cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch, anaf, anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig

121.          Cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn

122.          Cyfraniadau yn ystod absenoldeb cysylltiedig â phlentyn

123.          Didynnu a thalu cyfraniadau

124.          Atodlen 1 (taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol)

 

PENNOD 2

Ad-dalu cyfraniadau aelod

125.          Ad-dalu holl gyfraniadau aelod a’r holl daliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol a wnaed gan aelod

 

PENNOD 3

Cyfraniadau cyflogwr

126.          Cyfraniadau cyflogwr

127.          Cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd

128.          Ad-dalu cyfraniad ychwanegol cyflogwr ar gyfer dyfarniad afiechyd, yn dilyn adolygiad

129.          Cyfraniad ychwanegol cyflogwr: ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr

 

RHAN 9

Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân

 

130.          Dehongli’r Rhan

131.          Sefydlu Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân

132.          Taliadau i mewn i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân

133.          Taliadau sydd i’w gwneud allan o Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân

134.          Gwybodaeth sydd i’w darparu i Weinidogion Cymru

135.          Amcangyfrifon o ddiffygion

136.          Amcangyfrifon o wargedion

137.          Diffygion gwirioneddol

138.          Gwargedion gwirioneddol

139.          Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth

 

RHAN 10

Trosglwyddiadau

PENNOD 1

Rhagarweiniol

140.          Cymhwyso’r Rhan hon

141.          Dehongli mewn perthynas â’r Rhan hon

 

 

PENNOD 2

Trosglwyddiadau allan

142.          Taliadau trosglwyddo a wneir i gynlluniau neu drefniadau pensiwn eraill

143.          Cais am ddatganiad o hawlogaeth

144.          Datganiad o hawlogaeth

145.          Cais am wneud taliad trosglwyddo

146.          Cyfrifo swm gwerth trosglwyddiad neu werth trosglwyddiad clwb

147.          Effaith trosglwyddiadau allan

 

PENNOD 3

Trosglwyddiadau i mewn

148.          Cymhwyso’r Bennod

149.          Dehongli’r Bennod

150.          Cais am dderbyn taliad trosglwyddo

151.          Datganiad trosglwyddo

152.          Swm pensiwn trosglwyddedig

153.          Datganiad o werth trosglwyddiad clwb

154.          Swm pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb

 

PENNOD 4

Trosglwyddo cofnodion cyfrif pensiwn i reolwr cynllun arall

155.          Gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif

156.          Cais am gadarnhau manylion ar dystysgrif

157.          Apêl ynghylch cofnodion ar dystysgrif

158.          Trosglwyddo cofnodion cyfrif pensiwn

 

RHAN 11

Prisiadau actiwaraidd

 

159.          Penodi actiwari’r cynllun a phrisiadau actiwaraidd

160.          Cap ar gostau cyflogwyr

 

RHAN 12

Penderfyniadau ac apelau

PENNOD 1

Penderfyniadau a rôl YMCA

161.          Penderfyniadau gan y rheolwr cynllun

162.          Rôl YMCA mewn penderfyniadau gan y rheolwr cynllun

163.          Adolygu barn feddygol

 

PENNOD 2

Apelau i’r Bwrdd Canolwyr Meddygol

164.          Apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol

165.          Hysbysiad o apêl

166.          Cyfeirio apêl i’r bwrdd

167.          Y weithdrefn pan wneir apêl

168.          Adroddiad y bwrdd

169.          Ailystyried gan y bwrdd

170.          Ffioedd a lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd

171.          Treuliau pob un o’r partïon

172.          Hysbysiadau etc.

 

PENNOD 3

Apelau ar faterion eraill

173.          Apelau ar faterion eraill

 

RHAN 13

Atodol

PENNOD 1

Talu pensiynau

174.          Talu addasiad mynegai ymddeol yn hwyr

175.          Adennill gordaliad o fuddion

176.          Lleiafswm pensiwn gwarantedig

177.          Cymudo pensiynau bach

178.          Taliadau ar gyfer personau sy’n analluog i reoli eu busnes eu hunain

179.          Taliadau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â phersonau a fu farw

180.          Cyfyngiad ar aseinio buddion

 

PENNOD 2

Fforffedu

181.          Fforffedu: troseddau a gyflawnir gan aelodau, partneriaid sy’n goroesi neu blant cymwys

182.          Fforffedu pensiynau: troseddau a gyflawnir gan bersonau eraill

183.          Fforffedu cyfandaliad budd marwolaeth: troseddau a gyflawnir gan bersonau eraill

184.          Fforffedu: rhwymedigaethau ariannol perthnasol a cholledion ariannol perthnasol

185.          Gwrthgyfrif

186.          Fforffedu a gwrthgyfrif: gweithdrefn

 

PENNOD 3

Talu a didynnu treth

187.          Gweinyddwr cynllun at ddibenion Deddf Cyllid 2004

188.          Talu’r tâl lwfans oes ar ran aelodau

189.        Lleihau buddion pan fo tâl lwfans oes yn daladwy

190.          Gwybodaeth ynghylch talu tâl lwfans oes

191.          Lleihau buddion pan fo tâl lwfans oes wedi ei dalu gan reolwr cynllun

 

PENNOD 4

Cyffredinol

192.          Cyfrifo cyfnodau o aelodaeth a gwasanaeth

193.          Datganiadau blynyddol o wybodaeth am fuddion

194.          Tystiolaeth o hawlogaeth

195.          Gwybodaeth sydd i’w darparu i aelod cyn absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn

196.          Darpariaethau trosiannol

197.          Dyletswydd i roi sylw i ganllawiau

 

YR ATODLENNI

         ATODLEN 1  —  Taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol

                RHAN 1  —  Dehongli

                RHAN 2

         ATODLEN 2  —  Darpariaethau trosiannol

                RHAN 1  —  Cyffredinol

                RHAN 2  —  Aelodau diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT

                RHAN 3  —  Eithriadau i adran 18(1) o Ddeddf 2013: aelodau diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT

                  RHAN 4  —  Cynllun 1992

         

                           

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f)([1]), 2(1), 3(1), (2), (3)(a) ac (c), 4(5) a (6), fel y’u darllenir ar y cyd ag adran 4(1)([2]), 7(2), 8(1)(a)([3]), 12(6) a (7), ac 18(5), (5A)([4]), (6) a (7), o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013([5]), a pharagraff 6(b) o Atodlen 2, Atodlen 3 a pharagraffau 20 a 21 o Atodlen 5, i’r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 21 o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y personau hynny y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru yr effeithir arnynt gan y Rheoliadau hyn.

RHAN 1

Rhagarweiniol

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2015.

Sefydlu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

2.(1)(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu cynllun ar gyfer talu pensiynau a buddion eraill i, neu mewn cysylltiad â, gweithwyr tân ac achub([6]) sy’n ddiffoddwyr tân yng Nghymru.

(2) Enw’r cynllun hwn yw Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015.

Dehongli

3. Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu’n wahanol,

ystyr “absenoldeb cysylltiedig â phlentyn” (“child-related leave”) yw—

(a)     absenoldeb mabwysiadu arferol,

(b)     absenoldeb mamolaeth arferol,

(c)     absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu ychwanegol,

(d)     absenoldeb tadolaeth,

(e)     absenoldeb tadolaeth ychwanegol, neu

(f)      cyfnod o absenoldeb rhiant;

ystyr “absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn” (“reserve forces service leave”) yw absenoldeb o ddyletswydd oherwydd galwad allan neu adalwad i wasanaethu’n barhaol yn lluoedd arfog Ei Mawrhydi o ganlyniad i hysbysiad galw allan a gyflwynwyd, neu orchymyn galw allan neu adalw a wnaed, o dan Ddeddf Lluoedd Wrth Gefn 1996 neu absenoldeb yn ystod hyfforddiant a wneir yn ofynnol o dan adran 22 neu a ganiateir o dan adran 27 o’r Ddeddf honno([7]);

ystyr “absenoldeb mabwysiadu arferol” (“ordinary adoption leave”) yw absenoldeb o dan adran 75A o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996([8]);

ystyr “absenoldeb mabwysiadu ychwanegol” (“additional adoption leave”) yw absenoldeb o dan adran 75B o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996([9]);

ystyr “absenoldeb mamolaeth arferol” (“ordinary maternity leave”) yw absenoldeb o dan adran 71 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996([10]);

ystyr “absenoldeb mamolaeth ychwanegol” (“additional maternity leave”) yw absenoldeb o dan adran 73 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996([11]);

mae i “absenoldeb rhiant” (“parental leave”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhiant etc. 1999([12]);

ystyr “absenoldeb tadolaeth” (“paternity leave”) yw absenoldeb o dan reoliad 4 neu 8 o Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002([13]);

ystyr “absenoldeb tadolaeth ychwanegol” (“additional paternity leave”) yw absenoldeb o dan Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol 2010([14]);

ystyr “actiwari’r cynllun” (“scheme actuary”) yw’r actiwari a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 159 (penodi actiwari’r cynllun a phrisiadau actiwaraidd);

ystyr “addasiad mynegai” (“index adjustment”) yw—

(a)     mewn perthynas â’r balans agoriadol o bensiwn enilledig ar gyfer unrhyw flwyddyn gynllun, y newid mewn enillion ar gyfer y flwyddyn gynllun flaenorol([15]), a

(b)     mewn perthynas â’r balans agoriadol o bensiwn enilledig trosglwyddiad clwb ar gyfer unrhyw flwyddyn gynllun, y mynegai ailbrisio mewn-gwasanaeth y byddai’r cynllun sy’n anfon wedi cymhwyso i’r pensiwn trosglwyddedig ar gyfer y flwyddyn gynllun honno, pe na bai’r pensiwn wedi ei drosglwyddo;

ystyr “addasiad mynegai DPC” (“PIA index adjustment”), mewn perthynas â balans agoriadol pensiwn ychwanegol ar gyfer unrhyw flwyddyn gynllun, yw swm y cynnydd y byddid wedi ei wneud yn y flwyddyn honno o dan DPC 1971, yng nghyfradd flynyddol pensiwn o swm hafal i’r balans agoriadol, pe bai—

(a)     y pensiwn hwnnw’n gymwys i’w gynyddu felly, a

(b)     diwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol flaenorol yn ddyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw;

mae i “addasiad mynegai DPC ymddeol” (“retirement PIA index adjustment”), mewn perthynas â swm pensiwn cronedig, yr ystyr a roddir yn rheoliad 34 (cyfrifo “addasiad mynegai DPC ymddeol”);

mae i “addasiad mynegai ymddeol” (“retirement index adjustment”), mewn perthynas â swm pensiwn cronedig, yr ystyr a roddir yn rheoliad 33 (cyfrifo “addasiad mynegai ymddeol”);

ystyr “aelod” (“member”), mewn perthynas â’r cynllun hwn, yw aelod actif, aelod gohiriedig, neu aelod-bensiynwr o’r cynllun hwn;

mae i “aelod â chredyd pensiwn” (“pension credit member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 30 (aelod â chredyd pensiwn);

ystyr “aelod â debyd pensiwn” (“pension debit member”), mewn perthynas â’r cynllun hwn, yw person sy’n aelod o’r cynllun hwn ac y mae ei fuddion, neu ei fuddion yn y dyfodol, o dan y cynllun hwn wedi eu lleihau o dan adran 31 o DDLlPh 1999 (lleihau budd o dan orchymyn rhannu pensiwn);

mae i “aelod a ddiogelir” (“protected member”), mewn perthynas â Chynllun 1992 neu CPNDT, yr ystyr a roddir yn Atodlen 2;

mae i “aelod actif” (“active member”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 28 (aelodaeth actif);

mae i “aelod gohiriedig” (“deferred member”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 29 (aelodaeth ohiriedig);

mae i “aelod trosiannol” (“transition member”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 1 o Atodlen 2;

ystyr “aelod-bensiynwr” (“pensioner member”), mewn perthynas â’r cynllun hwn, yw person sydd â’r hawl ganddo i gael taliad o bensiwn ymddeol ar unwaith o dan y cynllun hwn;

mae i “aelod-oroeswr” (“survivor member”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 61 (sefydlu cyfrif aelod-oroeswr);

mae i “anghydfod undebol” yr ystyr a roddir i “trade dispute” yn adran 218 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992([16]);

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru, y penderfynwyd arno yn unol ag adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004([17]);

mae i “balans agoriadol” (“opening balance”), mewn perthynas â disgrifiad o bensiwn ar gyfer blwyddyn gynllun ac eithrio pensiwn ychwanegol, yr ystyr a roddir yn rheoliad 44 (balans agoriadol, addasiad mynegai ac ychwanegiad oedran) ac mewn perthynas â phensiwn ychwanegol, yr ystyr a roddir yn rheoliad 49 (y cyfrif i bennu’r balans agoriadol a’r addasiad mynegai DPC);

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o un flwyddyn sy’n dechrau gydag 1 Ebrill ac yn diweddu gyda 31 Mawrth;

ystyr “blwyddyn dreth” (“tax year”) yw cyfnod o un flwyddyn sy’n gyfnod asesu at ddibenion treth incwm;

ystyr “blwyddyn gynllun” (“scheme year”) yw cyfnod o un flwyddyn sy’n dechrau gydag 1 Ebrill ac yn diweddu gyda 31 Mawrth;

ystyr “blwyddyn gynllun actif olaf” (“last active scheme year”) yw’r flwyddyn gynllun pan fo aelod actif o’r cynllun hwn yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn;

ystyr “blwyddyn ymadael” (“leaving year”) yw’r flwyddyn gynllun y mae’r diwrnod olaf perthnasol yn digwydd ynddi;

ystyr “buddion marwolaeth” (“death benefits”) yw

un rhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)     pensiwn partner sy’n goroesi,

(b)     pensiwn plentyn cymwys, neu

(c)     cyfandaliad budd marwolaeth;

ystyr “buddion ymddeol” (“retirement benefits”) yw buddion sy’n daladwy o dan Ran 5 (buddion ymddeol);

ystyr “Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru” (“Firefighters’ Pensions Scheme Advisory Board for Wales”) yw bwrdd a sefydlwyd o dan reoliad 10 (bwrdd cynghori’r cynllun: sefydlu);

ystyr “bwrdd pensiynau lleol” (“local pension board”) yw bwrdd a sefydlir o dan reoliad 5 (byrddau pensiynau lleol: sefydlu);

ystyr “canllawiau actiwaraidd” (“actuarial guidance”) yw canllawiau actiwaraidd a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun;

ystyr “cofrestredig” (“registered”), mewn perthynas â chynllun pensiwn, yw cofrestredig o dan Bennod 2 o Ran 4 (cofrestru cynlluniau pensiwn) o DC 2004;

ystyr “CPNDT” (“NFPS”) yw Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007([18]);

ystyr “credyd pensiwn” (“pension credit”) yw credyd o dan adran 29(1)(b) o DDLlPh 1999;

ystyr “cyfanswm y dyraniad” (“total allocation amount”), mewn perthynas â swm pensiwn ymddeol, yw cyfanswm y pensiwn hwnnw a ddyrennir o dan Bennod 6 o Ran 5 (buddion ymddeol);

mae i “cyflogaeth gynllun” (“scheme employment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 15 (cyflogaeth gynllun);

ystyr “cyflogaeth reolaidd” (“regular employment”) yw cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd am gyfnod o ddim llai na 12 mis yn olynol gan ddechrau gyda'r dyddiad pan fo mater galluogrwydd person i wneud gwaith cyflogedig yn codi;

mae i “cyflogwr cynllun” (“scheme employer”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 15 (cyflogaeth gynllun);

ystyr “cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy” (“continuous period of pensionable service”), mewn perthynas â’r cynllun hwn, yw cyfnod o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn gan ddiystyru unrhyw fwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd, oni ddarperir yn wahanol;

ystyr “cyfnod tâl” (“pay period”) yw’r cyfnod y gwneir taliad o dâl pensiynadwy mewn cysylltiad ag ef;

mae i “cyfradd wythnosol”, mewn perthynas â lleiafswm pensiwn gwarantedig, yr ystyr a roddir i “weekly rate” yn rheoliad 55(2) o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996([19]);

mae i “cyfran benodedig” (“specified proportion”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 98 (cyfran benodedig);

mae i “cyfraniadau aelodau” (“member contributions”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 119(8) (cyfraniadau aelodau);

mae i “cyfrif aelod â chredyd pensiwn” (“pension credit member’s account”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 63 (sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn);

ystyr “cyfrif aelod actif” (“active member’s account”) yw’r cyfrif a sefydlwyd o dan reoliad 40 (sefydlu cyfrif aelod actif);

mae i “cyfrif aelod gohiriedig” (“deferred member’s account”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 53 (sefydlu cyfrif aelod gohiriedig);

mae i “cyfrif ymddeol” (“retirement account”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 59 (sefydlu cyfrif ymddeol ac addasiadau eraill);

ystyr “Cynllun 1992” (“1992 Scheme”) yw Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 fel y’i nodir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992([20]) ac fel y mae’n cael effaith yng Nghymru;

ystyr “cynllun clwb” (“club scheme”) yw cynllun pensiwn galwedigaethol cofrestredig (ac eithrio cynllun cysylltiedig) sydd wedi cytuno i wneud a derbyn taliadau gwerth trosglwyddiad clwb o dan y trefniadau trosglwyddiadau clwb;

ystyr “cynllun cysylltiedig” (“connected scheme”) yw cynllun pensiwn statudol arall sy’n gysylltiedig â’r cynllun hwn o fewn ystyr adran 4(6) o Ddeddf 2013;

ystyr “y cynllun hwn” (“this scheme”) yw’r cynllun a sefydlir gan y Rheoliadau hyn;

mae i “cynllun pensiwn galwedigaethol” (“occupational pension scheme”) yr ystyr a roddir yn adran 1 o DCauP 1993([21]);

ystyr “cynllun pensiwn personol” yw cynllun pensiwn personol o fewn y diffiniad o “personal pension scheme” yn adran 1 o DCauP 1993 sydd yn gynllun pensiwn cofrestredig;

ystyr “cynllun sy’n anfon” (“sending scheme”) yw cynllun clwb sy’n talu gwerth trosglwyddiad clwb;

ystyr “DC 2004” (“FA 2004”) yw Deddf Cyllid 2004([22]);

ystyr “DCauP 1993” (“PSA 1993”) yw Deddf Cynlluniau Pensiwn 1993([23]);

ystyr “DDLlPh 1999” (“WRPA 1999”) yw Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999([24]);

ystyr “Deddf 2013” (“2013 Act”) yw Deddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013;

ystyr “DPC 1971” (“PIA 1971”) yw Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1971([25]);

ystyr “dewisiad i ddyrannu” (“allocation election”) yw dewisiad o dan reoliad 81 (dewisiad i ddyrannu);

ystyr “dewisiad pensiwn ychwanegol” (“added pension election”) yw’r dewisiad i wneud taliadau pensiwn ychwanegol;

ystyr “diffoddwr tân gwirfoddol” (“volunteer firefighter”) yw person (P) sy’n cymryd rhan weithredol mewn ymladd tân ar gyfer awdurdod—

(a)     fel diffoddwr tân, ond nid fel diffoddwr rheolaidd na diffoddwr tân wrth gefn,

(b)     ar delerau y mae’n ofynnol oddi tanynt, neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol oddi tanynt, fod P yn ymladd tân, neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill sy'n briodol i rôl P fel diffoddwr tân (pa un ai yn lle ymladd tân, neu'n ychwanegol at ymladd tân),

(c)     rhywfodd ac eithrio ar sail dros dro, a

(d)     sydd dan rwymedigaeth i fod yn bresennol ar y cyfryw adegau a ystyrir yn angenrheidiol gan y swyddog cyfrifol ac yn unol â’r gorchmynion a gaiff P;

ystyr “diffoddwr tân rheolaidd” (“regular firefighter”) yw person (P) a gyflogir (pa un ai am amser cyflawn neu'n rhan amser) gan awdurdod—

(a)     fel diffoddwr tân, ond nid fel diffoddwr tân wrth gefn na diffoddwr tân gwirfoddol,

(b)     ar delerau y mae’n ofynnol oddi tanynt, neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol oddi tanynt, fod P yn ymladd tân neu, heb doriad ym mharhad y cyfryw gyflogaeth, y caniateir ei gwneud yn ofynnol ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill sy'n briodol i rôl P fel diffoddwr tân (pa un ai yn lle ymladd tân, neu'n ychwanegol at ymladd tân), ac

(c)     rhywfodd ac eithrio ar sail dros dro;

ystyr “diffoddwr tân wrth gefn” (“retained firefighter”) yw person (P) a gyflogir gan awdurdod—

(a)     fel diffoddwr tân, ond nid fel diffoddwr tân rheolaidd na diffoddwr tân gwirfoddol,

(b)     ar delerau y mae’n ofynnol oddi tanynt, neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol oddi tanynt, fod P yn ymladd tân neu, heb doriad ym mharhad y cyfryw gyflogaeth, y caniateir ei gwneud yn ofynnol ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill sy'n briodol i rôl P fel diffoddwr tân (pa un ai yn lle ymladd tân, neu'n ychwanegol at ymladd tân),

(c)     rhywfodd ac eithrio ar sail dros dro, a

(d)     sydd dan rwymedigaeth i fod yn bresennol ar y cyfryw adegau a ystyrir yn angenrheidiol gan y swyddog cyfrifol ac yn unol â’r gorchmynion a gaiff P;

ystyr “diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy” (“last day of pensionable service”) yw diwrnod olaf cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn;

ystyr “y diwrnod olaf perthnasol” (“the relevant last day”) yw—

(a)     yn achos aelod rhan-ymddeoledig, y diwrnod yr arferwyd yr opsiwn o ran-ymddeoliad, a

(b)     mewn achosion eraill, diwrnod olaf gwasanaeth pensiynadwy’r aelod;

mae i “dyddiad cau” (“closing date”), mewn perthynas ag aelod trosiannol, yr ystyr a roddir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 (darpariaethau trosiannol);

ystyr “dyddiad cychwyn” (“beginning date”), mewn perthynas â phensiwn nad yw’n briodoladwy (yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol) i gredyd pensiwn, yw’r dyddiad yr ystyrir bod y pensiwn yn cychwyn at ddiben adran 8(2) (ystyr “pension” a darpariaethau atodol eraill) o DPC 1971([26]);

ystyr “dyfarniad” (“award”) yw dyfarniad o fudd o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “dyfarniad afiechyd” (“ill-health award”) yw—

(a)     pensiwn afiechyd haen isaf, a

(b)     pensiwn afiechyd haen uchaf pan fo hwnnw hefyd wedi ei ddyfarnu;

ystyr “gorchymyn rhannu pensiwn” (“pension sharing order”) yw unrhyw ddarpariaeth neu orchymyn a bennir yn adran 28 o DDLlPh 1999([27]);

mae i “gostyngiad talu’n gynnar” (“early payment reduction”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 70 (gostyngiad talu’n gynnar);

ystyr “gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy” (“pensionable public service”) yw gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun presennol([28]) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol fel y’i diffinnir ym mharagraff 1 o Atodlen 2;

mae i “gwasanaeth cymwys” (“qualifying service”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 66 (gwasanaeth cymwys);

mae i “gwerth trosglwyddiad” neu “gwerth trosglwyddo” (“transfer value”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 141 (dehongli mewn perthynas â Rhan 10);

mae i “gwerth trosglwyddiad clwb” (“club transfer value”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 141 (dehongli mewn perthynas â Rhan 10);

mae i “hawliau credyd pensiwn” yr ystyr a roddir i “pension credit rights” yn adran 124(1) o Ddeddf Pensiynau 1995([29]);

mae i “lwfans blynyddol” (“annual allowance”) yr ystyr a roddir yn adran 228 (lwfans blynyddol) o DC 2004([30]);

ystyr “lleiafswm gwarantedig” (“guaranteed minimum”) yw’r lleiafswm gwarantedig fel y’i diffinnir yn adrannau 14([31]) (lleiafswm gwarantedig enillydd) ac 17([32]) (pensiynau lleiafswm ar gyfer gwragedd a gwŷr gweddw) o DCauP 1993—

(a)     fel y’i cynyddir yn unol ag adran 109([33]) o’r Ddeddf honno (cynnydd blynyddol mewn pensiynau lleiafswm gwarantedig), a

(b)     os gwnaed gostyngiad o dan adran 15A([34]) o’r Ddeddf honno (gostwng lleiafswm gwarantedig o ganlyniad i ddebyd pensiwn), fel y’i gostyngwyd yn unol â’r adran honno;

mae i “lluoedd wrth gefn” yr ystyr a roddir i “reserve forces” yn adran 1(2) o Ddeddf y Lluoedd Wrth Gefn 1996([35]);

ystyr “mynegai ailbrisio mewn-gwasanaeth” (“in-service revaluation index”), mewn perthynas â chynllun pensiwn, yw canran y cynnydd neu’r lleihad a wneir yn enillion pensiynadwy person, neu gyfran o’r enillion hynny sydd wedi cronni fel pensiwn, drwy’u hailbrisio tra bo’r person hwnnw mewn gwasanaeth pensiynadwy yn y cynllun pensiwn hwnnw;

ystyr “oedran LlPG” (“GMP age”) yw 65 yn achos dyn neu 60 yn achos menyw;

ystyr “oedran pensiwn arferol” (“normal pension age”), mewn perthynas â’r cynllun hwn, yw 60 fel sy’n ofynnol gan adran 10(2) o Ddeddf 2013;

mae “oedran pensiwn gohiriedig” (“deferred pension age”) yr un peth ag oedran pensiwn y wladwriaeth y person, neu 65 os yw 65 yn fwy;

ystyr “opsiwn cymudo” (“commutation option”) yw’r opsiwn i gyfnewid rhan o bensiwn am gyfandaliad—

(a)     sy’n arferadwy o dan reoliad 80 (opsiwn i gymudo rhan o’r pensiwn) mewn perthynas â phensiwn ymddeol, neu

(b)     sy’n arferadwy o dan reoliad 118 (cymudo rhan o bensiwn) mewn perthynas â phensiwn aelod â chredyd pensiwn;

ystyr “opsiwn o ran-ymddeoliad” (“partial retirement option”) yw’r opsiwn sy’n arferadwy o dan reoliad 72 (arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad);

mae i “parhad gwasanaeth” (“continuity of service”), mewn perthynas ag aelod trosiannol, yr ystyr a roddir ym mharagraff 2 o Atodlen 2;

mae i “partner sy’n cyd-fyw” (“cohabiting partner”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 85 (ystyr “partner sy’n goroesi”);

mae i “partner sy’n goroesi” (“surviving partner”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 85 (ystyr “partner sy’n goroesi”);

ystyr “pensiwn aelod â chredyd pensiwn” (“pension credit member’s pension”) yw pensiwn sy’n daladwy o dan reoliad 114 (hawlogaeth i bensiwn aelod â chredyd pensiwn);

ystyr “pensiwn afiechyd haen isaf” (“lower tier ill-health pension”) yw pensiwn afiechyd haen isaf sy’n daladwy o dan reoliad 74(1) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf);

ystyr “pensiwn afiechyd haen uchaf” (“higher tier ill-health pension”) yw pensiwn afiechyd haen uchaf sy’n daladwy o dan reoliad 74(2) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf);

ystyr “pensiwn enilledig” (“earned pension”) yw pensiwn enilledig sy’n daladwy heb ostyngiad actiwaraidd yn yr oedran pensiwn arferol;

mae i “pensiwn enilledig cronedig” (“accrued earned pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 32(3) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol);

ystyr “pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb” (“club transfer earned pension”) yw pensiwn sy’n briodoladwy i dderbyniad o daliad gwerth trosglwyddiad clwb;

mae i “pensiwn enilledig ymddeol” (“retirement earned pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 60(2) (y cyfrif i bennu swm y pensiwn ymddeol (aelodau actif));

ystyr “pensiwn partner sy’n goroesi” (“surviving partner’s pension”) yw pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi o dan reoliad 87 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif), rheoliad 88 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod gohiriedig) neu reoliad 89 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod-bensiynwr);

mae i “pensiwn plentyn cymwys” (“eligible child’s pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 93 (pensiwn plentyn cymwys);

ystyr “pensiwn trosglwyddedig” (“transferred pension”) yw pensiwn sydd i’w briodoli i dderbyn taliad gwerth trosglwyddiad;

mae i “pensiwn ychwanegol cronedig” (“accrued added pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 32(4) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol);

mae i “pensiwn ychwanegol ymddeol” (“retirement added pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 60(3) (y cyfrif i bennu swm y pensiwn ymddeol (aelodau actif));

ystyr “pensiwn ymddeol” (“retirement pension”) yw—

(a)     mewn perthynas ag aelod-bensiynwr a oedd yn aelod actif ar yr adeg yr hawliodd bensiwn ymddeol, pensiwn enilledig ymddeol, a phensiwn ychwanegol ymddeol (os oes un);

(b)     mewn perthynas ag aelod-bensiynwr a oedd yn aelod gohiriedig ar yr adeg yr hawliodd bensiwn ymddeol, swm y pensiwn gohiriedig ymddeol;

mae i “person cymwys” (“eligible person”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 16 (personau cymwys);

mae i “plentyn cymwys” (“eligible child”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 94 (ystyr “plentyn cymwys”);

ystyr “rôl” (“role”), mewn perthynas â diffoddwr tân, yw’r rôl y cyflogir y diffoddwr tân ynddi am y tro, sef rôl a nodir yn “Fire and Rescue Services Rolemaps” a ddyroddwyd gan Gyd-gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achub yr Awdurdodau Lleol yn Awst 2005([36]);

mae i “rheolwr cynllun” (“scheme manager”), ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu’n wahanol, yr ystyr a roddir yn rheoliad 4 (rheolwr cynllun);

mae i “swm dros dro o bensiwn gohiriedig” (“provisional amount of deferred pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 54 (swm dros dro o bensiwn gohiriedig);

ystyr “swm y cymudiad” (“the commutation amount”), mewn perthynas â phensiwn, yw swm y pensiwn a gyfnewidir am gyfandaliad o ganlyniad i arfer yr opsiwn cymudo;

ystyr “swm y dyraniad” (“allocation amount”) yw swm y pensiwn a ddyrennir o ganlyniad i wneud dewisiad i ddyrannu;

mae i “swm y pensiwn enilledig cronedig” (“amount of accrued earned pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 32(3) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol);

mae i “swm y pensiwn gohiriedig ymddeol” (“retirement amount of deferred pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 55(3) (swm y pensiwn gohiriedig ymddeol);

ystyr “swm y pensiwn ychwanegol” (“amount of added pension”) yw’r symiau a gredydir i’r cyfrif pensiwn ychwanegol o dan baragraffau 11 neu 14 o Atodlen 1;

mae i “swm y pensiwn ychwanegol cronedig” (“amount of accrued added pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 32(4) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol);

ystyr “tâl cyfeirio” (“reference pay”), mewn perthynas â thâl diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol am unrhyw gyfnod, yw tâl pensiynadwy cyfwerth ag amser cyflawn am y cyfnod hwnnw y byddai diffoddwr tân rheolaidd sy'n cael ei gyflogi mewn rôl debyg a chyda gwasanaeth cymwys cyfwerth yn ei gael;

mae i “tâl lwfans blynyddol” (“annual allowance charge”) yr ystyr a roddir yn adran 227 (tâl lwfans blynyddol) o DC 2004([37]);

mae i “tâl pensiynadwy” (“pensionable pay”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 26 (tâl pensiynadwy);

mae i “tâl pensiynadwy tybiedig” (“assumed pensionable pay”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 27 (ystyr “tâl pensiynadwy tybiedig”);

ystyr “tâl statudol” (“statutory pay”) yw—

(a)     tâl mabwysiadu statudol yn yr ystyr a roddir i “statutory adoption pay” yn adran 171ZL(1) (hawlogaeth) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992([38]),

(b)     tâl mamolaeth statudol yn yr ystyr a roddir i “statutory materity pay” yn adran 164(1) (tâl mamolaeth statudol – hawlogaeth a rhwymedigaeth i dalu) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992([39]),

(c)     tâl tadolaeth statudol arferol yn yr ystyr a roddir i “ordinary statutory paternity pay” yn adran 171ZA(1) (hawlogaeth: genedigaeth) neu 171ZB(1) (hawlogaeth: mabwysiadu) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992([40]), neu

(d)     tâl tadolaeth statudol ychwanegol yn yr ystyr a roddir i “additional statutory paternity pay” yn adran 171ZEA(1) (hawlogaeth i gael tâl tadolaeth statudol ychwanegol: genedigaeth) neu 171ZEB(1) (hawlogaeth i gael tâl tadolaeth statudol ychwanegol: mabwysiadu) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992([41]);

ystyr “taliad gwerth trosglwyddiad” (“transfer value payment”) yw taliad o werth trosglwyddiad;

ystyr “taliad gwerth trosglwyddiad clwb” (“club transfer value payment”) yw taliad o werth trosglwyddiad clwb;

ystyr “taliad trosglwyddo” (“transfer payment”) yw taliad gwerth trosglwyddiad neu daliad gwerth trosglwyddiad clwb;

ystyr “taliadau pensiwn ychwanegol” (“added pension payments”) yw naill ai taliadau rheolaidd neu gyfandaliad ar gyfer pensiwn ychwanegol, a wneir i’r cynllun hwn;

ystyr “trefniadau trosglwyddiadau clwb” (“club transfer arrangements”) yw trefniadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru fel rhai sy’n darparu trefniadau cilyddol rhwng y cynllun hwn a chynlluniau pensiwn galwedigaethol cofrestredig eraill ar gyfer gwneud a chael taliadau o werthoedd trosglwyddiad clwb;

ystyr “trosglwyddiad clwb” (“club transfer”) yw trosglwyddiad i mewn i’r cynllun hwn neu allan ohono o dan y trefniadau trosglwyddiadau clwb;

mae i “ychwanegiad oedran” (“age addition”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 35 (penderfynu’r “ychwanegiad oedran”);

mae i “ychwanegiad oedran tybiedig” (“assumed age addition”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 36 (penderfynu’r “ychwanegiad oedran tybiedig”);

ystyr “YMCA” (“IQMP”) yw ymarferydd meddygol sydd â diploma mewn meddygaeth alwedigaethol neu gymhwyster cyfwerth neu uwch a ddyroddwyd gan awdurdod cymwys mewn Gwladwriaeth AEE, neu sy’n Gydymaith, Aelod neu Gymrawd o’r Gyfadran Meddygaeth Alwedigaethol neu sefydliad cyfwerth mewn Gwladwriaeth AEE; ac at ddibenion y diffiniad hwn, mae i “awdurdod cymwys” yr ystyr a roddir i “competent authority” yn adran 55(1) o Ddeddf Feddygol 1983([42]).

                          RHAN 2

Llywodraethu

Rheolwr cynllun

4.(1)(1) Mae awdurdod yn gyfrifol am reoli a gweinyddu’r cynllun hwn, ac unrhyw gynllun statudol sy’n gysylltiedig â’r cynllun hwn([43]), mewn perthynas ag unrhyw berson y mae’n awdurdod priodol ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn.

(2) Yr awdurdod priodol mewn perthynas â pherson—

(a)     sydd neu a fu yn aelod o’r cynllun hwn; neu

(b)     sydd â hawl i gael unrhyw fudd mewn cysylltiad â pherson sydd neu a fu yn aelod o’r cynllun hwn,

yw’r awdurdod a oedd yn cyflogi’r aelod hwnnw ddiwethaf, tra oedd yn aelod actif o’r cynllun hwn.

(3) Yr awdurdod priodol mewn perthynas ag aelod â chredyd pensiwn yw’r awdurdod a oedd yn gyfrifol am gyfrif pensiwn yr aelod â debyd pensiwn ar ddyddiad effeithiol y gorchymyn rhannu pensiwn.

(4) Yn y cynllun hwn, cyfeirir at yr awdurdod priodol fel y rheolwr cynllun.

Byrddau pensiynau lleol: sefydlu

5.(1)(1) Rhaid i bob rheolwr cynllun sefydlu bwrdd pensiynau (“bwrdd pensiynau lleol”) i fod yn gyfrifol am gynorthwyo’r rheolwr cynllun—

(a)     i sicrhau y cydymffurfir ag—

                           (i)    y Rheoliadau hyn;

                         (ii)    unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n ymwneud â llywodraethu a gweinyddu’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig, ac â’r ddarpariaeth o fuddion o dan y cynllun hwn;

                       (iii)    unrhyw ofynion a osodir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau mewn perthynas â’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig;

(b)     i sicrhau y llywodraethir ac y gweinyddir y cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig yn effeithiol ac effeithlon yn lleol.

(2) Caiff rheolwr cynllun benderfynu pa weithdrefnau fydd yn gymwys i fwrdd pensiynau lleol, gan gynnwys gweithdrefnau ynglŷn â hawliau pleidleisio, sefydlu is-bwyllgorau a thalu treuliau.

(3) Mae gan fwrdd pensiynau lleol y pŵer i wneud unrhyw beth a gynlluniwyd i hwyluso, neu sy’n ffafrio neu’n gysylltiedig â chyflawni unrhyw un o’i swyddogaethau.

Bwrdd pensiynau lleol: aelodaeth

6.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) rhaid i bob rheolwr cynllun benderfynu ar—

(a)     aelodaeth y bwrdd pensiynau lleol;

(b)     y modd y caniateir penodi a diswyddo aelodau o’r bwrdd pensiynau lleol;

(c)     telerau penodi aelodau o’r bwrdd pensiynau lleol, gan gynnwys parhad eu penodiad.

(2) Rhaid i fwrdd pensiynau lleol gynnwys niferoedd cyfartal, sef dim llai na 4, o gynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr aelodau([44]) ac at y dibenion hyn rhaid i’r rheolwr cynllun fod wedi ei fodloni bod person a benodir—

(a)     fel cynrychiolydd cyflogwr, yn berson sydd â’r gallu i gynrychioli cyflogwyr ar y bwrdd pensiynau lleol;

(b)     fel cynrychiolydd aelodau, yn berson sydd â’r gallu i gynrychioli aelodau ar y bwrdd pensiynau lleol.

(3) Drwy gydol cyfnod penodiad person a benodwyd yn aelod o fwrdd pensiynau lleol i gynrychioli cyflogwyr neu aelodau, yn ôl fel y digwydd, rhaid i reolwr cynllun fod wedi ei fodloni bod yr aelod yn parhau i feddu’r gallu i gynrychioli cyflogwyr neu aelodau, yn ôl fel y digwydd, ar fwrdd pensiynau lleol.

(4) Rhaid i berson sydd i’w benodi yn aelod o fwrdd pensiynau lleol gan reolwr cynllun i gynrychioli cyflogwyr neu aelodau, yn ôl fel y digwydd, ddarparu i’r rheolwr cynllun pa bynnag wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan reolwr y cynllun at ddibenion paragraff (2).

(5) Rhaid i berson sy’n aelod o fwrdd pensiynau lleol a benodwyd i gynrychioli cyflogwyr neu aelodau, yn ôl fel y digwydd, ddarparu i’r rheolwr cynllun a wnaeth y penodiad, pa bynnag wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan reolwr y cynllun at ddibenion paragraff (3).

(6) Caiff y rheolwr cynllun benodi personau, nad ydynt yn aelodau o’r bwrdd pensiynau lleol, yn aelodau ymgynghorol di-bleidlais o’r bwrdd pensiynau lleol, a chaiff yr aelodau hynny, drwy wahoddiad, fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o’r bwrdd pensiynau lleol ac unrhyw is-bwyllgor o’r bwrdd pensiynau lleol.

(7) Rhaid i nifer yr aelodau ymgynghorol di-bleidlais o’r bwrdd pensiynau lleol fod yn llai na nifer y cynrychiolwyr cyflogwyr, ac yn llai hefyd na nifer y cynrychiolwyr aelodau.

(8) Bydd aelod ymgynghorol o’r bwrdd pensiynau lleol yn dal ei swydd ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad yr aelod hwnnw.

(9) Ni chaiff aelod neu swyddog o awdurdod, sy’n gyfrifol am gyflawni unrhyw swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn, (ac eithrio unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â bwrdd pensiynau lleol neu Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru) fod yn aelod o fwrdd pensiynau lleol.

Byrddau pensiynau lleol: gwrthdrawiad buddiannau

7.(1)(1) Rhaid i bob rheolwr cynllun fod wedi ei fodloni nad oes gan unrhyw berson, sydd i’w benodi yn aelod o fwrdd pensiynau lleol, fuddiannau sy’n gwrthdaro([45]).

(2) Rhaid i reolwr cynllun fodloni ei hunan o bryd i’w gilydd nad oes gan yr un o aelodau’r bwrdd pensiynau lleol fuddiannau sy’n gwrthdaro.

(3) Rhaid i berson sydd i’w benodi yn aelod o fwrdd pensiynau lleol gan reolwr cynllun, ddarparu i’r awdurdod hwnnw y cyfryw wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan yr awdurdod at ddibenion paragraff (1).

(4) Rhaid i berson sydd yn aelod o fwrdd pensiynau lleol ddarparu i’r rheolwr cynllun a wnaeth y penodiad, y cyfryw wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan yw awdurdod hwnnw at ddibenion paragraff (2).

Byrddau pensiynau lleol: canllawiau a chyngor

8. Rhaid i reolwr cynllun roi sylw i’r canlynol—

(a)     canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â byrddau pensiynau lleol; a

(b)     cyngor a roddir gan Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru mewn perthynas â gweinyddu a rheoli’r cynllun yn effeithiol ac effeithlon;

(c)     codau ymarfer a ddyroddir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau o dan adran 90A (codau ymarfer: cynlluniau pensiynau’r gwasanaethau cyhoeddus) o Ddeddf Pensiynau 2004([46]).

Byrddau pensiynau lleol: cyhoeddi gwybodaeth

9.(1)(1) Rhaid i reolwr cynllun gyhoeddi’r wybodaeth ganlynol ynglŷn â’i fwrdd pensiynau lleol—

(a)     pwy sy’n aelodau o’r bwrdd;

(b)     cynrychiolaeth aelodau’r cynllun ar y bwrdd; ac

(c)     y materion sy’n dod o fewn cyfrifoldeb y bwrdd.

(2) Rhaid i reolwr cynllun gadw’n gyfredol yr wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (1).

Bwrdd cynghori’r cynllun: sefydlu

10.(1)(1) Bydd bwrdd cynghori ar gyfer y cynllun (“Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru”).

(2) Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu cyngor, mewn ymateb i gais gan Weinidogion Cymru, ar y materion canlynol—

(a)     dymunoldeb gwneud newidiadau i’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig; a

(b)     unrhyw fater arall yr ystyria’n berthnasol o ran gweithredu’r cynllun hwn yn effeithiol ac effeithlon.

(3) Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru sy’n gyfrifol hefyd am ddarparu cyngor i reolwyr cynllun a byrddau pensiynau lleol mewn perthynas â gweinyddu a rheoli’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig yn effeithiol ac effeithlon.

(4) Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, caiff Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru benderfynu ar ei weithdrefnau ei hunan, gan gynnwys gweithdrefnau ynglŷn â hawliau pleidleisio, sefydlu is-bwyllgorau, talu lwfansau mynychu rhesymol ac unrhyw dreuliau rhesymol mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau, fel yr ystyrir yn angenrheidiol ym marn y Bwrdd.

Bwrdd cynghori’r cynllun: aelodaeth

11.(1)(1) Bydd Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru yn cynnwys cadeirydd ac o leiaf ddau, ond dim mwy na 12 person, sydd i’w penodi gan Weinidogion Cymru.

(2) Wrth benderfynu pa un ai i wneud penodiad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb cael niferoedd cyfartal o bersonau yn cynrychioli buddiannau cyflogwyr cynllun a phersonau yn cynrychioli buddiannau aelodau.

(3) Bydd aelod o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad yr aelod hwnnw.

(4) Caiff cadeirydd Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru, gyda chytundeb y Bwrdd, benodi personau nad ydynt yn aelodau o’r Bwrdd yn aelodau ymgynghorol di-bleidlais o’r Bwrdd, a chaiff yr aelodau hynny, drwy wahoddiad, fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o’r Bwrdd ac unrhyw is-bwyllgor o’r Bwrdd.

(5) Bydd aelod ymgynghorol o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad yr aelod hwnnw.

(6) Caiff cadeirydd Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru, gyda chytundeb y Bwrdd, benodi personau nad ydynt yn aelodau o’r Bwrdd i fod yn aelodau o is-bwyllgorau o’r Bwrdd.

(7) Bydd aelod o is-bwyllgor o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad yr aelod hwnnw.

Bwrdd cynghori’r cynllun: gwrthdrawiad buddiannau

12.(1)(1) Cyn penodi unrhyw berson i fod yn aelod o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni nad oes gan y person hwnnw fuddiannau sy’n gwrthdaro([47]).

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru fodloni eu hunain o bryd i’w gilydd nad oes gan yr un o aelodau Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru fuddiannau sy’n gwrthdaro.

(3) Rhaid i berson sydd i’w benodi yn aelod o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru ddarparu i Weinidogion Cymru ba bynnag wybodaeth y gofynnant amdani yn rhesymol at ddibenion paragraff (1).

(4) Rhaid i berson sydd yn aelod o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru ddarparu i Weinidogion Cymru ba bynnag wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan Weinidogion Cymru at ddibenion paragraff (2).

Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru: canllawiau

13. Rhaid i Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag arfer gan y Bwrdd ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Dirprwyo

14.(1)(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddirprwyo unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, gan gynnwys y pŵer hwn i ddirprwyo.

(2) Caiff y rheolwr cynllun ddirprwyo unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, gan gynnwys y pŵer hwn i ddirprwyo, i’r cyfryw bersonau neu gyflogeion y cyfryw berson a awdurdodir yn y cyswllt hwnnw gan y rheolwr cynllun.

RHAN 3

Aelodaeth o’r cynllun

PENNOD 1

Cymhwystra ar gyfer aelodaeth actif

Cyflogaeth gynllun

15.(1)(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person mewn cyflogaeth gynllun os yw’r person hwnnw yn gyflogedig fel diffoddwr tân gan awdurdod ac yn bodloni’r gofyniad ym mharagraff (2) neu baragraff (3).

(2) Mae person a ddaeth yn gyflogedig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015 yn bodloni’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw rôl y person hwnnw pan yw’n ymgymryd â’r gyflogaeth yn cynnwys—

(a)     datrys digwyddiadau gweithredol; neu

(b)     arwain a chefnogi eraill i ddatrys digwyddiadau gweithredol.

(3) Mae person sy’n aelod trosiannol yn bodloni’r gofyniad yn y paragraff hwn.

(4) Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at gyflogwr person sydd mewn cyflogaeth gynllun fel y “cyflogwr cynllun”.

Personau cymwys

16.(1)(1) At ddibenion y Rhan hon, person cymwys yw person sy’n gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun hwn.

(2) Mae person (P) sy’n gwasanaethu mewn cyflogaeth gynllun yn berson cymwys mewn perthynas â’r gyflogaeth honno, onid yw P, mewn perthynas â gwasanaeth yn y gyflogaeth honno—

(a)     yn aelod a ddiogelir o Gynllun 1992 neu’r CPNDT; neu

(b)     yn aelod o unrhyw gynllun pensiwn arall a’r awdurdod sy’n cyflogi P yn talu cyfraniadau i’r cynllun hwnnw mewn cysylltiad â P.

(3) Mae P yn berson cymwys tra bo ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn.

Gwasanaeth mewn dwy neu ragor o gyflogaethau cynllun

17. Os yw person yn gwasanaethu mewn dwy neu ragor o gyflogaethau cynllun, mae rheoliad 16 (personau cymwys) yn gymwys ar wahân mewn perthynas â phob cyflogaeth (pa un ai yw’r gyflogaeth gyda’r un awdurdod ai peidio).

PENNOD 2

Gwasanaeth pensiynadwy

Cymhwyso’r Bennod

18.(1)(1) Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth mewn cyflogaeth gynllun.

(2) Os yw person yn gwasanaethu mewn dwy neu ragor o gyflogaethau cynllun yr un pryd, mae’r Bennod hon yn gymwys ar wahân mewn perthynas â phob un o’r cyflogaethau (pa un ai yw’r gyflogaeth gyda’r un awdurdod ai peidio).

Dehongli’r Bennod

19. Yn y Bennod hon—

ystyr “cyfnod di-dor o wasanaeth” (“continuous period of service”), mewn perthynas â chyflogaeth gynllun, yw cyfnod o wasanaeth mewn cyflogaeth gynllun gan ddiystyru unrhyw fwlch mewn gwasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd;

ystyr “diwrnod cymwys cyntaf o wasanaeth” (“first eligible day of service”) yw’r diwrnod pan fo person yn dod yn berson cymwys mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw;

ystyr “dyddiad ailgofrestru awtomatig” (“automatic re-enrolment date”), mewn perthynas â pherson sy’n gwasanaethu mewn cyflogaeth gynllun, yw dyddiad a benderfynir o dan reoliad 12 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol a Phersonol (Cofrestru Awtomatig) 2010([48]).

 

Cofrestru awtomatig

20.(1)(1) Pan fo person (P) sydd mewn gwasanaeth pensiynadwy([49]) o dan y cynllun yn symud oddi wrth un cyflogwr cynllun at un arall ond yn aros mewn cyflogaeth gynllun, mae P yn parhau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun.

(2) Mae person (P), nad yw mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun yn union cyn diwrnod cymwys cyntaf o wasanaeth P mewn cyflogaeth gynllun, yn dechrau gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ar y diwrnod cymwys cyntaf o wasanaeth P yn y gyflogaeth honno, onid yw—

(a)     rheoliad 24 (optio allan cyn diwedd y tri mis cyntaf) yn gymwys; neu

(b)     P yn aelod trosiannol gyda pharhad gwasanaeth a pharagraff (3) yn gymwys.

(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)     os y diwrnod cymwys cyntaf o wasanaeth P mewn cyflogaeth gynllun yw’r diwrnod ar ôl dyddiad cau P; a

(b)     os ar ddyddiad cau P—

                           (i)    yr oedd P yn gwasanaethu yn yr un gyflogaeth, a

                         (ii)    yr oedd P wedi optio allan o Gynllun 1992 neu’r CPNDT, yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.

Optio i mewn i’r cynllun hwn

21.(1)(1) Caiff person (P) sydd, mewn perthynas â chyflogaeth gynllun, yn berson cymwys ond nid mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn, arfer yr opsiwn i ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn perthynas â gwasanaeth yn y gyflogaeth honno.

(2) Ni chaniateir arfer yr opsiwn o dan y rheoliad hwn ac eithrio drwy hysbysiad i’r rheolwr cynllun, yn y ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun (“hysbysiad optio i mewn”).

(3) Mae opsiwn a arferir gan berson o dan y rheoliad hwn, i optio i mewn i’r cynllun hwn mewn perthynas â gwasanaeth mewn cyflogaeth gynllun, yn cael effaith mewn perthynas â gwasanaeth yn y gyflogaeth honno o’r dyddiad y mae’r rheolwr cynllun yn cael yr hysbysiad optio i mewn.

(4) Ystyrir bod yr opsiwn o dan y rheoliad hwn yn cael ei arfer ar y dyddiad hwnnw.

(5) Os yw P yn optio i mewn i’r cynllun hwn mewn perthynas â chyflogaeth, mae P yn dod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r gyflogaeth honno ar ddechrau’r cyfnod tâl cyntaf sy’n dechrau ar ôl y dyddiad yr arferir yr opsiwn, neu ar ba bynnag adeg arall a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun.

Ailgofrestru awtomatig

22.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys yn achos person cymwys (P) mewn perthynas â gwasanaeth mewn cyflogaeth gynllun, os nad yw P, ar y dyddiad ailgofrestru awtomatig, mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn mewn perthynas â gwasanaeth yn y gyflogaeth honno.

(2) Ar y dyddiad ailgofrestru awtomatig, rhaid i’r rheolwr cynllun gofrestru P yn y cynllun hwn mewn perthynas â gwasanaeth yn y gyflogaeth honno os yw’n ofynnol o dan adran 5 o Ddeddf Pensiynau 2008([50]) (ailgofrestru awtomatig) bod y cyflogwr yn gwneud trefniadau i P fod yn aelod actif o gynllun pensiwn.

Optio allan o’r cynllun hwn

23.(1)(1) Mae person (P) yn optio allan o’r cynllun hwn mewn perthynas â gwasanaeth mewn cyflogaeth gynllun os yw P yn dewis peidio â bod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.

(2) Ni chaiff P arfer yr opsiwn hwn ac eithrio drwy roi hysbysiad i’r rheolwr cynllun ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun (“hysbysiad optio allan”).

(3) Ystyrir bod yr opsiwn wedi ei arfer ar y dyddiad y bydd y rheolwr cynllun yn cael yr hysbysiad optio allan.

Optio allan cyn diwedd y tri mis cyntaf

24.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw person (P) yn optio allan o’r cynllun hwn mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth mewn cyflogaeth gynllun cyn diwedd tri mis—

(a)     ar ôl y diwrnod cyntaf o gyfnod o wasanaeth di-dor P mewn cyflogaeth gynllun; neu

(b)     ar ôl y dyddiad ailgofrestru awtomatig.

(2) Os yw paragraff (1)(a) yn gymwys, ystyrir na fu P erioed mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod di-dor hwnnw o wasanaeth mewn cyflogaeth gynllun.

(3) Os yw paragraff (1)(b) yn gymwys, ystyrir na fu P mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b).

(4) Nid yw’r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i P unrhyw swm ychwanegol a ddaw’n daladwy gan P mewn cysylltiad â chyfraniadau yswiriant gwladol, oherwydd na fu P, wedi’r cwbl, yn aelod actif o’r cynllun hwn yn ystod unrhyw gyfnod.

Optio allan ar ôl y tri mis cyntaf

25.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw person (P) yn optio allan o’r cynllun hwn mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth mewn cyflogaeth gynllun ymhen tri mis neu’n hwy—

(a)     ar ôl y diwrnod cyntaf o gyfnod gwasanaeth di-dor P mewn cyflogaeth gynllun; neu

(b)     ar ôl dyddiad ailgofrestru awtomatig P.

(2) Os yw P yn arfer yr opsiwn o dan baragraff (1)(a) neu (b), mae P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod di-dor hwnnw o wasanaeth mewn cyflogaeth gynllun—

(a)     ar y diwrnod cyntaf o’r cyfnod tâl cyntaf sy’n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad yr arferwyd yr opsiwn; neu

(b)     os yw’r rheolwr cynllun yn ystyried y diwrnod hwnnw’n amhriodol, ar ddiwrnod cyntaf unrhyw gyfnod tâl diweddarach a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun.

PENNOD 3

Tâl pensiynadwy

Tâl pensiynadwy

26.(1)(1) At y diben o gyfrifo pensiwn neu fuddion eraill aelod o dan y cynllun hwn, tâl pensiynadwy’r aelod yw—

(a)     y tâl a dderbyniodd yr aelod am gyflawni dyletswyddau rôl yr aelod, ac eithrio unrhyw lwfans neu enillion a dalwyd i’r aelod hwnnw ar sail dros dro;

(b)     enillion parhaol yr aelod (gan gynnwys, yn achos diffoddwr tân wrth gefn, unrhyw lwfans cadw);

(c)     y swm a hepgorwyd pan fo aelod wedi cytuno i ildio’r hawl i gael unrhyw ran o dâl pensiynadwy’r aelod hwnnw, yn gyfnewid am ddarparu unrhyw fudd anariannol gan y cyflogwr; a

(d)     y swm a dalwyd i’r aelod ar gyfer datblygu proffesiynol parhaus, ac y penderfynodd y rheolwr cynllun ei fod yn bensiynadwy.

(2) Nid yw’r taliadau ym mharagraff (1) yn cynnwys unrhyw daliad a wnaed gan gyflogwr i aelod sydd ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn.

Ystyr “tâl pensiynadwy tybiedig”

27.(1)(1) Ar gyfer unrhyw gyfnod pan fo’r amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2) yn gymwys i aelod actif o’r cynllun hwn, trinnir yr aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy (“tâl pensiynadwy tybiedig”) hafal i’r tâl pensiynadwy y byddai’r aelod yn ei gael pe na bai’r amgylchiadau hynny yn gymwys.

(2) Yr amgylchiadau yw fod yr aelod—

(a)     ar secondiad i gyflogwr gwahanol o dan drefniant sy’n darparu bod yr aelod i barhau’n aelod actif o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â gwasanaeth yr aelod, er mai’r cyflogwr arall sy’n talu i’r aelod am ei wasanaeth;

(b)     ar absenoldeb oherwydd salwch neu anaf ac yn cael tâl gostyngedig neu, pan fo’r aelod wedi talu’r cyfraniadau sy’n ofynnol gan reoliad 120(2) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch neu anaf), nad yw’n cael tâl;

(c)     yn cael tâl neu dâl statudol tra bo ar absenoldeb mabwysiadu, absenoldeb mabwysiadu ychwanegol, absenoldeb mamolaeth ychwanegol, absenoldeb rhiant neu absenoldeb tadolaeth ychwanegol;

(d)     ar absenoldeb mabwysiadu arferol, absenoldeb mamolaeth arferol neu absenoldeb tadolaeth;

(e)     heb gael tâl na thâl statudol yn ystod rhan neu’r cyfan o’r cyfnod absenoldeb mabwysiadu ychwanegol, absenoldeb mamolaeth ychwanegol neu absenoldeb tadolaeth ychwanegol ac wedi talu cyfraniadau aelod mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw;

(f)      ar absenoldeb di-dâl am gyfnod nad yw’n hwy na phum mlynedd, mewn amgylchiadau y cytunodd y rheolwr cynllun y cânt gyfrif at ddibenion y paragraff hwn, ac wedi talu’r cyfraniadau sy’n ofynnol gan reoliad 120(4) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb awdurdodedig o’r gwaith);

(g)     ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn; neu

(h)     yn absennol oherwydd anghydfod undebol ac wedi talu’r cyfraniadau sy’n ofynnol gan reoliad 120(3) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd anghydfod undebol).

(3) Nid yw paragraff (2)(g) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o wasanaeth sy’n peri bod yr aelod yn gymwys am fuddion o dan unrhyw gynllun pensiwn galwedigaethol arall mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.

(4) Pan fo’r amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys i aelod (P), a gyflogid fel diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol yn union cyn y daeth yr amgylchiadau hynny yn gymwys, a gwasanaeth pensiynadwy P am y cyfnod hwnnw yn 365 diwrnod neu ragor, cyfrifir swm tâl pensiynadwy tybiedig P drwy rannu cyfanswm y tâl pensiynadwy a gafodd P am y gwasanaeth hwnnw yn ystod y cyfnod o 365 diwrnod oedd yn diweddu gyda’r diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy di-dor cyn y daeth yr amgylchiadau hynny yn gymwys, gyda 365 a lluosi gyda nifer y diwrnodau pan oedd yr amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys.

(5) Pan fo’r amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys i aelod (P), a gyflogid fel diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol yn union cyn y daeth yr amgylchiadau hynny yn gymwys, a gwasanaeth pensiynadwy P am y cyfnod hwnnw yn llai na 365 diwrnod, cyfrifir swm tâl pensiynadwy tybiedig P drwy rannu cyfanswm y tâl pensiynadwy a gafodd P am y gwasanaeth hwnnw yn ystod y cyfnod hwnnw o wasanaeth pensiynadwy di-dor cyn y daeth yr amgylchiadau hynny yn gymwys, gyda nifer y diwrnodau o’r gwasanaeth hwnnw a lluosi gyda nifer y diwrnodau pan oedd yr amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys.

PENNOD 4

Aelodaeth

Aelodaeth actif

28. Mae person (P) yn aelod actif o’r cynllun hwn—

(a)     os yw P mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn;

(b)     os nad yw P mewn gwasanaeth pensiynadwy tra bo P ar absenoldeb salwch di-dâl neu ar absenoldeb di-dâl cysylltiedig â phlentyn neu ar anghydfod undebol, a P wedi bod yn aelod actif yn union cyn dechrau’r absenoldeb neu’r anghydfod undebol hwnnw;

(c)     os yw P ar absenoldeb awdurdodedig di-dâl a’r rheolwr cynllun yn caniatáu trin P fel aelod actif; neu

(d)     os yw P ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn a P wedi bod yn aelod actif yn union cyn dechrau’r absenoldeb hwnnw.

Aelodaeth ohiriedig

29. Mae person (P) yn aelod gohiriedig o’r cynllun hwn mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy—

(a)     os yw P yn peidio â bod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth, cyn bo P yn hawlio pensiwn o dan y cynllun hwn mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth pensiynadwy;

(b)     os nad yw P yn aelod-bensiynwr o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth; ac

(c)     os oes gan P dri mis o leiaf o wasanaeth cymwys neu os oes taliad gwerth trosglwyddiad, ac eithrio taliad o’r fath allan o gynllun pensiwn galwedigaethol arall, wedi ei dderbyn gan y cynllun hwn mewn perthynas â P.

Aelod â chredyd pensiwn

30. Mae person yn aelod â chredyd pensiwn o’r cynllun hwn os rhoddwyd i’r person hwnnw gredyd pensiwn yn y cynllun o ganlyniad i ddebyd pensiwn a grëwyd o dan adran 29 o DDLlPh 1999 mewn perthynas ag aelod o’r cynllun hwn.

RHAN 4

Cyfrifon pensiwn

PENNOD 1

Rhagarweiniol

Disgrifiad o bensiwn

31. At ddibenion y Rhan hon, ystyr “disgrifiad o bensiwn” (“description of pension”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(a)     pensiwn enilledig;

(b)     pensiwn trosglwyddedig;

(c)     pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb;

(d)     pensiwn ychwanegol.

PENNOD 2

Cyfrifo pensiwn cronedig

Cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol

32.(1)(1) At ddiben cyfrif ymddeol aelod actif sy’n ymddeol neu’n ymddeol yn rhannol, swm y pensiwn cronedig yw swm y pensiwn enilledig cronedig a gyfrifir yn unol â pharagraff (3) a swm y pensiwn ychwanegol cronedig a gyfrifir yn unol â pharagraff (4).

(2) At ddiben cyfrif aelod gohiriedig, cyfrifir swm y pensiwn enilledig cronedig yn unol â pharagraff (3).

(3) Swm y pensiwn enilledig cronedig yw cyfanswm y symiau canlynol a bennir yng nghyfrif yr aelod actif ar gyfer diwedd y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy—

(a)     swm y balans agoriadol o bensiwn enilledig ar gyfer y flwyddyn gynllun actif olaf a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw;

(b)     swm y pensiwn enilledig a gronnodd yn ystod y flwyddyn gynllun actif olaf;

(c)     swm y balans agoriadol o bensiwn a drosglwyddwyd (os oes un) ar gyfer y flwyddyn gynllun actif olaf a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw;

(d)     swm y pensiwn trosglwyddedig (os oedd un) yn ystod y flwyddyn gynllun actif olaf;

(e)     swm y balans agoriadol o bensiwn enilledig trosglwyddiad clwb (os oes un) ar gyfer y flwyddyn gynllun actif olaf a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw; ac

(f)      swm y pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb (os oedd un) ar gyfer y flwyddyn gynllun actif olaf.

(4) Swm y pensiwn ychwanegol cronedig yw cyfanswm y symiau canlynol a bennir yn y cyfrif pensiwn ychwanegol ar gyfer diwedd y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy—

(a)     swm y balans agoriadol o bensiwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gynllun actif olaf a’r addasiad mynegai DPC (os oes un) ar gyfer y balans agoriadol hwnnw; a

(b)     swm y pensiwn ychwanegol cronedig ar gyfer y flwyddyn gynllun actif olaf.

PENNOD 3

Cyfrifo addasiadau

Cyfrifo “addasiad mynegai ymddeol”

33.(1)(1) Yr addasiad mynegai ymddeol ar gyfer swm o bensiwn enilledig cronedig yw—

Y swm o bensiwn cronedig x canran mynegai ymddeol

ac ystyr “canran mynegai ymddeol”( “retirement index percentage”) yw’r ganran mynegai ymddeol a gyfrifir o dan baragraff (2) ar gyfer pensiwn enilledig cronedig.

(2) Y ganran mynegai ymddeol yw—

 

ac—

ystyr A yw—

                           (i)    ar gyfer pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb cronedig, y mynegai ailbrisio mewn-gwasanaeth sy’n gymwys mewn perthynas â’r cynllun hwn ar gyfer y flwyddyn ymadael;

                         (ii)    ar gyfer pensiwn enilledig cronedig ac eithrio pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb, yr addasiad mynegai sy’n gymwys mewn perthynas â’r cynllun hwn ar gyfer y flwyddyn ymadael;

B yw nifer y misoedd cyflawn yn y cyfnod rhwng dechrau’r flwyddyn ymadael a diwedd y diwrnod olaf perthnasol.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae “mis cyflawn” (“complete month”) yn cynnwys mis anghyflawn sy’n cynnwys 16 diwrnod o leiaf.

Cyfrifo “addasiad mynegai DPC ymddeol”

34.(1)(1) Cyfrifir yr addasiad mynegai DPC ymddeol ar gyfer y swm o bensiwn ychwanegol cronedig yn unol â pharagraff (2).

(2) Yr addasiad mynegai DPC ymddeol yw swm y cynnydd y byddid wedi ei wneud o dan DPC 1971 yn y flwyddyn ymadael, yng nghyfradd flynyddol pensiwn o swm sy’n hafal i swm y pensiwn ychwanegol cronedig pe bai—

(a)     y pensiwn hwnnw yn gymwys i’w gynyddu felly; a

(b)     y diwrnod ar ôl y diwrnod olaf perthnasol yn ddyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw.

Penderfynu’r “ychwanegiad oedran”

35.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo cyfrif aelod actif, a chyfrif pensiwn ychwanegol aelod actif, os oes un, ar agor; sy’n flwyddyn gynllun ddiweddarach na’r flwyddyn gynllun pan fo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn; ac nad yw’n flwyddyn gynllun pan sefydlwyd y cyfrif o dan y Rhan hon.

(2) Ar ddechrau’r flwyddyn gynllun, ar gyfer pob disgrifiad o bensiwn, rhaid i’r rheolwr cynllun, gan roi sylw i ganllawiau actiwaraidd, benderfynu’r ychwanegiad oedran sydd i’w ddyfarnu ar gyfer y flwyddyn gynllun honno drwy gyfeirio at y balans agoriadol o’r disgrifiad o bensiwn sydd dan sylw ar gyfer y flwyddyn gynllun flaenorol.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “yr ychwanegiad oedran” (“the age addition”) yw swm ychwanegol o bensiwn a benderfynir drwy gyfeirio at y gyfran o’r flwyddyn gynllun flaenorol pan oedd aelod eisoes wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn.

Penderfynu’r “ychwanegiad oedran tybiedig”

36.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan sefydlir cyfrif aelod gohiriedig neu gyfrif ymddeol mewn cysylltiad ag aelod nad oes ganddo gyfrif aelod actif mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun arall.

(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun, gan roi sylw i ganllawiau actiwaraidd, benderfynu’r ychwanegiad oedran tybiedig ar gyfer y swm o bensiwn enilledig cronedig a phensiwn ychwanegol cronedig (os oes un) a bennir yn y cyfrif hwnnw.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “yr ychwanegiad oedran tybiedig” (“the assumed age addition”) yw—

(a)     yn achos swm o bensiwn enilledig cronedig nad yw’n briodoladwy i bensiwn a drosglwyddwyd, yr ychwanegiad oedran y byddid wedi ei ddyfarnu ar gyfer pensiwn enilledig cronedig pe na bai’r aelod wedi gadael gwasanaeth pensiynadwy neu wedi arfer yr opsiwn o ymddeol yn rhannol yn y flwyddyn ymadael, a benderfynir drwy gyfeirio at y gyfran o’r flwyddyn ymadael pan oedd yr aelod yn aelod actif o’r cynllun hwn, ac wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn;

(b)     yn achos swm o bensiwn enilledig cronedig sy’n briodoladwy i bensiwn a drosglwyddwyd, yr ychwanegiad oedran y byddid wedi ei ddyfarnu ar gyfer pensiwn a drosglwyddwyd pe na bai’r aelod wedi gadael gwasanaeth pensiynadwy neu wedi arfer yr opsiwn o ymddeol yn rhannol yn y flwyddyn ymadael, a benderfynir drwy gyfeirio at y gyfran o’r flwyddyn ymadael pan oedd yr aelod yn aelod actif o’r cynllun hwn, ac wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn;

(c)     yn achos swm o bensiwn ychwanegol cronedig, yr ychwanegiad oedran y byddid wedi ei ddyfarnu ar gyfer pensiwn ychwanegol pe na bai’r aelod wedi gadael gwasanaeth pensiynadwy neu wedi arfer yr opsiwn o ymddeol yn rhannol yn y flwyddyn ymadael, a benderfynir drwy gyfeirio at y gyfran o’r flwyddyn ymadael pan oedd yr aelod yn aelod actif o’r cynllun hwn, ac wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn.

PENNOD 4

Cyfrifon pensiwn: cyffredinol

Sefydlu cyfrifon pensiwn: cyffredinol

37.(1)(1) Rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu a chynnal un neu ragor o gyfrifon pensiwn ar gyfer pob aelod o’r cynllun hwn yn unol â’r Rhan hon.

(2) O ran cyfrif pensiwn—

(a)     caniateir ei gadw ym mha bynnag ffurf a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun; a

(b)     rhaid iddo bennu’r manylion sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn.

(3) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at unrhyw swm a bennir mewn cyfrif pensiwn yn gyfeiriadau at y swm y mae’n ofynnol ei bennu felly o dan y Rheoliadau hyn ac nid, os yw’n wahanol, y swm a bennir felly mewn gwirionedd.

Cau ac addasu cyfrifon pensiwn wrth drosglwyddo allan neu wrth ad-dalu balans o gyfraniadau

38.(1)(1) Ac eithrio fel y darperir yn wahanol yn y rheoliad hwn, rhaid i’r rheolwr cynllun gau pob cyfrif pensiwn sy’n ymwneud ag aelod o’r cynllun hwn—

(a)     os gwneir taliad trosglwyddo mewn cysylltiad â hawliau cronedig yr aelod o dan y cynllun hwn; neu

(b)     os ad-delir holl gyfraniadau’r aelod i’r aelod o dan reoliad 125 (ad-dalu holl gyfraniadau aelod a’r holl daliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol a wnaed gan aelod).

(2) Nid yw paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol bod rheolwr cynllun yn cau cyfrif sy’n cynnwys symiau nad yw’r taliad trosglwyddo yn berthnasol iddynt neu nad yw’n briodoladwy iddynt.

(3) Rhaid i gyfrif nas caeir oherwydd paragraff (2) gael ei addasu ym mha bynnag fodd a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun, i adlewyrchu diddymu hawliau o dan y cynllun hwn([51]).

(4) Nid yw paragraff (1)(a) yn ei gwneud yn ofynnol bod rheolwr cynllun yn cau cyfrif aelod â chredyd pensiwn os gwneir y taliad trosglwyddo mewn cysylltiad ag aelod sydd—

(a)     yn aelod â chredyd pensiwn o’r cynllun hwn; a

(b)     yn aelod actif, yn aelod gohiriedig neu’n aelod-bensiynwr o’r cynllun hwn.

PENNOD 5

Cyfrif aelod actif

Cymhwyso’r Bennod

39.(1)(1) Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn.

(2) Yn achos person sy’n aelod actif o’r cynllun hwn mewn perthynas â dau neu ragor o gyfnodau di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr un pryd, mae’r Bennod hon yn gymwys ar wahân mewn perthyna â phob un o’r cyfnodau hynny o wasanaeth.

Sefydlu cyfrif aelod actif

40.(1)(1) Rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer aelod sydd mewn gwasanaeth pensiynadwy o’r diwrnod y mae’r aelod yn dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy.

(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, cyfeirir at gyfrif a sefydlwyd o dan baragraff (1) fel cyfrif aelod actif.

Derbyn taliad gwerth trosglwyddiad

41.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os ceir taliad gwerth trosglwyddiad gan gynllun pensiwn arall (ac eithrio cynllun cysylltiedig) mewn perthynas ag aelod actif o’r cynllun hwn.

(2) Ar ôl cael y taliad gwerth trosglwyddiad, rhaid i’r rheolwr cynllun gredydu cyfrif yr aelod actif gyda’r swm o bensiwn a drosglwyddwyd, a gyfrifir o dan reoliad 152(2) (swm pensiwn a drosglwyddir).

Derbyn taliad gwerth trosglwyddiad clwb

42.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os ceir taliad gwerth trosglwyddiad clwb gan gynllun clwb arall mewn perthynas ag aelod actif o’r cynllun hwn.

(2) Ar ôl cael y taliad gwerth trosglwyddiad clwb, rhaid i’r rheolwr cynllun gredydu cyfrif yr aelod actif gyda’r swm o bensiwn enilledig trosglwyddiad clwb, a gyfrifir o dan reoliad 154(2) (swm pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb).

Swm y pensiwn ar gyfer blwyddyn gynllun

43.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo cyfrif aelod actif ar agor.

(2) Rhaid i’r cyfrif aelod actif bennu swm—

(a)     y pensiwn enilledig (os oes un) am y flwyddyn gynllun;

(b)     y pensiwn trosglwyddedig (os oes un) am y flwyddyn gynllun; ac

(c)     y pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb (os oes un), gan bob cynllun sy’n anfon, am y flwyddyn gynllun.

(3) Y swm yw—

(a)     ar gyfer pensiwn enilledig, 1/61.4fed o’r tâl pensiynadwy a gafodd yr aelod am y flwyddyn honno mewn cysylltiad â’r gyflogaeth gynllun y sefydlwyd cyfrif yr aelod hwnnw ar ei chyfer;

(b)     ar gyfer pensiwn enilledig, 1/61.4fed o dâl pensiynadwy tybiedig yr aelod am y flwyddyn gynllun pan fo’r aelod yn talu’r cyfraniadau sy’n ofynnol gan—

(i) paragraffau (3) a (4) o reoliad 120 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig di-dâl),

(ii) paragraff (1) o reoliad 121 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn),

(iii) paragraff (3) o reoliad 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb cysylltiedig â phlentyn);

(c)     ar gyfer pensiwn enilledig, 1/61.4fed o dâl pensiynadwy tybiedig yr aelod yn ystod absenoldeb yr aelod oherwydd salwch neu anaf, am y cyfnod y telir y cyfraniadau mewn cysylltiad ag ef gan yr aelod, sy’n ofynnol gan baragraff (2) o reoliad 120 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch neu anaf);

(d)     ar gyfer pensiwn enilledig, 1/61.4fed o dâl pensiynadwy tybiedig yr aelod tra bo’r aelod ar absenoldeb mabwysiadu arferol, absenoldeb mamolaeth arferol neu absenoldeb tadolaeth;

(e)     ar gyfer pensiwn trosglwyddedig, y swm y mae gan yr aelod hawl i’w gyfrif o dan reoliad 152(2) (swm pensiwn a drosglwyddir) am y flwyddyn honno; ac

(f)      ar gyfer pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb, swm yr holl werthoedd trosglwyddiad clwb a gafwyd mewn perthynas â’r aelod yn ystod y flwyddyn honno fel y’i cyfrifir o dan reoliad 154(2) (swm pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb).

Balans agoriadol, addasiad mynegai ac ychwanegiad oedran

44.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo cyfrif aelod actif ar agor ac eithrio’r flwyddyn gynllun y sefydlwyd y cyfrif hwnnw ynddi.

(2) Rhaid i’r cyfrif aelod actif bennu—

(a)     balans agoriadol y pensiwn enilledig ar gyfer y flwyddyn gynllun a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw ac, os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun;

(b)     balans agoriadol y pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb (os oedd un) ar gyfer y flwyddyn gynllun a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw ac, os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun;

(c)     balans agoriadol y pensiwn a drosglwyddwyd (os oedd un) ar gyfer y flwyddyn gynllun a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw ac, os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun.

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “balans agoriadol” (“opening balance”) mewn perthynas â disgrifiad o bensiwn, ac eithrio pensiwn ychwanegol, yw—

(a)      yn achos y flwyddyn gynllun sy’n dilyn yn union ar ôl y flwyddyn gynllun y sefydlwyd cyfrif yr aelod actif ynddi, swm y pensiwn hwnnw am y flwyddyn gynllun flaenorol, fel y’i pennid ar ddiwedd y flwyddyn gynllun honno; a

(b)      yn achos unrhyw flwyddyn gynllun ddilynol, cyfanswm y symiau canlynol—

                           (i)    balans agoriadol y pensiwn hwnnw am y flwyddyn gynllun flaenorol a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw,

                         (ii)    swm y pensiwn hwnnw am y flwyddyn gynllun flaenorol fel y’i pennid ar ddiwedd y flwyddyn gynllun flaenorol honno, a

                       (iii)    os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun flaenorol.

Dyfarniad afiechyd sy’n peidio â bod yn daladwy

45.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo dyfarniad afiechyd yn peidio â bod yn daladwy i berson o dan reoliad 78 (canlyniadau adolygu) a’r aelod-bensiynwr yn dychwelyd i wasanaeth pensiynadwy.

(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)     cau'r cyfrif ymddeol;

(b)     ailsefydlu’r cyfrif aelod actif a’i gredydu â swm hafal i’r gyfradd flynyddol o bensiwn afiechyd haen isaf a oedd yn daladwy pan wnaed y dyfarniad afiechyd gyntaf; ac

(c)     gwneud cofnodion yn y cyfrif aelod actif fel pe bai’r aelod, yn ystod y bwlch yn y gwasanaeth pensiynadwy—

                           (i)    wedi bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn, ond

                         (ii)    heb gael unrhyw dâl pensiynadwy.

Cau ac ailsefydlu cyfrif aelod actif

46.(1)(1) Rhaid i’r rheolwr cynllun gau cyfrif aelod actif mewn perthynas â chyfnod o wasanaeth pan fo’r rheolwr cynllun yn sefydlu, mewn perthynas â’r cyfnod o wasanaeth hwnnw—

(a)     cyfrif aelod gohiriedig o dan Bennod 7 (cyfrif aelod gohiriedig); neu

(b)     cyfrif ymddeol o dan Bennod 8 (cyfrif ymddeol).

(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun ailsefydlu cyfrif aelod actif o dan y Bennod hon os yw’r rheolwr cynllun yn cau cyfrif aelod gohiriedig o dan Bennod 7.

(3) Pan fo gan aelod actif fwy nag un cyfrif aelod actif ac yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cysylltiad â gwasanaeth mewn un cyflogaeth gynllun, a hynny pan nad oedd ganddo wasanaeth cymwys am gyfnod o dri mis mewn cysylltiad â’r cyfrif hwnnw, rhaid cau’r cyfrif aelod actif ar gyfer y gyflogaeth honno, a chyfuno’r buddion sydd yn y cyfrif hwnnw â’r cyfrif aelod actif arall.

(4) Os bydd gan yr aelod actif fwy nag un cyfrif aelod actif ar ôl cau’r cyfrif a grybwyllir ym mharagraff (3), caiff yr aelod ddewis y cyfrif aelod actif y mae’r buddion o’r cyfrif a gaeir i’w cyfuno ag ef.

(5) Os yw’r aelod actif yn methu â gwneud y dewis a grybwyllir ym mharagraff (4), caiff y rheolwr cynllun ddewis y cyfrif aelod actif y mae’r buddion o’r cyfrif a gaeir i’w cyfuno ag ef.

PENNOD 6

Cyfrif pensiwn ychwanegol

Sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol

47.(1)(1) Rhaid sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer pob aelod actif (P) sy’n gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol.

(2) Os yw P yn aelod actif mewn perthynas â mwy nag un gyflogaeth gynllun, un cyfrif pensiwn ychwanegol yn unig sydd i’w agor.

(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, gelwir cyfrif a sefydlwyd o dan baragraff (1) yn gyfrif pensiwn ychwanegol.

Y cyfrif i bennu swm y pensiwn ychwanegol

48.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo dewisiad pensiwn ychwanegol yn cael effaith.

(2) Rhaid i’r cyfrif pensiwn ychwanegol bennu, mewn perthynas ag unrhyw daliadau pensiwn ychwanegol a wnaed yn y flwyddyn gynllun dan sylw, swm y pensiwn ychwanegol a benderfynwyd gan y rheolwr cynllun o dan baragraff 11 neu o dan baragraff 14 o Atodlen 1 (taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol) sydd i’w credydu mewn cysylltiad â’r flwyddyn gynllun honno.

Y cyfrif i bennu’r balans agoriadol a’r addasiad mynegai DPC

49.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo cyfrif pensiwn ychwanegol ar agor, ac eithrio’r flwyddyn gynllun pan sefydlwyd y cyfrif.

(2) Rhaid i’r cyfrif bennu—

(a)     y balans agoriadol o bensiwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gynllun a’r addasiad mynegai DPC ar gyfer y balans agoriadol hwnnw;

(b)     os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun.

(3) Ystyr “balans agoriadol” (“opening balance”) o bensiwn ychwanegol yw—

(a)     yn achos y flwyddyn gynllun sy’n dilyn yn union ar ôl y flwyddyn gynllun y sefydlwyd y cyfrif pensiwn ychwanegol ynddi, swm y pensiwn ychwanegol fel y’i pennid yn y cyfrif ar ddiwedd y flwyddyn gynllun flaenorol; a

(b)     yn achos unrhyw flwyddyn gynllun ddilynol, cyfanswm y symiau canlynol—

                           (i)    balans agoriadol y pensiwn ychwanegol am y flwyddyn gynllun flaenorol,

                         (ii)    yr addasiad mynegai DPC (os oes un) ar gyfer y balans agoriadol hwnnw,

                       (iii)    os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun flaenorol, a

                        (iv)    swm y pensiwn ychwanegol am y flwyddyn gynllun flaenorol fel y’i pennid ar ddiwedd y flwyddyn gynllun flaenorol.

Cau a throsglwyddo cyfrif pensiwn ychwanegol

50.(1)(1) Os oes gan aelod actif (P) gyfrif pensiwn ychwanegol, rhaid i’r cyfrif pensiwn ychwanegol barhau ar agor—

(a)     hyd nes bo P wedi hawlio pensiwn ymddeol a swm y pensiwn ychwanegol wedi ei drosglwyddo i’r cyfrif ymddeol neu’r cyfrif aelod gohiriedig; neu

(b)     hyd nes gwneir taliad gwerth trosglwyddiad mewn cysylltiad â hawliau P i’r pensiwn ychwanegol cronedig; neu

(c)     pan fo trosglwyddiad o gofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) wedi ei gwblhau.

(2) Pan fo rheolwr cynllun wedi darparu tystysgrif o dan reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif) mewn cysylltiad â chyfrif pensiwn ychwanegol, rhaid i’r rheolwr cynllun newydd sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol a throsglwyddo’r cofnodion o’r dystysgrif honno i’r cyfrif hwnnw.

Pensiwn afiechyd sy’n peidio â bod yn daladwy

51.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw—

(a)     pensiwn ychwanegol yn daladwy gyda dyfarniad afiechyd; a

(b)     y dyfarniad afiechyd yn peidio â bod yn daladwy o dan reoliad 78 (canlyniadau adolygu).

(2) Rhaid i’r cyfrif pensiwn ychwanegol gael ei ailsefydlu a’i gredydu â swm hafal i’r gyfradd flynyddol o bensiwn ychwanegol a dalwyd i’r aelod-bensiynwr yn y flwyddyn gynllun olaf cyn peidio â thalu’r dyfarniad afiechyd i’r aelod.

PENNOD 7

Cyfrif aelod gohiriedig

Cymhwyso’r Bennod

52.(1)(1) Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn.

(2) Yn achos person sy’n aelod gohiriedig o’r cynllun hwn mewn perthynas â dau neu ragor o gyfnodau di-dor o wasanaeth pensiynadwy, mae’r Bennod hon yn gymwys ar wahân mewn perthynas â phob un o’r cyfnodau hynny o wasanaeth.

Sefydlu cyfrif aelod gohiriedig

53.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo aelod actif o’r cynllun hwn yn dod yn aelod gohiriedig o’r cynllun hwn.

(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)     cau’r cyfrif aelod actif ar gyfer y cyfnod hwnnw o wasanaeth; a

(b)     sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer yr aelod gohiriedig am y cyfnod hwnnw o wasanaeth.

(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, gelwir cyfrif a sefydlwyd o dan baragraff (2)(b) yn gyfrif aelod gohiriedig.

Swm dros dro o bensiwn gohiriedig

54.(1)(1) Rhaid i’r cyfrif aelod gohiriedig bennu’r swm dros dro o bensiwn gohiriedig.

(2) Y swm dros dro o bensiwn gohiriedig yw cyfanswm y canlynol—

(a)     swm y pensiwn enilledig cronedig a gyfrifwyd o dan reoliad 32(3) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol) (“swm cronedig”);

(b)     yr addasiad mynegai ymddeol ar gyfer y swm cronedig; ac

(c)     yr ychwanegiad oedran tybiedig (os oes un) ar gyfer y swm cronedig.

(3) Ni chymhwysir yr addasiad mynegai ymddeol mewn perthynas â swm y pensiwn enilledig cronedig os gwnaed taliad trosglwyddo mewn cysylltiad â hawliau’r aelod i’r pensiwn enilledig cronedig hwnnw cyn diwedd y flwyddyn gynllun actif olaf.

(4) Mae’r ychwanegiad oedran tybiedig yn gymwys mewn perthynas ag aelod sy’n cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn heb fod yn llai nag un mis cyn y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy.

Swm y pensiwn gohiriedig ymddeol

55.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo aelod gohiriedig o’r cynllun hwn yn cael yr hawl i daliad o bensiwn ymddeol ar unwaith am gyfnod o wasanaeth.

(2) Rhaid i gyfrif yr aelod gohiriedig bennu swm y pensiwn gohiriedig ymddeol.

(3) Swm y pensiwn gohiriedig ymddeol yw cyfanswm y canlynol—

(a)     swm unrhyw bensiwn ychwanegol cronedig a drosglwyddwyd i gyfrif yr aelod gohiriedig,

(b)     yr addasiad mynegai DPC ymddeol ar gyfer y pensiwn ychwanegol cronedig,

(c)     yr ychwanegiad oedran tybiedig (os oes un) ar gyfer y pensiwn ychwanegol cronedig, a

(d)     y swm dros dro o bensiwn gohiriedig.

(4) Ar gyfer swm y pensiwn gohiriedig ymddeol, rhaid i’r cyfrif aelod gohiriedig bennu—

(a)     y gostyngiad talu’n gynnar (os oes un);

(b)     swm y cymudiad (os oes un); ac

(c)     cyfanswm y dyraniad (os oes un).

Addasu cyfrif wedi i daliadau cynnar o bensiwn gohiriedig ddod i ben

56. Pan fo aelod gohiriedig, sydd wedi cael y taliad cynnar o bensiwn gohiriedig o dan reoliad 76 (talu pensiwn ymddeol yn gynnar i aelod gohiriedig), yn peidio â bod â’r hawl i gael y taliad cynnar o’r pensiwn gohiriedig o dan reoliad 78(7) (canlyniadau adolygu) rhaid i’r rheolwr cynllun wneud yr addasiadau angenrheidiol i gyfrif yr aelod gohiriedig.

Cyfrif a sefydlir ar ôl i ddyfarniad afiechyd beidio â bod yn daladwy

57. Os yw pensiwn afiechyd haen isaf yn peidio â bod yn daladwy i berson (P) o dan reoliad 78 (canlyniadau adolygu) ac nad yw P yn dychwelyd i wasanaeth pensiynadwy—

(a)     rhaid sefydlu cyfrif aelod gohiriedig; a

(b)     rhaid credydu’r cyfrif hwnnw gyda swm hafal i’r gyfradd flynyddol o’r pensiwn afiechyd haen isaf a oedd yn daladwy yn union cyn y peidiodd y pensiwn afiechyd haen isaf â bod yn daladwy.

Cau cyfrif aelod gohiriedig ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd

58.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo aelod gohiriedig o’r cynllun hwn yn dychwelyd i wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd.

(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)     cau’r cyfrif aelod gohiriedig mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth a thrin y cyfrif aelod gohiriedig fel pe na bai erioed wedi ei sefydlu;

(b)     ailsefydlu’r cyfrif aelod actif o dan Bennod 5 mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth; a

(c)     gwneud cofnodion yn y cyfrif aelod actif fel pe bai’r aelod, yn ystod y bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy—

                           (i)    mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn, ond

                         (ii)    heb gael unrhyw dâl pensiynadwy.

(3) Os oedd gan yr aelod gohiriedig fwy nag un cyfrif aelod gohiriedig, a agorwyd o fewn pum mlynedd i’r dyddiad ym mharagraff (1), caiff yr aelod, o fewn tri mis i’r dyddiad dychwelyd i gyflogaeth gynllun, ddewis pa gyfrif aelod gohiriedig sydd i’w gau.

(4) Os metha’r aelod gohiriedig â gwneud y dewis a grybwyllir ym mharagraff (3), rhaid i’r rheolwr cynllun ddewis pa gyfrif aelod gohiriedig sydd i’w gau.

PENNOD 8

Cyfrif ymddeol

Sefydlu cyfrif ymddeol ac addasiadau eraill

59.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn.

(2) Pan fo aelod actif o’r cynllun hwn yn cael yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol neu ddyfarniad afiechyd, rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)     cau’r holl gyfrifon aelod actif ar gyfer yr aelod hwnnw ac unrhyw gyfrif pensiwn ychwanegol; a

(b)     sefydlu cyfrif ar gyfer yr aelod-bensiynwr am y cyfnod hwnnw o wasanaeth.

(3) Pan fo aelod actif o’r cynllun hwn yn arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad ac yn cael yr hawl o dan reoliad 67(1) (hawlogaeth i bensiwn ymddeol) i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol, rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)     cau’r cyfrif aelod actif am y cyfnod o wasanaeth cynharach;

(b)     sefydlu cyfrif ar gyfer yr aelod-bensiynwr am y cyfnod hwnnw o wasanaeth cynharach;

(c)     cau unrhyw gyfrif pensiwn ychwanegol a throsglwyddo swm y pensiwn ychwanegol cronedig i’r cyfrif ymddeol; a

(d)     sefydlu cyfrif aelod actif newydd o dan Bennod 5 ar gyfer gwasanaeth parhaus yr aelod fel pe bai’r diwrnod sy’n dilyn y dyddiad opsiwn yn ddiwrnod cyntaf y gwasanaeth pensiynadwy yn y gyflogaeth gynllun.

(4) Pan fo aelod gohiriedig yn cael yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol, rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)     cau unrhyw gyfrif pensiwn ychwanegol; a

(b)     trosglwyddo swm y pensiwn ychwanegol cronedig (os oes un) i gyfrif yr aelod gohiriedig.

(5) At ddibenion y Rheoliadau hyn, gelwir cyfrif a sefydlir ar gyfer aelod-bensiynwr o dan baragraff (2)(b) neu (3)(b) yn gyfrif ymddeol.

(6) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfnod o wasanaeth cynharach” (“period of earlier service”) yw’r cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy a oedd yn diweddu ar y dyddiad opsiwn;

ystyr “dyddiad opsiwn” (“option date”) yw’r dyddiad yr arferir yr opsiwn o ran-ymddeoliad ac y caiff yr aelod yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol; ac

ystyr “gwasanaeth parhaus” (“continuing service”) yw gwasanaeth pensiynadwy sy’n parhau, yn dilyn arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad yn rheoliad 72 (arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad) ar ôl y dyddiad opsiwn.

Y cyfrif i bennu swm y pensiwn ymddeol (aelodau actif)

60.(1)(1) Rhaid i’r cyfrif ymddeol bennu, o ran pensiwn enilledig cronedig a phensiwn ychwanegol cronedig, swm y pensiwn ymddeol hwnnw.

(2) Swm y pensiwn enilledig ymddeol yw cyfanswm y canlynol—

(a)     swm y pensiwn enilledig cronedig a gyfrifir o dan reoliad 32(3) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol) (“swm cronedig”);

(b)     yr addasiad mynegai ymddeol ar gyfer y swm cronedig; ac

(c)     yr ychwanegiad oedran tybiedig (os oes un) ar gyfer y swm cronedig.

(3) Swm unrhyw bensiwn ychwanegol ymddeol yw cyfanswm y canlynol—

(a)     swm y pensiwn ychwanegol cronedig a gyfrifir o dan reoliad 32(4) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol);

(b)     yr addasiad mynegai DPC ymddeol ar gyfer y pensiwn ychwanegol cronedig; ac

(c)     yr ychwanegiad oedran tybiedig (os oes un) ar gyfer y pensiwn ychwanegol cronedig.

(4) Ar gyfer swm y pensiwn enilledig ymddeol a swm y pensiwn ychwanegol ymddeol, rhaid i’r cyfrif ymddeol bennu’r canlynol—

(a)     y gostyngiad talu’n gynnar (os oes un);

(b)     swm y cymudiad (os oes un); ac

(c)     cyfanswm y dyraniad (os oes un).

(5) Mae’r ychwanegiad oedran tybiedig yn gymwys mewn perthynas ag aelod sy’n cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn o leiaf un mis cyn y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy.

PENNOD 9

Cyfrifon pensiwn ar gyfer aelod-oroeswyr

Sefydlu cyfrif aelod-oroeswr

61.(1)(1) Rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer pob person sydd â hawl i gael pensiwn o dan y cynllun hwn fel partner sy’n goroesi neu blentyn cymwys yn dilyn marwolaeth aelod actif, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr.

(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)     cau’r cyfrif aelod actif neu’r cyfrif aelod gohiriedig neu’r cyfrif ymddeol (yn ôl fel y digwydd) a’r cyfrif pensiwn ychwanegol (os oes un); a

(b)     sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer pob aelod-oroeswr.

(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)     gelwir person sydd â hawl i gael pensiwn yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1) yn aelod-oroeswr; a

(b)     gelwir cyfrif a sefydlwyd o dan baragraff (2)(b) yn gyfrif aelod-oroeswr.

Swm y pensiwn sy’n daladwy i aelod-oroeswr

62. Rhaid credydu cyfrif yr aelod-oroeswr â swm hafal i gyfradd flynyddol y pensiwn sy’n daladwy i’r aelod-oroeswr, a gyfrifir yn unol â’r rheoliad priodol ym Mhennod 2 (pensiynau ar gyfer partneriaid sy’n goroesi) neu Bennod 3 (pensiynau ar gyfer plant cymwys) o Ran 6 (buddion marwolaeth), yn ôl fel y digwydd, sy’n rhoi’r pensiwn i’r aelod-oroeswr.

PENNOD 10

Cyfrifon pensiwn ar gyfer aelodau â chredyd pensiwn

Sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn

63.(1)(1) Rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer pob aelod o’r cynllun hwn sydd â chredyd pensiwn.

(2) Os oes gan aelod â chredyd pensiwn fwy nag un credyd pensiwn, yn deillio o ddau neu ragor o aelodau â debyd pensiwn, rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn mewn perthynas â phob aelod â debyd pensiwn.

(3) Rhaid i’r cyfrif aelod â chredyd pensiwn bennu swm y pensiwn a gredydwyd, ac, ar gyfer y swm hwnnw, swm y cymudiad (os oes un).

(4) Pan sefydlir y cyfrif aelod â chredyd pensiwn, rhaid i’r cyfrifon a sefydlwyd o dan y Rhan hon ar gyfer yr aelod â debyd pensiwn gael eu lleihau gan y swm perthnasol.

(5) At ddibenion y Rheoliadau hyn, gelwir cyfrif a sefydlir ar gyfer aelod â chredyd pensiwn o dan baragraff (1) yn gyfrif aelod â chredyd pensiwn.

(6) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “swm perthnasol” (“relevant amount”) yw’r swm a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, gan roi sylw i’r canlynol—

(a)      y cyfwerth ariannol, a fyddai wedi bod yn daladwy o dan Bennod 2 o Ran 4A (gofynion cysylltiedig â budd credyd pensiwn: gwerthoedd trosglwyddiad) o DCauP 1993([52]), mewn cysylltiad â hawl yr aelod â chredyd pensiwn i gael buddion o dan y cynllun hwn, sydd i’w priodoli (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i’r credyd pensiwn; a

(b)     darpariaethau adrannau 29 (creu credydau a debydau pensiwn) ac 31 (lleihau budd) o DDLlPh 1999;

ystyr “swm y pensiwn a gredydwyd” (“amount of credited pension”) yw swm hafal i’r credyd pensiwn a gyfrifir yn unol â rheoliadau a wneir o dan baragraff 5(b) o Atodlen 5 (credydau pensiwn: modd diwallu) i DDLlPh 1999.

Cyfrifon pensiwn eraill

64. Os yw aelod o’r cynllun hwn sydd â chredyd pensiwn hefyd yn aelod actif, aelod gohiriedig, aelod-bensiynwr neu’n aelod-oroeswr o’r cynllun hwn, rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn yn ychwanegol at unrhyw gyfrif arall a sefydlwyd ar gyfer yr aelod o dan y Rhan hon.

RHAN 5

Buddion ymddeol

PENNOD 1

Dehongli

Cymhwyso’r Rhan

65. Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â buddion ymddeol sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn.

Gwasanaeth cymwys

66.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn, mewn perthynas â chyfrif pensiwn aelod, ystyr “gwasanaeth cymwys” (“qualifying service”) yw cyfanswm y canlynol—

(a)     unrhyw wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn mewn perthynas â’r un cyfrif pensiwn;

(b)     os derbyniwyd taliad gwerth trosglwyddiad o dan Ran 10 (trosglwyddiadau) mewn cysylltiad â hawliau cronedig aelod o dan gynllun pensiwn galwedigaethol arall, y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy’r aelod o dan y cynllun hwnnw; ac

(c)     yn achos aelod trosiannol sydd â pharhad gwasanaeth, yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a (5), gwasanaeth pensiynadwy yr aelod sy’n gyfrifadwy o dan reol F1([53]) (cyfrifo gwasanaeth pensiynadwy a thystysgrifau o’r cyfryw) o Gynllun 1992 (os oes rhywfaint) a gwasanaeth cymwys yr aelod o dan CPNDT (os oes rhywfaint).

(2) Os oes gan aelod trosiannol fwy nag un cyfrif aelod actif ac os oedd yn aelod o Gynllun 1992, rhaid ychwanegu’r gwasanaeth pensiynadwy sy’n gyfrifadwy o dan reol F1 o Gynllun 1992 at y gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cyfrif aelod actif y mae’r gyflogaeth gynllun ar ei gyfer yn fwyaf tebyg i’r gyflogaeth a oedd yn bensiynadwy o dan Gynllun 1992.

(3) Os oes gan aelod trosiannol nifer mwy o gyfrifon aelod actif na nifer y contractau cyflogaeth yr oedd yr aelod hwnnw’n aelod o CPNDT mewn cysylltiad â hwy, rhaid ychwanegu’r gwasanaeth cymwys o dan yr CPNDT at y gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cyfrif aelod actif y mae’r gyflogaeth gynllun ar ei gyfer yn fwyaf tebyg i’r gyflogaeth a oedd yn bensiynadwy o dan yr CPNDT.

(4) Os oedd aelod trosiannol yn aelod o Gynllun 1992 ac o CPNDT neu os oedd ganddo ddau neu ragor o gontractau cyflogaeth yr oedd yn aelod o CPNDT mewn perthynas â hwy, rhaid ychwanegu’r gwasanaeth pensiynadwy sy’n gyfrifadwy o dan reol F1 o Gynllun 1992, neu’r gwasanaeth cymwys o dan yr CPNDT, yn ôl fe y digwydd, at y gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cyfrif aelod actif y mae’r gyflogaeth gynllun ar ei gyfer yn fwyaf tebyg i’r gyflogaeth a oedd yn bensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu’r CPNDT.

(5) Os nad yw’r rheolwr cynllun yn sicr pa wasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992, neu wasanaeth cymwys o dan yr CPNDT, yw’r tebycaf i’r gyflogaeth gynllun ar gyfer cyfrif pensiwn penodol, caiff yr aelod benderfynu pa wasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992, neu wasanaeth cymwys o dan yr CPNDT, sydd i’w ychwanegu at y gwasanaeth pensiynadwy mewn perthynas â chyfrif pensiwn yr aelod, a hysbysu’r rheolwr cynllun o hynny drwy hysbysiad ysgrifenedig, ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun.

(6) Ni chyfrifir yr un o’r canlynol yn wasanaeth cymwys—

(a)     unrhyw wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn y diddymwyd mewn cysylltiad ag ef hawliau’r person o dan y cynllun hwn;

(b)     unrhyw wasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu’r CPNDT y diddymwyd mewn cysylltiad ag ef hawliau’r person o dan y cynllun hwnnw;

(c)     unrhyw absenoldeb diawdurdod o gyflogaeth gynllun.

PENNOD 2

Buddion ymddeol

Hawlogaeth i bensiwn ymddeol

67.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae hawl gan aelod (P) o’r cynllun hwn i gael taliad ar unwaith o bensiwn enilledig ymddeol o dan y cynllun hwn—

(a)     os—

                           (i)    yw P wedi cyrraedd 55 mlwydd oed,

                         (ii)    oes gan P o leiaf dri mis o wasanaeth cymwys,

                       (iii)    yw P wedi hawlio taliad o bensiwn ymddeol, a

                        (iv)    nad yw P bellach yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun ac nad oes hawl ganddo, felly, i fod yn aelod actif o’r cynllun hwn; neu

(b)     os yw P wedi arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad.

(2) Pan fo hawl gan aelod i gael dyfarniad afiechyd, nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1)(a)(i) yn gymwys i’r aelod hwnnw.

(3) Wrth gael yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn enilledig ymddeol, mae hawl gan P i gael taliad ar unwaith o bensiwn ychwanegol ymddeol os oedd gan P, cyn cael yr hawl felly, gyfrif pensiwn ychwanegol yn y cynllun hwn.

(4) Rhaid gwneud yr hawliad am daliad o bensiwn ymddeol drwy roi hysbysiad i’r rheolwr cynllun ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun, a rhaid rhoi’r hysbysiad cyn y dyddiad y gwneir y taliad cyntaf o’r pensiwn ymddeol.

Cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)

68.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo aelod actif o’r cynllun hwn yn cael yr hawl i daliad o bensiwn ymddeol ar unwaith.

(2) Cyfrifir y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol sy’n daladwy i aelod y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, ar y diwrnod sy’n dilyn y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy, drwy adio cyfansymiau is-baragraffau (a), (b) ac (c)—

(a)     y cyfanswm sy’n deillio o—

                           (i)    cymryd swm y pensiwn enilledig ymddeol a bennir yng nghyfrif ymddeol yr aelod,

                         (ii)    didynnu’r gostyngiad talu’n gynnar (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw,

                       (iii)    didynnu swm y cymudiad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw, a

                        (iv)    didynnu cyfanswm y dyraniad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw; a

(b)     y cyfanswm sy’n deillio o—

                           (i)    cymryd swm y pensiwn ychwanegol ymddeol (os oes un) a bennir yng nghyfrif ymddeol yr aelod,

                         (ii)    didynnu’r gostyngiad talu’n gynnar (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw,

                       (iii)    didynnu swm y cymudiad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw, a

                        (iv)    didynnu cyfanswm y dyraniad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw;

(c)     swm y pensiwn afiechyd haen uchaf (os oes un) a ddyfarnwyd i’r aelod o dan reoliad 74(2) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf).

Cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau gohiriedig)

69.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo aelod gohiriedig o’r cynllun hwn yn cael yr hawl i daliad o bensiwn ymddeol ar unwaith.

(2) Cyfrifir y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol sy’n daladwy i aelod y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo drwy ddidynnu’r canlynol o swm y pensiwn gohiriedig ymddeol sydd yng nghyfrif yr aelod gohiriedig—

(a)     y gostyngiad talu’n gynnar (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw;

(b)     swm y cymudiad (os oes un) a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw;

(c)     cyfanswm y dyraniad (os oes un) a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw.

Gostyngiad talu’n gynnar

70.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gostyngiad actiwaraidd i’w gymhwyso wrth gyfrifo cyfradd flynyddol y pensiwn sy’n daladwy i aelod actif nad yw wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol, neu i aelod gohiriedig nad yw wedi cyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig.

(2) Caiff aelod actif (A) hawlio taliad o bensiwn ymddeol ar ôl i A gyrraedd 55 mlwydd oed, a chyn iddo gyrraedd yr oedran pensiwn arferol.

(3) Cyfrifir y gostyngiad actiwaraidd i’w gymhwyso, mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (2), yn unol â chanllawiau actiwaraidd sy’n lleihau’r pensiwn ar y sail nad oedd A wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol. Rhaid i’r canllawiau actiwaraidd roi sylw i niwtraliaeth actiwaraidd wrth gymharu â gwerth presennol pensiwn sy’n daladwy ar yr oedran pensiwn arferol, a dylai ychwanegiadau yn y dyfodol, rhwng dyddiad ymddeoliad cynnar A a’r oedran pensiwn arferol, fod yn unol ag ychwanegiadau o dan yr addasiad mynegai.

(4)  Caiff aelod gohiriedig (G) hawlio taliad o bensiwn ymddeol ar ôl i G gyrraedd 55 mlwydd oed, a chyn iddo gyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig.

(5) Cyfrifir y gostyngiad actiwaraidd i’w gymhwyso, mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (4), yn unol â chanllawiau actiwaraidd sy’n lleihau’r pensiwn ar y sail nad oedd G wedi cyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig. Rhaid i’r canllawiau actiwaraidd roi sylw i niwtraliaeth actiwaraidd wrth gymharu â gwerth presennol pensiwn sy’n daladwy ar yr oedran pensiwn gohiriedig, a dylai ychwanegiadau yn y dyfodol, rhwng dyddiad ymddeoliad cynnar G a’r oedran pensiwn gohiriedig, fod yn unol ag ychwanegiadau o dan DPC 1971.

Ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr

71.(1)(1) Pan fo aelod actif sydd wedi cyrraedd 55 mlwydd oed neu’n hŷn, ond heb gyrraedd yr oedran pensiwn arferol, yn cael ei ddiswyddo o gyflogaeth gynllun gan gyflogwr am reswm effeithlonrwydd busnes, neu pan derfynir ei gyflogaeth drwy gydsyniad cilyddol ar sail effeithlonrwydd busnes, a’r cyflogwr yn gwneud y penderfyniad ym mharagraff (2)(2), cyfrifir pensiwn yr aelod hwnnw yn unol â rheoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)) heb y gostyngiad talu’n gynnar.

(2) Ni chaiff cyflogwr dalu pensiwn ymddeol o’r swm a grybwyllir ym mharagraff (1) ac eithrio yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw, sef pan fo’r cyflogwr yn penderfynu y byddai pensiwn ymddeol, a ddyfernid ar y sail honno, yn gymorth i reoli swyddogaethau’r cyflogwr yn ddarbodus, yn effeithiol ac yn effeithlon, ar ôl ystyried y costau tebygol a dynnid yn yr achos penodol dan sylw.

PENNOD 3

Buddion rhan-ymddeoliad

Arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad

72.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys, mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy, i aelod actif o’r cynllun hwn (P)—

(a)     sy’n 55 mlwydd oed o leiaf; a

(b)     y byddai hawl ganddo i gael taliad ar unwaith o bensiwn ymddeol mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth pe bai P yn gadael gwasanaeth pensiynadwy ac yn hawlio taliad o’r pensiwn.

(2) Caiff P arfer yr opsiwn o barhau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn, ond hawlio taliad o’r cyfan o bensiwn cronedig P mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy cyn arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad.

(3) Os oes gan P fwy nag un cyfrif aelod actif, caniateir arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad mewn cysylltiad â rhai neu’r cwbl o gyfrifon cyfrif aelod actif P.

(4)  Ni chaniateir arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad ac eithrio drwy roi hysbysiad i’r rheolwr cynllun (“hysbysiad optio”), yn y ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun a rhaid ei roi cyn y dyddiad yr hawlir y taliad cyntaf o’r pensiwn ymddeol arno.

(5) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir bod yr opsiwn o ran-ymddeoliad wedi ei arfer ar ba bynnag ddyddiad a gytunir rhwng yr aelod a’r rheolwr cynllun.

(6) Rhaid i’r hysbysiad optio bennu bod P yn hawlio’r cyfan o bensiwn cronedig P mewn cysylltiad â’i gyfrif aelod actif, mewn cysylltiad â gwasanaeth cynharach yn y gyflogaeth gynllun honno.

Cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol ar ôl arfer opsiwn o ran-ymddeoliad

73.(1)(1) Mae hawl gan aelod actif o’r cynllun hwn (P) sy’n arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad i gael taliad ar unwaith o bensiwn ymddeol.

(2) Cyfrifir y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol o dan reoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)) drwy gyfeirio at swm y pensiwn enilledig ymddeol a swm y pensiwn ychwanegol ymddeol (os oes un) o’r disgrifiad hwnnw a bennir yng nghyfrif ymddeol yr aelod.

(3) At ddibenion y Rhan hon, pan fo aelod yn arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad, diwrnod olaf gwasanaeth pensiynadwy’r aelod hwnnw, mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy yr arferir yr opsiwn o ran-ymddeoliad mewn cysylltiad ag ef, yw’r diwrnod yr arferodd yr aelod yr opsiwn o ran-ymddeoliad.

PENNOD 4

Buddion afiechyd

Hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf

74.(1)(1) Mae gan aelod actif nad yw wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol yr hawl i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen isaf os bodlonir yr amodau canlynol—

(a)     ym marn YMCA, mae’r aelod yn analluog i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau’r rôl y cyflogwyd yr aelod ynddi ddiwethaf, oherwydd anallu meddyliol neu gorfforol, a bydd yr anallu hwnnw’n parhau nes cyrraedd oedran pensiwn arferol;

(b)     mae gan yr aelod dri mis o leiaf o wasanaeth cymwys;

(c)     o ganlyniad i’r anallu yn is-baragraff (a), mae’r aelod wedi ei ddiswyddo neu wedi ymddeol o gyflogaeth gynllun; a

(d)     mae’r rheolwr cynllun wedi penderfynu bod hawl gan yr aelod i gael pensiwn afiechyd haen isaf.

(2) Mae hawl gan aelod actif i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen uchaf yn ychwanegol at y pensiwn afiechyd haen isaf os bodlonir yr amodau canlynol—

(a)     ym marn YMCA, mae’r aelod yn analluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, oherwydd anallu meddyliol neu gorfforol, a bydd yr anallu hwnnw’n parhau nes cyrraedd oedran pensiwn arferol;

(b)     mae gan yr aelod bum mlynedd o leiaf o wasanaeth cymwys;

(c)     mae hawl gan yr aelod i gael pensiwn afiechyd haen isaf; a

(d)     mae’r rheolwr cynllun wedi penderfynu bod hawl gan yr aelod i gael pensiwn afiechyd haen uchaf.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “dyfarniad afiechyd” (“ill-health award”) yw hawlogaeth i gael taliad o bensiwn afiechyd haen isaf, ac mewn achosion pan fo gan yr aelod hawlogaeth hefyd i gael pensiwn afiechyd haen uchaf, y taliad o bensiwn afiechyd haen uchaf.

Cyfradd flynyddol dyfarniadau afiechyd

75.(1)(1) Cyfrifir y gyfradd flynyddol o bensiwn afiechyd haen isaf ac o bensiwn afiechyd haen uchaf fel a ganlyn.

(2) Cyfrifir y gyfradd flynyddol o bensiwn afiechyd haen isaf yn unol â pharagraffau (2)(a) a (2)(b) o reoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)), ond heb ddidynnu’r gostyngiad talu’n gynnar.

(3) Cyfrifir y gyfradd flynyddol o bensiwn afiechyd haen uchaf drwy luosi swm blynyddol y pensiwn addasedig afiechyd haen isaf gan gyfnod tybiedig gwasanaeth pensiynadwy yr aelod a chyda 2%.

(4) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfnod tybiedig gwasanaeth pensiynadwy yr aelod” (“the member’s assumed period of pensionable service”) yw’r cyfnod, a fynegir mewn blynyddoedd—

(a)     sy’n dechrau gyda’r diwrnod ar ôl i’r cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod ddod i ben, ac

(b)      yn diweddu gyda’r diwrnod cyn y diwrnod y byddai’r aelod yn cyrraedd yr oedran pensiwn arferol;

ystyr “y pensiwn addasedig afiechyd haen isaf” (“the adjusted lower tier ill-health pension”) yw’r pensiwn afiechyd haen isaf sy’n daladwy o dan baragraff (2) a gyfrifir—

(a)     heb gynnwys swm hafal i unrhyw bensiwn ychwanegol a gynhwyswyd wrth gyfrifo’r pensiwn afiechyd haen isaf, a

(b)     heb y didyniad ar gyfer unrhyw gyfran o’r pensiwn a gymudwyd.

Talu pensiwn ymddeol yn gynnar i aelod gohiriedig

76. Mae gan aelod gohiriedig nad yw wedi cyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig yr hawl i gael taliad ar unwaith o bensiwn ymddeol a gyfrifir o dan reoliad 69 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau gohiriedig)) heb ddidynnu’r gostyngiad talu’n gynnar os bodlonir yr amodau canlynol—

(a)     mae’r aelod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun yn gofyn am dalu’r pensiwn cyn yr oedran pensiwn gohiriedig;

(b)     ym marn YMCA, mae’r aelod yn analluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, oherwydd gwendid meddyliol neu gorfforol, a bydd yr anallu hwnnw’n parhau nes cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig; ac

(c)     mae’r rheolwr cynllun wedi penderfynu bod hawl gan yr aelod i gael taliad cynnar o’r pensiwn ymddeol.

Adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar

77.(1)(1) Pan fo aelod (P) wedi bod yn cael dyfarniad afiechyd o dan reoliad 74 (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf) am gyfnod llai na 10 mlynedd, ac yntau o dan oedran pensiwn gohiriedig, rhaid i’r rheolwr cynllun ystyried, fesul pa bynnag ysbeidiau yr ystyria’n briodol, a yw P wedi dod yn alluog—

(a)     i gyflawni unrhyw ddyletswydd sy’n briodol i’r rôl yr ymddeolodd P ohoni ar sail afiechyd; a

(b)     i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd.

(2) Mewn perthynas ag aelod-bensiynwr a oedd yn aelod gohiriedig ac y telir ei bensiwn yn gynnar yn rhinwedd rheoliad 76 (talu pensiwn ymddeol yn gynnar i aelod gohiriedig), rhaid i’r rheolwr cynllun ystyried, fesul pa bynnag ysbeidiau yr ystyria’n briodol cyn bo’r aelod wedi cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig, a yw’r aelod hwnnw wedi dod yn alluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd.

Canlyniadau adolygu

78.(1)(1) Os yw’r rheolwr cynllun, yn dilyn ystyriaeth fel y crybwyllir yn rheoliad 77(1) (adolygu dyfarniad afiechyd neu dalu pensiwn ymddeol yn gynnar), yn penderfynu([54]) bod aelod (U), sy’n cael pensiwn afiechyd haen uchaf, wedi dod yn alluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, rhaid terfynu hawlogaeth U i gael y pensiwn hwnnw gydag effaith ar unwaith.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid parhau i dalu pensiwn afiechyd haen isaf i aelod y mae ei hawlogaeth i gael pensiwn afiechyd haen uchaf yn dod i ben.

(3) Os yw—

(a)     rheolwr cynllun, yn dilyn ystyriaeth fel y crybwyllir yn rheoliad 77(1) (adolygu dyfarniad afiechyd neu dalu pensiwn ymddeol yn gynnar), yn penderfynu bod aelod (I) sy’n cael pensiwn afiechyd haen isaf wedi dod yn alluog i gyflawni’r dyletswyddau sy’n briodol i’r rôl yr ymddeolodd I ohoni ar sail afiechyd; a

(b)     y cyflogwr yn cynnig cyflogaeth i I yn y rôl honno (“cynnig paragraff (3)(b)”),

rhaid terfynu hawlogaeth I i gael pensiwn afiechyd haen isaf, pa un ai yw I yn derbyn neu’n gwrthod y cynnig.

(4) Rhaid i’r cyflogwr, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrth wneud cynnig paragraff (3)(b), bennu dyddiad pan ystyrir y bydd yr aelod wedi gwrthod y cynnig os na fydd yr aelod wedi derbyn y cynnig erbyn y dyddiad hwnnw.

(5) Mae pensiwn afiechyd haen isaf yn peidio â bod yn daladwy ar y cynharaf o’r dyddiadau canlynol—

(a)     y dyddiad pan fo aelod yn ailddechrau mewn cyflogaeth gynllun yn unol â chynnig paragraff (3)(b);

(b)     unrhyw ddyddiad ar ôl gwneud y cynnig paragraff (3)(b) a bennir gan y cyflogwr drwy hysbysiad o dan baragraff (4).

(6) Pan fo aelod yn gwrthod cynnig paragraff (3)(b), rhaid sefydlu cyfrif aelod gohiriedig o dan reoliad 57 (cyfrif a sefydlir wedi i ddyfarniad afiechyd beidio â bod yn daladwy) o’r dyddiad y bydd dyfarniad afiechyd yr aelod hwnnw yn peidio â bod yn daladwy yn unol â pharagraff (5).

(7) Os yw’r rheolwr cynllun, yn dilyn ystyriaeth fel y crybwyllir yn rheoliad 77(2) (adolygu dyfarniad afiechyd neu dalu pensiwn ymddeol yn gynnar), wedi cael barn gan yr YMCA sy’n datgan bod yr aelod gohiriedig (P), y telir ei bensiwn gohiriedig yn gynnar, wedi dod yn alluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, rhaid terfynu hawlogaeth P i gael taliad cynnar o’r pensiwn gydag effaith ar unwaith a rhaid addasu cyfrif aelod gohiriedig P o dan reoliad 56 (addasu cyfrif wedi i daliadau cynnar o bensiwn gohiriedig ddod i ben).

PENNOD 5

Talu buddion ymddeol

Cychwyn pensiynau

79.(1)(1) Mae’r cyfnod cyntaf y bydd unrhyw bensiwn ymddeol yn daladwy ar unwaith ar ei gyfer wedi i aelod adael cyflogaeth gynllun yn dechrau gyda’r diwrnod ar ôl y dyddiad pan fo’r gyflogaeth yn dod i ben, os yw’r aelod wedi gwneud hawliad cyn y dyddiad hwnnw am i’r pensiwn gael ei dalu.

(2) Os nad yw aelod actif wedi hawlio taliad o’r pensiwn ymddeol cyn y dyddiad y mae’r aelod hwnnw’n ymddeol, bydd y pensiwn yn daladwy o ddyddiad ar ôl i’r hawliad gael ei wneud, ac yr hysbysir yr aelod ohono gan y rheolwr cynllun.

(3) Os yw cyflogwr aelod actif wedi penderfynu talu pensiwn ymddeol i’r aelod hwnnw cyn bo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn arferol, gan arfer y pwerau yn rheoliad 71 (ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr), mae’r cyfnod cyntaf y bydd y pensiwn yn daladwy ar ei gyfer yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i gyflogaeth gynllun yr aelod ddod i ben.

(4) Yn achos aelod actif sy’n arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad, mae’r cyfnod cyntaf y bydd unrhyw bensiwn ymddeol yn daladwy ar ei gyfer yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad yr arferir yr opsiwn o ran-ymddeoliad.

(5) Yn achos aelod gohiriedig, mae’r cyfnod cyntaf y bydd taliad unrhyw bensiwn ymddeol yn daladwy ar ei gyfer yn dechrau ar y dyddiad y mae’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig pan fo aelod gohiriedig wedi hawlio taliad pensiwn ymddeol, oni fydd yr aelod hwnnw wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun cyn bo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig, yn gofyn am—

(a)     gohirio talu, drwy hysbysiad a roddir i’r rheolwr cynllun fwy na thri mis cyn bo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig, ac ni chaiff unrhyw ohiriad o’r fath ymestyn y tu hwnt i’r diwrnod cyn 75fed pen-blwydd yr aelod;

(b)     talu’r pensiwn ymddeol cyn yr oedran pensiwn gohiriedig ar ôl didynnu’r gostyngiad talu’n gynnar; neu

(c)     talu’r pensiwn ymddeol yn gynnar o dan reoliad 76 (talu pensiwn ymddeol yn gynnar i aelod gohiriedig) ar sail anallu i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd.

(6) Pan fo hawl gan aelod actif i gael pensiwn afiechyd haen isaf neu bensiwn afiechyd haen uchaf o dan reoliad 74 (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf), mae’r cyfnod cyntaf y bydd pensiwn ymddeol yn daladwy ar ei gyfer yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y terfynir cyflogaeth gynllun yr aelod.

(7) Pan fo aelod gohiriedig wedi gwneud cais y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c) a phan fo hawl ganddo i gael y taliad cynnar o bensiwn ymddeol, mae’r cyfnod cyntaf y bydd y pensiwn yn daladwy ar ei gyfer yn dechrau ar y dyddiad y daeth yr aelod gohiriedig yn analluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd oherwydd gwendid corfforol neu feddyliol, neu, os na ellir canfod y dyddiad hwnnw, o ddyddiad y cais gan yr aelod i’r rheolwr cynllun am daliad cynnar.

(8) Pan fo aelod gohiriedig wedi gwneud cais y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(a) neu (b), bydd y pensiwn yn daladwy o ddyddiad ar ôl gwneud yr hawliad amdano, yr hysbysir yr aelod ohono gan y rheolwr cynllun.

Opsiwn i gymudo rhan o’r pensiwn

80.(1)(1) Caiff aelod sy’n cael yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol arfer opsiwn o dan y rheoliad hwn i gyfnewid rhan o’r pensiwn am gyfandaliad.

(2) Ni chaniateir arfer yr opsiwn ac eithrio—

(a)     drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, sy’n nodi’r swm sydd i’w gymudo; a

(b)     cyn gwneud y taliad cyntaf o’r pensiwn.

(3) Os yw aelod yn arfer yr opsiwn, am bob £1 o ostyngiad i swm cyfradd flynyddol pensiwn yr aelod, rhaid talu i’r aelod gyfandaliad o £12.

(4) Ni chaiff aelod gyfnewid am gyfandaliad o dan y rheoliad hwn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)     25% o’r pensiwn; a

(b)     cyfran o’r pensiwn i’r graddau y byddai’n achosi taliad trethadwy o’r cynllun([55]) at ddibenion Rhan 4 o DC 2004.

(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i bensiwn sy’n deillio o hawliau credyd pensiwn os oedd yr aelod â debyd pensiwn, y mae’r pensiwn yn deillio o’i hawliau, wedi cael cyfandaliad o dan y rheoliad hwn cyn y dyddiad yr oedd y gorchymyn rhannu pensiwn yn cael effaith.

(6) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i bensiwn afiechyd haen uchaf.

PENNOD 6

Dyrannu rhan o bensiwn

Dewisiad i ddyrannu

81.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phensiwn enilledig ymddeol sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy aelod o dan y cynllun hwn.

(2) Caiff aelod actif neu aelod gohiriedig wneud dewisiad i ddyrannu i fuddiolwr hyd at draean o swm y gyfradd flynyddol o unrhyw rai o bensiynau ymddeol yr aelod o dan y cynllun hwn (“dewisiad i ddyrannu”).

(3) Rhaid i fuddiolwr dewisiad i ddyrannu, pan wneir y dewisiad i ddyrannu, fod yn un o’r personau canlynol—

(a)     priod, partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw â’r aelod actif neu’r aelod gohiriedig; neu

(b)     gyda chydsyniad y rheolwr cynllun, unrhyw berson arall sy’n dibynnu’n sylweddol ar yr aelod actif neu’r aelod gohiriedig, ac a fuasai’n ddibynnydd yr aelod at ddibenion paragraff 15(2) neu (3) o Atodlen 28 i DC 2004 pe buasai farw’r aelod pan wnaed y dewisiad([56]).

(4) Caiff y rheolwr cynllun atal cydsyniad o dan baragraff (3)(b) os nad yw’r rheolwr cynllun wedi ei fodloni bod y person yn dibynnu’n sylweddol ar yr aelod actif neu’r aelod gohiriedig.

(5) Os yw aelod yn dymuno dyrannu pensiwn i fwy nag un buddiolwr, rhaid gwneud dewisiad ar wahân mewn cysylltiad â phob buddiolwr.

(6) Pan ddyrennir mwy nag un gyfran o bensiwn penodol, ni chaiff cyfanswm y cyfrannau o’r pensiwn hwnnw a ddyrennir fod yn fwy na’r gyfran o’r pensiwn hwnnw a gedwir gan yr aelod actif neu’r aelod gohiriedig.

(7) Os yw paragraff (8) yn gymwys, ni chaiff yr aelod wneud dewisiad i ddyrannu dim mwy na’r gyfran o’r pensiwn (ar ôl didynnu swm y cymudiad, os oes un) sydd dros ben y lleiafswm gwarantedig, wedi ei lluosi gyda pha bynnag ffactor a ddynodir ar gyfer person o ddisgrifiad yr aelod mewn tablau a ddarperir gan y rheolwr cynllun, gan roi sylw i ganllawiau actiwaraidd.

(8) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os oes gan yr aelod leiafswm gwarantedig o dan adran 14 (lleiafswm gwarantedig enillydd) o DCauP 1993 mewn perthynas â’r cyfan neu ran o bensiwn, o ganlyniad i dderbyn gan y cynllun daliad trosglwyddo oddi wrth gynllun pensiwn arall, yr oedd gan yr aelod leiafswm gwarantedig o’r fath mewn cysylltiad ag ef.

Gwneud dewisiad i ddyrannu

82.(1)(1) Pan fo aelod actif neu aelod gohiriedig yn bwriadu gwneud dewisiad i ddyrannu, rhaid i’r aelod hwnnw—

(a)     bodloni’r rheolwr cynllun fod yr aelod hwnnw mewn iechyd da a bod ganddo ddisgwyliad oes normal; a

(b)     rhoi i’r rheolwr cynllun hysbysiad ysgrifenedig o ddewisiad i ddyrannu (“hysbysiad dyrannu”), gan bennu—

                           (i)    y gyfran,

                         (ii)    enw a chyfeiriad y buddiolwr,

                       (iii)    rhyw’r buddiolwr, a

                        (iv)    dyddiad geni’r buddiolwr.

(2) Rhaid rhoi’r hysbysiad dyrannu, y caniateir ei anfon drwy’r post, ddim cynharach na dau fis cyn bo’r pensiwn yn dod yn daladwy.

(3) Pan fo’r gofynion ym mharagraffau (1) a (2) wedi eu bodloni, rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu’r aelod ei fod wedi derbyn y dewisiad i ddyrannu.

(4) Ni fydd dewisiad yn cael effaith os bydd farw’r aelod neu’r buddiolwr cyn i’r hysbysiad dyrannu gael effaith.

Effaith dyrannu

83.(1)(1) Os bydd dewisiad i ddyrannu yn cael effaith, bydd pensiwn ymddeol yr aelod yn cael ei leihau yn unol â hynny.

(2) Os bydd hysbysiad dyrannu yn cael effaith, bydd yn gwneud hynny ar y diwrnod y daw’r pensiwn ymddeol yn daladwy.

(3) Pan fo hysbysiad dyrannu wedi cael effaith, a’r buddiolwr yn goroesi’r pensiynwr, rhaid i’r rheolwr cynllun, o ddyddiad marwolaeth y pensiynwr, dalu pensiwn i’r buddiolwr am ei oes (“pensiwn dyranedig”) o swm a benderfynir gan y rheolwr cynllun yn unol â chanllawiau actiwaraidd sydd mewn grym pan fo’r hysbysiad dyrannu yn cael effaith, gan roi sylw i—

(a)     y swm o’r pensiwn ymddeol a ddyrannwyd o dan y dewisiad; a

(b)     oedran y pensiynwr a’r buddiolwr ar y dyddiad pan roddwyd yr hysbysiad dyrannu.

(4) Pan fo mwy nag un gyfran o bensiwn ymddeol yr aelod wedi eu dyrannu, rhaid gwneud cyfrifiad ar wahân o dan baragraff (3) mewn cysylltiad â phob dyraniad.

(5) Pan fo—

(a)     hysbysiad dyrannu wedi cael effaith; a

(b)     y buddiolwr yn marw cyn y pensiynwr,

rhaid i’r rheolwr cynllun dalu i’r pensiynwr (gan wahaniaethu rhwng y taliad ac unrhyw bensiwn arall sy’n daladwy i’r pensiynwr hwnnw) y gyfran o’r pensiwn sydd wedi ei dyrannu (“y pensiwn dyraniad methedig”).

(6) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, nid oes hawl gan y pensiynwr i adennill oddi wrth y rheolwr cynllun swm unrhyw ddidyniad a wnaed mewn cysylltiad â’r pensiwn dyraniad methedig.

(7) Bydd dyraniad yn peidio â chael effaith at ddibenion y rheoliad hwn os byddai’n peri bod pensiwn yn cael ei dalu o dan y rheoliad hwn i fuddiolwr nad yw—

(a)     yn briod â’r aelod, yn bartner sifil i’r aelod nac yn bartner sy’n cyd-fyw â’r aelod ar—

                           (i)    y dyddiad y caiff yr aelod yr hawl i gael y pensiwn, neu

                         (ii)    pan fydd farw’r aelod; nac

(b)     yn ddibynnydd yr aelod at ddibenion paragraff 15(2) neu (3) o Atodlen 28 i DC 2004 pan fydd farw’r aelod.

Addasu budd a ddyrannwyd

84.(1)(1) Caniateir addasu swm y pensiwn dyranedig sy’n daladwy i fuddiolwr dewisiad i ddyrannu, mewn modd sydd i’w benderfynu gan y rheolwr cynllun os—

(a)     bydd farw’r aelod a wnaeth y dewisiad i ddyrannu ar ôl cyrraedd 75 mlwydd oed; a

(b)     ar farwolaeth yr aelod, nad yw swm y pensiwn dyranedig sy’n daladwy i’r buddiolwr yn gymwys fel pensiwn cynllun dibynyddion o dan adran 167 (y rheolau buddion marwolaeth pensiwn) o DC 2004([57]).

(2) Yn y rheoliad hwn, mae i “pensiwn dyranedig” (“allocated pension”) yr un ystyr a roddir yn rheoliad 83(3) (effaith dyrannu).

RHAN 6

Buddion marwolaeth

PENNOD 1

Dehongli

Ystyr “partner sy’n goroesi”

85.(1)(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person yn bartner sy’n goroesi mewn perthynas ag aelod os yw’r person hwnnw, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod—

(a)     yn briod â’r aelod neu’n bartner sifil i’r aelod;

(b)     yn cyd-fyw â’r aelod ac—

                           (i)    nad yw’n briod â’r aelod hwnnw nac mewn partneriaeth sifil â’r aelod hwnnw,

                         (ii)    nad yw’n briod ag unrhyw berson arall nac yn bartner sifil i unrhyw berson arall,

                       (iii)    gallai ymuno mewn priodas neu bartneriaeth sifil â’r aelod o dan gyfraith Cymru a Lloegr ond nad yw wedi gwneud hynny,

                        (iv)    yn ddibynnol yn ariannol ar yr aelod o’r cynllun, neu mewn cyflwr o gyd-ddibyniaeth ariannol gilyddol â’r aelod o’r cynllun, a

                          (v)    mewn perthynas hirdymor â’r aelod o’r cynllun.

(2) Ym mharagraff (1), ystyr “perthynas hirdymor” (“long-term relationship”) yw perthynas sydd wedi parhau am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf, sy’n diweddu ar y dyddiad y digwydd i fater statws y person mewn perthynas â’r aelod gael ei ystyried, neu pa bynnag gyfnod byrrach a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun mewn unrhyw achos priodol.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “partner sy’n cyd-fyw” (“cohabiting partner”) yw person sy’n bodloni’r gofynion ym mharagraff (1)(b).

Ystyr “cyfnod dechreuol”

86. At ddibenion y Rhan hon, ystyr “cyfnod dechreuol” (“initial period”) yw’r cyfnod o 13 wythnos sy’n cychwyn ar y diwrnod ar ôl marwolaeth yr aelod, pan ganiateir i bensiwn profedigaeth fod yn daladwy i unrhyw bartner sy’n goroesi neu i blentyn cymwys.

PENNOD 2

Pensiynau ar gyfer partneriaid sy’n goroesi

Pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif

87.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phartner sy’n goroesi aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod actif gyda mwy na thri mis o wasanaeth cymwys.

(2) Mae hawl gan bartner sy’n goroesi, ac y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, i gael pensiwn partner sy’n goroesi.

(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang), cyfradd flynyddol pensiwn y partner sy’n goroesi yw swm sy’n hafal i hanner y pensiwn y byddai hawl gan yr aelod i’w gael pe bai’r aelod wedi ymddeol ar sail afiechyd gyda dyfarniad o bensiwn afiechyd haen uchaf ar ddyddiad marwolaeth yr aelod.

Pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod gohiriedig

88.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phartner sy’n goroesi aelod a oedd, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod gohiriedig.

(2) Mae hawl gan bartner sy’n goroesi, ac y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, i gael pensiwn partner sy’n goroesi.

(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang), cyfradd flynyddol pensiwn y partner sy’n goroesi yw swm sy’n hafal i hanner y swm dros dro o bensiwn gohiriedig a bennir yng nghyfrif yr aelod gohiriedig a swm y pensiwn ychwanegol (os oes un) a bennir yn y cyfrif pensiwn ychwanegol.

Pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod-bensiynwr

89.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phartner sy’n goroesi aelod (P) a oedd, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod-bensiynwr.

(2) Mae hawl gan bartner sy’n goroesi, ac y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, i gael pensiwn partner sy’n goroesi.

(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang), cyfradd flynyddol pensiwn y partner sy’n goroesi yw swm sy’n hafal i hanner swm y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol a oedd yn daladwy i P yn union cyn ei farwolaeth.

(4) Os oedd gostyngiad talu’n gynnar wedi ei wneud ar ymddeoliad P, y swm ym mharagraff (2) yw hanner y swm o bensiwn ymddeol a fyddai wedi bod yn daladwy i P pe na bai’r gostyngiad hwnnw wedi ei wneud.

Pensiwn profedigaeth: partner sy’n goroesi

90.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae hawl gan bartner sy’n goroesi aelod actif, neu aelod-bensiynwr, i gael pensiwn profedigaeth am y cyfnod dechreuol.

(2) Nid oes hawl gan bartner sy’n goroesi aelod actif i gael pensiwn profedigaeth os nad oedd gan yr aelod actif dri mis o leiaf o wasanaeth cymwys.

(3) Os oedd yr aelod yn aelod actif ar ddyddiad ei farwolaeth, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraff (1) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y tâl pensiynadwy a delid i’r aelod ar ddyddiad ei farwolaeth neu, os trinnid yr aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, y swm wythnosol o dâl pensiynadwy tybiedig, a swm wythnosol pensiwn y partner sy’n goroesi.

(4) Os oedd yr aelod yn aelod-bensiynwr ar ddyddiad ei farwolaeth, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraff (1) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y pensiwn yr oedd hawl gan yr aelod i’w gael ar ddyddiad ei farwolaeth, a swm wythnosol pensiwn y partner sy’n goroesi.

Lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang

91.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw pensiwn partner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod o’r cynllun hwn, yn daladwy i berson sydd dros 12 mlynedd yn iau na’r aelod.

(2) Gostyngir cyfradd flynyddol y pensiwn hwnnw gan y lleiaf o’r canlynol—

(a)     50% o swm cyfradd flynyddol y pensiwn a gyfrifwyd felly; neu

(b)     2.5 x (N – 12)% o’r swm hwnnw,

lle mae N yn dynodi’r nifer o flynyddoedd cyfan y mae’r partner sy’n goroesi yn iau na’r aelod.

Lleiafswm pensiwn gwarantedig goroeswr

92.(1)(1) Os oes gan berson sy’n briod neu’n bartner sifil sy’n goroesi aelod actif, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr ymadawedig, leiafswm gwarantedig o dan adran 17([58]) o DCauP 1993 mewn perthynas â buddion mewn cysylltiad â’r aelod ymadawedig o dan y cynllun hwn—

(a)     nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n caniatáu, nac yn ei gwneud yn ofynnol, unrhyw beth a fyddai’n peri i ofynion a wnaed gan, neu o dan, y Ddeddf honno mewn perthynas â pherson o’r fath, a hawliau person o’r fath o dan gynllun, beidio â chael eu bodloni yn achos y person;

(b)     nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n rhwystro unrhyw beth rhag cael ei wneud, sy’n angenrheidiol neu’n hwylus at y diben o fodloni gofynion o’r fath yn achos y person.

(2) Nid yw paragraffau (3) a (4) yn lleihau dim ar gyffredinolrwydd paragraff (1).

(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan, ac eithrio o ganlyniad i’r rheoliad hwn—

(a)     na fyddai pensiwn yn daladwy i’r partner sy’n goroesi o dan y Rhan hon; neu

(b)     byddai cyfradd wythnosol y pensiynau sy’n daladwy yn llai na’r lleiafswm gwarantedig.

(4) Os yw paragraff (3) yn gymwys—

(a)     mae pensiwn sydd â’i gyfradd wythnosol yn hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy am ei oes i’r partner sy’n goroesi neu, yn ôl fel y digwydd, bydd pensiynau sydd â’u cyfradd wythnosol gyfanredol yn hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy felly; neu

(b)     os yw paragraff (3)(b) yn gymwys, cynyddir y pensiynau sy’n daladwy i’r swm a bennir yn is-baragraff (a).

(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys i bensiwn—

(a)     sydd wedi ei fforffedu—

                           (i)    o ganlyniad i gollfarn am frad, neu

                         (ii)    mewn achos pan fo’r drosedd berthnasol o dan reoliad 181 (fforffedu: troseddau a gyflawnir gan aelodau, partneriaid sy’n goroesi neu blant cymwys) yn dod o fewn paragraff (b) o’r diffiniad, yn y rheoliad hwnnw, o “trosedd berthnasol” (troseddau o dan y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol); neu

(b)     pan fo’r pensiwn hwnnw wedi ei gymudo o dan reoliad 177 (cymudo pensiynau bach), a’r amodau yn rheoliad 60 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996([59]) wedi eu bodloni.

PENNOD 3

Pensiynau ar gyfer plant cymwys

Pensiwn plentyn cymwys

93.(1)(1) Os bydd farw aelod, sydd â thri mis o leiaf o wasanaeth cymwys, gan adael plentyn cymwys, mae pensiwn plentyn cymwys yn daladwy, a phensiwn profedigaeth, wrth ddibynnu ar amgylchiadau’r aelod ymadawedig, yn daladwy, mewn cysylltiad â’r plentyn.

(2) Nid oes pensiwn plentyn cymwys yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod cyn genedigaeth plentyn.

(3) Os yw’r plentyn, ar ôl dyddiad marwolaeth yr aelod, yn peidio â bod yn blentyn cymwys bydd y pensiwn yn peidio â bod yn daladwy oni bai a hyd nes bo’r plentyn yn dod yn blentyn cymwys drachefn; ond os na fydd y plentyn yn peidio â bod yn blentyn cymwys, bydd y pensiwn yn daladwy am ei oes.

Ystyr “plentyn cymwys”

94.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn, mewn perthynas ag aelod ymadawedig, ystyr “plentyn” (“child”) yw—

(a)     plentyn naturiol, llysblentyn neu blentyn mabwysiedig yr aelod; neu

(b)     plentyn naturiol, llysblentyn neu blentyn mabwysiedig priod yr aelod, neu blentyn naturiol, llysblentyn neu blentyn mabwysiedig i bartner sifil yr aelod neu i bartner a oedd yn cyd-fyw â’r aelod; neu

(c)     unrhyw blentyn naturiol yr aelod, a anwyd ar ôl marwolaeth yr aelod, ac yr oedd mam y plentyn yn feichiog â’r plentyn hwnnw ar ddyddiad marwolaeth yr aelod.

(2) Mae plentyn yr aelod ymadawedig yn “blentyn cymwys” (“eligible child”)—

(a)     os oedd y plentyn, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod ymadawedig, yn ddibynnol yn ariannol ar yr aelod ymadawedig hwnnw;

(b)     os nad oedd y plentyn yn briod neu mewn partneriaeth sifil; ac

(c)     os yw’r plentyn yn bodloni unrhyw un o’r amodau A i C.

(3) Amod A yw fod y person o dan 18 mlwydd oed.

(4) Amod B yw fod y person mewn addysg amser llawn neu ar gwrs sy’n parhau am o leiaf un flwyddyn, ac nad yw’r person wedi cyrraedd 23 mlwydd oed.

(5) Amod C yw fod y person, oherwydd ei anallu meddyliol neu gorfforol parhaol, yn ddibynnol ar yr aelod ymadawedig ar ddyddiad marwolaeth yr aelod ymadawedig.

Pensiwn plentyn cymwys ar farwolaeth aelod actif

95.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phlentyn cymwys aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod actif a chanddo fwy na thri mis o wasanaeth cymwys.

(2) Cyfradd flynyddol pensiwn plentyn cymwys y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo yw swm sy’n hafal i’r gyfran benodedig o’r pensiwn y byddai hawl gan yr aelod i’w chael pe bai’r aelod wedi ymddeol ar sail afiechyd gyda dyfarniad o bensiwn afiechyd haen uchaf ar y dyddiad y bu farw’r aelod.

Pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod gohiriedig

96.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phlentyn cymwys aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod gohiriedig.

(2) Y gyfradd flynyddol o bensiwn plentyn cymwys yw swm sy’n hafal i’r gyfran benodedig o swm dros dro o bensiwn gohiriedig a bennir yn y cyfrif aelod gohiriedig a swm y pensiwn ychwanegol (os oes un) a bennir yn y cyfrif pensiwn ychwanegol.

Pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr

97.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phlentyn cymwys aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod-bensiynwr (P).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), cyfradd flynyddol o bensiwn plentyn cymwys yw swm sy’n hafal i’r gyfran benodedig o swm y pensiwn ymddeol a oedd yn daladwy i P yn union cyn ei farwolaeth.

(3) Os gwnaed gostyngiad talu’n gynnar ar ymddeoliad P, y swm ym mharagraff (2) yw’r gyfran benodedig o swm y pensiwn ymddeol a fyddai wedi bod yn daladwy pe na bai’r gostyngiad hwnnw wedi ei wneud.

Cyfran benodedig

98.(1)(1) Y gyfran benodedig yw un chwarter os oes un plentyn cymwys ar ddyddiad marwolaeth yr aelod.

(2) Os oes mwy nag un plentyn cymwys ar ddyddiad marwolaeth yr aelod, y gyfran benodedig yw hanner y pensiwn a grybwyllir yn rheoliadau 95 (pensiwn plentyn cymwys ar farwolaeth aelod actif), 96 (pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod gohiriedig) a 97 (pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr) wedi ei rannu â nifer y plant cymwys fel bod pob plentyn cymwys yn cael cyfran gyfartal.

(3) Os yw person yn peidio â bod yn blentyn cymwys, rhaid i daliadau pensiwn y person hwnnw beidio, ac os oes dal mwy nag un plentyn cymwys, rhaid i swm y pensiwn hwnnw gael ei ddosrannu’n gyfartal rhwng y plant cymwys sy’n weddill (os oes rhai).

Cynnydd mewn pensiwn plentyn cymwys pan nad oes partner sy’n goroesi

99.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os nad oedd gan unrhyw berson, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod, hawl i gael pensiwn partner sy’n goroesi.

(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, ac os oes plentyn cymwys, mae hawl gan y plentyn hwnnw hefyd i gael y swm o bensiwn yn unol â pharagraffau (3) neu (4) y byddai partner sy’n goroesi wedi ei gael—

(a)     o dan reoliad 87 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif) os oedd yr aelod (P) yn aelod actif ar ddyddiad ei farwolaeth;

(b)     o dan reoliad 88 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod gohiriedig) os oedd P yn aelod gohiriedig ar ddyddiad ei farwolaeth;

(c)     o dan reoliad 89 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod-bensiynwr) os oedd P yn aelod-bensiynwr ar ddyddiad ei farwolaeth.

(3) Os nad oes dim ond un plentyn cymwys, bydd y plentyn hwnnw’n cael swm ychwanegol sy’n hafal i’r swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2).

(4) Os oes mwy nag un plentyn cymwys ar ddyddiad marwolaeth P, rhennir y swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2) rhwng nifer y plant cymwys, fel bod pob plentyn cymwys yn cael cyfran gyfartal.

(5) Os yw person yn peidio â bod yn blentyn cymwys, rhaid i daliadau cyfran y person hwnnw o’r swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2) beidio, a rhaid dosrannu’r gyfran honno yn gyfartal rhwng y plant cymwys sy’n weddill (os oes rhai).

Cynnydd ym mhensiwn plentyn cymwys os oedd yr aelod yn aelod â debyd pensiwn

100. Os oedd buddion yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn ddarostyngedig i ostyngiad o dan adran 31 o DDLlPh 1999, rhaid cyfrifo unrhyw bensiwn plentyn cymwys fel pe na bai’r gostyngiad hwnnw wedi ei wneud.

Pensiwn profedigaeth: plentyn cymwys

101.(1)(1) Os nad oes pensiwn partner sy’n goroesi yn daladwy ar farwolaeth yr aelod, mae pensiwn profedigaeth yn daladwy i blentyn cymwys sydd â hawl i gael pensiwn plentyn cymwys ar farwolaeth aelod actif neu aelod-bensiynwr.

(2) Os bydd farw’r partner sy’n goroesi cyn diwedd y cyfnod dechreuol, a phensiwn profedigaeth yn daladwy i’r partner sy’n goroesi, mae pensiwn profedigaeth yn daladwy i unrhyw blentyn cymwys am y rhan o’r cyfnod dechreuol sy’n weddill, neu, os yw’n gynharach, hyd nes bo’r plentyn yn peidio â bod yn gymwys i gael pensiwn plentyn cymwys.

(3) Os oedd yr aelod yn aelod actif ar ddyddiad ei farwolaeth, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraffau (1) neu (2) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y tâl pensiynadwy a delid i’r aelod ar ddyddiad ei farwolaeth neu, os trinnid yr aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, y swm wythnosol o dâl pensiynadwy tybiedig, a swm wythnosol y pensiwn partner sy’n goroesi.

(4) Os oedd yr aelod yn aelod-bensiynwr, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraffau (1) neu (2) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y pensiwn yr oedd hawl gan yr aelod i’w gael ar ddyddiad ei farwolaeth a swm wythnosol y pensiwn partner sy’n goroesi.

(5) Os oes mwy nag un plentyn cymwys, rhennir swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraffau (1) neu (2) gyda nifer y plant cymwys, fel bod pob plentyn cymwys yn cael cyfran gyfartal.

(6) Os yw person yn peidio â bod yn blentyn cymwys cyn diwedd y cyfnod dechreuol, rhaid i daliadau cyfran y person hwnnw o’r pensiwn profedigaeth beidio, a rhaid dosrannu’r gyfran honno yn gyfartal rhwng y plant cymwys sy’n weddill (os oes rhai).

PENNOD 4

Cyfandaliadau o fuddion marwolaeth

Ystyr “tâl terfynol”

102.(1)(1) Yn y Bennod hon, ystyr “tâl terfynol” (“final pay”) yw’r mwyaf o’r canlynol—

(a)     swm tâl pensiynadwy yr aelod yn ystod y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn y cyfnod o 365 diwrnod sy’n diweddu gyda’r diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy; a

(b)     swm tâl pensiynadwy yr aelod yn ystod y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn y cyfnod o dair blynedd sy’n diweddu gyda’r diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy, wedi ei rannu gyda thri.

(2) Os oedd y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn llai na 365 diwrnod, y swm ym mharagraff (1)(a) yw swm sy’n hafal i dâl blynyddol terfynol yr aelod;

(3) At y diben o benderfynu pa un o’r symiau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw’r mwyaf—

(a)     os oedd y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn llai na thair blynedd, y swm ym mharagraff (1)(b) yw cyfanswm y tâl pensiynadwy a gafodd am y gwasanaeth hwnnw wedi ei rannu gyda nifer y blynyddoedd mewn gwasanaeth pensiynadwy, a gyfrifir yn unol â rheoliad 192 (cyfrifo cyfnodau o aelodaeth a gwasanaeth); a

(b)     os trinnir aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig ar gyfer unrhyw gyfnod a gynhwysir ym mharagraff (1)(a) neu (1)(b), mae tâl pensiynadwy yn y rheoliad hwn yn cynnwys y tâl pensiynadwy tybiedig hwnnw.

(4) Ond os yw’r cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yn cynnwys y diwrnod 29 Chwefror, mae paragraffau (1)(a) a (2) yn cael effaith fel pe rhoddid “366” yn lle “365”.

Ystyr “tâl blynyddol terfynol”

103.(1)(1) At ddibenion y Bennod hon, tâl blynyddol terfynol aelod yw TT x 365/N, lle—

(a)     TT yw tâl pensiynadwy yr aelod yn ystod cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod; a

(b)     N yw nifer y diwrnodau yn y cyfnod hwnnw.

(2) Ond os yw’r cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yn cynnwys y diwrnod 29 Chwefror, mae paragraff (1) yn cael effaith fel pe rhoddid “366” yn lle “365”.

Y person y mae cyfandaliad budd marwolaeth yn daladwy iddo

104. Caiff y rheolwr cynllun, yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt, dalu unrhyw gyfandaliad o fudd marwolaeth sy’n daladwy o dan y Bennod hon i, neu er budd, enwebai’r aelod, ei gynrychiolwyr personol, neu unrhyw berson y mae’n ymddangos i’r rheolwr cynllun a fu’n berthynas neu’n ddibynnydd yr aelod.

Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod actif

105.(1)(1) Os bydd farw aelod actif, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth.

(2) Swm y cyfandaliad budd marwolaeth yw swm sy’n hafal i dair gwaith swm tâl terfynol yr aelod.

(3) Os oes gan aelod actif fwy nag un cyfrif aelod actif, mae cyfandaliad budd marwolaeth yn daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r cyfrifon hynny.

Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr

106.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os bydd farw aelod-bensiynwr o fewn pum mlynedd ar ôl i’r pensiwn ddod yn daladwy.

(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth.

(3) Mae swm y cyfandaliad budd marwolaeth yn hafal i—

(a)     cyfanswm blynyddol pensiynau’r aelod, wedi ei luosi gyda phump; llai

(b)     cyfanswm unrhyw daliadau pensiwn a wnaed i’r aelod o dan y cynllun hwn.

(4) Ym mharagraff (3)(a), ystyr “cyfanswm blynyddol pensiynau’r aelod” (“total annual amount of the member’s pensions”) yw cyfanswm y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol a ddangosir yng nghyfrifon pensiwn yr aelod, a gyfrifir fel pe bai dyddiad marwolaeth yr aelod yn ddyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw.

(5) At ddibenion y rheoliad hwn, diystyrir unrhyw symiau a dalwyd, neu sy’n daladwy i’r aelod, neu mewn cysylltiad â’r aelod, yn y swyddogaeth o aelod â chredyd pensiwn.

Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth mewn achosion penodol

107. Os oedd person (P) ar yr adeg y bu P farw, yn aelod-bensiynwr o’r cynllun hwn ac yn aelod actif o’r cynllun hwn, swm y cyfandaliad budd marwolaeth sy’n daladwy yw’r mwyaf o swm y cyfandaliad budd marwolaeth taladwy o dan reoliad 105 (cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod actif) a swm y cyfandaliad budd marwolaeth taladwy o dan reoliad 106 (cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr).

Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod â chredyd pensiwn

108.(1)(1) Os bydd farw aelod â chredyd pensiwn cyn bod unrhyw fuddion sy’n deillio o gredyd pensiwn wedi dod yn daladwy i’r aelod, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth yn unol â pharagraff (2).

(2) Mae swm y cyfandaliad budd marwolaeth yn hafal i luoswm 2.25 a chyfradd flynyddol y pensiwn y byddai’r aelod â chredyd pensiwn wedi bod â hawl i gael, pe bai hawl wedi bod ganddo i gael taliad o’r pensiwn ar unwaith ar ddyddiad ei farwolaeth.

(3) Os bydd farw aelod â chredyd pensiwn o fewn pum mlynedd wedi i bensiwn yr aelod â chredyd pensiwn ddod yn daladwy, a chyn iddo gyrraedd 75 mlwydd oed, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth yn unol â pharagraff (4).

(4) Swm y cyfandaliad budd marwolaeth yw’r gwahaniaeth rhwng—

(a)     y swm sy’n bum gwaith swm pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn; a

(b)     y rhandaliadau o bensiwn sydd wedi eu talu.

(5) Ym mharagraff (4), ystyr “swm pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn” (“amount of the pension credit member’s pension”) yw swm blynyddol y pensiwn hwnnw ar y dyddiad y daeth pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn yn daladwy.

(6) Os oedd yr aelod ymadawedig yn aelod â chredyd pensiwn gyda hawl i gael dau neu ragor o gredydau pensiwn, mae cyfandaliadau budd marwolaeth o dan y cynllun hwn yn daladwy mewn cysylltiad â’r aelod fel pe bai’r aelod yn ddau neu ragor o aelodau, pob un â hawl i gael un o’r credydau pensiwn.

PENNOD 5

Talu buddion marwolaeth

Talu pensiynau o dan y Rhan hon

109.(1)(1) Mae pensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys yn daladwy o’r diwrnod ar ôl dyddiad marwolaeth yr aelod.

(2) Rhaid talu pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy mewn cysylltiad â phlentyn cymwys o dan 18 mlwydd oed i ba bynnag berson arall a benderfynir gan y rheolwr cynllun, a rhaid i’r rheolwr cynllun ei gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw’n ei ddefnyddio er budd y plentyn cymwys yn unol â chyfarwyddiadau’r rheolwr cynllun.

Pensiynau partner sy’n goroesi a phensiynau plentyn cymwys: atal dros dro ac adennill

110.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)     os, ar farwolaeth aelod, dyfarnwyd a thalwyd pensiwn o dan y Rhan hon; a             

(b)     os, yn ddiweddarach, mae’n ymddangos i’r rheolwr cynllun fod yr aelod neu’r person y talwyd y pensiwn iddo wedi gwneud datganiad anwir neu wedi celu yn fwriadol ffaith berthnasol mewn cysylltiad â’r dyfarniad.

(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, caiff y rheolwr cynllun—

(a)     peidio â thalu’r pensiwn; a

(b)     adennill unrhyw daliad a wnaed o dan y dyfarniad.

(3) Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar hawl y rheolwr cynllun i adennill taliad neu or-daliad o dan unrhyw ddarpariaeth arall pan fo’r rheolwr cynllun o’r farn y byddai’n briodol gwneud hynny.

Dyfarniadau dros dro o bensiynau plentyn cymwys: addasiadau diweddarach

111.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yn dilyn marwolaeth aelod actif, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr—

(a)     telir pensiwn mewn cysylltiad ag un neu ragor o bersonau o dan y Rhan hon ar y sail eu bod yn blant cymwys ar ddyddiad marwolaeth yr aelod, ac nad oedd unrhyw blant cymwys eraill ar y pryd; a

(b)     yn ddiweddarach, mae’n ymddangos—

                           (i)    nad oedd person, y talwyd pensiwn o’r fath mewn cysylltiad ag ef, yn blentyn cymwys ar ddyddiad y farwolaeth,

                         (ii)    bod person ychwanegol yn blentyn cymwys, neu

                       (iii)    bod plentyn a anwyd ar ôl marwolaeth yr aelod yn blentyn cymwys.

(2) Caiff y rheolwr cynllun wneud pa bynnag addasiadau sy’n ofynnol yn wyneb y ffeithiau fel y maent yn ymddangos yn ddiweddarach, yn swm y pensiynau sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r plant dan sylw, a chaiff yr addasiadau hynny fod yn gymwys yn ôl-weithredol.

(3) Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar hawl y rheolwr cynllun i adennill taliad neu or-daliad mewn unrhyw achos pan fo’r rheolwr cynllun o’r farn y byddai’n briodol gwneud hynny.

Addasu dyfarniadau plentyn cymwys o ganlyniad i adfer buddion pensiwn

112.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (P) a fyddai’n gymwys i gael buddion fel partner sy’n goroesi neu fel plentyn cymwys yn dilyn marwolaeth aelod actif, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr, wedi ei gollfarnu am lofruddiaeth neu ddynladdiad yr aelod hwnnw, a’r gollfarn honno wedi ei diddymu yn ddiweddarach, yn dilyn apêl.

(2) Os yw P wedyn yn gymwys i gael pensiwn partner sy’n goroesi, bydd unrhyw gynnydd mewn pensiwn plentyn cymwys o dan reoliad 99 (cynnydd mewn pensiwn plentyn cymwys pan nad oes partner sy’n goroesi) yn peidio â bod yn daladwy o’r dyddiad y diddymir y gollfarn.

(3) Os yw P wedyn yn gymwys i gael pensiwn plentyn cymwys, ac os oes mwy nag un person yn cael pensiwn plentyn cymwys ar y diwrnod cyn y diddymir y gollfarn, bydd swm pob pensiwn plentyn cymwys yn cael ei ostwng, o’r dyddiad y diddymir y gollfarn, i’r swm o bensiwn plentyn cymwys a benderfynir yn unol â’r gyfran benodedig a fyddai wedi bod yn gymwys i’r nifer hwnnw o blant cymwys.

Addasu buddion i gydymffurfio â DC 2004 pan fydd farw aelodau dros 75 mlwydd oed

113.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os—

(a)     bydd farw aelod ar ôl cyrraedd 75 mlwydd oed; a

(b)     ac eithrio o dan y rheoliad hwn, na fyddai unrhyw ran o bensiwn, y caiff unrhyw berson yr hawl i’w gael o dan y Rhan hon yn dilyn y farwolaeth, yn gymwys fel pensiwn cynllun dibynyddion at ddibenion adran 167 o DC 2004 (y rheolau buddion marwolaeth pensiwn).

(2) Caniateir addasu’r budd sy’n daladwy i’r person ym mha bynnag fodd a benderfynir gan y rheolwr cynllun, fel y bo’n gymwys fel pensiwn cynllun dibynyddion at ddibenion adran 167 o DC 2004.

RHAN 7

Buddion ar gyfer aelodau â chredyd pensiwn

Hawlogaeth i bensiwn aelod â chredyd pensiwn

114.(1)(1) Mae hawl gan aelod â chredyd pensiwn (P) o’r cynllun hwn i gael taliad o bensiwn aelod â chredyd pensiwn ar unwaith o dan y cynllun hwn—

(a)     os yw P wedi cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig;

(b)     os yw’r gorchymyn rhannu pensiwn, y mae hawl gan P i gael y credyd pensiwn oddi tano, wedi cael effaith; ac

(c)     os yw P wedi hawlio taliad o’r pensiwn.

(2) Os oes hawl gan P i gael dau neu ragor o gredydau pensiwn, mae ganddo hawl i gael pensiwn aelod â chredyd pensiwn mewn cysylltiad â phob un o’r credydau pensiwn.

Cyfradd flynyddol pensiwn aelod â chredyd pensiwn

115. Cyfrifir cyfradd flynyddol pensiwn aelod â chredyd pensiwn drwy—

(a)     cymryd swm y pensiwn credydedig a bennir yng nghyfrif yr aelod â chredyd pensiwn; a

(b)     didynnu ohono swm y cymudiad (os oes un) a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw.

Lleihau buddion aelod â debyd pensiwn

116. Mae’r buddion y mae hawl gan aelod â debyd pensiwn i’w cael o dan y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i ostyngiad yn y swm perthnasol, a gyfrifir yn unol â rheoliad 63 (sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn).

Hawliau aelod â chredyd pensiwn

117. Ni chaniateir cyfuno buddion sy’n briodoladwy i gredyd pensiwn (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gydag unrhyw fudd arall y mae hawl gan yr aelod â chredyd pensiwn i’w gael o dan y cynllun hwn.

Cymudo rhan o bensiwn

118.(1)(1) Caiff aelod â chredyd pensiwn sy’n cael yr hawl i daliad o bensiwn aelod â chredyd pensiwn o dan y cynllun hwn arfer yr opsiwn o gyfnewid rhan o’r pensiwn am gyfandaliad.

(2) Ni chaniateir arfer yr opsiwn ac eithrio drwy roi hysbysiad—

(a)     i’r rheolwr cynllun ddim cynharach na phedwar mis cyn y diweddaraf o’r canlynol—

                           (i)    y dyddiad y bydd y gorchymyn rhannu pensiwn yn cael effaith, a

                         (ii)    y dyddiad y bydd y person yn cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig;

(b)     ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun; ac

(c)     a roddir cyn bo’r taliad cyntaf o’r pensiwn wedi ei wneud.

(3) Os yw aelod â chredyd pensiwn yn arfer yr opsiwn o dan y rheoliad hwn, am bob £1 o ostyngiad i swm cyfradd flynyddol y pensiwn, rhaid talu i’r aelod gyfandaliad o £12.

(4) Ni chaiff y gyfran a gymudir fod yn fwy na chwarter swm pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn.

(5) Ni chaiff aelod â chredyd pensiwn gyfnewid pensiwn am gyfandaliad o dan y rheoliad hwn i’r graddau y byddai’n achosi taliad trethadwy o’r cynllun at ddibenion Rhan 4 (cynllun pensiwn etc.) o DC 2004, (gweler adran 241 o’r Ddeddf honno).

(6) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os oedd yr aelod â debyd pensiwn, y mae’r pensiwn yn deillio o’i hawliau, wedi cael cyfandaliad o dan Ran 5 (buddion ymddeol) cyn y dyddiad yr oedd y gorchymyn rhannu pensiwn yn cael effaith.

RHAN 8

Cyfraniadau

PENNOD 1

Cyfraniadau aelodau

Cyfraniadau aelodau

119.(1)(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 120 i 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldebau), rhaid i aelod actif o’r cynllun hwn dalu cyfraniadau i’r cynllun, mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun, ar y gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i’r tâl pensiynadwy blynyddol a gaiff yr aelod hwnnw yn y cyfnod tâl sy’n cynnwys 1 Ebrill ar gyfer y gyflogaeth honno (neu, yn achos aelod actif y mae ei aelodaeth yn cychwyn ar ôl 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, y gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i’r tâl pensiynadwy blynyddol y mae’r aelod yn ei gael ar ddechrau’r aelodaeth honno).

(2) Mae’r gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i gyflogaeth gynllun fel y’i pennir yn y tabl canlynol, gyda’r gyfradd gyfraniadau a bennir yn y golofn briodol ar gyfer y flwyddyn i’w hystyried yn gymwysadwy i’r ystod tâl pensiynadwy a bennir yn y golofn gyntaf, y mae tâl pensiynadwy blynyddol yr aelod actif, wedi ei dalgrynnu i lawr i’r bunt agosaf gyfan, yn perthyn iddo:

 

 

Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth

Cyfradd gyfraniadau 1 Ebrill 2015-31 Mawrth 2016

Hyd at £27,000

10.0%

£27,001 i £50,000

12.2%

£50,001 i £142,500

13.5%

£142,501 neu fwy

14.5%

 

Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth

Cyfradd gyfraniadau 1 Ebrill 2016 – 31 Mawrth 2017

Hyd at £27,270

10.0%

£27,271 i £50,500

12.5%

£50,501 i £142,500

13.5%

£142,501 neu fwy

14.5%

 

Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth

Cyfradd gyfraniadau 1 Ebrill 2017 – 31 Mawrth 2018

Hyd at £27,543

10.5%

£27,544 i £51,005

12.7%

£51,006 i £142,500

13.5%

£142,501 neu fwy

14.5%

 

Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth

Cyfradd gyfraniadau o 1 Ebrill 2018 ymlaen

Hyd at £27,818

11.0%

£27,819 i £51,515

12.9%

£51,516 i £142,500

13.5%

£142,501 neu fwy

14.5%

(3) At ddiben colofn gyntaf y tabl, rhaid i swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol, fod yn dâl cyfeirio’r diffoddwr tân hwnnw.

(4) At ddiben colofn gyntaf y tabl, rhaid i swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd rhan-amser fod yn swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd amser llawn sydd â rôl gyfatebol a hyd gwasanaeth cyfwerth.

(5) Pan fo newid yn digwydd mewn cyflogaeth gynllun, neu unrhyw newid perthnasol sy’n effeithio ar dâl pensiynadwy yr aelod yn ystod blwyddyn ariannol, a swm diwygiedig y tâl pensiynadwy yn dod o fewn ystod cyfradd gyfraniadau gwahanol, rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu bod rhaid cymhwyso’r gyfradd honno, a rhaid iddo roi gwybod i’r aelod pa gyfradd gyfraniadau a gymhwysir ac o ba ddyddiad y’i cymhwysir.

(6) Pan fo’r rheolwr cynllun wedi penderfynu o dan baragraff (5) fod cyfradd gyfraniadau wahanol yn gymwys, rhaid i’r aelod dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd honno, ar y tâl pensiynadwy y mae’r aelod hwnnw’n ei gael ar yr adeg honno.

(7) At y diben o ganfod pa gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys o dan y rheoliad hwn, rhaid diystyru unrhyw ostyngiad mewn tâl pensiynadwy sy’n digwydd o ganlyniad i unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol—

(a)     mwynhad, neu fwynhad tybiedig, gan yr aelod o unrhyw hawlogaeth statudol yn ystod unrhyw gyfnod i ffwrdd o’i waith;

(b)     absenoldeb cysylltiedig â phlentyn;

(c)     absenoldeb gyda chaniatâd;

(d)     absenoldeb salwch;

(e)     absenoldeb oherwydd anaf;

(f)      absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn;

(g)     absenoldeb oherwydd anghydfod undebol; neu

(h)     amgylchiadau a bennir gan y rheolwr cynllun mewn achos penodol.

(8) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cyfraniadau aelod” (“member contributions”) yw cyfraniadau y mae aelod actif yn eu talu, o dan y rheoliad hwn a rheoliadau 120 i 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldebau o’r gwaith).

Cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch, anaf, anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig

120.(1)(1) Rhaid i aelod actif sy’n absennol o gyflogaeth gynllun oherwydd salwch neu anaf dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a bennir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm unrhyw dâl pensiynadwy a gaiff, gan gynnwys tâl statudol.

(2) Os yw aelod actif yn absennol o gyflogaeth gynllun oherwydd salwch neu anaf ac nad oes hawl ganddo i gael tâl pensiynadwy (gan gynnwys tâl statudol) am unrhyw gyfnod, caiff yr aelod hwnnw dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm y tâl pensiynadwy yr oedd yr aelod wedi ei gael yn union cyn atal y tâl ac, os yw’n ofynnol gan y cyflogwr cynllun, rhaid iddo dalu swm y cyfraniad cyflogwr y byddai’n ofynnol, fel arall, i’r cyflogwr cynllun ei dalu gan reoliad 126(3) (cyfraniadau cyflogwr).

(3) Os yw aelod actif yn absennol ynglŷn ag anghydfod undebol, caiff yr aelod wneud dewisiad i dalu’r cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm y tâl pensiynadwy tybiedig y trinnir yr aelod hwnnw fel pe bai’n ei gael ac, os yw’n ofynnol gan y cyflogwr cynllun, rhaid iddo dalu swm y cyfraniad cyflogwr y byddai’n ofynnol, fel arall, i’r cyflogwr cynllun ei dalu gan reoliad 126(3) (cyfraniadau cyflogwr).

(4) Os yw aelod actif i ffwrdd o’i waith yn ystod cyfnod o absenoldeb di-dâl awdurdodedig, caiff yr aelod wneud dewisiad i dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm y tâl pensiynadwy tybiedig y trinnir yr aelod hwnnw fel pe bai’n ei gael ac, os yw’n ofynnol gan y cyflogwr cynllun, talu swm y cyfraniadau cyflogwr y byddai’n ofynnol, fel arall, i’r cyflogwr cynllun ei dalu gan reoliad 126(3) (cyfraniadau cyflogwr).

(5) Pan fo paragraff (2), (3) neu (4) yn gymwys, rhaid talu’r cyfraniadau cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda’r dyddiad y trinnir yr aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig.

Cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn

121.(1)(1) Rhaid i aelod actif sydd ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn ac a drinnir fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod).

(2) Cyfrifir swm y cyfraniadau sydd i’w talu drwy luosi’r gyfradd gyfraniadau gyda’r lleiaf o’r symiau canlynol—

(a)     y tâl pensiynadwy tybiedig;

(b)     cyfanswm y tâl gwirioneddol a gafwyd ac unrhyw daliad ychwanegol a wnaed gan y cyflogwr cynllun.

Cyfraniadau yn ystod absenoldeb cysylltiedig â phlentyn

122.(1)(1) Rhaid i aelod actif sydd ar absenoldeb cysylltiedig â phlentyn dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm unrhyw dâl pensiynadwy a gaiff, gan gynnwys tâl statudol, ond nid yw’r tâl hwnnw’n cynnwys unrhyw swm sy’n gostwng y tâl pensiynadwy gwirioneddol yr aelod oherwydd hawl bosibl i gael tâl statudol.

(2) Os yw aelod actif ar absenoldeb mamolaeth arferol, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu arferol ac nad oes hawl ganddo i gael tâl pensiynadwy (gan gynnwys tâl statudol) am unrhyw ran o’r cyfnod hwnnw o absenoldeb, trinnir yr aelod hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai’r aelod hwnnw wedi talu cyfraniadau am y cyfnod di-dâl hwnnw o dan baragraff (1).

(3) Caiff aelod actif sydd ar absenoldeb mamolaeth ychwanegol, absenoldeb tadolaeth ychwanegol, absenoldeb mabwysiadu ychwanegol neu absenoldeb rhiant, nad oes hawl ganddo i gael unrhyw dâl pensiynadwy (gan gynnwys tâl statudol) am unrhyw ran o’r cyfnod o absenoldeb cysylltiedig â phlentyn, wneud dewisiad i dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm y tâl pensiynadwy tybiedig y trinnir yr aelod hwnnw fel pe bai’n ei gael.

(4) Ni chaniateir gwneud dewisiad i dalu cyfraniadau ac eithrio cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad y mae’r aelod hwnnw yn dychwelyd i’w waith ar ôl y cyfnod o absenoldeb cysylltiedig â phlentyn, neu, os nad yw’r aelod yn dychwelyd i’w waith, y diwrnod pan fo’r aelod yn peidio â bod yn gyflogedig gan y cyflogwr.

Didynnu a thalu cyfraniadau

123.(1)(1) Caiff y cyflogwr cynllun ddidynnu’r cyfraniadau y mae’n ofynnol eu talu o dan reoliad 119 (cyfraniadau aelodau) allan o bob rhandaliad o dâl pensiynadwy wrth iddo ddod yn ddyladwy, oni chytunwyd ar ddull arall o dalu rhwng y rheolwr cynllun a’r aelod.

(2) Caniateir didynnu cyfraniadau y mae’n ofynnol eu talu o dan reoliad 121(1) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn) allan o unrhyw daliad a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf y Lluoedd Arfog Wrth Gefn ac Atodol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951([60]), i’r graddau y maent yn daladwy mewn cysylltiad â’r un cyfnod.

(3) Caniateir talu cyfraniadau y mae’r aelod wedi gwneud dewisiad i’w talu, neu y mae’n ofynnol iddo’u talu, o dan reoliadau 120 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch, anaf, anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig) a 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb cysylltiedig â phlentyn) fel cyfandaliad neu drwy ddidyniadau o randaliadau o dâl pensiynadwy, fel y cytunir rhwng y rheolwr cynllun a’r aelod.

Atodlen 1 (taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol)

124. Mae Atodlen 1 yn cael effaith (gan gynnwys ynglŷn â didynnu taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol).

PENNOD 2

Ad-dalu cyfraniadau aelod

Ad-dalu holl gyfraniadau aelod a’r holl daliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol a wnaed gan aelod

125.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun.

(2) Mae holl gyfraniadau aelod a thaliadau sy’n deillio o ddewisiad i wneud cyfraniadau pensiwn ychwanegol o dan Atodlen 1 yn ad-daladwy—

(a)     os yw rheoliad 24 (optio allan cyn diwedd y tri mis cyntaf) yn gymwys; neu

(b)     os yw’r aelod yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ac—

                           (i)    bod gan yr aelod lai na thri mis o wasanaeth cymwys,

                         (ii)    os yw unrhyw daliad trosglwyddo a gafodd y cynllun hwn mewn perthynas â’r aelod, wedi dod o gynllun pensiwn galwedigaethol arall, a

                       (iii)    bod yr aelod heb gyrraedd oedran LlPG o dan y cynllun hwn.

(3) Os yw paragraff (2)(b) yn gymwys, mae hawl gan yr aelod i gael taliad o swm sy’n hafal i gyfanswm unrhyw gyfraniadau aelod a thaliadau am bensiwn ychwanegol a wnaed gan yr aelod, llai swm sy’n hafal i’r dreth incwm sy’n daladwy o dan adran 205 o DC 2004 (treth a godir ar gyfandaliad o ad-daliad gwasanaeth byr) o ganlyniad i ad-dalu’r cyfraniadau a’r taliadau hynny([61]).

(4) Os ad-delir yr holl gyfraniadau aelod a thaliadau am bensiwn ychwanegol a wnaed gan yr aelod o dan y rheoliad hwn, mae hawliau’r aelod mewn perthynas â’r cyfnod o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn wedi eu diddymu.

PENNOD 3

Cyfraniadau cyflogwr

Cyfraniadau cyflogwr

126.(1)(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, benderfynu’r gyfradd cyfraniadau cyflogwr.

(2) Rhaid i gyflogwr aelod actif o’r cynllun hwn dalu cyfraniadau i’r cynllun yn ôl cyfradd cyfraniadau cyflogwr ar enillion pensiynadwy’r aelod hwnnw.

(3) Rhaid i gyflogwr aelod actif a drinnir o dan reoliad 27 (ystyr “tâl pensiynadwy tybiedig”) fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, dalu cyfraniadau yn ôl cyfradd cyfraniadau cyflogwr ar y tâl pensiynadwy tybiedig y trinnir yr aelod fel pe bai’n ei gael.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r rheolwr cynllun ynglŷn â’r gyfradd cyfraniadau cyflogwr, ac o ba ddyddiad y bydd yn cael effaith.

(5) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cyfraniad cyflogwr” (“employer contribution”) yw’r cyfraniadau taladwy o dan baragraff (2) neu (3) o’r rheoliad hwn.

Cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd

127.(1)(1) Pan fo aelod (U) wedi ymddeol gyda’r hawl i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen uchaf a phensiwn afiechyd haen isaf o dan reoliad 74(2) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf), rhaid i gyflogwr U dalu cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf.

(2) Swm y cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf yw’r swm a benderfynir, ac yr hysbysir cyflogwr U ohono, gan Weinidogion Cymru.

(3) Pan fo aelod (I) wedi ymddeol gyda’r hawl i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen isaf ond heb unrhyw hawl i gael pensiwn afiechyd haen uchaf, rhaid i gyflogwr I dalu cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf.

(4) Swm y cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf yw’r swm a benderfynir, ac yr hysbysir cyflogwr I ohono, gan Weinidogion Cymru.

(5) Rhaid i’r cyflogwr dalu’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf neu’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf, yn ôl fel y digwydd, mewn rhandaliadau cyfartal sy’n ddyladwy ar:

(a)     y dyddiad y mae’r aelod yn ymddeol;

(b)     1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol pan dalwyd y rhandaliad cyntaf; ac

(c)     1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol pan dalwyd yr ail randaliad.

Ad-dalu cyfraniad ychwanegol cyflogwr ar gyfer dyfarniad afiechyd, yn dilyn adolygiad

128.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo’r rheolwr cynllun, o dan reoliad 77 (adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar), wedi ystyried hawlogaeth aelod (P) i gael dyfarniad afiechyd, a hawlogaeth P i gael naill ai pensiwn afiechyd haen uchaf neu bensiwn afiechyd haen isaf wedi dod i ben, neu hawlogaeth P i gael y ddau bensiwn wedi dod i ben, o ganlyniad i’r adolygiad hwnnw, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu’r swm a bennir ym mharagraff (3) neu (5), yn ôl fel y digwydd, i’r cyflogwr.

(2) Pan fo’r cyflogwr wedi talu’r holl randaliadau o gyfraniadau ychwanegol afiechyd haen uchaf sy’n ofynnol gan reoliad 127 (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd), nid yw’n ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i’r cyflogwr y swm a grybwyllir ym mharagraff (3).

(3) Os yw hawlogaeth P i gael pensiwn afiechyd haen uchaf yn dod i ben o ganlyniad i adolygiad o dan reoliad 77 (adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar) a hawlogaeth P i gael pensiwn afiechyd haen isaf yn parhau, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu i’r cyflogwr swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng y rhandaliadau o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf sydd wedi eu talu o dan reoliad 127(1) (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd) a’r rhandaliadau o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf a fyddai wedi bod yn ofynnol eu talu o dan reoliad 127(3) (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd) pe bai’r pensiwn afiechyd haen isaf yn unig wedi bod yn daladwy (“y taliad tybiannol”).

(4) Rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu swm y taliad tybiannol sy’n daladwy o dan baragraff (3).

(5) Os yw hawlogaeth P i gael pensiwn afiechyd haen uchaf a phensiwn afiechyd haen isaf neu, yn ôl fel y digwydd, hawlogaeth P i gael pensiwn afiechyd haen isaf, yn dod i ben o ganlyniad i adolygiad o dan reoliad 77 (adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar) ac nad yw’r cyflogwr wedi talu’r holl randaliadau o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf neu’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf fel sy’n ofynnol gan reoliad 127 (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd), rhaid i’r rheolwr cynllun ad-dalu i’r cyflogwr unrhyw randaliadau o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf neu o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf, yn ôl fel y digwydd, a dalwyd mewn cysylltiad â P ac ni fydd unrhyw randaliadau pellach yn ddyladwy mewn cysylltiad â P.

Cyfraniad ychwanegol cyflogwr: ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr

129.(1)(1) Pan fo cyflogwr wedi gwneud penderfyniad o dan reoliad 71 (ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr) i dalu i aelod actif nad yw wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol bensiwn a gyfrifir yn unol â rheoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)) heb wneud y gostyngiad talu’n gynnar, rhaid i’r cyflogwr dalu’r cyfraniad ychwanegol ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr i’r cynllun.

(2) Cyfrifir swm y cyfraniad ychwanegol ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr yn unol â chanllawiau actiwaraidd, a rhaid i’r canllawiau actiwaraidd hynny roi sylw i’r gwahaniaeth rhwng y pensiwn sy’n daladwy o dan reoliad 71 (ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr) a’r pensiwn sy’n daladwy o dan reoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)) wedi ei ostwng yn unol â rheoliad 70(3) (gostyngiad talu’n gynnar).

RHAN 9

Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân

Dehongli’r Rhan

130. Yn y Rhan hon—

ystyr “amcangyfrif” (“estimate”) yw’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 134(1)(a) a (b) (gwybodaeth sydd i’w darparu i Weinidogion Cymru);

ystyr “amcangyfrif diwygiedig” (“revised estimate”) yw’r wybodaeth ddiwygiedig y cyfeirir ati yn rheoliad 134(4);

ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant financial year”) yw blwyddyn ariannol sy’n diweddu ar neu ar ôl 31 Mawrth 2016, y mae’n ofynnol, o dan reoliad 134(1), bod y rheolwr cynllun yn darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â hi;

mae i “CBDT” (“FPF”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 131 (sefydlu Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân);

ystyr “yr wybodaeth archwiliedig” (“the audited information”) yw—

(a)     y cyfrifon archwiliedig y cyfeirir atynt yn rheoliad 134(1)(d),

(b)     unrhyw adroddiad gan yr archwilydd mewn perthynas â’r cyfrifon hynny, ac

(c)     os yw’r rheolwr cynllun yn diwygio’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 134(1)(e) ac (f), yr wybodaeth ddiwygiedig honno;

ystyr “yr wybodaeth nas archwiliwyd” (“the un-audited information”) yw’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 134(1)(c), (e) ac (f).

Sefydlu Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân

131. Rhaid i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân a sefydlwyd ac a gynhelir gan y rheolwr cynllun at ddibenion Cynllun 1992, ac a ddefnyddir hefyd gan y rheolwr cynllun ar gyfer taliadau a derbyniadau sy’n ofynnol neu yr awdurdodir eu gwneud o dan CPNDT, gael ei defnyddio hefyd at ddibenion taliadau a derbyniadau sy’n ofynnol neu yr awdurdodir eu gwneud o dan y Rheoliadau hyn.

Taliadau i mewn i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân

132. Rhaid i’r rheolwr cynllun dalu i mewn i’r CBDT—

(a)     unrhyw gyfraniad cyflogwr a delir gan y cyflogwr, sy’n ofynnol gan reoliad 126 (cyfraniadau cyflogwr);

(b)     unrhyw gyfraniad ychwanegol cyflogwr a delir gan y cyflogwr mewn cysylltiad â phensiwn afiechyd haen uchaf, sy’n ofynnol gan reoliad 127(1) (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd);

(c)     unrhyw gyfraniad ychwanegol cyflogwr a delir gan y cyflogwr mewn cysylltiad â phensiwn afiechyd haen isaf, sy’n ofynnol gan reoliad 127(3) (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd);

(d)     unrhyw gyfraniad ychwanegol cyflogwr a delir gan y cyflogwr mewn cysylltiad ag ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr, sy’n ofynnol gan reoliad 129(1) (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr);

(e)     unrhyw gyfraniadau aelodau a delir o dan reoliad 119 (cyfraniadau aelodau), rheoliad 120 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch, anaf, anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig), rheoliad 121 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn), neu reoliad 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb cysylltiedig â phlentyn);

(f)      unrhyw gyfraniadau aelodau ar gyfer pensiwn ychwanegol a delir o dan Atodlen 1 (taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol);

(g)     unrhyw daliad gwerth trosglwyddiad clwb a dderbynnir; ac

(h)     unrhyw daliad gwerth trosglwyddiad a dderbynnir.

Taliadau sydd i’w gwneud allan o Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân

133. Rhaid i’r rheolwr cynllun wneud taliadau allan o’r CBDT mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)     unrhyw ad-daliad o gyfraniadau a thaliadau aelod sy’n ofynnol gan reoliad 125 (ad-dalu holl gyfraniadau aelod a’r holl daliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol a wnaed gan aelod);

(b)     unrhyw ad-daliad o swm cyfraniad ychwanegol cyflogwr ar gyfer dyfarniad afiechyd o dan reoliad 128 (ad-dalu cyfraniad ychwanegol cyflogwr ar gyfer dyfarniad afiechyd, yn dilyn adolygiad);

(c)     unrhyw bensiwn neu ddyfarniad sy’n daladwy o dan y cynllun hwn;

(d)     unrhyw daliad gwerth trosglwyddiad clwb sydd i’w dalu mewn cysylltiad â buddion cronedig aelod yn y cynllun hwn; ac

(e)     unrhyw daliad gwerth trosglwyddiad y mae’n ofynnol ei dalu mewn cysylltiad â buddion cronedig aelod yn y cynllun hwn.

Gwybodaeth sydd i’w darparu i Weinidogion Cymru

134.(1)(1) Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy’n diweddu ar neu ar ôl 31 Mawrth 2016 (“blwyddyn ariannol berthnasol”) anfon yr wybodaeth ganlynol mewn ysgrifen at Weinidogion Cymru—

(a)     y cyfanswm a amcangyfrifir gan y rheolwr cynllun a fydd yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn ariannol honno;

(b)     y cyfanswm a amcangyfrifir gan y rheolwr cynllun a gredydir i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol honno;

(c)     y cyfrifon nas archwiliwyd mewn perthynas â’r CBDT am y flwyddyn ariannol honno;

(d)     y cyfrifon archwiliedig mewn perthynas â’r CBDT am y flwyddyn ariannol honno;

(e)     y cyfanswm a dalwyd allan o’r CBDT yn y flwyddyn ariannol honno; ac

(f)      y cyfanswm a dalwyd i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol honno.

(2) Rhaid anfon yr wybodaeth ym mharagraff (1) yn y ffurf a bennir mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i’r rheolwr cynllun anfon yr amcangyfrif ar gyfer pob blwyddyn ariannol berthnasol at Weinidogion Cymru erbyn pa bynnag ddyddiad, cyn dechrau’r flwyddyn ariannol berthnasol, a bennir mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru.

(4) Os bydd y rheolwr cynllun yn diwygio unrhyw ran o’r wybodaeth a anfonir yn yr amcangyfrif, rhaid i’r rheolwr cynllun anfon yr wybodaeth ddiwygiedig (“yr amcangyfrif diwygiedig”) at Weinidogion Cymru erbyn pa bynnag ddyddiad yn ystod y flwyddyn ariannol berthnasol, a bennir mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru.

(5) Rhaid i’r rheolwr cynllun anfon yr wybodaeth nas archwiliwyd at Weinidogion Cymru erbyn pa bynnag ddyddiad ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol a bennir mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru.

(6) Rhaid i’r rheolwr cynllun anfon yr wybodaeth archwiliedig at Weinidogion Cymru erbyn pa bynnag ddyddiad ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol a bennir mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru.

(7) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol sy’n diweddu ar 31 Mawrth 2016, rhaid i’r rheolwr cynllun anfon yr amcangyfrif at Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol honno.

Amcangyfrifon o ddiffygion

135.(1)(1) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr amcangyfrif ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd y cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy i mewn i’r CBDT honno yn y flwyddyn honno, rhaid i Weinidogion Cymru dalu swm i’r rheolwr cynllun sy’n hafal i 80% o’r diffyg tebygol.

(2) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw amcangyfrif diwygiedig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd—

(a)     y cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn honno; a

(b)     80% o’r diffyg tebygol yn fwy nag—

                           (i)    y swm a dalwyd neu sy’n daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun o dan baragraff (1) mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, neu

                         (ii)    os nad oedd unrhyw swm o’r fath wedi ei dalu neu’n daladwy gan Weinidogion Cymru, sero,

caiff Gweinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun ba bynnag swm a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.

(3) Os yw Gweinidogion Cymru wedi talu swm i reolwr cynllun o dan baragraffau (1) a (2), rhaid i gyfanswm y symiau hynny beidio â bod yn fwy nag 80% o ddiffyg tebygol yr CBDT am y flwyddyn honno.

(4) Os telir swm gan Weinidogion Cymru i reolwr cynllun o dan baragraff (2), nid yw unrhyw swm a dalwyd neu a fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol gan y rheolwr cynllun i Weinidogion Cymru o dan reoliad 136(1) (amcangyfrifon o wargedion), i’w dalu, neu, os talwyd swm o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu’r swm hwnnw.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud y taliad i’r rheolwr cynllun o dan baragraff (1) cyn diwedd Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol berthnasol neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

(6) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud taliad o dan baragraff (2) neu ad-daliad o dan baragraff (4), rhaid gwneud y taliad neu ad-daliad cyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

Amcangyfrifon o wargedion

136.(1)(1) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr amcangyfrif ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd y cyfanswm sy’n debygol o gael ei dalu i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn honno, rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru swm sy’n hafal i 80% o’r gwarged tebygol.

(2) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw amcangyfrif diwygiedig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd—

(a)     y cyfanswm sy’n debygol o gael ei dalu i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn honno; a

(b)     80% o’r gwarged tebygol yn fwy nag—

                           (i)    y swm a dalwyd neu sy’n daladwy gan y rheolwr cynllun i Weinidogion Cymru o dan baragraff (1) mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, neu

                         (ii)    os nad oedd unrhyw swm o’r fath wedi ei dalu neu’n daladwy gan y rheolwr cynllun, sero,

caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru ba bynnag swm y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy hysbysiad ysgrifenedig.

(3) Os yw’r rheolwr cynllun wedi talu swm i Weinidogion Cymru o dan baragraffau (1) a (2), rhaid i gyfanswm y symiau hynny beidio â bod yn fwy nag 80% o warged tebygol yr CBDT am y flwyddyn honno.

(4) Os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu swm o dan baragraff (2), nid yw unrhyw swm a dalwyd neu a fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun o dan reoliad 135(1) (amcangyfrifon o ddiffygion), i’w dalu, neu, os talwyd swm o’r fath, rhaid i’r rheolwr cynllun ei ad-dalu.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r rheolwr cynllun, ar neu cyn 3 Mawrth yn y flwyddyn ariannol berthnasol, hysbysiad ysgrifenedig o swm unrhyw daliad neu ad-daliad y mae’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fod y rheolwr cynllun yn ei wneud o dan baragraff (1), (2) neu (4).

(6) Pan ei gwneir yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn gwneud taliad o dan baragraffau (1) neu (2) neu ad-daliad o dan baragraff (4), rhaid gwneud y taliad neu ad-daliad cyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

Diffygion gwirioneddol

137.(1)(1) Pan yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth nas archwiliwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd y cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o gael ei dalu neu o fod yn daladwy i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn honno—

(a)     os yw’r diffyg tebygol (“y diffyg nas archwiliwyd”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd neu sy’n daladwy i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 135(1) neu (2) (amcangyfrifon o ddiffygion) (“y cyfanswm rheoliad 135”), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg nas archwiliwyd llai’r cyfanswm rheoliad 135;

(b)     os yw’r diffyg nas archwiliwyd yn llai na’r cyfanswm rheoliad 135, nid yw swm y cyfanswm rheoliad 135 llai’r diffyg nas archwiliwyd yn daladwy o dan reoliad 135(1) neu (2), ac os talwyd y swm hwnnw eisoes, rhaid i’r rheolwr cynllun ad-dalu’r swm hwnnw i Weinidogion Cymru;

(c)     os nad oedd unrhyw swm wedi ei dalu neu’n daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan reoliad 135(1) neu (2), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg nas archwiliwyd; a

(d)     nid yw unrhyw swm yn daladwy, a dalwyd neu a oedd yn daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 136(1) neu (2), ac os talwyd swm o’r fath eisoes, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu’r swm hwnnw i’r rheolwr cynllun.

(2) Pan yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth archwiliedig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, fod y cyfanswm a dalwyd neu sy’n daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn berthnasol yn fwy na’r cyfanswm a dalwyd neu sy’n daladwy i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn honno—

(a)     os yw’r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny (“y diffyg archwiliedig”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd (nad ydynt wedi eu had-dalu nac yn ad-daladwy) neu sy’n daladwy i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reoliad 135(1) neu (2) (“y cyfanswm nas archwiliwyd”), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg archwiliedig llai’r cyfanswm nas archwiliwyd;

(b)     os yw’r diffyg archwiliedig yn llai na’r cyfanswm nas archwiliwyd, nid yw swm y cyfanswm nas archwiliwyd llai’r diffyg archwiliedig yn daladwy o dan baragraffau (1)(a) neu (c) na rheoliad 135(1) neu (2), ac os talwyd y swm hwnnw eisoes, rhaid i’r rheolwr cynllun ei ad-dalu i Weinidogion Cymru;

(c)     os nad oedd unrhyw swm wedi ei dalu neu’n daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan baragraffau (1)(a) neu (c) neu reoliad 135(1) neu (2), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg archwiliedig; a

(d)     nid yw unrhyw swm yn daladwy, a dalwyd neu a oedd yn daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan reoliad 136(1) neu (2) neu reoliad 138(1)(a) neu (c), ac os talwyd swm o’r fath eisoes, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu’r swm hwnnw i’r rheolwr cynllun.

(3) Pan yw’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru, neu’r rheolwr cynllun, yn ôl fel y digwydd, yn gwneud taliad neu ad-daliad o dan baragraff (1), rhaid ei wneud cyn diwedd Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol berthnasol (“yr ail flwyddyn”) neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

(4) Pan yw’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru, neu’r rheolwr cynllun, yn ôl fel y digwydd, yn gwneud taliad neu ad-daliad o dan baragraff (2), rhaid ei wneud cyn diwedd Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn yr ail flwyddyn neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

Gwargedion gwirioneddol

138.(1)(1) Pan yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth nas archwiliwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd y cyfanswm a delir i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm a delir allan o’r CBDT yn y flwyddyn honno—

(a)     os yw’r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny (“y gwarged nas archwiliwyd”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd neu sy’n daladwy i Weinidogion Cymru gan y rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 136(1) neu (2) (“y cyfanswm rheoliad 136”), rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru swm y gwarged nas archwiliwyd llai’r cyfanswm rheoliad 136;

(b)     os yw’r gwarged nas archwiliwyd yn llai na’r cyfanswm rheoliad 136, nid yw swm y cyfanswm rheoliad 136 llai’r gwarged nas archwiliwyd yn daladwy o dan reoliad 136(1) neu (2), ac os talwyd y swm hwnnw eisoes, rhaid i Weinidogion Cymru ei ad-dalu i’r rheolwr cynllun;

(c)     os nad oedd unrhyw swm wedi ei dalu neu’n daladwy i Weinidogion Cymru gan y rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan reoliad 136(1) neu (2), rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru swm y gwarged nas archwiliwyd; a

(d)     nid yw unrhyw swm yn daladwy, a dalwyd neu a oedd yn daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 135(1) neu (2), ac os talwyd swm o’r fath eisoes, rhaid i’r rheolwr cynllun ei ad-dalu i Weinidogion Cymru.

(2) Pan yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth archwiliedig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, fod y cyfanswm a dalwyd i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm taladwy allan o’r CBDT honno yn y flwyddyn honno—

(a)     os yw’r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny (“y gwarged archwiliedig”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd (nad ydynt wedi eu had-dalu nac yn ad-daladwy) neu sy’n daladwy i Weinidogion Cymru gan y rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reoliad 136(1) neu (2) (“y cyfanswm rheoliad 136 nas archwiliwyd”), rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru allan o’r CBDT swm y gwarged archwiliedig llai’r cyfanswm rheoliad 136 nas archwiliwyd;

(b)     os yw’r gwarged archwiliedig yn llai na’r cyfanswm rheoliad 136 nas archwiliwyd, nid yw swm y cyfanswm rheoliad 136 nas archwiliwyd llai’r gwarged archwiliedig yn daladwy o dan baragraffau (1)(a) neu (c) neu reoliad 136(1) neu (2), ac os talwyd y swm hwnnw eisoes, rhaid i Weinidogion Cymru ei ad-dalu i’r rheolwr cynllun;

(c)     os nad oedd unrhyw swm wedi ei dalu neu’n daladwy i Weinidogion Cymru gan y rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan baragraffau (1)(a) neu (c) neu reoliad 136(1) neu (2), rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru swm y gwarged archwiliedig; a

(d)     nid yw unrhyw swm yn daladwy, a dalwyd neu a oedd yn daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 135(1) neu (2) neu reoliad 137(1)(a) neu (c), ac os talwyd swm o’r fath eisoes, rhaid i’r rheolwr cynllun ei ad-dalu i Weinidogion Cymru.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r rheolwr cynllun, ar neu cyn 3 Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol berthnasol (“yr ail flwyddyn”), hysbysiad ysgrifenedig o swm y taliad y mae’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fod y rheolwr cynllun yn ei wneud o dan baragraff (1)(a) neu (c).

(4) Pan yw’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru, neu’r rheolwr cynllun, yn ôl fel y digwydd, yn gwneud taliad neu ad-daliad o dan baragraff (1), rhaid ei wneud cyn diwedd Gorffennaf yn yr ail flwyddyn neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r rheolwr cynllun, ar neu cyn 3 Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol sydd yr ail flwyddyn ariannol yn dilyn y flwyddyn ariannol berthnasol (“y drydedd flwyddyn”), hysbysiad ysgrifenedig o swm unrhyw daliad y mae’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fod y rheolwr cynllun yn ei wneud o dan baragraff (2)(a) neu (c).

(6) Pan yw’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru, neu’r rheolwr cynllun, yn ôl fel y digwydd, yn gwneud taliad neu ad-daliad o dan baragraff (2), rhaid ei wneud cyn diwedd Gorffennaf yn y drydedd flwyddyn neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth

139.(1)(1) Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu i Weinidogion Cymru ba bynnag wybodaeth sy’n berthnasol ar gyfer arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rhan hon, fel y caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol.

(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu’r wybodaeth sy’n ofynnol o fewn y cyfnod o amser a bennir gan Weinidogion Cymru yn yr hysbysiad hwnnw, neu o fewn pa bynnag gyfnod ychwanegol a ganiateir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 10

Trosglwyddiadau

PENNOD 1

Rhagarweiniol

Cymhwyso’r Rhan hon

140. Mae’r Rhan hon—

(a)     yn ychwanegu at yr hawliau a roddir gan neu o dan Bennod 4 o Ran 4 o DCauP 1993 (gwerthoedd trosglwyddo) ac nid yw’n lleihau dim ar effaith y Bennod honno; a

(b)     yn ychwanegu at yr hawliau a roddir gan neu o dan Bennod 5 o’r Rhan honno (ymadawyr cynnar: trosglwyddo symiau ariannol ac ad-dalu cyfraniadau)([62]) ac nid yw’n lleihau dim ar effaith y Bennod honno.

Dehongli mewn perthynas â’r Rhan hon

141. Yn y Rhan hon—

ystyr “cyfwerth ariannol” (“cash equivalent”) yw swm a gyfrifir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 97 o DCauP 1993;

ystyr “cyfwerth ariannol gwarantedig” (“guaranteed cash equivalent”), mewn perthynas â chyfrifo gwerth trosglwyddiad o hawliau cronedig i gael buddion o dan y cynllun hwn, yw cyfwerth ariannol y buddion hynny fel ar y dyddiad gwarant, fel y’i pennir mewn datganiad o hawlogaeth;

ystyr “datganiad o hawlogaeth” (“statement of entitlement”), mewn perthynas â hawliau cronedig aelod actif neu aelod gohiriedig i gael buddion o dan y cynllun hwn, yw datganiad gan y rheolwr cynllun o gyfwerth ariannol neu werth trosglwyddiad clwb y buddion hynny fel ar y dyddiad gwarant;

mae i “dyddiad gwarant” (“guarantee date”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 144 (datganiad o hawlogaeth);

ystyr “gwerth trosglwyddiad” (“transfer value”), mewn perthynas â hawliau cronedig i gael buddion ac eithrio pensiwn enilledig cronedig sy’n destun trosglwyddiad clwb, yw—

(a)     yn achos hawliau cronedig i fuddion o dan y cynllun hwn, swm sy’n hafal i—

                           (i)    cyfwerth ariannol gwarantedig y buddion hynny, neu

                         (ii)    y cyfwerth ariannol gwarantedig ynghyd ag unrhyw gynnydd sy’n daladwy o dan reoliad 146 (cyfrifo swm gwerth trosglwyddiad neu werth trosglwyddiad clwb), a

(b)     yn achos hawliau cronedig i fuddion o dan gynllun pensiwn arall, swm—

                           (i)    a benderfynir gan actiwari cynllun y cynllun hwnnw, a

                         (ii)    a bennir mewn datganiad o hawliau cronedig a ddarperir gan reolwr cynllun y cynllun hwnnw; ac

ystyr “gwerth trosglwyddiad clwb” (“club transfer value”), mewn perthynas â swm pensiwn enilledig cronedig o dan y cynllun hwn neu o dan gynllun clwb arall, yw swm a gyfrifir gan y rheolwr cynllun—

(a)     yn unol â’r trefniadau trosglwyddiadau clwb, a

(b)     drwy gyfeirio at y canllawiau a thablau a ddarperir gan Actiwari’r Llywodraeth at y diben hwn, sydd mewn defnydd ar y dyddiad a ddefnyddir ar gyfer y cyfrifiad.

 

PENNOD 2

Trosglwyddiadau allan

Taliadau trosglwyddo a wneir i gynlluniau neu drefniadau pensiwn eraill

142.(1)(1) Ni chaniateir gwneud taliad trosglwyddo ac eithrio mewn cysylltiad â hawliau cronedig i gael buddion aelod actif neu aelod gohiriedig o’r cynllun hwn.

(2) Ni chaniateir gwneud taliad trosglwyddo ac eithrio i’r canlynol—

(a)     cynllun pensiwn cofrestredig nad yw’n gynllun cysylltiedig; neu

(b)     trefniant pensiwn sy’n gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys at ddibenion Rhan 4 o DC 2004 (gweler adran 169(2) o’r Ddeddf honno)([63]).

(3) Ni chaniateir gwneud taliad trosglwyddo mewn cysylltiad â hawliau sy’n briodoladwy (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i gredyd pensiwn.

(4) Ni chaiff aelod ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn defnyddio taliad trosglwyddo mewn unrhyw ffordd ac eithrio ffordd a bennir yn adran 95(2) o DCauP 1993([64]).

(5) Ni chaiff aelod ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn gwneud taliad gwerth trosglwyddiad clwb ac eithrio yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daw’r aelod yn gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun y gwneir y taliad iddo.

(6) Rhaid gwneud y cyfan o’r taliad trosglwyddo yn unol â darpariaethau’r rheoliad hwn.

(7) Os yw adran 96(2) o DCauP 1993 (ymddiriedolwyr neu reolwyr cynlluniau neu drefniadau penodol sy’n derbyn, nad ydynt yn alluog a bodlon i dderbyn taliad trosglwyddo, ac eithrio mewn cysylltiad â hawliau eraill yr aelod) yn gymwys([65]), caniateir eithrio o’r taliad trosglwyddo unrhyw fuddion sy’n briodoladwy i’r canlynol—

(a)     hawliau cronedig yr aelod i leiafswm pensiwn gwarantedig; a

(b)     hawliau cronedig yr aelod sy’n briodoladwy i wasanaeth mewn cyflogaeth a gontractiwyd allan o fewn ystyr Rhan 3 o DCauP 1993, ar neu ar ôl 6 Ebrill 1997.

Cais am ddatganiad o hawlogaeth

143.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod actif neu ohiriedig o’r cynllun hwn (P) sy’n gofyn am i daliad trosglwyddo gael ei wneud mewn cysylltiad â’i hawliau cronedig i gael buddion o dan y cynllun hwn.

(2) Cyn gofyn am daliad trosglwyddo, rhaid i P wneud cais am ddatganiad o hawlogaeth, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun.

(3) Caiff P dynnu’n ôl y cais drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun ar unrhyw adeg cyn darparu’r datganiad.

(4) Caiff P wneud ail gais yn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda dyddiad y cais cyntaf.

Datganiad o hawlogaeth

144.(1)(1) Yn y datganiad o hawlogaeth, rhaid i’r rheolwr cynllun bennu’r dyddiad y cyfrifir y cyfwerth ariannol neu’r gwerth trosglwyddiad clwb drwy gyfeirio ato (“y dyddiad gwarant”).

(2) Ac eithrio pan fo paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r dyddiad gwarant fod o fewn y ddau gyfnod canlynol—

(a)      y cyfnod o dri mis sy’n dechrau gyda dyddiad cais yr aelod am y datganiad o hawlogaeth (“y cyfnod o dri mis”); a

(b)     y cyfnod o 10 diwrnod sy’n diweddu gyda’r dyddiad pan ddarperir y datganiad hwnnw i’r aelod (“y cyfnod o 10 diwrnod”).

(3) Wrth gyfrif y cyfnod o 10 diwrnod, rhaid peidio â chynnwys dyddiau Sadwrn, dyddiau Sul, Dydd Nadolig, Dydd Calan na Dydd Gwener y Groglith.

(4) Caiff y rheolwr cynllun, yn y datganiad o hawlogaeth, bennu dyddiad gwarant sy’n dod o fewn y chwe mis sy’n dechrau gyda dyddiad cais yr aelod am ddatganiad o hawlogaeth—

(a)     os, am resymau sydd y tu hwnt i reolaeth y rheolwr cynllun, na ellir cael yr wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo swm y cyfwerth ariannol neu’r gwerth trosglwyddiad clwb cyn diwedd y cyfnod o dri mis; a

(b)     os yw’r rheolwr cynllun o’r farn ei bod yn rhesymol pennu dyddiad gwarant sydd y tu allan i’r cyfnod o dri mis.

Cais am wneud taliad trosglwyddo

145.(1)(1) Caiff aelod actif neu ohiriedig o’r cynllun hwn, y darparwyd iddo ddatganiad o hawlogaeth, wneud cais am wneud taliad trosglwyddo mewn cysylltiad â hawliau cronedig yr aelod i gael buddion o dan y cynllun hwn.

(2) Rhaid gwneud y cais am daliad trosglwyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, a phennu’r cynllun pensiwn neu’r trefniant pensiwn arall y gwneir y taliad trosglwyddo i mewn iddo.

(3) Rhaid i aelod gohiriedig arfer yr hawl i wneud cais am daliad o werth trosglwyddiad clwb ar neu cyn y cynharaf o’r canlynol, sef y diwrnod cyn bo’r aelod gohiriedig yn cyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig, a diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda’r dyddiad y peidiodd yr aelod gohiriedig â bod yn aelod actif o’r cynllun.

(4) Rhaid i aelod gohiriedig arfer yr hawl i wneud cais am daliad o werth drosglwyddo ar neu cyn y dyddiad cyn y diwrnod y mae’r aelod gohiriedig yn cyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), caiff yr aelod, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, dynnu’r cais yn ôl ar unrhyw adeg cyn gwneud y taliad trosglwyddo.

(6) Ni chaiff yr aelod dynnu’r cais yn ôl os ymunwyd eisoes mewn cytundeb gyda thrydydd parti ar gyfer defnyddio’r cyfan neu ran o’r taliad trosglwyddo.

Cyfrifo swm gwerth trosglwyddiad neu werth trosglwyddiad clwb

146.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid cyfrifo swm y gwerth trosglwyddo yn unol â chanllawiau actiwaraidd, fel ar y dyddiad gwarant.

(2) Os telir gwerth trosglwyddo yn ddiweddarach na chwe mis ar ôl y dyddiad gwarant, rhaid cynyddu swm y cyfwerth ariannol gwarantedig yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 97 (cyfrifo cyfwerthoedd ariannol) o DCauP 1993([66]).

(3) Os telir gwerth trosglwyddiad clwb yn ddiweddarach na chwe mis ar ôl y dyddiad gwarant, yna, os bydd angen, rhaid cynyddu swm y gwerth trosglwyddiad clwb fel y’i pennir yn y datganiad o hawlogaeth, fel bo’r swm yn hafal i’r hyn y byddai wedi bod, pe bai’r taliad wedi ei wneud ar y dyddiad gwarant.

(4) Os yw’r gwerth trosglwyddiad neu’r gwerth trosglwyddiad clwb yn llai na’r lleiafswm gwerth trosglwyddo, rhaid cynyddu swm y gwerth trosglwyddiad neu’r gwerth trosglwyddiad clwb fel y bo’n hafal i’r lleiafswm gwerth trosglwyddo.

(5) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “y lleiafswm gwerth trosglwyddo” (“the minimum transfer value”) yw cyfanswm y canlynol—

(a)     swm yr holl gyfraniadau aelod a thaliadau pensiwn ychwanegol a wnaed gan yr aelod; a

(b)     swm yr holl daliadau trosglwyddo a dderbyniwyd gan y cynllun hwn mewn perthynas â’r aelod.

Effaith trosglwyddiadau allan

147. Os gwneir taliad trosglwyddo o dan y Bennod hon mewn cysylltiad â hawliau cronedig aelod i gael buddion o dan y cynllun hwn, mae’r hawliau hynny’n cael eu diddymu.

PENNOD 3

Trosglwyddiadau i mewn

Cymhwyso’r Bennod

148. Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag aelod actif o’r cynllun hwn sydd â hawliau cronedig o dan gynllun pensiwn arall (P).

Dehongli’r Bennod

149. Yn y Bennod hon—

ystyr “cais am daliad trosglwyddo” (“transfer payment request”) yw cais i’r rheolwr cynllun o dan y Bennod hon am dderbyn taliad trosglwyddo oddi wrth gynllun pensiwn arall;

ystyr “cynllun pensiwn arall” (“another pension scheme”) yw—

(a)     cynllun pensiwn galwedigaethol arall sy’n gynllun pensiwn cofrestredig ond nad yw’n gynllun cysylltiedig,

(b)     cynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys at ddibenion Rhan 4 o DC 2004, neu

(c)     cynllun pensiwn personol;

ystyr “datganiad gwerth trosglwyddiad clwb” (“club transfer value statement”) yw datganiad o dan reoliad 153 (datganiad gwerth trosglwyddiad clwb) o swm pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb;

ystyr “datganiad trosglwyddo” (“transfer statement”) yw datganiad o dan reoliad 151 (datganiad trosglwyddo); ac

ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw’r cynharaf o’r canlynol—

(a)     os yw’r rheolwr cynllun wedi darparu datganiad trosglwyddo neu ddatganiad gwerth trosglwyddiad clwb, y diwrnod olaf o’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau gyda dyddiad y datganiad, neu

(b)     y diwrnod pan fo’r rheolwr cynllun yn cael y taliad trosglwyddo.

Cais am dderbyn taliad trosglwyddo

150.(1)(1) Caiff P, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, wneud cais am dderbyn taliad trosglwyddo mewn cysylltiad â rhai neu’r cwbl o hawliau cronedig P o dan gynllun pensiwn arall.

(2) O ran cais taliad trosglwyddo—

(a)     rhaid iddo bennu—

                           (i)    y cynllun pensiwn y gwneir cais am i’r taliad trosglwyddo gael ei dderbyn allan ohono, a

                         (ii)    swm disgwyliedig y taliad trosglwyddo; a

(b)     yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid iddo gael ei wneud cyn dechrau’r cyfnod o un flwyddyn sy’n diweddu gyda’r dyddiad pan fo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn arferol.

(3) Rhaid gwneud cais am dderbyn taliad trosglwyddo oddi wrth gynllun pensiwn analwedigaethol yn ystod y cyfnod o un flwyddyn sy’n dechrau gyda’r diwrnod pan ddaw’r aelod yn aelod actif, neu pa bynnag gyfnod hwy a ganiateir gan y rheolwr cynllun.

(4) Ar ôl cael cais am daliad trosglwyddo, caiff y rheolwr cynllun dderbyn y taliad trosglwyddo.

Datganiad trosglwyddo

151.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)     cais am dderbyn taliad trosglwyddo oddi wrth gynllun pensiwn arall nad yw’n gynllun clwb; a

(b)     cais am dderbyn taliad trosglwyddo mewn cysylltiad â phensiwn ychwanegol oddi wrth gynllun clwb arall.

(2) Caiff y rheolwr cynllun ei gwneud yn ofynnol bod P, cyn gwneud cais am daliad trosglwyddo, yn gofyn i reolwr cynllun y cynllun arall ddarparu datganiad o swm y pensiwn trosglwyddedig, wedi ei gyfrifo yn unol â chanllawiau actiwaraidd, y bydd hawl gan P i’w gyfrif o dan reoliad 152 (swm y pensiwn a drosglwyddir), ar yr amod bod y dyddiad trosglwyddo yn digwydd o fewn y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau gyda dyddiad y datganiad hwnnw.

Swm pensiwn trosglwyddedig

152.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)     unrhyw daliad trosglwyddo a geir mewn perthynas â P oddi wrth gynllun pensiwn arall nad yw’n gynllun clwb; a

(b)     unrhyw daliad trosglwyddo mewn cysylltiad â phensiwn ychwanegol a geir mewn perthynas â P oddi wrth gynllun clwb arall.

(2) Ar gyfer y flwyddyn gynllun y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi, swm y pensiwn trosglwyddedig y mae hawl gan P i’w gyfrif mewn cysylltiad â’r taliad trosglwyddo yw—

(a)     y swm a bennir yn y datganiad trosglwyddo; neu

(b)     os na ddarparwyd datganiad o’r fath neu os na chyfrifwyd y swm yn unol â chanllawiau actiwaraidd, swm a gyfrifir gan y rheolwr cynllun yn unol â chanllawiau actiwaraidd.

Datganiad o werth trosglwyddiad clwb

153.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chais am dderbyn taliad gwerth trosglwyddiad clwb oddi wrth gynllun clwb arall.

(2) Caiff y rheolwr cynllun ei gwneud yn ofynnol bod P, cyn gwneud y cais am daliad trosglwyddo, yn gofyn i reolwr cynllun y cynllun sy’n anfon ddarparu datganiad o swm y pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb, wedi ei gyfrifo yn unol â chanllawiau actiwaraidd, y bydd hawl gan P i’w gyfrif o dan reoliad 154 (swm pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb), ar yr amod bod y dyddiad trosglwyddo yn digwydd o fewn y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau gyda dyddiad y datganiad hwnnw.

(3) Rhaid i’r datganiad bennu ar ba sail yr ailbrisiwyd swm o bensiwn enilledig cronedig o dan y cynllun sy’n anfon tra oedd yr aelod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw.

Swm pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb

154.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â thaliad gwerth trosglwyddiad clwb a gafwyd oddi wrth gynllun clwb arall.

(2) Ar gyfer y flwyddyn gynllun y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi, swm y pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb y mae hawl gan P i’w gyfrif yw—

(a)     y swm a bennir yn y datganiad gwerth trosglwyddiad clwb; neu

(b)     os na ddarparwyd datganiad o’r fath neu os nad yw wedi ei gyfrifo yn unol â chanllawiau actiwaraidd, swm a gyfrifir gan y rheolwr cynllun yn unol â chanllawiau actiwaraidd.

PENNOD 4

Trosglwyddo cofnodion cyfrif pensiwn i reolwr cynllun arall

Gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif

155.(1)(1) Yn achos aelod actif y peidiodd â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gydag un cyflogwr ac a ddechreuodd mewn cyflogaeth gynllun gydag awdurdod arall, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif sy’n datgan—

(a)     y cofnodion yn y cyfrif pensiwn, neu’r cyfrifon pensiwn os oes mwy nag un, ar ddyddiad y dystysgrif;

(b)     y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy yn y gyflogaeth neu’r cyflogaethau cynllun, gyda’r cyflogwr; ac

(c)     y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.

(2) Pan fo aelod gohiriedig wedi dechrau mewn cyflogaeth gynllun gydag awdurdod arall ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd, rhaid i’r aelod ofyn i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r cyfnod cynharaf o wasanaeth pensiynadwy ddarparu i’r aelod dystysgrif sy’n datgan—

(a)     y cofnodion yn y cyfrif pensiwn, neu’r cyfrifon pensiwn os oes mwy nag un, ar ddyddiad y dystysgrif;

(b)     y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy yn y gyflogaeth neu’r cyflogaethau cynllun, gyda’r cyflogwr hwnnw;

(c)     y dyddiad y peidiodd yr aelod â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gan y cyflogwr hwnnw; a

(d)     y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.

(3) Pan yw’n ofynnol bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif o dan baragraff (1) a’r rheolwr cynllun wedi sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol ar gyfer yr aelod hwnnw, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif i’r aelod, sy’n datgan—

(a)     y cofnodion yn y cyfrif pensiwn ychwanegol ar ddyddiad y dystysgrif;

(b)     y dyddiad y rhoddir y dystysgrif; ac

(c)     manylion dewisiad pensiwn ychwanegol yr aelod os nad yw’r cyfnod cyfraniadau wedi dod i ben.

(4) Pan yw’n ofynnol bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif o dan baragraff (2), neu pan fo aelod gohiriedig yn bwriadu gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol ar ôl dechrau cyflogaeth gynllun yn dilyn bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy sy’n hwy na phum mlynedd, a’r rheolwr cynllun mewn perthynas â chyfnod blaenorol o wasanaeth pensiynadwy wedi sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol, rhaid i’r rheolwr cynllun, os gofynnir iddo gan yr aelod, ddarparu tystysgrif i’r aelod, sy’n datgan—

(a)     y cofnodion yn y cyfrif pensiwn ar ddyddiad y dystysgrif;

(b)     y dyddiad y peidiodd yr aelod â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gan y cyflogwr hwnnw; ac

(c)     y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.

(5) Pan fo gan aelod actif ddau neu ragor o gyfrifon aelod actif gyda dau neu ragor o reolwyr cynllun gwahanol, a’r aelod yn bwriadu gwneud, neu wedi gwneud, dewisiad pensiwn ychwanegol, caiff yr aelod ofyn am dystysgrif gan y rheolwr cynllun a sefydlodd y cyfrif pensiwn ychwanegol er mwyn gallu darparu’r dystysgrif honno i reolwr cynllun arall (B) mewn cysylltiad â chyfrif aelod actif gwahanol, fel y gellir trosglwyddo’r cofnodion i gyfrif pensiwn ychwanegol a sefydlir gan B.

(6) Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif o dan y rheoliad hwn—

(a)     o fewn tri mis wedi’r dyddiad y mae’r aelod actif yn gadael cyflogaeth gynllun; neu

(b)     o fewn tri mis wedi’r dyddiad y mae’r aelod gohiriedig yn hysbysu’r rheolwr cynllun o’r gyflogaeth gynllun newydd.

Cais am gadarnhau manylion ar dystysgrif

156. Pan fo tystysgrif wedi ei darparu i aelod o dan reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif) a’r aelod yn anfodlon ar yr wybodaeth a ddatgenir ar y dystysgrif, caiff yr aelod, o fewn y cyfnod o dri mis sy’n cychwyn ar y dyddiad y cafwyd y dystysgrif, ofyn i’r rheolwr cynllun a ddarparodd y dystysgrif i gadarnhau cywirdeb yr wybodaeth a gynhwysir ynddi neu i ddarparu tystysgrif ddiwygiedig.

Apêl ynghylch cofnodion ar dystysgrif

157.(1)(1) Os nad yw aelod (P) yn fodlon ar y cofnodion sydd ar y dystysgrif, neu’r dystysgrif ddiwygiedig, wedi i P wneud cais o dan reoliad 156 (cais am gadarnhau manylion ar dystysgrif), caiff P, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun a ddarparodd y dystysgrif o fewn 28 i’r dyddiad hysbysu, ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn ymdrin â’r anghytundeb o dan drefniadau a gyflawnwyd gan y rheolwr cynllun yn unol â gofynion adran 50 o Ddeddf Pensiynau 1995([67]) (datrys anghydfodau) a Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gweithdrefnau Mewnol i Ddatrys Anghydfodau, Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2008([68]).

(2) Ym mharagraff (1), “y dyddiad hysbysu” (“the notification date”) yw’r dyddiad a drinnir fel y dyddiad pan oedd P wedi cael gan y rheolwr cynllun naill ai gadarnhad o’r dystysgrif a ddarparwyd o dan reoliad 155 neu dystysgrif ddiwygiedig a ddarparwyd yn dilyn cais gan P o dan reoliad 156 (cais am gadarnhau manylion ar dystysgrif).

Trosglwyddo cofnodion cyfrif pensiwn

158.(1)(1) Rhaid i aelod y darparwyd tystysgrif iddo o dan baragraff (1), (2)(2), (3) neu (4) o reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif) roi’r dystysgrif i gyflogwr cynllun newydd yr aelod.

(2) Rhaid i’r cyflogwr cynllun newydd ofyn i’r rheolwr cynllun a roddodd y dystysgrif gadarnhau bod yr aelod wedi darparu tystysgrifau mewn cysylltiad â’r holl gyfrifon pensiwn yr oedd y cyflogwr hwnnw’n rheolwr cynllun ar eu cyfer.

(3) Rhaid i’r rheolwr cynllun a roddodd y dystysgrif ddarparu cadarnhad i’r cyflogwr newydd fod yr aelod wedi darparu tystysgrifau mewn cysylltiad â phob cyfrif pensiwn yr oedd y cyflogwr hwnnw’n rheolwr cynllun ar eu cyfer.

(4) Wedi i’r cadarnhad gael ei ddarparu gan y rheolwr cynllun, rhaid i’r rheolwr cynllun newydd drosglwyddo’r cofnodion priodol o’r dystysgrif i gyfrif pensiwn newydd yr aelod actif a sefydlwyd o dan reoliad 40 (sefydlu cyfrif aelod actif), ac os oedd gan yr aelod gyfrif pensiwn ychwanegol, trosglwyddo’r cofnodion priodol o’r dystysgrif a ddarparwyd mewn cysylltiad â’r cyfrif hwnnw i’r cyfrif pensiwn ychwanegol newydd a sefydlwyd o dan reoliad 47 (sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol).

(5) Ar ôl cwblhau trosglwyddo’r cofnodion o dan baragraff (4), rhaid i’r rheolwr cynllun newydd roi gwybod i’r rheolwr cynllun blaenorol fod y trosglwyddo wedi ei wneud a rhaid i’r rheolwr cynllun blaenorol gau’r holl gyfrifon pensiwn sy’n gysylltiedig â’r tystysgrifau a ddarparwyd mewn cysylltiad â’r aelod.

(6) Os yw nifer y cyfrifon pensiwn, y darparwyd manylion mewn cysylltiad â hwy gan y rheolwr cynllun blaenorol o dan baragraff (1) neu (2) o reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif), yn fwy na nifer y cyfrifon aelod actif a sefydlwyd gan y rheolwr cynllun newydd, rhaid i’r aelod benderfynu, ar ôl ymgynghori â’r rheolwr cynllun newydd, o ba gyfrifon pensiwn y bydd rhaid trosglwyddo cofnodion i’r cyfrif neu gyfrifon aelod actif newydd, a hysbysu’r rheolwr cynllun blaenorol.

(7) Pan fo paragraff (6) yn gymwys ac na throsglwyddir cofnodion o un neu ragor o gyfrifon pensiwn, rhaid cau’r cyfrifon hynny a rhaid i’r rheolwr cynllun blaenorol sefydlu cyfrif aelod gohiriedig mewn cysylltiad â phob un o’r cyfrifon hynny.

(8) Pan fo aelod wedi ymgymryd â chyflogaeth gynllun gyda dau neu ragor o gyflogwyr ac yn bwriadu gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol, caiff yr aelod ddewis i ba reolwr cynllun y rhoddir y dystysgrif a ddarperir o dan baragraff (3) neu (4) o reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif).

(9) Nid yw’n ofynnol i reolwr cynllun wneud unrhyw daliad i’r rheolwr cynllun newydd mewn cysylltiad â throsglwyddo cyfrif pensiwn.

RHAN 11

Prisiadau actiwaraidd

Penodi actiwari’r cynllun a phrisiadau actiwaraidd

159.(1)(1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi unigolyn i ddarparu gwasanaeth ymgynghori ar faterion actiwaraidd mewn perthynas â’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig.

(2) Actiwari’r cynllun sy’n gyfrifol am—

(a)     cyflawni prisiadau o’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig; a

(b)     paratoi adroddiadau ar y prisiadau.

(3) Cyn penodi unigolyn yn actiwari’r cynllun, rhaid i Weinidogion Cymru fodloni eu hunain bod gan yr unigolyn gymwysterau priodol i gwblhau prisiadau o’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig yn unol â chyfarwyddiadau’r Trysorlys a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf 2013 (“cyfarwyddiadau’r Trysorlys”).

(4) Rhaid i reolwr cynllun ddarparu i actiwari’r cynllun unrhyw ddata sy’n ofynnol gan actiwari’r cynllun er mwyn cyflawni prisiad a pharatoi adroddiad ar y prisiad hwnnw.

(5) Rhaid cyflawni prisiad o’r cynllun ac unrhyw gynllun cysylltiedig a pharatoi adroddiad ar y prisiad yn unol â chyfarwyddiadau’r Trysorlys.

(6) Rhaid cyflawni prisiadau o’r cynllun o fewn ffrâm amser sy’n galluogi bodloni’r gofynion yng nghyfarwyddiadau’r Trysorlys mewn perthynas â dyddiadau sy’n gymwys i’r prisio.

Cap ar gostau cyflogwyr

160.(1)(1) Y cap ar gostau cyflogwyr ar gyfer y cynllun hwn yw 17.1% o enillion pensiynadwy aelodau o’r cynllun hwn.

(2) Os bydd cost y cynllun hwn, a gyfrifir yn dilyn prisiad yn unol â chyfarwyddiadau’r Trysorlys, yn uwch neu’n is na’r cap ar gostau cyflogwyr, o fwy na’r gorsymiau a bennir mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 12(5) o Ddeddf 2013([69]) (“y Rheoliadau Cap Costau”), rhaid i Weinidogion Cymru ddilyn y weithdrefn a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer cyrraedd cytundeb gyda rheolwyr cynllun, cyflogwyr ac aelodau (neu gynrychiolwyr cyflogwyr ac aelodau) ynglŷn â’r camau sy’n ofynnol er mwyn cyrraedd y targed cost a bennir yn y Rheoliadau Cap Costau.

(3) Y weithdrefn a bennir at ddibenion adran 12(6)(a) o Ddeddf 2013 yw ymgynghori gyda Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru am unrhyw gyfnod a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru gyda golwg ar gyrraedd cytundeb a gymeradwyir gan holl aelodau’r Bwrdd hwnnw.

(4) Yn dilyn ymgynghoriad o’r fath, os na chyrhaeddir cytundeb o fewn 3 mis ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau i addasu’r gyfradd y mae buddion yn crynhoi yn unol â hi o dan reoliad 43 (swm y pensiwn ar gyfer blwyddyn gynllun) er mwyn cyrraedd y targed cost ar gyfer y cynllun hwn.

 

RHAN 12

Penderfyniadau ac apelau

PENNOD 1

Penderfyniadau a rôl YMCA

Penderfyniadau gan y rheolwr cynllun

161. Rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu a oes hawl gan berson i gael dyfarniad neu i gadw dyfarniad.

Rôl YMCA mewn penderfyniadau gan y rheolwr cynllun

162.(1)(1) Wrth benderfynu a oes hawl gan berson i gael dyfarniad, neu i gadw dyfarniad, pan fo’r penderfyniad ynglŷn â’i hawlogaeth yn dibynnu yn rhannol ar afiechyd neu alluogrwydd y person y byddai ganddo’r hawlogaeth honno, rhaid i’r rheolwr cynllun gael barn ysgrifenedig yr YMCA ar unrhyw fater sydd o natur feddygol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun ofyn i YMCA ddarparu barn ar y materion canlynol at y diben o benderfynu unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan y cynllun hwn—

(a)     a yw person yn analluog i gyflawni unrhyw rai o ddyletswyddau’r rôl y cyflogid y person hwnnw ynddi ddiwethaf, oherwydd anallu meddyliol neu gorfforol;

(b)     a yw’r anallu yn is-baragraff (a) uchod yn debygol o barhau tan yr oedran pensiwn arferol neu’r oedran pensiwn gohiriedig, yn ôl fel y digwydd;

(c)     a yw person wedi dod yn alluog i gyflawni unrhyw rai o ddyletswyddau’r rôl yr ymddeolodd y person hwnnw ohoni ar sail afiechyd;

(d)     a yw person yn alluog, neu wedi dod yn alluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd; neu

(e)     unrhyw fater arall sydd o natur feddygol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i’r YMCA ardystio o dan baragraff (2) nad yw’r—

(a)     YMCA, yn flaenorol, wedi cynghori, wedi mynegi barn, nac wedi bod yn ymwneud rywfodd arall, yn yr achos penodol y gofynnwyd am farn ar ei gyfer; a

(b)     YMCA yn gweithredu, ac na fu ar unrhyw adeg yn gweithredu, fel cynrychiolydd yr aelod, y rheolwr cynllun, nac unrhyw barti arall mewn cysylltiad â’r un achos.

(4) Mae barn YMCA o dan baragraff (2) yn rhwymo’r rheolwr cynllun onis disodlir gan ymateb yr YMCA o dan reoliad 163(2) (adolygu barn feddygol) neu ganlyniad apêl o dan reoliad 164 (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol).

(5) Mae ymateb yr YMCA o dan reoliad 163 (adolygu barn feddygol) neu ganlyniad apêl o dan reoliad 164 (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol), yn ôl fel y digwydd, yn rhwymo’r rheolwr cynllun.

(6) Pan fo aelod, o ganlyniad i farn a roddwyd o dan baragraff (2), wedi ymddeol ar sail afiechyd, caiff yr YMCA a roddodd y farn, os gofynnir iddo wneud hynny gan y rheolwr cynllun at ddibenion adolygiad o dan reoliad 77(1) (adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar), roi barn bellach.

(7) Os—

(a)     yw person, yn fwriadol neu’n esgeulus, yn methu ag ymostwng i’w archwilio yn feddygol gan yr YMCA a ddewiswyd gan y rheolwr cynllun; a

(b)     nad yw’r YMCA yn gallu rhoi barn ar sail y dystiolaeth feddygol sydd ar gael,

caiff y rheolwr cynllun wneud penderfyniad yn y mater ar sail pa bynnag dystiolaeth feddygol arall a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun, neu heb dystiolaeth feddygol.

(8) O fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)     rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad i’r person dan sylw; a

(b)     yn achos penderfyniad ar fater sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o natur feddygol, oni bai bod paragraff (7) yn gymwys, cyflenwi’r person hwnnw â chopi o’r farn a gafwyd o dan baragraff (2).

Adolygu barn feddygol

163.(1)(1) Pan fo—

(a)     tystiolaeth newydd ar fater sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o natur feddygol yn cael ei chyflwyno i’r rheolwr cynllun gan aelod (P), y gwnaed penderfyniad mewn cysylltiad ag ef o dan y Rheoliadau hyn;

(b)     y rheolwr cynllun yn cael y dystiolaeth honno—

                           (i)    os cyflenwyd copi o farn yn unol â rheoliad 162(8) (rôl YMCA mewn penderfyniadau gan y rheolwr cynllun), o fewn 28 diwrnod wedi i P gael y copi hwnnw, a

                         (ii)    mewn unrhyw achos arall, o fewn 28 diwrnod wedi i P gael hysbysiad o benderfyniad y rheolwr cynllun; ac

(c)     y rheolwr cynllun a P yn cytuno bod rhaid rhoi cyfle i’r YMCA adolygu’r farn honno yng ngoleuni’r dystiolaeth newydd,

rhaid i’r rheolwr cynllun anfon copi o’r dystiolaeth newydd at yr YMCA a gwahodd yr YMCA i ailystyried y farn honno.

(2) Rhaid i’r ymateb gan YMCA i wahoddiad o dan baragraff (1) fod mewn ysgrifen.

(3) Mae’r ymateb gan YMCA o dan baragraff (2) yn rhwymo’r rheolwr cynllun oni ddisodlir yr ymateb hwnnw gan ganlyniad apêl o dan reoliad 164 (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol).

(4) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael ymateb o dan baragraff (2), rhaid i’r rheolwr cynllun ailystyried ei benderfyniad.

(5) O fewn 14 diwrnod ar ôl yr ailystyriaeth honno, rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)     rhoi hysbysiad ysgrifenedig i P ei fod wedi cadarnhau ei benderfyniad neu wedi ei ddiwygio (yn ôl fel y digwydd);

(b)     os yw’r rheolwr cynllun wedi diwygio ei benderfyniad, cyflenwi P â hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad diwygiedig; ac

(c)     cyflenwi P â chopi o’r ymateb o dan baragraff (2).

PENNOD 2

Apelau i’r Bwrdd Canolwyr Meddygol

Apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol

164.(1)(1) Caiff aelod (P) sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad rheolwr cynllun ar fater o natur feddygol apelio felly i fwrdd o ganolwyr meddygol yn unol â darpariaethau rheoliadau 165 (hysbysiad o apêl) i 172 (hysbysiadau etc).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo penderfyniad—

(a)     wedi ei wneud mewn cysylltiad â barn a gafwyd o dan reoliad 162(2) (rôl YMCA mewn penderfyniadau gan y rheolwr cynllun) neu dystiolaeth feddygol y dibynnwyd arni fel y crybwyllir yn rheoliad 162(7); neu

(b)     yn cael ei ailystyried o dan reolid 163(4) (adolygu barn feddygol) mewn cysylltiad ag ymateb o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw,

rhaid i’r rheolwr cynllun, o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud, cadarnhau neu ddiwygio’r penderfyniad (yn ôl fel y digwydd), anfon at P y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (4).

(3) Nid oes dim ym mharagraff (2) sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflenwi dogfennau a gyflenwyd eisoes o dan reoliad 162(8) neu 163(5).

(4) Y dogfennau yw—

(a)     copi o’r farn, yr ymateb neu’r dystiolaeth, (yn ôl fel y digwydd);

(b)     esboniad o’r weithdrefn ar gyfer apelau o dan y Bennod hon; ac

(c)     datganiad bod rhaid i P, os yw P yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y rheolwr cynllun ar fater meddygol ei natur, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, sy’n datgan enw a chyfeiriad P a sail yr apêl, ddim hwyrach nag 28 diwrnod wedi i P gael yr olaf o’r dogfennau y mae’n ofynnol eu cyflenwi o dan y paragraff hwn, neu o fewn pa bynnag gyfnod hwy a ganiateir gan y rheolwr cynllun.

Hysbysiad o apêl

165.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o apêl yn erbyn penderfyniad ar fater meddygol ei natur, gan ddatgan—

(a)     enw a chyfeiriad yr apelydd (P); a

(b)     sail yr apêl,

i’r rheolwr cynllun o fewn 28 diwrnod ar ôl y dyddiad pan fo P yn cael y dogfennau y cyfeirir atynt yn rheoliad 164(4) (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol); ac os yw P yn cael y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, rhaid eu trin at y diben hwn fel pe bai P wedi eu cael ar y diweddaraf neu’r diweddarach o’r dyddiadau hynny.

(2) Os—

(a)     na roddwyd hysbysiad o apêl o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1); ond

(b)     ym marn y rheolwr cynllun, nad oherwydd bod bai ar P ei hunan y methwyd â rhoi’r hysbysiad o fewn y cyfnod hwnnw,

caiff y rheolwr cynllun estyn y cyfnod ar gyfer rhoi hysbysiad, am ba bynnag gyfnod, o ddim hwy na chwe mis o’r dyddiad a grybwyllir ym mharagraff (1), a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun.

Cyfeirio apêl i’r bwrdd

166.(1)(1) Rhaid i’r rheolwr cynllun, pan gaiff hysbysiad o apêl, gyflenwi Gweinidogion Cymru â thri chopi o’r canlynol—

(a)     yr hysbysiad o apêl;

(b)     yr hysbysiad o’r penderfyniad perthnasol;

(c)     y farn, ymateb neu dystiolaeth (yn ôl fel y digwydd) a gyflenwyd i’r apelydd (P); a

(d)     pob dogfen arall ym meddiant neu dan reolaeth y rheolwr cynllun, sy’n ymddangos i’r rheolwr cynllun yn berthnasol i’r mater sy’n destun yr apêl.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio apêl i fwrdd o ganolwyr meddygol (“y bwrdd”).

(3) Rhaid i’r bwrdd gynnwys dim llai na thri ymarferydd meddygol a benodir gan, neu’n unol â threfniadau a wnaed gan, Weinidogion Cymru.

(4) Rhaid i un aelod o’r bwrdd fod yn arbenigwr mewn cyflwr meddygol sy’n berthnasol i’r apêl.

(5) Rhaid penodi un aelod o’r bwrdd yn gadeirydd.

(6) Pan fo pleidlais ymhlith aelodau’r bwrdd yn rhannu’n gyfartal, rhaid rhoi ail bleidlais neu bleidlais fwrw i’r cadeirydd.

(7) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyfeirio apêl i’r bwrdd, rhaid i Weinidogion Cymru gyflenwi gweinyddwr y bwrdd â thri chopi o bob dogfen a gyflenwyd o dan baragraff (1).

(8) Rhaid i’r bwrdd drefnu bod un o’i nifer (‘yr aelod-adolygydd’) yn adolygu’r dogfennau hynny.

(9) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cwblhau ei adolygiad, rhaid i’r aelod-adolygydd roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o’r canlynol—

(a)     unrhyw wybodaeth arall y byddai’n ddymunol ei darparu, ym marn yr aelod-adolygydd, er mwyn i’r bwrdd gael gwybodaeth ddigonol at y diben o’i alluogi i benderfynu’r apêl; a

(b)     os yw hynny’n wir, bod yr aelod-adolygydd o’r farn y caiff y bwrdd ystyried yr apêl yn wacsaw, yn flinderus neu’n amlwg yn ddi-sail.

(10) Ar ôl cael hysbysiad yr aelod-adolygydd, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)     os yw’r aelod-adolygydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru y byddai’n ddymunol cael gwybodaeth bellach, ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn ymdrechu ei orau i gael yr wybodaeth honno; a

(b)     os yw’r hysbysiad yn cynnwys barn o’r math a ddisgrifir ac a grybwyllir ym mharagraff (9)(b), anfon copi ohono at y rheolwr cynllun.

(11) Rhaid i reolwr cynllun sy’n cael copi o farn aelod-adolygydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)     anfon copi o’r farn honno at P; a

(b)     drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i P—

                           (i)    hysbysu P y gallai fod yn ofynnol bod P yn talu costau’r rheolwr cynllun, pe bai apêl P yn aflwyddiannus, a

                         (ii)    ei gwneud yn ofynnol bod P yn rhoi gwybod i’r rheolwr cynllun, o fewn 14 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad, pa un ai yw P yn bwriadu mynd ymlaen â’r apêl neu ei thynnu’n ôl.

(12) Rhaid i reolwr cynllun sy’n hysbysu P o dan baragraff (11)(b) roi gwybod i Weinidogion Cymru ynghylch ymateb P i’r hysbysiad o dan is-baragraff 11(b); a rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r bwrdd yn unol â hynny.

Y weithdrefn pan wneir apêl

167.(1)(1) Os eir ymlaen i wneud apêl, rhaid i’r bwrdd sicrhau bod yr apelydd (P) a’r rheolwr cynllun (“y partïon”) wedi—

(a)     eu hysbysu bod yr apêl i gael ei phenderfynu gan y bwrdd; a

(b)     eu hysbysu o gyfeiriad lle y gellir anfon cyfathrebiadau ynglŷn â’r apêl, ar gyfer eu cyflwyno i’r bwrdd.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5)—

(a)     rhaid i’r bwrdd gyfweld ac archwilio P yn feddygol unwaith o leiaf; a

(b)     caiff y bwrdd gyfweld neu archwilio P yn feddygol neu beri bod P yn cael ei gyfweld neu ei archwilio’n feddygol ar ba bynnag achlysuron pellach a ystyrir yn angenrheidiol gan y bwrdd at y diben o benderfynu’r apêl.

(3) Rhaid i’r bwrdd bennu amser a lleoliad, a rhoi i’r partïon ddim llai na dau fis o rybudd o’r amser a’r lleoliad, ar gyfer pob cyfweliad ac archwiliad meddygol; ac os bodlonir y bwrdd nad yw P yn gallu teithio, rhaid i’r lleoliad fod ym man preswylio P.

(4) Rhaid i P fod yn bresennol ar yr amser ac yn y lleoliad a bennir ar gyfer unrhyw gyfweliad ac archwiliad meddygol gan y bwrdd, neu gan unrhyw aelod o’r bwrdd, neu unrhyw berson a benodir gan y bwrdd at y diben hwnnw.

(5) Os—

(a)     yw P yn methu â chydymffurfio â pharagraff (4); a

(b)     na fodlonir y bwrdd fod rheswm rhesymol am y methiant hwnnw,

caiff y bwrdd hepgor y cyfweliad a’r archwiliad meddygol, a chaiff benderfynu’r apêl ar sail pa bynnag wybodaeth sydd ar gael ar y pryd.

(6) Mewn unrhyw gyfweliad o dan y rheoliad hwn, caiff personau fod yn bresennol a benodwyd at y diben gan y rheolwr cynllun neu gan P neu gan y ddau ohonynt.

(7) Os yw’r naill barti neu’r llall yn bwriadu cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig neu ddatganiad ysgrifenedig mewn cyfweliad a gynhelir o dan baragraff (2), rhaid i’r parti, yn ddarostyngedig i baragraff (8), gyflwyno’r dystiolaeth neu’r datganiad i’r bwrdd ac i’r parti arall ddim llai nag 28 diwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y cyfweliad.

(8) Os cyflwynir unrhyw dystiolaeth neu ddatganiad ysgrifenedig o dan baragraff (7) llai nag 28 diwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y cyfweliad, caniateir cyflwyno unrhyw dystiolaeth neu ddatganiad ysgrifenedig yn ymateb gan y parti arall i’r bwrdd ac i’r parti a gyflwynodd y dystiolaeth neu’r datganiad a grybwyllwyd gyntaf, ar unrhyw adeg hyd at, a chan gynnwys, y dyddiad hwnnw.

(9) Os cyflwynir unrhyw dystiolaeth neu ddatganiad ysgrifenedig yn groes i baragraff (7), caiff y bwrdd ohirio’r dyddiad a bennwyd ar gyfer y cyfweliad, a gwneud yn ofynnol bod y parti a gyflwynodd y dystiolaeth neu’r datganiad yn talu pa bynnag gostau rhesymol a dynnir gan y bwrdd, a chan y parti arall, o ganlyniad i’r gohirio.

Adroddiad y bwrdd

168.(1)(1) Rhaid i’r bwrdd gyflenwi Gweinidogion Cymru â’r canlynol—

(a)     adroddiad ysgrifenedig o’i benderfyniad ar y materion meddygol perthnasol; a

(b)     os yw’r bwrdd o’r farn bod yr apêl yn wacsaw, yn flinderus neu’n amlwg yn ddi-sail, datganiad i’r perwyl hwnnw (a gaiff ffurfio rhan o’r adroddiad).

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflenwi’r partïon â chopi o’r adroddiad ac o unrhyw adroddiad ar wahân o dan baragraff (1)(b).

Ailystyried gan y bwrdd

169.(1)(1) Pan fo—

(a)     y partïon wedi cael copi o’r adroddiad a gyflenwyd o dan reoliad 168 (adroddiad y bwrdd), a

(b)     y partïon yn cytuno bod y bwrdd wedi gwneud camgymeriad ffeithiol sy’n cael effaith berthnasol ar benderfyniad y bwrdd,

rhaid i’r rheolwr cynllun, o fewn 28 diwrnod ar ôl cael yr adroddiad, gyflenwi Gweinidogion Cymru â dau gopi o ddatganiad a gytunir rhwng y partïon.

(2) Rhaid i’r datganiad a gytunir nodi—

                           (i)    y camgymeriad ffeithiol,

                         (ii)    y ffaith gywir, a

gwahodd y bwrdd i ailystyried ei benderfyniad.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 14 diwrnod ar ôl cael y datganiad, gyflenwi’r bwrdd â chopi ohono.

(4) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael y datganiad, rhaid i’r bwrdd ailystyried ei benderfyniad.

(5) O fewn 14 diwrnod ar ôl yr ailystyriaeth honno, rhaid i’r bwrdd—

(a)     rhoi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ei fod wedi cadarnhau ei benderfyniad neu wedi diwygio ei benderfyniad, (yn ôl fel y digwydd); a

(b)     os yw’r bwrdd wedi diwygio ei benderfyniad, gyflenwi Gweinidogion Cymru ag adroddiad ysgrifenedig o’i benderfyniad diwygiedig.

(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflenwi’r partïon â chopi o’r hysbysiad ysgrifenedig sy’n cadarnhau penderfyniad y bwrdd, neu gopi o’r adroddiad ysgrifenedig o benderfyniad diwygiedig y bwrdd (yn ôl fel y digwydd).

Ffioedd a lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd

170.(1)(1) Rhaid talu i’r bwrdd ac i’r aelod-adolygydd—

(a)     y cyfryw ffioedd a lwfansau (gan gynnwys y rhai sy’n daladwy i’r aelod-adolygydd am waith a wnaed yn adolygu dogfennau o dan reoliad 166(8) (cyfeirio apêl i’r bwrdd)) a benderfynir yn unol â threfniadau a wnaed gan Weinidogion Cymru; neu

(b)     os na wnaed trefniadau o’r fath, y cyfryw ffioedd a lwfansau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu o bryd i’w gilydd.

(2) Rhaid i’r ffioedd a’r lwfansau sy’n daladwy o dan baragraff(1)—

(a)     cael eu talu gan y rheolwr cynllun; a

(b)     cael eu trin at ddibenion rheoliad 171 (treuliau pob un o’r partïon) fel rhan o dreuliau’r rheolwr cynllun.

Treuliau pob un o’r partïon

171.(1)(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 167(9) (y weithdrefn pan wneir apêl) a pharagraffau (2) i (5) isod, rhaid i bob parti unigol i’r apêl ysgwyddo ei dreuliau ei hunan.

(2) Pan fo’r bwrdd—

(a)     yn penderfynu apêl o blaid y rheolwr cynllun; a

(b)     yn datgan bod yr apêl, ym marn y bwrdd, yn wacsaw, yn flinderus neu’n amlwg yn ddi-sail,

caiff y rheolwr cynllun ei gwneud yn ofynnol bod yr apelydd (P) yn talu i’r rheolwr cynllun y cyfryw swm, na chaiff fod yn fwy na chyfanswm y ffioedd a’r lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd a’r aelod-adolygydd o dan reoliad 170(1) (ffioedd a lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd), a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun.

(3) Pan fo—

(a)     P yn rhoi hysbysiad i’r bwrdd—

                           (i)    yn tynnu’r apêl yn ôl, neu

                         (ii)    yn gofyn am ddiddymu, gohirio neu oedi’r dyddiad a bennwyd ar gyfer cyfweliad neu archwiliad meddygol o dan reoliad 167(3), a

rhoddir yr hysbysiad llai na 22 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad a bennwyd o dan reoliad 167(3); neu

(b)     gweithredoedd neu anweithiau P yn peri i’r bwrdd ddiddymu, gohirio neu oedi rywfodd arall y dyddiad a bennwyd o dan reoliad 167(3), llai na 22 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad penodedig,

caiff y rheolwr cynllun ei gwneud yn ofynnol bod P yn talu i’r rheolwr cynllun y cyfryw swm, na chaiff fod yn fwy na chyfanswm y ffioedd a’r lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd o dan reoliad 170(1) (ffioedd a lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd), a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun.

(4) Pan—

(a)     yw’r bwrdd yn penderfynu apêl o blaid P; a

(b)     nad yw’r bwrdd yn cyfarwyddo’n wahanol,

rhaid i’r rheolwr cynllun ad-dalu i P y swm a bennir ym mharagraff (5).

(5) Y swm yw cyfanswm y canlynol—

(a)     unrhyw dreuliau personol a dynnwyd mewn gwirionedd ac yn rhesymol gan P mewn cysylltiad ag unrhyw gyfweliad o dan reoliad 167(2); a

(b)     os oedd ymarferydd meddygol cymwysedig a benodwyd gan P yn bresennol mewn unrhyw gyfweliad o’r fath, unrhyw ffioedd a threuliau a dalwyd yn rhesymol gan P mewn cysylltiad â phresenoldeb o’r fath.

(6) At ddibenion paragraffau (2) a (4) rhaid i unrhyw gwestiwn sy’n codi ynglŷn ag a yw penderfyniad y bwrdd o blaid y rheolwr cynllun neu P gael ei benderfynu gan y bwrdd neu, yn niffyg hynny, gan Weinidogion Cymru.

Hysbysiadau etc.

172. Oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid trin unrhyw hysbysiad, gwybodaeth neu ddogfen y mae hawl gan apelydd (P) i’w gael neu i’w chael at unrhyw ddiben yn rheoliadau 164 (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol) i 171 (treuliau pob un o’r partïon), fel pe bai P wedi cael y cyfryw eitem os postiwyd hi mewn llythyr a oedd wedi ei gyfeirio at P ym man preswylio hysbys olaf P.

PENNOD 3

Apelau ar faterion eraill

Apelau ar faterion eraill

173. Os—

(a)     yw aelod (P) yn anghytuno â phenderfyniad rheolwr cynllun o dan reoliad 161 (penderfyniadau gan y rheolwr cynllun); a

(b)     nad yw’r anghytundeb yn ymwneud â mater o natur feddygol,

caiff P, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun o fewn 28 diwrnod ar ôl cael y penderfyniad, ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn ymdrin â’r anghytundeb o dan drefniadau a gyflawnwyd ganddo yn unol â gofynion adran 50 o Ddeddf Pensiynau 1995([70]) (gofyniad bod trefniadau i ddatrys anghydfodau) a Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gweithdrefnau Mewnol i Ddatrys Anghydfodau, Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2008([71]).

RHAN 13

Atodol

PENNOD 1

Talu pensiynau

Talu addasiad mynegai ymddeol yn hwyr

174. Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol talu unrhyw ran o bensiwn sy’n briodoladwy i addasiad mynegai ymddeol cyn diwedd y flwyddyn gynllun actif olaf.

Adennill gordaliad o fuddion

175.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol y pennir gostyngiad canran ar ei chyfer mewn gorchymyn a wneir o dan adran 9 o Ddeddf 2013([72]).

(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun adennill unrhyw ordaliad o fuddion a ddigwyddodd o ganlyniad i gymhwyso’r addasiad mynegai ymddeol ar gyfer y flwyddyn honno.

(3) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu’r aelod mewn ysgrifen yr adenillir y gordaliad drwy leihau swm pob rhandaliad o bensiwn hyd nes bo swm y gordaliad wedi ei adennill, neu drwy hepgor talu unrhyw gynnydd yn swm unrhyw bensiwn sy’n ddyladwy hyd nes bo swm y gordaliad wedi ei adennill.

Lleiafswm pensiwn gwarantedig

176.(1)(1) Os oes gan aelod leiafswm gwarantedig mewn perthynas â buddion o dan y cynllun hwn—

(a)     nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n caniatáu nac yn ei gwneud yn ofynnol unrhyw beth a fyddai’n peri nad yw gofynion a wnaed gan neu o dan DCauP 1993, mewn perthynas ag aelod o’r fath a hawliau aelod o’r fath o dan y cynllun hwn, yn cael eu bodloni yn achos yr aelod;

(b)     nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n rhwystro unrhyw beth rhag cael ei wneud, sy’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion bodloni gofynion o’r fath yn achos yr aelod; ac

(c)     mae’r darpariaethau canlynol yn ddarostyngedig i gyffredinolrwydd y paragraff hwn.

(2) Os, oni bai am y rheoliad hwn—

(a)     na fyddai pensiwn yn daladwy i’r aelod o dan y cynllun hwn; neu

(b)     byddai cyfradd wythnosol y pensiynau sy’n daladwy yn llai na’r lleiafswm gwarantedig,

bydd pensiwn ar gyfradd wythnosol sy’n hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy i’r aelod am ei oes o’r dyddiad pan fo’r aelod yn cyrraedd oedran LlPG neu, yn ôl fel y digwydd, bydd pensiynau sydd â’u cyfradd wythnosol gyfanredol yn hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy felly.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—

(a)     os yw’r aelod, pan fo’n cyrraedd oedran LlPG yn dal i barhau mewn cyflogaeth (pa un ai yn gyflogaeth gynllun ai peidio); a

(b)     pan nad yw’r gyflogaeth yn gyflogaeth gynllun, os yw’r aelod yn cydsynio i ohirio hawlogaeth yr aelod o dan baragraff (2),

nid yw paragraff (2) yn gymwys hyd nes bo’r aelod yn gadael cyflogaeth.

(4) Os yw’r aelod yn parhau mewn cyflogaeth am gyfnod pellach o bum mlynedd ar ôl cyrraedd oedran LlPG ac nad yw’n gadael cyflogaeth bryd hynny, bydd gan yr aelod, o ddiwedd y cyfnod hwnnw ymlaen, yr hawl i gael cymaint o bensiwn yr aelod o dan Ran 5 (buddion ymddeol) a Rhan 7 (buddion ar gyfer aelodau â chredyd pensiwn) ag sy’n hafal i leiafswm gwarantedig yr aelod (neu, yn ôl fel y digwydd, cymaint o bensiynau’r aelod o dan Ran 5 a Rhan 7 ag sydd, ar y cyd, â chyfradd wythnosol sy’n hafal i leiafswm gwarantedig yr aelod), oni fydd yr aelod yn cydsynio i ohiriad pellach o’r hawlogaeth.

(5) Yn yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer ym mharagraff (3) neu (4), cynyddir swm y lleiafswm gwarantedig y mae hawl gan yr aelod i’w gael o dan y rheoliad hwn yn unol ag adran 15 (cynyddu lleiafswm gwarantedig pan fo cychwyn lleiafswm pensiwn gwarantedig wedi ei ohirio) o DCauP 1993.

(6) Os—

(a)     yw’r aelod, cyn cyrraedd 65 mlwydd oed, yn cael yr hawl i daliad o bensiwn ar unwaith; a

(b)     bod lleiafswm gwarantedig gan yr aelod hwnnw mewn perthynas â’r cyfan neu ran o bensiwn, o ganlyniad i’r cynllun hwn dderbyn taliad trosglwyddo oddi wrth gynllun pensiwn arall yr oedd gan yr aelod leiafswm gwarantedig o’r fath mewn cysylltiad ag ef,

rhaid i gyfradd wythnosol y pensiwn, i’r graddau y mae’n briodoladwy i’r gwasanaeth hwnnw, beidio â bod yn llai na’r lleiafswm gwarantedig, wedi ei luosi â pha bynnag ffactor a ddynodir mewn tablau a gynhwysir mewn canllawiau actiwaraidd ar gyfer person o’r un oedran a rhyw â’r aelod ar y dyddiad pan ddaw’r pensiwn yn daladwy.

(7) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw person wedi peidio â bod mewn cyflogaeth sy’n gyflogaeth a gontractiwyd allan o fewn ystyr Rhan 3 o DCauP 1993 (ardystio cynlluniau pensiwn ac effeithiau ar hawliau a dyletswyddau aelodau o dan gynllun y wladwriaeth) drwy gyfeirio at y cynllun hwn, a naill ai—

(a)     taliad trosglwyddo wedi ei wneud mewn cysylltiad â holl hawliau’r person i gael buddion o dan y cynllun hwn, ac eithrio hawliau’r person mewn cysylltiad â’i leiafswm gwarantedig neu ei hawliau o dan adran 9(2B)(gofynion ar gyfer ardystio cynlluniau: cyffredinol) o DCauP 1993([73]) (“hawliau’r person o ran contractio allan”); neu

(b)     nad oes gan y person hawliau i gael buddion o dan y cynllun hwn ac eithrio hawliau’r person o ran contractio allan.

(8) Os yw paragraff (7) yn gymwys—

(a)     o’r dyddiad y mae’r person yn cyrraedd oedran LlPG, mae hawl gan y person i gael pensiwn sy’n daladwy am ei oes ar gyfradd wythnosol sy’n hafal i leiafswm gwarantedig y person, os oes un; a

(b)     o’r dyddiad y mae’r person yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn mae hawl gan y person i gael cyfandaliad a phensiwn mewn cysylltiad â hawliau’r person hwnnw o dan adran 9(2B) o DCauP 1993,

ond nid yw person sy’n dod o fewn paragraff (7) i’w ystyried yn aelod-bensiynwr at ddibenion Rhan 6 (buddion marwolaeth).

(9) Nid yw paragraffau (2) i (8) yn gymwys i bensiwn—

(a)     sydd wedi ei fforffedu—

                           (i)    o ganlyniad i gollfarn am frad, neu

                         (ii)    mewn achos pan fo’r drosedd berthnasol o dan reoliad 181 (fforffedu: troseddau a gyflawnir gan aelodau, partneriaid sy’n goroesi neu blant cymwys) yn dod o fewn paragraff (b) o’r diffiniad, yn y rheoliad hwnnw, o “trosedd berthnasol” (troseddau o dan y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol);

(b)     pan fo’r pensiwn hwnnw wedi ei gymudo o dan reoliad 177 (cymudo pensiynau bach), a phan fo’r amodau yn rheoliad 60 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996([74]) wedi eu bodloni,

ac os oes unrhyw ddarpariaeth arall o’r cynllun hwn yn anghyson â’r rheoliad hwn, y rheoliad hwn sy’n drech.

(10) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at swm pensiwn yn gyfeiriadau at ei swm ar ôl didynnu swm y cymudiad, os oes un (ond cyn didynnu swm y dyraniad, os oes un).

Cymudo pensiynau bach

177.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os nad yw hawlogaeth pensiwn aelod o’r cynllun neu hawlogaeth pensiwn buddiolwr aelod yn fwy na’r uchafswm cymudo pensiynau bach.

(2) Onid yw’r aelod wedi cyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig, nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os yw hawlogaeth pensiwn yr aelod neu hawlogaeth pensiwn buddiolwr yr aelod yn hafal i, neu’n fwy na, lleiafswm gwarantedig yr aelod.

(3) Caiff y rheolwr cynllun dalu i’r aelod, i bartner sy’n goroesi neu i blentyn cymwys gyfandaliad o swm sy’n cynrychioli gwerth ariannol y pensiwn a gyfrifir yn unol â chanllawiau actiwaraidd os yw—

(a)     y person yn cydsynio i dderbyn cyfandaliad mewn cysylltiad â’r pensiwn; a

(b)     gofynion y darpariaethau cymudo sy’n gymwys yn yr amgylchiadau wedi eu bodloni.

(4) Mae talu cyfandaliad o dan y rheoliad hwn yn lle pensiwn yn rhyddhau o bob rhwymedigaeth o dan y cynllun hwn mewn cysylltiad â’r pensiwn hwnnw.

(5) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “y darpariaethau cymudo” (“the commutation provisions”) yw’r darpariaethau sy’n caniatáu cymudo pensiynau, a nodir yn—

(a)     rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Aseinio, Fforffedu, Methdalu etc.) 1997([75]),

(b)     paragraff 7 o Atodlen 29 (cyfandaliadau awdurdodedig – atodol) i DC 2004 (sy’n diffinio cyfandaliad cymudo dibwys at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf honno)([76]) ac, mewn perthynas â phensiwn sy’n daladwy o dan Ran 6 (buddion marwolaeth), paragraff 20 o’r Atodlen honno (sy’n diffinio budd marwolaeth cyfandaliad cymudo dibwys at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf honno)([77]), ac

(c)     rheoliad 3 o Reoliadau Rhannu Pensiynau (Budd Credyd Pensiwn) 2000([78]); ac

ystyr “yr uchafswm cymudo pensiynau bach” (“the small pensions commutation maximum”) yw’r swm y caniateir ei gymudo, o ystyried y darpariaethau cymudo sy’n gymwys yn yr amgylchiadau.

Taliadau ar gyfer personau sy’n analluog i reoli eu busnes eu hunain

178. Os yw’n ymddangos i’r rheolwr cynllun fod hawl gan berson ac eithrio plentyn cymwys i gael taliad o fuddion o dan y cynllun hwn, ond bod y person hwnnw, oherwydd anallu meddyliol neu rywfodd arall, yn analluog i reoli ei fusnes ei hunan—

(a)     caiff y rheolwr cynllun dalu’r buddion, neu unrhyw ran ohonynt i berson sy’n gofalu am y person sydd â hawlogaeth, neu i unrhyw berson arall y penderfynir arno gan y rheolwr cynllun, i’w defnyddio er budd y person sydd â hawlogaeth; ac

(b)     i’r graddau nad yw’r rheolwr cynllun yn talu’r buddion yn y modd hwnnw, caiff y rheolwr cynllun ddefnyddio’r buddion mewn modd a benderfynir gan y rheolwr cynllun, er budd y person sydd â hawlogaeth, neu unrhyw fuddiolwyr y person sydd â hawlogaeth.

Taliadau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â phersonau a fu farw

179.(1)(1) Mae paragraff (2) yn gymwys os, ar farwolaeth person, nad yw’r cyfanswm sy’n ddyladwy o dan y cynllun hwn i gynrychiolwyr personol y person hwnnw (gan gynnwys unrhyw beth a oedd yn ddyladwy ar farwolaeth y person hwnnw) yn fwy na’r swm a bennir mewn unrhyw orchymyn sydd mewn grym am y tro o dan adran 6 o Ddeddf Gweinyddu Ystadau (Taliadau Bach) 1965([79]) ac sy’n gymwys mewn perthynas â marwolaeth y person hwnnw.

(2) Caiff rheolwr cynllun dalu’r cyfan neu ran o’r swm dyladwy i—

(a)     cynrychiolwyr personol y person; neu

(b)     unrhyw berson neu bersonau y mae’n ymddangos i’r rheolwr cynllun sydd â hawlogaeth fel buddiolwyr yr ystad,

heb ddangos profiant na llythyrau gweinyddu ystad y person.

Cyfyngiad ar aseinio buddion

180. Mae aseiniad o ddyfarniad o dan y Rheoliadau hyn yn ddi-rym i’r graddau y’i gwneir er budd person ac eithrio dibynnydd y person sydd â hawl i gael y dyfarniad.

PENNOD 2

Fforffedu

Fforffedu: troseddau a gyflawnir gan aelodau, partneriaid sy’n goroesi neu blant cymwys

181.(1)(1) Os caiff aelod, partner sy’n goroesi neu blentyn cymwys ei gollfarnu am drosedd berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod a ystyria’n briodol, gadw’n ôl bensiynau sy’n daladwy o dan y cynllun hwn i—

(a)     yr aelod;

(b)     unrhyw berson mewn cysylltiad â’r aelod;

(c)     partner sy’n goroesi; neu

(d)     plentyn cymwys.

(2) Os yw pensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys o dan Ran 6 (buddion marwolaeth) i gael ei gadw’n ôl o dan baragraff (1), o ganlyniad i drosedd berthnasol sy’n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b) o’r diffiniad o’r ymadrodd hwnnw ym mharagraff (5), rhaid i’r drosedd fod wedi ei chyflawni ar ôl y farwolaeth a oedd yn peri bod y person yn cael yr hawl i bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys, yn ôl fel y digwydd.

(3) Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan honno o bensiwn person sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan y person i’w gael o dan—

(a)     adran 14 o DCauP 1993 (lleiafswm gwarantedig enillydd); neu

(b)     adran 17 (lleiafswm pensiynau ar gyfer gwragedd a gwŷr gweddw)([80]) o’r Ddeddf honno.

(4) Caiff y rheolwr cynllun, ar unrhyw adeg ac i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod a ystyria’n briodol—

(a)     defnyddio er budd unrhyw ddibynnydd yr aelod; neu

(b)     adfer i’r aelod,

gymaint o unrhyw bensiwn ag a gadwyd yn ôl o dan y rheoliad hwn.

(5) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—

(a)     trosedd o frad,

(b)     trosedd o dan y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 i 1989([81]) y dedfrydwyd yr aelod amdani ar yr un achlysur—

                           (i)    i gyfnod o garchar am o leiaf 10 mlynedd, neu

                         (ii)    i ddau neu ragor o gyfnodau olynol o garchar sydd â’u hyd cyfanredol yn 10 mlynedd o leiaf, neu

(c)     trosedd—

                           (i)    a gyflawnwyd mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun yr aelod; a

                         (ii)    y dyroddwyd tystysgrif fforffedu mewn cysylltiad â hi gan Weinidogion Cymru;

ystyr “tystysgrif fforffedu” (“forfeiture certificate”) yw tystysgrif sy’n datgan bod Gweinidogion Cymru o’r farn bod y drosedd—

(a)     wedi peri niwed difrifol i fuddiannau’r Wladwriaeth, neu

(b)     yn debygol o arwain at golled hyder ddifrifol yn y gwasanaeth cyhoeddus.

Fforffedu pensiynau: troseddau a gyflawnir gan bersonau eraill

182.(1)(1) Os collfernir person (“P”) o lofruddiaeth aelod, rhaid i’r rheolwr cynllun gadw’n ôl y cyfan o unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys a fyddai, fel arall, yn daladwy i P mewn cysylltiad â’r aelod o dan Ran 6 (buddion marwolaeth).

(2) Os collfernir P o drosedd berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau yr ystyria’n briodol, gadw’n ôl unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy i P mewn cysylltiad ag aelod o dan Ran 6 (buddion marwolaeth).

(3) Os yw paragraff (1) yn gymwys, mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) yn gymwys fel pe buasai farw P cyn yr aelod.

(4) O dan baragraff (2), ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan o bensiwn P sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan P i’w gael o dan adran 17 o DCauP 1993([82]).

(5) Os collfernir P o lofruddiaeth aelod a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, mae unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys a gadwyd yn ôl yn daladwy o’r diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw’r aelod, a rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diddymu’r gollfarn, dalu’r ôl-ddyled gronedig o bensiwn.

(6) Os collfernir P o drosedd berthnasol a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, mae unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai wedi ei ddirymu a rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diddymu’r gollfarn, dalu’r ôl-ddyled gronedig o bensiwn o’r diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw’r aelod.

(7) Ni chaiff dim sydd ym mharagraffau (5) neu (6) effeithio ar gymhwyso paragraffau (1) neu (2) os yw’r person y diddymwyd ei gollfarn yn cael ei gollfarnu yn ddiweddarach o lofruddiaeth yr aelod, neu o drosedd berthnasol.

(8) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—

(a)     dynladdiad yr aelod; neu

(b)     unrhyw drosedd arall, ac eithrio llofruddiaeth, y mae lladd yr aelod yn anghyfreithlon yn elfen ynddi.

Fforffedu cyfandaliad budd marwolaeth: troseddau a gyflawnir gan bersonau eraill

183.(1)(1) Os collfernir person o drosedd berthnasol, rhaid i’r rheolwr cynllun gadw’n ôl y cyfan o unrhyw gyfandaliad budd marwolaeth sy’n daladwy i’r person hwnnw mewn cysylltiad ag aelod o dan Bennod 4 o Ran 6 (buddion marwolaeth).

(2) yn y rheoliad hwn, ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—

(a)     llofruddiaeth yr aelod;

(b)     dynladdiad yr aelod; neu

(c)     unrhyw drosedd arall y mae lladd yr aelod yn anghyfreithlon yn elfen ynddi.

(3) Os yw paragraff (1) yn gymwys a’r rheolwr cynllun yn cadw’n ôl yr holl fuddion, mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) yn gymwys fel pe buasai’r person hwnnw farw cyn yr aelod.

(4) Os collfernir person o drosedd berthnasol a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod yr ystyria’n briodol, adfer i’r person hwnnw gymaint o unrhyw fudd ag a gadwyd yn ôl o dan y rheoliad hwn.

(5) Ni chaiff dim sydd ym mharagraff (4) effeithio ar gymhwyso paragraff (1) os yw’r person y diddymwyd ei gollfarn yn cael ei gollfarnu yn ddiweddarach o drosedd berthnasol.

Fforffedu: rhwymedigaethau ariannol perthnasol a cholledion ariannol perthnasol

184.(1)(1) Os oes gan aelod (P) rwymedigaeth ariannol berthnasol neu os yw wedi achosi colled ariannol berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod yr ystyria’n briodol, gadw’n ôl buddion sy’n daladwy i P o dan y cynllun hwn.

(2) Caiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl fuddion i’r graddau yr ystyria’r rheolwr cynllun yn briodol, ond ni chaiff gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan honno o bensiwn P sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan P i’w gael o dan adran 14 o DCauP 1993.

(3) Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)     swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol; a

(b)     gwerth hawlogaeth P i gael buddion.

(4) Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw buddion yn ôl ac eithrio—

(a)     os oes anghytundeb ynglŷn â swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol; neu

(b)     os yw’r rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol yn orfodadwy fel a ganlyn—

                           (i)    o dan orchymyn gan lys cymwys, neu

                         (ii)    o ganlyniad i ddyfarniad gan gymrodeddwr.

(5) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “colled ariannol berthnasol” (“relevant monetary loss”) yw colled ariannol—

(a)     a achoswyd i’r cynllun hwn, a

(b)     a oedd yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P; ac

ystyr “rhwymedigaeth ariannol berthnasol” (“relevant monetary obligation”) yw rhwymedigaeth ariannol—

(a)     a achoswyd i gyflogwr P,

(b)     a achoswyd wedi i P ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn,

(c)     a oedd yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P, a

(d)     a oedd yn tarddu o, neu’n gysylltiedig â gwasanaeth yn y gyflogaeth gynllun y mae P yn aelod o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â hi.

Gwrthgyfrif

185.(1)(1) Caiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth aelod i gael buddion o dan y cynllun hwn.

(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhwymedigaeth ariannol berthnasol” (“relevant monetary obligation”) yw rhwymedigaeth ariannol sy’n ddyledus gan aelod (P) ac sy’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (3), (4) neu (5).

(3) Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—

(a)     wedi ei hachosi i gyflogwr P;

(b)     wedi ei hachosi ar ôl i P ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn;

(c)     yn tarddu o, neu’n gysylltiedig â’r gyflogaeth gynllun y mae P yn aelod o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â hi; a

(d)     yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.

(4) Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—

(a)     wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a

(b)     yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.

(5) Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—

(a)     wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a

(b)     yn tarddu o daliad a wnaed i P mewn camgymeriad gan y rheolwr cynllun.

(6) Mae paragraff (7) yn gymwys os bwriedir gweithredu gwrthgyfrif o ganlyniad i rwymedigaeth ariannol berthnasol sy’n ddyledus gan P ac yn bodloni’r amodau ym mharagraff (3).

(7) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif yn erbyn y rhan honno o hawlogaeth P i gael buddion sy’n cynrychioli credydau trosglwyddo, yn yr ystyr a roddir i “transfer credits” yn adran 124(1) (dehongli Rhan 1) o Ddeddf Pensiynau 1995([83]), ac eithrio credydau trosglwyddo rhagnodedig at ddibenion adran 91(5)(d) (eithrio o anaralladwyedd pensiynau galwedigaethol) o’r Ddeddf honno([84]).

(8) Ni chaiff y rheolwr cynllun weithredu gwrth gyfrif ac eithrio yn erbyn y rhan honno o bensiwn aelod sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan yr aelod hwnnw i’w gael o dan adran 14 o DCauP 1993.

(9) Ni chaiff gwerth y gwrthgyfrif a weithredir fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)     swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; a

(b)     gwerth hawlogaeth P i gael buddion.

(10) Ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth P i gael buddion ac eithrio—

(a)     pan nad oes anghytundeb ynglŷn â swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; neu

(b)     pan fo’r rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn orfodadwy fel a ganlyn—

                           (i)    o dan orchymyn llys cymwys, neu

                         (ii)    o ganlyniad i ddyfarniad gan gymrodeddwr.

Fforffedu a gwrthgyfrif: gweithdrefn

186.(1)(1) Os yw’r rheolwr cynllun yn bwriadu cadw buddion yn ôl neu weithredu gwrthgyfrif yn erbyn hawlogaeth person i gael buddion, rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu’r person o’i fwriad mewn ysgrifen.

(2) Os yw’r rheolwr cynllun yn cadw buddion yn ôl o dan reoliad 184 (fforffedu: rhwymedigaethau ariannol perthnasol a cholledion ariannol perthnasol) neu’n gweithredu gwrthgyfrif yn erbyn hawlogaeth i gael buddion o dan reoliad 185 (gwrthgyfrif), rhaid i’r rheolwr cynllun roi i’r aelod dystysgrif sy’n dangos—

(a)     y swm a gedwir yn ôl neu a wrthgyfrifir; a

(b)     effaith y cadw’n ôl neu’r gwrthgyfrif ar fuddion yr aelod, partner sy’n goroesi neu blentyn cymwys o dan y cynllun hwn.

PENNOD 3

Talu a didynnu treth

Gweinyddwr cynllun at ddibenion Deddf Cyllid 2004

187. Penodir y rheolwr cynllun i fod yn gyfrifol am yr holl rwymedigaethau a chyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â’r swyddogaethau a roddir i, neu a osodir ar, y gweinyddwr cynllun gan neu o dan Ran 4 o DC 2004, ac yr ymgymerir â hwy gan y rheolwr cynllun fel gweinyddwr is-gynllun o dan reoliad 3 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Cofrestredig (Hollti Cynlluniau) 2006 ac Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny([85]).

Talu’r tâl lwfans oes ar ran aelodau

188.(1)(1) Caiff aelod ofyn i weinyddwr y cynllun dalu, ar ran yr aelod, unrhyw swm sy’n daladwy fel tâl lwfans oes o dan adran 214 o DC 2004 pan fo—

(a)     digwyddiad sy’n ddigwyddiad crisialu budd a restrir yn y tabl yn adran 216(1) o DC 2004 yn digwydd mewn perthynas â’r aelod; a

(b)     yr aelod a’r rheolwr cynllun yn atebol ar y cyd ac yn unigol mewn perthynas â’r digwyddiad hwnnw.

(2) Ni chaniateir gwneud cais o’r fath ac eithrio drwy hysbysiad i’r gweinyddwr cynllun ymlaen llaw cyn y digwyddiad.

(3) Ni chaiff y rheolwr cynllun gydymffurfio â chais o’r fath onid yw’r aelod—

(a)     yn talu’r swm sydd dan sylw iddo ar neu cyn dyddiad y digwyddiad; neu

(b)     yn awdurdodi didynnu’r swm sydd dan sylw allan o gyfandaliad sy’n dod yn daladwy i’r aelod o dan y cynllun hwn yr un pryd â’r digwyddiad.

Lleihau buddion pan fo tâl lwfans oes yn daladwy

189.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)     os yw’r digwyddiad sy’n ddigwyddiad crisialu budd a restrir yn y tabl yn adran 216(1) o DC 2004 (“y tabl”) yn digwydd mewn perthynas ag aelod([86]);

(b)     os yw’r aelod a’r rheolwr cynllun yn atebol ar y cyd ac yn unigol mewn perthynas â’r digwyddiad hwnnw; ac

(c)     os na wnaed cais yn briodol o dan reoliad 188 (talu’r tâl lwfans oes ar ran aelodau) mewn perthynas â’r digwyddiad neu, os gwnaed cais o’r fath, rhwystrwyd y rheolwr cynllun rhag cydymffurfio â’r cais hwnnw gan baragraff (3) o’r rheoliad hwnnw.

(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)     rhaid i’r rheolwr cynllun dalu’r dreth sy’n daladwy ar y digwyddiad;

(b)     os y digwyddiad yw digwyddiad crisialu budd rhif 8 yn y tabl (trosglwyddo i gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys), rhaid lleihau swm neu werth y symiau neu asedau a drosglwyddir; ac

(c)     yn achos unrhyw ddigwyddiad arall yn y tabl hwnnw, rhaid lleihau swm neu werth y buddion sy’n daladwy i’r aelod neu mewn cysylltiad â’r aelod.

(3) Rhaid i swm neu werth y lleihad—

(a)     adlewyrchu swm cyflawn y dreth a dalwyd felly; a

(b)     yn achos unrhyw ostyngiad mewn buddion pensiwn, cael ei gyfrifo yn unol â chanllawiau actiwaraidd.

Gwybodaeth ynghylch talu tâl lwfans oes

190.(1)(1) Os yw swm mewnbwn cynllun pensiwn aelod ar gyfer y cynllun hwn am gyfnod mewnbwn pensiwn yn fwy na swm y lwfans blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth y mae’r cyfnod mewnbwn pensiwn hwnnw yn diweddu ynddi, mae paragraff (2) yn gymwys mewn cysylltiad â’r aelod ar gyfer y flwyddyn dreth honno.

(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun, ddim hwyrach na 6 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, ddarparu i’r aelod y cyfryw wybodaeth a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun i gynorthwyo’r aelod i drefnu taliad o’r tâl lwfans blynyddol am y flwyddyn dreth honno, ynghyd â’r wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 14A o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn (Darparu Gwybodaeth) 2006([87]).

(3) Yn y rheoliad hwn—

mae i “cyfnod mewnbwn pensiwn” (“pension input period”) yr ystyr a roddir yn adran 238 (cyfnod mewnbwn pensiwn) o DC 2004([88]);

mae i “swm mewnbwn cynllun pensiwn” (“pension scheme input amount”) yr ystyr a roddir yn adran 237B(2) (atebolrwydd gweinyddwr cynllun) o DC 2004([89]).

Lleihau buddion pan fo tâl lwfans oes wedi ei dalu gan reolwr cynllun

191.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—

(a)     aelod wedi rhoi hysbysiad dilys i’r rheolwr cynllun o’u hatebolrwydd ar y cyd ac yn unigol am dâl lwfans blynyddol o dan adran 237B(3) o DC 2004; a

(b)     y rheolwr cynllun yn bodloni’r atebolrwydd a bennir yn yr hysbysiad.

(2) Rhaid i reolwr cynllun leihau swm neu werth y buddion sy’n daladwy i’r aelod, neu mewn cysylltiad â’r aelod, ar gyfer y flwyddyn dreth y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi, yn unol â pharagraff (3).

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i swm neu werth y gostyngiad mewn buddion—

(a)     adlewyrchu’r swm cyflawn a dalwyd gan y rheolwr cynllun; a

(b)     cael ei benderfynu yn unol â chanllawiau actiwaraidd.

(4) Ni chaniateir lleihau buddion o dan y rheoliad hwn ac eithrio i’r graddau na fyddai’r lleihad yn peri colli unrhyw ran o leiafswm pensiwn gwarantedig y mae hawl gan y person i’w gael.

PENNOD 4

Cyffredinol

Cyfrifo cyfnodau o aelodaeth a gwasanaeth

192.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), at ddibenion y cynllun hwn rhaid mynegi cyfnodau o aelodaeth a gwasanaeth yn gyntaf oll mewn blynyddoedd cyfan a diwrnodau neu ffracsiynau o ddiwrnod, a rhaid cydgrynhoi’r cyfnodau ar y dechrau y mae’n ofynnol eu cydgrynhoi drwy gyfeirio at gyfnodau a fynegir felly.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ar ôl cydgrynhoi yr holl gyfnodau o aelodaeth neu o wasanaeth y mae’n ofynnol eu cydgrynhoi, os oes rhan o ddiwrnod dros ben y nifer o ddiwrnodau llawn, rhaid talgrynnu’r rhan dros ben honno i fyny, i wneud diwrnod llawn.

(3) Os cyfeirir at aelodaeth neu wasanaeth yn y Rheoliadau hyn fel aelodaeth neu wasanaeth mewn blynyddoedd, rhaid trosi’r canlynol yn flynyddoedd—

(a)     y diwrnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), a

(b)     y diwrnodau llawn y cyfeirir atynt ym mharagraff (2),

drwy rannu nifer y diwrnodau sydd dros ben y cyfnod o flynyddoedd llawn gyda 365, a defnyddio’r canlyniad i bedwar lle degol.

(4) Os yw cyfnod o aelodaeth neu wasanaeth yn llai nag un flwyddyn, mae’r rheoliad hwn yn gymwys fel pe bai’r geiriau “blynyddoedd cyfan a” wedi eu hepgor o baragraff (1) a’r geiriau “sydd dros ben y cyfnod o flynyddoedd llawn” wedi eu hepgor o baragraff (3).

Datganiadau blynyddol o wybodaeth am fuddion

193.(1)(1) Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu datganiad blynyddol o wybodaeth am fuddion i bob un o’i aelodau nad ydynt yn aelod-bensiynwyr, mewn cysylltiad â’r cyfrif pensiwn y darperir y datganiad ar ei gyfer.

(2) Rhaid darparu’r datganiadau cyntaf o’r fath ar neu cyn 31 Awst 2016.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid darparu datganiadau dilynol o leiaf unwaith y flwyddyn ar neu cyn 31 Awst ym mhob blwyddyn ddilynol.

(4) Os digwydd i aelod wneud cais mewn ysgrifen am ddarparu datganiad iddo ar ôl diwedd blwyddyn gynllun, ond cyn 31 Awst yn y flwyddyn gynllun ddilynol, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu datganiad blynyddol o wybodaeth am fuddion yn unol â chais yr aelod cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ac eithrio pan nad yw’r data perthnasol ar gael i’w alluogi i wneud hynny.

(5) Rhaid i’r datganiad a ddarperir i aelodau actif o’r cynllun hwn fod yn unol ag adran 14 o Ddeddf 2013 (gwybodaeth am fuddion).

Tystiolaeth o hawlogaeth

194.(1)(1) Caiff rheolwr cynllun, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy’n cael pensiwn, neu a allai fod â hawlogaeth i gael pensiwn neu gyfandaliad o dan y cynllun hwn, yn darparu pa bynnag dystiolaeth ategol y gofynnir amdani’n rhesymol gan y rheolwr cynllun er mwyn cadarnhau—

(a)     enw’r person hwnnw; a

(b)     hawl y person hwnnw, sy’n parhau neu yn y dyfodol i gael taliad o unrhyw swm o dan y cynllun hwn.

(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) bennu erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth.

(3) Pan fo person yn methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (1), caiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl y cyfan neu ran o unrhyw swm y byddai’r rheolwr cynllun, fel arall, yn ei ystyried yn daladwy o dan y cynllun hwn.

Gwybodaeth sydd i’w darparu i aelod cyn absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn

195. Rhaid i’r rheolwr cynllun roi i aelod sydd ar fin cychwyn cyfnod o absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn ddatganiad sy’n nodi—

(a)     tâl pensiynadwy tybiedig yr aelod hwnnw tra bo ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn;

(b)     y gyfradd cyfraniadau aelod a fydd yn gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw;

(c)     manylion unrhyw daliadau sydd i’w talu gan y cyflogwr i’r aelod tra bo ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn; a

(d)     y cyfraniad cyflogwr a fydd yn gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw.

Darpariaethau trosiannol

196. Mae Atodlen 2 yn cael effaith.

Dyletswydd i roi sylw i ganllawiau

197. Rhaid i reolwr cynllun roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rhan hon.

 

 

Leighton Andrews

 

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

9 Mawrth 2015


YR ATODLENNI

                    ATODLEN 1     Rheoliad 124

Taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol

RHAN 1

Dehongli

Dehongli

1. Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cyfnod o wasanaeth” (“period of service”) mewn perthynas â’r cynllun hwn, yw cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn;

ystyr “cyfnod tâl priodol” (“appropriate pay period”) yw’r cyfnod tâl a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun;

ystyr “cyfnod taliadau cyfnodol” (“periodical payment period”) yw’r cyfnod y mae taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol yn daladwy ar ei gyfer;

ystyr “y diwrnod perthnasol” (“the relevant day”) yw’r diwrnod pan fo’r rheolwr cynllun yn cael y cyfandaliad;

ystyr “y flwyddyn gynllun berthnasol” (“the relevant scheme year”) yw’r flwyddyn gynllun y mae’r diwrnod perthnasol yn digwydd ynddi;

mae i “hysbysiad o ddewisiad” (“notice of election”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 5;

ystyr “swm o bensiwn ychwanegol” (“amount of extra pension”) yw swm y pensiwn ychwanegol cronedig ar unrhyw adeg;

mae i “terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol” (“overall limit of extra pension”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2.

Ystyr “terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol”

2.(1)(1) Y terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol yw—

(a)     £6,500 ar gyfer unrhyw flwyddyn gynllun sy’n dod i ben cyn 1 Ebrill 2016; a

(b)     ar gyfer unrhyw flwyddyn gynllun sy’n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2016—

                           (i)    y terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol a benderfynir gan y Trysorlys mewn cysylltiad â’r flwyddyn gynllun honno fel y’i cyhoeddwyd cyn dechrau’r flwyddyn gynllun honno, neu

                         (ii)    os na wnaed penderfyniad o’r fath, y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (2).

(2) Y swm yw’r swm y byddai’r gyfradd flynyddol o bensiwn sy’n hafal i’r terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gynllun flaenorol wedi ei gynyddu o dan DPC 1971 pe bai—

(a)     y pensiwn hwnnw yn gymwys i’w gynyddu felly; a

(b)     diwrnod cyntaf y flwyddyn gynllun flaenorol yn ddyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw.

Cyfyngiad ar ddewisiadau

3. Ni chaiff aelod actif arfer dewisiad pensiwn ychwanegol os byddai swm y pensiwn ychwanegol yn mynd dros ben y terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol pe gwneid y dewisiad hwnnw.

Ni chaiff swm y pensiwn ychwanegol cronedig fod yn fwy na’r terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol

4.(1)(1) Ar unrhyw un adeg, ni chaiff cyfanswm y pensiwn ychwanegol cronedig yng nghyfrif pensiwn ychwanegol aelod fod yn fwy na’r terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol.

(2) Os gwnaed dewisiad gan yr aelod i wneud taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol, caiff y rheolwr cynllun, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod, ddiddymu’r dewisiad hwnnw os yw’n ymddangos i’r rheolwr cynllun yr eir dros ben y terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol os bydd yr aelod yn parhau i wneud y taliadau cyfnodol.

(3) Os yw’r rheolwr cynllun yn diddymu’r dewisiad, bydd y taliadau cyfnodol yn peidio â bod yn daladwy o’r cyfnod tâl nesaf sy’n dechrau ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad diddymu.

RHAN 2

PENNOD 1

Arfer y dewisiad pensiwn ychwanegol

Dewisiad pensiwn ychwanegol sy’n arferadwy gan yr aelod

5.(1)(1) Caiff aelod actif o’r cynllun hwn wneud dewisiad i wneud taliadau pensiwn ychwanegol i’r cynllun hwn er mwyn cynyddu buddion ymddeol a buddion marwolaeth yr aelod.

(2) Caiff aelod wneud y dewisiad pensiwn ychwanegol drwy roi hysbysiad i’r rheolwr cynllun ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun.

(3) Yn yr Atodlen hon, cyfeirir at yr hysbysiad a roddir yn is-baragraff (2) fel yr hysbysiad o ddewisiad.

(4) Rhaid i’r hysbysiad o ddewisiad ddatgan—

(a)     a yw’r taliadau pensiwn ychwanegol i gael eu gwneud drwy—

                           (i)    taliadau cyfnodol, neu

                         (ii)    cyfandaliad;

(b)     a oes gan yr aelod gyfrif pensiwn ychwanegol ai peidio gyda chyflogwr arall; ac

(c)     a yw’r aelod yn gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun arall, ai peidio.

(5) Ni chaniateir gwneud dewisiad i dalu taliadau pensiwn ychwanegol drwy gyfandaliad oni fydd yr aelod wedi rhoi hysbysiad i’r rheolwr cynllun ddim hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y daeth y person yn gyflogedig ddiwethaf gan y cyflogwr cynllun hwnnw fel diffoddwr tân.

(6) Ni chaniateir gwneud dewisiad i dalu taliadau pensiwn ychwanegol drwy daliadau cyfnodol oni wneir hynny ddwy flynedd o leiaf cyn i’r aelod gyrraedd oedran pensiwn arferol, ac ni chaniateir gwneud dewisiad o’r fath unwaith y bydd y rheolwr cynllun wedi cytuno y bydd yr aelod yn gadael y gyflogaeth gynllun gyda hawlogaeth i bensiwn neu ddyfarniad afiechyd.

PENNOD 2

Taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol

Cymhwyso’r Bennod

6. Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag aelod actif o’r cynllun hwn sy’n gwneud dewisiad i wneud taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol.

Dewisiad aelod i wneud taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol

7.(1)(1) Rhaid i’r hysbysiad o ddewisiad bennu—

(a)     y cyfnod taliadau cyfnodol; a

(b)     swm y taliad cyfnodol sydd i’w ddidynnu gan gyflogwr yr aelod allan o dâl pensiynadwy yr aelod ym mhob cyfnod tâl.

(2) Caniateir mynegi swm y taliad cyfnodol fel—

(a)     canran o dâl pensiynadwy yr aelod; neu

(b)     swm sefydlog.

(3) Ni chaiff swm y taliad cyfnodol fod yn llai nag unrhyw leiafswm a benderfynir gan y rheolwr cynllun.

Taliadau cyfnodol

8.(1)(1) Caiff y taliadau cyfnodol fod yn daladwy drwy ddidynnu o dâl pensiynadwy yr aelod gan ei gyflogwr yn ystod y cyfnod taliadau cyfnodol.

(2) Mae’r cyfnod taliadau cyfnodol—

(a)     yn cychwyn gyda’r cyfnod tâl priodol cyntaf sy’n cychwyn ar neu ar ôl y dyddiad pan fo’r rheolwr cynllun yn cael yr hysbysiad o ddewisiad; a

(b)     yn diweddu ar y cynharaf o’r canlynol—

                           (i)    dyddiad dechrau’r cyfnod tâl priodol nesaf os yw’r aelod yn rhoi’r hysbysiad terfynu o dan baragraff 9,

                         (ii)    dyddiad dechrau’r cyfnod tâl nesaf ar ôl y dyddiad a bennir mewn hysbysiad diddymu a roddir gan y rheolwr cynllun o dan baragraff 4(2),

                       (iii)    y dyddiad y mae’r aelod yn peidio â bod yn aelod actif, a

                        (iv)    y dyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad o ddewisiad.

(3) Os nad yw’r aelod yn dymuno i’r taliadau cyfnodol gael eu gwneud drwy ddidynnu o’r tâl pensiynadwy, caiff y rheolwr cynllun gytuno ar ddull arall o dalu.

Terfynu taliadau cyfnodol

9. Os yw’r aelod yn dymuno terfynu’r taliadau cyfnodol, rhaid i’r aelod roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun.

Taliadau cyfnodol yn ystod cyfnodau o dâl pensiynadwy tybiedig

10.(1)(1) Mae’r taliadau cyfnodol yn daladwy drwy ddidynnu o dâl pensiynadwy yr aelod yn ystod y cyfnod taliadau cyfnodol, a thra bo’r aelod yn cael ei drin fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, tâl gostyngedig neu ddim tâl, caiff yr aelod—

(a)     atal y taliadau cyfnodol; neu

(b)     parhau i wneud y taliadau cyfnodol fel pe bai’r aelod yn cael tâl pensiynadwy ar y gyfradd lawn.

(2) Yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r aelod yn cael tâl mamolaeth statudol neu ar absenoldeb mamolaeth arferol gyda thâl, absenoldeb mabwysiadu arferol gyda thâl neu absenoldeb tadolaeth gyda thâl, caiff yr aelod—

(a)     atal y taliadau cyfnodol; neu

(b)     talu taliadau cyfnodol o swm a benderfynir drwy gyfeirio at dâl gwirioneddol yr aelod yn ystod y cyfnod hwnnw.

(3) Os yw aelod yn atal y taliadau cyfnodol yn ystod cyfnod o dâl pensiynadwy tybiedig neu gyfnod o dâl gostyngedig, caiff yr aelod ddewis ailddechrau gwneud taliadau cyfnodol yn y cyfnod tâl nesaf, wedi i’r cyfnod o dâl pensiynadwy tybiedig neu gyfnod o dâl gostyngedig ddod i ben.

(4) Ar ôl cyfnod o dâl pensiynadwy tybiedig neu gyfnod o dâl gostyngedig, caiff yr aelod roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun yn awdurdodi’r cyflogwr i ddidynnu’r taliadau cyfanredol y byddid wedi eu gwneud allan o dâl yr aelod yn ystod y cyfnod hwn, yn ystod y cyfnod o chwe mis o ddiwedd y cyfnod o dâl gostyngedig, neu pa bynnag gyfnod hwy a ganiateir gan y rheolwr cynllun.

(5) Rhaid rhoi hysbysiad o dan is-baragraff (4) i’r rheolwr cynllun ddim hwyrach nag un mis ar ôl diwedd y cyfnod o dâl pensiynadwy tybiedig neu dâl gostyngedig.

Swm y pensiwn ychwanegol ar gyfer blwyddyn gynllun

11.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer pob blwyddyn gynllun pa fo aelod yn gwneud taliadau cyfnodol er mwyn cynyddu buddion ymddeol yn ogystal â buddion marwolaeth yr aelod.

(2) Rhaid credydu swm o bensiwn ychwanegol i gyfrif pensiwn ychwanegol yr aelod ar gyfer y flwyddyn gynllun honno.

(3) Y swm a gredydir i’r cyfrif pensiwn ychwanegol yw’r swm a benderfynir gan y rheolwr cynllun drwy gyfeirio at ganllawiau actiwaraidd.

PENNOD 3

Cyfandaliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol

Cymhwyso’r Bennod

12. Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag aelod actif o’r cynllun a wnaeth ddewisiad i wneud cyfandaliad ar gyfer pensiwn ychwanegol.

Dewisiad aelod i wneud cyfandaliad ar gyfer pensiwn ychwanegol

13.(1)(1) Rhaid i’r hysbysiad o ddewisiad bennu swm y cyfandaliad, ac ni chaiff fod yn llai nag unrhyw leiafswm a benderfynir gan y rheolwr cynllun.

(2) Os na thelir y cyfandaliad o fewn tri mis ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o ddewisiad, bydd yr hysbysiad o ddewisiad yn ddi-rym.

Swm y pensiwn ychwanegol sydd i’w gredydu i gyfrif pensiwn ychwanegol

14.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw aelod yn gwneud dewisiad i dalu cyfandaliad er mwyn cynyddu buddion ymddeol a buddion marwolaeth yr aelod.

(2) Ar ôl talu’r cyfandaliad gan yr aelod, rhaid credydu swm o bensiwn ychwanegol i’r cyfrif pensiwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gynllun berthnasol.

(3) Y swm a gredydir i’r cyfrif pensiwn ychwanegol yw’r swm a benderfynir gan y rheolwr cynllun drwy gyfeirio at ganllawiau actiwaraidd.

                    ATODLEN 2     Rheoliad 196

Darpariaethau trosiannol

RHAN 1

Cyffredinol

Dehongli

1. Yn yr Atodlen hon—

ystyr “aelod a ddiogelir” (“protected member”), mewn perthynas â chynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, yw aelod diogelwch llawn neu aelod diogelwch taprog o un o’r cynlluniau hynny;

ystyr “aelod a ddiogelir yn llawn” (“fully protected member”) o gynllun presennol neu o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol yw person y mae eithriad yn gymwys mewn cysylltiad ag ef, sef eithriad y mae adran 18(6) o Ddeddf 2013([90]) (neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 31(4) o’r Ddeddf honno) yn gymwys iddo at ddibenion y cynllun hwnnw;

mae i “aelod actif o Gynllun 1992 neu o CPNDT” (“active member of the 1992 Scheme or the NFPS”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 5;

mae i “aelod actif o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol” (“active member of an existing public body pension scheme”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 7;

mae i “aelod actif o gynllun presennol” (“active member of an existing scheme”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 6;

mae i “aelod diogelwch llawn” (“full protection member”), mewn perthynas â Chynllun 1992 neu CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 9;

mae i “aelod diogelwch taprog” (“tapered protection member”), mewn perthynas â Chynllun 1992 neu CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 15;

ystyr “aelod trosiannol” (“transition member”) yw person—

(a)     sy’n aelod o Gynllun 1992 neu CPNDT yn rhinwedd ei wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw, neu sy’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, cyn y dyddiad trosiant, a

(b)     sy’n aelod o’r cynllun hwn yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy y person o dan y cynllun hwn;

mae i “cyfnod diogelwch” (“protection period”)—

(a)     yn achos aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 10, a

(b)     yn achos aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 16;

mae i “cymwys i fod yn aelod actif o CPNDT” (“eligible to be an active member of the NFPS”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 4;

ystyr “cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol” (“existing public body pension scheme”) yw cynllun pensiwn corff cyhoeddus y mae adran 31 o Ddeddf 2013 yn gymwys iddo;

ystyr “dyddiad cau” (“closing date”)—

(a)     mewn perthynas â chynllun presennol, yw’r dyddiad y cyfeirir ato yn adran 18(4)(a) neu (b) o Ddeddf 2013, yn ôl fel y digwydd,

(b)     mewn perthynas â chynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, yw’r dyddiad a benderfynir o dan adran 31(2) o Ddeddf 2013 gan y corff cyhoeddus sy’n gyfrifol am y cynllun hwnnw, ac

(c)     mewn perthynas ag aelod trosiannol, yw—

                           (i)    os yw’r aelod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu o CPNDT, y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer yr aelod hwnnw, neu

                         (ii)    os nad yw’r aelod yn aelod a ddiogelir o un o’r cynlluniau hynny, dyddiad cau’r cynllun;

mae i “dyddiad cau diogelwch taprog” (“tapered protection closing date”), mewn perthynas ag aelod diogelwch taprog o gynllun presennol, yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;

ystyr “dyddiad cau’r cynllun” (“scheme closing date”) yw 31 Mawrth 2015;

ystyr “dyddiad trosiant” (“transition date”), mewn perthynas ag aelod trosiannol, yw—

(a)     os yw’r aelod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT, y diwrnod ar ôl y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer yr aelod hwnnw, a

(b)     os nad yw’r aelod yn aelod a ddiogelir o Gynllun 1992 neu CPNDT, y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun, neu, os yw’n ddiweddarach, y diwrnod y peidiodd y person â bod yn aelod a ddiogelir o’r cynllun hwnnw;

ystyr “eithriad” (“exception”) yw—

(a)     mewn perthynas â chynllun presennol, eithriad o dan adran 18(5) o Ddeddf 2013 y darperir ar ei gyfer yn y rheoliadau cynllun ar gyfer y cynllun hwnnw,

(b)     mewn perthynas â chynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, eithriad o dan adran 31(4) o Ddeddf 2013 y darperir ar ei gyfer gan yr awdurdod cyhoeddus sy’n gyfrifol am y cynllun hwnnw.

Ystyr “parhad gwasanaeth”

2.(1)(1) Mae gan aelod trosiannol (T) barhad gwasanaeth rhwng gwasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, a gwasanaeth pensiynadwy yn y cynllun hwn, onid oes bwlch yng ngwasanaeth T o fwy na phum mlynedd sy’n—

(a)     dechrau ar neu cyn dyddiad trosiant T; a

(b)     yn diweddu ar y diwrnod y daw T yn aelod actif o’r cynllun hwn.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw T mewn bwlch yn ei wasanaeth tra bo T mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol, cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, cynllun o dan adran 1 o Ddeddf 2013 neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus newydd.

Ystyr “dyddiad cau diogelwch taprog”

3.(1)(1) Y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 yw’r dyddiad a ganfyddir drwy gymhwyso’r dyddiad perthnasol yng ngholofn 3 o’r tabl Cynllun 1992 yn Rhan 4 o’r Atodlen hon, i’r dyddiad geni y cyfeirir ato yng ngholofn 1 a cholofn 2.

(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer aelod diogelwch taprog o CPNDT yw’r dyddiad a ganfyddir drwy gymhwyso’r dyddiad perthnasol yng ngholofn 3 o’r tabl CPNDT yn Rhan 4 o’r Atodlen hon, i’r dyddiad geni y cyfeirir ato yng ngholofn 1 a cholofn 2.

(3) Y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer aelod diogelwch taprog o CPNDT y mae paragraff 9(5) neu 21 yn gymwys iddo yw dyddiad a benderfynir gan y rheolwr cynllun.

Ystyr “cymwys i fod yn aelod actif” o CPNDT

4.(1)(1) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad penodol os, ar y dyddiad hwnnw, nad yw P mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 nac o dan CPNDT, a naill ai—

(a)     bod P mewn gwasanaeth fel diffoddwr tân sy’n rhoi i P yr hawl i fod yn gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT; neu

(b)     bod P mewn bwlch o ddim mwy na phum mlynedd yn ei wasanaeth pensiynadwy.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Ystyr “aelod actif o Gynllun 1992 neu CPNDT”

5.(1)(1) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn aelod actif o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad penodol os yw P, ar y dyddiad hwnnw—

(a)     mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu CPNDT; neu

(b)     mewn bwlch o ddim mwy na phum mlynedd yn ei wasanaeth.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Ystyr “aelod actif o gynllun presennol”

6.(1)(1) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn aelod actif o gynllun presennol([91]) (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) ar ddyddiad penodol os yw P, ar y dyddiad hwnnw—

(a)     mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw; neu

(b)     mewn bwlch o ddim mwy na phum mlynedd yn ei wasanaeth.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl y dyddiad cau ar gyfer y cynllun presennol nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Ystyr “aelod actif o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol”

7.(1)(1) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn aelod actif o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar ddyddiad penodol os yw P, ar y dyddiad hwnnw—

(a)     mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw; neu

(b)     mewn bwlch yn ei wasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl y dyddiad cau ar gyfer y cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol nid yw P mewn bwlch yn ei wasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Cychwyn aelodaeth actif o’r cynllun hwn

8.(1)(1) Mae person sy’n aelod trosiannol pan fo’n dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ac nad oes ganddo barhad gwasanaeth, yn dod yn aelod actif o’r cynllun hwn ar y diwrnod y mae’r person hwnnw’n dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun.

(2) Mae person sy’n aelod trosiannol pan fo’n dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn, a chanddo barhad gwasanaeth (T), yn dod yn aelod actif o’r cynllun hwn—

(a)     os yw T mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun ar y dyddiad trosiant, ar y dyddiad hwnnw; neu

(b)     os nad yw T mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun ar y dyddiad trosiant, ar y diwrnod y mae T yn dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun ar ôl y dyddiad hwnnw.

RHAN 2

Aelodau diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT

Aelodau diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT

9.(1)(1) Mae person (P) y mae unrhyw un o’r paragraffau 12 i 14 yn gymwys yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yn ôl fel y digwydd.

(2) Mae P yn peidio â bod yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yn ôl fel y digwydd, pan fo P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ac yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, onid yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys.

(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)     os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)     os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol hwnnw pe bai P wedi ailgychwyn mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.

(4) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT—

(a)     rhywfodd ac eithrio o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)     ar ôl bwlch mewn gwasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd.

(5) Os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT mewn amgylchiadau pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, mae P yn aelod diogelwch taprog o CPNDT pan fo P yn dychwelyd i’r gwasanaeth hwnnw.

(6) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)     os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)     os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol yn rhinwedd eithriad y mae adran 18(7)(a) a (b) o Ddeddf 2013 (neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 31(4) o’r Ddeddf honno) yn gymwys iddo, pe bai P wedi ailgychwyn mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.

(7) At ddibenion is-baragraff (4)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Eithriad ar gyfer aelod diogelwch llawn yn ystod y cyfnod diogelwch

10.(1)(1) Y cyfnod diogelwch ar gyfer person (P) sy’n aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, yw’r cyfnod sydd—

(a)     yn dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun; a

(b)     yn dod i ben pan fo P yn peidio â bod yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT (onid yw P yn aelod diogelwch taprog yn rhinwedd paragraff 9(5)).

(2) Yn ystod y cyfnod diogelwch—

(a)     mae P yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT, neu os yw P yn aelod actif o Gynllun 1992, yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw;

(b)     nid yw adran 18(1) o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn cysylltiad â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw; ac

(c)     mae buddion i’w darparu o dan Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, i P neu mewn cysylltiad â P mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw.

Nid yw aelod diogelwch llawn yn gymwys i ymuno â’r cynllun hwn

11. Tra bo person (P) yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT, nid yw P yn gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â’r gyflogaeth gynllun honno.

Diogelwch llawn: aelodau o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun

12.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw is-baragraff (2)(2) neu is-baragraff (3) yn gymwys.

(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)     os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun;

(b)     os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar 31 Mawrth 2012; ac

(c)     os yw P—

(i) yn aelod actif o Gynllun 1992 ac y byddai P, oni fydd farw, yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992([92]), ar neu cyn 1 Ebrill 2022; neu

(ii) yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, ac y byddai P, oni fydd farw, yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT([93]), ar neu cyn 1 Ebrill 2022.

(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)     os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(b)     os oedd P yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun; ac

(c)     oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT a chynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Ebrill 2022.

Diogelwch llawn: aelodau o gynllun presennol

13. Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)     os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)     os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)     os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun presennol ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT;

(d)     os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)     oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT a chynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Ebrill 2022.

Diogelwch llawn: aelodau o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol

14. Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)     os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)     os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)     os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol;

(d)     os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)     oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT a chynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Ebrill 2022.

RHAN 3

Eithriadau i adran 18(1) o Ddeddf 2013: aelodau diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT

Aelodau diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT

15.(1)(1) Mae person (P) y mae unrhyw un o’r paragraffau 18 i 21 yn gymwys iddo yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT.

(2) Mae P yn peidio â bod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ba un bynnag o’r diwrnodau canlynol sy’n digwydd gyntaf—

(a)     dyddiad cau diogelwch taprog P; neu

(b)     y diwrnod y mae P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu os yw’n ddiweddarach, yn peidio â bod yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT, onid yw is-baragraff (3) neu is-baragraff (4) yn gymwys.

(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)     os yw P, cyn dyddiad trosiant P, yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)     os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol hwnnw pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.

(4) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os yw P—

(a)     cyn dyddiad trosiant P, yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT rywfodd ac eithrio o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)     yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT ar ôl bwlch mewn gwasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd.

(5) At ddibenion is-baragraff (4)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Eithriad ar gyfer aelodau diogelwch taprog yn ystod y cyfnod diogelwch

16.(1)(1) Y cyfnod diogelwch ar gyfer aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT yw’r cyfnod sydd—

(a)     yn dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun; a

(b)     yn dod i ben pan fo P yn peidio â bod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT.

(2) Yn ystod y cyfnod diogelwch—

(a)     mae P yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT neu, os yw P yn aelod actif o Gynllun 1992, yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw;

(b)     nid yw adran 18(1) o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn cysylltiad â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw; ac

(c)     mae buddion i’w darparu o dan Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, i P neu mewn cysylltiad â P mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw.

Nid yw aelod diogelwch taprog yn gymwys i ymuno â’r cynllun hwn

17. Tra bo person (P) yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT, nid yw P yn gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â’r gyflogaeth gynllun honno.

Diogelwch taprog: aelodau o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun

18.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw is-baragraff (2)(2) neu is-baragraff (3) yn gymwys.

(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)     os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun;

(b)     os oedd P, ar 31 Mawrth 2012, yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT; ac

(c)     os yw P—

(i) yn aelod actif o Gynllun 1992 ac oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992 yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026; neu

(ii) yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, ac oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026.

(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)     os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT), neu o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(b)     os oedd P yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun; ac

(c)     oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—

                           (i)    o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a

                         (ii)    o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.

Diogelwch taprog: aelodau o gynllun presennol

19. Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)     os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)     os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)     os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun presennol ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT;

(d)     os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)     oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—

                           (i)    o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a

                         (ii)    o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.

Diogelwch taprog: aelodau o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol

20. Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)     os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)     os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)     os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol;

(d)     os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)     oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—

                           (i)    o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a

                         (ii)    o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.

Aelodau diogelwch taprog o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol

21. Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)     os byddai paragraff 13 neu 14 o’r Atodlen hon wedi bod yn gymwys oni bai am y ffaith na fyddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, y cyfeirir ato ym mharagraff 13(c) neu 14(c), yn ôl fel y digwydd, (“y cynllun sy’n trosglwyddo”) ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT; a

(b)     os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun sy’n trosglwyddo yn rhinwedd eithriad y mae adran 18(7)(a) a (b) o Ddeddf 2013 (neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 31(4) o’r Ddeddf honno) yn gymwys iddo, pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun sy’n trosglwyddo ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.

RHAN 4

 

Cynllun 1992

 

Dyddiad geni

o

Dyddiad geni i

Dyddiad y daw diogelwch i ben

02/04/1967

01/05/1967

31/03/2022

02/05/1967

01/06/1967

06/02/2022

02/06/1967

01/07/1967

14/12/2021

02/07/1967

01/08/1967

23/10/2021

02/08/1967

01/09/1967

29/08/2021

02/09/1967

01/10/1967

06/07/2021

02/10/1967

01/11/1967

15/05/2021

02/11/1967

01/12/1967

21/03/2021

02/12/1967

01/01/1968

28/01/2021

02/01/1968

01/02/1968

05/12/2020

02/02/1968

01/03/1968

11/10/2020

02/03/1968

01/04/1968

22/08/2020

02/04/1968

01/05/1968

28/06/2020

02/05/1968

01/06/1968

07/05/2020

02/06/1968

01/07/1968

14/03/2020

02/07/1968

01/08/1968

21/01/2020

02/08/1968

01/09/1968

28/11/2019

02/09/1968

01/10/1968

05/10/2019

02/10/1968

01/11/1968

13/08/2019

02/11/1968

01/12/1968

20/06/2019

02/12/1968

01/01/1969

28/04/2019

02/01/1969

01/02/1969

05/03/2019

02/02/1969

01/03/1969

10/01/2019

02/03/1969

01/04/1969

22/11/2018

02/04/1969

01/05/1969

29/09/2018

02/05/1969

01/06/1969

07/08/2018

02/06/1969

01/07/1969

14/06/2018

02/07/1969

01/08/1969

22/04/2018

02/08/1969

01/09/1969

27/02/2018

02/09/1969

01/10/1969

04/01/2018

02/10/1969

01/11/1969

12/11/2017

02/11/1969

01/12/1969

19/09/2017

02/12/1969

01/01/1970

29/07/2017

02/01/1970

01/02/1970

04/06/2017

02/02/1970

01/03/1970

11/04/2017

02/03/1970

01/04/1970

21/02/2017

02/04/1970

01/05/1970

29/12/2016

02/05/1970

01/06/1970

06/11/2016

02/06/1970

01/07/1970

13/09/2016

02/07/1970

01/08/1970

23/07/2016

02/08/1970

01/09/1970

29/05/2016

02/09/1970

01/10/1970

05/04/2016

02/10/1970

01/11/1970

13/02/2016

02/11/1970

01/12/1970

20/12/2015

02/12/1970

01/01/1971

29/10/2015

02/01/1971

01/02/1971

05/09/2015

02/02/1971

01/03/1971

12/07/2015

02/03/1971

01/04/1971

24/05/2015

 

CPNDT

Dyddiad geni

o

Dyddiad geni i

Dyddiad y daw diogelwch i ben

02/04/1962

01/05/1962

31/03/2022

02/05/1962

01/06/1962

06/02/2022

02/06/1962

01/07/1962

14/12/2021

02/07/1962

01/08/1962

23/10/2021

02/08/1962

01/09/1962

29/08/2021

02/09/1962

01/10/1962

06/07/2021

02/10/1962

01/11/1962

15/05/2021

02/11/1962

01/12/1962

21/03/2021

02/12/1962

01/01/1963

28/01/2021

02/01/1963

01/02/1963

05/12/2020

02/02/1963

01/03/1963

11/10/2020

02/03/1963

01/04/1963

23/08/2020

02/04/1963

01/05/1963

30/06/2020

02/05/1963

01/06/1963

09/05/2020

02/06/1963

01/07/1963

15/03/2020

02/07/1963

01/08/1963

23/01/2020

02/08/1963

01/09/1963

30/11/2019

02/09/1963

01/10/1963

06/10/2019

02/10/1963

01/11/1963

15/08/2019

02/11/1963

01/12/1963

22/06/2019

02/12/1963

01/01/1964

30/04/2019

02/01/1964

01/02/1964

07/03/2019

02/02/1964

01/03/1964

12/01/2019

02/03/1964

01/04/1964

22/11/2018

02/04/1964

01/05/1964

29/09/2018

02/05/1964

01/06/1964

07/08/2018

02/06/1964

01/07/1964

14/06/2018

02/07/1964

01/08/1964

22/04/2018

02/08/1964

01/09/1964

27/02/2018

02/09/1964

01/10/1964

04/01/2018

02/10/1964

01/11/1964

12/11/2017

02/11/1964

01/12/1964

19/09/2017

02/12/1964

01/01/1965

29/07/2017

02/01/1965

01/02/1965

04/06/2017

02/02/1965

01/03/1965

11/04/2017

02/03/1965

01/04/1965

21/02/2017

02/04/1965

01/05/1965

29/12/2016

02/05/1965

01/06/1965

06/11/2016

02/06/1965

01/07/1965

13/09/2016

02/07/1965

01/08/1965

23/07/2016

02/08/1965

01/09/1965

29/05/2016

02/09/1965

01/10/1965

05/04/2016

02/10/1965

01/11/1965

13/02/2016

02/11/1965

01/12/1965

20/12/2015

02/12/1965

01/01/1966

29/10/2015

02/01/1966

01/02/1966

05/09/2015

02/02/1966

01/03/1966

12/07/2015

02/03/1966

01/04/1966

24/05/2015

 



([1])           Gweler hefyd adran 1(3) ac Atodlen 1.

([2])           Yn dod i rym ar 1 Ebrill 2015.

([3])           Gweler hefyd adran 8(2)(a) a (4).

([4])           Mewnosodwyd is-adran (5A) gan Ddeddf Pensiynau 2014 (p. 19), adran 52.

([5])           2013 p. 25.

([6])           Gweler paragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 ar gyfer y diffiniad o “fire and rescue workers”.

([7])           Diwygiwyd adran 27 gan baragraff 1 o Atodlen 17 i Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006 (p. 52).

([8])           Mewnosodwyd adran 75A gan adran 3 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Fe’i diwygiwyd gan adrannau 118, 121 a 122 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p.  6), a chan  baragraff 33 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18).

([9])           1996 p. 18; mewnosodwyd adran 75B gan Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22), adran 3.

([10])         Amnewidiwyd adran 71 gan Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999. Fe’i diwygiwyd gan adran 118 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), paragraff 31 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd (p. 18) a chan adran 17 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22).

([11])         Amnewidiwyd adran 73 gan Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (p. 26), adran 7 ac Atodlen 4.

([12])         O.S. 1999/3312, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([13])         O.S. 2002/2788. Diwygiwyd rheoliadau 4 ac 8 gan O.S. 2005/1114 a 2014/2112.

([14])         O.S. 2010/1055.

([15])         O dan adran 9 o Ddeddf 2013, y newid mewn enillion sydd i’w gymhwyso mewn cyfnod yw’r cynnydd canran neu’r lleihad canran a bennir mewn gorchymyn Trysorlys o dan yr adran honno mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw.

([16])         1992 p. 52.

([17])         2004 p. 21.

([18])         O.S. 2007/1072 (Cy. 110); gwnaed diwygiadau i Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([19])         O.S. 1996/1172. Diwygiwyd rheoliad 55(2) gan O.S. 2014/560.

([20])         O.S. 1992/129. Newidiwyd enw’r cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) gan O.S. 2004/2918 (Cy. 257). Nid yw’r diwygiadau eraill a wnaed yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([21])         Gwnaed diwygiadau perthnasol i adran 1 gan adran 239 o Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35) a chan O.S. 2007/3014.

([22])         2004 p. 12.

([23])         1993 p. 48.

([24])         1999 p. 30.

([25])         1971 p. 56.

([26])         Diwygiwyd adran 8(2) gan Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p. 7), adran 1(5) a chan DLlPh 1999 (p. 30), adran 39(1) a (4). Caniateir cymhwyso adran 8(2) o DPC 1971 yn ddarostyngedig i ba bynnag newidiadau, addasiadau ac eithriadau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 5(3) o’r Ddeddf honno.

([27])         Diwygiwyd adran 28 gan Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004 (p. 33), Atodlen 27, paragraff 159 ac Atodlen 30, paragraff 1; Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 18 a Deddf Pensiynau 2008 (p. 30), adran 128.

([28])         Gweler adran 18(2) o Ddeddf 2013 ar gyfer ystyr “existing scheme”.

([29])         1995 p. 26. Gwnaed diwygiadau i adran 124(1) o’r Ddeddf honno nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([30])         Amnewidiwyd adran 228 gan Ddeddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 17, paragraffau 1 a 4 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid 2013 (p. 29), adran 49.

([31])         Diwygiwyd adran 14 gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), Atodlen 5, paragraff 27 ac Atodlen 7, Rhan 3; Deddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau etc.) 1999 (p. 2), Atodlen 1, paragraff 38; a Deddf Enillion Troseddau 2002 (p. 29), Atodlen 11, paragraffau 1 a 22.

([32])         Diwygiwyd adran 17 gan Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau etc.) 1999 (p. 2), Atodlen 1, paragraff 39; Deddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol 2000 (p. 19), Atodlen 5, paragraff 1 ac Atodlen 9, Rhan 3; Deddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 284(2); Deddf Pensiynau 2007 (p. 22), adran 14(2); Deddf Priodasau (Cyplau o’r Un Rhyw) 2013 (p. 30), Atodlen 4, paragraffau 18 a 20; O.S. 2005/2050 a 2014/560.

([33])         Diwygiwyd adran 109 gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), adran 55 ac O.S. 2005/2050.

([34])         Mewnosodwyd adran 15A gan Ddeddf Diwygio Lles a phensiynau 1999 (p. 30), adran 32(1) a (3).

([35])         1996 p. 14.

([36])         Mae copi ar gael yn http://www.local.gov.uk/c/document_library/get_file?uuid=326723e9-8192-4798-89bb-d152fb05fa5f&groupId=10180.

([37])         Diwygiwyd adran 227 gan Ddeddf Cyllid 2011, adrannau 65 a 66, Atodlen 16, paragraff 45 ac Atodlen 17, paragraffau 1 a 3.

([38])         1992 p. 4. Mewnosodwyd adran 171ZL gan adran 4 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22), ac fe’i diwygiwyd gan adran 21 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a chan O.S. 2006/2012.

([39])         Diwygiwyd adran 164 gan Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22), adran 20(b), Atodlen 8, paragraff 1 ac Atodlen 7, paragraff 6 a chan Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau, etc.) 1999 (p. 2), Atodlen 1, paragraff 12.

([40])         Mewnosodwyd adrannau 171ZA a 171ZB gan Ddeddf Cyflogaeth 2002, adran 2. Diwygiwyd is-adrannau  (1) o’r adrannau hynny gan Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18), Atodlen 1, paragraffau 12 a 13.

([41])         Mewnosodwyd adrannau 171ZEA a 171ZEB gan adrannau 6 a 7 o Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18).

([42])         1983 p. 54; mewnosodwyd y diffiniad o “competent authority” gan O.S. 2007/3101.

([43])         Gweler adran 4(6) o Ddeddf 2013 sy’n nodi o dan ba amgylchiadau yr ystyrir bod cynlluniau pensiwn statudol yn “connected”.

([44])         Gweler adran 5(6) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 am ddiffiniadau o’r termau hyn.

([45])         Gweler adran 5(5) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 ar gyfer ystyr “conflict of interest”.

([46])         2004 p. 35. Mewnosodwyd adran 90A gan baragraff 14 o Atodlen 4 i Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013.

([47])         Gweler adran 7(5) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 ar gyfer  ystyr “conflict of interest”.

([48])         O.S. 2010/772. Diwygiwyd rheoliad 12 gan O.S. 2012/215.

([49])         Gweler adran 37 o Ddeddf 2013 ar gyfer ystyr “pensionable service”.

([50])         2008 p. 30.

([51])         Mae rheoliad 125 yn darparu ar gyfer diddymu hawliau ar ôl ad-dalu’r holl gyfraniadau a’r holl daliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol a wnaed gan aelod. Mae rheoliad 147 (effaith trosglwyddiadau allan) yn darparu ar gyfer diddymu hawliau ar ôl gwneud taliad trosglwyddo.

([52])         Mewnosodwyd Rhan 4A gan adran 37 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30).

([53])         Diwygiwyd rheol F1 o Gynllun 1992 fel y mae’n cael effaith yng Nghymru gan O.S. 2006/1672 (Cy. 160), 2007/1074 (Cy. 112) a 2014/3242 (Cy. 329).

([54])         Mae rheoliad 162 (rôl YMCA mewn penderfyniadau gan y rheolwr cynllun) yn ei gwneud yn ofynnol bod rheolwr y cynllun yn cael barn YMCA mewn rhai amgylchiadau.

([55])         Gweler adran 241 o Ddeddf Cyllid 2004. Diwygiwyd yr adran honno gan Ddeddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 16, paragraff 74 a chan Ddeddf Cyllid 2006 (p. 25), Atodlen 21, paragraff 9.

([56])         Diwygiwyd paragraff 15(2) gan baragraff 26 o Atodlen 10 i Ddeddf Cyllid 2005 (p. 7) ac O.S. 2005/3229.

([57])         Diwygiwyd adran 167 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11), Atodlen 20, paragraff 22; Deddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 16, paragraff 11 a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), adran 41(2). Gweler hefyd Ran 2 o Atodlen 28 i Ddeddf Cyllid 2011, am ystyron yr ymadroddion a ddefnyddir yn adran 167.

([58])         Diwygiwyd adran 17 gan Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau etc.) 1999 (p. 2), Atodlen 1, paragraff 39; Deddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol 2000 (p. 19), Atodlen 5, paragraff 1 ac Atodlen 9, Rhan 3; Deddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 284(2); Deddf Pensiynau 2007 (p. 22), adran 14(2); Deddf Priodasau (Cyplau o’r Un Rhyw) 2013 (p. 30), Atodlen 4, paragraffau 18 ac 20; ac O.S. 2005/2050 a 2014/560.

([59])         O.S. 1996/1172. Amnewidiwyd rheoliad 60 gan O.S. 2006/744 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2006/1337, 2009/2930 a 2010/499.

([60])         1951 p. 65.

([61])         Diwygiwyd adran 205 gan baragraff 121 o Atodlen 46 i Ddeddf Cyllid 2013 (p. 29) a chan O.S. 2010/536.

([62])         Mewnosodwyd Pennod 5 o Ran 4 o DCauP 1993 gan adran 264 o Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35).

([63])         Diwygiwyd adran 169(2) gan adran 53(3) o Ddeddf Cyllid 2013 (p. 29).

([64])         Diwygiwyd adran 95(2) gan O.S. 2001/3649.

([65])         Diwygiwyd adran 96(2) gan Ddeddf Pensiynau 2007 (p. 22), Atodlen 7, paragraff 1; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 13, paragraff 1; Deddf Pensiynau 1995 (p. 26), Atodlen 5, paragraff 63(a) ac O.S. 2011/1730.

([66])         Diwygiwyd adran 97 gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), Atodlen 6, paragraff 4, a chan Ddeddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol 2000 (p. 19), Atodlen 5, paragraff 8.

([67])         1995 p. 26. Amnewidiwyd adran 50 gan adran 273 o Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35). Diwygiwyd adran 273 o Ddeddf 2004, cyn iddi gael effaith, gan adran 16 o Ddeddf Pensiynau 2007 (p. 22).

([68])         O.S. 2008/649.

([69])         Gweler rheoliad 3 o O.S. 2014/575.

([70])         1995 p. 26. Amnewidiwyd adran 50 yn rhinwedd adran 273 o Ddeddf Pensiynau 2004 ( p. 35).

([71])         O.S. 2008/649.

([72])         O dan adran 9 o Ddeddf 2013 y newid mewn enillion sydd i’w wneud mewn cyfnod yw y cynnydd neu ostyngiad canran a bennir gan orchymyn Trysorlys o dan yr adran honno mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw.

([73])         Mewnosodwyd is-adran (2B) gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), adran 136(3) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau etc.) 1999 (p. 2), Atodlen 1, paragraff 35.

([74])         O.S. 1996/1172. Amnewidiwyd rheoliad 60 gan O.S. 2006/744 ac fe’i diwygiwyd gan 2006/1337, 2009/2930 a 2010/499.

([75])         O.S. 1997/785. diwygiwyd rheoliad 2 gan O.S. 2002/681, 2005/706, 2006/744, 2006/778 a 2009/2930.

([76])         Diwygiwyd paragraff 7 gan Ddeddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 16, paragraffau 23 a 29 ac Atodlen 18, paragraffau 1, 3, a 4; a chan Ddeddf Cyllid 2014 (p. 26), adran 42(1); a chan O.S.2006/572.

([77])         Diwygiwyd paragraff 20 gan Ddeddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 16, paragraffau 32 a 39 ac Atodlen 18, paragraffau 1, 3 a 6.

([78])         O.S. 2000/1054. Diwygiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2009/2930.

([79])         1965 p. 32; gwnaed diwygiadau i adran 6, nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([80])         Diwygiwyd adran 17 gan Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau, etc.) 1999 (p. 2), Atodlen 1, paragraff 39; Deddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol 2000 (p. 19), Atodlen 5, paragraff 1 ac Atodlen 9, Rhan 3; Deddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 284(2); Deddf Pensiynau 2007 (p.22), adran 14(2); Deddf Priodasau (Cyplau  o’r Un Rhyw) 2013 (p. 30), Atodlen 4, paragraffau 18 ac 20; ac O.S. 2005/2050 a 2014/560.

([81])         1989 p. 6; gweler adran 16(2) ar gyfer ystyr “Official Secrets Acts 1911 to 1989”.

([82])         Deddf Cynlluniau Pensiwn 1993 (p. 48).

([83])         Diwygiwyd adran 124(1) gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 12, paragraffau 43 a 61; gan Ddeddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol 2000 (p. 19), Atodlen 5, paragraff 8; gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 7(2), Atodlen 12, paragraffau 34, 43 a 69 ac Atodlen 13, Rhan 1; a chan O.S. 2005/2053, 2006/745 a 2014/560.

([84])         Diwygiwyd adran 91(5)(d) gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 12, paragraffau 43 a 57. Gweler O.S. 1997/785 sy’n rhagnodi’r credydau trosglwyddo.

([85])         O.S. 2006/569; diwygiwyd gan O.S. 2013/1114.

([86])         Diwygiwyd adran 216(1) gan Ddeddf Cyllid 2005 (p. 7), Atodlen 10, paragraffau 31 a 42; Deddf Cyllid 2006 (p. 25), Atodlen 23, paragraff 30; Deddf Cyllid 2008 (p. 9), Atodlen 29, paragraffau 1(3) a 5; a Deddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 16, paragraffau 43 a 73(2).

([87])         O.S. 2006/567; mewnosodwyd rheoliad 14A gan reoliadau 2 ac 8 o O.S. 2011/1797. Fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Trethu Pensiynau 2014 (p. 30), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 88.

([88])         Diwygiwyd adran 238 gan ddeddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 17, paragraff 16.

([89])         2004 p. 12; mewnosodwyd adran 237B gan Ddeddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 17, paragraff 15 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 46, paragraffau 119 a 129.

([90])         Diwygiwyd adran 18(6) gan adran 52(3) o Ddeddf Pensiynau 2014 (p. 19).

([91])         Gweler adran 18(2) o Ddeddf 2013 ar gyfer ystyr  “existing scheme”.

([92])         S.I. 1992/129: mae rheol A13 yn darparu mai’r oedran pensiwn arferol yw 55 ac mae rheol B1 yn galluogi diffoddwyr tân rheolaidd dros 50 oed i ymddeol unwaith y gallant gyfrif o leiaf 25 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy. Amnewidiwyd rheol A13 fel y mae’n cael effaith yng Nghymru gan O.S. 2006/1672. Amnewidiwyd rheol B1 fel y mae’n cael effaith yng Nghymru gan O.S. 2005/566 a 2014/3242.

([93])         O.S. 2007/1072 (Cy. 110): mae rheol 3(1) o Ran 2 yn darparu mai oedran ymddeol arferol aelodau sy’n ddiffoddwyr tân yw 60.