Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Mawrth 2015 i'w hateb ar 25 Mawrth 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dreial rheoli dalgylch Tawe? OAQ(4)0272(NR)

2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynghylch rheoliadau cynllunio mewn perthynas â chloddio glo brig? OAQ(4)0274(NR)

3. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dir wedi'i halogi? OAQ(4)0279(NR)W

4. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa wahaniaeth fydd Bil Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn ei wneud o ran cryfhau cymunedau cynaliadwy? OAQ(4)0280(NR)

5. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y potensial ynni ar raddfa fach sydd gan forlynnoedd llanw? OAQ(4)0286(NR)

6. Christine Chapman (Cwm Cynon):Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i reoli'r defnydd o faglau yng Nghymru? OAQ(4)0277(NR)

7. Aled Roberts (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar adfer tir halogedig? OAQ(4)0281(NR)

8. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl yr iaith Gymraeg yn y broses gynllunio? OAQ(4)0278(NR)W

9. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â rhywogaethau o blanhigion anfrodorol goresgynnol yng Nghymru? OAQ(4)0282(NR)

10. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd coetiroedd cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0285(NR)

11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant llaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0271(NR)

12. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ymhellach? OAQ(4)0283(NR)

13. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn perthynas â galwadau ar gyfer moratoriwm ar ddatblygiadau glo brig yng Nghymru? OAQ(4)0284(NR)

14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru? OAQ(4)0275(NR)

15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i hyrwyddo'r ymgais i gynhyrchu ynni ar raddfa fach? OAQ(4)0276(NR)

Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen Dechrau'n Deg? OAQ(4)0312(CTP)

2. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy'n effeithio ar lesddeiliaid yn Nhorfaen? OAQ(4)0307(CTP)

3. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladu cartrefi newydd yng Nghymru? OAQ(4)0302(CTP)

4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei hymweliad â chlwstwr Cymunedau yn Gyntaf dwyrain Abertawe? OAQ(4)0298(CTP)

5. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd):Sut y mae'r Gweinidog yn mesur llwyddiant polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhwysiant digidol? OAQ(4)0304(CTP)W

6. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i fynd i'r afael â thlodi gwledig? OAQ(4)0310(CTP)W

7. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni atgyweirio cymdeithasau tai? OAQ(4)0309(CTP)

8. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun buddsoddi i arbed? OAQ(4)0299(CTP)

9. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi grwpiau cymunedol gwirfoddol? OAQ(4)0303(CTP)

10. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2015? OAQ(4)0301(CTP)

11. Keith Davies (Llanelli): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith cyllideb ddiweddaraf y DU ar drechu tlodi yn Llanelli? OAQ(4)0311(CTP)W

12. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i leihau tlodi yn Nhorfaen? OAQ(4)0308(CTP)

13. David Rees (Aberafan):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cymysgedd cryf o dai fforddiadwy yn bodoli ledled Cymru? OAQ(4)0306(CTP)

14. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddiogelu asedau o werth cymunedol? OAQ(4)0300(CTP)