Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Mawrth 2015 i'w hateb ar 17 Mawrth 2015

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad i feddygfeydd meddygon teulu yng Nghymru yn 2015? OAQ(4)2171(FM)

 

2. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y dreth ystafell wely yng Nghymru? OAQ(4)2188(FM)

3. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ganolfannau Cymraeg i Oedolion? OAQ(4)2174(FM)W

 

4. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo ynni adnewyddadwy? OAQ(4)2187(FM)

5. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i ddarparu mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru? OAQ(4)2176(FM)

 

6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd sefydliadau addysg uwch o ran datblygu economi Cymru? OAQ(4)2175(FM)

 

7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ddarpariaeth o ofal plant yng Nghymru? OAQ(4)2186(FM)

 

8. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ofalwyr yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ(4)2181(FM)

 

9. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio locwms yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)2184(FM)

 

10. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A oes dyddiad wedi'i gytuno gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer trosglwyddo cyfrifoldeb dros ganiatáu cynlluniau datblygu ynni i brosiectau hyd at 350MW, yn dilyn cyhoeddi Pwerau at Bwrpas? OAQ(4)2180(FM)W TYNNWYD YNOL

 

11. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo manteision system chwistrellu dŵr adeg tân? OAQ(4)2183(FM)

 

12. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw'n bolisi Llywodraeth Cymru i geisio datganoli amodau gwaith a chyflogau athrawon? OAQ(4)2185(FM)W

 

13. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd coetiroedd cymunedol yng Nghymru? OAQ(4)2178(FM)

 

14. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau adnoddau yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2179(FM)W

 

15. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog pobl i ymweld â chanol trefi yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)2170(FM)