Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Mawrth 2015 i'w hateb ar 18 Mawrth 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drefn llywodraethu prifysgolion yng Nghymru? OAQ(4)0550(ESK)W

2. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella safonau a chyflawniad addysgol yng Nghymru? OAQ(4)0545(ESK)

3. Lynne Neagle (Torfaen): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella sgiliau pobl ifanc ar draws Torfaen? OAQ(4)0557(ESK)

4. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y rhaglen llythrennedd gorfforol ar gyfer ysgolion? OAQ(4)0559(ESK)

5. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyfforddiant addysg tir yng Nghymru? OAQ(4)0546(ESK)W

6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am annog pobl ifanc i ystyried prentisiaethau? OAQ(4)0560(ESK)W

7. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddysgu dinasyddiaeth yn ysgolion Cymru? OAQ(4)0548(ESK)

8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argymhellion Donaldson ar ddinasyddiaeth i bobl ifanc? OAQ(4)0562(ESK)W

9. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu ieithoedd modern tramor yng Nghymru? OAQ(4)0551(ESK)

10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd gyda phenaethiaid colegau addysg bellach yng Nghymru ynghylch toriadau ariannol? OAQ(4)0547(ESK)

11. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ar y sbectrwm awtistig mewn colegau addysg bellach yng Nghymru? OAQ(4)0558(ESK)

12. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu dysgu yn yr awyr agored fel rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol?OAQ(4)0561(ESK)

13. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o addysg ôl-16 yn Nhorfaen? OAQ(4)0556(ESK)

14. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol y sector addysg bellach yng Nghymru? OAQ(4)0554(ESK)

15. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu sgiliau menywod yn y gweithlu? OAQ(4)0553(ESK)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i roi hwb i allforion Cymru yn 2015? OAQ(4)0534(EST)

2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013? OAQ(4)0540(EST)

3. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lwybrau diogel mewn cymunedau? OAQ(4)0539(EST)

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gau cyffordd 41 yr M4? OAQ(4)0532(EST)

5. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am agor siop un stop 21 High Autism Spectrum Connections Cymru   yng nghanol dinas Caerdydd? OAQ(4)0536(EST)

6. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am welliannau i wasanaeth rheilffordd Gerallt Gymro rhwng gogledd a de Cymru? OAQ(4)0541(EST)

7. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflawni teithio llesol yng Nghymru, yn dilyn pasio a chychwyn Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013? OAQ(4)0538(EST)

8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw newidiadau arfaethedig i'r cynllun bathodyn glas? OAQ(4)0533(EST)

9. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran datbygu metro de Cymru? OAQ(4)0544(EST)

10. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu mynediad am ddim i amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol yng Nghymru? OAQ(4)0546(EST)

11. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd cyllid i fusnesau bach? OAQ(4)0547(EST)W

12. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o eiddo busnes yng Nghymru? OAQ(4)0548(EST)

13. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y bydd trydaneiddio'r rheilffordd o Lundain i Abertawe yn ei chael ar wasanaethau trên drwy Ddwyrain De Cymru? OAQ(4)0543(EST)

14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfyngiadau cyflymder ar y rhwydwaith cefnffyrdd? OAQ(4)0535(EST)

15. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu llwybrau Maes Awyr Caerdydd? OAQ(4)0542(EST)