At: William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes

CC: Dr Siân Phipps, Clerc y Pwyllgor Menter a Busnes,

Rachel Jones, Dirprwy Glerc y Pwyllgor Menter a Busnes

 

Ynghylch:Ymchwiliad y Pwyllgor i gyfleoedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed

3ydd Mawrth 2015

Annwyl Gadeirydd,

Yn dilyn eich sesiwn dystiolaeth gyda ColegauCymru a WEA Cymru wythnos diwethaf (25 Chwefror)[1], hoffwn egluro un mater ynghylch datblygu Strategaeth Sgiliau Pobl Hŷn.Soniodd cydweithwyr o ColegauCymru a WEA Cymru y byddwn i’n datblygu ac yn paratoi Strategaeth Sgiliau ar gyfer Pobl Hŷn, yng nghyd-destun Heneiddio yn dda yng Nghymru. I egluro, mae datblygu Strategaeth Sgiliau ar gyfer Pobl Hŷn yn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi’i nodi yn ei Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn 2013-23 (P20)[2]. Fe fyddai cydlynu’r Strategaeth gyda Heneiddio’n Dda yng Nghymru o fudd.

Fel y soniais yn fy nhystiolaeth ysgrifenedig[3], nid yw’r ddogfen wedi’i chyhoeddi eto, a byddwn yn croesawu diweddariad gan Lywodraeth Cymru ynghylch ei datblygiad. Byddwn yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at Strategaeth Sgiliau y mae galw mawr amdani ac rwy’n cydnabod gwerth a chyfraniad y strategaeth at nodau a chanlyniadau Heneiddio yn Dda yng Nghymru, yn arbennig y thema blaenoriaeth Cyfleoedd ar gyfer Dysgu a Chyflogaeth.

Description: I:\Indesign\letter-B+W.jpgDescription: I:\Indesign\letter-B+W.jpgDescription: I:\Indesign\letter-B+W.jpgDymuniadau gorau

Description: digi sig for Sarah R

Sarah Rochira

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru



[1]http://www.senedd.cynulliad.cymru/ieIssueDetails.aspx?IId=11339&PlanId=0&Opt=3%20-%20AI21284

[2]http://gov.wales/topics/health/publications/socialcare/strategies/older/?skip=1&lang=cy

[3]http://www.senedd.assembly.wales/documents/s35635/EBC4-03-15%20p.1%20Older%20Peoples%20Commissioner%20for%20Wales.pdf