At: William Graham AS, Cadeirydd, Pwyllgor Menter a Busnes

CC: Dr Siân Phipps, Clerc, Pwyllgor Menter a Busnes,

Rachel Jones, Dirprwy Glerc, Pwyllgor Menter a Busnes

 

Parthed: Ymchwiliad gan y Pwyllgor i gyfleoedd Cyflogaeth i bobl dros 50 oed

18fed Chwefror 2015

Annwyl Gadeirydd,

Diolch am y gwahoddiad i gyflwyno tystiolaeth lafar i Ymchwiliad y Pwyllgor ar 29 Ionawr. Roedd hwn yn gyfle pwysig i fy swyddfa gyfrannu at eich ymchwiliad a thynnu sylw ar bwysigrwydd cadw pobl dros 50 oed yn y gweithlu a sicrhau bod mynediad iddynt at gyfleoedd hyfforddi a sgiliau priodol i ail-ymuno â’r farchnad lafur.

Fel y crybwyllwyd gan Daisy Cole, fy Nghyfarwyddwr Lles a Grymuso, yn y sesiwn dystiolaeth, byddaf yn lansio ymgyrch yn yr hydref i fynd i’r afael â gwahaniaethu, rhagfarn a ‘rhagfarn ar sail oed’ yn erbyn pobl hŷn. Bydd yr ymgyrch yn mynd i’r afael â gwahaniaethu yn y gweithle, a bydd yn tynnu sylw at gyfraniad cadarnhaol pobl hŷn i’r farchnad lafur. Felly mae eich ymchwiliad yn amserol iawn a byddaf yn eich hysbysu ynghylch datblygiadau’r ymgyrch maes o law.

Yn dilyn eich gwahoddiad i anfon awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid strwythuro ac ariannu cynllun cyflogaeth i bobl dros 50 oed, gweler Atodiad A.

Description: I:\Indesign\letter-B+W.jpgDescription: I:\Indesign\letter-B+W.jpgDescription: I:\Indesign\letter-B+W.jpgDymuniadau gorau

Description: digi sig for Sarah R

Sarah Rochira                                                                                                Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad A

Awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid strwythuro ac ariannu cynllun (tebyg i raglen bresennol Twf Swyddi Cymru) i bobl dros 50 oed

Strwythur

Gallai’r strwythur ganolbwyntio ar dair prif ran:

-      Cyflogaeth: sicrhau bod gan y rhai sydd dros 50 oed y setiau sgiliau priodol, eu bod yn cael cymorth i ymgeisio am swyddi, yn cael eu cyfeirio at gyfleoedd hyfforddi a sgiliau perthnasol

-      Hunan gyflogaeth: tynnu sylw at y llwybr hwn yn ôl i gyflogaeth i gyd-fynd ag anghenion ac amgylchiadau’r unigolyn e.e. ystyried cyfrifoldebau gofal, hybu pobl i gychwyn busnes, hybu entrepreneuriaeth, a chymorth ariannol e.e. grantiau, benthyciadau

-      Gwirfoddoli: codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwirfoddoli fel porth i gyflogaeth, tynnu sylw at gyfleoedd i wirfoddoli mewn ardaloedd lleol, sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o gyfleoedd hyfforddi a sgiliau

Mae Grŵp Cynghori Arbenigol Cyfleoedd ar gyfer Dysgu a Chyflogaeth Heneiddio’n Dda yng Nghymru’n cynnwys arbenigwyr ar gyfleoedd gwaith i rai dros 50 oed e.e. rôl Prime Cymru mewn hunan gyflogaeth, rôl Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddarparu rolau gwirfoddoli wedi eu hachredu. O gael yr adnoddau digonol, mae’r grŵp hwn mewn sefyllfa dda i helpu i gynllunio a strwythuro cynllun effeithiol.

Cyllid

Gydag adnoddau cyllido’n brin, byddai angen i’r cynllun sicrhau cymaint o effaith â phosibl gydag adnoddau cyfyngedig. Fel y mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn wedi ei bwysleisio gyda gwasanaethau cymunedol, mae sicrhau bod y rhai sydd dros 50 oed yn gallu dychwelyd i waith yn gost effeithiol yn y tymor hir[1]. Mae cyflogaeth yn gallu gwella’n sylweddol iechyd a lles corfforol a meddyliol yr unigolyn, gan helpu i leihau pecynnau statudol iechyd a gofal cymdeithasol. Gall ariannu cynllun o’r fath yn y tymor byr leihau’n sylweddol y pwysau ar gyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol yn y tymor hir.

Byddai defnyddio’r un strwythurau adrodd a chyflawni â Thwf Swyddi Cymru’n fuddiol o safbwynt ailgyflwyno model cost effeithlon sydd wedi ei brofi[2]. Gellid cael arian ychwanegol o gyllid UE, yn arbennig y pwyslais ar drechu tlodi drwy gyflogaeth gynaliadwy a sgiliau ar gyfer twf yng Nghronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer rhanbarthau Cymru yng nghyfnod  rhaglen 2014-2020[3].

Byddai adeiladu ar arbenigedd ac adnoddau sefydliadau sy’n weithgar yn y maes hwn hefyd yn helpu i leihau costau, er enghraifft, byddai cynllun mentora gwirfoddolwyr Prime Cymru o gymorth yn y maes hunan gyflogaeth, a defnyddio profiad Canolfan Gydweithredol Cymru i weithredu’r rhaglen olynol i Cymunedau 2.0 er mwyn sicrhau bod y rhai sydd dros 50 oed yn cael cymorth i chwilio ac ymgeisio am swyddi ar-lein, a hyfforddiant TG penodol wedi eu teilwra’n unol â’u hanghenion[4][5]. Byddai unrhyw gynllun hefyd yn elwa ar fewnbwn yr ‘eiriolwr dros weithwyr hŷn’ newydd, yn unol â chynllun gweithwyr hŷn Llywodraeth y DU yn Ebrill 2015[6].

Marchnata

Mae angen hyrwyddo’r cynllun a chodi ymwybyddiaeth o anghenion mewn ffordd wahanol. Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl sydd dros 50 oed ac yn economaidd anweithgar ac eisiau neu angen dychwelyd i waith unrhyw gyswllt â Chanolfannau Gwaith neu Gyrfaoedd Cymru. Gallai hysbysebion yn yr awyr agored ac ar y teledu/radio, hysbysebion mewn papurau newydd yn y wasg leol/ranbarthol/genedlaethol a defnyddio cyfryngau cymdeithasol e.e. Twitter, Facebook oll fod yn ddefnyddiol. Hefyd, gallai unrhyw gynllun gysylltu ag ail-lansio menter Heneiddio’n Gadarnhaol Llywodraeth y DU, gan annog cyflogwyr i reoli gweithlu sy’n amrywio o ran oed[7] mewn ffordd effeithiol.

Ar lefel llywodraeth leol, gallai cydlynwyr y Strategaeth Pobl Hŷn, Eiriolwyr dros Bobl Hŷn a’r Fforymau 50+ chwarae rhan allweddol i dynnu sylw at y cynllun ymysg cymunedau lleol. Gallai hyrwyddo’r cynllun a nodi anghenion cyflogaeth arbennig ymysg y grŵp oed hwn fod yn ddefnyddiol yn ystod rhan nesaf Cymunedau’n Gyntaf, gan sicrhau bod y 52 clwstwr drwy Gymru’n ymdrin â chyflogaeth fel ffordd i wella cydlyniad cymunedol a chodi pobl allan o dlodi yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru[8].

Treialu

Gallai cynnal cynllun(iau) treialu fod yn fuddiol i bennu a yw cynllun o’r fath wedi gwella rhagolygon gwaith i bobl dros 50 oed ar lawr gwlad. Yn debyg i gynnig y Comisiynydd Pobl Hŷn i Lywodraeth Cymru gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar hawliadau ariannol ymysg pobl hŷn yn 2014, gellid ariannu dau gynllun treialu, gan ystyried cydbwysedd economaidd-gymdeithasol a daearyddol priodol e.e. un yr un yng Ngogledd/De Cymru, un yr un mewn ardal drefol/wledig, un yr un mewn ardal Cymunedau’n Gyntaf/nad yw’n ardal Cymunedau’n Gyntaf. Pe byddai’r cynlluniau treialu hyn yn llwyddiannus, yna byddai hyn yn cryfhau’r achos i gyflwyno’r cynllun drwy Gymru gyda chyllid ac adnoddau ychwanegol.

 

 



[1] http://www.olderpeoplewales.com/wl/Publications/pub-story/14-02-25/The_Importance_and_Impact_of_Community_Services_within_Wales.aspx#.VOMcw2ezW71

 

 

[2] http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/skillsandtraining/jobsgrowthwales/?skip=1&lang=cy

[3] http://wefo.wales.gov.uk/applyingforfunding/funding2014-2020/programmeimplementation/?skip=1&lang=cy

[4] http://www.primecymru.co.uk/hunan-gyflogaeth/?lang=cy

[5] http://www.cymunedau2dot0.org.uk/help-with-technology-cy

[6] https://www.gov.uk/government/news/fundamental-reform-to-fight-ageism-in-the-workplace-older-workers-scheme-to-tackle-age-discrimination

[7] https://www.gov.uk/government/collections/age-positive

[8] http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/communities/communitiesfirst/?skip=1&lang=cy