National Assembly for Wales / Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Health and Social Care Committee / Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Safe Nurse Staffing Levels (Wales) Bill/ Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Evidence from Nursing & Midwifery Council – SNSL(Org) 15 / Tystiolaeth gan Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth – SNSL(Org) 15

 

Ymateb y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i gais Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru am dystiolaeth ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

1          Ni yw'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (y Cyngor). Ni yw rheoleiddiwr statudol nyrsys a bydwragedd yn y DU. Rydym yn bodoli er mwyn:

1.1         diogelu iechyd a lles y cyhoedd;

1.2         pennu safonau addysg, hyfforddiant, ymddygiad a pherfformiad fel y gall nyrsys a bydwragedd ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel yn gyson drwy gydol eu gyrfaoedd;

1.3         sicrhau bod nyrsys a bydwragedd yn diweddaru eu sgiliau a'u gwybodaeth ac yn cynnal ein safonau proffesiynol.

2          Rydym yn cadw'r gofrestr o'r rhai sydd wedi cymhwyso ac sy'n cyrraedd y safonau hynny. Os honnir nad yw nyrs neu fydwraig gofrestredig yn addas i ymarfer, mae gennym ddyletswydd i ymchwilio i'r honiad hwnnw a, lle bo angen, gymryd camau er mwyn diogelu iechyd a lles y cyhoedd.

3          Croesawn y cyfle i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru). Rhoddir ein hymateb isod.

Staffio diogel

4          Atgyfnerthwyd pwysigrwydd staffio priodol gan Adroddiad Francis ar y methiannau yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolbarth Swydd Stafford yn Lloegr. Mae staffio priodol yn chwarae rhan annatod yn y gwaith o ddarparu iechyd a gofal diogel ac effeithiol. Gall staffio diogel fod yn faes cymhleth ac mae'n rhaid iddo ystyried nifer o ffactorau. Rhaid iddo ddiwallu anghenion cleifion ac mae ffactorau fel sgiliau staff, staff eraill a lleoliadau eraill cyn bwysiced â niferoedd, nyrsys ac ysbytai. Cyfrifoldeb darparwyr iechyd a gofal yw staffio diogel, a gaiff eu rheoleiddio gan reoleiddwyr systemau ym mhedair gwlad y DU.

5          Fel rheoleiddiwr proffesiynol, nid rôl y Cyngor yw pennu na sicrhau safonau sy'n gysylltiedig â staffio priodol. Mae cofrestru'n gam diogelu pwysig, ond cyflogwyr sy'n bennaf cyfrifol am sicrhau eu bod yn cyflogi'r nifer gywir o staff sydd â'r sgiliau a'r profiad cywir yn y swyddi cywir. Fel y cyfryw, ni ddisgwyliwn i'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) gael effaith uniongyrchol ar waith y Cyngor.

6          Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod y maes hwn yn effeithio ar yr hyn a wnawn mewn nifer o ffyrdd a bod agweddau ar y Cod[1] a chanllawiau'r Cyngor yn rhoi pwyslais ar nyrsys a bydwragedd i godi pryderon, gan gynnwys materion yn ymwneud â lefelau staffio diogel. Ym mis Mehefin 2014 lluniodd y Cyngor bapur briffio ar lefelau priodol o staff mewn lleoliadau iechyd a gofal (gweler Atodiad 1).

Y Cod a chodi pryderon

7          Mae'r Cod yn cynnwys y safonau proffesiynol y mae'n rhaid i nyrsys a bydwragedd cofrestredig eu cyrraedd. Rhaid i nyrsys a bydwragedd yn y DU weithredu yn unol â'r Cod, p'un a ydynt yn rhoi gofal uniongyrchol i unigolion, grwpiau neu gymunedau neu'n arddel eu barn broffesiynol ar arferion nyrsio a bydwreigiaeth mewn rolau eraill, fel arwain, addysg neu ymchwil. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi fersiwn diwygiedig o'r Cod ym mis Ionawr 2015 a daw i rym ym mis Mawrth 2015.

8          Gall ffactorau amgylcheddol fel lefelau staffio effeithio ar allu nyrsys neu fydwragedd i gynnal gwerthoedd y Cod. Mae gan nyrsys a bydwragedd ddyletswydd broffesiynol i roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch eu gweithle sy'n golygu bod diogelwch y bobl yn eu gofal neu'r cyhoedd mewn perygl.

9          Mae'r Cod diwygiedig yn rhoi mwy o bwyslais ar godi pryderon, gan gynnwys pryderon ynghylch lefelau staffio neu o ganlyniad i lefelau staffio. Mae'r Cod yn nodi bod yn rhaid i nyrsys a bydwragedd:

9.1         Gweithredu yn ddi-oed os credant fod risg i ddiogelwch cleifion neu'r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys codi ac, os oes angen, uwchgyfeirio unrhyw bryderon am ddiogelwch cleifion neu'r cyhoedd, neu'r lefel o ofal y mae pobl yn ei chael yn y gweithle neu unrhyw leoliad gofal iechyd arall. Rhaid i nyrsys a bydwragedd hefyd godi pryderon os gofynnir iddynt ymarfer y tu hwnt i'w cylch gwaith, profiad neu hyfforddiant.

9.2         Codi pryderon yn ddi-oed os credant fod rhywun yn agored i niwed neu mewn perygl a bod angen iddo gael mwy o gymorth a diogelwch. Rhaid i nyrsys a bydwragedd gymryd pob cam rhesymol i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed neu mewn perygl o gael eu niweidio, eu hesgeuluso neu eu cam-drin, a rhaid datgelu gwybodaeth os credwch y gall rhywun fod mewn perygl o niwed.

9.3         Bod yn ymwybodol o unrhyw niwed posibl sy'n gysylltiedig â'u hymarfer a lleihau hynny gymaint â phosibl. Rhaid i nyrsys a bydwragedd ystyried sut i gymryd camau er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o gamgymeriadau, damweiniau y bu bron iddynt ddigwydd, niwed ac effaith niwed os bydd yn digwydd.

10       Rydym yn cydnabod bod nyrsys a bydwragedd sy'n codi pryder gwirioneddol ac yn gweithredu gyda bwriadau da ac yn unol â'r egwyddorion a nodir yn y canllawiau hyn yn cyflawni eu cyfrifoldebau proffesiynol ac yn cydymffurfio â'r Cod. Gall methu â rhoi gwybod am bryderon godi amheuaeth ynghylch eu haddasrwydd i ymarfer a rhoi eu cofrestriad yn y fantol.

11       Mae gan nyrs neu fydwraig ddyletswydd broffesiynol i fod yn agored ac yn onest gyda chlaf pan aiff rhywbeth o'i le gyda'i driniaeth neu ei ofal a bod hynny'n achosi niwed neu drallod, neu y gallai achosi hynny. Mae'r Cyngor, ynghyd â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC), wrthi'n ymgynghori ar ei ganllawiau ar hyn. Mae'r canllawiau drafft yn nodi bod yn rhaid i nyrs neu fydwraig fod yn agored ac yn onest gyda chleifion, cydweithwyr a chyflogwyr. Os aiff rhywbeth o'i le wrth ddarparu gofal, rhaid i nyrs neu fydwraig roi gwybod amdano p'un a yw'n peri niwed gwirioneddol ai peidio.

Cyflogwyr a rheolwyr

12       Nid rôl y Cyngor yw sicrhau bod gan amgylcheddau gofal iechyd lefelau diogel a phriodol o staff.

13       Mae byrddau a thimau gweithredol yn gyfrifol ar y cyd am lefelau staffio priodol. Nid yw nyrsys na bydwragedd mewn uwch swyddi, fel cyfarwyddwyr nyrsio, o reidrwydd yn gyfrifol yn unigol am lefelau staffio priodol, ac nid yw pryderon o ran staffio bob amser yn golygu bod pryder ynghylch addasrwydd i ymarfer nyrsys a bydwragedd ar lefel weithredol.

14       Fodd bynnag, mae'r Cod yn gymwys i bob nyrs a bydwraig gofrestredig beth bynnag fo'i rôl a chwmpas ei hymarfer, gan gynnwys cyfarwyddwyr nyrsio sy'n aelodau o dimau arwain sy'n gyfrifol am staffio diogel. Dengys achosion addasrwydd i ymarfer diweddar y gall rheolwyr a chyfarwyddwyr gael eu cosbi am reoli gofal gwael yn yr un modd ag y gall nyrsys a bydwragedd rheng flaen gael eu cosbi am ddarparu gofal gwael.

15       Mae'r Cod yn nodi bod yn rhaid i nyrsys a bydwragedd gyrraedd safonau a gwerthoedd penodol (gweler 8.1, 8.2 ac 8.3). Gallai atgyfeiriad at y Cyngor godi pryderon ynghylch addasrwydd unigolyn i ymarfer ar sail y safonau hyn a methu â chodi pryderon am lefelau staffio.

Staffio ac addasrwydd i ymarfer

16       Mae ein prosesau addasrwydd i ymarfer yn profi ac yn pwyso a mesur tystiolaeth am gyfrifoldeb nyrsys a bydwragedd ac effaith yr amgylchedd gofal fel mater o drefn. Er nad prif ddiben y Cyngor yw sicrhau bod lefelau diogel o staff, os caiff nyrs neu fydwraig ei hatgyfeirio at y Cyngor ar sail honiad sy'n ymwneud â staffio, mae'n bosibl y byddwn yn ystyried pa un a yw'r aelod cofrestredig wedi gwneud y canlynol:

·           codi pryderon,

·           asesu tystiolaeth fod cleifion mewn perygl,

·           ceisio lliniaru'r risg.

17       Mae atebolrwydd proffesiynol yn golygu bod yn barod i egluro penderfyniadau anodd a gallu dangos yn glir eich bod wedi gweithredu ar sail tystiolaeth dda ac er budd cleifion.

18       Bydd disgwyliadau aelodau cofrestredig yn dibynnu ar eu rôl a'u lefel. Gall fod disgwyliadau uwch mewn perthynas â chyfarwyddwr nyrsio yn hyn o beth na rheolwr ward, er enghraifft. Fodd bynnag, dylai pob aelod cofrestredig fod yn ymwybodol o'i gyfrifoldeb unigol ac ar y cyd.

19       Os bydd nyrs neu fydwraig yn derbyn cyfrifoldeb am ymarfer yr ystyrir ei fod y tu hwnt i'w gallu ac sydd wedi arwain at gamgymeriadau ymarfer, bydd y cyflogai a'r cyflogwr yn atebol. Y cyflogai am fethu â chydnabod ei gyfyngiadau, a'r cyflogwr am fethu â sicrhau bod gan y cyflogai'r sgiliau a'r wybodaeth briodol.

Staffio ac addysg

20       Rydym yn pennu ac yn monitro safonau addysg ar gyfer nyrsys a bydwragedd, sy'n digwydd mewn sefydliadau addysg uwch (SAUau) ac mewn lleoliadau gofal iechyd. Gall pwysau ar lefelau staffio gael effaith ar leoliadau ymarfer, lle maent yn ei gwneud hi'n anos i nyrsys a bydwragedd neilltuo amser i gynorthwyo myfyrwyr. Gofynnwn i SAUau fonitro a lliniaru risgiau i leoliadau ymarfer. Os bydd gennym dystiolaeth bod posibilrwydd y gall lefelau staffio fod yn effeithio ar yr amgylchedd hyfforddi, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i ddarparwyr addysg ymchwilio i hyn a rhoi sicrwydd.

21       Mae ein canllawiau yn rhoi cyfrifoldeb ar fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth i godi pryderon. Yn ôl y canllawiau ar ymddygiad proffesiynol myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth, rhaid i fyfyrwyr:

21.1      Hysbysu eu mentor, tiwtor neu ddarlithydd ar unwaith os credant eu bod hwy, cydweithiwr neu unrhyw un arall yn rhoi rhywun mewn perygl.

21.2      Gofyn am gymorth ar unwaith gan weithiwr proffesiynol cymwys os oes rhywun maent yn gofalu amdano wedi dioddef niwed am unrhyw reswm.

21.3      Gofyn am gymorth gan eu mentor, tiwtor neu ddarlithydd os bydd pobl yn datgan eu bod yn anfodlon ar eu gofal neu eu triniaeth.

Staffio ac ailddilysu

22       O fis Ionawr 2016, bydd angen i nyrsys a bydwragedd gael eu hailddilysu bob tair blynedd. Ymhlith gofynion eraill, bydd hyn yn cynnwys dangos eu bod wedi cyrraedd y safonau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ac wedi myfyrio ar eu hymarfer, yn seiliedig ar ofynion y cod, gan ddefnyddio adborth defnyddwyr gwasanaeth, cleifion, perthnasau, cydweithwyr ac eraill.

23       Bydd proses ailddilysu yn sicrhau bod nyrsys a bydwragedd yn cael eu harfarnu'n rheolaidd, yn cyrraedd safonau'r Cod, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chodi pryderon, ac yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf drwy DPP.

Cydweithio ag eraill

24       Byddwn yn hysbysu'r rheoleiddiwr systemau priodol os byddwn yn canfod pryderon am ddarparwr pan fyddwn yn ymchwilio i atgyfeiriad addasrwydd i ymarfer neu fel rhan o'n gwaith o sicrhau ansawdd hyfforddiant nyrsys. Gallai pryderon o'r fath gynnwys honiadau o lefelau staffio anniogel neu achosion o gelu pryderon a godwyd gan staff. Rydym hefyd yn annog rheoleiddwyr systemau i'n hysbysu os oes ganddynt bryderon am ymddygiad neu ymarfer nyrsys neu fydwragedd unigol mewn perthynas â staffio neu unrhyw fater arall a gwmpesir gan y Cod.

 

 

 

 

 

Atodiad 1

 

Briff y Cyngor

 

Staffio priodol mewn lleoliadau iechyd a gofal

 

 

 Beth yw diddordeb y Cyngor mewn staffio?

 

Atgyfnerthwyd pwysigrwydd staffio priodol gan Adroddiadau Francis ar y methiannau yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolbarth Swydd Stafford yn Lloegr.  Mae staffio priodol yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddarparu iechyd a gofal diogel ac effeithiol. Gall staffio diogel fod yn faes cymhleth ac mae'n rhaid iddo ystyried nifer o ffactorau. Rhaid iddo ddiwallu anghenion cleifion ac mae ffactorau fel sgiliau staff, staff eraill a lleoliadau eraill cyn bwysiced â niferoedd, nyrsys ac ysbytai. Cyfrifoldeb darparwyr iechyda gofal yw staffio diogel, a gaiff eu rheoleiddio gan reoleiddwyr systemau ym mhedair gwlad y DU.

 

Fel rheoleiddiwr proffesiynol, nid cyfrifoldeb y Cyngor yw pennu na sicrhau safonau sy'n gysylltiedig â staffio priodol.

 

Fodd bynnag, mae'nfater sy'n effeithio ar yr hyn a wnawn mewn nifer o ffyrdd. Mae'r briff hwn yn nodi rhai o'r ystyriaethau rheoleiddiol a godwyd gan y mater hwn.

 

Beth mae'r Cod ar gyfer nyrsys a bydwragedd yn ei ddweud sy'n berthnasol i staffio?

 

Mae'r Cod yn gosod y safonau craidd o ran moeseg ac ymarfer a ddisgwylir gan nyrsys a bydwragedd. Bwriedir i'r Cod gefnogi aelodau cofrestredig drwy sicrhau bod eu hymarfer yn cyrraedd y safonau sy'n ofynnol gan eu proffesiynau.

 

Gall ffactorau amgylcheddol fel lefelau staffio effeithio ar allu nyrsys neu fydwragedd i gynnal gwerthoedd y Cod. Mae'r Cod yn nodi:

 

Rhaid i chi sicrhau mai gofalu am bobl yw eich prif flaenoriaeth, gan eu trin fel unigolion a pharchu eu hurddas

 

Mae'r brif ddyletswydd hon yn golygu y dylai nyrsys a bydwragedd fod yn wyliadwrus o ran diogelwch ac ansawdd:

 

Rhaid i chi weithio gyda chydweithwyr i fonitro ansawdd eich gwaith a chynnal diogelwch y sawl sydd yn eich gofal.

 

Mae hefyd yn golygu bod ganddynt ddyletswydd broffesiynol i weithredu neu godi eu llais os credant fod posibilrwydd y caiff ansawdd a diogelwch eu rhoi yn y fantol.

 

Rhaid i chi weithredu yn ddi-oed os credwch eich bod chi, cydweithiwr neu unrhyw un arall yn achosi perygl i rywun.

 

Rhaid i chi gofnodi eich pryderon yn ysgrifenedig os bydd problemau yn yr amgylchedd gofal yn rhoi pobl mewn perygl

 

Gofynnwn i nyrsys a bydwragedd gynnal y safonau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ynghyd â'r Cod:

 

Rhaid i chi hysbysu rhywun mewn awdurdod os cewch broblemau sy'n eich atal rhag gweithio o fewn y Cod hwn neu safonau eraill y cytunwyd arnynt yn genedlaethol.

 

I nyrsys a bydwragedd yn Lloegr, byddai hyn yn cynnwys canllawiau gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ar staffio diogel, a chanllawiau'r Bwrdd Ansawdd Cenedlaethol/Prif Swyddog Nyrsio a gyhoeddwyd yn 2013, How to ensure the right people, with the right skills, are in the right place at the right time.

 

Beth mae canllawiau'r Cyngor ar Godi Pryderon yn ei ddweud?

 

Mae ein canllawiau ar Godi Pryderon yn cynnwys rhestr o enghreifftiau o bryderon y dylid eu codi, gan gynnwys:

 

            Materion sy'n ymwneud â gofal yn gyffredinol, megis pryderon ynghylch adnoddau, cynhyrchion, pobl, staffio neu'r sefydliad yn gyffredinol

 

Y Cod, uwch aelodau cofrestredig a staffio

 

Mae byrddau athimau gweithredol yn gyfrifol ar y cyd am lefelau staffio priodol. Nid yw aelodau cofrestredig mewn uwch swyddi fel cyfarwyddwyr nyrsio, o reidrwydd yn gyfrifol yn unigol am lefelau staffio  priodol, ac nid yw pryderon o ran staffio bob amser yn golygu bod pryder ynghylch aelodau cofrestredig gweithredol. Fodd bynnag, mae'r Cod yn nodi:

 

Fel gweithiwr proffesiynol, rydych yn atebol yn bersonol am
weithredoedd neu anweithredoedd fel rhan o'ch ymarfer, a rhaid eich bod bob amser yn gallu cyfiawnhau eich penderfyniadau.

 

Gallai atgyfeiriad at y Cyngor godi pryderon ynghylchaddasrwydd unigolyn i ymarfer ar sail 'gweithredoedd neu anweithredoedd' uwch aelod cofrestredig. Byddai ffactorau fel y modd y pennwyd gofynion staffio, pa systemau oedd ar waith ar gyfer monitro'r rhain a pha mor dda y gwrandawyd ar bryderon yn ystyriaethau pwysig mewn achos o'r fath.

 

Rydym bob amser wedi bod yn glir bod y Cod yn gymwys i bob nyrs a bydwraig gofrestredig beth bynnag fo'i rôl a chwmpas ei hymarfer, gan gynnwys cyfarwyddwyr nyrsio sy'n aelodau o dimau arwain sy'n gyfrifol am lefelau staffio diogel. Dengys achosion addasrwydd i ymarfer diweddar y gall rheolwyr a chyfarwyddwyr gael eu cosbi am reoli gofal gwael yn yr un modd ag y gall nyrsys a bydwragedd rheng flaen gael eu cosbi am ddarparu gofal gwael.

 

Staffio ac addasrwydd i ymarfer

 

Mae ein prosesau addasrwydd i ymarfer yn profi ac yn pwyso a mesur tystiolaeth am gyfrifoldeb nyrsys a bydwragedd ac effaith yr amgylchedd fel mater o drefn. Os caiff nyrs ei hatgyfeirio at y Cyngor ar sail honiad sy'n ymwneud â staffio, mae'n bosibl y byddwn yn ystyried pa un a yw'r aelod cofrestredig wedi gwneud y canlynol:

 

·         codi pryderon

·         asesu tystiolaeth fod cleifion mewn perygl

·         ceisio lliniaru'r risg

 

Deallwn nad yw gwneud y penderfyniadau cywir am staffio ar lawr gwlad bob amser yn hawdd. Er enghraifft, gall gwrthod derbyn mwy o gleifion ar ward fod o fudd i gleifion sydd eisoes wedi eu derbyn ac yn cael eu trin, ond nid yw o bosibl o fudd i'r sawl sy'n aros i gael eu derbyn i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Hefyd, gall nyrsys fod yn cynghori rheolwyr gweithredol yn hytrach na'r rhai sy'n gyfrifol am reoli'n uniongyrchol. Mae atebolrwydd proffesiynol yn golygu bod yn barod i egluro penderfyniadau anodd a gallu dangos yn glir eich bod wedi gweithredu ar sail tystiolaeth dda ac er budd cleifion.

 

Bydd yr hyn a ddisgwyliwn gan aelodau cofrestredig yn dibynnu ar eu rôl a'u lefel -   gall fod disgwyliadau uwch ar gyfer cyfarwyddwr nyrsio yn hyn o beth nac ar gyfer rheolwr ward, er enghraifft. Fodd bynnag, dylai pob aelod cofrestredig fod yn ymwybodol o'i gyfrifoldeb unigol ac ar y cyd.

 

Staffio ac addysg  

 

Rydym yn pennu ac yn monitro safonau addysg ar gyfer nyrsys a bydwragedd, sy'n digwydd mewn sefydliadau addysg uwch (SAUau) ac mewn lleoliadau gofal iechyd. Gall pwysau ar staffio gael effaith ar leoliadau ymarfer, lle y gallant ei gwneud hi'n anos i nyrsys a bydwragedd neilltuo amser i gynorthwyo myfyrwyr. Gofynnwn i SAUau fonitro a lliniaru risgiau i leoliadau ymarfer. Os bydd gennym dystiolaeth bod posibilrwydd y gall lefelau staffio fod yn effeithio ar yr amgylchedd hyfforddi, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i ddarparwyr addysg ymchwilio i hyn a rhoi sicrwydd.

 

Heriau o ran recriwtio a chofrestru

 

Rhaid i bobl fod wedi'u cofrestru â'r Cyngor er mwyn ymarfer fel nyrsys neu fydwragedd yn y DU. Rydym yn cynnal budd y cyhoedd drwy bennu safonau ar gyfer cofrestru a'u cymhwyso'n gyson.  

 

Mae cofrestru'n gam diogelu pwysig, ond cyflogwyr sy'n bennaf cyfrifol am sicrhau eu bod yn cyflogi staff sydd â'r sgiliau a'r profiad cywir yn y swyddi cywir.

 

Gall prinder staff arwain at recriwtio dramor. Mae nyrsys tramor yn adnodd gwerthfawr i ddarparwyr gofal iechyd yn y DU. Fel arfer, mae'n cymryd mwy o amser i gofrestru ymgeiswyr tramor. Er bod ceisiadau o'r UE fel arfer yn gynt na cheisiadau nad ydynt o'r UE, mae angen i gyflogwyr gymryd cyfrifoldeb er budd cleifion am wiriadau ar faterion, fel cymhwysedd ieithyddol na all rheoleiddwyr eu gwneud yn ofynnol eto fel rhan o'r broses gofrestru.

 

Mae gan reoleiddwyr dargedau heriol ar gyfer cwblhau cofrestriadau gan fod ein perfformiad yn effeithio'n uniongyrchol ar y rheng flaen. Ond, er mwyn diogelu'r cyhoedd, rhaid i ni beidio â thorri corneli o ran sicrhau bod ymgeiswyr yn rhoi'r manylion cywir, a'u bod yn gymwys i wneud gwaith nyrsys a bydwragedd cofrestredig.

 

Fodd bynnag, gallwn wneud rhai pethau i helpu:

 

·         Rhoi canllawiau clir o ran y wybodaeth sydd ei hangen arnom i reoli'r broses gofrestru gychwynnol a'r broses adnewyddu

 

·         Bod yn gymesur - dim ond gofyn am yr hyn sydd ei angen i ddiogelu'r cyhoedd

 

·         Prosesu cofrestriadau cyn gynted â phosibl, yn unol â chymryd y camau angenrheidiol er mwyn gwirio cymhwysedd

 

·         Cydweithredu fel y bo'n briodol â chyrff gweithluoedd wrth arwain ymgyrchoedd recriwtio a dychwelyd

 

Cydweithio ag eraill

 

Byddwn yn hysbysu'r rheoleiddiwr systemau priodol os byddwn yn canfod pryderon am ddarparwr pan fyddwn yn ymchwilio i atgyfeiriad addasrwydd i ymarfer neu fel rhan o'n gwaith o sicrhau ansawdd hyfforddiant nyrsys. Gallai pryderon o'r fath gynnwys honiadau o lefelau staffio anniogel neu achosion o gelu pryderon a godwyd gan staff.  Rydym hefyd yn annog rheoleiddwyr systemau i'n hysbysu os oes ganddynt bryderon am ymddygiad neu ymarfer nyrsys a bydwragedd unigol mewn perthynas â staffio neu unrhyw fater arall a gwmpesir gan y Cod.

 

 

Cyfeiriad gwefany Cyngor: http://www.nmc-uk.org/About-Us/Safe-staffing

 

Cyfeiriadau

 

2il adroddiad Francis

 

DH (2013) Hard Truths

 

NQB/CNO (2013) How to ensure the right people, with the right skills, are in the right place at the right time.

 

Data ar ddiogelwch (Mehefin 2014)

 

Mehefin 2014

 



[1] Y Cod: Safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg ar gyfer Nyrsys a Bydwragedd (2008), y Cyngor. (http://www.nmc-uk.org/Publications/Standards/The-code/Introduction/)