National Assembly for Wales / Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
Health
and Social Care Committee /
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Inquiry into alcohol and substance misuse / Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau
Evidence from National Union of Students – ASM 28 / Tystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr – ASM 28
UCM ac UCM Cymru Gwybodaeth ar gyfer y Pwyllgor Dethol ar Iechyd
Ymchwil sy'n bodoli eisoes ar fyfyrwyr ac ymddygiad yfed:
Ar hyn o bryd mae 2.5 miliwn o fyfyrwyr mewn addysg uwch ym Mhrydain, sy'n cynnwys 43% o holl boblogaeth y wlad sydd rhwng 18 a 24 oed[i]. Mae 165 o sefydliadau addysg uwch. Mae tystiolaeth bod myfyrwyr yn aml yn yfed mwy na'r rhan fwyaf o oedolion ifanc; mae honiadau eu bod yn yfed bron i ddwbl y cyfartaledd bob wythnos o bob math o ddiodydd[ii].
Mae myfyrwyr yn nodi eu bod yn yfed bron i ddwywaith y cyfartaledd o'r rhan fwyaf o ddiodydd, gyda bron i dair gwaith y nifer o wydrau o win[iii]. Hefyd mae'n fwy cyffredin i fyfyrwyr fynd allan â'r bwriad o feddwi, o gymharu ag oedolion ifanc yn gyffredinol, gyda 53%[iv] vs. 48%[v] yn honni eu bod yn gwneud hynny o leiaf unwaith yr wythnos, er bod myfyrwyr yn nodi nad ydynt yn meddwi'n anfwriadol mor aml (32%[vi] vs. 37%[vii]).
Mae dechrau yn y brifysgol yn cychwyn cyfnod newydd mewn bywyd i fyfyrwyr, gyda llawer yn symud oddi cartref, canfod ffrindiau newydd a byw ar eu pen eu hunain am y tro cyntaf. Golyga'r lefel yma o newid bywyd fod myfyrwyr yn dueddool o feithrin arferion ac ymddygiad newydd tra eu bod yn y brifysgol[viii]. Ymddengys fod hyn yn allweddol o ran y defnydd o alcohol, gyda'r disgwyliadau sy'n perthyn i'r dull o fyw yn y brifysgol, yn ogystal â dylanwad cyfoedion, yn tueddu i annog myfyrwyr newydd i feithrin patrymau yfed niweidiol.
Ymddengys fod 85% o fyfyrwyr yn credu bod yfed a meddwi yn rhan annatod o brofiad myfyrwyr, a bod disgwyl i unigolion yfed yn eithafol[ix]. Mae'r gred hon yn creu cylch dieflig lle mae canfyddiadau bod myfyrwyr eraill yn yfed, a bod meddwi'n rhan annatod o brofiad prifysgol, yn gwthio myfyrwyr i yfed mwy na'r hyn y byddent fel arall.
Er gwaetha'r gred bod meddwi'n rhan annatod o fywyd prifysgol, mae 40% o fyfyrwyr yn nodi bod yfed alcohol wedi cael effaith negyddol ar eu bywyd yn y brifysgol yn gyffredinol[x]. Mae myfyrwyr yn nodi eu bod yn dioddef yr un fath o niwed sy'n perthyn i alcohol â'r boblogaeth yn ehangach, gyda thueddiad ychydig yn uwch o fynd i drafferthion â'r heddlu (er nad yw'r ystadegau'n dangos hynny)[xi].
Mae pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o gael eu atgyfeirio gan eu meddyg am ddibynaeth ar alcohol neu ei gamddefnyddio nag unrhyw sylwedd arall. Mae hynny'n rhoi straen enfawr ar y GIG yng Nghymru. Mae ffigyrau atgyfeiriadau wedi bod yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac fe groesawir hynny. Gobeithiwn y bydd y duedd hon yn parhau. Ceir mwy o wybodaeth yma.
Mae ymateb prifysgolion Prydain i yfed eithafol wedi bod yn gymysg; mae staff prifysgolion yn cydnabod rhai o'r materion sy'n perthyn i fyfyrwyr sy'n yfed yn eithafol, ond hyd yma, nid yw'n flaenoriaeth. Er ei fod yn ymddangos bod gan y rhan fwyaf ohonynt bolisïau alcohol, maent yn wahanol ym mhob prifysgol, ac mae'r lefel o wybodaeth amdanynt ymysg staff yn isel iawn.
Mae'n bwysig nodi yma nad yw myfyrwyr yn grŵp homogenaidd o bobl, ac mae eu hymddygiad o ran yfed yn adlewyrchu hyn. Caiff ymddygiad yfed myfyrwyr ei ddylanwadu gan amrywiaeth eang o wahanol ffactorau. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis peidio ag yfed am nifer o resymau cymdeithasol neu ddiwylliannol.
Mae llawer o'r erthyglau ynglŷn â myfyrwyr prifysgolion Prydain a mynd ar sbri yn gyfyngedig i astudiaethau prifysgol unigol neu rwpiau myfyrwyr penodol felly dylid bod yn ofalus cyn allosod y canfyddiadau hyn i'r boblogaeth ehangach. Mae undebau myfyrwyr a chaplaniaethau yn draddodiadol wedi arwain y ffordd yn y maes hwn, ond mae eu hymdrechion wedi canolbwyntio ar ardaloedd penodol o'r campws, ac eto maent yn ymdrin â chanlyniadau yn hytrach nag atal y sefyllfa. Er mwyn creu newid, mae angen arnom ymagweddiad ar draws y sefydliad cyfan tuag at y defnydd cyfrifol o alcohol.
Gwaith blaenorol gan UCM ar y defnydd cyfrifol o alcohol:
Yn y gorffennol, mae UCM wedi gweithio gyda Drinkaware i gynnal ymgyrch 'Pam gadael i'r chwarae droi'n chwerw?' mewn undebau myfyrwyr ledled y DU, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn arddangos defnyddiau'r ymgyrch, a nifer llai yn dod â'r ymgyrch yn fyw ar eu campws drwy nosweithiau clwb noddedig.
Er y bu'r ymgyrch yn eithaf llwyddiannus dros ei chyfnod o bum mlynedd, canfu gwerthusiad Drinkaware nad oedd wedi cyflawni symudiad arwyddocaol mewn ymddygiad oedolion ifanc ac awgrymodd ymagweddiad gwahanol a oedd angen ei chymryd (Adolygiad annibynnol ymddiriedolaeth Drinkaware, 2013[xii]).
Mae UCM hefyd wedi gweithio gyda Drinkaware, y Swyddfa Gartref a Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu i gynhyrchu canllawiau ar gyfer undebau myfyrwyr a swyddogion gorfodaeth trwyddedau ar sut i weithio mewn partneriaeth a mynd i'r afael â'r problemau sy'n gysylltiedig â crolau tafarn masnachol. Roedd hyn mewn cydnabyddiaeth i'r lefelau uchel o yfed alcohol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n digwydd yn ystod y digwyddiadau hyn, yn ogystal â'r effeithiau ar iechyd a lles myfyrwyr yn eu sgil.
Gyda thwf mewn llenyddiaeth ar ganfyddiadau o normau cymdeithasol fel dulliau o ragweld ymddygiad yfed, yn ogystal â bod yn ffocws i ymyriadau, gwelwyd sawl peilot ar gyfer herio normau cymdeithasol gyda'r nod o newid patrymau yfed myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys gwaith a wnaed yn 2011, gan DECIPHer, mewn partneriaeth ag UCM Cymru a Drinkaware, i asesu canfyddiadau myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol o ymddygiad yfed eu cyfoedion a chanlyniadau'r ymddygiad yma mewn pedair prifysgol yng Nghymru. Ceir mwy o wybodaeth yma. Serch hynny, mae'n anodd ffurfio unrhyw gasgliad ynglŷn ag effeithiolrwydd y math yma o ymyriadau, gan fod y dystiolaeth ar gyfer eu llwyddiant yn gymysg.
Tra bod diffyg tystiolaeth o ran ymagweddiadau tuag at newid ymddygiad yn y DU parthed y defnydd o alcohol, mae enghreifftiau'n bodoli o feysydd eraill, yn arbennig o ran mentrau amgylcheddol mewn prifysgolion. Mae'r cynllun Effaith Gwyrdd a gynhelir gan UCM yn fenter achrediad a gwobrwyo ar gyfer timoedd ac adrannau ar draws sefydliadau, lle caiff staff eu hannog a'u cynorthwyo i newid eu harferion yn y gweithle i rai mwy amgylcheddol gynaliadwy.
Fe'i datblygwyd am y tro cyntaf yn 2006, ac mae bellach yn fodel ar gyfer newid ymddygiad ac ymgysylltiad staff a ddefnyddir gan dros 155 o sefydliadau mewn gwahanol sectorau. Llynedd, fe wnaeth 40,000 o aelodau staff 25,000 o newidiadau o ganlyniad i'r rhaglen ar draws 46 o brifysgolion a cholegau a 105 o undebau myfyrwyr. Mae'r rhaglen wedi bod mor llwyddiannus, nes ei bod bellach wedi cael ei hymestyn i redeg mewn ysbytai, busnesau bach, deintyddfeydd a nifer o ysgolion.
Ceir ystod o ffactorau, yn unigryw i gampws y brifysgol, sy'n dylanwadu ar fyfyrwyr a'u hannog i yfed mwy na'r cyfartaledd ar gyfer oedolion ifanc. Mae angen mynd i'r afael â'r rhain cyn y gellir bod yn llwyddiannus mewn anfon negeseuon uniongyrchol i fyfyrwyr. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu, unwaith y caiff patrymau yfed niweidiol eu sefydlu yn y brifysgol, eu bod yn fwy tebygol o barhau yn nes ymlaen mewn bywyd.
Rhagarweiniad i Weithredu ar Alcohol
Mae UCM ac UCM Cymru'n cymryd lles myfyrwyr o ddifrif, ac mae ein Cynllun Gweithredu ar Alcoholyn gweithio gydag undebau myfyrwyr a sefydliadau i newid ymagweddiadau tuag at yfed ac adeiladu cymunedau myfyrwyr iachach, diogelach a mwy cynhyrchiol.
Mae ein peilot yn rhedeg ar draws Lloegr a Chymru. Rydym yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe yng Nghymru; gweler rhestr o'r sefydliadau rydym yn gweithio gyda hwy yn Lloegr ar dudalen 3 o'r ddogfen hon. Unwaith y gellir dangos newid mewn ymddygiad, buasem yn gobeithio gweld y rhaglen yn lledaenu'n gyflym ar draws sefydliadau'n genedlaethol.
Mae'r wybodaeth sydd ar gael i ni'n o hyd yn gyfyngedig, ac ni allwn ddeall y darlun cyflawn ar gyfer myfyrwyr prifysgol a'r hyn sy'n gweithio o ran newid ymddygiad yfed y grŵp hwn. Gobeithiwn y gallwn ni, gyda chanfyddiadau ein peilot Gweithredu ar Alcohol, ganfod ac argymell polisïau effeithiol. Ceir isod crynodeb o'n peilot.
Crynodeb o'r peilot Gweithredu ar Alcohol
![]() |
1. Cefndir
Yn Ebrill 2013, dechreuwyd ystyried sut y gallem efallai newid ymddygiad myfyrwyr drwy greu norm cymdeithasol ar gyfer lefel cyfrifol o yfed ar adeg allweddol o newid mewn bywydau myfyrwyr. Roedd hynny'n adeiladu ar waith UCM parthed newid ymddygiad er lles yr amgylchedd, a dderbyniodd gyllido catalyst gan Defra yn 2010/11.
Y canlyniad yw y bydd UCM yn ceisio lleihau'r troseddau a'r anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol drwy gynnal cynllun peilot blaengar ar draws y sefydliad cyfan gyda'r nod o newid ymddygiad, sef Gweithredu ar Alcohol. Byddwn yn cyflawni hyn drwy greu marc achrediad y bydd prifysgolion yn ei weld fel 'bathodyn anrhydedd'. Bydd hwn yn darparu fframwaith a fydd yn galluogi sefydliadau ac undebau myfyrwyr i ymgymryd ag ymyriadau pwysig ac effeithlon drwy bolisi, gweithdrefnau, adwerthu a llety a fydd yn y pen draw yn arwain at norm cymdeithasol ar draws y sefydliad cyfan o yfed cyfrifol gyda'r potensial i greu argraff barhaol drwy newid ymddygiad a meithrin arferion.
Yn ogystal â dangos effeithiau y gellir eu priodoli i'r ymyriadau, byddwn yn creu sail dystiolaeth gadarn o'n gwaith, sy'n nodi'r cysylltiadau rhwng myfyrwyr, alcohol, throseddau ac anhrefn. Bydd hwn yn fan cychwyn i ddatblygiad ac esblygiad y rhaglen.
2. Sut y dewiswyd y prifysgolion
Mae ein model yn seiliedig ar greu partneriaeth gref rhwng undebau myfyrwyr a'r sefydliadau maent yn perthyn iddynt. Dewiswyd ystod o sefydliadau ar gyfer y peilot er mwyn sicrhau ei fod yn cynrychioli amrywioldeb y sector. Roedd yr amrywiaeth yma'n cynnwys grwpiau cenhadaeth sefydliadol (e.e. Grŵp Russell, Million+, ayyb.) eu lleoliad daearyddol (campws vs. trefol; de vs. gogledd); demograffeg (tarddiad ethnig ac oedran y myfyrwyr), yn ogystal â cheisio ffurfio clystyrau er mwyn creu deialog leol a'n helpu gyda chyflwyno'r prosiect. Nododd y Swyddfa Gartref hefyd fod rhai o'r sefydliadau hyn yn eu hardaloedd gweithredu lleol.
Yn ystod y flwyddyn beilot, byddwn yn gweithio gyda'r wyth sefydliad canlynol:
Enw'r Bartneriaeth |
Nifer o fyfyrwyr |
Prifysgol ac Undeb Myfyrwyr John Moores, Lerpwl |
22,585 |
Prifysgol ac Undeb Myfyrwyr Loughborough |
15,460 |
Prifysgol ac Undeb Myfyrwyr Metropolitan Manceinion |
32,465 |
Prifysgol ac Undeb Myfyrwyr Royal Holloway Llundain |
9,565 |
Prifysgol ac Undeb Myfyrwyr Abertawe |
14,360 |
Prifysgol ac Undeb Myfyrwyr Brighton |
21,310 |
Prifysgol ac Undeb Myfyrwyr Canol Swydd Gaerhirfryn (y gymhariaeth) |
28,720 |
Prifysgol ac Undeb Myfyrwyr Nottingham |
35,540 |
|
180,005 |
3. Meini prawf ar gyfer achrediad a chyflwyno sgôr
Ym Mawrth 2014 cynhaliwyd gweithdy cydweithredol er mwyn rhoi cyfle i bob un o'r saith partneriaeth beilot gyfarfod â ni, y Swyddfa Gartref a hefyd ei gilydd. Yn ogystal â hyn, roedd yn gyfle i ganfod mwy ynglŷn â thueddiadau cyfredol mewn ymchwil o amgylch alcohol a myfyrwyr, ac i rannu'r mathau o ymyriadau sydd wedi cael eu gweithredu o'r blaen. Roedd hefyd yn ddull o gasglu syniadau ganddynt ar gyfer y meini prawf fyddai'n ffurfio sylfaen i Weithredu ar Alcohol.
Yn sgil hynny, lluniwyd y meini prawf ar gyfer achrediad, ar y cyd â'r Partneriaethau a'r Swyddfa Gartref drwy gyfres o drafodaethau agored. Helpodd y broses hon i sefydlu teimlad pwysig o berchenogaeth ymhlith y sefydliadau sy'n bartneriaid.
Mae gennym 46 o feini prawf [A1-01 – A1-46], sy'n cynnwys 17 o feini prawf gorfodol a 29 o rai dewisol. Mae hynny'n rhoi sgôr o 181 ac rydym wedi gosod y trothwy ar gyfer achrediadar 60% o'r marciau, sef sgôr o 109 neu fwy, gan gynnwys pwyntiau o'r meini prawf gorfodol (70 pwynt). Yn ychwanegol i hyn, ceir opsiwn i ffurfio tri maen prawf sy'n benodol i safleoedd [A1-47–A1-49]. Mae hynny'n caniatáu i bartneriaethau peilot lunio'r gweithlyfr, gan ei deilwra'n benodol ar gyfer eu hanghenion lleol. Rhoddir sgôr rhwng 1 a 10 ar gyfer pob maen prawf o ran pa mor anodd ydyw (rhoddir 1 i'r un sy'n creu'r lleiaf o effaith ac sydd hawddaf i'w weithredu, a 10 i'r un sy'n creu'r effaith fwyaf a'r anoddaf i'w weithredu).
4. Gweithlyfr a microwefan
Mae'r gweithlyfr yn cynnwys gwybodaeth bellach ynglŷn â pham ein bod yn gofyn i fod un o'r meini prawf gael ei gyflawni, yr ymchwil tu ôl i hyn, sut y byddwn yn asesu pob maen prawf a chysylltu hyn ag enghreifftiau o arfer da. Rydym hefyd wedi lansio ein meicrowefan, a byddwn yn parhau i'w diweddaru dros y misoedd sydd i ddod. Bydd hyn yn cynnwys enghreifftiau o ymyriadau a rhannu arferion da, felly buasem yn eich cynghori i gyfeirio'n ôl ati!
5. Grwpiau llywio
Mae partneriaethau peilot wrthi'n gweithio drwy'r meini prawf i weld sut y gallant lwyddo a'r hyn maent eisiau ei gyflawni yn eu sgil.
Mae un o'r meini prawf gorfodol yn gofyn i bartneriaethau peilot ffurfio grŵp llywio - grŵp o unigolion allweddol a all gefnogi menter Gweithredu ar Alcohol gydol cyfnod y peilot. Mae pob partneriaeth beilot bellach wedi ffurfio eu grwpiau llywio. Oherwydd natur y rhaglen, mae cefndir aelodau'r grŵp yn amrywio'n lleol. Dylai grwpiau llywio gael eu harwain gan fyfyrwyr ac maent yn debygol o gynnwys gwasanaethau masnachol, gwasanaethau myfyrwyr, staff dysgu, llunwyr polisi, uwch-reolwyr y brifysgol, staff a swyddogion undeb y myfyrwyr.
Ynghyd â chymysgedd amrywiol o swyddogaethau mewnol, mae rhai grwpiau llywio'n cynnwys cyfranogiad nad yw'n ariannol gan randdeiliaid allanol megis y Gwasanaeth Iechyd, yr Heddlu, cyngor y ddinas a'r gwasanaeth tân.
6. Ymyriadau
Trwy ymyriadau wedi eu cynllunio'n ofalus gan ddefnyddio'r model Unigol, Cymdeithasol a Defnyddiau (ISM), a gyda chefnogaeth awdur ISM, Andrew Darnton, rydym wedi gweithio gyda'r sefydliadau peilot a'u hundebau myfyrwyr i ddatblygu ymyriadau sy'n ffurfio'r meini prawf. Fel rhan o'r meini prawf gorfodol [A1-35], mae angen i bob partneriaeth gynnal peilot ar gyfer o leiaf un ymyriad blaengar parthed y defnydd cyfrifol o alcohol.
Mae'r partneriaethau wedi ffocysu ar amrywiaeth o wahanol faterion lleol, sydd wedi cynnwys:
· Myfyrwyr yn yfed ymlaen llaw mewn neuaddau
· Difrod mewn neuaddau
· Pwysedd gan gyfoedion i yfed mwy na mae myfyrwyr eisiau
· Diogelwch mewn parti tŷ
· Diogelwch myfyrwyr ar ôl noson allan
· Yfed a gyrru
· Gor-yfed
Mae ymyriadau wedi cynnwys:
· Defnydd o'r anadliedydd fel arf adborth addysgol
· Ymgyrchoedd cyfathrebu, darnau fideo
· Mannau ar gyfer alcohol / mannau tawel mewn digwyddiadau mawr
· Cynlluniau tacsis diogelach
· Gweithio gyda chynorthwy-wyr y glas er mwyn datblygu addewidion i newid diwylliant wythnosau croeso i ffocysu ar ddigwyddiadau nad ydynt yn ymwneud ag alcohol, megis 'raveminton' a digwyddiadau eraill.
· Gweithio gyda chwmnïoedd allanol i drefnu digwyddiadau di-alcohol, megis darparu bwyd a diodydd di-alcohol am ddim.
7. Y peilot
Cynhelir y peilot cyntaf rhwng Ebrill 2014 ac Ebrill 2015. Yn ddibynnol ar ganlyniadau'r peilot hwn, bydd y Swyddfa Gartref yn ystyried darparu cyllid ar gyfer ail flwyddyn er mwyn caniatáu i UCM gynyddu maint y prosiect. Gobeithir na fydd angen grant ar gyfer y drydedd flwyddyn, gan y bydd UCM yn disgwyl i'r cynllun ehangu'n gyflym, gan ariannu ei hun, gyda sefydliadau'n talu i gael eu harchwilio a'u hachredu.
8. Monitro a gwerthuso effaith
Bwriedir defnyddio tri arolwg, ynghyd ag astudiaethau dyddiadur a grwpiau ffocws i fonitro newidiadau mewn ymagweddiad ac ymddygiad. Byddwn hefyd yn cofnodi profiadau o droseddau ac anhrefn dros gyfnod y peilot.
9. Archwilio
Byddwn yn recriwtio tîm o fyfyrwyr o brifysgolion a cholegau cyfagos i weithredu fel archwilwyr gwirfoddol, a chânt eu hyfforddi (ynghyd â staff o'r mudiad lle bo hynny'n briodol) i archwilio'r rhaglen ym Mawrth/Ebrill 2015. Caiff pob Partneriaeth eu harchwilio i gadarnhau canlyniadau'r rhaglen, i ddarparu cefnogaeth i dimoedd, a chanfod enghreifftiau o arferion da. Bydd UCM yn goruchwylio'r broses archwilio er mwyn sicrhau hygrededd, cysondeb a thegwch.
Unwaith y bydd canlyniadau wedi cael eu cadarnhau, cynhelir digwyddiad gwobrwyo Gweithredu ar Alcohol ym Mehefin 2015 i ddathlu cyraeddiadau unigol ac ar y cyd ein saith partneriaeth beilot. Mae'n fwriad gennym i ail-asesu'r Partneriaethau bob tair blynedd ar gyfer yr achrediad.
Colum McGuire, IL Lles UCM
Beth Button, Llywydd UCM Cymru
07 Ionawr 2015
Ôl-nodiadau
[i] Geall, J. cynhadledd Youth Marking Strategy 2013, a gynhaliwyd 16eg Ebrill 2013
[ii] Gwasanaethau UCM Cyf. (2013), gwerthusiad o ymgyrch ‘Pam gadael i'r chwarae droi'n chwerw?’ a gomisiynwyd gan Drinkaware.
[iii] Ibid
[iv] Gwasanaethau UCM Cyf. (2013), op. cit.
[v] Millward Brown (2012), op. cit.
[vi] Gwasanaethau UCM Cyf. (2013), op. cit.
[vii] Millward Brown (2012), op. cit.
[viii] Thompson, S. et al (2011),“Moments of change‟ as opportunities for influencing behaviour: A report to the Department for Environment, Food and Rural Affairs’, The New Economics Foundation, Defra, Llundain
[ix] Gwasanaethau UCM Cyf. (2013), op. cit.
[x] Gwasanaethau UCM Cyf. (2013), op. cit.
[xi] Ymchwil APA gan Drinkaware, a baratowyd gan Ipsos MORI, 2013
[xii] Adolygiad annibynnol Ymddiriedolaeth Drinkaware (2006-2012), wedi'i baratoi gan 23red, 2013