Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 20 Tachwedd 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.47 - 12.35 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC John Griffiths AC Elin Jones AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Margaret Provis, Llywodraeth Cymru Alistair Davey, Llywodraeth Cymru Anthony Jordan, Llywodraeth Cymru Mike Lubienski, Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Sarah Watkins, Llywodraeth Cymru Andrea Gray, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Blaenraglen waith y Pwyllgor
1.1 Bu'r Aelodau'n trafod y flaenraglen waith, gan gytuno y byddent yn dod yn ôl at yr eitem hon ar ddyddiad arall.
2 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Cafwyd ymddiheuriad gan Darren Millar.
3 Gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: sesiwn friffio ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
3.1 Atebodd y swyddogion gwestiynau gan Aelodau.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i nodi ei fwriad i ystyried gosod y rheoliadau drafft o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â chymhwystra.
4 Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog
4.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
5.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cynllun recriwtio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
5.2 Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Prif Swyddog Meddygol: gwybodaeth ychwanegol gan y Prif Swyddog Meddygol
5.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y Prif Swyddog Meddygol ynghylch y Cynllun Gofal Sylfaenol.
5.3 Ymchwiliad i broses gwynion y GIG: gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
5.3a Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i broses gwynion y GIG.
5.4 Blaenraglen waith y Pwyllgor
5.4a Nododd y Pwyllgor raglen waith amlinellol y Pwyllgor o fis Ionawr tan fis Mawrth 2015.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.2 Cynigiodd y Cadeirydd hefyd i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 1 o'r cyfarfod ar 26 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix). Cytunwyd ar hyn.
7 Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.