Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 26 Tachwedd 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.06 - 12.09 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC John Griffiths AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru Dr Sarah Watkins, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Clerc) Rhys Morgan (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Blaenraglen waith y Pwyllgor
1.1 Bu’r Aelodau’n trafod y flaenraglen waith, gan gytuno y byddent yn dod yn ôl at yr eitem hon ar ddyddiad arall.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
3 Sesiwn graffu gyffredinol ar waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
3.1 Bu’r Comisiynydd yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
3.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor yn amlinellu’r pwyntiau sydd fwyaf perthnasol i’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) sydd ar ddod, sy’n deillio o’i hadolygiad o ansawdd bywyd a gofal i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
4 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): sesiwn dystiolaeth 7
4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor yn nodi’r amcangyfrif o gostau i GIG Cymru o’r carchar arfaethedig yng Ngogledd Cymru.
5 Papurau i’w nodi
5.0a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd a 12 Tachwedd 2013.
5.1 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd: gohebiaeth gan y Prif Weinidog
5.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.
5.2 Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Meddygol: gwybodaeth ychwanegol gan y Prif Swyddog Meddygol
5.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Prif Swyddog Meddygol.
5.3 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2015-16: gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid
5.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid a chytunodd i drafod y llythyr yn fanylach yn ei gyfarfod nesaf ar 10 Rhagfyr.
5.4 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru: gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
5.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Sesiwn graffu gyffredinol ar waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: ystyried y dystiolaeth a gafwyd.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”): ystyried y dystiolaeth a gafwyd
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.