Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27 Tachwedd 2014 i'w hateb ar 2 Rhagfyr 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y goblygiadau i Gymru o argymhellion adroddiad y comisiwn Smith? OAQ(4)2001(FM)W

 

2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gysylltiadau rhwng Cymru a Tseina? OAQ(4)1995(FM)

 

3. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fewnfuddsoddi yng Nghymru? OAQ(4)2003(FM)

 

4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau buddsoddiad mewn rheilffyrdd yng ngogledd Cymru? OAQ(4)1989(FM)

 

5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy? OAQ(4)1996(FM)

 

6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru yn ystod y 12 mis nesaf? OAQ(4)1991(FM)

 

7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddichonoldeb ailagor y rheilffordd o Gaerwen i Amlwch? OAQ(4)2002(FM)W

 

8. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd yng nghynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(4)1998(FM)W

 

9. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo'r sector organig yng Nghymru? OAQ(4)1993(FM)

 

 

10. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y dirwasgiad economaidd ar berthnasau personol? OAQ(4)2000(FM)

 

11. Gwyn Price (Islwyn): Pa gamau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi busnesau bach yn Islwyn? OAQ(4)2004(FM)

 

12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd toiledau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)1988(FM)

 

13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi diweddariad i'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol?OAQ(4)1992(FM)W

 

14. Sandy Mewies (Delyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i liniaru effeithiau diwygiadau lles Llywodraeth y DU? OAQ(4)1997(FM)

 

15. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am newidiadau i'r cynllun bathodyn glas? OAQ(4)1990(FM)