Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

CFP(4)-03-11 papur 3

 

TYSTIOLAETH YSGRIFENEDIG LLYWODRAETH CYMRU I GRŴP GORCHWYL A GORFFEN PWYLLGOR YR AMGYLCHEDD A CHYNALIADWYEDD AR DDIWYGIO’R POLISI PYSGODFEYDD CYFFREDIN (PPC)

 

Crynodeb Gweithredol

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am reoli pysgodfeydd ym moroedd tiriogaethol Cymru (0-12 milltir fôr) a rhoi’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ar waith ym mharth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi yn fras y materion pennawd o dan y cynigion i ddiwygio’r PPC. Fodd bynnag, nid yw’r manylion wedi’u cyflwyno eto ac mae pryder yn parhau yn hyn o beth.

 

Er enghraifft, byddem yn cefnogi pob mesur i roi terfyn ar yr arfer o daflu pysgod yn ôl ond mae angen i’r cynigion fod yn ymarferol a bod modd eu gorfodi. Ar ben hyn, ymddengys bod y cynigion i fasnacheiddio hawliau pysgota fel ffordd o leihau’r capasiti gormodol sy’n cael ei amgyffred yn y sector hefyd yn synnwyr cyffredin. Fodd bynnag, rhaid bod mesurau i amddiffyn swyddi pysgota arfordirol bach mewn cymunedau gwledig, neu mae perygl y bydd nifer fechan o fentrau masnachol mawr yn prynu neu’n buddsoddi yn yr hawliau pysgota hyn.

 

Fodd bynnag, nid yw’r cynigion yn mynd mor bell mewn rhai meysydd ag yr amlinellodd y Comisiwn yn ei bapur gwyrdd. Er enghraifft, roedd awydd clir gan y Comisiwn Ewropeaidd i ddatganoli’r broses gwneud penderfyniadau. Bydd angen i ni aros i weld manylion y cynnig hwn ond ymddengys y byddai’r Comisiwn yn ffafrio penderfynu ar gyfleoedd pysgota drwy gynllun rheoli rhanbarthol hirdymor yn hytrach na dirprwyo i Aelod-wladwriaethau rhanbarthol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i’r trafodaethau presennol ar lefel y DU. Cyflwynir ymateb y DU i gynigion y Comisiwn ym mis Tachwedd eleni. Ar hyn o bryd rwy’n cael ar ddeall bod disgwyl i Senedd Ewrop roi adroddiad ar y cynigion ddiwedd yr haf 2012. Drwy gydol y cyfnod hwnnw byddaf yn parhau i weithio gyda’m haelodau cyfatebol yn y DU i sicrhau llais i Gymru yn y trafodaethau sydd i ddod.

 

 

 

 

 

Materion Allweddol

 

·            Taflu Pysgod yn Ôl: Mae’n rhaid rhoi terfyn ar yr arfer o daflu pysgod marw neu sy’n marw yn ôl. Mae angen rhagor o fanylion gan y Comisiwn ond mae’n rhaid i’r mesurau fod yn ymarferol a bod modd eu gorfodi. 

 

·            Hawliau Pysgota Cyfnewidiadwy: Rydym yn cefnogi defnyddio hyn i ddelio â chapasiti gormodol yn y sector masnachol mwy sy’n dal y rhan helaeth o bysgod, ond mae angen mesurau i amddiffyn pysgodfeydd arfordirol bach. 

 

·            Rhanbartholi: Mae siom ynghylch y diffyg rhanbartholi yn y cynigion.

 

·            Pysgota arfordirol bach: Wrth ddiwygio’r PPC dylid cydnabod pwysigrwydd y sector mewndirol a sicrhau bod unrhyw newidiadau’n ystyried yr effeithiau posibl ar gymunedau arfordirol bregus.

 

 
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


  1. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r cyfle i ystyried Rheoliad arfaethedig Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (y cyfeirir ato wedi hyn fel y ‘PPC’). Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu at ddatblygu safbwynt y DU ar y PCC, ac rydym yn cytuno’n fras â’r Polisi. Fodd bynnag, mae rhai problemau mwy difrifol yng Nghymru ac rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i’w crybwyll yma.

 

Cefndir

 

  1. Caiff pysgota’i reoleiddio o dan y PPC, a chan lywodraethau cenedlaethol yr Aelod-wladwriaethau. Yn y DU mae rheoli pysgodfeydd wedi’i ddatganoli gyda’r holl weinyddiaethau pysgodfeydd yn cyfrannu at safbwynt y DU ar faterion Ewropeaidd. Fodd bynnag, Llywodraeth y DU, ac yn fwy penodol Gweinidog DEFRA, sy’n cadw cyfrifoldeb cyffredinol dros faterion Ewropeaidd. Caiff fflyd bysgota’r DU ei rhannu’n 3 sector. Yn gyntaf ceir ‘y sector’, sef cychod diwydiannol mawr gan fwyaf (dros 10m) sy’n berchen i Gyrff Cynhyrchwyr (sefydlwyd Cyrff Cynhyrchwyr o dan gyfraith yr UE ac maent yn rheoli cwota’u haelodau). Yr ail yw’r cychod ‘di-sector’ dros 10m nad ydynt yn perthyn i Gorff Cynhyrchwyr. Rheolir eu cwota gan y Llywodraeth drwy system gydgasglu. Y trydydd sector, a’r pwysicaf o safbwynt Cymreig, yw’r ‘dan 10’. Cychod o dan 10m yw’r rhain nad ydynt yn aelod o Gorff Cynhyrchwyr, a chaiff eu cwota ei reoli yn ôl terfynau dalfeydd misol sy’n cael eu gosod gan y Llywodraeth drwy system gydgasglu.

 

  1. Mae oddeutu 460 o gychod pysgota cofrestredig yng Nghymru, ond ychydig yw’r rhai sy’n berchen i Gyrff Cynhyrchwyr ac mae’r mwyafrif llethol (dros 90%) yn llai na 10 metr. Mae’r fflyd felly bron yn llwyr o dan ofal a rheolaeth y Llywodraeth. Mae’r cychod hyn yn rhy fach i deithio’n bell, ac ni allan bysgota am amser hir nac mewn tywydd garw. O gymharu gall y cychod mawr sy’n dominyddu’r sector bysgota yn y rhan fwyaf o dywydd, gallant bysgota am fwy o amser a gallant ddal llawer mwy o bysgod. Felly gall cyfle pysgota cymharol fach (h.y. cwota) gynnal nifer anghyfrannol o fawr o swyddi mewn cymunedau arfordirol bach lle ceir prin gyfleoedd gwaith eraill.

 

  1. Yn 2010, glaniodd cychod y DU werth £17.6 miliwn o bysgod a physgod cregyn yng Nghymru, oedd yn fwy nag yn 2009 (£16.6 miliwn) ond yn llai nag yn 2008 (£18.6 miliwn) pan oedd llawer o gregyn bylchog yn cael eu pysgota, oedd yn werth £5.2 miliwn ar ei ben ei hun. Er na chafodd y pysgod hyn i gyd eu dal yng Nghymru na’u dal gan gychod o Gymru, mae’n rhoi syniad o faint y dalfeydd yng Nghymru. Glaniwyd cyfanswm o werth £549 miliwn o bysgod yn y DU gan gychod y DU, gyda’r mwyafrif yn yr Alban (£370 miliwn)[1].      

 

  1. Mae pysgodfeydd mewndirol yn hollbwysig i ddiwydiant pysgota Cymru. Mae’r cychod hyn wedi dioddef yn sgil y sector masnachol mawr sy’n gallu codi’i lais yn fwy i gael mwy o gyfleoedd. Wrth geisio delio â’r amgyffrediad o gapasiti gormodol a thaflu pysgod yn ôl, mae’n rhaid i’r Comisiwn ganolbwyntio’r camau gweithredu hyn ar y sector masnachol mawr, ac ar yr un pryd sicrhau nad yw unrhyw fesurau’n rhoi unrhyw bwysau pellach ar y busnesau pysgota bach sy’n rhan o wneuthuriad ein cymunedau arfordirol.

 

 

 

 

Taflu Pysgod yn Ôl

  1. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r awydd i roi terfyn ar daflu pysgod yn ôl. Nid oes modd cyfiawnhau taflu pysgod mawr neu sy’n marw yn ôl. Fodd bynnag, mater gwahanol yw taflu pysgod neu bysgod cregyn byw yn ôl a fydd yn goroesi a rhaid i hyn barhau. Am y rheswm hwn rydym yn falch nad yw’r Comisiwn am gyflwyno gwaharddiad cyffredinol ar daflu pob rhywogaeth yn ôl.

 

  1. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru bryderon ynghylch ymarferoldeb gwahardd taflu yn ôl, yn enwedig mewn pysgodfa gymysg. Heb newidiadau i’r gyfundrefn cwotâu ar gyfer pysgodfeydd cymysg, mae’n debygol y bydd llawer o bysgodfeydd yn dod i derfyn cwota ar gyfer un rhywogaeth, ond â gormodedd ar gyfer rhywogaeth arall. Mae’n anodd rhoi sylw pellach heb weld manylion y cynigion a fydd yn dechrau dod i’r amlwg yn ddiweddarach eleni.

 

Hawliau Pysgota Cyfnewidiadwy

  1. Rydym yn pryderu nad oes digon o fanylion i’r ‘hawliau pysgota cyfnewidiadwy’ i gael trafodaeth ddigonol. Os nad yw’r mesurau diogelwch yn ddigonol, gallai arwain at roi hawliau pysgota yn nwylo nifer fach o fusnesau pysgota mawr ar draul fflydoedd bach sy’n bwysig i’r pentrefi arfordirol o amgylch Cymru.

 

  1. Mae’r Comisiwn o’r farn bod gormod o gychod yn mynd ar ôl rhy ychydig o bysgod. Problem gyda chychod masnachol mawr yw hyn yn bennaf. Mae’r tywydd ac ati yn cyfyngu ar waith cychod bach ac mae’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn y DU wedi’u rhoi o dan y fath anfantais fel bod y cyfleoedd pysgota sydd ar gael yn y sector hwn yn anghyfrannol o fach. Mae achos i’r diwydiant geisio ariannu’i drefn ei hun ar gyfer datgomisiynu cychod. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y mesurau hyn yn ddigon eang i alluogi gwledydd yr Aelod-wladwriaethau i ddiogelu pysgodfeydd bach. Rydym o’r farn y dylai’r Aelod-wladwriaethau barhau i fod yn gyfrifol am reoli’r adnodd cyhoeddus hwn mor effeithiol â phosibl.

  2. O dan y cynigion byddai’r Aelod-wladwriaethau’n gyfrifol am bennu cyfleoedd pysgota ar gyfer cyflenwadau nad yw’r Cyngor yn pennu cyfleoedd pysgota ar eu cyfer. Mae hyn yn bryder gan fod y rhywogaethau di-gwota hyn (draenogod y môr, cimychiaid, crancod a chregyn bylchog) wedi bod yn fodd o fyw i’r diwydiant yng Nghymru. Ymddengys y byddai’r cynigion hyn yn rhoi baich trwm ar y Llywodraeth a hefyd ar y pysgotwyr sy’n targedu’r cyflenwadau di-gwota presennol. Mae’r cyflenwadau hyn yn tueddu bod yn lleol a deinamig, ac felly nid ydynt yn addas ar gyfer dulliau rheoli cyfredol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer cyflenwadau cwota. Byddai hyn yn rhoi baich gwyddonol ychwanegol sylweddol heb lawer o fantais gan y byddai angen cymryd samplau mawr i ddileu amrywiaethau lleol yn y cyflenwadau.

 

Rhanbartholi

11.Mewn ymateb i bapur gwyrdd y Comisiwn Ewropeaidd ar ddiwygio’r PPC, roedd Llywodraeth Cymru yn dadlau dros ranbartholi ar sail pysgodfeydd arfordirol bach. Roedd hyn yn cynnwys ystyriaeth i’r Aelod-wladwriaethau ddatblygu annibyniaeth ymhellach i reoleiddio a rheoli’r pysgodfeydd yn ei eu moroedd tiriogaethol.

 

12.Dylai dull gweithredu rhanbarthol alluogi rheolaeth well ar lefel ecosystem ac addasu i amgylchiadau lleol. Ymddengys nad yw’r cynigion presennol ar ddiwygio’r PPC yn mynd yn ddigon pell. Yn hytrach ymddengys bod y Comisiwn am hyrwyddo cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer rhywogaethau fel ffordd o ranbartholi. Oni bai bod y model hwn yn cael ei osod ar raddfa wirioneddol ranbarthol, byddai’n parhau’n her i’r Aelod-wladwriaethau gytuno ar gynlluniau o’r natur hon. Byddai hyn yn arwain at fodel lle byddai’r Comisiwn yn penderfynu yn y pen draw ar gyfleoedd pysgota. Ni fyddai hyn yn cyflawni’r amcan o ddatganoli’r broses o wneud penderfyniadau, ac nid yw’n cynnig unrhyw beth gwahanol i’r dull gweithredu PCC cyfredol.

 

 

 

Pysgodfeydd arfordirol bach

13.Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr anhawster o ran cynllunio system ddwy haen i adlewyrchu natur wahanol y sector a physgodfeydd mewndirol.  Ar yr un pryd mae angen cydnabod bod natur wahanol i’r rhannau hyn o’r fflyd a hefyd nad oes un ateb i bob sefyllfa. 

 

14.Yng Nghymru, mae gan y fflyd mewndirol rôl gynyddol bwysig i’w chwarae mewn cymunedau arfordirol. Mae perygl y bydd diwygio’r PPC yn canolbwyntio ar faterion anodd mewn perthynas â’r sector heb unrhyw ystyriaeth i natur y fflyd mewndirol. Mae’r cyflenwadau y mae’r fflyd mewndirol yn eu targedu yn tueddu i fod yn lleol ac yn ddeinamig. Nid yw dulliau rheoli cyfredol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer cyflenwadau cwota yn addas i’r cyflenwadau hyn. Felly, mae angen i’r cynigion diwygio gydnabod natur wahanol y sector morol, a’r fflydoedd mewndirol.

 

 

Casgliad

15.Mae’r trafodaethau ar bapur diwygio’r PPC ac ymateb y DU yn canolbwyntio’n bennaf ar bysgota masnach ar raddfa fawr lle ceir problemau hysbys. Ar yr un pryd, ceir cydnabyddiaeth bod angen dull gweithredu ar sail ecosystemau. Mae’r rhanbarth mewndirol yn cyfrannu’n sylweddol at yr ecosystem, ond mae hwn yn faes cymhleth sydd angen dull gweithredu penodol a mesurau rheoli. Felly yn ein barn ni nid yw’n briodol cyflwyno un polisi unochrog ar gyfer y sector morol a’r sector mewndirol.

 

16.  Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y rhanbarth mewndirol. Mae’r mwyafrif o fflyd Cymru yn gweithredu yn yr ardal hon ac maent wedi’u cyfyngu o ran eu hardal a’r rhywogaethau y cânt eu dal. Felly rydym yn dadlau bod angen datblygu dull gweithredu ategol ar gyfer pysgodfeydd mewndirol fel rhan o gynigion diwygio’r PPC.

 

 

Alun Davies, AC

Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

 



[1] Statistics taken from UK Sea Fisheries Statistics 2010, The UK Fishing Industry in 2010: Landings, published by the Marine Management Organisation.