2014 Rhif 2692 (Cy. 267)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418) (“Gorchymyn 1995”) mewn perthynas â Chymru. Mae erthygl 3 o Orchymyn 1995 ac Atodlen 2 iddo yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas â datblygu penodol. Nid oes angen gwneud cais penodol am ganiatâd cynllunio pan fo’r hawliau hyn yn gymwys.

Mae erthygl 2 yn diwygio Rhan 24 (datblygu gan weithredwyr cod cyfathrebu electronig (Cymru)) o Atodlen 2 i Orchymyn 1995.

Mae Dosbarth A o Ran 24 yn caniatáu datblygu penodol gan weithredwyr cod cyfathrebu electronig ar yr amod nad yw’n dod o fewn A.1 (datblygu nas caniateir) ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a chyfyngiadau perthnasol yn  A.2 ac A.3.

Mae erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn yn diweddaru’r cyfeiriad at drwydded gweithredwr i adlewyrchu newidiadau yn Neddf Cyfathrebiadau 2003.

Mae cyfyngiadau ac amodau ar roi caniatâd cynllunio yn cynnwys, er enghraifft, eithrio’r caniatâd Dosbarth A rhag bod yn gymwys i dir gwarchodedig mewn rhai achosion. Mae tir gwarchodedig yn cynnwys safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a chategorïau o dir a nodir yn erthygl 1(5) o Orchymyn 1995 a Rhan 2 o Atodlen 1 iddo (Parciau Cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, ardaloedd cadwraeth, ardaloedd o harddwch naturiol ac amwynder yng nghefn gwlad). Mae’n bosibl y bydd mathau eraill o ganiatâd yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio lleol o ran lleoliad ac ymddangosiad. Cyfeirir at y broses hon fel “cymeradwyaeth ymlaen llaw”.

Mae erthygl 2(3) yn mewnosod darpariaeth newydd er mwyn caniatáu addasu neu amnewid mastiau presennol sy’n sefyll ar eu traed eu hunain i ddod yn fastiau hyd at 20 o fetrau o uchder a hyd at draean yn lletach na’r mast presennol. Nid yw hyn yn gymwys ar dir erthygl 1(5) nac ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac mae’n ddarostyngedig i gymeradwyaeth ymlaen llaw ar dir arall yn rhinwedd paragraff A.2(4) o Ddosbarth A. O ran lled, ar unrhyw uchder penodol, ni chaiff y mast newydd neu’r mast a uwchraddiwyd fod yn fwy na thraean yn lletach na’r mast gwreiddiol ar yr un uchder.

Mae erthygl 2(4) yn dileu antena cell fach o baragraff A.1(g)(i). Mae hyn yn golygu nad yw’r cyfyngiad yn y paragraff hwnnw’n gymwys i antena cell fach.

Mae erthygl 2(5) i (8) yn diwygio darpariaethau yn Nosbarth A er mwyn caniatáu i faint pob antena dysgl gyda’i gilydd fod yn fwy, ac i ragor o systemau antena gael eu gosod ar rai adeiladau a strwythurau. Mae’r rheolau newydd yn amrywio yn ôl uchder yr adeilad neu’r strwythur, gan ganiatáu rhagor o systemau antena, a chaniatáu i faint y dysglau gyda’i gilydd fod yn fwy, uwchlaw 15 o fetrau.

Mae erthygl 2(9) yn gwneud darpariaeth ganlyniadol i erthygl 2(10) a (13).

Mae erthygl 2(10) yn mewnosod darpariaeth newydd er mwyn caniatáu gosod hyd at dri antena dysgl ychwanegol a thri antena ychwanegol nad ydynt yn rhai dysgl, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau maint, ar gyfarpar cyfathrebiadau electronig presennol sydd wedi eu gosod ar adeiladau neu strwythurau (gan gynnwys mastiau) ar dir erthygl 1(5). Mae diffiniad a ychwanegwyd gan erthygl 2(19)(c) yn egluro bod rhaid i’r cyfarpar eisoes fod yn anfon ac yn derbyn cyfathrebiadau. Mae’r hawl datblygu a ganiateir newydd hon wedi ei heithrio o baragraff A.1(i) o Ddosbarth A sydd fel arall yn cyfyngu’n sylweddol ar ddatblygu antena ar dir erthygl 1(5).

Mae erthygl 2(11) a (12) yn diwygio darpariaethau i egluro bod y cyfyngiadau presennol o ran maint unedau cartrefu offer radio mewn un achos yn gronnol ac mewn achos arall yn gymwys i gynigion datblygu unigol. Mae erthygl 2(14) yn cynnwys diwygiad canlyniadol i baragraff A.2(4) o Ddosbarth A.

Mae erthygl 2(13) yn mewnosod darpariaeth newydd er mwyn caniatáu gosod hyd at ddau o fath newydd o antena (“antena cell fach”) ar adeiladau a strwythurau eraill (ac eithrio tai annedd neu o fewn cwrtil tŷ annedd), ar yr amod nad ydynt ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Caiff y datblygiad hwn ei ganiatáu ar dir erthygl 1(5) yn rhinwedd eithriad i’r rheol gyffredinol ym mharagraff A.1(i) o Ddosbarth A, ond yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ymlaen llaw yn rhinwedd paragraff A.2(4)(a) o Ddosbarth A. Mae erthygl 2(19)(c) yn mewnosod diffiniad newydd o “antena cell fach” (“small cell antenna”), sy’n cynnwys cyfyngiadau o ran maint.

Mae erthygl 2(14) yn mewnosod fersiwn newydd o baragraff A.2(4) o Ddosbarth A. Mae’r newidiadau yn cynnwys: cynyddu’r uchder y mae’n ofynnol i antenau a osodir ar adeiladau neu strwythurau (heblaw am fastiau) fynd drwy’r broses cymeradwyaeth ymlaen llaw; egluro mai dim ond pan fo cyfaint unrhyw ddatblygiad unigol o uned gartrefu offer radio yn fwy na 2.5 o fetrau ciwbig y mae angen cymeradwyaeth ymlaen llaw; a dileu’r angen am gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer datblygiad sy’n atodol i uned gartrefu offer radio.

Mae erthygl 2(15) yn darparu, mewn perthynas â thir erthygl 1(5), na fydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw o dan baragraff A.3 o Ran 24 ar gyfer adeiladu, gosod nac amnewid polion, cabinetau na llinellau telegraff ar gyfer gwasanaethau band eang llinell sefydlog. Er mwyn dibynnu ar y newid hwn i’r hawliau datblygu a ganiateir, rhaid cwblhau’r gwaith datblygu cyn 30 Mai 2018 a rhaid cydymffurfio â’r amodau a gyflwynir gan erthygl 2(15). Dyma’r amodau:

—   yn achos datblygu mewn Parciau Cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, rhaid rhoi un mis o rybudd o’r datblygiad arfaethedig i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, ac os yw unrhyw ran o’r datblygiad mewn Parc Cenedlaethol, i’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal;

—   rhaid i gabinetau fod yn ddu (nid du di-sglein), yn wyrdd neu’n lliw arall a gymeradwywyd gan yr awdurdod cynllunio lleol;

—   rhaid i bolion telegraff gyfateb i’r polyn telegraff presennol agosaf sydd â chaniatâd cynllunio oni bai fod yr awdurdod cynllunio lleol yn cymeradwyo’n wahanol.

Caiff diffiniadau newydd sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth hon eu mewnosod yn erthygl 2(19).

Mae erthygl 2(16) yn mewnosod gofyniad i gyflwyno manylion cyswllt y datblygwr gyda chais am gymeradwyaeth ymlaen llaw.

Mae erthygl 2(17) yn eithrio datblygiad sy’n cynnwys antenau cell fach rhag y gofyniad presennol ar ddatblygwr i gyflwyno datganiad ysgrifenedig ei fod yn cydymffurfio â chanllawiau’r Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Pelydredd nad yw'n Ïoneiddio gyda chais am gymeradwyaeth ymlaen llaw o dan Ddosbarth A.3(4).

Mae erthygl 2(18) yn mewnosod darpariaeth newydd i’r gweithdrefnau cymeradwyaeth ymlaen llaw ym mharagraff A.3 o Ddosbarth A, i egluro nad yw cais newydd am gymeradwyaeth ymlaen llaw yn ofynnol os yw’r datblygwr a’r awdurdod cynllunio lleol yn cytuno ar fân ddiwygiadau i ddatblygiad a gynigiwyd mewn cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw.

Mae erthygl 2(19) yn mewnosod diffiniadau newydd ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol iddynt.

Pan fo Dosbarth A yn rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygu cyfarpar cyfathrebiadau electronig, mae erthygl 2(20) yn mewnosod darpariaeth newydd sy’n egluro bod y caniatâd hwnnw’n cynnwys datblygiad penodol sy’n atodol i’r cyfarpar, ac sy’n rhesymol ofynnol at ei ddiben. Mae’r prawf “rhesymol ofynnol” (“reasonably required”) yn sicrhau bod unrhyw ddatblygiad atodol o’r fath yn ymwneud â’r cyfarpar penodol sy’n cael ei ddatblygu ac nad yw at ddiben datblygiad a ragwelir yn y dyfodol. Nid yw’r ddarpariaeth ddehongli hon yn cynnwys datblygiad ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ar gael oddi wrth yr Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar y wefan yn https://www.cymru.gov.uk.


2014 Rhif 2692 (Cy. 267)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) (Rhif  2) 2014

Gwnaed                                   29 Medi 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       9 Hydref 2014

Yn dod i rym                       7 Tachwedd 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 60, 61 a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([1]) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014 a daw i rym ar 7 Tachwedd 2014.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau mewn perthynas â datblygu gan weithredwyr cod cyfathrebu electronig

2.(1)(1) Mae Rhan 24 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995([3]) (datblygu gan weithredwyr cod cyfathrebu electronig (Cymru)) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff A (datblygu a ganiateir), yn lle “in accordance with the operator’s licence”, rhodder “in accordance with the electronic communications code”.

(3) Yn lle paragraff A.1(b) (addasu neu amnewid cyfarpar ac eithrio ar adeilad neu strwythur arall) rhodder—

(b) in the case of the alteration or replacement of apparatus already installed, (other than on a building or structure)—

                       (i)  where the apparatus is a mast which is not on article 1(5) land or on any land which is, or is within, a site of special scientific interest—

(aa)    the mast, excluding any antenna, would when altered or replaced either exceed a height of 20 metres above ground level or at any given height exceed the width of the existing mast at the same height by more than one third; or

(bb)    where antenna support structures are altered or replaced, the combined width of the mast and any antenna support structures would exceed the combined width of the  existing mast and any antenna support structures by more than one third;

                      (ii)  in all other cases, the apparatus, excluding any antenna, would, when altered or replaced exceed the greater of—

(aa)    the height of the existing apparatus; or

(bb)    a height of 15 metres above ground level.”

(4) Ym mharagraff A.1(g)(i) (lleoliad ar waliau neu oleddfau to yn wynebu priffordd) ar y dechrau mewnosoder “in the case of antennas other than small cell antennas,”.

(5) Ym mharagraff A.1(g)(ii) (maint antenau dysgl islaw 15 o fetrau), yn lle “1.5 metres” rhodder “4.5 metres”.

(6) Yn lle paragraff A.1(g)(iii) (nifer y systemau antena islaw 15 o fetrau), rhodder—

                    “(iii)  in the case of antennas other than dish antennas, the development (other than the installation, alteration or replacement of one small antenna or a maximum of two small cell antennas) would result in the presence on the building or structure of—

(aa)    more than three antenna systems; or

(bb)    any antenna system operated by more than three electronic communications code operators; or”.

(7) Ym mharagraff A.1(h)(i) (maint antenau dysgl ar 15 o fetrau neu’n uwch), yn lle “3.5 metres” rhodder “10 metres”.

(8) Yn lle paragraff A.1(h)(ii) (nifer y systemau antena ar 15 o fetrau neu’n uwch), rhodder—

                     “(ii)  in the case of antennas other than dish antennas, the development (other than the installation, alteration or replacement of a maximum of two small antennas or two small cell antennas) would result in the presence on the building or structure of—

(aa)    more than five antenna systems; or

(bb)    any antenna system operated by more than three electronic communications code operators; or”.

(9) Ym mharagraff A.1(i) (datblygiad antena ar dir erthygl 1(5) neu ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig)—

(a)     hepgorer “(other than the installation, alteration or replacement of one small antenna on a dwellinghouse or within the curtilage of a dwellinghouse)”;

(b)     ar y diwedd, ychwaneger “or is development described in the introductory words to any of  paragraphs (ia), (m), (n), or (p) and which is allowed by the respective sub-paragraphs which follow those introductory words”.

(10) Ar ôl paragraff A.1(i), mewnosoder—

                    “(ia)  in the case of the installation of an additional antenna on existing electronic communications apparatus on a building or structure (including a mast) on article 1(5) land—

                            (i)    in the case of dish antennas, the size of any additional dishes would exceed 0.6 metres, and the number of additional dishes on the building or structure would exceed three; or

                            (ii)   in the case of antennas other than dish antennas, any additional antennas would exceed 3 metres in height, and the number of additional antennas on the building or structure would exceed three;”.

(11) Ym mharagraff A.1(l)(ii) (maint unedau cartrefu offer radio), cyn “development”, ym mhob man lle y mae’n digwydd, mewnosoder “cumulative volume of such”.

(12) Ym mharagraff A.1(l)(iii) (maint unedau cartrefu offer radio ar dir erthygl 1(5) neu ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig), cyn “development”, yn y man cyntaf lle y mae’n digwydd, hepgorer “the” a mewnosoder “any single”.

(13) Ar ddiwedd paragraff A.1, ychwaneger—

(p) in the case of the installation, alteration or replacement of a small cell antenna on a building or structure:

                       (i)  the building or structure is a dwellinghouse or within the curtilage of a dwellinghouse;

                      (ii)  the building or structure is on any land which is, or is within, a site of special scientific interest; or

                     (iii)  the development would result in the presence on the building or structure of more than two such antennas.”

(14) Yn lle paragraff A.2(4) (cymeradwyaeth ymlaen llaw), rhodder—

(4) Except in relation to development described in paragraph (4A), class A development on—

(a)   article 1(5) land or land which is, or is within, a site of special scientific interest, or

(b)   any other land and consisting of the construction, installation, alteration or replacement of—

                       (i)  a mast;

                      (ii)  an antenna on a building or structure (other than a mast) where the antenna (including any supporting structure) would exceed the height of the building or structure at the point where it is installed or to be installed by 6 metres or more;

                     (iii)  a public call box;

                     (iv)  radio equipment housing, where the volume of any single development is in excess of 2.5 cubic metres,

is permitted subject, except in case of emergency, to the conditions set out in A.3.”

(15) Ar ôl paragraff A.2(4) (cymeradwyaeth ymlaen llaw), mewnosoder—

(4A)  Class A development on any article 1(5) land which consists of the construction, installation, alteration or replacement of a telegraph pole, cabinet or line, in connection with the provision of fixed-line broadband, is permitted, subject to the conditions set out in paragraph (4B) and provided that the development is completed on or before 30th  May 2018.

(4B) The conditions are—

(a)   the developer must give one month’s notice, in writing, where the development, or any part of it, is in—

                       (i)  a National Park – to the relevant county or county borough council and the Natural Resources Body for Wales;

                      (ii)  an area of outstanding natural beauty([4]) – to the Natural Resources Body for Wales;        

(b)   the notice to be given under sub-paragraph (a) must state the developer’s intention to install electronic communications apparatus, describe the apparatus and identify the location where it is proposed to install it;

(c)   any cabinet must be:

                       (i)  green;

                      (ii)  black (except matt black); or

                     (iii)  a colour which has the written approval of the local planning authority prior to the commencement of the development;

(d)   any telegraph pole must have the same appearance and be made of the same material as the nearest existing([5]) telegraph pole to it which has planning permission, unless an alternative appearance or material has been approved in writing by the local planning authority prior to the commencement of the development.”

(16) Ar ôl paragraff A.3(4)(a) mewnosoder—

(aa)   by the developer’s contact address, and the developer’s email address if the developer has one; and”.

(17) Ym mharagraff A.3(4)(b), ar ôl “antennas,” mewnosoder “unless they are all small cell antennas,”.

(18) Ar ôl paragraff A.3(8), mewnosoder—

(8A) The agreement in writing referred to in paragraph (8) requires no special form of writing, and in particular there is no requirement on the developer to submit a new application for prior approval in the case of minor amendments to the details submitted with the application for prior approval.”

(19) Ym mharagraff A.4 (dehongli)—

(a)     yn lle’r diffiniad o “antenna system”, rhodder—

““antenna system” means a set of antennas installed on a building or structure and operated in accordance with the electronic communications code;”;

(b)     yn y diffiniad o “development ancillary to radio equipment housing”, ychwaneger ar y diwedd—

“, and except on any land which is, or is within, a site of special scientific interest includes—

                       (i)  security equipment;

                      (ii)  perimeter walls and fences; and

                     (iii)  handrails, steps and ramps;”;

(c)     yn y man priodol, mewnosoder—

““electronic communications apparatus”, “electronic communications code” and “electronic communications service” have the same meaning as in the Communications Act 2003([6]);”;

““existing electronic communications apparatus” means electronic communications apparatus which is already sending or receiving electronic communications;”;

““existing mast” means a mast with attached electronic communications apparatus which existed and was sending or receiving electronic communications on 6 November 2014;”;

““fixed-line broadband” means a service or connection (commonly referred to as being ‘always on’), via a fixed-line network, providing a bandwidth greater than narrowband;”;

 ““narrowband” means a service or connection providing data speeds up to 128 k bit/s;”;

“National Park” means any area designated and confirmed as such under section 5(3) of the National Parks and Access to the Countryside Act 1949([7]);”;

““relevant county council or county borough council” means any county council or county borough council of the principal area established under section 21 of the Local Government Act 1972([8]) whose area includes the part of the National Park where the development is situated;”;

““small cell antenna” means an antenna which—

                       (i)  operates on a point to multi-point or area basis in connection with an electronic communications service;

                      (ii)  may be variously referred to as a femtocell, picocell, metrocell or microcell antenna;

                     (iii)  does not, in any two dimensional measurement, have a surface area exceeding 5,000 square centimetres; and

                     (iv)  does not have a volume exceeding 50,000 cubic centimetres,

and any calculation for the purposes of (iii) and (iv) includes any power supply unit or casing, but excludes any mounting, fixing, bracket or other support structure;”.

(20) Ar ôl paragraff A.4 (dehongli), ychwaneger—

“A.4A

Where Class A permits the installation, alteration or replacement of any electronic communications apparatus, the permission extends to any—

(a)   casing or covering;

(b)   mounting, fixing, bracket or other support structure;

(c)   perimeter walls or fences;

(d)   handrails, steps or ramps; or

(e)   security equipment;

reasonably required for the purposes of the electronic communications apparatus.

A.4B

Nothing in paragraph A.4A extends the permission in Class A to include the installation, alteration or replacement of anything mentioned in paragraph A.4A(a) to (e) on any land which is, or is within, a site of special scientific interest if the inclusion of such an item would not have been permitted by Class A, as read without reference to paragraph A.4A.”

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

 

29 Medi 2014



([1])           1990 p. 8; y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 60, 61 a 333, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999  (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo: gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) fel y’i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) ac Atodlen 3 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32),  a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, ac yr oedd y swyddogaethau hynny yn swyddogaethau perthnasol y Cynulliad fel y’u diffinnir ym mharagraff 30(2).

([3])           O.S 1995/418. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S 2002/1878, O.S 2003/2155 ac O.S. 2004/945.

([4])           O.S. 1995/418. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2002/1878, O.S. 2003/2155 ac O.S. 2004/945.

([5])           Gweler erthygl 1(2) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 am y diffiniad o “existing”.

([6])           2003 p. 21. Gweler adrannau 151, 106(1) a 32, yn y drefn honno.

([7])           1949 p. 97. Diwygiwyd adran 5(3) gan adran 105(1) o Ran 1 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16), a pharagraff 10(a) o Atodlen 11 iddi. Gweler hefyd adran 4A o Ddeddf 1949 a fewnosodwyd gan adran 190 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43) a pharagraff 1(4) o Atodlen 8 iddi, ac a ddiwygiwyd gan adran 105(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 a pharagraff  9 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi ac O.S. 2013/755 (Cy. 90).  

([8])           1972 p. 70. Amnewidiwyd adran 21 gan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a’i diwygio gan adran 46 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) a pharagraff 4 o Atodlen 3 iddi, adrannau 34(7)(a) a 176(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (2011 mccc 4), a Rhan B o Atodlen 4 iddi, adran 74(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p .28) a pharagraffau 1 a 4 o Atodlen 3 iddi.