2011 Rhif 993 (Cy. 146 )

credydau treth, cymru

Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Cynllun)

Mae'r Cynllun hwn yn diwygio Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 ("Cynllun 2007").

Mae Cynllun 2007 yn darparu ar gyfer cymeradwyo darparwyr gofal plant at ddibenion adran 12(5) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (“y Ddeddf”). Gofal plant cymwys (fel y'i diffinnir yn erthygl 5 o Gynllun 2007) a ddarperir gan berson a gymeradwyir yn unol â Chynllun 2007 yw gofal a ddarperir gan berson o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 12(4) o'r Ddeddf. Mae Rheoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005), a wnaed o dan adran 12(1) o'r Ddeddf, yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y gall hawl i gael credyd treth gwaith ar gyfer gofal a ddarperir gan berson a gymeradwyir yn unol â Chynllun 2007 godi.

Mae'r Cynllun hwn yn diwygio Cynllun 2007 i ddarparu, pan ddaw'r Cynllun hwn i rym, mai Gweinidogion Cymru fydd y corff cymeradwyo (drwy Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru) (erthygl 2).

Mae diwygiadau canlyniadol wedi eu gwneud i Gynllun 2007 gan erthyglau 3 i 8.

Mae erthygl 9 yn mewnosod darpariaeth arbed a darpariaeth drosiannol yng Nghynllun 2007 fel bod cymeradwyaethau sy'n ddilys yn union cyn i'r Cynllun hwn ddod i rym yn parhau i fod yn effeithiol o dan amgylchiadau rhagnodedig. Mae darpariaeth hefyd wedi ei gwneud i ymdrin â cheisiadau am gymeradwyaeth nad ydynt wedi eu cwblhau cyn 1 Ebrill 2011.

 

2011 Rhif 993 (Cy. 146 )

credydau treth, cymru

Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed                               28 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       30 Mawrth 2011

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol o dan adran 12(6) o Ddeddf Credydau Treth 2002([1]), yn gwneud y diwygiadau a ganlyn i'r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007([2]) drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 12(5), (7) ac (8) a 65(3) a (9) o'r Ddeddf honno.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1) Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2011 a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.

(2)  Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Cynllun hwn ystyr "y prif Gynllun" ("the principal Scheme") yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007.

Diwygio erthygl 2 o'r prif Gynllun

2. Yn erthygl 2 o'r prif Gynllun (diffiniadau), yn y diffiniad o "corff cymeradwyo" ("approval body"), yn lle "yw'r corff y cyfeirir ato yn erthygl 3" rhodder "yw Gweinidogion Cymru".

Dirymu erthygl 3 o'r prif Gynllun        

3. Mae erthygl 3 o'r prif Gynllun (corff penodedig) wedi ei dirymu.

Diwygio erthygl 6 o'r prif Gynllun

4. Yn lle paragraff (1) o erthygl 6 o'r prif Gynllun (person a gymeradwywyd) rhodder y canlynol—

“(1) Rhoddir cymeradwyaeth i berson fel darparydd gofal plant o dan y Cynllun hwn os yw'r corff cymeradwyo wedi'i fodloni bod y meini prawf cymeradwyo wedi'u bodloni mewn perthynas â'r person hwnnw.”.

Diwygio erthygl 7 o'r prif Gynllun

5. Ym mharagraff (b) o erthygl 7 o'r prif Gynllun (meini prawf cymeradwyo)  yn lle "Gynulliad Cenedlaethol Cymru" rhodder "Weinidogion Cymru".

Diwygio erthyglau 8, 9 a 10 o'r prif Gynllun

6. Yn erthyglau 8 (system gymeradwyo), 9 (yr wybodaeth sydd i'w darparu gan y corff cymeradwyo) a 10 (y cyfnod cymeradwyo) o'r prif Gynllun, yn lle "rhaid i" rhodder "bydd" ym mhob man lle y mae'n ymddangos.

Diwygio erthygl 12 o'r prif Gynllun

7. Yn erthygl 12 o'r prif Gynllun (ffioedd) hepgorer  ", a hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru".

Dirymu erthygl 13 o'r prif Gynllun

8.Mae erthygl 13 o'r prif Gynllun (darpariaethau trosiannol) wedi ei dirymu.

Mewnosod erthyglau yn y prif Gynllun

9.Mae'r erthyglau a ganlyn wedi eu mewnosod yn y prif Gynllun—

“Arbed

14.—(1) Er gwaethaf dwyn y Cynllun hwn i rym, mae unrhyw gymeradwyaeth a roddir i ddarparydd gofal plant gan y cyn gorff cymeradwyo yn ddilys yn union cyn 1 Ebrill 2011 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas â'r darparydd hwnnw hyd nes y cynharaf o'r tri dyddiad isod, sef —

(a)   y dyddiad pryd y tynnir y gymeradwyaeth honno yn ôl yn unol ag erthygl 6;

(b)   y dyddiad pryd y daw'r gymeradwyaeth i ben am fod amser wedi mynd heibio; neu

(c)   y dyddiad pryd y rhoddir cymeradwyaeth i'r darparydd gofal plant dan sylw gan y corff cymeradwyo yn unol ag erthygl 6.

(2) Yn yr erthygl hon ac yn erthygl 15, ystyr "cyn gorff cymeradwyo" ("former approval body") yw Nestor Primecare Services Limited, sy'n masnachu fel  Nestor Criminal Records Agency([3]).

Darpariaeth drosiannol

15. Pan fo cais am gymeradwyaeth fel darparydd gofal plant wedi cael ei gyflwyno i’r cyn gorff cymeradwyo ond nid yw wedi ei roi na'i wrthod eto gan y cyn gorff cymeradwyo cyn 1 Ebrill 2011, bydd y cais hwnnw am gymeradwyaeth yn cael ei benderfynu gan y corff cymeradwyo.".

 

 

 

Huw Lewis

 

Y Dirprwy Weinidog dros Blant, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

 

28 Mawrth 2011

 

 

 

 



([1])           2002 p.  21. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 12(5), (7) ac (8) a 65(3) a (9) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (“y Ddeddf”) i Weinidogion Cymru drwy weithrediad paragraff 30 o Atodlen 11 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Gweler adran 67 o’r Ddeddf am y diffiniad o “prescribed” ac adran 65(3) am y diffiniad o “schemes”.

([2])           O.S. 2007/226 (Cy. 20), fel y'i diwygiwyd gan O.S.  2008/2687 (Cy. 237).

([3])           A gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru Rhif 1963820.