Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymchwiliad i’r cynnydd hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru

Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd i Gynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru, cynhaliodd tîm Allgymorth y Cynulliad bum gweithdy rhanbarthol gyda chleifion canser ledled Cymru. Cafodd y gweithdai eu cynnal am nifer o resymau, gan gynnwys:

- rhoi cyfle i gleifion canser, sydd â phrofiad uniongyrchol o’r Cynllun Cyflenwi ar gyfer Canser, rannu eu profiadau;

- paratoi cyfranogwyr ar gyfer grŵp ffocws gydag Aelodau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

- llywio’r sesiynau tystiolaeth ffurfiol gyda thystion, gan gynnwys y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r dystiolaeth a gasglwyd, gan gynnwys cyfraniadau penodol gan y grwpiau ffocws a’r cyfranogwyr.

Nifer y cyfranogwyr:

 

Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru

(1 Mai 2014, Coleg Llandrillo, Llandrillo yn Rhos)

Roedd 13 o gyfranogwyr yn bresennol, gan gynnwys cleifion, cyn-gleifion, gofalwyr, gwirfoddolwyr a Hwylusydd Cynnwys Defnyddwyr Macmillan. Roedd cymysgedd o gyfranogwyr gwrywaidd a benywaidd o ogledd Cymru gyfan yn bresennol.

Mae Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru yn cynnwys tri ‘grŵp ardal’ sy’n seiliedig ar y tri Ysbyty Cyffredinol Dosbarth yng Ngogledd Cymru – Gwynedd, Glan Clwyd a Maelor Wrecsam.  Mae ‘Grŵp Strategol’ trosfwaol yn cyfarfod yn Llandrillo yn Rhos. Mae pob grŵp yn cyfarfod i drafod pynciau cyfredol sy’n effeithio ar gleifion canser yng ngogledd Cymru ac yn sicrhau bod barn cleifion, cyfeillion a theuluoedd yn cael ei chlywed.

 

 

Grŵp NETs Natter

(7 Mai 2014, canolfan gynadledda, Manor Way, Caerdydd)

Roedd cyfanswm o 25 o gyfranogwyr yn bresennol, gan gynnwys 18 o gleifion, pum gofalwr a thri aelod o staff.

Grŵp Crefftau Ysbyty Singleton

(8 Mai 2014, Ysbyty Singleton, Abertawe)

Roedd y grŵp yn cynnwys pedwar cyfranogwr benywaidd, dwy ohonynt â chanser y fron, un ohonynt â chanser yr ysgyfaint a chanser eilaidd y fron ac un ohonynt â chanser ceg y groth HPV.

Grŵp Cymorth Canser y Fron Gogledd Caerffili

(12 Mai 2014, Canolfan Wybodaeth ac Adnoddau White Rose, Tredegar Newydd)

Roedd y grŵp yn cynnwys saith o gyfranogwyr, pob un ohonynt yn gleifion canser y fron. Roedd tair nyrs/staff cymorth yn bresennol hefyd.

Grŵp Canser Ymddiriedolaeth Bracken

(12 Mai 2014, swyddfeydd Ymddiriedolaeth Bracken yn Llandrindod)

Roedd cyfanswm o ddeg o gyfranogwyr yn bresennol - siaradodd un cyfranogwr ar ran ei bartner sydd â chanser yr ofari, roedd un claf wedi cael canser y fron yn y gorffennol, roedd gan dri chyfranogwr ganser y prostad ac roedd dau gyfranogwr yn bresennol gyda’u partneriaid perthnasol.  Roedd gweddill y cyfranogwyr yn gweithio i Ymddiriedolaeth Bracken.

 


 

Nodiadau o’r Grwpiau Ffocws

01. A yw cleifion yn cael eu cefnogi’n ddigonol ac yn cael gofal sy’n canolbwyntio ar y person (hynny yw, mynediad at Weithiwr Allweddol a chynllun gofal ysgrifenedig, mynediad at wybodaeth ddigonol a chael gofal yn y ffordd fwyaf priodol ar gyfer pob claf)?

A gawsoch Weithiwr Allweddol Penodol neu Nyrs Glinigol Arbenigol?

Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru

Nid oedd rhai cyfranogwyr yn gyfarwydd â’r term ‘Gweithiwr Allweddol’, ac nid oeddent yn gwybod beth y mae’n ei olygu. Nid oedd cyfranogwyr yn deall ai’r gweithiwr clinigol oedd eu Gweithiwr Allweddol, ac roeddent yn teimlo bod terminoleg wahanol yn cael ei defnyddio gan wahanol ysbytai, sefydliadau a chleifion.

Dywedodd un cyfranogwr, a gafodd diagnosis o ganser y prostad yn 2006-07, ei fod wedi cael Gweithiwr Allweddol a oedd yn gefnogol iawn i ddechrau yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf ar ôl diagnosis, ond, wrth i amser fynd heibio, daeth y Gweithiwr Allweddol yn fwyfwy anodd cael gafael arno. Roedd wedi cael diagnosis o ganser eto yn 2010 ac nid oedd wedi cael gweithiwr clinigol/allweddol cychwynnol.

Dywedodd gofalwr, yr oedd ei gŵr yn glaf canser a oedd yn cael triniaeth ar draws y ffin mewn dau ysbyty, fod gan y claf oedd Weithiwr Allweddol, ond bod pethau’n cael eu colli ​​rhwng ysbytai ar brydiau, ac nid oedd y Gweithiwr Allweddol bob amser yn ymwybodol o driniaeth ac anghenion y claf. Fodd bynnag, pwysleisiodd y gofalwr fod rhywun ar gael i siarad â nhw ar bob adeg, a bod yr oncolegydd wedi rhoi ei fanylion cyswllt personol iddynt.

Cytunodd yr holl gyfranogwyr fod cael pwynt cyswllt, boed wedi’i nodi’n Weithiwr Allweddol neu beidio, yn bwysig iawn.

‘NETs Natter’

Argaeledd Gweithwyr Allweddol

O’r deunaw o gleifion, roedd naw wedi cael diagnosis o ganser niwroendocrin ar ôl 2012. Nid oedd un o’r cleifion wedi cael Gweithiwr Allweddol ar unrhyw adeg yn ystod ei ofal, er bod un claf wedi cael Nyrs Glinigol Arbenigol yn ystod ei driniaeth yn Lerpwl.

Argaeledd Arbenigwyr Nyrsio Clinigol ac anhawster wrth wneud diagnosis o ganser niwroendocrin

Amlygodd y grŵp nad oes, ar hyn o bryd, unrhyw Arbenigwyr Nyrsio Clinigol niwroendocrin yng Nghymru.  Roedd cyfran sylweddol o’r grŵp yn teimlo, er bod symptomau canser niwroendocrin yn debyg i’r mathau eraill o ganser sy’n ymosod ar yr afu a’r coluddyn, fod llawer o nyrsys a chlinigwyr (yn enwedig Ymarferwyr Cyffredinol) yn cael anhawster wrth wneud diagnosis.

Grŵp Crefftau Ysbyty Singleton

Argaeledd Gweithwyr Allweddol

Roedd tri o’r pedwar claf wedi cael ‘Gweithiwr Allweddol’ neu Nyrs Glinigol Arbenigol ddynodedig. Roedd rhywfaint o ddryswch ynghylch rôl ‘Gweithiwr Allweddol’ ac ystyr y term. Roedd y cleifion yn teimlo bod llawer o bobl wedi cyfrannu at eu profiad ‘gofal’, gan nodi bod lefel y gofal y maent wedi’i gael yn Ysbyty Singleton yn ardderchog. Disgrifiodd un claf ei brofiad personol o’r gofal a ddarperir mewn mannau eraill, lle’r oedd wedi teimlo ei bod yn cael ei heidio o’r naill le i’r llall yn ystod ei thriniaeth cemotherapi. Unwaith iddi gyrraedd Singleton, dywedodd bod y staff wedi gwneud iddi deimlo’n bwysig ac fel person unwaith eto.

Grŵp Cymorth Canser y Fron Gogledd Caerffili

Diffyg gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Roedd rhai cleifion yn teimlo nad oeddent wedi cael gofal yn canolbwyntio ar yr unigolyn hyd nes iddynt ymuno â Grŵp Cymorth Canser Macmillan Gogledd Caerffili. Nododd cleifion eraill eu bod wedi cael gofal rhagorol yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi cael cyswllt uniongyrchol â nyrs canser Macmillan cyn gynted ag y cawsant ddiagnosis yn yr ysbyty.

Argaeledd Gweithwyr Allweddol

Roedd dau o’r cleifion wedi cael diagnosis o ganser cyn i’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser gael ei weithredu yn 2012. Cafodd y pump arall ddiagnosis ar ôl 2012. Cadarnhaodd dau glaf eu bod wedi cael Gweithiwr Allweddol penodol; roedd gweddill y grŵp wedi cael Nyrs Arbenigol Clinigol wedi’i dyrannu iddynt. Roedd un claf wedi llwyddo i newid Gweithiwr Allweddol oherwydd ei bod yn teimlo bod ei Gweithiwr Allweddol cyntaf yn wael o ran darparu cymorth ac adborth o ran ei thriniaeth, ac nid oedd ganddynt unrhyw ddiddordeb ynddi. Roedd y newid wedi bod yn syml, ac roedd yn hapus iawn gyda’i Gweithiwr Allweddol newydd. Disgrifiodd ail gyfranogwr y diffyg gofal a gafwyd ganddi pan ddyrannwyd aelod newydd o staff iddi pan aeth ei Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfnod mamolaeth.

Safonau Ymddygiad

Cytunodd y cleifion i gyd na ddylai fod unrhyw anghysondeb yn safon y gofal a geir gan wahanol bobl.

Ymddiriedolaeth Bracken

Argaeledd Gweithwyr Allweddol a Nyrs Glinigol Arbenigwyr

Cafodd dau o’r cleifion ddiagnosis o ganser cyn 2012, ac roedd pedwar o’r cleifion wedi cael diagnosis yn ystod neu ar ôl 2012. Roedd tri o’r cleifion wedi cael Gweithiwr Allweddol, a dyrannwyd Nyrs Arbenigol Clinigol i un arall. Nododd y grŵp fod cael Gweithiwr Allweddol neu Nyrs Glinigol Arbenigol wedi gwella profiad y claf o driniaeth, gan roi sicrwydd iddynt fod ganddynt bwynt cyswllt y gallent ei ddefnyddio ar unrhyw adeg yn ystod eu triniaeth ac ôl-ofal. Roedd rhai cleifion wedi cael profiad gwael o ofal a chefnogaeth gan eu Nyrs Ardal, tra bod dau arall wedi cael lefel uchel o ofal a chymorth.

A gawsoch gyfle i drafod eich anghenion gofal ac a roddwyd cynllun gofal ysgrifenedig ichi?  Os felly, beth oedd y buddion?

Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru

Diffyg ymwybyddiaeth ynghylch cynlluniau gofal ysgrifenedig

Roedd y mwyafrif o’r grŵp wedi cael triniaeth naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol cyn i’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser gael ei weithredu yn 2012. Roedd un cyfranogwr wedi cael triniaeth ers 2012 ac wedi cael cynllun gofal ysgrifenedig.

Cytunodd y grŵp fod yna lawer o jargon a therminoleg aneglur. Ni roddwyd gwybodaeth i gyfranogwyr am bwrpas cynllun gofal ysgrifenedig.

Cyfeiriodd un cyfranogwr at Arolwg Profiadau Cleifion Canser Cymru, a dywedodd bod yr arolwg hwn wedi nodi mai dim ond 24% o gleifion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd wedi cael cynllun gofal ysgrifenedig. Roedd y grŵp yn credu bod y ffigurau hyn yn awgrymu bod ymwybyddiaeth ynghylch cynlluniau gofal ysgrifenedig yn wael.

‘NETs Natter’

Argaeledd cynlluniau gofal ysgrifenedig

Roedd un claf y dyrannwyd Nyrs Glinigol Arbenigol niwroendocrin iddi wedi cael cyfle i drafod ei hanghenion, yn ogystal â chael cynllun gofal ysgrifenedig.

Diffyg cyfleoedd i drafod anghenion gofal/clinigol 

Nid oedd gweddill y cleifion wedi cael unrhyw apwyntiadau i drafod eu hanghenion clinigol. Nododd y cleifion hyn gyfraddau uchel o ganslo apwyntiadau, a arweiniodd at oedi o 4 i 6 mis cyn trafod eu hanghenion gofal yn y dyfodol.  Oherwydd natur canser niwroendocrin, nododd ei bod yn anodd rhagweld anghenion gofal claf yn y dyfodol nes iddo/iddi gyrraedd pwynt penodol yn y driniaeth.

Grŵp Crefftau Ysbyty Singleton

Diffyg ymwybyddiaeth ynghylch cynlluniau gofal ysgrifenedig

Roedd un claf wedi gofyn am gynllun gofal ysgrifenedig ond cafodd ei wrthod. Nid oedd y cleifion eraill wedi cael cynlluniau gofal ysgrifenedig. Fodd bynnag, roedd y cleifion i gyd yn cytuno bod eu hanghenion gofal ac anghenion clinigol yn cael eu trafod yn aml mewn apwyntiadau. Roedd apwyntiadau’n amrywio o fod yn cael eu cynnal bob mis i bob yn ail fis, a chytunodd y cleifion i gyd fod ganddynt fynediad agored at eu nyrsys neu glinigwyr dynodedig i drafod unrhyw faterion wrth iddynt godi.

Grŵp Cymorth Canser y Fron Gogledd Caerffili

Argaeledd cynlluniau gofal ysgrifenedig

Roedd tri o’r saith o gleifion wedi cael cynllun gofal ysgrifenedig, a chanfuant ei fod yn ffordd wych o drafod eu hanghenion gofal, yn ogystal â chael dealltwriaeth ehangach o’u clefyd.

Ymddiriedolaeth Bracken

Argaeledd cynlluniau gofal ysgrifenedig

Dim ond un claf oedd wedi cael cynllun gofal ysgrifenedig.

Gwahaniaethau mewn gwybodaeth rhwng Cymru a Lloegr

Dywedodd un claf a oedd â salwch angheuol ei fod wedi cael anhawster yn deall y gwahaniaeth rhwng gwasanaethau a ddarperir drwy’r GIG yng Nghymru a Lloegr. Roedd y grŵp yn credu y dylai mwy o wybodaeth am anghenion gofal gael ei darparu, yn enwedig lle mae gwahaniaethau yn y modd y rhoddir canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol ar waith rhwng y GIG yng Nghymru a’r GIG yn Lloegr, ac y gallai hyn arbed cleifion rhag teimlo’n siomedig o ran deall pam yr oeddent/pam nad oeddent yn gallu cael rhai triniaethau canser. 

A gawsoch wybodaeth ddigonol am eich canser a’r effaith y gallai ei gael ar eich iechyd, bywyd cartref, gwaith, cyllid ac yn y blaen, neu a gawsoch eich cyfeirio at y wybodaeth hon?  A oedd y wybodaeth honno’n hygyrch ac yn hawdd ei deall?

Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru

Mynediad da at wybodaeth 

Yn gyffredinol, roedd aelodau’r grŵp yn teimlo eu bod wedi cael digon o wybodaeth am eu canser.

Dywedodd un cyfranogwr, a oedd wedi cael diagnosis o ganser y coluddyn a chanser y prostad, fod gwybodaeth ddigonol ar gael am ganser y coluddyn ond llai o wybodaeth ar gael am ganser y prostad. Dywedodd un cyfranogwr ei bod wedi cael llawer o wybodaeth am ganser ei gŵr a’r driniaeth y byddai’n ei chael, ond na chawsant wybodaeth am faterion ariannol.

Cyfeirio gwael

Nododd un cyfranogwr sy’n ymwneud â chefnogi pobl yn y gymuned fod pobl yn ei chael yn anodd cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt oherwydd diffyg cyfeirio.  Nodwyd bod y Ganolfan Macmillan yn Ysbyty Glan Clwyd wedi canfod nifer enfawr o bobl sydd am gael gwybodaeth am wahanol agweddau ar eu triniaeth gan nad ydynt wedi cael eu cyfeirio at y wybodaeth hon yn y lle cyntaf gan y GIG.

Roedd y grŵp yn teimlo bod y rhan fwyaf o bobl yn cael digon o wybodaeth am eu canser a thriniaeth ond dim digon o wybodaeth am faterion ariannol.

‘NETs Natter’

Gwybodaeth wael a chyfeirio gwael 

Heb gyfle i drafod eu hanghenion gofal a diffyg cynlluniau gofal ysgrifenedig, ychydig iawn o wybodaeth, os o gwbl, oedd y cleifion wedi’i chael i’w helpu i ddeall eu cyflwr. Bu nifer o gyfranogwyr yn disgrifio sut yr oeddent wedi ceisio cael gwell dealltwriaeth o ganser (fel cleifion a gofalwyr) yr oeddent yn ystyried yn frawychus. Roedd y wybodaeth a gasglwyd o’r cyfnod hwn o fyfyrdod yn aml yn anghyson ac yn anodd ei deall. O ran dygymod ag effaith canser niwroendocrin, nododd cleifion, gofalwyr a nyrsys eu bod yn dysgu trwy brofiad, sef y ‘ffordd galed’.

Dywedodd un o’r nyrsys a oedd yn bresennol yn y drafodaeth nad oedd digon o Weithwyr Allweddol/Nyrsys Clinigol Arbenigol gyda’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth angenrheidiol o ganser niwroendocrin i allu rhoi digon o wybodaeth a chefnogaeth i gleifion.

Grŵp Crefftau Ysbyty Singleton

Mynediad da at wybodaeth 

Roedd consensws cyffredinol fod cleifion yn cael eu cyfeirio at wybodaeth ddigonol am eu canser, neu fod y wybodaeth hon yn cael ei rhoi iddynt. Roedd un claf wedi cael camddiagnosis ers peth amser, ac roedd yn ei chael yn anodd cael rhagor o wybodaeth. Er nad oedd hyn wedi bod yn broblem sylweddol iddi, roedd yn teimlo y gallai fod yn broblem i fenywod eraill oherwydd natur a phrinder ei chanser. Cytunodd y cleifion hefyd fod y rhan fwyaf o’r wybodaeth hon yn cael ei darparu drwy elusennau (fel Cymorth Canser Macmillan) yn hytrach na’r GIG.

Grŵp Cymorth Canser y Fron Gogledd Caerffili

Cyfeirio da

Cafodd tri o’r cleifion y rhoddwyd cynllun gofal ysgrifenedig iddynt wybodaeth ddigonol am eu canser, ac fe’u cyfeiriwyd at y wybodaeth hon hefyd.

Anghysondebau o ran gwybodaeth a chyfeirio

Roedd y cleifion eraill wedi gorfod dod o hyd i’r wybodaeth hon yn annibynnol drwy gasglu taflenni a llyfrynnau ar ôl eu triniaeth. Roedd diffyg penodol o ran gwybodaeth am effaith canser ar iechyd, bywyd y cartref, gwaith a chyllid y cleifion yn y dyfodol. Cytunodd y cleifion y gall yr iaith a ddefnyddir i egluro eu cyflwr wedi cael diagnosis fod yn rhy dechnegol. Roedd rhai wedi cwrdd â nyrs Macmillan yn syth ar ôl i’w oncolegydd drafod y diagnosis â nhw, a chytunodd y cleifion y dylai hyn fod yn rhan orfodol o ofal pawb. Er bod rhai o’r taflenni gwybodaeth yn hawdd i’w deall, roeddent hefyd yn dadlau ei bod hi weithiau’n anodd cael y wybodaeth hon ar eu pennau eu hun, gan nodi bod cefnogaeth a dealltwriaeth yn allweddol.

Ymddiriedolaeth Bracken

Cyfeirio da

Roedd y cleifion wedi cael yr holl lyfrynnau ar eu canser, ac roedd rhai wedi cael eu cyfeirio at wybodaeth arall. Roedd cleifion yn teimlo bod yr Ymddiriedolaeth Bracken yn gwneud y gwaith cyfeirio hwn yn well na’r GIG. Esboniodd un claf fod mwy o wybodaeth ar gael yn awr nag yn 2004 pan oedd wedi cael diagnosis. Dywedodd cyfranogwr arall y dylid rhoi rhagor o wybodaeth i gleifion am atal canser ar ôl gwellhad (er enghraifft, drwy ddilyn y deiet cywir) er ei fod yn gwerthfawrogi bod rhai mathau o ganser yn codi eto heb achos. Awgrymodd un claf canser y fron y dylai rhagor o wybodaeth am ddeiet a’r risg o golli pwysau gael ei rhoi i bobl sy’n cael cemotherapi.

A gafodd eich teulu y wybodaeth angenrheidiol i’w helpu i ofalu amdanoch gartref?

Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru

Diffyg gwybodaeth i deuluoedd

Yn gyffredinol, roedd y grŵp yn teimlo nad oes llawer o wybodaeth ar gael am yr hyn y dylai’r gofalwr ei wneud unwaith i’r claf fynd adref ar ôl i’r driniaeth ddod i ben. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am holl gamau canser, o driniaeth hyd at ofal lliniarol.

Dywedodd un cyfranogwr fod diffyg gofal seicolegol i gleifion a gofalwyr.

Diffyg cefnogaeth i’r rhai heb deuluoedd

Nododd un cyfranogwr fod angen osgoi tybio bod gan bawb deulu o’u hamgylch i’w cefnogi, a gofynnodd o ble y gall bobl gael cymorth os nad oes ganddynt deulu.

‘NETs Natter’

Diffyg gwybodaeth i deuluoedd

Dywedodd nifer o gleifion fod rhai aelodau o’u teuluoedd yn mynd i apwyntiadau gyda nhw, ond ni roddwyd unrhyw wybodaeth benodol i’w helpu i ddeall anghenion gofal parhaus. Cytunodd y cyfranogwyr y dylid rhoi rhagor o wybodaeth i aelodau o’r teulu, yn enwedig oherwydd nid cleifion yw’r unig bobl sy’n gorfod ‘byw gyda’r canser’.

Grŵp Crefftau Ysbyty Singleton

Diffyg gwybodaeth i deuluoedd

Er bod teuluoedd/perthnasau agosaf y cleifion yn bresennol yn eu holl apwyntiadau, ni roddwyd cymorth unigol neu wybodaeth am sut i helpu i ofalu am gleifion yn y cartref i’r un ohonynt. Rhannodd un o Arbenigwyr Nyrsio Clinigol claf a oedd yn bresennol ei manylion cyswllt â’i theulu a phwysleisiodd y gallent gysylltu â hi ar unrhyw adeg os byddai angen iddynt wneud hynny.

Grŵp Cymorth Canser y Fron Gogledd Caerffili

Diffyg gwybodaeth i deuluoedd

Dywedodd y cleifion nad oedd yr un o’u teuluoedd wedi cael y wybodaeth yr oedd ei hangen arnynt i helpu i ofalu amdanynt yn y cartref.

Ymddiriedolaeth Bracken

Diffyg gwybodaeth i deuluoedd

Dywedodd y cleifion y dylai gofalwyr gael cynllun gofal hefyd, yn ogystal â’r claf, gan nodi bod diffyg cefnogaeth i deuluoedd drwyddi draw (o ran gofal iechyd) i’w helpu i ddygymod â salwch aelod o’r teulu. Roedd un cyfranogwr wedi cael cyngor ar gymorth ariannol yn ystod triniaeth ei bartner, ond dywedodd nad oedd angen y cyngor hwn arnynt.

Os oes unrhyw sgil-effeithiau hirdymor yn deillio o’ch triniaeth canser, a ydych wedi cael y wybodaeth a’r gefnogaeth angenrheidiol ar eu cyfer?

Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru

Diffyg gwybodaeth a chefnogaeth o ran sgil-effeithiau hir-dymor

Roedd un cyfranogwr yn teimlo’n eithaf cryf nad yw pobl yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt am sgil-effeithiau posibl canser a’i driniaeth.

Nodwyd bod llawer o bobl yn cael trafferthion yn dilyn triniaeth fel cemotherapi ac ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael i fynd i’r afael â’r problemau hyn.  Roedd y grŵp yn teimlo nad oedd y camau dilynol ar ôl radiotherapi yn ddigon da; mae un cyfranogwr yn dal yn dioddef o sgil-effeithiau difrifol ar ôl triniaeth radiotherapi ac ni chafodd unrhyw wybodaeth am hyn.

Sgil-effeithiau diffyg gwybodaeth

Mynegodd y grŵp bryderon efallai na fydd ymarferwyr iechyd yn dysgu am sgil-effeithiau posibl canser a’i driniaeth os nad yw cynnydd pobl yn cael ei ddilyn ar ôl eu triniaeth. Roedd y grŵp hefyd yn aneglur o ran sut y caiff y gwersi a ddysgir oddi wrth eu profiadau eu cadw a’u defnyddio i helpu i drin cleifion eraill a gofalu amdanynt.

‘NETs Natter’

Diffyg gwybodaeth a chefnogaeth o ran sgil-effeithiau hir-dymor

Cymharwyd byw gyda chanser niwroendocrin gyda dioddef o ddiabetes – nodwyd pwysigrwydd cydbwyso’r agwedd glinigol ar y canser (fel triniaeth) gyda rheoli’r clefyd (byw gyda’r canser, cymryd meddyginiaeth a sgil-effeithiau dyddiol). Dywedodd y cleifion eu bod yn gwbl amharod i ddygymod ag effaith seicolegol y canser, gan nodi bod llawer o’r symptomau yn peri digalondid i gleifion ac yn eu hatal rhag gadael eu cartrefi neu wneud trefniadau teithio.

Grŵp Crefftau Ysbyty Singleton

Gwybodaeth am sgil-effeithiau hir-dymor

Eglurodd tri o’r pedwar claf eu bod wedi cael y wybodaeth a’r cymorth angenrheidiol o ran effeithiau hir-dymor eu triniaeth canser.

Dywedodd y claf arall nad oedd gan ei nyrs ardal y wybodaeth angenrheidiol i wybod sut i’w thrin yn y gymuned a rhoi’r un lefel o gefnogaeth iddi a ddarperir yn yr ysbyty. Dywedodd bod hyfforddiant i gefnogi ei thriniaeth HPV wedi cael ei gynnig i’w nyrs ardal, ond ei bod hi’n aml yn teimlo ei bod yn cefnogi a chydgysylltu ei gofal ei hun.

Roedd un claf yn teimlo ei bod yn gwbl amharod ar gyfer effeithiau seicolegol ac ymarferol ei thriniaeth canser, ac yn teimlo y gallai fod wedi cael mwy o gefnogaeth o ran gorfod rhoi’r gorau i’w gyrfa a goblygiadau ariannol hynny.

Grŵp Cymorth Canser y Fron Gogledd Caerffili

Gwybodaeth ddigonol am sgil-effeithiau hir-dymor

Yn gyffredinol, cytunodd y cleifion eu bod wedi cael y wybodaeth a’r cymorth angenrheidiol o ran y sgil-effeithiau hir-dymor, ac roeddent yn teimlo bod y pethau hyn yn cael eu darparu mewn modd sy’n fwy na digonol gan Grŵp Cymorth Canser Macmillan. 

Ymddiriedolaeth Bracken

Diffyg gwybodaeth am sgil-effeithiau hir-dymor

Cytunodd y cleifion nad oeddynt wedi cael y wybodaeth angenrheidiol am effeithiau hir-dymor canser a’i driniaeth.

Gwybodaeth am effaith ariannol canser

Roedd llawer yn credu y dylai cleifion allu hawlio costau teithio yn ôl ac ymlaen i ysbytai y tu allan i’w hardaloedd bwrdd iechyd lleol. Hefyd, nodwyd bod angen mwy o gefnogaeth i gleifion i wella eu dealltwriaeth o sut y gallant ddod o hyd i gyllid ar gyfer cyfarpar prosthetig a wigiau. 

 


 

02. Pa gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau bod canser yn cael ei ganfod yn gyflym (er enghraifft, cynyddu’r defnydd o wasanaethau sgrinio canser, cael gwell mynediad uniongyrchol at ddiagnosis ar gyfer meddygon teulu a gwella’r broses o gyfeiriadau gan feddygon teulu o ran amserau aros)?

Pa gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau y gellir dod o hyd i ganser yn gyflym?

Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru

Diffyg arbenigwyr

Nododd un cyfranogwr brinder arbenigwyr mewn rhai mathau o ganser ledled Gogledd Cymru, er enghraifft ar gyfer canser y croen, y mae apwyntiadau clinig gyda nhw wedi’u gohirio fwy nag unwaith, weithiau ar fyr rybudd. Roedd y cyfranogwr hwn hefyd yn teimlo bod anghysondeb rhwng gwasanaethau yng ngogledd a de Cymru, ac nad yw prinder yn y gogledd yn cael sylw mewn modd amserol.

Oedi a chamddiagnosis

Nododd un cyfranogwr, unwaith y bydd rhywun yn cael symptomau canser, maent yn cael rhyw driniaeth neu feddyginiaeth ac mae’r meddyg teulu yn dweud wrthynt i ddychwelyd ymhen mis os nad yw’r symptomau’n well.  Roedd yn credu y gallai oedi fel hyn gael sgil-effeithiau ar atgyfeiriadau ymhellach, gan gynnwys aros am sganiau CT neu sgrinio perthnasol. Roedd rhai cyfranogwyr wedi aros mor hir â 3 mis rhwng cyflwyno eu symptomau a chael mynediad at sgrinio canser.

Barnwyd fod y mynediad sydd gan feddygon teulu at wasanaethau sgrinio yn annigonol. 

Materion yn ymwneud â chanserau penodol o ran rhyw

Dywedodd un cyfranogwr a oedd wedi cael diagnosis o ganser y prostad ac yna canser y coluddyn nad oes llawer yn cael ei wneud i hybu iechyd dynion a’r gwasanaethau sgrinio sydd ar gael i ddynion ar gyfer pethau fel canser y prostad.

‘NETs Natter’

Oedi a chamddiagnosis

Roedd y cyfranogwyr yn teimlo’n gryf y dylai meddygon teulu fod yn fwy ymwybodol o symptomau canser niwroendocrin a bod yn fwy parod i gyfeirio cleifion i gael sganiau. Dywedodd un cyfranogwr bod saith mlynedd wedi mynd heibio ar ôl ei hymweliad cyntaf â’i meddygfa leol cyn cael diagnosis terfynol. Dywedodd cyfranogwyr oherwydd nad yw canser niwroendocrin yn rhan o faes oncoleg, nid yw clinigwyr yn ymwybodol bod angen iddynt edrych amdano. Dadleuwyd y byddai defnydd rheolaidd o brofi wrin yn ddull mwy cost-effeithiol o ganfod canser niwroendocrin.

Grŵp Crefftau Ysbyty Singleton

Diagnosis a chanfod cyflym

Roedd y cleifion i gyd yn teimlo bod canfod cyflwr yn gyflym yn allweddol ar gyfer diagnosis.

Oedi a chamddiagnosis

Roedd dau o’r cleifion wedi cael camddiagnosis am gyfnod sylweddol o amser (hyd at flwyddyn) a oedd wedi arwain at eu canserau’n cael eu categoreiddio’n ganserau T4[1]. Awgrymodd un o’r cleifion y dylai unigolion gael y cyfle i ethol a thalu am sgan, a chael eu had-dalu os oes unrhyw beth yn cael ei ganfod.

Dywedodd claf arall fod ymdrin ag atgyfeiriadau mewn modd amserol yn bwysig iawn. Nododd bod ei meddyg teulu wedi ei chyfeirio at apwyntiad brys yng nghlinig y fron, ond ei bod wedi dewis cael sgan preifat i dawelu ei meddwl. Cafodd y sgan hwn o fewn deuddydd, ond nid oedd y llythyr am ei hapwyntiad brys wedi cyrraedd tan 6 wythnos yn ddiweddarach. Teimlai y gellid gwneud mwy i annog atgyfeiriadau amserol gan feddygon teulu i gael profion diagnostig.

Teimlai un claf y dylai mwy o feddygon teulu gael eu dyrannu. Eglurodd bod y rhan fwyaf o’i meddygon teulu yn staff locwm ac nad oedd wedi gweld yr un meddyg ddwywaith ar unrhyw adeg cyn diagnosis. Teimlai y gallai hyn fod wedi cyfrannu at yr amser a gymerwyd i wneud diagnosis.

Materion yn ymwneud â chanserau penodol o ran rhyw

Fel unigolion sydd wedi cael diagnosis o ganser penodol o ran rhyw, eglurodd y cleifion fod clinigwyr gwrywaidd dim ond yn gwneud apwyntiadau gyda nhw pan fo nyrs benywaidd yn gallu bod yn bresennol yn yr ystafell hefyd. Awgrymwyd y gallai hyn gyfrannu at yr oedi cyn diagnosis/triniaeth. Dywedodd y cleifion i gyd y byddent wedi bod yn fodlon cwrdd â’u clinigwyr heb fod nyrs benywaidd yn bresennol.

Grŵp Cymorth Canser y Fron Gogledd Caerffili

Oedi a chamddiagnosis

Cytunodd y cleifion i gyd y dylai’r terfyn oedran isaf ar gyfer sgrinio mamogram gael ei ostwng. Roedd un claf wedi cael diagnosis yn 40 oed, sef degawd cyn ei phrawf cyntaf yn arferol. Cafodd diagnosis o ffurf ymosodol o ganser y fron T3 a fyddai, heb ei ganfod, wedi ei lladd o fewn 18 mis. [2]

Codi ymwybyddiaeth

Cytunodd y cleifion y dylid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth ynghylch y ffaith fod canser yn salwch sy’n bygwth bywyd, yn hytrach na salwch sy’n deillio o ysmygu neu ffordd o fyw afiach, er enghraifft. Mae rhai mathau o ganser yn datblygu heb symptomau ac yn aml heb reswm. O ganlyniad i hyn, roeddent yn teimlo y dylai pobl ifanc ddysgu sut i chwilio am lympiau ar y corff.

Ymddiriedolaeth Bracken

Codi ymwybyddiaeth

Cytunodd y cleifion y dylid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth ynghylch canser yn gynharach, ac y dylid rhoi sylw penodol i amseroedd atgyfeirio gan feddygon teulu a faint o amser y mae’n gymryd i ganfod canser.

A wnaethoch/a ydych yn mynychu gwasanaethau sgrinio canser cyson?

Nododd cyfranogwyr yn yr holl grwpiau eu bod wedi cymryd rhan mewn profion sgrinio a’u bod yn parhau i wneud hynny, ond dylai gwasanaethau sgrinio fod ar gael yn gynharach.

Ar ben hynny, nododd Grŵp Canser y Fron Gogledd Caerffili y dylid gwneud rhagor o ymdrech i godi ymwybyddiaeth i sicrhau bod cleifion sy’n cael triniaeth yn parhau i gael eu sgrinio er mwyn sicrhau bod canser yn cael ei atal rhag datblygu mewn rhannau eraill o’r corff.

Dywedodd y grŵp NETs Natter fod rhai cleifion wedi aros hyd at 8 mis i sgrinio’r ysgyfaint a’r galon.

Nododd cyfranogwyr o Ymddiriedolaeth Bracken yr angen i dynnu sylw at y ffaith y gall dynion sy’n dioddef o ganser penodol o ran rhyw ofyn am brawf antigen penodol i’r prostad gan y meddyg teulu unrhyw bryd, beth bynnag eu hoedran.

Beth y gellir ei wneud i annog rhagor o bobl i ddefnyddio gwasanaethau sgrinio canser?

Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru

Codi ymwybyddiaeth

Dywedodd un cyfranogwr fod angen i bobl gymryd mwy o gyfrifoldeb personol dros eu hiechyd.

Roedd y grŵp yn teimlo bod rhagor yn cael ei wneud yn awr i wneud pobl yn ymwybodol o wasanaethau sgrinio canser ond nad yw hyn yn ddigon o hyd.  Roeddent yn teimlo bod angen i ni siarad â phlant mewn ysgolion am ganser ac mae angen i ni siarad â nhw mewn ffordd sy’n naturiol iddynt. Mae angen iddynt gael eu haddysgu am y wybodaeth sydd ar gael a ble y gallant ddod o hyd iddi. Roedd y grŵp yn teimlo bod angen dangos rhywbeth i blant a fydd yn eu gorfodi i ymateb.

‘NETs Natter’

Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ganser niwroendocrin drwyddi draw

Nid oes unrhyw wasanaethau sgrinio ar gyfer canser niwroendocrin, a dywedodd y cyfranogwyr fod angen cael gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r cyflwr a’r symptomau ar bob lefel o ofal iechyd.

Grŵp Crefftau Ysbyty Singleton

Codi ymwybyddiaeth

Pwysleisiodd rhai o’r cleifion bwysigrwydd chwalu’r rhwystr o ‘embaras a chysur’ i fanteisio ar wasanaethau sgrinio canser. Dywedodd un claf y dylai unrhyw fenyw sy’n cael rhyw gael prawf ceg y groth, er mwyn imiwneiddio yn erbyn canser HPV a firysau. Nodwyd fod pobl ifanc y tu allan i’r DU yn cael eu haddysgu i chwilio am lympiau yn y fron a’r ceilliau; dadleuodd y cleifion i gyd y dylai hyn ddigwydd yn ein hysgolion uwchradd ni, hefyd. Nodwyd y dylai’r broses hon o ddysgu fod yn un gweledol, gan ddangos effeithiau canser.  Roeddent yn credu y dylai iechyd personol fod ar frig yr agenda, ynghyd â maeth.

Profion genetig

Cododd un claf y posibilrwydd o gyflwyno mwy o lwybrau at ‘brofion genetig’ i ychwanegu at y llwybrau presennol ar gyfer menywod o deuluoedd sydd â hanes hir o ganser y fron.

Grŵp Cymorth Canser y Fron Gogledd Caerffili

Codi ymwybyddiaeth

I annog mwy o bobl i fanteisio ar wasanaethau sgrinio ar gyfer canser, cytunodd y cleifion y dylid hysbysebu ar y teledu yn ystod oriau brig ac y dylid targedu’r hysbysebion hyn at y cynulleidfaoedd perthnasol.

Ymddiriedolaeth Bracken

Codi ymwybyddiaeth

I gael mwy o bobl i fanteisio ar wasanaethau sgrinio canser, dylid eu hannog ar ffurf ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus, yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau ar gael i unigolion sy’n dod o deuluoedd sydd wedi dioddef llawer o achosion o ganser.

Pa mor rhagweithiol oedd eich meddyg teulu wrth asesu ac atgyfeirio eich symptomau, a faint o wybodaeth oedd ganddo amdanynt?

Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru

Oedi a chamddiagnosis

Nododd un cyfranogwr ei bod wedi cymryd 10 mis iddo gael diagnosis o ganser y prostad gan fod ei symptomau wedi cael eu trin fel haint i ddechrau.

Cysondeb o ran gwasanaethau meddyg teulu

Roedd y grŵp yn teimlo bod meddygon teulu weithiau yn rhagweithiol. Fodd bynnag, nid yw pawb bob amser yn gweld yr un meddyg teulu, sy’n golygu bod y meddyg teulu yn dibynnu ar wybodaeth wedi’i ffeilio yn hytrach na defnyddio’i wybodaeth bersonol am glaf penodol. Roedd aelodau o’r grŵp yn pryderu y gallai gweld mwy nag un meddyg teulu arwain at gofnodi neu drosglwyddo’r wybodaeth anghywir.

Roedd profiadau cleifion yn amrywio’n sylweddol, ond, yn gyffredinol, roedd y grŵp yn teimlo bod llawer o bethau i’w gwella mewn ymarfer meddygol.

‘NETs Natter’

Diffyg ymwybyddiaeth ynghylch canser niwroendocrin/tiwmorau niwroendocrin ar lefel meddyg teulu

Roedd y cleifion i gyd yn teimlo bod diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth angenrheidiol ymhlith meddygon teulu o ran canser niwroendocrin i’w galluogi i asesu eu symptomau fel rhai sy’n gyfystyr â’r clefyd. Roedd hyn, yn ei dro, wedi effeithio ar gyfeiriadau. Cafodd y rhan fwyaf o gleifion gamddiagnosis pan oeddent wedi cyflwyno’u symptomau, ac roeddent wedi treulio rhwng chwe mis a saith mlynedd yn cael eu trin am gyflyrau fel Syndrom Coluddyn Llidus.

Grŵp Crefftau Ysbyty Singleton

Oedi cyn cael eu cyfeirio i gael sgan

Yn gyffredinol, roedd y cleifion yn teimlo bod eu meddygon teulu yn rhagweithiol a gwybodus wrth asesu a chyfeirio eu symptomau, ond roedd oedi cyn eu cyfeirio i gael sgan wedi golygu bod canser dau o’r cleifion wedi lledaenu. Roedd un cyfranogwr yn teimlo bod ei meddygfa yn wael iawn yn adnabod ei symptomau, er bod lefel y gofal yr oedd wedi’i gael ers hynny yn ardderchog.

Grŵp Cymorth Canser y Fron Gogledd Caerffili

Meddygon teulu rhagweithiol a gwybodus

Yn gyffredinol, roedd y cleifion yn teimlo bod eu meddygon teulu yn rhagweithiol a gwybodus wrth asesu a chyfeirio eu symptomau; yr amser rhwng sgrinio a diagnosis ar gyfer un claf oedd tair wythnos. Dywedodd un claf fod y broses hon wedi digwydd ‘ychydig yn rhy gyflym’ iddi, ac nad oedd wedi cael llawer o amser i ddod i delerau â’r hyn oedd yn digwydd iddi. Ar y llaw arall, dywedodd bod y gefnogaeth a gafodd gan y nyrsys yn rhagorol ac wedi ei helpu i deimlo’n gyfforddus.

Ymddiriedolaeth Bracken

Meddygon teulu rhagweithiol a gwybodus

Cytunodd y cleifion i gyd fod eu meddygon teulu yn rhagweithiol a gwybodus wrth asesu a chyfeirio eu symptomau.

 

 

03. Pa welliannau y gellir eu gwneud fel bod cleifion yn cael triniaeth a gofal cyflym ac effeithiol (er enghraifft, mynediad cyflym at driniaeth briodol, gwasanaethau sydd wedi’u cydgysylltu’n dda a mynediad at brofion a gwaith ymchwil clinigol)?

A oes gennych unrhyw brofiad o gael gofal canser ar draws gwahanol ysbytai neu leoliadau sylfaenol, cymunedol, eilaidd neu ofal cymdeithasol? Os felly, beth yw eich barn ar y ffordd y cydlynwyd eich gofal?

Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru

Cydgysylltu trawsffiniol gwael

Roedd rhai cyfranogwyr yn y grŵp wedi cael profiad o driniaeth drawsffiniol. Roeddent yn teimlo bod diffyg cydgysylltu rhwng gwahanol ysbytai. Soniodd y cyfranogwyr hyn am yr angen i ddweud wrth nyrsys neu oncolegwyr mewn un ysbyty beth oedd wedi digwydd mewn ysbyty arall oherwydd nad oedd gwaith papur bob amser wedi cael ei rannu rhyngddynt. Roedd teimlad cryf bod cyfathrebu rhwng ysbytai yn ddiffygiol.

Cydgysylltu da ar draws lleoliadau gofal 

Roedd un cyfranogwr yn teimlo ei fod wedi cael profiad da o gyfathrebu rhwng ei feddyg teulu a meddyg ymgynghorol mewn ysbyty. Anfonodd ei feddyg ymgynghorol adolygiad o’i gyflwr a’i driniaeth at ei feddyg teulu ac roedd hefyd wedi cael copi personol o’r wybodaeth hon.

‘NETs Natter’

Diffyg cydgysylltu

Dywedodd y mwyafrif llethol o gyfranogwyr y dylai gofal canser niwroendocrin gael ei gydgysylltu’n well, oherwydd eu bod yn teimlo eu bod yn gofyn am driniaeth drwy’r amser yn hytrach na chael y gofal hwn. Roeddent yn tynnu sylw at yr angen i gynyddu momentwm triniaeth o’r prawf cyntaf ymlaen, gan ddweud bod oedi rhwng profion a diffyg ymdeimlad o frys gan glinigwyr.

Grŵp Crefftau Ysbyty Singleton

Cydgysylltu da

Cytunodd y cleifion i gyd bod eu gofal wedi cael ei gydgysylltu’n dda ar y cyfan. Fodd bynnag, pwysleisiwyd pwysigrwydd rhannu gwybodaeth a’r angen i wneud popeth yn hygyrch yn electronig i’r holl staff meddygol. Roeddent yn dadlau y dylai clinigwyr o bob adran a lleoliad gofal a gymeradwyir allu cael mynediad at gofnodion meddygol unigolyn.

Diffyg cydgysylltu

Ar ôl cael gofal mewn dau ysbyty gwahanol, dywedodd un claf nad oedd ei gwybodaeth wedi cael ei rhannu’n ddigonol rhyngddynt.

Grŵp Cymorth Canser y Fron Gogledd Caerffili

Angen cyfathrebu’n well ar draws lleoliadau gofal

Roedd gan y cleifion i gyd brofiad o gael gofal canser ledled rhanbarth de Cymru. Roeddent yn teimlo bod angen blaenoriaethu cyfathrebu er mwyn cydgysylltu gofal yn well. Nodwyd hefyd fod angen i ysbytai a thimau ôl-ofal gyfathrebu’n well gyda’i gilydd. Siaradodd rhai cyfranogwyr am brofiadau lle’r oedd Nyrsys Ardal yn dangos ‘diffyg gofal a pharch’ wrth ymweld â chleifion, gan fethu â darllen y nodiadau ymlaen llaw ac, ar adegau, gofyn i’r cleifion beth yr oeddent yno i’w wneud.

Ymddiriedolaeth Bracken

Angen cyfathrebu’n well ar draws lleoliadau gofal

Roedd gan y cleifion i gyd brofiad o gael gofal canser ar draws gwahanol ysbytai. Cytunodd y cleifion fod angen i adrannau ac ysbytai gyfathrebu’n well, a phwysleisiwyd yr angen i anfon copïau o lythyrau at gleifion fel eu bod yn parhau i fod yn rhan o’r drafodaeth am eu gofal.

A gysylltwyd â chi i gymryd rhan mewn prawf clinigol? Os felly, sut brofiad oedd hynny?

Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru

Cysylltwyd â llawer o’r cyfranogwyr yn y grŵp mewn perthynas â chymryd rhan mewn prawf clinigol.

Dywedodd un cyfranogwr bod ei phrofiad o brofion clinigol wedi bod yn dda iawn a’i bod yn credu eu bod wedi helpu i achub ei bywyd. Cafodd ei chwaer ddiagnosis o’r un canser wedi hynny, a defnyddiwyd yr un cyffuriau a oedd yn rhan o’r prawf clinigol yr oedd yn rhan ohono yn nhriniaeth ei chwaer.

‘NETs Natter’

Roedd un cyfranogwr wedi cymryd rhan mewn tri phrawf clinigol: dau yn y DU ac un yn yr arfaeth yn yr Almaen. Roedd hi wedi mwynhau cymryd rhan ynddynt ac roedd yn croesawu’r cynnig i gymryd rhan.

Grŵp Crefftau Ysbyty Singleton

Ni chysylltwyd ag unrhyw un o’r cyfranogwyr i gymryd rhan mewn profion clinigol.

Grŵp Cymorth Canser y Fron Gogledd Caerffili

Bu un o’r cleifion yn cymryd rhan mewn prawf clinigol pum mlynedd o hyd a oedd yn cymharu effeithiau Anastrozole a Tamoxifen. Daeth y prawf clinigol hwn i ben y llynedd. Roedd hi wedi mwynhau’r profiad, ac roedd yn teimlo bod ganddi bwynt o gyswllt ardderchog drwy gydol ei thriniaeth.

Ymddiriedolaeth Bracken

Cysylltwyd ag un o’r cleifion i ofyn iddo gymryd rhan mewn prawf clinigol, ond pwysleisiodd ei glinigwr ei hawydd i reoli ei driniaeth yn bersonol. Nododd un cyfranogwr fod profion clinigol mewn gwirionedd dim ond yn cael eu cynnig i bobl yr oedd eu triniaethau blaenorol wedi bod yn aflwyddiannus.

 

04. Pa welliannau y gellir eu gwneud i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o leihau’r perygl o ganser drwy wneud dewisiadau o ran byw’n iach, a’u bod yn cael eu cefnogi yn hynny o beth?

A ydych yn credu bod yr ymgyrchoedd cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth ynghylch y ffactorau risg ar gyfer canser (er enghraifft, ysmygu, alcohol, gordewdra ac yn y blaen) yn ddigonol?  Os na, pam felly, a sut y gellir eu gwella?

A wnaethoch ddefnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau iechyd cyhoeddus sydd ar gael i hybu ffyrdd iach o fyw (fel gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu neu alcohol, neu wasanaethau i fynd i’r afael â gordewdra)? Os felly, sut brofiad oedd hynny?

Fforwm Cleifion Canser Gogledd Cymru

Ar y cyfan, roedd y grŵp yn teimlo mai’r gair allweddol i’w ystyried wrth drafod ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch ffactorau risg canser yw cymhelliant. Roeddent yn teimlo bod pobl yn gwrthod cymryd cyfrifoldeb am eu ffordd o fyw. Roeddent yn dadlau y gallai gwneud pobl yn fwy ymwybodol o effeithiau eu penderfyniadau o ran eu ffordd o fyw eu cymell i newid eu penderfyniadau. Fodd bynnag, cafwyd cydnabyddiaeth y gall dod o hyd i ffyrdd i gymell pobl fod yn anodd.

Roedd y grŵp yn teimlo bod addysgu pobl am risgiau canser o oedran ifanc yn bwysig iawn, ond roedd teimlad ymysg y grŵp bod gormod o ymgyrchoedd cyhoeddus am ffactorau risg o ran canser. Bu’r grŵp yn cwestiynu a yw pobl yn cymryd unrhyw sylw ohonynt, gan ofyn a oedd negeseuon yn cael eu glastwreiddio yn sgil y nifer fawr o ymgyrchoedd.

Nododd un cyfranogwr bod newid deddfwriaeth yn cael dylanwad o bryd i’w gilydd, er enghraifft y ddeddfwriaeth i wahardd ysmygu mewn tafarnau. Nodwyd nad yw gweld ymgyrchoedd byth a beunydd yn cael yr un effaith. Gofynnodd y grŵp a oedd unrhyw ymchwil wedi ei wneud i weld a yw’r ymgyrchoedd hyn yn gweithio mewn gwirionedd.

Roedd llawer o’r cyfranogwyr yn teimlo nad oedd mentrau presennol yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau; er enghraifft, cafodd sesiynau Dechrau’n Deg – Rhaglen Llywodraeth Cymru sydd wedi’i thargedu at y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer teuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru – eu nodi fel cyfle i hyrwyddo penderfyniadau ynghylch ffordd o fyw ac i roi cyngor am ganser.

‘NETs Natter’

Dadleuodd y grŵp am fwy o ymwybyddiaeth ymhlith Meddygon Teulu o symptomau canser niwroendocrin. Eglurwyd nad yw canser niwroendocrin o reidrwydd yn amlygu ei hun o ganlyniad i ddewisiadau ffordd o fyw gwael, ond gall ddeillio o eneteg neu anghydbwysedd hormonaidd. Teimlwyd mai cael nyrsys niwroendocrin arbenigol fyddai’r dewis gorau i gleifion ac y dylai addysgu am y math hwn o ganser fod yn rhan o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus meddygon teulu.

Grŵp Crefftau Ysbyty Singleton

Cytunodd y cleifion yn gryf fod ymgyrchoedd canser yn annigonol ar gyfer pobl ifanc, ac y dylai profion canser ddechrau’n gynharach.

Amlinellodd un claf yr angen i barhau i addysgu menywod am ganser y fron: ‘Nid lwmp yn unig yw canser y fron... mae yna ffyrdd eraill o’i ganfod drwy linynnau meinwe... Mae angen ichi wybod am eich corff ei hun, a dylai menywod ifanc gael eu haddysgu i chwilio i ddeall pan fydd rhywbeth o’i le’.

Roedd un claf wedi defnyddio’r cynllun atgyfeirio ymarfer corff, ond nid oedd wedi cael ei ddatblygu digon iddi gymryd mantais ohono.  Dywedodd ei bod wedi cael y wybodaeth hon yn y Sioe Adfer o Ganser ac nid drwy’r GIG.

Grŵp Cymorth Canser y Fron Gogledd Caerffili

Roedd y cleifion yn teimlo y dylai mwy o hysbysebion wedi’u targedu o ran rhyw gael eu dangos ar y teledu. Dywedodd rhai cleifion fod gormod o ymgyrchoedd iechyd yn achosi dryswch, yn enwedig o ran beth sy’n iach i’w fwyta. Cafodd y grŵp drafodaeth am y diffyg gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus am effaith ychwanegion bwyd a diod. Fel y soniwyd yn flaenorol, dywedodd y grŵp hefyd na ddylai ymgyrchoedd canser ganolbwyntio ar ddeiet iach yn unig, gan fod llawer o ganserau yn datblygu heb achos neu symptomau.

Cafodd dau o’r cleifion fynediad at wasanaethau iechyd cyhoeddus, ond cawsant eu cyfeirio atynt drwy Macmillan yn hytrach na’r GIG. Mae un yn mynd i ddosbarth ffitrwydd sy’n cael ei gyflwyno ar y cyd drwy Macmillan a’r cynllun Cymunedau yn Gyntaf lleol. Manteisiodd y llall ar atgyfeiriad triniaeth adweitheg drwy Felindre a oedd yn help iddi adennill ei ffocws ar ei lles cyffredinol.

Ymddiriedolaeth Bracken

Cytunodd y cleifion i gyd fod ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cyhoeddus am ffactorau risg canser yn annigonol. Nododd y grŵp fod llawer o wybodaeth yn cystadlu, yn enwedig o ran deiet. Teimlai un o’r cyfranogwyr fod negeseuon iechyd cyhoeddus yn aml yn ‘siarad lawr â’r cyhoedd, sy’n nawddoglyd... ni ellir disgwyl i bobl gydymffurfio â disgwyliadau uchel o ran ffordd iach o fyw’.

Roedd cyfranogwr a chlaf arall yn teimlo y dylai gwybodaeth gael ei rhannu gyda phlant o bob oed, yn hytrach na chaniatáu iddynt gael eu gwarchod rhag effeithiau canser: ‘mae angen cael sgwrs agored am ganser, a allai yn y dyfodol... eu hannog i fanteisio ar sgrinio ‘.

 



[1]Mae gan y rhan fwyaf o ganserau system i rifo'r cymalau o 1 i 4. Lle mae'r canser wedi lledaenu o ble y dechreuodd i un o organau eraill y corff, nodir fod y canser yn ganser categori pedwar. Gelwir hyn hefyd yn ganser eilaidd neu ganser metastatig.

[2]Yn aml, nodir fod y canser yn un categori tri pan fo'r canser yn fwy. Bydd y canser, o bosibl, wedi dechrau ymledu i feinweoedd cyfagos ac mae celloedd canser yn y nodau lymff yn y rhan hon o'r corff.