R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
1. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i glybiau chwaraeon yn Islwyn? OAQ(4)0159(CS)
2. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyfleoedd chwaraeon yng Nghwm Cynon? OAQ(4)0154(CS)
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o gyfleusterau chwaraeon ar Ynys Môn? OAQ(4)0161(CS)W
4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflogau ac amodau yn Amgueddfa Cymru? OAQ(4)0162(CS) TYNNWYD YNOL
5. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgysylltiad cymunedau â threftadaeth Cymru? OAQ(4)0165(CS)
6. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa bryd mae’r Gweinidog yn bwriadu ymateb i argymhellion y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru? OAQ(4)0163(CS)W
7. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddarlledu? OAQ(4)0166(CS)
8. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ymrwymiad i Barciau Cenedlaethol Cymru? OAQ(4)0164(CS)
9. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau ynghylch Parciau Cenedlaethol y mae'n bwriadu eu cyflwyno yn 2014? OAQ(4)0153(CS)
10. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl ymddiriedolaethau cefnogwyr mewn pêl-droed? OAQ(4)0158(CS)
11. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfywio dan arweiniad treftadaeth yn y gogledd-orllewin? OAQ(4)0160(CS)W
12. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gymorth i ymddiriedolaethau llyfrgelloedd cymunedol? OAQ(4)0152(CS)
13. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod plant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn gallu cael mynediad i gyfleoedd chwaraeon? OAQ(4)0155(CS)
14. Russell George (Sir Drefaldwyn): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio llythrennedd corfforol i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc? OAQ(4)0157(CS)
15. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu camau gweithredu Llywodraeth Cymru i wella mynediad parhaus i'r celfyddydau a threftadaeth yng Nghymru? OAQ(4)0156(CS)