Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

CELG(4)-15-14 Papur 2

 

I: Christine Chapman AC, Cadeirydd, Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

CC: Sarah Beasley, Clerc y Pwyllgor

 

7fed Mai 2014

 

Annwyl Gadeirydd,

Ysgrifennaf atoch ynglyn âfy adroddiad ar wasanaethau cymunedol, ‘Pwysigrwydd ac Effaith Gwasanaethau Cymunedol yng Nghymru’, a gyhoeddwyd ar ddiwedd mis Chwefror.[1]

Mae’r adroddiad wedi derbyn adborth cadarnhaol a wedi helpu i annog trafodaeth ar ddyfodol gwasanaethau cymunedol yng Nghymru. Fel y pwysleisiwyd yn fy adroddiad, rhaid sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu heffeithio’n anghyfartal gan unrhyw newidiadau i wasanaethau cymunedol. Mae pobl hŷn yn gwneud cyfraniad sylweddol i’n cymunedau a maent angen gwasanaethau allweddol i’w galluogi i barhau fel asedau economaidd.

Mae trafodaethau diweddar yn y wasg ac yn y Senedd ar ddyfodol bysiau cyhoeddus, toiledau cyhoeddus, llyfrgelloedd a chanolfannau dydd/cymunedol wedi dangos pwysigrwydd y gwasanaethau yma, nid yn unig i bobl hŷn ond i eraill yng nghymdeithas. Fe fydd gwaredu’r gwasanaethau yma yn arwain at ystod o broblemau iechyd meddyliol a chorfforol i bobl hŷn, a fydd yn y pen draw yn arwain at fwy o gostau i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn y tymor canolig i’r hir dymor.

Efallai hoffai’r Pwyllgor ystyried y tystiolaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad, a gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer y rhaglen waith i’r dyfodol. Os penderfynir y Pwyllgor i weithredu ymholiad cyhoeddus ar effeithiau lleihau gwasanaethau cyhoeddus a’u heffaith canlynol ar bobl hŷn ac eraill yna byddaf yn hapus i gymryd rhan a darparu tystiolaeth, yn ogystal ârhoi cyngor ar ffurf yr ymholiad pe bai hynny o fudd i’r Pwyllgor.

Gyda rhagor o benderfyniadau anodd i ddod ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus mewn hinsawdd economaidd sydd yn fwyfwy heriol, dyma gyfle amserol i dynnu sylw at fater allweddol a sicrhau y gall pobl hŷn parhau i gyfrannu at yr economi a chwarae rhan lawn a gweithredol yng nghymunedau ar draws Cymru.

Peidiwch ag oedi i gysylltu gyda fi neu fy Arweinydd Cymunedau, Llywodraeth Leol a Lles, Iwan Williams (iwan.williams@olderpeoplewales.com, 02920 445 045), os hoffech drafod yr adroddiad mewn rhagor o fanylder.

Description: I:\Indesign\letter-B+W.jpgDescription: I:\Indesign\letter-B+W.jpgDescription: I:\Indesign\letter-B+W.jpgCofion gorau,

Description: digi sig for Sarah R

Sarah Rochira                                                                                                Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 



[1] http://www.olderpeoplewales.com/wl/Publications/pub-story/14-02-25/The_Importance_and_Impact_of_Community_Services_within_Wales.aspx