MW_dark_RGB                                       M_dark_RGB

Papur briffio ar gyfer:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Diben:

Ymateb i'r ymchwiliad i'r cynnydd a wnaed hyd yma wrth weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru.

Cyswllt:

Helen Powell, Arweinydd Prosiect Ailgynllunio Gwasanaeth Hawliau Lles Macmillan.

 

Dyddiad creu:

31 Mawrth 2014

 

Cyflwyniad

1.    Rwy'n croesawu'r ymchwiliad hwn i'r cynnydd a wnaed hyd yma wrth weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru (LlC) gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

2.    Nid wyf wedi rhoi atebion i'r holl gwestiynau a ofynnodd yr ymchwiliad ond rwy'n edrych yn benodol ar anghenion ariannol cleifion canser a'r adran 'Ateb Anghenion Pobl' yn y Cynllun Cyflawni. Byddaf yn rhoi tystiolaeth ynghylch i ba raddau y mae'r ymrwymiad allweddol yn y Cynllun Cyflawni i’r rhai sydd wedi'u heffeithio gan ganser i gael "cynnig cyfle fel mater o drefn i gael mynediad i gyngor a chymorth ariannol yn rhan o'r broses asesu a chynllunio gofal" wedi cael ei weithredu yng Nghymru.  Mae fy ymateb i'r ymchwiliad hwn yn seiliedig ar ddadansoddi Cynlluniau Cyflawni Lleol y Byrddau Iechyd Lleol (BILLau) 2012, Adroddiadau Blynyddol 2012 a 2013 y BILlau, Adroddiad Cynnydd ac Interim, yr Arolwg o Brofiad Cleifion Canser Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, adborth a gafwyd gan 13 Cynghorydd Budd-daliadau Lles Macmillan yng Nghymru ac ar fy mhrofiad fy hun.

 

3.    Ar ôl bod yn ymwneud â chyngor budd-daliadau ers 28 mlynedd, yn weithiwr proffesiynol i Macmillan sy'n gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot ers 4 blynedd ac Arweinydd Prosiect Ailgynllunio Gwasanaeth Budd-daliadau Lles Macmillan, rwy'n llwyr ymwybodol o'r effaith arwyddocaol y gall diagnosis canser ei chael ar sefyllfa ariannol pobl a'u lles.

 

4.    Yn 2013 rhoddodd Cynghorwyr Budd-daliadau Lles Macmillan gymorth i rai wedi’u heffeithio gael bron i £13.4 miliwn mewn incwm budd-daliadau, gan roi cefnogaeth i bron i 3000 o bobl. Mae gwasanaeth Budd-daliadau Lles Macmillan yn amlygu'n eglur pa mor bwysig yw hi fod y rhai sydd wedi'u heffeithio gan ganser yn cael cynnig gwasanaethau cymorth budd-daliadau.

 

Crynodeb o'r pwyntiau allweddol

5.    Gweledigaeth Macmillan yw bod pawb sy'n cael diagnosis canser yng Nghymru yn cael mynediad i gyngor a chymorth budd-daliadau adeg y diagnosis, ac ar gamau allweddol o'u taith ganser. Gall mynediad i gyngor a chymorth budd-daliadau amserol a phriodol leihau'n arwyddocaol galedi ariannol, gall liniaru pryder a straen, gwella ansawdd bywyd a helpu pobl i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth gydol eu taith ganser.

 

6.    Rhoddodd Macmillan groeso cynnes i'r ymrwymiad yn y Cynllun Cyflawni ynghylch y dylai’r rhai oedd wedi cael diagnosis canser gael mynediad i gyngor a chymorth budd-daliadau oherwydd mae canser yn cael effaith ddifrifol ar sefyllfa ariannol pobl a'u lles, a dylid gwerthfawrogi hyn yn llawn. Ar gyfartaledd mae pobl sydd wedi cael diagnosis canser £640[i]y mis yn waeth eu byd oherwydd iddynt golli incwm o ganlyniad i gymryd amser o'r gwaith a chostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â chanser, gan gynnwys costau teithio a biliau gwresogi uwch.

 

7.    Er bod y Cynllun Cyflawni'n cydnabod ei bod hi'n bwysig fod pobl yn cael cyngor a chymorth budd-daliadau, mae tystiolaeth eglur o'r Arolwg cyntaf o Brofiad Cleifion Canser yng Nghymru (CPES) nad yw'r ymrwymiad hwn yn cael ei weithredu fel mater o drefn ledled Cymru. Mae'r CPES, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2014, yn amlygu mai 44% yn unig o'r cleifion a ddywedodd iddynt gael digon o wybodaeth gan staff ysbyty am sut i gael help ariannol neu fudd-daliadau.[ii] At hynny, nid yw unrhyw un o Gynlluniau Cyflawni ac Adroddiadau Interim y BILlau yn cyfeirio at sut y byddant yn rhoi sylw i'r gofyniad yn y Cynllun Cyflawni y bydd cleifion canser yn cael cynnig y cyfle i gael mynediad i gyngor a chymorth budd-daliadau fel mater o drefn. Mae hyn yn destun pryder penodol inni.

 

8.    Mae Macmillan Cymru'n galw nawr ar LlC i weithio gyda BILlau, Llywodraeth Leol a phartneriaid y trydydd sector, fel Macmillan Cymru, i sicrhau bod y rhai sydd wedi'u heffeithio gan ganser yn cael cynnig y cymorth sydd ei angen arnynt fel mater o drefn.

 

9.    Rwy'n cadarnhau galwad Macmillan Cymru i LlC roi arweiniad ac arweinyddiaeth strategol eglur, wedi'u cynorthwyo gan strwythur cyffredinol cenedlaethol i Gymru gyfan o ran cynllunio, atebolrwydd a pherfformiad. Dylai osod y blaenoriaethau ar sail Cymru gyfan am gyfnod o dair blynedd tan ddiwedd 2016; gosod systemau monitro cadarn i archwilio cynnydd ac adrodd yn agored arno, a defnyddio data i lywio gwelliannau er mwyn codi safonau a sicrhau bod ymagweddu cyson tuag at wella gofal canser yng Nghymru, gan gynnwys bod cleifion yn cael cynnig cyfle i gael mynediad i gyngor a chymorth budd-daliadau'n rhan o'r broses asesu a chynllunio gofal.

 

Pam mae angen cyngor a chymorth budd-daliadau ar y rhai sydd wedi'u heffeithio gan ganser?

10.     Mae'r rhan fwyaf o gleifion canser yn profi colli incwm a/neu gynnydd mewn costau o ganlyniad uniongyrchol i ganser[iii]a gall hyn arwain at ddyledion newydd neu ragor o ddyledion.[iv]  Mae dros 50% y rhai a gafodd diagnosis canser yn dweud eu bod yn poeni am eu sefyllfa ariannol,[v] gyda 91% o'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan ganser yn profi colli incwm a/neu gynnydd mewn costau.[vi] Gall y pwysau hwn gael effaith ar iechyd emosiynol a meddyliol unigolion, gyda 41% o'r cleifion yn teimlo o dan ragor o straen o ganlyniad, a rhai pobl yn teimlo bod anawsterau ariannol 'yn fwy o ofid na'r canser'.[vii]

 

Colli incwm

11.  Mae 40,000 o bobl o oedran gweithio'n byw gyda chanser yng Nghymru.[viii] Mae pobl sydd â chanser yn ei chael hi'n anodd neu'n amhosib gweithio yn ystod eu triniaeth ac weithiau hefyd ar ôl cael triniaeth oherwydd gall y canser neu'r driniaeth olygu eu bod yn teimlo'n flinedig, yn wan, mewn poen, ac yn sâl am fisoedd, hyd yn oed am flynyddoedd, ar ôl y driniaeth gyntaf. O'r rhai sy’n gweithio adeg y diagnosis, bydd tua 15% yn gorfod rhoi’r gorau i’w gwaith yn llwyr tra bydd rhaid i 3 o bob 10 newid eu statws gweithio mewn rhyw ffordd.[ix]  Mae colli incwm yn un o'r goblygiadau ariannol mwyaf i'r rhai sydd wedi cael diagnosis canser. Mae 43% o'r rhai sy'n gweithio adeg y diagnosis yn colli incwm.[x] Fel y mae adroddiad Macmillan Cyfrif Cost Canser[xi] yn ei amlygu, collir yr incwm mwyaf yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl y diagnosis, pan fydd y person cyfartalog yn colli amcangyfrif o 20% - £5,500 yng Nghymru - o'u henillion gwaith. Dros bum mlynedd, amcangyfrifir bod yr incwm cyfartalog a gollir yn £16,500.

 

12.  Yn ogystal, gallai'r Ddeddf Diwygio Lles 2012 olygu bod hyd at 7,000 o gleifion canser ledled y DU yn colli hyd at £94 yr wythnos.[xii] O ganlyniad i'r Diwygiad Lles mae'n debygol y bydd llawer o gleifion canser yn gweld eu Lwfans Cefnogaeth a Chymorth (ESA) yn cael ei dynnu ar ôl blwyddyn beth bynnag, os ydyn nhw'n barod i ddychwelyd i'r gwaith ai peidio. Bydd hyn yn gadael rhai heb gymorth ariannol allweddol ar adeg pan nad ydynt yn gallu dychwelyd i'r gwaith.

 

Costau sy'n gysylltiedig â diagnosis canser

13.  Ni ellir dibrisio'r costau sy'n gysylltiedig â chanser, a gallant arwain at dlodi. Fel y mae adroddiad Macmillan [xiii] yn ei amlygu, mae'r costau sy'n codi i gleifion canser yng Nghymru'n cynnwys;

a.   Costau teithio: mae’n effeithio ar 95% o'r cleifion ac ar gyfartaledd amcangyfrifir bod hyn yn £275 y claf yn y flwyddyn gyntaf;

b.   Costau dillad: a wynebir gan 40% y cleifion ac sy'n costio, ar gyfartaledd, £400 dros bum mlynedd;

c.   Cynnydd mewn biliau: gan gynnwys biliau tanwydd oherwydd bod y claf gartref yn fwy nag arfer ac yn fwy tebygol o deimlo'r oerfel o ganlyniad i driniaethau fel cemotherapi. Gall biliau ffôn a'r rhyngrwyd godi gan fod ar bobl angen mwy o ryngweithio cymdeithasol i fynd i'r afael ag unigrwydd;

ch. Costau sy'n gysylltiedig â phryd a gwedd a delwedd y corff: Mae hyn yn cynnwys colur i guddio creithiau, wigiau, bandanas, sgarffiau, gwahanol gynhyrchion hylendid, cynhyrchion gwallt ac elïau.

d.   Costau ychwanegol fel addasu'r cartref, costau gofal plant, a chostau aros dros nos; ac

dd. Mae gofalwyr pobl sydd â chanser hefyd yn dweud bod costau teithio'n gost fawr - nid yw 70% o ofalwyr canser yn byw gyda'r rhai y maent yn gofalu amdanynt, felly rhaid teithio i'w gweld, yn ogystal â chostau teithio ar gyfer ymweliadau ysbyty a mynd â phobl i apwyntiadau.

 

 

 

 "Roedd y newid yn yr hyn dwi'n gallu ei fwyta'n ddrud oherwydd bod gen i diwmor ar waelod fy nhafod ac mae radiotherapi wedi gwneud difrod i'm chwarennau poer. Cynnig a chynnig oedd hi i ddechrau a gwastraffwyd llawer o fwyd. 

 

"Hefyd ro'n i'n teimlo'r oerfel yn llawer mwy pan ddychwelais adref o'r ysbyty. Roedd rhaid gwresogi'r rhan fwyaf o'r amser, a dyblodd hynny ein bil nwy ac roedd rhaid inni ddefnyddio ein cynilion."  

 Derek, Caerffili

 

 

 

Beth yw cyngor a chymorth budd-daliadau?

14. Bydd niferoedd y rhai sy'n cael eu heffeithio gan ganser yn parhau i godi yn y dyfodol. Yr her i'r dyfodol yw sicrhau bod pobl yn cael cyngor fel mater o drefn yn rhan o'u cynllunio gofal ac asesu, felly caiff eu hanghenion eu hateb ar adegau allweddol ar y llwybr canser pan fo ymchwil wedi dangos bod newid yn debygol yn eu hamgylchiadau ariannol.

 

15. Mae'r tabl hwn yn dangos mynychder, nifer achosion o ganser yn 2011 ac yn 2030 ledled Cymru.

 

 

Bwrdd Iechyd Lleol

Betsi Cadwaladr

Hywel Dda

Aber-tawe Bro Mor-gannwg

Caerdydd a'r Fro

Cwm Taf

Aneurin Bevan

Powys

Cymru. Cyfanswm

Cyfanswm mynychder canser y flwyddyn (2011)

4,507

2,428

2,988

2,418

1,651

3,454

857

18,303

Cyfanswm nifer yr achosion (2010)

27,100

15,660

18,890

14,520

10,320

20,720

5860

113,070

Cyfanswm nifer yr achosion (2030)

48,830

29,230

33,610

27,090

17,540

36,120

11,570

203,990

 

16. Mae cyngor a chymorth budd-daliadau'n golygu gwneud y mwyaf o'ch incwm a rheoli arian yn effeithiol. Pan fydd rhywun yn cael cyngor a chymorth budd-daliadau, gall gynnwys ystod eang o faterion gan gynnwys budd-daliadau, hawliau cyflogaeth, dyled, cynilo a benthyg, hawliau pensiwn, tlodi tanwydd ac yswiriant.

 

17. Mae gwasanaethau cyngor budd-daliadau lles yn aml yn mynd drwy'r system fudd-daliadau'n rhagweithiol dros unigolyn pan fydd ei allu i wneud hynny wedi'i amharu gan gyflwr meddygol. Neu'n mae'n cynnig y lefel briodol o gymorth a gwybodaeth i gynorthwyo'r unigolyn i ymchwilio ei hun i'r hyn y mae ganddo hawl iddo.

 

18.       I’r rhai sydd â chanser, mae gwneud y mwyaf o'u hincwm a rheoli arian yn effeithiol yn arbennig o bwysig. Gall cyngor budd-daliadau a gwasanaethau cymorth helpu pobl i gwrdd â'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â diagnosis canser. Yn ddiweddar lansiodd Macmillan adroddiad ledled y DU o'r enw Cost Gudd Canser'[xiv] a amlygodd yng Nghymru, fod pedwar o bob pump o bobl (86%) yn cael eu taro gan gostau ychwanegol o ganlyniad i ddiagnosis canser, ac, ar gyfartaledd, eu bod £640 y mis yn waeth eu byd (£310 colli incwm a £330 costau ychwanegol).[xv]

 

19.   Mae hefyd yn bwysig i’r rhai sy'n cael diagnosis canser allu cael mynediad i gyngor a chymorth budd-daliadau arbenigol yn brydlon. Mae’r rhai sydd wedi'u heffeithio gan ganser yn aml yn ei chael hi'n anodd cael mynediad i ddarpariaeth cymorth a chyngor budd-daliadau cyffredinol[xvi] oherwydd yr effaith a gaiff triniaeth ganser, gan gynnwys ar symudedd, gan wneud i bobl deimlo'n flinedig a bod â system imiwnedd wedi'i gwanhau. Er bod nyrsys a meddygon yn cynnig arweiniad gwerthfawr weithiau, mae cyngor budd-daliadau'n faes arbenigol ac nid yw pobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser yn ei gael bob amser ar yr adeg fwyaf effeithiol. Mae pobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser yn aml yn ei chael hi'n anodd cael mynediad i gyngor drwy ddulliau confensiynol, a phan wnânt hynny, maen nhw'n aml yn gweld nad yw'r cynghorwyr yn deall canser, ei driniaethau[xvii] a'r effaith debygol ar eu hawl i gael budd-daliadau.

 

Nid yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyngor a chymorth budd-daliadau'n cael ei weithredu

20. Er bod y Cynllun Cyflawni yn cynnwys ymrwymiad y dylai'r rhai oedd yn cael diagnosis canser 'gael cynnig cyfle fel mater o drefn i gael mynediad i gyngor a chymorth ariannol yn rhan o'r broses asesu a chynllunio gofal', sef yr hyn yr ymgyrchodd Macmillan Cymru amdano, mae tystiolaeth eglur nad yw'r ymrwymiad hwn yn cael ei weithredu fel mater o drefn ledled Cymru, a bod hynny’n cael effaith ddifrifol ar gleifion canser.

 

21. Ar hyn o bryd, gwyddom nad yw cleifion canser a'u teuluoedd yng Nghymru'n cael cynnig mynediad i gyngor a chymorth budd-daliadau fel mater o drefn pan fyddant yn cael diagnosis, neu ar adegau strategol eraill ar lwybr canser, a all achosi pryder, straen a chaledi ariannol iddynt.

 

22. Canfu'r Arolwg diweddar o Brofiad Cleifion Canser Cymru mai 44% yn unig o'r cleifion a oedd ag angen cymorth ariannol neu fudd-daliadau oedd wedi cael digon o wybodaeth am sut i gael help ariannol neu fudd-daliadau gan staff ysbyty,[xviii]  cafodd 7% o'r cleifion wybodaeth ariannol ond byddent wedi hoffi cael rhagor a dywedodd 49% na chawsant unrhyw wybodaeth ond y byddent wedi hoffi cael ychydig.

 

23. Fel y dengys y tabl isod, dangosodd yr Arolwg dystiolaeth hefyd fod amrywiad ar draws Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru, yn amrywio o 28% fel y sgôr isaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i 53% fel y sgôr uchaf i Fwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd yn Felindre, fel yr amlygir isod.

 

Cwestiwn

ABMUHB

ABUHB

BCUHB

CVUHB

CTUHB

HDUHB

Felindre

Cymru.

C33 % y cleifion a gafodd wybodaeth gan staff ysbyty am sut i gael help ariannol neu unrhyw fudd-daliadau y gallai fod hawl ganddynt eu derbyn

28%

31%

52%

43%

42%

34%

53%

44%

 

24. Yn ogystal â thystiolaeth yr Arolwg, mae dadansoddiad Macmillan Cymru o Gynlluniau Cyflenwi ac Adroddiadau Interim y BILLau 2012-2013 yn amlygu nad yw un o'r cynlluniau'n cyfeirio at sut bydd eu Bwrdd Iechyd yn mynd i'r afael â'r gofyniad yn y Cynllun Cyflenwi y bydd cleifion canser a'u teuluoedd yn cael cynnig cyfle i gael mynediad i gyngor a chymorth budd-daliadau fel mater o drefn.

 

25. Mae angen eglur i'r rhai sy'n cael diagnosis canser gael eu cyfeirio at gymorth cyngor budd-daliadau fel y mae tystiolaeth Gwasanaeth Cyngor Budd-daliadau Lles Macmillan Cymru yn ei ddangos. Yn 2013 rhoddodd Cynghorwyr Budd-daliadau Lles Macmillan gymorth i rai wedi'u heffeithio gan ganser gael £13.4 miliwn mewn incwm budd-daliadau, gan gynorthwyo bron i 3,000 o bobl. Mae gwasanaeth Budd-daliadau Lles Macmillan yn amlygu'n eglur pa mor bwysig yw hi fod y rhai sydd wedi'u heffeithio gan ganser yn cael cynnig gwasanaethau cymorth budd-daliadau.

 

Gweledigaeth Macmillan ar gyfer Cyngor a Chymorth Budd-daliadau yng Nghymru

26. Rydym eisiau i bawb sy'n cael diagnosis canser yng Nghymru gael cyfle i gael mynediad i gyngor a chymorth budd-daliadau adeg y diagnosis, ac ar adegau allweddol o'u taith ganser.

 

27. Gellid gwireddu'r weledigaeth hon drwy nifer o fentrau;

a.   Sefydlu cyngor a chymorth budd-daliadau’n rhan o'r llwybr canser drwy gyflwyno asesu holistig a chynllunio gofal fel mater o drefn;

b.   Hybu'r nifer sy'n derbyn budd-daliadau drwy weithwyr allweddol a nyrsys clinigol arbenigol a ddylai godi pryderon am fudd-daliadau fel mater o drefn a chyfeirio os oes angen cyngor;

c.   Galluogi'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan ganser ledled Cymru i gael mynediad i gyngor budd-daliadau lles arbenigol o ansawdd uchel gan weithwyr proffesiynol sydd â'r profiad a'r cymorth i ymdrin â chleient sy'n profi effaith diagnosis canser.

ch. Sicrhau bod y rhai sy'n cael eu heffeithio gan ganser yn cael mynediad i gyngor budd-daliadau lles mewn da bryd, ac yn aml bod angen eu gweld fel apwyntiad brys, gan y gall diagnosis canser arwain at newidiadau syfrdanol dros nos mewn amgylchiadau ariannol.

 

28. Cred Macmillan Cymru y gallai asesu holistig a chynllunio gofal fel mater o drefn chwarae rhan allweddol wrth roi'r wybodaeth hon i gleifion a'u teuluoedd a'u gofalwyr a'u helpu i gael mynediad i gyngor a chymorth budd-daliadau gydol eu taith ganser.

 

29.   Heb drafodaeth fanwl am eu sefyllfa ariannol bydd llawer o bobl yn tybio'n anghywir nad oes ganddynt hawl i gael budd-daliadau pan fo ganddynt hawl mewn gwirionedd. Fel y mae llai na hanner y rhai sydd wedi cael diagnosis canser yng Nghymru'n dweud eu bod yn derbyn cyngor neu gymorth budd-daliadau o unrhyw ffynhonnell.[xix] Felly mae'n bwysig fod gweithwyr iechyd proffesiynol (gan gynnwys gweithwyr allweddol/ nyrsys clinigol arbenigol) yn gwneud asesiadau holistig ac yn cynllunio gofal fel mater o drefn fel y gall pobl drafod unrhyw bryderon ariannol a all fod ganddynt o ganlyniad i'w diagnosis canser ac fel y gall y nyrs glinigol arbenigol eu cyfeirio at wasanaethau cyngor o ansawdd uchel, fel Macmillan. 

 

Casgliad.

30.   Fel yr amlygwyd uchod, mae'n hanfodol fod pobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser yn cael cynnig cyfle i gael mynediad i gyngor a chymorth budd-daliadau i leihau caledi ariannol, i liniaru pryder a straen, a gwella ansawdd bywyd. Er bod cefnogaeth a chanmoliaeth i ymrwymiad y Cynllun Cyflawni ynghylch cyngor a chymorth budd-daliadau, mae'n amlwg fod angen i LlC roi arweiniad ac arweinyddiaeth strategol eglur, wedi'u cynorthwyo gan strwythur cyffredinol cenedlaethol i Gymru gyfan o ran cynllunio, atebolrwydd a pherfformiad, er mwyn sicrhau bod ymrwymiadau'n cael eu cyflawni'n gyson ledled Cymru o ran y cyngor a'r cymorth budd-daliadau a gynigir i bawb sy'n cael diagnosis canser yng Nghymru.

 



[i]Cymorth Canser Macmillan 'Cancer's Hidden Price Tag'.

[ii]Arolwg o Brofiad Cleifion Canser Cymru tudalen 54-55

[iii] Cymorth Canser Macmillan (2006) Cancer Costs – the hidden price of getting treatment.

[iv] Pleasance P, Buck A, Balmer NJ, WilliamsK (2006) A Helping Hand – the Impact of Debt Advice on People’s Lives, Llundain, Legal Services Research Centre

[v] Dadansoddiad monitro mewnol, yn seiliedig ar arolwg ar-lein Cymorth Canser Macmillan /YouGov (Chwefror 2010) o 1,912 o bobl sy’n byw gyda chanser yn y DU. 173 ymatebydd o Gymru. Nid yw canlyniadau'r arolwg wedi'u pwysoli.

[vi] Cymorth Canser Macmillan, The Hidden Price Of Treatment, 2006

[vii] Wilson K, Amir Z, Hennings J, Young A (2010), A Qualitative Exploration of financial concerns, advice, support and coping in people diagnosed with cancer and their carers, Manceinion

[viii] Macmillan ‘The rich picture on people of working age with cancer’ 2012

[ix]Arolwg ar-lein Cymorth Canser Macmillan/YouGov (Chwefror 2010) o 1,912 o bobl sy'n byw gyda chanser yn y DU.  173 ymatebydd o Gymru. Nid yw canlyniadau'r arolwg wedi'u pwysoli.

[x] Dadansoddiad monitro mewnol, yn seiliedig ar arolwg ar-lein Cymorth Canser Macmillan /YouGov (Chwefror 2010) o 1,912 o bobl sy’n byw gyda chanser yn y DU. 173 ymatebydd o Gymru. Nid yw canlyniadau'r arolwg wedi'u pwysoli..

[xi] Cymorth Canser Macmillan , ‘Cyfrif cost canser’, 2012

[xii]Mae Macmillan yn amcangyfrif y gallai 7,000 o gleifion canser golli hyd at £94 yr wythnos. Mae'r ffigur hwn yn seiliedig ar amcangyfrifon o nifer y cleifion canser ar fudd-daliadau cyfrannol sydd yn Ngrŵp Gweithgarwch Cysylltiedig â Gwaith y Lwfans Cefnogaeth a Chymorth (ESA) neu sy'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd ar hyn o bryd ond a fydd yn cael eu rhoi yn y Grŵp Gweithgarwch Cysylltiedig â Gwaith ar ôl ailasesu'r holl rai sy'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.macmillan.org.uk/Aboutus/News/Latest_News/Cancerpatientstoloseupto94aweek.aspx

[xiii] Cymorth Canser Macmillan , ‘Cyfrif cost canser’, 2012

[xiv] Cymorth Canser Macmillan (2013) Cost Cudd Canser/Cancer’s Hidden Price Tag

[xv] Cymorth Canser Macmillan (2013) Cost Cudd Canser/Cancer’s Hidden Price Tag

[xvi]Rhwydwaith Canser Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Grŵp Cydlynu Cleifion a Gofalwyr a Gweithwyr Proffesiynol Canser yng Ngogledd Orllewin Cymru (Chwefror 2010): Ydy cleifion canser yn cael y wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt? Arolwg o gleifion canser sy'n byw yn Ynys Môn a Gwynedd

[xvii] Cymorth Canser Macmillan a’r Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol (2003). Benefits Access for People Affected by Cancer in Northern Ireland. Cymorth Canser Macmillan a’r Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol: Gogledd Iwerddon

[xviii] Arolwg o Brofiad Cleifion Canser Cymru tudalen 54-55

[xix] Arolwg o Brofiad Cleifion Canser Cymru 2013