R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
1. Christine Chapman (Cwm Cynon): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog mwy o bobl yng Nghymru i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol? OAQ(4)0139(CS)
2.Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o ferched i gymryd rhan mewn chwaraeon yn Llanelli? OAQ(4)0149(CS)W
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau ar gyfer datblygu chwaraeon merched yng Nghymru yn 2014? OAQ(4)0140(CS)
4. Alun Ffred Jones (Arfon): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ennyn diddordeb yn y celfyddydau ymhlith pobl ifanc? OAQ(4)0151(CS)W
5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo chwaraeon lleiafrifol yng Nghymru? OAQ(4)0141(CS)
6. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei drafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol ynglŷn â strategaeth a pholisi cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon, gweithgarwch corfforol a hamdden egnïol yng Nghymru? OAQ(4)0148(CS)
7. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo safleoedd treftadaeth ledled Cymru? OAQ(4)0142(CS)
8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon yn Sir Benfro? OAQ(4)0137(CS)
9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo'r defnydd o feicio ymhlith disgyblion Cymru? OAQ(4)0145(CS)W
10. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo mwy o weithgarwch chwaraeon gan ferched? OAQ(4)0150(CS)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r amgylchedd hanesyddol? OAQ(4)0143(CS)
12. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer archifau yng Nghymru? OAQ(4)0138(CS)
13. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymagwedd Llywodraeth Cymru at Lythrennedd Corfforol? OAQ(4)0147(CS)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am werth pierau glan môr i'r amgylchedd hanesyddol? OAQ(4)0144(CS) TYNNWYD YN OL
15. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i sicrhau effeithiolrwydd polisïau Diwylliant a Chwaraeon o ran trechu tlodi? OAQ(4)0146(CS)