2014 Rhif 287 (Cy. 36)

landlord a thenant, cymru

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio testun Cymraeg a Saesneg Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/683) o ganlyniad i gyflwyno credyd cynhwysol gan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012.

Caiff rheoliad 8 ei ddiwygio er mwyn caniatáu ystyried y ffaith bod credyd cynhwysol yn cael ei dderbyn wrth benderfynu a ganiateir hepgor ffi tribiwnlys.

Caiff rhai mân ddiwygiadau eu gwneud hefyd i destun Cymraeg y Rheoliadau er mwy alinio’r testunau Cymraeg a Saesneg.

 


2014 Rhif 287 (Cy. 36)

landlord a thenant, cymru

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                             11 Chwefror 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       13 Chwefror 2014

Yn dod i rym                        10 Mawrth 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraffau 1 a 9 o Atodlen 12 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2014, a deuant i rym ar 10 Mawrth 2014.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru)  2004

2.(1)(1) Mae testun Saesneg Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004([2]) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraff (2).

(2) Yn rheoliad 8(1) (waiver and reduction of fees)—

(a)     ar ddiwedd is-baragraff (e) dileer “or”;

(b)     dileer yr atalnod llawn ar ddiwedd is-baragraff (f); ac

(c)     ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—

“; or

(g) universal credit.”

(3) Mae testun Cymraeg Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004 wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraff (4).

(4) Yn rheoliad 8(1) (hepgor a lleihau ffioedd)—

(a)     ar ddiwedd is-baragraff (ch) dileer “neu”;

(b)     ar ddiwedd is-baragraff (d)(ii) rhodder hanner colon yn lle’r atalnod llawn; ac

(c)     ar ôl is-baragraff (d)(ii) mewnosoder—

“(dd) lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm sy’n daladwy o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007; neu

   (e) credyd cynhwysol.”

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

 

11 Chwefror 2014

 

 



([1]) 2002 p. 15. Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 12 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036), Atodlen 1, paragraff 148. 

([2]) O.S. 2004/683 (Cy. 71).