R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
1. Elin Jones (Ceredigion): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â datblygu cyfleusterau chwaraeon yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)0131(CS)W
2. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013? OAQ(4)0126(CS)
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bêl-droed llawr gwlad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0124(CS)
4. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer Parciau Cenedlaethol Cymru yn 2014/15? OAQ(4)0123(CS)
5. Lynne Neagle (Torfaen): Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer hyrwyddo cyfleoedd chwaraeon yn Nhorfaen? OAQ(4)0135(CS)
6. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y menywod sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon? OAQ(4)0119(CS)
7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safonau cenedlaethol ar gyfer llyfrgelloedd? OAQ(4)0125(CS)W
8. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y rhai sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin? OAQ(4)0127(CS)W
9. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynnal safonau llyfrgelloedd yng Nghymru? OAQ(4)0129(CS)W
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gydag arweinwyr awdurdodau lleol Cymru am effaith toriadau yn y gyllideb ar gyfleusterau diwylliannol? OAQ(4)0133(CS)
11. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo amgueddfeydd cyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0134(CS)
12. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Chyngor Caerdydd mewn perthynas â Chaerdydd fel prifddinas chwaraeon Ewrop yn 2014? OAQ(4)0132(CS)
13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu ar gyfer capeli sy'n cael ei gynnal gan CADW? OAQ(4)0130(CS)
14. Lynne Neagle (Torfaen): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo'r defnydd o amgueddfeydd ac orielau gan blant a phobl ifanc yng Nghymru? OAQ(4)0128(CS)
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau i bobl ifanc mewn chwaraeon yn Sir Benfro? OAQ(4)0122(CS)