Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 13A(8) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i'w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2013 Rhif (Cy. )

TRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â chynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor. Mae paragraff 6 o Atodlen 1B i Ddeddf 1992 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi cynllun diofyn mewn rheoliadau. Bydd y cynllun diofyn yn cael effaith mewn perthynas ag anheddau yn ardal awdurdod bilio os yw’r awdurdod hwnnw’n methu â gwneud cynllun ei hunan, yn unol ag unrhyw ddyletswydd a osodir yn rhinwedd rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Os nad fydd dyletswydd i gyflwyno cynllun yn rhinwedd rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, ni fydd y cynllun y darperir ar ei gyfer yn y rheoliadau hyn yn cael effaith.

Pennir y cynllun diofyn a ragnodir gan Weinidogion Cymru yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn. Mae’r  Rhannau 1 a 2 yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol a diffiniadau o eiriau ac ymadroddion allweddol. Mae Rhan 3 ac Atodlen 1  yn cynnwys y weithdrefn ar gyfer ceisiadau am ostyngiadau ac apelau. Yn Rhannau 4 a 5, yn eu trefn, pennir y dosbarthiadau o bersonau y mae hawl, neu nad oes hawl, ganddynt i gael gostyngiad o dan y cynllun.

Yn Rhannau 6 i 8 ac Atodlenni 2 a 3 nodir materion sy’n berthnasol i benderfynu ynghylch cymhwystra am ostyngiad a swm unrhyw ostyngiad o dan y cynllun.

Mae Rhan 9 ac Atodlenni 4 i 9 yn pennu’r modd y trinnir incwm a chyfalaf y ceisydd ac eraill wrth gyfrifo cymhwystra am ostyngiad, gan gynnwys achosion pan fo gan y ceisydd bartner, neu pan fo ganddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol. Yn Rhan 10, darperir ar gyfer cymhwyso’r cynllun i fyfyrwyr. Mae Rhan 11 yn darparu ar gyfer gostyngiadau estynedig mewn rhai amgylchiadau, a Rhan 12 yn pennu cyfnod yr hawlogaeth a’r modd y mae newid  yn yr amgylchiadau yn effeithio ar unrhyw ostyngiad.

Mae Rhan 13 o’r cynllun yn darparu ar gyfer gwneud cais am ostyngiad. Mae Rhan 14 yn pennu o fewn pa gyfnod o amser y mae’n rhaid i awdurdod wneud penderfyniad ar y cais ac yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiad o’r penderfyniad. Mae Rhan 15 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r dyfarniad neu’r taliad o ostyngiad, ac Atodlen 11 yn pennu’r materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn hysbysiadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r asesiad gan yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 13A(8) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i'w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2013 Rhif (Cy. )

TRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4)(c) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([1]) a pharagraff 6 o Atodlen 1B i’r Ddeddf honno.

 

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y'u gwneir.

(3)  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau bilio yng Nghymru, a’r flwyddyn ariannol gyntaf y mae’r cynllun a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hi yw’r flwyddyn sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2014.

(4) Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012([2]) wedi eu dirymu.

 

Cynllun diofyn

2. Y cynllun a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn yw’r cynllun a ragnodir at ddibenion paragraff 6 o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

 

 

Lesley Griffiths

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

 

YR ATODLEN

Rheoliad 2

 

Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru)

CYNNWYS

RHAN 1

Rhagarweiniol

 

1.       Enwi

 

RHAN 2

Dehongli

 

2.       Dehongli

3.       Cymhwyso’r cynllun: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr

4.       Ystyr “cwpl”

5.       Priodasau amlbriod

6.       Ystyr “teulu”

7.       Amgylchiadau pan fo person i gael ei drin fel un sy’n gyfrifol neu ddim yn gyfrifol am berson arall

8.       Aelwydydd

9.       Annibynyddion

10.     Gwaith am dâl

 

RHAN 3

Materion gweithdrefnol

 

11.     Gweithdrefn ar gyfer ceisiadau am ostyngiad ac apelau yn erbyn penderfyniadau ynghylch gostyngiad

 

RHAN 4

Dosbarthiadau o bersonau sydd â hawl i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn

 

12.     Dosbarthiadau o bersonau sydd â hawl i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn

13.     Dosbarth A: pensiynwyr â’u hincwm yn llai na’r swm cymwysadwy

14.     Dosbarth B: pensiynwyr â’u hincwm yn fwy na’r swm cymwysadwy

15.     Dosbarth C: personau nad ydynt yn bensiynwyr, â’u hincwm yn llai na’r swm cymwysadwy

16.     Dosbarth D: personau nad ydynt yn bensiynwyr, â’u hincwm yn fwy na’r swm cymwysadwy

17.     Cyfnodau o absenoldeb o annedd

 

RHAN 5

Dosbarthiadau o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn

 

18.     Dosbarthiadau o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn

19.     Dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr

20.     Dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo

21.     Dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: terfyn cyfalaf

22.     Dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: myfyrwyr

 

RHAN 6

Symiau cymwysadwy at y diben o gyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan y cynllun hwn a swm unrhyw ostyngiad

 

23.     Symiau cymwysadwy: pensiynwyr (gan gynnwys pensiynwyr mewn priodasau amlbriod)

24.     Symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

25.     Priodasau amlbriod: personau nad ydynt yn bensiynwyr

26.     Swm cymwysadwy: personau, nad ydynt yn bensiynwyr, sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol

 

RHAN 7

Uchafswm gostyngiad treth gyngor at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan y cynllun hwn a swm unrhyw ostyngiad

 

27.     Uchafswm gostyngiad treth gyngor o dan y cynllun hwn: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr

28.     Didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr

 

RHAN 8

Swm gostyngiad o dan y cynllun hwn

 

29.     Swm gostyngiad o dan y cynllun hwn: Dosbarthiadau A i D

RHAN 9

Incwm a chyfalaf at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan y cynllun hwn a swm unrhyw ostyngiad

 

PENNOD 1

Incwm a chyfalaf: cyffredinol

 

30.     Cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod

31.     Amgylchiadau pan fo cyfalaf ac incwm annibynnydd i gael eu trin fel eiddo i’r ceisydd

 

PENNOD 2

Incwm a chyfalaf: pensiynwyr sy’n cael credyd gwarant neu gredyd cynilion

 

32.     Pensiynwyr sy’n cael credyd gwarant

33.     Cyfrifo incwm pensiynwr mewn achosion o gredyd cynilion yn unig

 

PENNOD 3

Incwm a chyfalaf pan wnaed dyfarniad o gredyd cynhwysol

 

34.     Cyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr, sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol

 

PENNOD 4

Incwm: pensiynwyr eraill

 

35.     Cyfrifo incwm a chyfalaf pan nad yw credyd pensiwn y wladwriaeth yn daladwy: pensiynwyr

36.     Ystyr “incwm”: pensiynwyr

37.     Cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr

38.     Enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr

39.     Cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr

40.     Cyfrifo enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr

41.     Enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr

42.     Incwm tybiannol: pensiynwyr

43.     Incwm a delir i drydydd partïon: pensiynwyr

 

PENNOD 5

Income: personau nad ydynt yn bensiynwyr

 

44.     Enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

45.     Enillion wythnosol cyfartalog enillwyr hunangyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

46.     Incwm wythnosol cyfartalog ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

47.     Cyfrifo incwm wythnosol enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

48.     Enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

49.     Cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

50.     Enillion enillwyr hunangyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

51.     Cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

52.     Cyfalaf a drinnir fel incwm: personau nad ydynt yn bensiynwyr

53.     Incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr

 

PENNOD 6

Incwm: pensiynwyr  a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr

 

54.     Cyfrifo incwm ar sail wythnosol

55.     Trin costau gofal plant

56.     Cyfrifo incwm wythnosol cyfartalog o gredydau treth

57.     Diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc

58.     Cyfrifo elw net enillwyr hunangyflogedig

59.     Cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig

 

PENNOD 7

Cyfalaf

 

60.     Cyfrifo cyfalaf

61.     Incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr

62.     Cyfrifo cyfalaf yn y Deyrnas Unedig

63.     Cyfrifo cyfalaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig

64.     Cyfalaf tybiannol

65.     Rheol lleihau cyfalaf tybiannol: pensiynwyr

66.     Rheol lleihau cyfalaf tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr

67.     Cyfalaf a ddelir ar y cyd

68.     Cyfrifo incwm tariff o gyfalaf: pensiynwyr

69.     Cyfrifo incwm tariff o gyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr

 

RHAN 10

Myfyrwyr

 

PENNOD 1

Cyffredinol

 

70.     Dehongli

71.     Trin myfyrwyr

72.     Myfyrwyr a eithrir o’r hawl i gael gostyngiad o’r dreth gyngor o dan y cynllun hwn

 

PENNOD 2

Incwm

 

73.     Cyfrifo incwm grant

74.     Cyfrifo incwm cyfamod pan asesir cyfraniad

75.     Incwm cyfamod pan nad asesir incwm grant neu nad asesir cyfraniad

76.     Y berthynas â symiau sydd i’w diystyru o dan Atodlen 7

77.     Symiau eraill sydd i’w diystyru

78.     Trin benthyciadau myfyriwr

79.     Trin benthyciadau ffioedd

80.     Trin taliadau o gronfeydd mynediad

81.     Diystyru cyfraniad

82.     Diystyriad pellach o incwm myfyriwr

83.     Incwm a drinnir fel cyfalaf

84.     Diystyru newidiadau sy’n digwydd yn ystod gwyliau’r haf

 

RHAN 11

Gostyngiadau estynedig

 

85.     Gostyngiadau estynedig: pensiynwyr

86.     Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr

87.     Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr

88.     Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr

89.     Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) – symudwyr: pensiynwyr

90.     Y berthynas rhwng gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a hawlogaeth i ostyngiad treth gyngor yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B

91.     Gostyngiadau parhaus pan hawlir credyd pensiwn y wladwriaeth: pensiynwyr

92.     Gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr (cyffredinol)

93.     Gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

94.     Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

95.     Swm y gostyngiad estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

96.     Gostyngiadau estynedig – symudwyr: personau nad ydynt yn bensiynwyr

97.     Y berthynas rhwng gostyngiad estynedig a hawlogaeth i ostyngiad treth gyngor yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D

98.     Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr

99.     Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr

100.   Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr

101.   Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)– symudwyr: personau nad ydynt yn bensiynwyr

102.   Y berthynas rhwng gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a hawlogaeth i ostyngiad yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D

103.   Gostyngiadau estynedig: symudwyr i mewn i ardal awdurdod: personau nad ydynt yn bensiynwyr

 

RHAN 12

Cyfnod yr hawlogaeth a newid yn yr amgylchiadau

 

104.   Y dyddiad pan fo hawlogaeth yn dechrau

105.   Y dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith

106.   Newid yn yr amgylchiadau pan delir credyd pensiwn y wladwriaeth

 

RHAN 13

Ceisiadau

 

107.   Pwy gaiff wneud cais

108.   Y dyddiad pan wneir cais

109.   Ôl-ddyddio ceisiadau: pensiynwyr

110.   Ôl-ddyddio ceisiadau: personau nad ydynt yn bensiynwyr

111.   Tystiolaeth a gwybodaeth

112.   Diwygio cais a thynnu cais yn ôl

113.   Dyletswydd i hysbysu ynghylch newidiadau yn yr amgylchiadau

 

RHAN 14

Penderfyniadau gan awdurdod

 

114.   Penderfyniad gan awdurdod

115.   Hysbysu ynghylch penderfyniad

 

RHAN 15

Dyfarniad neu daliad o ostyngiad

 

116.   Dyfarniad neu daliad o ostyngiad o dan y cynllun hwn

 

Atodlenni

 

              Atodlen 1  —  Materion gweithdrefnol

              Atodlen 2  —  Symiau cymwysadwy: pensiynwyr

              Atodlen 3  —  Symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

              Atodlen 4  —  Symiau a ddiystyrir o enillion y ceisydd: pensiynwyr

              Atodlen 5  —  Symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr

              Atodlen 6  —  Symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

              Atodlen 7  —  Symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

              Atodlen 8  —  Diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr

              Atodlen 9  —  Diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr

            Atodlen 10  —  Materion sydd i’w cynnwys mewn hysbysiad

 

RHAN 1

Rhagarweiniol

Enwi

1. Enw’r cynllun hwn yw Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru).

RHAN 2

Dehongli

Dehongli

2.(1)(1) Yn y cynllun hwn—

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

ystyr “Cartref Abbeyfield” (“Abbeyfield Home”) yw sefydliad sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Abbeyfield gan gynnwys pob corff corfforaethol neu anghorfforaethol sydd â chyswllt â’r gymdeithas honno;

ystyr “absenoldeb mabwysiadu” (“adoption leave”) yw cyfnod o absenoldeb cyffredin neu absenoldeb ychwanegol o’r gwaith yn yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “ordinary adoption leave” neu “additional adoption leave” yn rhinwedd adran 75A neu 75B o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996([3]);

ystyr “TALlA” (“AFIP”) yw taliad annibyniaeth y lluoedd arfog sy’n daladwy yn unol â chynllun ar gyfer digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn, a sefydlwyd o dan adran 1(2) o Ddeddf y Lluoedd Arfog (Pensiynau a Digolledu) 2004([4]);

ystyr “swm cymwysadwy” (“applicable amount”) yw—

(a)         mewn perthynas â phensiynwr, y swm a gyfrifir yn unol â pharagraff 23 ac Atodlen 2; a

(b)     mewn perthynas â pherson nad yw’n bensiynwr, y swm a gyfrifir yn unol ag—

                           (i)    paragraff 24 ac Atodlen 3; neu

                         (ii)    paragraff 26,

yn ôl fel y digwydd;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn;

ystyr “cais” (“application”) yw cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn;

ystyr “cyfnod asesu” (“assessment period”) yw’r cyfnod a benderfynir—

(a)     mewn perthynas â phensiynwyr—

                           (i)    mewn perthynas ag enillion enillydd hunangyflogedig, yn unol â pharagraff 40 o’r cynllun hwn at y diben o gyfrifo enillion wythnosol y ceisydd; neu

                         (ii)    mewn perthynas ag unrhyw incwm arall, yn unol â pharagraff 37 o’r cynllun hwn at y diben o gyfrifo incwm wythnosol y ceisydd;

(b)     mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn bensiynwyr, y cyfryw gyfnod a bennir ym mharagraffau 44 i 46 o’r cynllun hwn ar gyfer cyfrifo incwm;

ystyr “lwfans gweini” (“attendance allowance”) yw—

(a)     lwfans gweini o dan Ran 3 o DCBNC([5]);

(b)     cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 neu 105 o DCBNC;

(c)     taliad yn rhinwedd erthygl 14, 15, 16, 43 neu 44 o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983([6]) neu unrhyw daliad cyfatebol; neu

(d)     unrhyw daliad sy’n seiliedig ar yr angen am weini, a delir fel rhan o bensiwn anabledd rhyfel;

ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw awdurdod bilio y mae’r cynllun hwn yn cael effaith mewn perthynas â’i ardal;

mae i “cyfradd sylfaenol” yr ystyr a roddir i “basic rate” gan Ddeddf Treth Incwm 2007([7]);

ystyr “y Deddfau budd-dal” (“the benefit Acts”) yw DCBNC, Deddf Ceiswyr Gwaith 1995([8]), Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([9]) a Deddf Diwygio Lles 2007([10]);

ystyr “prydau bwyd a llety” (“board and lodging accommodation”) yw llety a ddarperir i berson, neu, os yw’r person hwnnw’n aelod o deulu, i’r person hwnnw neu i unrhyw aelod arall o’i deulu, am dâl sy’n cynnwys darparu’r llety hwnnw ac o leiaf rai prydau bwyd wedi eu coginio neu’u paratoi, a bod y prydau bwyd hynny hefyd yn cael eu coginio neu’u paratoi (gan berson ac eithrio’r person y darperir y llety iddo neu aelod o’i deulu) ac yn cael eu bwyta yn y llety hwnnw neu fangre gysylltiedig;

mae i “cartref gofal” (“care home”)yr ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000([11]) ac yn yr Alban, yr ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010([12]) ac yng Ngogledd Iwerddon, yr ystyr a roddir i “nursing home” gan Erthygl 11 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003([13]) neu’r ystyr a roddir i “residential care home” gan Erthygl 10 o’r Gorchymyn hwnnw;

ystyr “Sefydliad Caxton” (“the Caxton Foundation”) yw’r ymddiriedolaeth elusennol sydd â’r enw hwnnw, a sefydlwyd ar 28 Mawrth 2011 gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau penodol sy’n dioddef o hepatitis C a phersonau eraill sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 16 oed;

mae i “budd-dal plant” yr ystyr a roddir i “child benefit” gan adran 141 o DCBNC([14]);

ystyr “credyd treth plant” (“child tax credit”) yw credyd treth plant o dan adran 8 o Ddeddf Credydau Treth 2002([15]);

ystyr “perthynas agos” (“close relative”) yw rhiant, rhiant-yng-nghyfraith, mab, mab-yng-nghyfraith, merch, merch-yng-nghyfraith, llys-riant, llysfab, llysferch, brawd, chwaer neu, os yw unrhyw un o’r personau blaenorol yn un aelod o gwpl, yr aelod arall o’r cwpl hwnnw;

ystyr “taliad consesiynol” (“concessionary payment”) yw taliad a wneir o dan drefniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda chydsyniad y Trysorlys, a godir naill ai ar y Gronfa Yswiriant Gwladol neu ar Bleidlais Gwariant Adrannol y codir arni fudd-daliadau neu daliadau credyd treth o dan y Deddfau budd-dal neu Ddeddf Credydau Treth 2002([16]);

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol” (“contributory employment and support allowance”) yw lwfans cyfrannol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007([17]);

ystyr “budd-dal treth gyngor” (“council tax benefit”) yw budd-dal treth gyngor o dan Ran 7 o DCBNC;

mae i “cwpl” (“couple”) yr ystyr a roddir gan baragraff 4 o’r cynllun hwn;

ystyr “swyddfa ddynodedig” (“designated office”) yw swyddfa awdurdod, a ddynodwyd ganddo ar gyfer cael ceisiadau—

  (a) drwy hysbysiad ar, neu ynghyd â, ffurflen a gyflenwyd gan yr awdurdod at y diben o wneud cais; neu

 (b) drwy gyfeiriad, ar neu ynghyd â ffurflen o’r fath, at ryw ddogfen arall sydd ar gael gan yr awdurdod ac a anfonwyd drwy ddull electronig neu fel arall pan ofynnwyd amdani, a hynny yn ddi-dâl; neu

(c) drwy unrhyw gyfuniad o’r darpariaethau a bennir ym mharagraffau (a) a (b);

ystyr “lwfans byw i’r anabl” (“disability living allowance”) yw lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o DCBNC([18]);

mae i “annedd” yr ystyr a roddir i “dwelling” gan adran 3 o Ddeddf 1992;

mae i “enillion” (“earnings”) yr ystyr a roddir gan baragraff 38, 40, 41, 48 neu 50 o’r cynllun hwn, yn ôl fel y digwydd;

Ymddiriedolaeth Eileen” (“the Eileen Trust”) yw’r ymddiriedolaeth elusennol sydd â’r enw hwnnw, a sefydlwyd ar 29 Mawrth 1993 gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000([19]);

mae “enillydd cyflogedig” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “employed earner” yn adran 2(1)(a) o DCBNC([20]) ac mae’n cynnwys hefyd berson sy’n derbyn taliad sy’n daladwy o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon ac yn cyfateb i dâl salwch statudol neu dâl mamolaeth statudol;

ystyr “y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter” (“the Employment, Skills and Enterprise Scheme”) yw cynllun o dan adran 17A (cynlluniau i gynorthwyo personau i gael cyflogaeth: cynlluniau “gweithiwch am eich budd-dal” etc.) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995([21]), a adwaenir wrth yr enw hwnnw ac a ddarparwyd yn unol â threfniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda’r bwriad o gynorthwyo hawlwyr lwfans ceisio gwaith i gael cyflogaeth, gan gynnwys hunangyflogaeth, ac yn achos unrhyw unigolyn, gall gynnwys gweithgaredd perthynol i waith (megis profiad gwaith neu chwilio am waith);

ystyr “parth cyflogaeth” (“employment zone”) yw ardal o fewn Prydain Fawr a ddynodwyd at ddibenion adran 60 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999([22]) ac ystyr “rhaglen parth cyflogaeth” (“employment zone programme”) yw rhaglen a sefydlwyd ar gyfer ardal neu ardaloedd o’r fath gyda’r bwriad o gynorthwyo hawlwyr lwfans ceisio gwaith i gael cyflogaeth gynaliadwy;

ystyr “contractwr parth cyflogaeth” (“employment zone contractor”) yw person sy’n ymgymryd â darparu cyfleusterau mewn perthynas â rhaglen parth cyflogaeth ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau;

mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys deddfiad sy’n gynwysedig mewn Deddf Senedd yr Alban neu Ddeddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu mewn offeryn a wnaed o dan Ddeddf neu Fesur o’r fath;

ystyr “gostyngiad estynedig” (“extended reduction”) yw gostyngiad o dan y cynllun hwn, y mae person yn gymwys i’w gael o dan Ran 11 o’r cynllun hwn;

ystyr “cyfnod gostyngiad estynedig” (“extended reduction period”) yw’r cyfnod pan fo person yn cael gostyngiad estynedig yn unol â pharagraff 87, 94 neu 99 o’r cynllun hwn;

ystyr “gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)” (“extended reduction (qualifying contributory benefits)”) yw gostyngiad o dan y cynllun hwn, y mae person yn gymwys ar ei gyfer yn unol â pharagraff 86 neu 98 o’r cynllun hwn;

mae i “teulu” (“family”) yr ystyr a roddir gan baragraff 6 o’r cynllun hwn;

ystyr “y Gronfa” (“the Fund”) yw arian a roddir ar gael o bryd i’w gilydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â darpariaethau cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 24 Ebrill 1992 neu, yn yr Alban, ar 10 Ebrill 1992;

mae “credyd gwarant” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “guarantee credit” yn unol ag adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([23]);

ystyr “taliad incwm gwarantedig” (“a guaranteed income payment”) yw taliad a wneir o dan erthygl 15(1)(c) neu erthygl 29(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011([24]);

ystyr “budd-dal tai” (“housing benefit”) yw budd-dal tai o dan Ran 7 o DCBNC;

mae i “lwfans ceisio gwaith ar sail incwm” a “lwfans ceisio gwaith cyd-hawliad” yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “an income-based jobseeker’s allowance” a “a joint-claim jobseeker’s allowance” gan adran 1(4) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995([25]);

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm” (“income-related employment and support allowance”) yw lwfans ar sail incwm o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007;

mae i “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”) yr ystyr canlynol—

(a)     yn Lloegr, ysbyty yn yr ystyr a roddir i “hospital” fel y’i diffinnir yn adran 275 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006([26]), nad yw’n ysbyty gwasanaeth iechyd yn yr ystyr a roddir i “health service hospital” fel y’i diffinnir yn yr adran honno;

(b)      yng Nghymru, yr ystyr a roddir i “independent hospital” yn adran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000([27]); ac

(c)          yn yr Alban, gwasanaeth gofal iechyd annibynnol yn yr ystyr a roddir i “independent healthcare service” fel y’i diffinnir yn adran 10F o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978([28]);

ystyr “y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006)” (“the Independent Living Fund (2006)”) yw’r Ymddiriedolaeth sy’n dwyn yr enw hwnnw, a sefydlwyd gan weithred ddyddiedig 10 Ebrill 2006 ac a wnaed rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ar y naill ran a Margaret Rosemary Cooper, Michael Beresford Boyall a Marie Theresa Martin ar y rhan arall;

ystyr “cerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd” (“invalid carriage or other vehicle”) yw cerbyd a yrrir gan beiriant petrol neu bŵer trydanol, a gyflenwir ar gyfer ei ddefnyddio ar y ffordd a’i reoli gan y meddiannydd;

ystyr “Cronfa Gymorth Elusennol Bomiau Llundain” (“the London Bombings Relief Charitable Fund”) yw’r cwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 5505072), a’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw hwnnw a sefydlwyd ar 11 Gorffennaf 2005 at y diben (ymhlith pethau eraill) o liniaru salwch, anabledd neu angen ariannol dioddefwyr yr ymosodiadau terfysgol a gyflawnwyd yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005 (gan gynnwys teuluoedd neu ddibynyddion y dioddefwyr);

ystyr “unig riant” (“lone parent”) yw person nad oes partner ganddo, ac sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc ac yn aelod o’r un aelwyd â’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw;

ystyr “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig)” (“the Macfarlane (Special Payments) Trust”) yw’r ymddiriedolaeth sy’n dwyn yr enw hwnnw, a sefydlwyd ar 29 Ionawr 1990, yn rhannol gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau penodol sy’n dioddef o haemoffilia;

ystyr “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2)” (“the Macfarlane (Special Payments) (No 2) Trust”) yw’r ymddiriedolaeth sy’n dwyn yr enw hwnnw, a sefydlwyd ar 3 Mai 1991, yn rhannol gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau penodol sy’n dioddef o haemoffilia a buddiolwyr eraill;

ystyr “Ymddiriedolaeth Macfarlane” (“the Macfarlane Trust”) yw’r ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd yn rhannol gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Gymdeithas Haemoffilia, i liniaru tlodi neu drallod ymhlith rhai sy’n dioddef o haemoffilia;

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd” (“main phase employment and support allowance”) yw lwfans cyflogaeth a chymorth pan fo’r cyfrifiad o’r swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r ceisydd yn cynnwys cydran o dan adran 2(1)(b) neu 4(2)(b) o Ddeddf Diwygio Lles 2007([29]) ac eithrio yn Rhan 1 o Atodlen 3;

ystyr “absenoldeb mamolaeth” (“maternity leave”) yw cyfnod pan fo benyw yn absennol o’i gwaith oherwydd ei bod yn feichiog neu wedi rhoi genedigaeth i blentyn, a chanddi hawl, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, i ddychwelyd i’w gwaith naill ai o dan delerau ei chontract cyflogaeth neu o dan Ran 8 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996([30]);

ystyr “uchafswm gostyngiad treth gyngor” (“maximum council tax reduction amount”) yw’r swm a benderfynir yn unol â pharagraff 27 o’r cynllun hwn;

ystyr “aelod o gwpl” (“member of a couple”) yw aelod o gwpl priod neu ddibriod;

“MFET Limited” (“MFET Limited”) yw’r cwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 7121661) sy’n dwyn yr enw hwnnw a sefydlwyd yn benodol at y diben o wneud taliadau, yn unol â threfniadau a wnaed gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, i bersonau a heintiwyd ag HIV oherwydd triniaeth gan y GIG gyda gwaed neu gynhyrchion gwaed;

ystyr “atodiad symudedd” (“mobility supplement”) yw—

(a)     mewn perthynas â phensiynwyr, atodiad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a)(vii) o Atodlen 4 i’r cynllun hwn;

(b)     mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn bensiynwyr, atodiad y cyfeirir ato ym mharagraff 13 o Atodlen 7;

ystyr “symudwr” (“mover”) yw ceisydd sy’n newid yr annedd y mae’n preswylio ynddi, ac y mae’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas â hi, o annedd yn ardal un awdurdod i annedd yn ardal ail awdurdod;

ystyr “enillion net” (“net earnings”) yw’r cyfryw enillion a gyfrifir yn unol â pharagraff 39 neu 49 o’r cynllun hwn, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “elw net” (“net profit”) yw’r cyfryw elw a gyfrifir yn unol â pharagraff 58 o’r cynllun hwn;

ystyr “annedd newydd” (“new dwelling”), at ddibenion y diffiniad o “ail awdurdod” a pharagraffau 89, 96 a 101 o’r cynllun hwn, yw’r annedd y mae’r ceisydd wedi symud iddi, neu ar fin symud iddi, a lle y bydd y ceisydd yn preswylio ynddi;

mae i “annibynnydd” (“non-dependant”) yr ystyr a roddir gan baragraff 9 o’r cynllun hwn;

ystyr “cymorth achlysurol” (“occasional assistance”) yw unrhyw daliad neu ddarpariaeth a wneir gan awdurdod lleol, Gweinidogion Cymru neu Weinidogion yr Alban at ddibenion—

(a) ddiwallu neu gynorthwyo i ddiwallu angen byrdymor taer—

                           (i)    sy’n deillio o ddigwyddiad eithriadol, neu amgylchiad eithriadol, neu

                         (ii)    y mae angen ei ddiwallu i osgoi risg i les unigolyn, a

(b) galluogi unigolion cymwys i sefydlu neu gynnal cartref sefydlog, ac—

                           (i)    mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” gan adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972([31]); a

                         (ii)    ystyr “unigolion cymwys” (“qualifying individuals”) yw unigolion sydd wedi bod neu y gallent fel arall, heb y cymorth, fod—

(aa)        mewn carchar, ysbyty, sefydliad sy’n darparu gofal preswyl neu sefydliad arall, neu

(bb)       yn ddigartref neu rywfodd arall yn dilyn ffordd ansefydlog o fyw;

ystyr “pensiwn galwedigaethol” (“occupational pension”) yw unrhyw bensiwn neu daliad cyfnodol arall o dan gynllun pensiwn galwedigaethol, ond nid yw’n cynnwys unrhyw daliad disgresiynol allan o gronfa a sefydlwyd i liniaru caledi mewn achosion penodol;

mae i “cynllun pensiwn galwedigaethol” yr un ystyr a roddir i “occupational pension scheme” yn adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993([32]);

ystyr “dillad ac esgidiau cyffredin” (“ordinary clothing and footwear”) yw dillad neu esgidiau ar gyfer defnydd beunyddiol arferol, ond nid yw’n cynnwys gwisgoedd ysgol nac ychwaith ddillad neu esgidiau a ddefnyddir yn unig ar gyfer gweithgareddau chwaraeon;

ystyr “partner” (“partner”), mewn perthynas â pherson, yw—

(a)     pan fo’r person hwnnw’n aelod o gwpl, yr aelod arall o’r cwpl hwnnw; neu

(b)         yn ddarostyngedig i baragraff (c), pan fo’r person hwnnw mewn priodas amlbriod â dau neu ragor o aelodau aelwyd y person hwnnw, unrhyw aelod o’r fath sy’n briod â’r person hwnnw; neu

(c)     pan fo’r person hwnnw mewn priodas amlbriod a chanddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol gyda’r parti arall i’r briodas gynharaf, sy’n parhau mewn bodolaeth, y parti arall hwnnw i’r briodas gynharaf;

ystyr “absenoldeb tadolaeth” (“paternity leave”) yw cyfnod o absenoldeb o’r gwaith gyda chaniatâd yn rhinwedd adran 80A neu 80B o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, neu o absenoldeb tadolaeth ychwanegol yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 80AA neu 80BB o’r Ddeddf honno([33]);

ystyr “deiliad cronfa bensiwn” (“pension fund holder”), mewn perthynas â chynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn galwedigaethol, yw ymddiriedolwyr, rheolwyr neu weinyddwyr y cynllun, yn ôl fel y digwydd, y cynllun dan sylw;

mae i “oedran pensiynadwy” yr ystyr a roddir i “pensionable age” gan y rheolau ym mharagraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Pensiynau 1995([34]);

mae i “pensiynwr” (“pensioner”) yr ystyr a roddir gan baragraff 3(2)(a) o’r cynllun hwn

ystyr “person ar gymhorthdal incwm” (“person on income support”) yw person sy’n cael cymhorthdal incwm;

mae i “person nad yw’n bensiynwr” (“person who is not a pensioner”) yr ystyr a roddir gan baragraff 3(2)(b) o’r cynllun hwn;

mae i “personau a drinnir fel pe na baent ym Mhrydain Fawr” (“persons treated as not being in Great Britain”) yr ystyr a roddir gan baragraff 19 o’r cynllun hwn;

mae i “taliad annibyniaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal independance payment” gan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012([35]);

ystyr “cynllun pensiwn personol” (“personal pension scheme”) yw—

(a)     cynllun pensiwn personol yn yr ystyr a roddir i “personal pension scheme” fel y’i diffinnir gan adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiynau 1993([36]);

(b)         contract blwydd-dal neu gynllun ymddiriedolaeth a gymeradwywyd o dan adran 620 neu 621 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988([37]) neu gontract a amnewidiwyd yn yr ystyr a roddir i “the substituted contract” gan adran 622(3) o’r Ddeddf honno, ac a drinnir fel pe bai wedi dod yn gynllun pensiwn cofrestredig yn rhinwedd paragraff 1(1)(f) o Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004([38]);

(c)     cynllun pensiwn personol a gymeradwywyd o dan Bennod 4 o Ran 14 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988 ac a drinnir fel pe bai wedi dod yn gynllun pensiwn cofrestredig yn rhinwedd paragraff 1(1)(g) o Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004;

ystyr “polisi yswiriant bywyd” (“policy of life insurance”) yw unrhyw offeryn sy’n sicrhau y telir arian ar achlysur marwolaeth (ac eithrio marwolaeth drwy ddamwain yn unig) neu ar achlysur unrhyw hapddigwyddiad sy’n dibynnu ar oes ddynol, neu unrhyw offeryn sy’n tystio i gontract sy’n amodol ar dalu premiymau am dymor sy’n dibynnu ar oes ddynol;

ystyr “priodas amlbriod” (“polygamous marriage”) yw unrhyw briodas y mae paragraff 5 o’r cynllun hwn yn gymwys iddo;

mae “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yn cynnwys unrhyw berson y mae ei swyddogaethau yn swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

ystyr “oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth” (“qualifying age for state pension credit”) yw (yn unol ag adran 1(2)(b) a (6) o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002)([39])—

(a)     yn achos benyw, oedran pensiynadwy; neu

(b)         yn achos gwryw, yr oedran sy’n oedran pensiynadwy yn achos benyw a anwyd ar yr un diwrnod â’r gwryw;

ystyr “budd-dal cyfrannol cymwys” (“qualifying contributory benefit”) yw—

(a)     lwfans anabledd difrifol;

(b)         budd-dal analluogrwydd;

(c)         lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol;

ystyr “budd-dal cymwys ar sail incwm” (“qualifying income-related benefit”) yw—

(a)     cymhorthdal incwm;

(b)         lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(c)     lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;

ystyr “person cymwys” (“qualifying person”) yw person y gwnaed taliad mewn perthynas ag ef o’r Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu Gronfa Gymorth Elusennol Bomiau Llundain;

ystyr “wythnos ostyngiad” (“reduction week”) yw cyfnod o saith niwrnod olynol, sy’n dechrau gyda dydd Llun ac yn diweddu gyda dydd Sul;

ystyr “perthynas” (“relative”) yw perthynas agos, taid, nain, ŵyr, wyres, ewythr, modryb, nai neu nith;

ystyr “wythnos berthnasol” (“relevant week”), mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod penodol, yw’r wythnos y mae’r diwrnod dan sylw yn digwydd ynddi;

mae i “gwaith am dâl” (“remunerative work”) yr ystyr a roddir gan baragraff 10 o’r cynllun hwn;

ystyr “rhent” (“rent”) yw’r “eligible rent” y cyfeirir ato yn rheoliad 12 o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006([40]), llai unrhyw ddidyniadau mewn perthynas ag annibynyddion sy’n ddyladwy o dan baragraff 28 (didyniadau annibynyddion) o’r cynllun hwn;

mae i “preswylydd” yr ystyr a roddir i “resident” gan Ran 1 o Ddeddf 1992;

mae “credyd cynilion” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “savings credit” gan adrannau 1 a 3 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([41]);

ystyr “ail awdurdod” (“second authority”) yw’r awdurdod y mae symudwr yn atebol i wneud taliadau iddo ar gyfer annedd newydd;

mae “enillydd hunangyflogedig i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “self-employed earner” gan adran 2(1)(b) o’r DCBNC;

ystyr “llwybr hunangyflogaeth” (“self-employment route”) yw cymorth i geisio cyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig tra’n cymryd rhan mewn—

(a)     rhaglen parth cyflogaeth;

(b)         rhaglen a ddarperir gan neu o dan drefniadau a wnaed yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973([42]) (swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990([43]) (swyddogaethau mewn perthynas â hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth, etc); neu

(c)         y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter;

ystyr “grŵp defnyddwyr gwasanaeth” (“service user group”) yw grŵp o unigolion yr ymgynghorir ag ef gan neu ar ran—

(a)     Bwrdd Iechyd, Bwrdd Iechyd Arbennig neu’r Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin ar gyfer  Iechyd yr Alban, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 2B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978([44]),

(b)         awdurdod landlord([45]), o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 105 o Ddeddf Tai 1985([46]),

(c)         awdurdod cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 49A o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995([47]),

(d)         awdurdod cyhoeddus, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (dyletswydd gyffredinol awdurdod cyhoeddus)([48]),

(e)         awdurdod gwerth gorau, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999([49]),

(f)          awdurdod gwella Cymreig, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 5 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009([50]),

(g)         landlord awdurdod lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 53 o Ddeddf Tai (Yr Alban) 2001([51]),

(h)         corff Cymreig perthnasol neu gorff Seisnig perthnasol, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 242 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006([52]),

(i)          Bwrdd Iechyd Lleol, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 183 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([53]),

(j)          y Comisiwn Ansawdd Gofal, wrth arfer swyddogaeth o dan adrannau 4 neu 5 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008([54]),

(k)         y rheoleiddiwr neu ddarparwr cofrestredig preifat tai cymdeithasol, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adrannau 98, 193 neu 196 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008([55]), neu

(l)          awdurdod cyhoeddus neu awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr, o ganlyniad i swyddogaeth a roddwyd o dan unrhyw ddeddfiad arall,

at y diben o fonitro a chynghori ar bolisi’r corff neu’r awdurdod hwnnw sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar bersonau yn y grŵp, neu at y diben o fonitro neu gynghori ar wasanaethau a ddarperir gan y corff neu’r awdurdod hwnnw ac a ddefnyddir (neu y mae’n bosibl y’u defnyddir) gan y personau hynny;

ystyr “ceisydd sengl” (“single applicant”) yw ceisydd nad oes ganddo bartner ac nad yw’n unig riant;

ystyr “Cronfa Skipton” (“the Skipton Fund”) yw’r cynllun taliadau ex gratia a weinyddir gan Skipton Fund Limited, a gorfforwyd ar 25 Mawrth 2004, er budd personau penodol sy’n dioddef o hepatitis C a phersonau eraill sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â darpariaethau’r cynllun;

ystyr “dyfarniad chwaraeon” (“sports award”) yw dyfarniad a wnaed gan un o’r Cynghorau Chwaraeon a enwir yn adran 23(2) o Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc 1993 allan o symiau a ddyrannwyd iddo i’w dosbarthu o dan yr adran honno([56]);

ystyr “DCBNC” (“the SSCBA”) yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992([57]);

mae i “credyd pensiwn y wladwriaeth” yr ystyr a roddir i “state pension credit” o dan Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([58]);

mae i “myfyriwr” (“student”) yr ystyr a roddir gan baragraff 70 o’r cynllun hwn;

ystyr “lwfans cynhaliaeth” (“subsistence allowance”) yw lwfans y mae contractwr parth cyflogaeth wedi cytuno i’w dalu i berson sy’n cymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth;

ystyr “blwyddyn dreth” (“tax year”) yw cyfnod sy’n cychwyn gyda 6 Ebrill mewn un flwyddyn ac yn diweddu gyda 5 Ebrill yn y flwyddyn nesaf;

ystyr “lwfans hyfforddi” (“training allowance”) yw lwfans (boed ar ffurf grantiau cyfnodol neu fel arall) sy’n daladwy—

(a)         allan o arian cyhoeddus gan adran o’r Llywodraeth neu gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Datblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, Prif Weithredwr Ariannu Sgiliau neu Weinidogion Cymru;

(b)         i berson am gynhaliaeth y person hwnnw neu mewn perthynas ag aelod o deulu’r person hwnnw; ac

(c)         am y cyfnod, neu ran o’r cyfnod, pan fo’r person hwnnw’n dilyn cwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir gan yr adran honno, neu’n unol â threfniadau a wnaed gyda’r adran honno, neu a gymeradwywyd ganddi mewn perthynas â’r person hwnnw, neu a ddarparwyd neu a gymeradwywyd felly gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Datblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd neu Weinidogion Cymru,

ond nid yw’n cynnwys lwfans a delir gan unrhyw adran y Llywodraeth i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson oherwydd bod y person hwnnw’n dilyn cwrs addysg amser llawn, ac eithrio o dan drefniadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973([59]), neu’n dilyn hyfforddiant athrawon;

ystyr “yr Ymddiriedolaethau” (“the Trusts”) yw Ymddiriedolaeth Macfarlane, Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) ac Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2);

mae i “credyd cynhwysol” yr ystyr a roddir i “universal credit” gan adran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012([60]);

ystyr “sefydliad gwirfoddol” (“voluntary organisation”) yw corff, ac eithrio awdurdod cyhoeddus neu awdurdod lleol, nas cyflawnir ei weithgareddau er mwyn gwneud elw;

ystyr “pensiwn anabledd rhyfel” (“war disablement pension”) yw unrhyw dâl neu bensiwn neu lwfans ymddeoliad sy’n daladwy mewn perthynas ag anabledd o dan offeryn a bennir yn adran 639(2) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003([61]);

ystyr “pensiwn rhyfel” (“war pension”) yw pensiwn anabledd rhyfel, pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;

ystyr “pensiwn rhyfel gwraig weddw” (“war widow’s pension”) yw unrhyw bensiwn neu lwfans sy’n daladwy i fenyw fel gweddw o dan offeryn a bennir yn adran 639(2) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003, mewn perthynas â marwolaeth neu anabledd unrhyw berson;

ystyr “pensiwn rhyfel gŵr gweddw” (“war widower’s pension”) yw unrhyw bensiwn neu lwfans sy’n daladwy i ddyn fel gweddw neu i bartner sifil sy’n goroesi o dan offeryn a bennir yn adran 639(2) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 mewn perthynas â marwolaeth neu anabledd unrhyw berson;

ystyr “taliadau dŵr” (“water charges”) yw—

(a) o ran Cymru a Lloegr, unrhyw daliadau dŵr a charthffosiaeth o dan Bennod 1 o Ran 5 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991([62]),

(b) o ran yr Alban, unrhyw daliadau dŵr a charthffosiaeth a sefydlwyd gan Scottish Water o dan gynllun taliadau a wnaed o dan adran 29A o Ddeddf y Diwydiant Dŵr (Yr Alban) 2002([63]),

i’r graddau y mae a wnelo’r cyfryw daliadau â’r annedd a feddiennir gan berson fel ei gartref;

mae i “credyd treth gwaith” yr ystyr a roddir i “working tax credit” o dan adran 10 o Ddeddf Credydau Treth 2002([64]);

ystyr “person ifanc” (“young person”) yw person sy’n dod o fewn y diffiniad o “qualifying young person” yn adran 142 o DCBNC([65]).

(2) Yn y cynllun hwn, pan fo swm i gael ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf, rhaid diystyru ffracsiwn o geiniog os yw’n llai na hanner ceiniog, ac fel arall rhaid ei drin fel pe bai’n geiniog gyfan.

(3) At ddibenion y cynllun hwn, mae person ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar unrhyw ddiwrnod y mae lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, ac ar unrhyw ddiwrnod—

(a)         y mae’r person hwnnw’n bodloni’r amodau hawlogaeth am lwfans ceisio gwaith ar sail incwm mewn perthynas ag ef, ond na thelir y lwfans oherwydd gostyngiad yn unol ag adran 19 neu 19A neu reoliadau a wnaed o dan adran 17A neu 19B o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995([66]) (amgylchiadau pan nad yw lwfans ceisio gwaith yn daladwy);

(b)         sy’n ddiwrnod aros yn yr ystyr o “waiting day” at ddibenion paragraff 4 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno ac sy’n digwydd yn union cyn diwrnod y mae lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, neu y byddai’n daladwy i’r person hwnnw oni bai am adran 19 neu 19A neu reoliadau a wnaed o dan adran 17A neu 19B o’r Ddeddf honno; neu

(c)     y byddai lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef oni bai am gyfyngiad a osodwyd yn unol ag adran 6B, 7, 8 neu 9 o Ddeddf Twyll Nawdd Cymdeithasol 2001([67]) (darpariaethau colli budd-dal).

(4) At ddibenion y cynllun hwn, mae person ar lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm ar unrhyw ddiwrnod y mae lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, a hefyd ar unrhyw ddiwrnod—

(a)         pan fo’r person hwnnw’n bodloni’r amodau cymhwystra am lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, ond na thelir y lwfans, yn unol ag adran 18 o Ddeddf Diwygio Lles 2007([68]) (anghymhwyso); neu

(b)     sy’n ddiwrnod aros yn yr ystyr o “waiting day” at ddibenion paragraff 2 o Atodlen 2 (lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm: darpariaethau atodol) i’r Ddeddf honno, ac sy’n digwydd yn union cyn diwrnod y mae lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, neu y byddai’n daladwy i’r person hwnnw oni bai am adran 18 o’r Ddeddf honno.

(5) At ddibenion y cynllun hwn, rhaid peidio ag ystyried bod dau berson wedi ymddieithrio onid yw’r ymddieithriad yn gyfystyr â thoriad o’r berthynas rhyngddynt.

(6) Yn y cynllun hwn, mae cyfeiriadau at unrhyw berson sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth yn cynnwys person a fyddai’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth oni bai am reoliad 13 o Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([69]) (symiau bach o gredyd pensiwn y wladwriaeth).

Cymhwyso’r cynllun: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr

3.(1)(1) Mae’r cynllun hwn yn gymwys i—

(a)     pensiynwyr sy’n dod o fewn dosbarth A neu B([70]); a

(b)     personau nad ydynt yn bensiynwyr, sy’n dod o fewn dosbarth C neu D([71]).

(2) Yn y cynllun hwn, mae person—

(a)         yn “pensiynwr” (“pensioner”)—

                           (i)    os yw’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; a

                         (ii)    os nad yw’r person hwnnw, ac, os oes gan y person hwnnw bartner, os nad yw partner y person hwnnw—

(aa)        yn berson ar gymhorthdal incwm, ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu ar lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, neu

(bb)       yn berson sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol; a

(b)         yn “person nad yw’n bensiynwr” (“person who is not a pensioner”)—

                           (i)    os nad yw’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

                         (ii)    os yw’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth, a’r person hwnnw, neu, os oes gan y person hwnnw bartner, partner y person hwnnw—

(aa)        yn berson ar gymhorthdal incwm, ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu ar lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, neu

(bb)       yn berson sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol.

Ystyr “cwpl”

4. Yn y cynllun hwn, ystyr “cwpl” (“couple”) yw—

(a)     dau o bobl sydd naill ai’n briod â’i gilydd, neu’n bartneriaid sifil i’w gilydd, ac sy’n aelodau o’r un aelwyd;

(b)     dau o bobl sy’n byw gyda’i gilydd fel pe baent yn gwpl priod.

Priodasau amlbriod

5.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn unrhyw achos—

(a)         pan fo person yn ŵr neu’n wraig yn rhinwedd priodas yr ymunwyd ynddi o dan gyfraith sy’n caniatáu amlbriodas; a

(b)         pan fo gan y naill barti i’r briodas neu’r llall, am y tro, unrhyw briod yn ychwanegol at y parti arall.

(2) At ddibenion paragraff 4 (ystyr “cwpl”), rhaid peidio ag ystyried bod y naill barti i’r briodas na’r llall yn aelod o gwpl.

Ystyr “teulu”

6.(1)(1) Yn y cynllun hwn, ystyr “teulu” (“family”) yw—

(a)         cwpl;

(b)         cwpl ynghyd ag aelod o’r un aelwyd, y mae un aelod o’r cwpl neu’r ddau yn gyfrifol amdano ac sy’n blentyn neu’n berson ifanc; neu

(c)         person nad yw’n aelod o gwpl ynghyd ag aelod o’r un aelwyd, y mae’r person hwnnw yn gyfrifol amdano ac sy’n blentyn neu’n berson ifanc.

(2) Mae’r cyfeiriadau at blentyn neu berson ifanc yn is-baragraff (1)(b) ac (c) yn cynnwys plentyn neu berson ifanc y mae adran 145A o DCBNC([72]) yn gymwys iddo at ddibenion hawlogaeth am fudd-dal plant, ond yn unig am y cyfnod a ragnodir o dan adran 145A(1).

(3) Nid yw’r cyfeiriadau at berson ifanc yn is-baragraff (1)(b) ac (c) yn cynnwys person ifanc sydd—

(a)         ar gymhorthdal incwm, ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu ar lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol; neu

(b)     person y mae adran 6 (eithrio rhag cael budd-daliadau) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000([73]) yn gymwys iddo.

Amgylchiadau pan fo person i gael ei drin fel un sy’n gyfrifol neu ddim yn gyfrifol am berson arall

7.(1)(1) Rhaid trin person fel un sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc sydd fel arfer yn byw gyda’r person hwnnw, gan gynnwys plentyn neu berson ifanc y mae paragraff  6(2) yn gymwys iddo.

(2) Os yw plentyn neu berson ifanc yn treulio cyfnodau cyfartal o amser ar wahanol aelwydydd, neu os cwestiynir ar ba aelwyd y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn byw, rhaid trin y plentyn neu berson ifanc at ddibenion is-baragraff (1) fel pe bai’n byw fel arfer gydag—

(a)         y person sy’n cael budd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw, neu

(b)         os nad oes person o’r fath—

                           (i)    os gwnaed un hawliad yn unig am fudd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw, y person a wnaeth yr hawliad hwnnw, neu

                         (ii)    mewn unrhyw achos arall, y person sy’n bennaf cyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc hwnnw.

(3) At ddibenion y cynllun hwn, mae plentyn neu berson ifanc yn gyfrifoldeb i un person yn unig yn ystod unrhyw wythnos ostyngiad, a rhaid trin unrhyw berson, ac eithrio’r person a drinnir fel un sy’n gyfrifol am y plentyn neu berson ifanc o dan y paragraff hwn, fel rhywun nad yw’n gyfrifol felly.

Aelwydydd

8.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), rhaid trin ceisydd ac unrhyw bartner ac, os trinnir y ceisydd neu bartner y ceisydd (yn rhinwedd paragraff 7) fel un sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc, y plentyn neu berson ifanc hwnnw ac unrhyw blentyn y plentyn neu’r person ifanc hwnnw, fel aelodau o’r un aelwyd hyd yn oed os oes unrhyw rai ohonynt yn absennol dros dro o’r aelwyd honno.

(2) Rhaid peidio â thrin plentyn neu berson ifanc fel aelod o aelwyd y ceisydd os yw’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw—

(a)         wedi ei leoli gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd gan awdurdod lleol o dan adran 22C neu 23(2)(a) o Ddeddf Plant 1989([74]) neu gan sefydliad gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o’r Ddeddf honno, neu, yn yr Alban, wedi ei letya gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd o dan ddeddfiad perthnasol; neu

(b)         wedi ei leoli, neu yn yr Alban, wedi ei letya, gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd cyn ei fabwysiadu; neu

(c)         wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002([75]) neu Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Yr Alban) 2009([76]), neu Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987([77]).

(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc nad yw’n byw gyda’r ceisydd ac—

(a)         sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu, yn yr Alban, sydd yng ngofal awdurdod lleol, o dan ddeddfiad perthnasol; neu

(b)         sydd wedi ei leoli, neu yn yr Alban, wedi ei letya, gyda pherson ac eithrio’r ceisydd, cyn ei fabwysiadu; neu

(c)         wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 neu Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Yr Alban) 2009, neu Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987.

(4) Rhaid i awdurdod drin plentyn neu berson ifanc y mae is-baragraff (3)(a) yn gymwys iddo fel aelod o aelwyd y ceisydd mewn unrhyw wythnos ostyngiad—

(a)         os yw’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw yn byw gyda’r ceisydd am ran neu’r cyfan o’r wythnos ostyngiad honno; a

(b)         os yw’r awdurdod o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny, gan ystyried natur ac amlder ymweliadau’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw.

(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “deddfiad perthnasol” (“relevant enactment”) yw—

(a)         Deddf y Fyddin 1955([78]);

(b)         Deddf y Llu Awyr 1955([79]);

(c)         Deddf Disgyblaeth y Llynges 1957([80]);

(d)         Deddf Achosion Priodasol (Plant)1958([81]);

(e)         Deddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968([82]);

(f)          Deddf Diwygio Cyfraith Teulu 1969([83]);

(g)         Deddf Plant a Phobl Ifanc 1969([84]);

(h)         Deddf Achosion Priodasol 1973([85]);

(i)          Deddf Plant 1975([86]);

(j)          Deddf Achosion Domestig a Llysoedd Ynadon 1978([87]);

(k)         Deddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007([88]);

(l)          Deddf Cyfraith Teulu 1986([89]);

(m)       Deddf Plant 1989([90]);

(n)         Deddf Plant (Yr Alban) 1995([91]);

(o)         Deddf y Lluoedd Arfog 2006([92]); a

(p)     Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012([93]).

Annibynyddion

9.(1)(1) Yn y cynllun hwn, ystyr “annibynnydd” (“non-dependant”) yw unrhyw berson, ac eithrio rhywun y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, sydd fel arfer yn preswylio gyda cheisydd neu y mae ceisydd fel arfer yn preswylio gydag ef.

(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i—

(a)     unrhyw aelod o deulu’r ceisydd;

(b)     os yw’r ceisydd mewn priodas amlbriod unrhyw bartner i’r ceisydd ac unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n aelod o aelwyd y ceisydd ac y mae’r ceisydd neu un o bartneriaid y ceisydd yn gyfrifol amdano;

(c)     plentyn neu berson ifanc sy’n byw gyda’r ceisydd ond nad yw’n aelod o aelwyd y ceisydd yn rhinwedd paragraff 8 (aelwydydd);

(d)     yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), unrhyw berson sydd, ynghyd â’r ceisydd, yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd ar gyfer unrhyw ddiwrnod o dan adrannau 6 neu 7 o Ddeddf 1992([94]) (personau sy’n atebol i dalu treth gyngor);

(e)     yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), unrhyw berson sy’n atebol i wneud taliadau ar sail fasnachol i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd mewn perthynas â meddiannu’r annedd;

(f)      person sy’n byw gyda’r ceisydd er mwyn gofalu am y ceisydd neu bartner i’r ceisydd, ac a gymerwyd ymlaen gan sefydliad elusennol neu wirfoddol sy’n codi ffi ar y ceisydd neu bartner y ceisydd am y gwasanaethau a ddarperir gan y person hwnnw.

(3) Ac eithrio personau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(a) i (c) ac (f), mae person y mae unrhyw un o’r paragraffau canlynol yn gymwys iddo yn annibynnydd—

(a)         person (P) sy’n preswylio gyda’r person (O) y mae P yn atebol i wneud taliadau iddo mewn perthynas â’r annedd, pan fo  naill ai—

                           (i)    O yn berthynas agos neu’n bartner i P; neu

                         (ii)    y denantiaeth neu’r cytundeb arall sydd rhyngddynt ar sail ac eithrio sail fasnachol;

(b)         person y mae’n ymddangos i’r awdurdod fod ei atebolrwydd i wneud taliadau mewn perthynas â’r annedd wedi ei greu er mwyn manteisio ar gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, ac eithrio rhywun a oedd, am unrhyw gyfnod o fewn yr wyth wythnos cyn creu’n cytundeb a oedd yn achosi’r atebolrwydd i wneud y cyfryw daliadau, yn atebol rywfodd arall i wneud taliadau o rent mewn perthynas â’r un annedd;

(c)     person sy’n dod yn atebol, ar y cyd â’r ceisydd a hefyd yn unigol, am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd ac a oedd, am unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o wyth wythnos cyn iddo ddod yn atebol felly, yn annibynnydd o un neu ragor o’r preswylwyr eraill yn yr annedd honno sy’n atebol felly am y dreth, ac eithrio pan nad yw’r newid sy’n achosi’r atebolrwydd newydd wedi ei wneud er mwyn manteisio ar gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor.

Gwaith am dâl

10.(1)(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, rhaid trin person fel un sy’n ymgymryd â gwaith am dâl at ddibenion y cynllun hwn os yw’r person hwnnw’n ymgymryd â gwaith y telir amdano, neu y disgwylir tâl amdano, am o leiaf 16 awr yr wythnos, neu 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd os yw oriau gwaith y person hwnnw’n amrywio.

(2)  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), wrth benderfynu nifer yr oriau y mae person yn ymgymryd â gwaith pan fo’i oriau gwaith yn amrywio, rhaid rhoi sylw i nifer cyfartalog yr oriau a weithir dros gyfnodau fel a ganlyn—

(a)         os oes cylch gwaith adnabyddadwy, dros gyfnod un cylch cyflawn (ac os oes cyfnodau mewn cylch pan nad yw’r person yn ymgymryd â gwaith, dylid cynnwys y cyfnodau hynny, ond diystyru unrhyw absenoldebau eraill);

(b)         mewn unrhyw achos arall, dros y cyfnod o 5 wythnos yn union cyn dyddiad y cais, neu pa bynnag gyfnod arall a allai, yn yr achos penodol dan sylw, alluogi canfod oriau gwaith wythnosol cyfartalog y person yn fwy cywir.

(3) At ddibenion is-baragraff (2)(a), os yw cylch adnabyddadwy gwaith person mewn ysgol, sefydliad addysgol arall neu fan cyflogaeth arall yn un flwyddyn ac yn cynnwys cyfnodau o wyliau ysgol neu wyliau cyffelyb pan nad yw’r person hwnnw’n gweithio, rhaid diystyru’r cyfnodau hynny ac unrhyw gyfnodau eraill, nad ydynt yn ffurfio rhan o wyliau o’r fath pan nad yw’n ofynnol bod y person hwnnw’n gweithio, wrth ganfod yr oriau cyfartalog pan fo’r person hwnnw’n ymgymryd â gwaith.

(4) Os nad oes cylch adnabyddadwy wedi ei ganfod mewn perthynas â’r gwaith a wneir gan berson, rhaid rhoi sylw i nifer yr oriau, neu, os yw’r oriau hynny yn amrywio, nifer cyfartalog yr oriau, y disgwylir i’r person hwnnw eu gweithio mewn wythnos.

(5) Rhaid trin person fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r person hwnnw’n absennol o waith y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), os yw’n absennol naill ai heb reswm da neu oherwydd gŵyl gydnabyddedig neu arferol neu ŵyl arall.

(6) Rhaid trin person sydd ar gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm am fwy na 3 diwrnod mewn unrhyw wythnos ostyngiad fel pe na bai mewn gwaith am dâl am yr wythnos honno.

(7) Rhaid peidio â thrin person fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl ar unrhyw ddiwrnod pan fo’r person hwnnw ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu, neu’n absennol o’r gwaith oherwydd ei fod yn sâl.

(8) Rhaid peidio â thrin person fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl ar unrhyw ddiwrnod pan fo’r person hwnnw’n ymgymryd â gweithgaredd—

(a)         y mae gwobr chwaraeon wedi ei dyfarnu, neu i gael ei dyfarnu, mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw; a

(b)     na wnaed, ac ni ddisgwylir y gwneir, unrhyw daliad arall mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw.

RHAN 3

Materion gweithdrefnol

Gweithdrefn ar gyfer ceisiadau am ostyngiad ac apelau yn erbyn penderfyniadau ynghylch gostyngiad

11. Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaethau ynghylch y weithdrefn—

(a)     y caiff person wneud cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn yn unol â hwy;

(b)     y caiff person wneud apêl yn unol â hwy, yn erbyn penderfyniadau penodol gan yr awdurdod;

(c)     y caiff person wneud cais i’r awdurdod yn unol â hwy, am ostyngiad o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992.

RHAN 4

Dosbarthiadau o bersonau sydd â hawl i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn

Dosbarthiadau o bersonau sydd â hawl i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn

12.(1)(1) Mae hawl gan y dosbarthiadau o bersonau a ddisgrifir ym mharagraffau 13 i 16 i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn.

(2) Yn y paragraffau hynny, mae cyfeiriadau at incwm neu gyfalaf y ceisydd, mewn unrhyw achos pan na ellir canfod maint yr incwm neu’r cyfalaf hwnnw’n fanwl gywir, yn cynnwys cyfeiriadau at incwm neu gyfalaf amcangyfrifedig y ceisydd.

Dosbarth A: pensiynwyr â’u hincwm yn llai na’r swm cymwysadwy

13. Ar unrhyw ddiwrnod mae dosbarth A yn cynnwys unrhyw berson sy’n bensiynwr—

(a)         sydd, ar gyfer y diwrnod hwnnw, yn atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddi;

(b)         nad yw, yn ddarostyngedig i baragraff 17 (cyfnodau o absenoldeb o annedd), yn absennol o’r annedd drwy gydol y diwrnod;

(c)         y gellir cyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor mewn perthynas ag ef;

(d)         nad yw’n perthyn i ddosbarth o bersonau nad oes hawl ganddynt i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn;

(e)         nad yw ei incwm (os oes incwm) ar gyfer yr wythnos berthnasol yn fwy na swm cymwysadwy y person hwnnw; ac

(f)      sydd wedi gwneud cais.

Dosbarth B: pensiynwyr â’u hincwm yn fwy na’r swm cymwysadwy

14. Ar unrhyw ddiwrnod mae dosbarth B yn cynnwys unrhyw berson sy’n bensiynwr—

(a)         sydd, ar gyfer y diwrnod hwnnw, yn atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddi;

(b)         nad yw, yn ddarostyngedig i baragraff 17 (cyfnodau o absenoldeb o annedd), yn absennol o’r annedd drwy gydol y diwrnod;

(c)         y gellir cyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor mewn perthynas ag ef;

(d)         nad yw’n perthyn i ddosbarth o bersonau nad oes hawl ganddynt i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn;

(e)         y mae ei incwm ar gyfer yr wythnos berthnasol yn fwy na swm cymwysadwy y person hwnnw;

(f)          y mae swm A yn fwy na swm B mewn perthynas ag ef, os—

                           (i)    swm A yw uchafswm y gostyngiad treth gyngor ar gyfer y diwrnod yn achos y person hwnnw; a

                         (ii)    swm B yw 26/7 y cant o’r gwahaniaeth rhwng incwm y person hwnnw am yr wythnos berthnasol a swm cymwysadwy y person hwnnw; ac

(g)     sydd wedi gwneud cais.

Dosbarth C: personau nad ydynt yn bensiynwyr, â’u hincwm yn llai na’r swm cymwysadwy

15. Ar unrhyw ddiwrnod mae dosbarth C yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n bensiynwr—

(a)         sydd, ar gyfer y diwrnod hwnnw, yn atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddi;

(b)         nad yw, yn ddarostyngedig i baragraff 17 (cyfnodau o absenoldeb o annedd), yn absennol o’r annedd drwy gydol y diwrnod;

(c)         y gellir cyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor mewn perthynas ag ef;

(d)         nad yw’n perthyn i ddosbarth o bersonau nad oes hawl ganddynt i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn;

(e)         y mae ei incwm (os oes incwm) ar gyfer yr wythnos berthnasol yn llai na swm cymwysadwy y person hwnnw; ac

(f)      sydd wedi gwneud cais.

Dosbarth D: personau nad ydynt yn bensiynwyr, â’u hincwm yn fwy na’r swm cymwysadwy

16. Ar unrhyw ddiwrnod mae dosbarth D yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n bensiynwr—

(a)         sydd, ar gyfer y diwrnod hwnnw, yn atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddi;

(b)         nad yw, yn ddarostyngedig i baragraff 17 (cyfnodau o absenoldeb o annedd), yn absennol o’r annedd drwy gydol y diwrnod;

(c)         y gellir cyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor mewn perthynas ag ef;

(d)         nad yw’n perthyn i ddosbarth o bersonau nad oes hawl ganddynt i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn;

(e)         y mae ei incwm ar gyfer yr wythnos berthnasol yn fwy na swm cymwysadwy y person hwnnw;

(f)          y mae swm A yn fwy na swm B mewn perthynas ag ef, os—

                           (i)    swm A yw uchafswm y gostyngiad treth gyngor ar gyfer y diwrnod yn achos y person hwnnw; a

                         (ii)    swm B yw 26/7 y cant o’r gwahaniaeth rhwng incwm y person hwnnw am yr wythnos berthnasol a swm cymwysadwy y person hwnnw; ac

(g)     sydd wedi gwneud cais.

Cyfnodau o absenoldeb o annedd

17.(1)(1) Nid yw person yn absennol o annedd mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod sy’n digwydd o fewn cyfnod o absenoldeb dros dro o’r annedd honno.

(2) Yn is-baragraff (1), ystyr “cyfnod o absenoldeb dros dro” (“period of temporary absence”) yw—

(a)         cyfnod o absenoldeb o ddim mwy na 13 wythnos, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod cyfan cyntaf pan fo person yn preswylio mewn llety preswyl a phan fo, a chyhyd â bo—

                           (i)    y person hwnnw’n preswylio yn y llety hwnnw;

                         (ii)    y rhan o’r annedd lle mae’r person hwnnw’n preswylio fel arfer heb ei gosod neu ei his-osod; a

                       (iii)    y cyfnod hwnnw o absenoldeb ddim yn rhan o gyfnod hwy o absenoldeb o’r annedd am fwy na 52 wythnos,

a’r person hwnnw wedi symud i’r llety at y diben o ganfod a yw’r llety’n addas ar gyfer ei anghenion, a chyda’r bwriad o ddychwelyd i’r annedd os daw’n amlwg nad yw’r llety’n addas ar gyfer ei anghenion;

(b)         cyfnod o absenoldeb o ddim mwy na 13 wythnos, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod cyfan cyntaf o absenoldeb o’r annedd pan fo, a chyhyd â bo—

                           (i)    y person yn bwriadu dychwelyd i’r annedd;

                         (ii)    y rhan o’r annedd lle mae’r person hwnnw’n preswylio fel arfer heb ei gosod neu ei his-osod; a

                       (iii)    y cyfnod hwnnw’n annhebygol o fod yn hwy na 13 wythnos; ac

(c)         cyfnod o absenoldeb o ddim mwy na 52 wythnos, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod cyfan cyntaf o’r absenoldeb hwnnw pan fo, a chyhyd â bo—

                           (i)    y person yn bwriadu dychwelyd i’r annedd;

                         (ii)    y rhan o’r annedd lle mae’r person hwnnw’n preswylio fel arfer heb ei gosod neu ei his-osod;

                       (iii)    y person yn berson y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo; a

                        (iv)    y cyfnod o absenoldeb yn annhebygol o fod yn hwy na 52 wythnos neu, mewn amgylchiadau eithriadol, yn annhebygol o fod yn sylweddol hwy na’r cyfnod hwnnw.

(3) Mae’r is-baragraff yn gymwys i berson—

(a)         a gedwir yn y ddalfa ar remánd tra’n disgwyl treial, neu y gwneir yn ofynnol, fel amod mechnïaeth, ei fod yn preswylio—

                           (i)    mewn annedd ac eithrio’r annedd y cyfeirir ati yn is-baragraff (1), neu

                         (ii)    mewn mangre a gymeradwyir o dan adran 13 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007([95]),

neu a gedwir yn y ddalfa tra’n disgwyl dedfryd ar ôl ei gollfarnu;

(b)         sy’n preswylio mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb, fel claf;

(c)         sy’n cael, neu y mae’i bartner neu blentyn dibynnol yn cael, triniaeth feddygol neu gyfnod gwella a gymeradwywyd yn feddygol, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, mewn llety ac eithrio llety preswyl;

(d)         sy’n dilyn cwrs hyfforddi, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall;

(e)         sy’n ymgymryd â gofal, a gymeradwywyd yn feddygol, person sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall;

(f)          sy’n ymgymryd â gofal plentyn y mae’i riant neu’i warcheidwad yn absennol dros dro o’r annedd a feddiennir fel arfer gan y rhiant neu’r gwarcheidwad hwnnw at y diben o gael gofal a gymeradwywyd yn feddygol neu driniaeth feddygol;

(g)         sydd, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, yn cael gofal a gymeradwywyd yn feddygol, mewn llety ac eithrio llety preswyl;

(h)         sy’n fyfyriwr;

(i)          sy’n cael gofal a ddarperir mewn llety preswyl ac nad yw’n berson y mae is-baragraff (2)(a) yn gymwys iddo; neu

(j)      sydd wedi gadael yr annedd y mae’r person yn preswylio ynddi oherwydd ei fod yn ofni trais, naill ai yn yr annedd honno neu gan berson a oedd gynt yn aelod o deulu y person hwnnw.

(4) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson—

(a)         a gedwir yn y ddalfa tra’n disgwyl dedfryd ar ôl ei gollfarnu neu o dan ddedfryd a osodwyd gan lys (ac eithrio person a gedwir mewn ysbyty o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Meddwl 1983([96]), neu, yn yr Alban, o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003([97]) neu Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995([98]) neu, yng Ngogledd Iwerddon, o dan Erthygl 4 neu 12 o Orchymyn Iechyd Meddwl (Gogledd Iwerddon)1986([99])); a

(b)     wedi ei ryddhau dros dro o’r ddalfa yn unol â Rheolau a wnaed o dan ddarpariaethau Deddf Carchardai 1952([100]) neu Ddeddf Carchardai (Yr Alban) 1989([101]).

(5) Pan fo is-baragraff (4) yn gymwys i berson, yna, ar gyfer unrhyw ddiwrnod pan fo’r person hwnnw yn rhydd dros dro—

(a)         os digwyddodd cyfnod o absenoldeb dros dro o dan is-baragraff (2)(b) neu (c) yn union cyn y cyfryw ryddhad dros dro, rhaid trin y person hwnnw at ddibenion is-baragraff (1) fel pe bai’r person hwnnw’n parhau i fod yn absennol o’r annedd, er gwaethaf unrhyw ddychweliad i’r annedd;

(b)         at ddibenion is-baragraff (3)(a), rhaid trin y person hwnnw fel pe bai’n parhau yn y ddalfa;

(c)     os nad yw’r person hwnnw’n dod o fewn paragraff (a), rhaid peidio ag ystyried y person hwnnw’n berson sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd lle mae’r person hwnnw’n breswylydd.

(6) Yn y paragraff hwn—

ystyr “a gymeradwywyd yn feddygol” (“medically approved”) yw ardystiedig gan ymarferydd meddygol;

ystyr “claf” (“patient”) yw person sy’n cael triniaeth feddygol neu driniaeth arall fel claf mewnol mewn unrhyw ysbyty neu sefydliad cyffelyb;

ystyr “llety preswyl” (“residential accommodation”) yw llety a ddarperir mewn—

(a)     cartref gofal;

(b)     ysbyty annibynnol;

(c)     Cartref Abbeyfield; neu

(d)     sefydliad a reolir neu a ddarperir gan gorff a gorfforwyd gan Siarter Brenhinol neu a gyfansoddwyd gan Ddeddf Seneddol, ac eithrio awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol;

 ystyr “cwrs hyfforddi” (“training course”) yw cwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan, neu ar ran, neu’n unol â threfniadau a wnaed gyda, neu a gymeradwywyd gan neu ar ran, Datblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban, Menter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, adran o’r llywodraeth, Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.

RHAN 5

Dosbarthiadau o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn

Dosbarthiadau o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn

18. Nid oes hawl gan y dosbarthiadau o bersonau a ddisgrifir ym mharagraffau 19 i 22 i gael gostyngiad  o dan y cynllun hwn.

Dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr

19.(1)(1) Mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yn cynnwys unrhyw berson sydd i’w drin fel rhywun nad yw ym Mhrydain Fawr.

(2) Ac eithrio pan fo person yn dod o fewn is-baragraff (5) neu (6), rhaid trin person fel rhywun nad yw ym Mhrydain Fawr os nad yw’r person hwnnw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon.

(3) Rhaid peidio â thrin person fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon onid oes gan y person hwnnw hawl i breswylio yn un o’r lleoedd hynny.

(4) At ddibenion is-baragraff (3), nid yw hawl i breswylio yn cynnwys hawl sy’n bodoli yn rhinwedd, neu yn unol ag—

(a)         rheoliad 13 o’r Rheoliadau AEE neu Erthygl 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor Rhif 2004/38/EC([102]);

(b)         rheoliad 14 o’r Rheoliadau AEE, ond hynny yn unig mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw oherwydd bod y person—

                           (i)    yn geisiwr gwaith at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau hynny, neu

                         (ii)    yn aelod o deulu (o fewn ystyr “family member” yn rheoliad 7 o’r Rheoliadau hynny) o’r cyfryw geisiwr gwaith;

(c)         Erthygl 45 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (mewn achos pan fo person yn ceisio gwaith yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth yr Iwerddon); neu

(d)         rheoliad 15A(1) o’r Rheoliadau AEE, ond hynny yn unig mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw oherwydd bod y ceisydd yn bodloni’r meini prawf ym mharagraff (4A) o’r rheoliad hwnnw neu Erthygl 20 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (mewn achos pan fo’r hawl i breswylio yn codi oherwydd, fel arall, yr amddifedid dinesydd Prydeinig o wir fwynhau ei hawliau fel dinesydd yr Undeb Ewropeaidd)([103]).

(5) Mae person yn dod o fewn yr is-baragraff hwn os yw—

(a)         yn berson cymwys at ddibenion rheoliad 6 o’r Rheoliadau AEE fel gweithiwr neu berson hunangyflogedig;

(b)         yn aelod o deulu person y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn yr ystyr a roddir i “family member” gan reoliad 7(1)(a), (b) neu (c) o’r Rheoliadau AEE;

(c)         yn berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheoliad 15(1)(c), (d) neu (e) o’r Rheoliadau AEE;

(d)         yn berson a gofnodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel ffoadur yn yr ystyr a roddir i “refugee” gan y diffiniad yn Erthygl 1 o’r Confensiwn ynghylch Statws Ffoaduriaid a fabwysiadwyd yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951, fel y’i hestynnwyd gan Erthygl 1(2) o’r Protocol ynghylch Statws Ffoaduriaid a fabwysiadwyd yn Efrog Newydd ar 31 Ionawr 1967;

(e)         yn berson y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi, y tu allan i ddarpariaethau’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971([104]), ar ôl gwrthod ei hawliad am loches;

(f)          yn berson sydd â diogelwch dyngarol a roddwyd o dan y rheolau hynny;

(g)         yn berson nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn yr ystyr a roddir i subject to immigration control gan adran 115(9) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999([105]) ac sydd yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i allgludo neu ddiarddel y person hwnnw neu ei symud yn orfodol drwy gyfraith rywfodd arall, o wlad arall i’r Deyrnas Unedig;

(h)         yn berson ym Mhrydain Fawr sydd wedi gadael tiriogaeth Montserrat ar ôl 1 Tachwedd 1995 oherwydd effaith echdoriad folcanig ar y diriogaeth honno;

(i)          yn berson sydd—

                           (i)    wedi cyrraedd Prydain Fawr ar neu ar ôl 28 Chwefror 2009 ond cyn 18 Mawrth 2011;

                         (ii)    wedi bod yn preswylio yn Zimbabwe yn union cyn cyrraedd Prydain Fawr; a

                       (iii)    cyn gadael Zimbabwe wedi derbyn cynnig, a wnaed gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, i gynorthwyo’r person hwnnw i symud i’r Deyrnas Unedig ac i setlo yno; neu

(j)          yn berson sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.

(6) Mae person yn dod o fewn yr is-baragraff hwn os yw’n was y Goron neu’n aelod o luoedd Ei Mawrhydi a leolwyd dramor.

(7) Mae person a grybwyllir yn is-baragraff (6) wedi ei leoli dramor os yw’n cyflawni dyletswyddau gwas y Goron neu aelod o luoedd Ei Mawrhydi dramor ac yntau, yn union cyn y lleoliad neu’r cyntaf o leoliadau olynol, yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.

(8) Yn y paragraff hwn—

mae i “hawliad am loches” yr un ystyr a roddir i “claim for asylum” yn adran 94(1) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999([106]);

ystyr “Rheoliadau AEE” (“EEA Regulations”) yw Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006([107]).

Dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo

20.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nid oes hawl gan bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn.

(2) Nid yw person sy’n wladolyn o wladwriaeth sydd wedi cadarnhau y Confensiwn Ewropeaidd ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol (a fabwysiadwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953) neu wladwriaeth sydd wedi cadarnhau Siarter Gymdeithasol Cyngor Ewrop (a arwyddwyd yn Turin ar 18 Hydref 1961) ac sy’n bresennol yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig yn berson sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo at ddibenion is-baragraff (1).

(3) Mae i “person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo” yr ystyr a roddir i “person subject to immigration control” yn adran 115(9) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.

Dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: terfyn cyfalaf

21.(1)(1) Mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yn cynnwys unrhyw berson y mae ei gyfalaf yn fwy nag £16,000.

(2) Rhaid cyfrifo cyfalaf at ddibenion is-baragraff (1) yn unol â Rhan 9 o’r cynllun hwn.

Dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: myfyrwyr

22. Mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yn cynnwys unrhyw fyfyriwr y mae paragraff 72(1) o’r cynllun hwn yn gymwys iddo.

RHAN 6

Symiau cymwysadwy at y diben o gyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan y cynllun hwn a swm unrhyw ostyngiad

Symiau cymwysadwy: pensiynwyr (gan gynnwys pensiynwyr mewn priodasau amlbriod)

23.(1)(1) Y swm cymwysadwy ar gyfer pensiynwr([108])ar gyfer wythnos yw swm cyfanredol y cyfryw rai o’r symiau canlynol sy’n gymwys yn achos y person hwnnw—

(a)         swm mewn perthynas â’r person, neu os yw’r person hwnnw’n aelod o gwpl, swm mewn perthynas â’r ddau ohonynt, a benderfynir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 2 (lwfans personol);

(b)         swm mewn perthynas ag unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person, a benderfynir yn unol â pharagraff 2 o’r Atodlen honno (symiau plentyn neu berson ifanc);

(c)         os yw’r person yn aelod o deulu y mae o leiaf un aelod ohono yn blentyn neu’n berson ifanc, swm a benderfynir yn unol â pharagraff 3 o’r Atodlen honno (premiwm teulu);

(d)     swm unrhyw bremiymau a allai fod yn gymwys i’r person, a benderfynir yn unol â Rhannau 3 a 4 o’r Atodlen honno (premiymau).

(2) Yn Atodlen 2—

ystyr “priod ychwanegol” (“additional spouse”) yw priod y naill barti i’r briodas neu’r llall sy’n ychwanegol at y parti arall i’r briodas;

ystyr “claf” (“patient”) yw person (ac eithrio person sy’n gwneud dedfryd o garchar neu’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad cadw ar gyfer pobl ifanc) yr ystyrir ei fod yn cael triniaeth ddi-dâl fel claf mewnol yn yr ystyr a roddir i “receiving free in-patient treatment” gan reoliad 2(4) a (5) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol mewn Ysbytai) 2005([109]).

Symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

24.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau 25 a 26, y swm cymwysadwy ar gyfer wythnos ar gyfer person nad yw yn bensiynwr yw swm cyfanredol y cyfryw rai o’r symiau canlynol sy’n gymwys yn achos y person hwnnw—

(a)         swm mewn perthynas â’r person, neu os yw’r person hwnnw’n aelod o gwpl, swm mewn perthynas â’r ddau ohonynt, a benderfynir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 3 (lwfansau personol);

(b)         swm mewn perthynas ag unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person, a benderfynir yn unol â pharagraff 3 o’r Atodlen honno (symiau plentyn neu berson ifanc);

(c)         os yw’r person yn aelod o deulu y mae o leiaf un aelod ohono yn blentyn neu’n berson ifanc, swm a benderfynir yn unol â Rhan 2 o’r Atodlen honno (premiwm teulu);

(d)         swm unrhyw bremiymau a allai fod yn gymwys i’r person, a benderfynir yn unol â Rhannau 3 a 4 o’r Atodlen honno (premiymau);

(e)         y swm o naill ai—

                           (i)    yr elfen gweithgaredd perthynol i waith; neu

                         (ii)    yr elfen gymorth,

a allai fod yn gymwys i’r person yn unol â Rhannau 5 a 6 o’r Atodlen honno (yr elfennau);

(f)      swm unrhyw ychwanegiad trosiannol a allai fod yn gymwys i’r person yn unol â Rhannau 7 ac 8 o’r Atodlen honno (ychwanegiad trosiannol).

(2) Yn Atodlen 3—

ystyr “priod ychwanegol” (“additional spouse”) yw priod y naill barti i’r briodas neu’r llall sy’n ychwanegol at y parti arall i’r briodas;

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd” (“converted employment and support allowance”) yw lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw ar sail incwm ac y mae hawl gan berson i’w gael o ganlyniad i benderfyniad trosi yn yr ystyr a roddir i “conversion decision” gan Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008([110]);

ystyr “claf” (“patient”) yw person (ac eithrio person sy’n gwneud dedfryd o garchar neu’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad cadw ar gyfer pobl ifanc) yr ystyrir ei fod yn cael triniaeth ddi-dâl fel claf mewnol yn yr ystyr a roddir i “receiving free in-patient treatment” gan reoliad 2(4) a (5) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol mewn Ysbytai) 2005([111]).

Priodasau amlbriod: personau nad ydynt yn bensiynwyr

25.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ceisydd nad yw’n bensiynwr yn aelod o briodas amlbriod, ac nad oes ganddo (ar ei ben ei hunan nac ar y cyd â pharti i briodas) ddyfarniad o gredyd cynhwysol.

(2) Y swm cymwysadwy ar gyfer wythnos ar gyfer ceisydd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yw swm cyfanredol y cyfryw rai o’r symiau canlynol sy’n gymwys yn achos y ceisydd hwnnw—

(a)         y swm sy’n gymwys i’r ceisydd ac un o bartneriaid y ceisydd a benderfynir yn unol â pharagraff 1(3) o Atodlen 3 (cwpl) fel pe bai’r ceisydd a’r partner hwnnw yn gwpl;

(b)         swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng y symiau a bennir yn is-baragraffau (3) ac (1)(b) o baragraff 1 o’r Atodlen honno mewn perthynas â phob un o bartneriaid eraill y ceisydd;

(c)         swm a benderfynir yn unol â pharagraff 3 o’r Atodlen honno (symiau plentyn neu berson ifanc) mewn perthynas ag unrhyw blentyn neu berson ifanc y mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gyfrifol amdano ac sy’n aelod o’r un aelwyd;

(d)         os yw’r ceisydd neu bartner arall o’r briodas amlbriod yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc sy’n aelod o’r un aelwyd, y swm a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno (premiwm teulu);

(e)         swm unrhyw bremiymau a allai fod yn gymwys i’r ceisydd, a benderfynir yn unol â Rhannau 3 a 4 o’r Atodlen honno (premiymau);

(f)          swm naill ai—

                           (i)    yr elfen gweithgaredd perthynol i waith; neu

                         (ii)    yr elfen gymorth;

a allai fod yn gymwys i’r ceisydd yn unol â Rhannau 5 a 6 o’r Atodlen honno (yr elfennau);

(g)     swm unrhyw ychwanegiad trosiannol a allai fod yn gymwys i’r ceisydd yn unol â Rhannau 7 ac 8 o’r Atodlen honno (ychwanegiad trosiannol).

Swm cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr, sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol

26.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), wrth benderfynu’r swm cymwysadwy ar gyfer wythnos ar gyfer ceisydd nad yw’n bensiynwr—

(a)          sydd ganddo, neu

(b)         sydd ganddo (ar y cyd â phartner),

ddyfarniad o gredyd cynhwysol, rhaid i’r awdurdod ddefnyddio’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o swm uchaf y ceisydd, neu’r ceisydd ar y cyd â phartner y ceisydd (yn ôl fel y digwydd), yn ddarostyngedig i’r addasiad a ddisgrifir yn is-baragraff (3).

(2) Wrth benderfynu’r swm cymwysadwy ar gyfer wythnos ar gyfer ceisydd sy’n aelod o briodas amlbriod, rhaid diystyru’r ffaith bod dau o bobl yn ŵr a gwraig os yw—

(a)         un ohonynt yn barti i briodas gynharach sy’n bodoli o hyd; a

(b)         y parti arall i’r briodas gynharach honno yn byw ar yr un aelwyd.

(3) Yr addasiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yw lluosi’r swm uchaf gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52.

(4) Yn y paragraff hwn ystyr “swm uchaf” (“maximum amount”) yw’r swm uchaf a gyfrifwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 8(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2012([112]).

RHAN 7

Uchafswm y gostyngiad treth gyngor at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan y cynllun hwn a swm unrhyw ostyngiad

Uchafswm y gostyngiad treth gyngor o dan y cynllun hwn: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr

27.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), uchafswm gostyngiad treth gyngor person mewn perthynas â diwrnod yw 100 y cant o’r swm A/B, os—

(a)         A yw’r swm a bennir gan yr awdurdod fel y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol mewn perthynas â’r annedd y mae’r person yn preswylio ynddi ac y mae’r person yn atebol amdano, yn ddarostyngedig i unrhyw ddisgownt a allai fod yn briodol i’r annedd honno o dan Ddeddf 1992; a

(b)         B yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn ariannol honno,

llai unrhyw ddidyniadau mewn perthynas ag annibynyddion sydd i’w gwneud o dan baragraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr).

(2) Wrth gyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor person o dan y cynllun hwn, rhaid cymryd i ystyriaeth unrhyw ostyngiad yn y swm y mae’r person hwnnw’n atebol i’w dalu mewn perthynas â’r dreth gyngor a wnaed o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad yn Neddf 1992, neu ddeddfiad a wnaed o dan y Ddeddf honno (ac eithrio gostyngiad o dan y cynllun hwn).

(3)  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), pan fo ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r ceisydd yn preswylio ynddi gydag un neu ragor o bersonau eraill, wrth benderfynu’r uchafswm gostyngiad treth gyngor yn achos y ceisydd yn unol ag is-baragraff (1), rhaid rhannu’r swm A gyda nifer y personau sy’n atebol ar y cyd ac yn unigol am y dreth honno.

(4) Pan fo ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas ag annedd gyda phartner yn unig, nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos y ceisydd hwnnw.

(5) Nid yw’r cyfeiriad yn is-baragraff (3) at berson y mae ceisydd yn atebol ar y cyd ag ef ac yn unigol am dreth gyngor yn cynnwys myfyriwr y mae paragraff 72(1) (myfyrwyr a eithrir o hawlogaeth i ostyngiad o dan y cynllun hwn) yn gymwys iddo.

(6) Yn y paragraff hwn, ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant financial year”), mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod penodol, yw’r flwyddyn ariannol y mae’r diwrnod hwnnw’n digwydd ynddi.

Didyniadau annibynyddion : pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr

28.(1)(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, y didyniadau annibynyddion mewn perthynas â diwrnod, y cyfeirir atynt ym mharagraff 27 yw—

(a)         mewn perthynas ag annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn sy’n gweithio am dâl, £10.95 x 1/7;

(b)         mewn perthynas ag annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn nad yw paragraff (a) yn gymwys iddo, £3.65 x 1/7.

(2) Yn achos annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, os dangosir i’r awdurdod fod incwm wythnosol gros arferol yr annibynnydd hwnnw—

(a)         yn llai na £186.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw’r didyniad a bennir yn is-baragraff (1)(b);

(b)         yn ddim llai na £186.00 ond yn llai na £322.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw £7.25 x 1/7;

(c)         yn ddim llai na £322.00 ond yn llai na £401.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw £9.15 x 1/7.

(3) Un didyniad yn unig sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn mewn perthynas â chwpl neu, yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas ag aelodau priodas amlbriod (ac eithrio os oes dyfarniad o gredyd cynhwysol), ac os byddai’r swm y byddid yn ei ddidynnu mewn perthynas ag un aelod o gwpl neu o briodas amlbriod, oni bai am y paragraff hwn, yn uwch na’r swm (os oes swm) y byddid yn ei ddidynnu mewn perthynas â’r aelod arall, neu unrhyw aelod arall, rhaid didynnu’r swm uchaf.

(4) Wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraff (2) yn achos cwpl, neu, yn ôl fel y digwydd, priodas amlbriod, at ddibenion yr is-baragraff hwnnw rhaid rhoi sylw i incwm gros wythnosol y cwpl ar y cyd neu, yn ôl fel y digwydd, incwm gros wythnosol holl aelodau’r briodas amlbriod.

(5) Mewn perthynas â diwrnod, os yw—

(a)         person yn breswylydd mewn annedd, ond nad yw’r person hwnnw’n atebol am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw;

(b)         preswylwyr eraill yn yr annedd honno (y personau atebol) yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw, ac eithrio yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1992 (atebolrwydd gwŷr priod a gwragedd priod, a phartneriaid sifil); ac

(c)         y person y mae paragraff (a) yn cyfeirio ato yn annibynnydd dau neu ragor o’r personau atebol,

rhaid dosrannu’r didyniad mewn perthynas â’r annibynnydd hwnnw yn gyfartal rhwng y personau atebol hynny.

(6) Rhaid peidio â gwneud unrhyw ddidyniad mewn perthynas ag annibynyddion sy’n meddiannu annedd y ceisydd os yw’r ceisydd neu bartner y ceisydd—

(a)         yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall yn rhinwedd paragraff 10 o Atodlen 3 (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd); neu

(b)         yn cael, mewn perthynas â’r ceisydd—

                           (i)    lwfans gweini, neu byddai’n cael y lwfans hwnnw oni bai am—

(aa)        atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(bb)       lleihad o ganlyniad i draddodi i’r ysbyty; neu

                         (ii)    elfen ofal y lwfans byw i’r anabl, neu byddai’n cael yr elfen honno oni bai am—

(aa)        atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(bb)       lleihad o ganlyniad i draddodi i’r ysbyty; neu

                       (iii)    elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol, neu byddai’n cael y lwfans hwnnw oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012([113]) (cleifion mewnol mewn ysbyty); neu

                        (iv)    TALlA, neu byddai’n cael y taliad hwnnw oni bai am ei atal dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb.

(7) Rhaid peidio â gwneud didyniad mewn perthynas ag annibynnydd—

(a)         er bod yr annibynnydd hwnnw yn preswylio gyda’r ceisydd, os yw’n ymddangos i’r awdurdod fod cartref arferol yr annibynnydd hwnnw yn rhywle arall; neu

(b)         os yw’r annibynnydd yn cael lwfans hyfforddi a delir mewn cysylltiad â hyfforddiant ieuenctid a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973([114]) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990([115]); neu

(c)         os yw’r annibynnydd yn fyfyriwr amser llawn o fewn yr ystyr yn Rhan 10 (myfyrwyr); neu

(d)         os nad yw’r annibynnydd yn preswylio gyda’r ceisydd oherwydd bod yr annibynnydd wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 52 wythnos, ac at y dibenion hyn—

                           (i)    mae i “claf” (“patient”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 17(6) o’r cynllun hwn, a

                         (ii)    os yw person wedi bod yn glaf am ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan un neu ragor o ysbeidiau nad oes yr un ohonynt yn hwy na 28 diwrnod, rhaid trin y person hwnnw fel pe bai wedi bod yn glaf yn barhaus am gyfnod sydd â’i hyd yn hafal i gyfanswm y cyfnodau ar wahân hynny.

(8) Rhaid peidio â gwneud didyniad mewn perthynas ag annibynnydd—

(a)         sydd ar gymhorthdal incwm, credyd pensiwn y wladwriaeth, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm; neu

(b)         y mae Atodlen 1 i Ddeddf 1992 yn gymwys iddo (personau a ddiystyrir at ddibenion disgownt); ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i annibynnydd sy’n fyfyriwr y cyfeirir ato ym mharagraff 4 o’r Atodlen honno.

(9) Ar gyfer cymhwyso is-baragraff (2), rhaid diystyru o incwm gros wythnosol yr annibynnydd—

(a)         unrhyw lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl neu daliad annibyniaeth bersonol neu TALlA a dderbynnir gan yr annibynnydd;

(b)         unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006) y byddid, pe bai incwm yr annibynnydd wedi ei gyfrifo o dan baragraff 51 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), wedi ei ddiystyru o dan baragraff 28 o Atodlen 7 (incwm mewn nwyddau neu wasanaethau);

(c)         unrhyw daliad y byddid, pe bai incwm yr annibynnydd wedi ei gyfrifo o dan baragraff 51 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), wedi ei ddiystyru o dan baragraff 41 o Atodlen 7 (taliadau a wneir o dan ymddiriedolaethau penodol a thaliadau penodol eraill).

RHAN 8

Swm y gostyngiad o dan y cynllun hwn

Swm y gostyngiad o dan y cynllun hwn: Dosbarthiadau A i D

29.(1)(1) Pan fo hawl gan berson i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn mewn perthynas â diwrnod, bydd swm y gostyngiad y mae hawl gan y person hwnnw i’w gael fel a ganlyn.

(2) Os yw’r person yn nosbarth A neu C, y swm hwnnw yw uchafswm y gostyngiad treth gyngor mewn perthynas â’r diwrnod yn achos y person hwnnw.

(3) Os yw’r person yn nosbarth B neu D, y swm hwnnw yw’r swm a gyrhaeddir drwy ddidynnu’r swm B o’r swm A pan fo “swm A” a “swm B” yn dwyn yr ystyron a roddir iddynt ym mharagraff 14(f) neu 16(f), yn ôl fel y digwydd.

RHAN 9

Incwm a chyfalaf at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan y cynllun hwn, a swm unrhyw ostyngiad

PENNOD 1

Incwm a chyfalaf: cyffredinol

Cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod

30.(1)(1) Rhaid cyfrifo incwm a chyfalaf—

(a)         ceisydd; a

(b)         unrhyw bartner y ceisydd hwnnw,

yn unol â darpariaethau’r Rhan hon.

(2) Rhaid trin incwm a chyfalaf unrhyw bartner y ceisydd fel pe bai’n incwm a chyfalaf y ceisydd, ac yn y Rhan hon, mae unrhyw gyfeiriad at y ceisydd yn gymwys yn yr un modd i unrhyw bartner y ceisydd hwnnw.

(3) Os yw ceisydd, neu bartner ceisydd, mewn priodas amlbriod â dau neu ragor o aelodau aelwyd y ceisydd—

(a)         rhaid trin y ceisydd fel pe bai’n meddu’r cyfalaf a’r incwm sy’n eiddo i unrhyw aelod o’r fath; a

(b)     rhaid cyfrifo incwm a chyfalaf yr aelod hwnnw yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon, yn yr un modd ag ar gyfer y ceisydd.

Amgylchiadau pan fo cyfalaf ac incwm annibynnydd i gael eu trin fel eiddo i’r ceisydd

31.(1)(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys os yw’n ymddangos i’r awdurdod fod annibynnydd a cheisydd wedi ymuno mewn trefniadau er mwyn manteisio ar y cynllun hwn, a bod gan yr annibynnydd fwy o incwm a chyfalaf na’r ceisydd.

(2) Ac eithrio—

(a)     pan fo’r ceisydd yn bensiynwr ac yn cael credyd gwarant, neu

(b)     pan nad yw’r ceisydd yn bensiynwr, ac ar gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm,

rhaid i’r awdurdod drin y ceisydd fel pe bai’n meddu’r incwm a’r cyfalaf sy’n eiddo i’r annibynnydd hwnnw, ac mewn achos o’r fath rhaid diystyru unrhyw gyfalaf ac incwm y mae’r ceisydd yn eu meddu mewn gwirionedd.

(3) Os trinnir ceisydd fel pe bai’n meddu cyfalaf ac incwm sy’n eiddo i annibynnydd o dan is-baragraff (2), rhaid cyfrifo cyfalaf ac incwm yr annibynnydd hwnnw yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon, yn yr un modd ag ar gyfer y ceisydd, ac at ddibenion y Rhan hon, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at y “ceisydd” (“applicant”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu’n wahanol, fel pe bai’n gyfeiriad at yr annibynnydd hwnnw.

PENNOD 2

Incwm a chyfalaf: pensiynwyr sy’n cael credyd gwarant neu gredyd cynilion

Pensiynwyr sy’n cael credyd gwarant

32. Yn achos ceisydd sy’n bensiynwr ac yn cael credyd gwarant, neu geisydd y mae’i bartner yn cael credyd gwarant, rhaid diystyru’r cyfan o gyfalaf ac incwm y ceisydd.

Cyfrifo incwm pensiynwr mewn achosion o gredyd cynilion yn unig

33.(1)(1) Wrth benderfynu incwm a chyfalaf ceisydd sy’n bensiynwr ac y mae ganddo, neu y mae gan ei bartner, ddyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys y credyd cynilion yn unig, rhaid i awdurdod, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, ddefnyddio’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o incwm a chyfalaf y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, incwm a chyfalaf partner y ceisydd, a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben o benderfynu’r dyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth([116]).

(2) Os yw’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn cynnwys swm a gymerwyd i ystyriaeth yn y penderfyniad hwnnw ar gyfer incwm net, ni chaiff yr awdurdod addasu’r swm hwnnw ac eithrio i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn cymryd i ystyriaeth—

(a)         swm unrhyw gredyd cynilion sy’n daladwy;

(b)         mewn perthynas ag unrhyw blant dibynnol y ceisydd, costau gofal plant a gymerir i ystyriaeth o dan baragraff 54(1)(c) (cyfrifo incwm ar sail wythnosol);

(c)          y swm uchaf a ddiystyrir o dan y cynllun hwn mewn perthynas ag—

                           (i)    enillion unig riant; neu

                         (ii)    taliadau cynnal, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wneir gan neu sy’n ddyledus gan—

(aa)        partner blaenorol y ceisydd neu bartner blaenorol partner y ceisydd; neu

(bb)       rhiant plentyn neu berson ifanc pan fo’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw’n aelod o deulu’r ceisydd, ac eithrio pan y ceisydd neu bartner y ceisydd yw’r rhiant hwnnw;

(d)          unrhyw swm sydd i’w ddiystyru yn rhinwedd paragraff 10(1) o Atodlen 4 (symiau sydd i’w diystyru o enillion ceisydd);

(e)         incwm a chyfalaf unrhyw bartner y ceisydd a drinnir fel aelod o aelwyd y ceisydd o dan baragraff 8 (aelwydydd), i’r graddau nas cymerir i ystyriaeth wrth benderfynu incwm net y person sy’n hawlio credyd pensiwn y wladwriaeth;

(f)          paragraff 31 (amgylchiadau pan fo cyfalaf ac incwm annibynnydd i gael eu trin fel eiddo i’r ceisydd), os yw’r awdurdod yn penderfynu bod y ddarpariaeth yn gymwys yn achos y ceisydd;

(g)         pa bynnag ostyngiad pellach (os oes un) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992([117]) (pŵer awdurdod bilio i ostwng y swm o’r dreth gyngor sy’n daladwy);

(h)     unrhyw swm sydd i’w ddiystyru yn rhinwedd paragraff 6 o Atodlen 4 (symiau sydd i’w diystyru o incwm ceisydd: pensiynwyr).

(3) Nid yw paragraffau 37 i 42 (cyfrifo incwm: pensiynwyr) a 54 i 58 (cyfrifo incwm: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr) yn gymwys i swm yr incwm net sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1), ond maent yn gymwys (i’r graddau y maent yn berthnasol) at y diben o benderfynu unrhyw addasiadau yn y swm hwnnw a wneir gan yr awdurdod o dan is-baragraff (2).

(4) Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod gyfrifo cyfalaf y ceisydd yn unol â pharagraffau  60, 62 i 65 a 67 o’r cynllun hwn (cyfrifo cyfalaf: pensiynwyr).

(5) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)         pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysu’r awdurdod y penderfynwyd bod cyfalaf y ceisydd yn £16,000 neu’n llai, neu pan fo’r awdurdod yn penderfynu bod cyfalaf y ceisydd yn £16,000 neu’n llai;

(b)         pan fo cyfalaf y ceisydd, ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw, yn codi i fwy nag £16,000; ac

(c)     y cynnydd yn digwydd pan fo cyfnod incwm asesedig mewn grym, yn yr ystyr a roddir i “assessed income period” gan adrannau 6 a 9 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([118]).

PENNOD 3

Incwm a chyfalaf pan fo dyfarniad o gredyd cynhwysol

Cyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr, sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol

34.(1)(1) Wrth benderfynu incwm ceisydd—

(a)         y mae ganddo, neu

(b)         y mae ganddo (ar y cyd â phartner),

ddyfarniad o gredyd cynhwysol, rhaid i awdurdod, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, ddefnyddio’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o incwm y ceisydd neu incwm y ceisydd a phartner y ceisydd ar y cyd (yn ôl fel y digwydd), a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben o benderfynu’r dyfarniad o gredyd cynhwysol.

(2) Rhaid i’r awdurdod addasu swm yr incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) drwy luosi’r swm gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52.

(3) Ni chaiff yr awdurdod addasu swm yr incwm fel y’i haddaswyd eisoes yn unol ag is-baragraff (2) ac eithrio i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn cymryd i ystyriaeth—

(a)         swm y dyfarniad o gredyd cynhwysol a benderfynwyd yn unol ag is-baragraff (4);

(b)         paragraff 31 (incwm a chyfalaf annibynnydd sydd i’w trin fel eiddo i’r ceisydd), os yw’r awdurdod yn penderfynu bod y ddarpariaeth yn gymwys yn achos y ceisydd;

(c)         pa bynnag ostyngiad pellach (os oes un) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992 (pŵer awdurdod bilio i leihau swm y dreth gyngor sy’n daladwy).

(4) Rhaid penderfynu’r swm ar gyfer y dyfarniad o gredyd cynhwysol sydd i’w gymryd i ystyriaeth at ddibenion is-baragraff (3)(a) drwy luosi swm y credyd cynhwysol gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52.

(5) Mae paragraff 31 (incwm a chyfalaf annibynnydd sydd i’w trin fel eiddo i’r ceisydd) yn gymwys at ddibenion penderfynu unrhyw addasiadau sydd i’w gwneud i’r ffigur ar gyfer incwm o dan is-baragraff (3).

(6) Wrth benderfynu cyfalaf ceisydd—

(a)         y mae ganddo, neu

(b)         y mae ganddo (ar y cyd â phartner),

ddyfarniad o gredyd cynhwysol, rhaid i awdurdod ddefnyddio’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o gyfalaf y ceisydd neu gyfalaf y ceisydd a phartner y ceisydd ar y cyd (yn ôl fel y digwydd), a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben o benderfynu’r dyfarniad o gredyd cynhwysol([119]).

PENNOD 4

Incwm: pensiynwyr eraill

Cyfrifo incwm a chyfalaf pan nad yw credyd pensiwn y wladwriaeth yn daladwy: pensiynwyr

35. Pan nad yw paragraff 32 (pensiynwyr sy’n cael credyd gwarant) nac ychwaith baragraff 33 (ceisydd yn cael credyd cynilion yn unig: pensiynwyr) yn gymwys yn achos y ceisydd, rhaid cyfrifo neu amcangyfrif incwm a chyfalaf y ceisydd yn unol â pharagraffau 36 i 43 a 54 i 59 (cyfrifiadau incwm) a Phennod 7 o’r Rhan hon (cyfrifo cyfalaf).

Ystyr “incwm”: pensiynwyr

36.(1)(1) At ddibenion dosbarthiadau A a B ystyr “incwm” (“income”) yw incwm o unrhyw un o’r disgrifiadau canlynol—

(a)         enillion;

(b)         credyd treth gwaith;

(c)         incwm pensiwn ymddeol yn yr ystyr a roddir i “retirement pension income” gan Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002;

(d)         incwm o gontractau blwydd-dal (ac eithrio incwm pensiwn ymddeol);

(e)         pensiwn anabledd rhyfel neu bensiwn rhyfel gwraig neu ŵr gweddw;

(f)          pensiwn anabledd rhyfel neu bensiwn rhyfel gwraig neu ŵr gweddw o dramor;

(g)         taliad incwm gwarantedig;

(h)         taliad a wnaed o dan erthygl 29(1)(c) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011([120]), mewn unrhyw achos pan fo erthygl 31(2)(c) yn gymwys;

(i)          incwm o gyfalaf ac eithrio cyfalaf a ddiystyrir o dan Ran 1 o Atodlen 8;

(j)          budd-daliadau nawdd cymdeithasol, ac eithrio incwm pensiwn ymddeol neu unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol—

                           (i)    lwfans byw i’r anabl;

                         (ii)    taliad annibyniaeth bersonol;

                       (iii)    TALlA;

                        (iv)    lwfans gweini sy’n daladwy o dan adran 64 o DCBNC (hawl i gael lwfans gweini);

                          (v)    cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 (cynnydd ar gyfer gweini cyson) neu 105 (cynnydd ar gyfer anabledd eithriadol o ddifrifol) o DCBNC;

                        (vi)    budd-dal plant;

                      (vii)    unrhyw lwfans gwarcheidwad sy’n daladwy o dan adran 77 o DCBNC (lwfans gwarcheidwad);

                    (viii)    unrhyw gynnydd ar gyfer dibynnydd ac eithrio partner y ceisydd, sy’n daladwy yn unol â Rhan 4 o DCBNC (cynnydd ar gyfer dibynyddion);

                        (ix)    unrhyw—

(aa)        taliad cronfa gymdeithasol a wneir o dan Ran 8 o DCBNC (y gronfa gymdeithasol); neu

(bb)       cymorth achlysurol

                          (x)    bonws Nadolig sy’n daladwy o dan Ran 10 o DCBNC (bonws Nadolig ar gyfer pensiynwyr);

                        (xi)    budd-dal tai;

                      (xii)    budd-dal treth gyngor;

                    (xiii)    taliad profedigaeth;

                    (xiv)    tâl salwch statudol;

                      (xv)    tâl mamolaeth statudol;

                    (xvi)    tâl tadolaeth statudol cyffredin sy’n daladwy o dan Ran 12ZA o DCBNC (tâl tadolaeth statudol)([121]);

                  (xvii)    tâl tadolaeth statudol ychwanegol sy’n daladwy o dan Ran 12ZA o DCBNC;

                (xviii)    tâl mabwysiadu statudol sy’n daladwy o dan Ran 12ZB o DCBNC (tâl mabwysiadu statudol);

                    (xix)    unrhyw fudd-dal cyffelyb i’r rhai a grybwyllir yn narpariaethau blaenorol y paragraff hwn, sy’n daladwy o dan ddeddfwriaeth sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon;

(k)         yr holl fudd-daliadau nawdd cymdeithasol tramor cyffelyb i’r budd-daliadau nawdd cymdeithasol a ragnodir uchod;

(l)          taliad a wneir—

                           (i)    o dan erthygl 30 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006([122]), mewn unrhyw achos pan fo erthygl 30(1)(b) yn gymwys; neu

                         (ii)    o dan erthygl 12(8) o’r Gorchymyn hwnnw (lwfansau diweithdra: plant sydd wedi cyrraedd terfyn oedran y plentyn), mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (b) o erthygl 12(8) yn gymwys;

(m)       pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria;

(n)         taliadau o dan gynllun a wnaed o dan Ddeddf Niwmoconiosis etc (Digolledu Gweithwyr) 1979([123]);

(o)         taliadau tuag at gynhaliaeth y ceisydd, a wneir gan briod, partner sifil, cyn briod neu gyn bartner sifil y ceisydd, neu tuag at gynhaliaeth partner y ceisydd gan briod, partner sifil, cyn briod neu gyn bartner sifil y person hwnnw, gan gynnwys taliadau a wneir—

                           (i)    o dan orchymyn llys;

                         (ii)    o dan gytundeb ar gyfer cynhaliaeth; neu

                       (iii)    yn wirfoddol;

(p)         taliadau sy’n ddyledus gan unrhyw berson mewn perthynas â phrydau bwyd a llety a ddarperir gan y ceisydd;

(q)         breindaliadau neu symiau eraill a delir yn gyfnewid am ddefnyddio, neu’r hawl i ddefnyddio, unrhyw hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach;

(r)          unrhyw daliad mewn perthynas ag—

                           (i)    unrhyw lyfr a gofrestrwyd o dan Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982([124]); neu

                         (ii)    unrhyw waith a wnaed o dan unrhyw gynllun hawliau benthyg i’r cyhoedd rhyngwladol cyfatebol i Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982;

(s)          unrhyw daliad, ac eithrio taliad a orchmynnwyd gan lys neu a wnaed i setlo hawliad, a wnaed gan neu ar ran cyn gyflogwr person, oherwydd ymddeoliad cynnar y person hwnnw ar sail afiechyd neu anabledd;

(t)          unrhyw swm sy’n daladwy fel pensiwn allan o arian a ddarperir o dan—

                           (i)    Deddf Rhestr Sifil 1837([125]),

                         (ii)    Deddf Rhestr Sifil 1937([126]),

                       (iii)    Deddf Rhestr Sifil 1952([127]),

                        (iv)    Deddf Rhestr Sifil 1972([128]), neu

                          (v)    Deddf Rhestr Sifil 1975([129]);

(u)         unrhyw incwm sydd yn lle incwm a bennir ym mharagraffau (a) i (r);

(v)          unrhyw daliad o rent a wneir i geisydd sydd—

                           (i)    yn berchen y buddiant rhydd-ddaliad neu lesddaliad mewn unrhyw eiddo, neu sy’n denant unrhyw eiddo;

                         (ii)    yn meddiannu rhan o’r eiddo; a

                       (iii)    sydd â chytundeb gyda pherson arall sy’n caniatáu i’r person hwnnw feddiannu’r eiddo hwnnw ar ôl talu rhent;

(w)       unrhyw daliad a wneir fesul cyfnod rheolaidd o dan gynllun rhyddhau ecwiti;

(x)         taliadau cyfnodol o’r Gronfa Diogelu Pensiynau yn yr ystyr a roddir i “PPF periodic payments” gan adran 17(1) o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002.

(2) Os yw’r taliad o unrhyw fudd-dal nawdd cymdeithasol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i unrhyw ddidyniad (ac eithrio addasiad a bennir yn is-baragraff (4)) y swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) yw’r swm cyn gwneud y didyniad.

(3) Os yw dyfarniad o unrhyw gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant yn ddarostyngedig i ddidyniad, er mwyn adennill gordaliad o gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant a ddigwyddodd mewn blwyddyn dreth flaenorol, y swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) yw swm y credyd treth gwaith neu gredyd treth plant a ddyfarnwyd, llai swm y didyniad hwnnw.

(4) Yr addasiadau a bennir yn yr is-baragraff hwn yw’r addasiadau a wneir yn unol ag—

(a)         Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau Gorgyffyrddol) 1979([130]);

(b)         Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol mewn Ysbytai) 2005([131]);

(c)         adran 30DD neu adran 30E o DCBNC([132]) (gostyngiadau mewn budd-dal analluogrwydd mewn perthynas â phensiynau a lwfansau cynghorwyr);

(d)         adran 3 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (didyniadau o lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol mewn perthynas â phensiynau a lwfansau cynghorwyr) a rheoliadau a wneir o dan yr adran honno.

(5) Yn is-baragraff (1)(w), ystyr “cynllun rhyddhau ecwiti” (“equity release scheme”) yw benthyciad—

(a)         a wnaed rhwng person (“y rhoddwr benthyg”) a’r ceisydd;

(b)         sy’n fodd i drosglwyddo swm o arian oddi ar y rhoddwr benthyg i’r ceisydd ar ffurf taliadau ar adegau rheolaidd; ac

(c)     a sicrheir gydag annedd y mae gan y ceisydd ystad neu fuddiant ynddi, ac y mae’r ceisydd yn ei meddiannu fel ei gartref.

Cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr

37.(1)(1) Ac eithrio mewn achos y mae is-baragraff (2) neu (4) yn gymwys iddo, at y diben o gyfrifo incwm wythnosol ceisydd sy’n bensiynwr pan fo’r cyfnod y gwneir taliad mewn perthynas ag ef—

(a)          yn ddim hwy nag wythnos, rhaid cynnwys y cyfan o’r taliad hwnnw yn incwm wythnosol y ceisydd;

(b)         yn hwy nag wythnos, rhaid penderfynu’r swm sydd i’w gynnwys yn incwm wythnosol y ceisydd—

                           (i)    mewn achos pan fo’r cyfnod hwnnw’n fis, drwy luosi swm y taliad gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52;

                         (ii)    mewn achos pan fo’r cyfnod hwnnw’n dri mis, drwy luosi swm y taliad gyda 4 a rhannu’r lluoswm gyda 52;

                       (iii)    mewn achos pan fo’r cyfnod hwnnw’n flwyddyn, drwy rannu’r lluoswm gyda 52;

                        (iv)    mewn unrhyw achos arall, drwy luosi swm y taliad gyda 7 a rhannu’r lluoswm gyda nifer y diwrnodau yn y cyfnod y gwneir y taliad mewn perthynas ag ef.

(2) Mae is-baragraff (3) yn gymwys—

(a)         pan fo patrwm gwaith rheolaidd y ceisydd yn peri nad yw’r ceisydd yn gweithio yr un oriau bob wythnos; neu

(b)         pan fo swm incwm y ceisydd yn codi a gostwng ac wedi newid fwy nag unwaith.

(3) Rhaid penderfynu swm wythnosol incwm y ceisydd hwnnw—

(a)         mewn achos y mae is-baragraff (2)(a) yn gymwys iddo, os oes cylch gwaith adnabyddadwy, drwy gyfeirio at incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd dros gyfnod y cylch cyfan (ac os yw’r cylch yn cynnwys cyfnodau pan nad yw’r person yn gweithio, gan gynnwys y cyfnodau hynny, ond diystyru unrhyw absenoldebau eraill); neu

(b)         mewn unrhyw achos arall, ar sail—

                           (i)    y ddau daliad diwethaf os gwahenir y taliadau hynny gan gyfnod o fis neu fwy;

                         (ii)    y pedwar taliad diwethaf os gwahenir y ddau daliad diwethaf gan gyfnod o lai nag un mis; neu

                       (iii)    cyfrifo neu amcangyfrif pa bynnag daliadau eraill a allai, yn amgylchiadau penodol yr achos, ganiatáu penderfynu incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd yn fwy cywir.

(4) At ddibenion is-baragraff (3)(b) y taliadau diwethaf yw’r taliadau diwethaf cyn y dyddiad y gwnaed y cais, neu y triniwyd y cais fel pe bai wedi ei wneud.

(5) Os oes hawl gan y ceisydd i gael taliad y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddo, rhaid trin swm y taliad hwnnw fel pe bai wedi ei wneud mewn perthynas â chyfnod o flwyddyn.

(6) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)         breindaliadau neu symiau eraill a delir yn gyfnewid am ddefnyddio, neu’r hawl i ddefnyddio, unrhyw hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach;

(b)         unrhyw daliad mewn perthynas ag—

                           (i)    unrhyw lyfr a gofrestrwyd o dan Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982; neu

                         (ii)    unrhyw waith a wnaed o dan unrhyw gynllun hawliau benthyg i’r cyhoedd rhyngwladol cyfatebol i Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982; ac

(c)         unrhyw daliad a wneir ar sail achlysurol.

(7) Y cyfnod y mae’n rhaid cymryd i ystyriaeth drosto unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal yw’r cyfnod y mae’r budd-dal hwnnw’n daladwy mewn perthynas ag ef.

(8) Os gwneir taliadau mewn arian ac eithrio sterling, rhaid penderfynu gwerth y taliad ar sail y cyfwerth sterling ar y dyddiad y gwneir y taliad.

(9) Rhaid diystyru’r symiau a bennir yn Atodlen 4 wrth gyfrifo—

(a)         enillion y ceisydd; a

(b)         unrhyw swm y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddo, os y ceisydd yw perchennog cyntaf yr hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach, neu os yw’n gyfrannwr gwreiddiol i’r llyfr neu’r gwaith y cyfeirir ato yn is-baragraff (6)(b).

(10) At ddibenion is-baragraff (9)(b), ac at y dibenion hynny yn unig, rhaid trin y symiau a bennir yn is-baragraff (6) fel pe baent yn enillion.

(11) Rhaid diystyru incwm a bennir yn Atodlen 5 wrth gyfrifo incwm y ceisydd.

(12) Mae Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr) yn cael effaith fel a ganlyn—

(a)         rhaid diystyru’r cyfalaf a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen honno at y diben o benderfynu incwm ceisydd; a

(b)         rhaid diystyru’r cyfalaf a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno at y diben o benderfynu incwm ceisydd o dan baragraff 68 (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf: pensiynwyr).

(13) Yn achos unrhyw incwm a gymerir i ystyriaeth at y diben o gyfrifo incwm person, rhaid diystyru unrhyw swm sy’n daladwy fel treth.

Enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr

38.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ystyr “enillion” (“earnings”), yn achos cyflogaeth enillydd cyflogedig sy’n bensiynwr, yw unrhyw gydnabyddiaeth ariannol neu elw sy’n deillio o’r gyflogaeth honno ac y mae’n cynnwys—

(a)         unrhyw fonws neu gomisiwn;

(b)         unrhyw daliad a wneir yn lle cydnabyddiaeth ariannol ac eithrio unrhyw swm cyfnodol a delir i geisydd o ganlyniad i derfynu cyflogaeth y ceisydd hwnnw oherwydd dileu swydd;

(c)         unrhyw daliad yn lle rhybudd;

(d)         unrhyw dâl gwyliau;

(e)         unrhyw daliad ar ffurf tâl cadw;

(f)          unrhyw daliad a wneir gan gyflogwr y ceisydd mewn perthynas â threuliau nas tynnwyd yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth, gan gynnwys unrhyw daliad a wneir gan gyflogwr y ceisydd mewn perthynas ag—

                           (i)    treuliau a dynnir gan y ceisydd ynglŷn â theithio rhwng ei gartref a’r man lle y’i cyflogir;

                         (ii)    treuliau a dynnir gan y ceisydd o dan drefniadau a wnaed ar gyfer gofal aelod o deulu’r ceisydd, oherwydd absenoldeb y ceisydd o’i gartref;

(g)         swm unrhyw daliad ar ffurf taleb anariannol a gymerwyd i ystyriaeth wrth gyfrifo enillion person yn unol â Rhan 5 o Atodlen 3 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 2001([133]);

(h)         tâl salwch statudol a thâl mamolaeth statudol sy’n daladwy gan y cyflogwr o dan DCBNC;

(i)          tâl tadolaeth statudol sy’n daladwy o dan Ran 12ZA o DCBNC;

(j)          tâl mabwysiadu statudol sy’n daladwy o dan Ran 12ZB o DCBNC;

(k)         unrhyw symiau sy’n daladwy o dan gontract gwasanaethu—

                           (i)    ar gyfer analluedd i weithio oherwydd salwch neu anaf; neu

                         (ii)    oherwydd beichiogrwydd neu welyfod.

(2) Nid yw enillion yn cynnwys—

(a)         yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), unrhyw daliad mewn nwyddau neu wasanaethau;

(b)         unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau a dynnir yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth;

(c)         unrhyw bensiwn galwedigaethol;

(d)         unrhyw gyfandaliad a wneir o dan Gynllun Budd-daliadau Ailaddasu Haearn a Dur;

(e)         unrhyw daliad i ddigolledu a wneir yn unol â dyfarniad gan dribiwnlys cyflogaeth a sefydlwyd o dan Ddeddf Tribiwnlysoedd Cyflogaeth 1996([134]) mewn perthynas â diswyddo annheg neu wahaniaethu anghyfreithlon;

(f)          unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

(3) Nid yw is-baragraff (2)(a) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw daleb anariannol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(g).

Cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr

39.(1)(1) At ddibenion paragraff 54 (cyfrifo incwm ar sail wythnosol), rhaid i enillion ceisydd sy’n deillio, neu’n debygol o ddeillio, o’i gyflogaeth fel enillydd cyflogedig, ac y’u cymerir i ystyriaeth, yn ddarostyngedig i baragraff 37(4) (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr) ac Atodlen 4, fod yn enillion net y ceisydd hwnnw.

(2) At ddibenion is-baragraff (1) rhaid cyfrifo’r enillion net, ac eithrio pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, drwy gymryd i ystyriaeth enillion gros y ceisydd o’r gyflogaeth honno dros y cyfnod asesu, llai—

(a)         unrhyw swm a ddidynnir o’r enillion hynny fel—

                           (i)    treth incwm;

                         (ii)    cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol o dan DCBNC;

(b)         hanner unrhyw swm a delir gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol;

(c)         hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (4) mewn perthynas ag unrhyw gyfraniad cymwys sy’n daladwy gan y ceisydd; a

(d)         os yw’r enillion hynny’n cynnwys taliad sy’n daladwy o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon ac sy’n cyfateb i dâl salwch statudol, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol neu dâl mabwysiadu statudol, unrhyw swm a ddidynnir o’r enillion hynny fel unrhyw gyfraniadau sy’n cyfateb i gyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol o dan DCBNC.

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfraniad cymwys” (“qualifying contribution”) yw unrhyw swm sy’n daladwy fesul cyfnod fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn personol.

(4) Rhaid cyfrifo’r swm mewn perthynas ag unrhyw gyfraniad cymwys drwy luosi swm dyddiol y cyfraniad cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod asesu; ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid penderfynu swm dyddiol y cyfraniad cymwys fel a ganlyn—

(a)         os yw’r cyfraniad cymwys yn daladwy yn fisol, drwy luosi swm y cyfraniad cymwys gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 365;

(b)         mewn unrhyw achos arall, drwy rannu swm y cyfraniad cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod y mae’r cyfraniad cymwys yn berthynol iddo.

(5) Pan benderfynir enillion ceisydd o dan baragraff 37(2)(b) (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr) rhaid cyfrifo enillion net y ceisydd hwnnw drwy gymryd i ystyriaeth yr enillion hynny dros y cyfnod asesu, llai—

(a)         swm mewn perthynas â threth incwm, sy’n gyfwerth â’r swm a gyfrifir drwy gymhwyso i’r enillion hynny y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37 o Ddeddf Treth Incwm 2007([135]) (lwfansau personol), fel y bo’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd, ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir y gyfradd dreth sylfaenol iddynt a swm y rhyddhad personol sy’n ddidynadwy o dan yr is-baragraff hwn ar sail pro rata;

(b)         swm sy’n gyfwerth â swm y cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol a fyddai’n daladwy gan y ceisydd o dan DCBNC mewn perthynas â’r enillion hynny pe bai cyfraniadau o’r fath yn daladwy; ac

(c)     hanner unrhyw swm a fyddai’n daladwy gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol, pe bai’r enillion a amcangyfrifwyd felly yn enillion gwirioneddol.

Cyfrifo enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr

40.(1)(1) Pan fo enillion ceisydd sy’n bensiynwr yn enillion o gyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig, rhaid penderfynu swm wythnosol enillion y ceisydd hwnnw drwy gyfeirio at enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o’r gyflogaeth honno—

(a)         dros gyfnod o un flwyddyn; neu

(b)         os yn ddiweddar yr ymgymerodd y ceisydd â’r gyflogaeth honno, neu os digwyddodd newid sy’n debygol o effeithio ar y patrwm busnes arferol, dros ba bynnag gyfnod (“cyfnod cyfrifo”) a allai, yn yr achos penodol dan sylw, alluogi penderfynu swm wythnosol enillion y ceisydd yn fwy cywir.

(2) At y dibenion o benderfynu swm wythnosol enillion ceisydd y mae is-baragraff (1)(b) yn gymwys iddo, rhaid rhannu enillion y ceisydd dros y cyfnod cyfrifo gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod hwnnw a lluosi’r cyniferydd gyda 7.

(3) Y cyfnod y cyfrifir swm wythnosol enillion ceisydd drosto yn unol â’r paragraff hwn fydd y cyfnod asesu ar gyfer y ceisydd.

Enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr

41.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ystyr “enillion” (“earnings”), yn achos cyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig sy’n bensiynwr, yw incwm gros y gyflogaeth.

(2) Nid yw “enillion” yn achos cyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig yn cynnwys y canlynol—

(a)         pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety y telir amdanynt, y taliadau hynny;

(b)         unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol i geisydd—

                           (i)     y lletyir person gydag ef yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 22C neu 23(2)(a) o Ddeddf Plant 1989([136]) (darparu llety a chynhaliaeth ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt) neu, yn ôl fel y digwydd, adran 26(1) o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995([137]); neu

                         (ii)    y mae awdurdod lleol yn maethu plentyn gydag ef o dan Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal (Yr Alban) 2009([138]) neu sy’n ofalwr-berthynas yn yr ystyr a roddir i “kinship carer” o dan y Rheoliadau hynny;

(c)         unrhyw daliad a wneir gan sefydliad gwirfoddol yn unol ag adran 59(1)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety gan sefydliadau gwirfoddol);

(d)         unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd ar gyfer person (“y person dan sylw”) nad yw fel arfer yn aelod o aelwyd y ceisydd ond y gofelir amdano dros dro gan y ceisydd, gan—

                           (i)    awdurdod lleol, ond gan eithrio taliadau o fudd-dal tai a wneir mewn perthynas â’r person dan sylw;

                         (ii)    sefydliad gwirfoddol;

                       (iii)    y person dan sylw yn unol ag adran 26(3A) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948([139]);

                        (iv)    Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol a sefydlwyd o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006([140]); neu

                          (v)    Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([141]);

(e)         unrhyw ddyfarniad chwaraeon.

Incwm tybiannol: pensiynwyr

42.(1)(1) Rhaid trin ceisydd sy’n bensiynwr fel pe bai’n meddu—

(a)         yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm unrhyw incwm pensiwn ymddeol—

                           (i)    na wnaed hawliad amdano; a

                         (ii)    y gallai’r ceisydd ddisgwyl y byddai hawl ganddo i’w gael pe bai’n ei hawlio;

(b)         incwm o gynllun pensiwn galwedigaethol y dewisodd y ceisydd ei ohirio.

(2) Nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys i’r canlynol pan fo hawlogaeth wedi ei gohirio—

(a)         pensiwn ymddeol Categori A neu Gategori B sy’n daladwy o dan adrannau 43 i 55 o DCBNC;

(b)         pensiwn ychwanegol a rennir sy’n daladwy o dan adran 55A o DCBNC;

(c)         budd-dal ymddeol graddedig sy’n daladwy o dan adrannau 36 a 37 o Ddeddf Yswiriant Gwladol 1965([142]).

(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae hawlogaeth wedi ei ohirio—

(a)         yn achos pensiwn Categori A neu Gategori B, yn yr amgylchiadau a bennir yn adran 55(3) o DCBNC;

(b)          yn achos pensiwn ychwanegol a rennir, yn yr amgylchiadau a bennir yn adran 55C(3) o DCBNC; ac

(c)         yn achos budd-dal ymddeol graddedig, yn yr amgylchiadau a bennir yn adran 36(4) a (4A) o Ddeddf Yswiriant Gwladol 1965.

(4) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys yn achos person a gyrhaeddodd oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth—

(a)         sydd â hawl i fuddion pryniant ariannol o dan gynllun pensiwn galwedigaethol neu gynllun pensiwn personol;

(b)          sy’n peidio â phrynu blwydd-dal â’r gronfa sydd ar gael iddo yn y cynllun hwnnw; ac

(c)         naill ai—

                           (i)    yn gohirio yn gyfan gwbl neu’n rhannol y taliad o unrhyw incwm a fyddai wedi bod yn daladwy i’r person hwnnw gan ddeiliad cronfa bensiwn y person hwnnw, neu

                         (ii)     yn peidio â chymryd unrhyw gam sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y cyfan o unrhyw incwm, a fyddai’n daladwy i’r person hwnnw gan ddeiliad ei gronfa bensiwn pe bai’r person hwnnw’n gwneud cais amdano, yn cael ei dalu felly, neu

                       (iii)    sy’n berson nad yw alldynnu incwm ar gael iddo o dan y cynllun hwnnw.

(5) Os yw is-baragraff (4) yn gymwys, rhaid trin swm unrhyw incwm a hepgorir fel pe bai’r person hwnnw’n ei feddu, ond hynny, yn unig, o’r dyddiad y gellid disgwyl ei gael pe bai cais amdano wedi ei wneud.

(6) Swm unrhyw incwm a hepgorir mewn achos pan fo is-baragraff (4)(c)(i) neu (ii) yn gymwys fydd uchafswm yr incwm y gellid ei alldynnu o’r gronfa, a rhaid i’r awdurdod ei benderfynu gan gymryd i ystyriaeth wybodaeth a ddarperir gan ddeiliad y gronfa bensiwn.

(7) Swm unrhyw incwm a hepgorir mewn achos pan fo is-baragraff (4)(c)(iii) yn gymwys fydd yr incwm y gallai’r ceisydd fod wedi ei gael heb brynu blwydd-dal pe bai’r cronfeydd a ddelir o dan y cynllun perthnasol wedi eu dal o dan gynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn galwedigaethol sy’n caniatáu alldynnu incwm, a rhaid ei benderfynu yn y modd a bennir yn is-baragraff (6).

(8) Yn is-baragraff (4), mae i “buddion pryniant ariannol” yr ystyr a roddir i “money purchase benefits” gan Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993.

(9)  Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (10) a (12), rhaid trin person fel pe bai’n meddu incwm y mae’r person hwnnw wedi amddifadu ei hunan ohono at y diben o sicrhau hawlogaeth i ostyngiad o dan y cynllun hwn, neu gynyddu swm y gostyngiad.

(10) Nid yw is-baragraff (9) yn gymwys mewn perthynas â swm cynnydd mewn pensiwn neu fudd-dal pan fo person, ar ôl dewis o blaid y cynnydd hwnnw mewn pensiwn neu fudd-dal o dan Atodlen 5 neu 5A i DCBNC neu o dan Atodlen 1 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-dal Ymddeol Graddedig) 2005([143]), wedyn yn newid y dewis hwnnw, o blaid cyfandaliad, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 5 neu 5A i’r Ddeddf honno.

(11) Yn is-baragraff (10), ystyr “cyfandaliad” (“lump sum”) yw cyfandaliad o dan Atodlen 5 neu 5A i DCBNC neu o dan Atodlen 1 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-dal Ymddeol Graddedig) 2005.

(12) Nid yw is-baragraff (9) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw swm o incwm ac eithrio enillion, neu enillion enillydd cyflogedig, sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

(13) Os yw ceisydd yn cael unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal, a newid yng nghyfradd y budd-dal hwnnw yn cael effaith o ddyddiad ar neu ar ôl 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, ond ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl 1 Ebrill, rhaid i’r awdurdod drin y ceisydd fel pe bai’n meddu’r budd-dal hwnnw ar y gyfradd ddiwygiedig, naill ai o 1 Ebrill neu o’r dydd Llun cyntaf yn Ebrill yn y flwyddyn honno, pa ddyddiad bynnag y bydd yr awdurdod yn dewis ei ddefnyddio, hyd at y dyddiad y bydd y gyfradd ddiwygiedig yn cael effaith.

(14) Yn achos ceisydd y mae ganddo, neu y mae gan ei bartner, ddyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys y credyd cynilion yn unig, pan fo’r awdurdod yn trin y ceisydd fel pe bai’n meddu unrhyw fudd-dal ar gyfradd ddiwygiedig yn unol ag is-baragraff (13), rhaid i’r awdurdod—

(a)         penderfynu incwm a chyfalaf y ceisydd hwnnw yn unol â pharagraff 33(1) (cyfrifo incwm pensiynwr mewn achosion o gredyd cynilion yn unig) pan newidir y cyfrifiad neu’r amcangyfrif o’r incwm a’r cyfalaf hynny gydag effaith o ddyddiad ar neu ar ôl 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, ond ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl 1 Ebrill; a

(b)         trin y ceisydd hwnnw fel pe bai’n meddu’r cyfryw incwm a chyfalaf ar y gyfradd ddiwygiedig gan gyfeirio at y dyddiad y dewisodd yr awdurdod ei ddefnyddio yn ei ardal, at ddibenion penderfynu’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (13).

(15) At ddibenion is-baragraff (9), rhaid peidio ag ystyried bod person yn amddifadu ei hunan o incwm pan fo—

(a)         hawliau’r person hwnnw i fuddion o dan gynllun pensiwn cofrestredig yn cael eu diddymu, a’r person hwnnw’n derbyn taliad o’r cynllun o ganlyniad i hynny, a

(b)         y taliad hwnnw’n gyfandaliad cymudo dibwys yn yr ystyr a roddir i “trivial commutation lump sum” gan baragraff 7 o Atodlen 29 i Ddeddf Cyllid 2004.

(16) Yn is-baragraff (15), mae i “cynllun pensiwn cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pension scheme” yn adran 150(2) o Ddeddf Cyllid 2004.

Incwm a delir i drydydd partïon: pensiynwyr

43.(1)(1) Rhaid trin unrhyw daliad o incwm a wneir i drydydd parti mewn perthynas â’r ceisydd, ac eithrio taliad a bennir yn is-baragraff (2) neu (3), fel pe bai’r ceisydd yn ei feddu.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â thaliad o incwm a wneir o dan gynllun pensiwn galwedigaethol, mewn perthynas â phensiwn neu daliad cyfnodol arall a wneir o dan gynllun pensiwn personol, neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau—

(a)         pan fo gorchymyn methdalu wedi ei wneud mewn perthynas â’r person y gwnaed y taliad mewn perthynas ag ef neu, yn yr Alban, ystad y person hwnnw yn destun atafaelu, neu oruchwyliwr barnwrol wedi ei benodi ar ystad y person hwnnw o dan adran 41 o Ddeddf Cyfreithwyr (Yr Alban) 1980([144]);

(b)         pan wneir y talid i’r ymddiriedolwr mewn methdaliad neu unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ran y credydwyr; ac

(c)         pan nad yw’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (a), na phartner y person hwnnw, yn meddu, nac yn cael ei drin fel pe bai’n meddu, unrhyw incwm arall ar wahân i’r taliad hwnnw.

(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw daliad o incwm ac eithrio enillion, neu enillion sy’n deillio o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig, sy’n codi o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

PENNOD 5

Incwm: personau nad ydynt yn bensiynwyr

Enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

44.(1)(1) Pan fo incwm ceisydd nad yw’n bensiynwr yn enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig, rhaid amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd drwy gyfeirio at enillion y ceisydd o’r gyflogaeth honno—

(a)         dros gyfnod yn union cyn yr wythnos ostyngiad y gwneir y cais ynddi neu y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud ynddi, ac sy’n gyfnod o—

                           (i)    5 wythnos, os telir i’r ceisydd fesul wythnos; neu

                         (ii)    2 fis, os telir i’r ceisydd fesul mis; neu

(b)         boed paragraff (a)(i) neu (ii) yn gymwys ai peidio, os yw enillion ceisydd yn amrywio, dros ba bynnag gyfnod arall sy’n rhagflaenu’r wythnos ostyngiad y gwneir y cais ynddi, neu y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud ynddi, a allai, mewn unrhyw achos penodol, alluogi amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd yn fwy cywir.

(2) Os yw’r ceisydd wedi bod yn gyflogedig am gyfnod llai na’r cyfnod a bennir yn is-baragraff (1)(a)(i) neu (ii)—

(a)         os cafodd y ceisydd unrhyw enillion am y cyfnod y bu yn y gyflogaeth honno, ac os yw’r enillion hynny yn debygol o gynrychioli enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o’r gyflogaeth honno, rhaid amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd drwy gyfeirio at yr enillion hynny;

(b)         mewn unrhyw achos arall, rhaid i’r awdurdod amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd([145]).

(3) Os yw swm enillion y ceisydd yn newid, rhaid i’r awdurdod amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd drwy gyfeirio at enillion tebygol y ceisydd o’r gyflogaeth dros ba bynnag gyfnod sy’n briodol er mwyn amcangyfrif yr enillion wythnosol cyfartalog yn gywir, ond ni chaiff hyd y cyfnod, mewn unrhyw achos, fod yn hwy na 52 wythnos.

(4) At ddibenion y paragraff hwn rhaid cyfrifo enillion y ceisydd yn unol â pharagraffau 48 a 49 (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

Enillion wythnosol cyfartalog enillwyr hunangyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

45.(1)(1) Pan fo incwm ceisydd nad yw’n bensiynwr yn enillion o gyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig, rhaid amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd hwnnw drwy gyfeirio at enillion y ceisydd hwnnw o’r gyflogaeth honno dros ba bynnag gyfnod sy’n briodol er mwyn amcangyfrif yr enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd hwnnw yn gywir, ond ni chaiff hyd y cyfnod, mewn unrhyw achos, fod yn hwy na 52 wythnos.

(2) At ddibenion y paragraff hwn rhaid cyfrifo enillion y ceisydd yn unol â pharagraffau 50, 58 a 59 (enillion ac elw net enillwyr hunangyflogedig).

Incwm wythnosol cyfartalog ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

46.(1)(1) Ac eithrio pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, rhaid amcangyfrif incwm ac eithrio enillion ceisydd nad yw’n bensiynwr dros ba bynnag gyfnod sy’n briodol er mwyn amcangyfrif incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd hwnnw yn gywir, ond ni chaiff y cyfnod mewn unrhyw achos fod yn hwy na 52 wythnos; ac nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n awdurdodi awdurdod i ddiystyru unrhyw incwm o’r fath ac eithrio’r hyn a bennir yn Atodlen 7 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

(2) Rhaid i’r cyfnod y cymerir i ystyriaeth drosto unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal, fod y cyfnod y telir y budd-dal hwnnw mewn perthynas ag ef.

(3) At ddibenion y paragraff hwn, rhaid cyfrifo incwm ac eithrio enillion yn unol â pharagraff 51 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

Cyfrifo incwm wythnosol enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

47.(1)(1) At ddibenion paragraffau 44 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig), 46 (incwm wythnosol cyfartalog ac eithrio enillion) a 56 (cyfrifo incwm wythnosol cyfartalog o gredydau treth), os yw’r cyfnod y gwneir taliad mewn perthynas ag ef—

(a)         yn ddim mwy nag wythnos, y swm wythnosol fydd swm y taliad hwnnw;

(b)         yn fwy nag wythnos, rhaid penderfynu’r swm wythnosol—

                           (i)    mewn achos pan fo’r cyfnod hwnnw yn fis, drwy luosi swm y taliad gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52;

                         (ii)    mewn unrhyw achos arall, drwy rannu swm y taliad gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod y mae’r taliad yn berthynol iddo a lluosi’r cyniferydd gyda 7.

(2) At ddibenion paragraff 45 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr hunangyflogedig) rhaid penderfynu swm wythnosol enillion ceisydd drwy rannu enillion y ceisydd dros y cyfnod asesu gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod hwnnw a lluosi’r cyniferydd gyda 7.

Enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

48.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ystyr “enillion” (“earnings”), yn achos cyflogaeth person nad yw’n bensiynwr fel enillydd cyflogedig, yw unrhyw gydnabyddiaeth ariannol neu elw sy’n deillio o’r gyflogaeth honno ac y mae’n cynnwys—

(a)         unrhyw fonws neu gomisiwn;

(b)         unrhyw daliad a wneir yn lle cydnabyddiaeth ariannol ac eithrio unrhyw swm cyfnodol a delir i geisydd o ganlyniad i derfynu cyflogaeth y ceisydd hwnnw oherwydd dileu swydd;

(c)         unrhyw daliad yn lle rhybudd neu unrhyw gyfandaliad y bwriedir iddo ddigolledu am golli cyflogaeth, ond hynny i’r graddau, yn unig, y mae’n cynrychioli colled incwm;

(d)         unrhyw dâl gwyliau ac eithrio unrhyw dâl o’r fath sy’n daladwy ymhen mwy na 4 wythnos ar ôl terfynu’r gyflogaeth neu ar ôl toriad yn y gyflogaeth;

(e)         unrhyw daliad ar ffurf tâl cadw;

(f)          unrhyw daliad a wneir gan gyflogwr y ceisydd mewn perthynas â threuliau nas tynnwyd yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth, gan gynnwys unrhyw daliad a wneir gan gyflogwr y ceisydd mewn perthynas ag—

                           (i)    treuliau a dynnir gan y ceisydd ynglŷn â theithio rhwng ei gartref a’r man lle y’i cyflogir;

                         (ii)    treuliau a dynnir gan y ceisydd o dan drefniadau a wnaed ar gyfer gofal aelod o deulu’r ceisydd, oherwydd absenoldeb y ceisydd o’i gartref;

(g)         unrhyw ddyfarniad i ddigolledu a wneir o dan adran 112(4) neu 117(3)(a) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996([146]) (rhwymedïau a digolledu am ddiswyddo annheg);

(h)         unrhyw daliad neu gydnabyddiaeth ariannol a wneir o dan adran 28, 34, 64, 68 neu 70 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (hawl i daliadau gwarantu, cydnabyddiaeth ariannol yn ystod ataliad dros dro ar seiliau meddygol neu famolaeth, cwynion i dribiwnlysoedd cyflogaeth);

(i)          unrhyw swm o fath y cyfeirir ato yn adran 112 o DCBNC (symiau penodol sy’n enillion at ddibenion nawdd cymdeithasol);

(j)          unrhyw dâl salwch statudol, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol neu dâl mabwysiadu statudol, neu daliad cyfatebol o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon;

(k)          unrhyw gydnabyddiaeth ariannol a delir gan neu ar ran cyflogwr i’r ceisydd tra bo’r ceisydd ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu neu’n absennol o’i waith oherwydd salwch y ceisydd

(l)          swm unrhyw daliad ar ffurf taleb anariannol a gymerwyd i ystyriaeth wrth gyfrifo enillion person yn unol â Rhan 5 o Atodlen 3 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 2001 ([147]).

(2) Nid yw enillion yn cynnwys—

(a)         yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), unrhyw daliad mewn nwyddau neu wasanaethau;

(b)         unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau a dynnir yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth;

(c)         unrhyw bensiwn galwedigaethol;

(d)         unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

(3) Nid yw is-baragraff (2)(a) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw daleb anariannol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(l).

Cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

49.(1)(1) At ddibenion paragraff 44 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), rhaid i enillion y ceisydd sy’n deillio, neu’n debygol o ddeillio, o’i gyflogaeth fel enillydd cyflogedig, ac y’u cymerir i ystyriaeth, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2),fod yn enillion net y ceisydd.

(2) Rhaid diystyru, o enillion net y ceisydd, unrhyw swm, pan fo’n gymwys, a bennir ym mharagraffau 1 i 18 o Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

(3) At ddibenion is-baragraff (1) rhaid cyfrifo’r enillion net, ac eithrio pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, drwy gymryd i ystyriaeth enillion gros y ceisydd o’r gyflogaeth honno dros y cyfnod asesu, llai—

(a)         unrhyw swm a ddidynnir o’r enillion hynny ar gyfer—

                           (i)    treth incwm;

                         (ii)    cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol o dan DCBNC;

(b)         hanner unrhyw swm a delir gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol;

(c)         hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (5) mewn perthynas ag unrhyw gyfraniad cymwys sy’n daladwy gan y ceisydd; a

(d)         os yw’r enillion hynny’n cynnwys taliad sy’n daladwy o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon ac sy’n cyfateb i dâl salwch statudol, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol neu dâl mabwysiadu statudol, unrhyw swm a ddidynnir o’r enillion hynny fel unrhyw gyfraniadau sy’n cyfateb i gyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol o dan DCBNC.

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfraniad cymwys” (“qualifying contribution”) yw unrhyw swm sy’n daladwy fesul cyfnod fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn personol.

(5) Rhaid cyfrifo’r swm mewn perthynas ag unrhyw gyfraniad cymwys drwy luosi swm dyddiol y cyfraniad cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod asesu; ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid penderfynu swm dyddiol y cyfraniad cymwys fel a ganlyn—

(a)         os yw’r cyfraniad cymwys yn daladwy yn fisol, drwy luosi swm y cyfraniad cymwys gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 365;

(b)         mewn unrhyw achos arall, drwy rannu swm y cyfraniad cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod y mae’r cyfraniad cymwys yn berthynol iddo.

(6) Pan amcangyfrifir enillion ceisydd o dan baragraff 44(2)(b) (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), rhaid cyfrifo enillion net y ceisydd hwnnw drwy gymryd i ystyriaeth yr enillion hynny dros y cyfnod asesu, llai—

(a)         swm mewn perthynas â threth incwm, sy’n gyfwerth â’r swm a gyfrifir drwy gymhwyso i’r enillion hynny y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37 o Ddeddf Treth Incwm 2007([148]) (lwfansau personol), fel y bo’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd, ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir y gyfradd dreth sylfaenol iddynt a swm y rhyddhad personol sy’n ddidynadwy o dan yr is-baragraff hwn ar sail pro rata;

(b)         swm sy’n gyfwerth â swm y cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol a fyddai’n daladwy gan y ceisydd o dan DCBNC mewn perthynas â’r enillion hynny pe bai cyfraniadau o’r fath yn daladwy; ac

(c)         hanner unrhyw swm a fyddai’n daladwy gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol, pe bai’r enillion a amcangyfrifwyd felly yn enillion gwirioneddol.

Enillion enillwyr hunangyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

50.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ystyr “enillion” (“earnings”), yn achos cyflogaeth person nad yw’n bensiynwr fel enillydd hunangyflogedig, yw incwm gros y gyflogaeth.

(2) Nid yw “enillion” yn cynnwys unrhyw daliad y cyfeirir ato ym mharagraff 31 neu 32 o Atodlen 7 (taliadau mewn perthynas â pherson a letyir gyda’r ceisydd o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol a thaliadau a wneir i’r ceisydd gan awdurdod iechyd, awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol mewn perthynas â phersonau sydd yng ngofal y ceisydd dros dro) nac unrhyw ddyfarniad chwaraeon.

(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)         breindaliadau neu symiau eraill a delir yn gyfnewid am ddefnyddio, neu’r hawl i ddefnyddio, unrhyw hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach; neu

(b)         unrhyw daliad mewn perthynas ag—

                           (i)    unrhyw lyfr a gofrestrwyd o dan Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982; neu

                         (ii)    unrhyw waith a wnaed o dan unrhyw gynllun hawliau benthyg i’r cyhoedd rhyngwladol cyfatebol i Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982,

pan fo’r ceisydd yn berchennog cyntaf yr hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach, neu’n gyfrannwr gwreiddiol i’r llyfr neu’r gwaith dan sylw.

(4) Pan fo enillion y ceisydd yn cynnwys unrhyw eitemau y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddynt, rhaid cymryd yr enillion hynny i ystyriaeth dros gyfnod o’r nifer o wythnosau sy’n hafal i’r rhif a geir (a rhaid trin unrhyw ffracsiwn fel y ffracsiwn cyfatebol o wythnos) drwy rannu’r enillion gyda—

(a)         swm y gostyngiad o dan y cynllun hwn y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael pe na bai’r taliad wedi ei wneud, plws

(b)         swm sy’n hafal i gyfanswm y symiau y byddid yn eu diystyru o’r taliad o dan Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) fel y bo’n briodol yn achos y ceisydd.

Cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

51.(1)(1) Yn achos ceisydd nad yw’n bensiynwr, at ddibenion paragraff 46 (incwm wythnosol cyfartalog ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), rhaid i’r incwm nad yw’n enillion a gymerir i ystyriaeth, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (6), fod yn incwm gros y ceisydd hwnnw ynghyd ag unrhyw gyfalaf a drinnir fel incwm o dan baragraff 52 (cyfalaf a drinnir fel incwm: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

(2) Wrth gyfrifo incwm gros ceisydd o dan is-baragraff (1), rhaid diystyru unrhyw swm, pan fo’n gymwys, a bennir yn Atodlen 7

(3) Os yw’r taliad o unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal yn ddarostyngedig i unrhyw ddidyniad ynglŷn ag adennill, y swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) yw’r swm gros sy’n daladwy.

(4) Pan fo’r ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, partner y ceisydd, yn cael lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol a’r budd-dal hwnnw wedi ei leihau o dan reoliad 63 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008([149]), y swm o’r budd-dal hwnnw sydd i’w gymryd i ystyriaeth yw’r swm fel pe na bai wedi ei leihau.

(5) Pan fo dyfarniad o unrhyw gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant o dan Ddeddf Credydau Treth 2002([150]) yn ddarostyngedig i ddidyniad ar gyfer adennill gordaliad o gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant a ddigwyddodd mewn blwyddyn dreth flaenorol, y swm y mae’n rhaid ei gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) yw swm y credyd treth gwaith neu gredyd treth plant a ddyfarnwyd llai swm y didyniad hwnnw.

(6) Mae is-baragraffau (7) ac (8) yn gymwys pan fo—

(a)         taliad perthnasol wedi ei wneud i berson mewn blwyddyn academaidd; a

(b)         y person hwnnw’n gadael ei gwrs astudio, neu’n cael ei ddiarddel ohono, cyn bo’r rhandaliad olaf o’r taliad perthnasol wedi ei dalu i’r person hwnnw.

(7) Pan fo taliad perthnasol yn cael ei wneud fesul chwarter, rhaid cyfrifo swm y taliad perthnasol sydd i’w gymryd i ystyriaeth ar gyfer y cyfnod asesu at ddibenion is-baragraff (1) mewn perthynas â pherson y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddo drwy gymhwyso’r fformiwla—

(A - (B x C)) / D

pan fo—

 

A = cyfanswm y taliad perthnasol y byddai’r person hwnnw wedi ei gael pe bai’r person hwnnw wedi parhau’n fyfyriwr tan ddiwrnod olaf y tymor academaidd pan adawodd y person hwnnw y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono, llai unrhyw ddidyniad o dan baragraff 78(5) (costau teithio, llyfrau a chyfarpar);

B = nifer yr wythnosau gostyngiad o’r wythnos ostyngiad yn union ar ôl honno sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd honno i’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys y diwrnod pan adawodd y person hwnnw y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono;

C = swm wythnosol y taliad perthnasol, cyn gweithredu’r diystyriad o £10 y byddid wedi ei gymryd i ystyriaeth fel incwm o dan baragraff 78(2) (trin benthyciadau myfyriwr) pe na bai’r person wedi gadael y cwrs neu wedi ei ddiarddel ohono ac, yn achos person nad oedd hawl ganddo i ostyngiad o dan y cynllun hwn yn union cyn iddo adael y cwrs neu gael ei ddiarddel ohono, pe bai’r person hwnnw, ar y pryd hwnnw, wedi bod â hawl i gael budd-dal tai;

D = nifer yr wythnosau gostyngiad yn y cyfnod asesu.

(8) Pan wneir taliad perthnasol mewn dau neu ragor o randaliadau mewn chwarter, rhaid cyfrifo swm y taliad perthnasol sydd i’w gymryd i ystyriaeth ar gyfer y cyfnod asesu at ddibenion is-baragraff (1) mewn perthynas â pherson y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddo drwy gymhwyso’r fformiwla yn is-baragraff (7), ond fel pe bai—

A= cyfanswm y taliadau perthnasol a gafodd y person hwnnw neu y byddai wedi eu cael, o ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd hyd at y diwrnod pan adawodd y person hwnnw y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono, llai unrhyw ddidyniad o dan baragraff 78(5)

(9) Yn y paragraff hwn—

mae i “blwyddyn academaidd” (“academic year”) a “benthyciad myfyriwr” (“student loan”) yr un ystyron ag yn Rhan 10 (myfyrwyr);

ystyr “cyfnod asesu” (“assessment period”) yw—

(a)         mewn achos pan wneir taliad perthnasol fesul chwarter, y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys y diwrnod pan adawodd y person y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys diwrnod olaf y chwarter olaf yr oedd rhandaliad o’r taliad perthnasol yn daladwy ar ei gyfer i’r person hwnnw;

(b)         mewn achos pan wneir y taliad perthnasol mewn dau neu ragor o randaliadau bob chwarter y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys y diwrnod pan adawodd y person y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys—

                           (i)    y diwrnod yn union cyn y diwrnod pan fyddai’r rhandaliad nesaf o’r taliad perthnasol wedi bod yn ddyladwy pe bai’r taliadau wedi parhau; neu

                         (ii)    diwrnod olaf y chwarter olaf yr oedd rhandaliad o’r taliad perthnasol yn daladwy i’r person hwnnw ar ei gyfer,

 pa un bynnag o’r dyddiadau hynny yw’r cynharaf;

ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â chyfnod asesu yw cyfnod yn y flwyddyn honno sy’n cychwyn ar—

(a)         1 Ionawr ac yn diweddu ar 31 Mawrth;

(b)         1 Ebrill ac yn diweddu ar 30 Mehefin;

(c)         1 Gorffennaf ac yn diweddu ar 31 Awst; neu

(d)         1 Medi ac yn diweddu ar 31 Rhagfyr;

ystyr “taliad perthnasol” (“relevant payment”) yw naill ai benthyciad myfyriwr neu swm a fwriedir ar gyfer cynhaliaeth dibynyddion, y cyfeirir ato ym mharagraff 73(7) neu’r ddau.

(10) Er mwyn osgoi amheuaeth, rhaid cynnwys fel incwm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1)—

(a)         unrhyw daliad y mae paragraff 48(2) (taliadau ac eithrio enillion) yn gymwys iddo; neu

(b)         yn achos ceisydd sy’n cael cymorth o dan adran 95 neu 98 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999([151]), gan gynnwys cymorth a ddarperir yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 9 i’r Ddeddf honno, swm y cymorth o’r fath a ddarperir mewn perthynas ag anghenion byw hanfodol y ceisydd a dibynyddion y ceisydd (os oes rhai), fel y pennir mewn rheoliadau a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 8 i Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.

Cyfalaf a drinnir fel incwm: personau nad ydynt yn bensiynwyr

52.(1)(1) Rhaid trin fel incwm unrhyw gyfalaf sy’n daladwy mewn rhandaliadau sy’n orddyledus ar y dyddiad y gwneir y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, neu ar ddyddiad unrhyw ddiwygiad neu ddisodliad diweddarach, os yw swm cyfanredol y rhandaliadau gorddyledus a swm cyfalaf y ceisydd a gyfrifir fel arall yn unol â Phennod 7 o’r Rhan hon yn fwy nag £16,000.

(2) Rhaid trin fel incwm unrhyw daliad a geir o dan flwydd-dal.

(3) Rhaid trin unrhyw enillion i’r graddau nad ydynt yn daliad o incwm, fel pe baent yn incwm.

(4) Rhaid trin unrhyw Fenthyciad Datblygu Gyrfa a delir yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 fel pe bai’n incwm.

(5) Pan fo cytundeb neu orchymyn llys yn darparu bod rhaid gwneud taliadau i’r ceisydd o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd a bod y cyfryw daliadau i gael eu gwneud, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, ar ffurf taliadau cyfnodol, rhaid trin unrhyw daliadau cyfnodol o’r fath a gaiff y ceisydd (ond nid taliad sydd i’w drin fel cyfalaf yn rhinwedd y Rhan hon) fel pe bai’n incwm.

Incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr

53.(1)(1) Rhaid trin ceisydd nad yw’n bensiynwr fel pe bai’n meddu incwm y mae’r ceisydd hwnnw wedi amddifadu ei hunan ohono at y diben o sicrhau hawlogaeth i ostyngiad, neu gynyddu swm y gostyngiad.

(2) Ac eithrio yn achos—

(a)         ymddiriedolaeth ddisgresiynol;

(b)          ymddiriedolaeth sy’n deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i niwed personol;

(c)         cynllun pensiwn personol, cynllun pensiwn galwedigaethol neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau pan nad yw’r ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth;

(d)         unrhyw swm y mae paragraff 48(2)(a) o Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn gymwys iddo, a weinyddir yn y modd y cyfeirir ato ym mharagraff 48(1)(a) o’r Atodlen honno;

(e)         unrhyw swm y mae paragraff 49(a) o Atodlen 9 yn cyfeirio ato;

(f)          lwfans adsefydlu a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;

(g)         credyd treth plant;

(h)         credyd treth gwaith, neu

(i)          unrhyw swm y mae is-baragraff (11) yn gymwys iddo,

rhaid trin unrhyw incwm, a fyddai wedi bod ar gael i’r ceisydd pe bai wedi gwneud cais amdano, ond nas caffaelwyd gan y ceisydd, fel pe bai’r ceisydd yn meddu’r incwm hwnnw ond hynny yn unig, o’r dyddiad y gellid disgwyl caffael yr incwm pe byddid wedi gwneud cais.

(3) Rhaid trin unrhyw daliad o incwm, ac eithrio taliad o incwm a bennir yn is-baragraff (4), a wneir—

(a)         i drydydd parti mewn perthynas â cheisydd sengl neu aelod o’r teulu (ond nid aelod o deulu’r trydydd parti), pan fo’r taliad hwnnw’n daliad o bensiwn galwedigaethol, pensiwn neu daliad cyfnodol arall a wneir o dan gynllun pensiwn personol, neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau, fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, yr aelod hwnnw;

(b)         i drydydd parti mewn perthynas â cheisydd sengl neu mewn perthynas ag aelod o’r teulu (ond nid aelod o deulu’r trydydd parti), pan nad yw’n daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (a), fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu’r aelod hwnnw, i’r graddau y’i defnyddir ar gyfer bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, unrhyw aelod o’r teulu hwnnw, neu y’i defnyddir ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt;

(c)         i geisydd sengl neu aelod o’r teulu mewn perthynas â thrydydd parti (ond nid mewn perthynas ag aelod arall o’r teulu hwnnw) fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, yr aelod hwnnw o’r teulu, i’r graddau y’i cedwir neu y’i defnyddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu y’i defnyddir gan neu ar ran unrhyw aelod o’r teulu.

(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â thaliad o incwm a wneir—

(a)         o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006);

(b)         yn unol ag adran 19(1)(a) o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994([152]) (glo consesiynol);

(c)         yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 mewn perthynas â chyfranogiad person—

                           (i)    mewn rhaglen gyflogaeth yn yr ystyr o “employment programme” a bennir yn rheoliad 75(1)(a) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996([153]);

                         (ii)    mewn cynllun hyfforddi yn yr ystyr o “training scheme” a bennir yn rheoliad 75(1)(b) o’r Rheoliadau hynny; neu

                       (iii)    mewn cwrs cymwys yn yr ystyr o “qualifying course” a bennir yn rheoliad 17A(7) o’r Rheoliadau hynny;

(d)         mewn perthynas â chyfranogiad person yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal;

(e)         mewn perthynas â chyfranogiad person yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol;

(f)          mewn perthynas â chyfranogiad ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter;

(g)         o dan gynllun pensiwn galwedigaethol, mewn perthynas â phensiwn neu daliad cyfnodol arall a wneir o dan gynllun pensiwn personol, neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau—

                           (i)    pan fo gorchymyn methdaliad wedi ei wneud mewn perthynas â’r person y gwnaed y taliad mewn perthynas ag ef neu, yn yr Alban, ystad y person hwnnw’n destun secwestraeth, neu oruchwyliwr barnwrol wedi ei benodi ar ystad y person hwnnw o dan adran 41 o Ddeddf Cyfreithwyr (Yr Alban) 1980([154]);

                         (ii)    pan fo’r taliad wedi ei wneud i ymddiriedolwr mewn methdaliad neu unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ran y credydwyr; a

                       (iii)    pan nad yw’r person y cyfeirir ato yn is-baragraff (i) nac unrhyw aelod o deulu’r person hwnnw yn meddu, neu pan na thrinnir hwy fel pe baent yn meddu unrhyw incwm arall ar wahân i’r taliad hwnnw.

(5) Pan fo ceisydd yn cael unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal a chyfradd y budd-dal hwnnw’n newid gydag effaith o ddyddiad ar neu ar ôl 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, ond ddim mwy na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad hwnnw, rhaid i’r awdurdod drin y ceisydd fel pe bai’n meddu’r budd-dal hwnnw ar y gyfradd ddiwygiedig, naill ai o 1 Ebrill neu o’r dydd Llun cyntaf yn Ebrill yn y flwyddyn honno, pa un bynnag o’r dyddiadau hynny bydd yr awdurdod yn ei ddewis, hyd at y dyddiad y bydd y gyfradd ddiwygiedig yn cael effaith.

(6)  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7)—

(a)         pan fo ceisydd yn cyflawni gwasanaeth i berson arall; a

(b)         pan nad yw’r person hwnnw’n gwneud unrhyw daliad o enillion neu’n talu llai na’r hyn a delir am gyflogaeth gymaradwy yn yr ardal,

rhaid i’r awdurdod drin y ceisydd fel pe bai’n meddu pa bynnag enillion (os oes rhai) sy’n rhesymol am y gyflogaeth honno, oni all y ceisydd fodloni’r awdurdod nad oes gan y person hwnnw fodd digonol i’w alluogi i dalu, neu i dalu rhagor, am y gwasanaeth.

(7) Nid yw is-baragraff (6) yn gymwys—

(a)         i geisydd a gymerir ymlaen gan sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu sy’n wirfoddolwr, os bodlonir yr awdurdod, mewn unrhyw un o’r achosion hynny, ei bod yn rhesymol i’r ceisydd ddarparu’r gwasanaethau hynny yn ddi-dâl; neu

(b)         mewn achos pan gyflawnir y gwasanaeth mewn cysylltiad â’r canlynol—

                           (i)    cyfranogiad y ceisydd mewn rhaglen gyflogaeth neu hyfforddiant yn yr ystyr a roddir i “employment or training programme” gan reoliad 19(1)(q) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996; neu

                         (ii)    cyfranogiad y ceisydd neu bartner y ceisydd mewn rhaglen gyflogaeth neu hyfforddiant, yn yr ystyr a roddir i “employment or training programme” fel y’i diffinnir gan reoliad 19(3) o’r Rheoliadau hynny, pan nad oes lwfans hyfforddi yn daladwy ar gyfer y rhaglen honno, neu, os oes lwfans o’r fath yn daladwy, pan fo’n daladwy at yr unig ddiben o ad-dalu treuliau ynglŷn â theithio neu brydau bwyd i’r person sy’n cymryd rhan yn y rhaglen honno; neu

(c)         i geisydd sy’n cymryd rhan mewn lleoliad gwaith a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (neu berson sy’n darparu gwasanaethau i’r Ysgrifennydd Gwladol) cyn dechrau’r lleoliad.

(8) Yn is-baragraff (7)(c) ystyr “lleoliad gwaith” (“work placement”) yw profiad gwaith ymarferol a ymgymerir heb ddisgwyl cael tâl amdano.

(9) Pan drinnir ceisydd fel pe bai’n meddu unrhyw incwm o dan unrhyw un o’r is-baragraffau (1) i (8), mae darpariaethau blaenorol y Rhan hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm yr incwm hwnnw, fel pe bai taliad wedi ei wneud mewn gwirionedd ac fel pe bai’n incwm gwirioneddol a feddir gan y ceisydd.

(10) Pan drinnir ceisydd fel pe bai’n meddu unrhyw enillion o dan is-baragraff (6), mae darpariaethau blaenorol y Rhan hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm yr enillion hynny fel pe bai taliad wedi ei wneud mewn gwirionedd ac fel pe baent yn enillion gwirioneddol a feddir gan y ceisydd, ac eithrio nad yw paragraffau 39(2) neu 49(3) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr, yn eu trefn) yn gymwys a bod rhaid cyfrifo enillion net y ceisydd hwnnw drwy gymryd i ystyriaeth yr enillion hynny y trinnir y ceisydd hwnnw fel pe bai’n ei meddu, llai—

(a)         swm mewn perthynas â threth incwm, sy’n hafal i swm a gyfrifir drwy gymhwyso i’r enillion hynny y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwysadwy i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37 o Ran 3 o Ddeddf Treth Incwm 2007 (lwfansau personol) fel sy’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd; ond, pan fo’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir iddynt y gyfradd dreth sylfaenol a swm y rhyddhad personol didynadwy o dan yr is-baragraff hwn, ar sail pro rata;

(b)         swm sy’n hafal i swm y cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol a fyddai’n daladwy gan y ceisydd o dan DCBNC mewn perthynas â’r enillion hynny pe bai cyfraniadau o’r fath yn daladwy; ac

(c)         hanner unrhyw swm sy’n daladwy gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol.

(11) Nid yw is-baragraffau (1), (2), (3) a (6) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw swm o incwm ac eithrio enillion, neu enillion enillydd cyflogedig, sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

PENNOD 6

Incwm: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr

Cyfrifo incwm ar sail wythnosol

54.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 57 (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc), rhaid cyfrifo incwm ceisydd ar sail wythnosol fel a ganlyn—

(a)         drwy amcangyfrif y swm sy’n debygol o fod yn incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd yn unol â’r Rhan hon;

(b)         drwy ychwanegu at y swm hwnnw yr incwm wythnosol a gyfrifwyd—

                           (i)    os yw’r ceisydd yn bensiynwr, o dan baragraff 68 (incwm tariff: pensiynwyr);

                         (ii)    os yw’r ceisydd yn berson nad yw’n bensiynwr, o dan baragraff 69 (incwm tariff: personau nad ydynt yn bensiynwyr); ac

(c)         drwy ddidynnu wedi hynny unrhyw gostau gofal plant perthnasol y mae paragraff 55 (trin costau gofal plant) yn gymwys iddynt o unrhyw enillion sy’n ffurfio rhan o’r incwm wythnosol cyfartalog, neu, mewn achos pan fo’r amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, eu didynnu o’r enillion hynny plws pa gredyd bynnag a bennir sy’n briodol ym mharagraff (b) o’r is-baragraff hwnnw, hyd at yr uchafswm didyniad mewn perthynas â theulu’r ceisydd, sef pa un bynnag o’r symiau a bennir yn is-baragraff (3) sy’n gymwys yn achos y ceisydd.

(2) Amodau’r paragraff hwn yw’r canlynol—

(a)         bod enillion y ceisydd sy’n ffurfio rhan o incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd yn llai na’r lleiaf o naill ai gostau gofal plant perthnasol y ceisydd neu pa un bynnag o’r didyniadau a bennir ym mharagraff (3) sydd, fel arall, yn gymwys yn achos y ceisydd; a

(b)         bod y ceisydd hwnnw neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, naill ai’r ceisydd neu bartner y ceisydd, yn cael naill ai credyd treth gwaith neu gredyd treth plant.

(3) Uchafswm y didyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) uchod fydd—

(a)         pan fo teulu’r ceisydd yn cynnwys un plentyn yn unig, y telir costau gofal plant perthnasol mewn perthynas ag ef, £175 yr wythnos;

(b)         pan fo teulu’r ceisydd yn cynnwys mwy nag un plentyn, y telir costau gofal plant perthnasol mewn perthynas â hwy, £300 yr wythnos.

Trin costau gofal plant

55.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ceisydd (o fewn ystyr y paragraff hwn) yn tynnu costau gofal plant perthnasol ac—

(a)         yn unig riant ac yn ymgymryd â gwaith am dâl;

(b)         yn aelod o gwpl, a’r ddau ohonynt yn ymgymryd â gwaith am dâl; neu

(c)         yn aelod o gwpl y mae un ohonynt yn ymgymryd â gwaith am dâl a’r llall—

                           (i)    yn analluog;

                         (ii)    yn glaf mewnol mewn ysbyty; neu

                       (iii)    mewn carchar (boed wedi ei ddedfrydu i garchar neu ar remánd yn y ddalfa tra’n aros treial neu ddedfryd).

(2) At ddibenion is-baragraff (1) ac yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid trin person y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 wythnos pan fo’r person—

(a)         yn cael tâl salwch statudol;

(b)         yn cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar y gyfradd isaf o dan adrannau 30A i 30E o DCBNC;

(c)         yn cael lwfans cyflogaeth a chymorth;

(d)         yn cael cymhorthdal incwm ar sail analluedd i weithio o dan reoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987([155]) a pharagraff 7 neu 14 o Atodlen 1B i’r Rheoliadau hynny; neu

(e)         yn cael ei gredydu ag enillion ar sail analluedd i weithio neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith o dan reoliad 8B o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Credydau)1975([156]).

(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson a oedd yn ymgymryd â gwaith am dâl yn union cyn—

(a)         diwrnod cyntaf y cyfnod y telir i’r person hwnnw gyntaf dâl salwch statudol, budd-dal analluogrwydd byrdymor, lwfans cyflogaeth a chymorth neu gymhorthdal incwm ar sail analluedd i weithio; neu

(b)         diwrnod cyntaf y cyfnod y credydir enillion mewn perthynas ag ef,

yn ôl fel y digwydd.

(4) Mewn achos pan fo is-baragraff (2)(d) neu (e) yn gymwys, mae’r cyfnod o 28 wythnos yn cychwyn ar y diwrnod y telir cymhorthdal incwm gyntaf i’r person hwnnw, neu’r diwrnod cyntaf y credydir enillion iddo mewn perthynas ag ef, yn ôl fel y digwydd.

(5) Costau gofal plant perthnasol yw’r costau gofal hynny y mae is-baragraffau (6) a (7) yn gymwys iddynt, a rhaid eu cyfrifo ar sail wythnosol yn unol ag is-baragraff (10).

(6) Telir y costau gan y ceisydd, am ofal a ddarperir—

(a)         yn achos unrhyw blentyn o deulu’r ceisydd nad yw’n anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r plentyn ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn pymthegfed pen-blwydd y plentyn hwnnw; neu

(b)         yn achos unrhyw blentyn o deulu’r ceisydd sy’n anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r plentyn ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y plentyn hwnnw.

(7) Telir y costau am ofal a ddarperir gan un neu ragor o’r darparwyr gofal a restrir yn is-baragraff (8) ac ni thelir hwy—

(a)         mewn perthynas ag addysg orfodol y plentyn;

(b)         gan geisydd i’w bartner na chan ei bartner i geisydd, mewn perthynas ag unrhyw blentyn y mae’r naill neu’r llall, neu unrhyw rai ohonynt yn gyfrifol amdano yn unol â pharagraff 7 (amgylchiadau pan fo person i gael ei drin fel pe bai’n gyfrifol neu ddim yn gyfrifol am berson arall); neu

(c)         mewn perthynas â gofal a ddarperir gan berthynas i’r plentyn yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghartref y plentyn.

(8) Caniateir darparu’r gofal y cyfeirir ato yn is-baragraff (7)—

(a)         y tu allan i oriau ysgol, gan ysgol neu mewn mangre ysgol gan awdurdod lleol —

                           (i)    i blant nad ydynt yn anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar eu hwythfed pen-blwydd ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn eu pymthegfed pen-blwydd; neu

                         (ii)    i blant sy’n anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar eu hwythfed pen-blwydd ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn eu hunfed pen-blwydd ar bymtheg; neu

(b)         gan ddarparwr gofal plant a gymeradwywyd yn unol â Rheoliadau Credyd Treth (Categori Newydd o Ddarparwyr Gofal Plant) 1999([157]); neu

(c)         gan bersonau a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010([158]);neu

(d)         gan berson a eithrir rhag cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 oherwydd bod y gofal plant a ddarperir gan y person hwnnw mewn ysgol neu mewn sefydliad y cyfeirir atynt yn erthygl 11, 12 neu 14 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010([159]); neu

(e)         gan—

                           (i)    personau a gofrestrwyd o dan adran 59(1) o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010([160]); neu

                         (ii)    awdurdodau lleol a gofrestrwyd o dan adran 83(1) o’r Ddeddf honno,

os y gofal a ddarperir yw gwarchod plant neu’n ofal dydd ar gyfer plant yn yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “child minding” a “day care of children” yn y Ddeddf honno; neu

(f)          gan berson a ragnodir mewn rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 12(4) o Ddeddf Credydau Treth 2002; neu

(g)         gan berson a gofrestrwyd o dan Bennod 2 neu 3 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006([161]); neu

(h)         gan unrhyw un o’r ysgolion a grybwyllir yn adran 34(2) o Ddeddf Gofal Plant 2006 mewn amgylchiadau pan nad yw’r gofyniad i gofrestru o dan Bennod 2 o Ran 3 o’r Ddeddf honno yn gymwys, yn rhinwedd adran 34(2) o’r Ddeddf honno; neu

(i)          gan unrhyw un o’r ysgolion a grybwyllir yn adran 53(2) o Ddeddf Gofal Plant 2006 mewn amgylchiadau pan nad yw’r gofyniad i gofrestru o dan Bennod 3 o Ran 3 o’r Ddeddf honno yn gymwys, yn rhinwedd adran 53(2) o’r Ddeddf honno; neu

(j)          gan unrhyw un o’r sefydliadau a grybwyllir yn adran 18(5) o Ddeddf Gofal Plant 2006 mewn amgylchiadau pan nad yw’r gofal yn gynwysedig yn ystyr “childcare” at ddibenion Rhan 1 a Rhan 3 y Ddeddf honno yn rhinwedd adran 18(5) o’r Ddeddf honno; neu

(k)         gan riant maeth neu ofalwr-berthynas o dan Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011([162]), Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003([163]) neu Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal (Yr Alban) 2009([164]) mewn perthynas â phlentyn ac eithrio’r plentyn a faethir gan y rhiant maeth neu’r plentyn sy’n derbyn gofal gan y gofalwr-berthynas; neu

(l)          gan weithiwr gofal cartref o dan Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004([165]); neu

(m)       gan berson nad yw’n berthynas i’r plentyn, yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghartref y plentyn.

(9) Yn is-baragraffau (6) ac (8)(a), ystyr “y dydd Llun cyntaf ym Medi” (“the first Monday in September”) yw’r dydd Llun sy’n digwydd gyntaf yn ystod y mis Medi mewn unrhyw flwyddyn.

(10) Rhaid amcangyfrif y costau gofal plant perthnasol dros ba bynnag gyfnod, o ddim mwy na blwyddyn, sy’n briodol ar gyfer amcangyfrif yn gywir y gost wythnosol gyfartalog, gan roi sylw i wybodaeth a ddarperir gan y gwarchodwr plant neu’r person sy’n darparu’r gofal, ynghylch swm y tâl a godir.

(11) At ddibenion is-baragraff (1)(c) mae’r aelod arall o gwpl yn analluog—

(a)     os yw’r ceisydd yn bensiynwr a’r aelod arall o’r cwpl yn 80 oed o leiaf;

(b)     os yw’r ceisydd yn bensiynwr a’r aelod arall o’r cwpl yn iau nag 80 oed, ac—

                           (i)    trinnir yr amodau ychwanegol a bennir ym mharagraff 10 o Atodlen 3 (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd) i’r cynllun hwn fel pe baent yn gymwys yn achos yr aelod arall o’r cwpl; a

                         (ii)    yr aelod arall o’r cwpl yn bodloni’r amodau hynny, neu byddai’n eu bodloni pe na thrinnid yr aelod arall hwnnw o’r cwpl fel pe bai’n alluog i weithio, yn rhinwedd penderfyniad a wnaed o dan adran 171E o DCBNC;

(c)     os nad yw’r ceisydd yn bensiynwr, a swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd oherwydd analluedd yr aelod arall neu’r elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith oherwydd galluedd cyfyngedig yr aelod arall ar gyfer gwaith;

(d)         os nad yw’r ceisydd yn bensiynwr, a byddai swm cymwysadwy’r ceisydd wedi cynnwys premiwm anabledd oherwydd analluedd yr aelod arall pe na bai’r aelod arall hwnnw’n cael ei drin fel pe bai’n alluog i weithio, yn rhinwedd penderfyniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 171E o DCBNC;

(e)         os byddai swm cymwysadwy’r ceisydd wedi cynnwys yr elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith oherwydd galluedd cyfyngedig yr aelod arall ar gyfer gwaith pe na bai’r aelod arall hwnnw’n cael ei drin fel pe na bai ei alluedd i weithio yn gyfyngedig, yn rhinwedd penderfyniad a wnaed yn unol â Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008;

(f)          os yw’r ceisydd yn analluog i weithio, neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, ac wedi bod yn analluog felly neu’n cael ei drin felly yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(g)         os yw galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, neu os trinnir ef fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, ac os bu ganddo, neu os triniwyd ef fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn unol â Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân a wahenir gan doriad o ddim mwy na 84 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(h)         os yw un neu ragor o’r pensiynau neu lwfansau canlynol yn daladwy mewn perthynas â’r aelod arall—

                           (i)    budd-dal analluogrwydd hirdymor neu fudd-dal analluogrwydd byrdymor ar y raddfa uwch o dan Atodlen 4 i DCBNC;

                         (ii)    lwfans gweini o dan adran 64 o DCBNC;

                       (iii)    lwfans anabledd difrifol o dan adran 68 o DCBNC;

                        (iv)    lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o DCBNC;

                          (v)    taliad annibyniaeth bersonol o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012;

                        (vi)    TALlA;

                      (vii)    cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 o DCBNC;

                    (viii)    cynnydd mewn pensiwn a delir fel rhan o bensiwn anabledd rhyfel neu o dan gynllun anafiadau diwydiannol sy’n cyfateb i lwfans neu gynnydd mewn pensiwn anabledd o dan is-baragraff (ii), (iv), (v) neu (vii) uchod;

                        (ix)    lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd;

(i)      os bu pensiwn neu lwfans y cyfeirir ato yn is-baragraff (vi) neu (vii) o baragraff (h) yn daladwy oherwydd analluedd yr aelod arall, ond peidiodd â bod yn daladwy o ganlyniad i’r aelod hwnnw ddod yn glaf, ac yn y paragraff hwn, ystyr claf yw person (ac eithrio person sy’n gwneud dedfryd o garchar neu’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad cadw ar gyfer pobl ifanc) yr ystyrir ei fod yn cael triniaeth ddi-dâl fel claf mewnol, yn yr ystyr a roddir i “receiving free in-patient treatment” gan reoliad 2(4) a (5) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol mewn Ysbytai) 2005;

(j)          os byddai lwfans gweini o dan adran 64 o DCBNC neu lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o’r Ddeddf honno yn daladwy i’r person hwnnw oni bai am—

                           (i)    atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

                         (ii)    lleihad oherwydd traddodi i ysbyty;

(k)         os byddai’r elfen byw dyddiol o’r taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy i’r person hwnnw pe na bai y budd-dal wedi ei atal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (cleifion mewnol mewn ysbyty);

(l)          os byddai TALlA yn daladwy i’r person hwnnw pe na bai y taliad wedi ei atal dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn, sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb;

(m)       os byddai paragraff (h), (i), (j) neu (k) yn gymwys i’r aelod arall pe bai’r darpariaethau deddfwriaethol y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny yn ddarpariaethau o dan unrhyw ddeddfiad cyfatebol sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon; neu

(n)         os oes gan yr aelod arall gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd i’r aelod arall gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006([166]) neu o dan adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978,neu a ddarparwyd gan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd yng Ngogledd Iwerddon o dan erthygl 30(1) o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

(12) At ddibenion is-baragraff (11), unwaith y bydd is-baragraff (11)(f) yn gymwys i’r ceisydd, os yw’r ceisydd wedyn, am gyfnod o 56 diwrnod neu lai, yn peidio â bod yn analluog i weithio, neu gael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, yna, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan â’r ceisydd yn analluog i weithio drachefn, neu pan drinnir ef drachefn fel pe bai’n analluog i weithio, bydd yr is-baragraff hwnnw yn gymwys i’r ceisydd ar unwaith, cyhyd ag y bo’r ceisydd yn parhau’n analluog i weithio, neu cyhyd ag y’i trinnir fel pe bai’n analluog i weithio.

(13) At ddibenion is-baragraff (11), unwaith y bydd is-baragraff (11)(g) yn gymwys i’r ceisydd, os yw galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith wedyn yn peidio â bod yn gyfyngedig, neu os peidir â’i drin fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, am gyfnod o 84 diwrnod neu lai, yna, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan â galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig drachefn, neu pan drinnir ef drachefn fel pe bai ei allu’n gyfyngedig, bydd yr is-baragraff hwnnw yn gymwys i’r ceisydd ar unwaith, cyhyd ag y bo galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith yn parhau’n gyfyngedig, neu cyhyd ag y’i trinnir fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig.

(14) At ddibenion is-baragraffau (6) ac (8)(a), mae person yn anabl os yw’r person hwnnw yn berson—

(a)         y mae lwfans gweini neu elfen ofal y lwfans anabledd yn daladwy iddo, neu y byddai’n daladwy iddo oni bai am—

                           (i)    atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

                         (ii)    lleihad oherwydd traddodi i ysbyty;

(b)         y mae elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy iddo neu y byddai’n daladwy iddo oni bai am atal y budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (cleifion mewnol mewn ysbyty);

(c)         wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994;

(d)         y peidiodd â bod yn gofrestredig fel person dall mewn cofrestr o’r fath, o fewn y cyfnod sy’n cychwyn 28 wythnos cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn pymthegfed pen-blwydd y person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod yn union cyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw; neu

(e)     y mae TALlA yn daladwy iddo.

(15) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin person sydd ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl am y cyfnod a bennir yn is-baragraff (16) (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod—

(a)         bod y person hwnnw’n gweithio am dâl yn ystod yr wythnos sy’n rhagflaenu’r cyfnod o absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu;

(b)         bod y person hwnnw’n tynnu costau gofal plant perthnasol o fewn ystyr is-baragraff (5); ac

(c)         bod hawl gan y person hwnnw i gael naill ai tâl mamolaeth statudol o dan adran 164 o DCBNC, tâl tadolaeth cyffredin yn rhinwedd adran 171ZA neu 171ZB o’r Ddeddf honno, tâl tadolaeth statudol ychwanegol yn rhinwedd adran 171ZEA neu 171ZEB o’r Ddeddf honno, tâl mabwysiadu statudol yn rhinwedd adran 171ZL o’r Ddeddf honno, lwfans mamolaeth o dan adran 35 o’r Ddeddf honno neu gymhorthdal cymwys.

(16) At ddibenion is-baragraff (15) mae’r cyfnod perthnasol yn cychwyn ar y diwrnod y mae absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu y person hwnnw’n cychwyn, a daw i ben ar—

(a)         y dyddiad y daw’r absenoldeb hwnnw i ben;

(b)         os na thelir yr elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith ar y dyddiad y daw’r hawlogaeth i lwfans mamolaeth, cymhorthdal cymwys (os yw’n berthnasol), tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol neu’r tâl mabwysiadu statudol i ben, y dyddiad y daw’r hawlogaeth honno i ben; neu

(c)         os telir yr elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith ar y dyddiad y daw’r hawlogaeth i lwfans mamolaeth neu gymhorthdal cymwys, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol, neu’r tâl mabwysiadu statudol i ben, y dyddiad y daw’r hawlogaeth i’r dyfarniad o’r elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith i ben,

pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.

(17) Yn is-baragraffau (15) ac (16)—

(a)         ystyr “cymhorthdal cymwys” (“qualifying support”) yw cymhorthdal incwm y mae hawl gan y person hwnnw i’w gael yn rhinwedd paragraff 14B o Atodlen 1B i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987([167]); a

(b)         ystyr “elfen gofal plant” (“child care element”) o’r credyd treth gwaith yw’r elfen o’r credyd treth gwaith a ragnodir o dan adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002 (elfen gofal plant).

(18) Yn y paragraff hwn nid yw “ceisydd” (“applicant”) yn cynnwys ceisydd—

(a)         y mae ganddo, neu

(b)         y mae ganddo (ar y cyd â phartner),

ddyfarniad o gredyd cynhwysol.

Cyfrifo incwm wythnosol cyfartalog o gredydau treth

56.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ceisydd yn cael credyd treth.

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, y cyfnod y mae’n rhaid cymryd y credyd treth i ystyriaeth drosto yw’r cyfnod a bennir yn is-baragraff (3).

(3) Os yw’r rhandaliad, y gwneir y taliad o gredyd treth ynddo—

(a)         yn rhandaliad dyddiol, y cyfnod yw 1 diwrnod, sef y diwrnod y telir y rhandaliad mewn perthynas ag ef;

(b)         yn rhandaliad wythnosol, y cyfnod yw 7 diwrnod, yn diweddu ar y diwrnod y mae’r rhandaliad yn ddyledus i’w dalu;

(c)         yn rhandaliad mewn perthynas â dwy wythnos, y cyfnod yw 14 diwrnod, yn cychwyn 6 diwrnod cyn y diwrnod y mae’r rhandaliad yn ddyledus i’w dalu;

(d)         yn rhandaliad mewn perthynas â phedair wythnos, y cyfnod yw 28 diwrnod, yn diweddu ar y diwrnod y mae’r rhandaliad yn ddyledus i’w dalu.

(4) At ddibenion y paragraff hwn ystyr “credyd treth” (“tax credit”) yw credyd treth plant neu gredyd treth gwaith.

Diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc

57. Wrth gyfrifo incwm ceisydd, caiff yr awdurdod ddiystyru unrhyw newid deddfwriaethol—

(a)         yng nghyfradd sylfaenol neu gyfraddau eraill y dreth incwm;

(b)         yn swm unrhyw ryddhad treth personol;

(c)         yng nghyfraddau cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC neu yn y terfyn enillion isaf neu’r terfyn enillion uchaf ar gyfer cyfraniadau Dosbarth 1 o dan y Ddeddf honno, y terfynau uchaf neu isaf sy’n gymwys i gyfraniadau Dosbarth 4 o dan y Ddeddf honno neu’r swm a bennir yn adran 11(4) o’r Ddeddf honno (eithriad enillion isel mewn perthynas â chyfraniadau Dosbarth 2);

(d)         yn swm y dreth sy’n daladwy o ganlyniad i gynnydd yn y gyfradd wythnosol o bensiwn ymddeol Categori A, B, C neu D neu unrhyw ychwanegiad ato neu unrhyw bensiwn graddedig sy’n daladwy o dan DCBNC;

(e)         yn y gyfradd uchaf o gredyd treth plant neu gredyd treth gwaith,

am gyfnod ddim hwy na 30 wythnos ostyngiad, sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad yn union ar ôl y dyddiad y daw’r newid yn effeithiol.

Cyfrifo elw net enillwyr hunangyflogedig

58.(1)(1) At ddibenion paragraffau 45 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr hunangyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) a 54 (cyfrifo incwm ar sail wythnosol), rhaid i enillion y ceisydd y mae’n rhaid eu cymryd i ystyriaeth—

(a)         yn achos enillydd hunangyflogedig sy’n ymgymryd â chyflogaeth ar ei ran ei hun, fod yr elw net sy’n deillio o’r gyflogaeth honno;

(b)         yn achos enillydd hunangyflogedig sy’n bensiynwr ac yn ymgymryd â’i gyflogaeth mewn partneriaeth, fod yn gyfran y person hwnnw o’r elw net sy’n deillio o’r gyflogaeth honno, llai—

                           (i)    swm mewn perthynas â threth incwm a chyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC, a gyfrifir yn unol â pharagraff 59 (didynnu treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); a

                         (ii)    hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (11) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys;

(c)         yn achos enillydd hunangyflogedig nad yw’n bensiynwr ac sy’n ymgymryd â chyflogaeth mewn partneriaeth, neu gyflogaeth fel pysgotwr cyfran yn yr ystyr a roddir i “share fisherman” gan Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau Llongwyr) 1975([168]), cyfran y person hwnnw o’r elw net sy’n deillio o’r gyflogaeth honno, llai—

                           (i)    swm mewn perthynas â threth incwm a chyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC, a gyfrifir yn unol â pharagraff 59 (didynnu treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); a

                         (ii)    hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (11) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys.

(2) Rhaid diystyru, o elw net ceisydd nad yw’n bensiynwr, unrhyw swm, pan fo’n gymwys, a bennir ym mharagraffau 1 i 16 o Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a) rhaid cyfrifo elw net y gyflogaeth, ac eithrio pan fo is-baragraff (9) yn gymwys, drwy gymryd i ystyriaeth enillion y gyflogaeth dros y cyfnod asesu, llai—

(a)         yn ddarostyngedig i is-baragraffau (5) i (8), unrhyw dreuliau a dynnir yn gyfan gwbl ac yn unig yn y cyfnod hwnnw at ddibenion y gyflogaeth honno;

(b)         swm mewn perthynas ag—

                           (i)    treth incwm; a

                         (ii)    cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC,

a gyfrifir yn unol â pharagraff 59 (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); ac

(c)         hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (11) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys.

(4) At ddibenion is-baragraff (1)(b) rhaid cyfrifo elw net y gyflogaeth drwy gymryd i ystyriaeth enillion y gyflogaeth dros y cyfnod asesu llai, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (5) i (8), unrhyw dreuliau a dynnir yn gyfan gwbl ac yn unig yn y cyfnod hwnnw at ddibenion y gyflogaeth honno.

(5)  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid peidio â gwneud unrhyw ddidyniad o dan baragraff (3)(a) neu (4), mewn perthynas ag—

(a)         unrhyw wariant cyfalaf;

(b)         dibrisiant unrhyw ased cyfalaf;

(c)         unrhyw swm a ddefnyddiwyd neu y bwriedir ei ddefnyddio i sefydlu neu ehangu’r gyflogaeth;

(d)         unrhyw golled a dynnwyd cyn dechrau’r cyfnod asesu;

(e)         ad-daliad o’r cyfalaf mewn unrhyw fenthyciad a gymerwyd at ddibenion y gyflogaeth;

(f)          unrhyw dreuliau a dynnwyd wrth ddarparu adloniant busnes; ac

(g)         yn achos ceisydd nad yw’n bensiynwr, unrhyw ddyledion, ac eithrio drwg-ddyledion y profwyd eu bod yn ddrwg-ddyledion, ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw dreuliau a dynnir wrth adennill dyled.

(6) Rhaid gwneud didyniad o dan is-baragraff (3)(a) neu (4) mewn perthynas ag ad-dalu’r cyfalaf mewn unrhyw fenthyciad a ddefnyddiwyd ar gyfer—

(a)         amnewid cyfarpar neu beiriannau yng nghwrs busnes; neu

(b)         atgyweirio ased busnes presennol, ac eithrio i’r graddau y mae unrhyw swm yn daladwy o dan bolisi yswiriant ar gyfer ei atgyweirio.

(7) Rhaid i’r awdurdod wrthod gwneud didyniad mewn perthynas ag unrhyw dreuliau o dan is-baragraff (3)(a) neu (4) os na fodlonwyd yr awdurdod, o ystyried natur a swm y draul, ei bod wedi ei thynnu yn rhesymol.

(8) Er mwyn osgoi amheuaeth—

(a)         rhaid peidio â gwneud didyniad o dan is-baragraff (3)(a) neu (4) mewn perthynas ag unrhyw swm, oni wariwyd y swm hwnnw at ddibenion y busnes;

(b)         rhaid gwneud didyniad o dan y naill neu’r llall o’r is-baragraffau hynny mewn perthynas ag—

                           (i)    pan fo swm y dreth ar werth a dalwyd yn fwy na swm y dreth ar werth a dderbyniwyd yn y cyfnod asesu, y gwahaniaeth rhwng y ddau swm;

                         (ii)    unrhyw incwm a wariwyd i atgyweirio ased busnes presennol ac eithrio i’r graddau y mae unrhyw swm yn daladwy o dan bolisi yswiriant ar gyfer ei atgyweirio;

                       (iii)    unrhyw daliad o log ar fenthyciad a gymerwyd at ddibenion y gyflogaeth.

(9) Pan fo ceisydd yn ymgymryd â chyflogaeth fel gwarchodwr plant, elw net y gyflogaeth fydd un rhan o dair o enillion y gyflogaeth honno, llai—

(a)         swm mewn perthynas ag—

                           (i)    treth incwm; a

                         (ii)    cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC,

a gyfrifir yn unol â pharagraff 59 (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); a

(b)         hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (11) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys.

(10) Er mwyn osgoi amheuaeth, pan fo ceisydd yn ymgymryd â chyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig a’r ceisydd hefyd yn ymgymryd ag un neu ragor o gyflogaethau eraill fel enillydd hunangyflogedig neu gyflogedig, rhaid peidio â gwrthbwyso unrhyw golled a dynnir mewn unrhyw un o gyflogaethau’r enillydd yn erbyn enillion y ceisydd mewn unrhyw un o’i gyflogaethau eraill.

(11) Rhaid cyfrifo’r swm mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys drwy luosi swm dyddiol y premiwm cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod asesu; ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid penderfynu swm dyddiol y premiwm cymwys fel a ganlyn—

(a)         os yw’r premiwm cymwys yn daladwy yn fisol, drwy luosi swm y cyfraniad cymwys gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 365;

(b)         mewn unrhyw achos arall, drwy rannu swm y premiwm cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod y mae’r premiwm cymwys yn berthynol iddo.

(12) Yn y paragraff hwn, ystyr “premiwm cymwys” (“qualifying premium”) yw unrhyw bremiwm sy’n daladwy fesul cyfnod mewn perthynas â chynllun pensiwn personol ac yn daladwy felly ar neu ar ôl dyddiad y cais.

Cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig

59.(1)(1) Rhaid cyfrifo’r swm sydd i’w ddidynnu mewn perthynas â threth incwm o dan baragraff 58(1)(b)(i), (3)(b)(i) neu (9)(a)(i) (cyfrifo elw net enillwyr hunangyflogedig)—

(a)         ar sail swm yr incwm trethadwy, a

(b)         fel pe bai’r incwm hwnnw’n asesadwy ar gyfer treth incwm ar y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37 o Ddeddf Treth Incwm 2007([169]) (lwfansau personol) fel y bo’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd.

(2) Ond, os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir y gyfradd dreth sylfaenol iddynt a swm y rhyddhad personol sy’n ddidynadwy o dan y paragraff hwn ar sail pro rata.

(3) Y swm sydd i’w ddidynnu mewn perthynas â chyfraniadau nawdd cymdeithasol o dan baragraff 58(1)(b)(i), (3)(b)(ii) neu (9)(a)(ii) yw cyfanswm y canlynol—

(a)         swm y cyfraniadau Dosbarth 2 sy’n daladwy o dan adran 11(1) o DCBNC neu, yn ôl fel y digwydd, adran 11(3) o DCBNC ar y gyfradd sy’n gymwys i’r cyfnod asesu ac eithrio pan fo incwm trethadwy’r ceisydd yn llai na’r swm a bennir yn adran 11(4) o’r Ddeddf honno (eithriad enillion isel) ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n gymwys i’r cyfnod asesu; ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid lleihau’r swm a bennir ar gyfer y flwyddyn dreth honno pro rata; a

(b)         swm y cyfraniadau Dosbarth 4 (os oes rhai) a fyddai’n daladwy o dan adran 15 o DCBNC (cyfraniadau Dosbarth 4 sy’n adenilladwy o dan y Deddfau Treth Incwm) ar y gyfradd ganrannol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu ar gymaint o’r incwm trethadwy ag sydd uwchlaw’r terfyn isaf, ond nid uwchlaw’r terfyn uchaf o elwau a chynyddiadau cymwys ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n gymwys i’r cyfnod asesu; ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid lleihau’r terfynau hynny pro rata.

(4) Yn y paragraff hwn ystyr “incwm trethadwy” (“chargeable income”) yw—

(a)         ac eithrio pan fo paragraff (b) yn gymwys, yr enillion sy’n deillio o gyflogaeth, llai unrhyw dreuliau a ddidynnwyd o dan is-baragraff (3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, is-baragraff (5) o baragraff 58;

(b)     yn achos cyflogaeth fel gwarchodwr plant, un rhan o dair o enillion y gyflogaeth honno.

 

PENNOD 7

Cyfalaf

Cyfrifo cyfalaf

60.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), y cyfalaf y mae’n rhaid ei gymryd i ystyriaeth yn achos ceisydd([170]) yw’r cyfan o gyfalaf y ceisydd, fel y’i cyfrifir yn unol â’r Rhan hon, ac (yn achos unrhyw bersonau nad ydynt yn bensiynwyr) unrhyw incwm a drinnir fel cyfalaf o dan baragraff 61 (incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

(2) Wrth gyfrifo cyfalaf ceisydd o dan is-baragraff (1), rhaid diystyru, pan fo’n gymwys, unrhyw gyfalaf a bennir yn—

(a)     Atodlen 8, mewn perthynas â phensiynwyr;

(b)     Atodlen 9, mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn bensiynwyr.

(3) Yn achos ceisydd sy’n bensiynwr, rhaid trin cyfalaf y ceisydd fel pe bai’n cynnwys unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd ar gyfer ôl-ddyled o—

(a)     credyd treth plant;

(b)     credyd treth gwaith;

(c)     credyd pensiwn y wladwriaeth,

os gwnaed y taliad mewn perthynas â chyfnod y caniatawyd gostyngiad o dan y cynllun hwn ar gyfer rhan neu’r cyfan ohono,  cyn talu’r ôl-ddyled honno.

(4) Rhaid peidio â thrin cyfalaf plentyn neu berson ifanc, sy’n aelod o deulu ceisydd nad yw’n bensiynwr, fel pe bai’n gyfalaf y ceisydd.

Incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr

61.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn bensiynwyr.

(2) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw haelrodd sy’n deillio o gyflogaeth, y mae paragraff 9 o Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn gymwys iddi ac a delir fesul cyfnod o un flwyddyn o leiaf.

(3) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm ar ffurf ad-daliad o dreth incwm a ddidynnwyd o elwau neu daliadau trethadwy i dreth incwm o dan Atodlen D neu E.

(4) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw dâl gwyliau nad yw’n enillion o dan baragraff 38(1)(d) neu 48(1)(d) (enillion enillwyr cyflogedig).

(5) Ac eithrio unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf ac a ddiystyrir o dan baragraffau 4, 5, 7, 11, 17, 30 i 33, 48 neu 49 o Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr),,rhaid trin fel cyfalaf unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf, ond hynny, yn unig, o’r dyddiad dyladwy arferol pan gredydir yr incwm hwnnw i gyfrif y ceisydd.

(6) Yn achos cyflogaeth fel enillydd cyflogedig, rhaid trin fel cyfalaf unrhyw flaen-daliad o enillion, neu unrhyw fenthyciad, a roddir i’r ceisydd gan ei gyflogwr.

(7) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw daliad elusennol neu wirfoddol nas gwneir ac nad yw’n ddyladwy fesul cyfnod rheolaidd, ac eithrio taliad a wneir o dan, neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006) neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.

(8) Rhaid trin fel cyfalaf dderbyniadau gros unrhyw weithgarwch masnachol a ymgymerir gan berson sy’n cael cymorth mewn perthynas â hynny o dan y llwybr hunangyflogaeth, ond hynny i’r graddau, yn unig, y talwyd y derbyniadau hynny i gyfrif arbennig yn ystod y cyfnod pan oedd y person hwnnw’n derbyn y cyfryw gymorth.

(9) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw ôl-ddyled o lwfans cynhaliaeth a delir i geisydd fel cyfandaliad.

(10) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw ôl-ddyled o gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant.

Cyfrifo cyfalaf yn y Deyrnas Unedig

62. Rhaid cyfrifo’r cyfalaf a feddir gan geisydd yn y Deyrnas Unedig yn ôl ei werth presennol ar y farchnad neu ei werth ildio, llai—

(a)         10 y cant, os byddai treuliau a briodolid i’r gwerthiant; a

(b)         swm unrhyw lyffethair a sicrhawyd ar y cyfalaf.

Cyfrifo cyfalaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig

63. Rhaid cyfrifo cyfalaf a feddir gan geisydd mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig—

(a)         mewn achos pan nad oes gwaharddiad yn y wlad honno ar drosglwyddo i’r Deyrnas Unedig swm sy’n hafal i werth presennol y cyfalaf ar y farchnad, neu ei werth ildio yn y wlad honno, yn ôl y gwerth hwnnw;

(b)         mewn achos pan fo gwaharddiad o’r fath yn bodoli, yn ôl y pris y byddai’r cyfalaf yn ei gyrraedd pe gwerthid i brynwr parod yn y Deyrnas Unedig,

llai, os byddai treuliau a briodolid i’r gwerthiant, 10 y cant, a swm unrhyw lyffetheiriau a sicrhawyd ar y cyfalaf.

Cyfalaf tybiannol

64.(1)(1) Rhaid trin ceisydd fel pe bai’n meddu unrhyw gyfalaf yr amddifadodd y ceisydd ei hunan ohono at y diben o sicrhau hawlogaeth i ostyngiad neu gynyddu swm y gostyngiad hwnnw, ac eithrio i’r graddau y lleiheir y cyfalaf hwnnw yn unol â pharagraffau 65 a 66 (rheol lleihau cyfalaf tybiannol).

(2) Yn achos ceisydd sy’n bensiynwr ac yn gwaredu cyfalaf at y diben—

(a)         o leihau neu dalu dyled sydd arno; neu

(b)         o brynu nwyddau neu wasanaethau pan fo’r gwariant arnynt yn rhesymol yn amgylchiadau’r ceisydd,

rhaid ystyried nad yw’n amddifadu ei hunan o’r cyfalaf hwnnw.

(3) Mae is-baragraffau (4) to (6) yn gymwys mewn perthynas â cheiswyr nad ydynt yn bensiynwyr.

(4) Ac eithrio yn achos—

(a)         ymddiriedolaeth ddisgresiynol; neu

(b)          ymddiriedolaeth sy’n deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i niwed personol; neu

(c)         unrhyw fenthyciad na fyddid yn ei chael oni fyddid yn ei sicrhau ar gyfalaf a ddiystyrir o dan Atodlen 9; neu

(d)         cynllun pensiwn personol, cynllun pensiwn galwedigaethol neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau; neu

(e)         unrhyw swm y mae paragraff 48(2)(a) o Atodlen 9 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru) yn gymwys iddo, a weinyddir yn y modd y cyfeirir ato ym mharagraff 49(1)(a) o’r Atodlen honno; neu

(f)          unrhyw swm y mae paragraff 49(a) o Atodlen 9 yn cyfeirio ato; neu

(g)         credyd treth plant; neu

(h)         credyd treth gwaith,

rhaid trin unrhyw gyfalaf, a fyddai wedi bod ar gael i’r ceisydd pe bai wedi gwneud cais amdano ond nas caffaelwyd gan y ceisydd, fel pe bai’r ceisydd yn meddu’r cyfalaf hwnnw ond hynny yn unig, o’r dyddiad y gellid disgwyl caffael y cyfalaf pe byddid wedi gwneud cais.

(5) Rhaid trin unrhyw daliad o gyfalaf, ac eithrio taliad o gyfalaf a bennir yn is-baragraff (6), a wneir—

(a)         i drydydd parti mewn perthynas â cheisydd sengl neu aelod o’r teulu (ond nid aelod o deulu’r trydydd parti), pan fo’r taliad hwnnw’n daliad o bensiwn galwedigaethol, pensiwn neu daliad cyfnodol arall a wneir o dan gynllun pensiwn personol, neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau, fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, yr aelod hwnnw;

(b)         i drydydd parti mewn perthynas â cheisydd sengl neu aelod o’r teulu (ond nid aelod o deulu’r trydydd parti), pan nad yw’n daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (a), fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu’r aelod hwnnw, i’r graddau y’i defnyddir ar gyfer bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, unrhyw aelod o’r teulu hwnnw, neu y’i defnyddir ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt;

(c)         i geisydd sengl neu aelod o’r teulu mewn perthynas â thrydydd parti (ond nid mewn perthynas ag aelod arall o’r teulu hwnnw) fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu’r aelod hwnnw, i’r graddau y’i cedwir neu y’i defnyddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu y’i defnyddir gan neu ar ran unrhyw aelod o’r teulu.

(6) Nid yw is-baragraff (5) yn gymwys mewn perthynas â thaliad o gyfalaf a wneir—

(a)         o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006), Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain;

(b)         yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 mewn perthynas â chyfranogiad person—

                           (i)    mewn rhaglen gyflogaeth yn yr ystyr o “employment programme” a bennir yn rheoliad 75(1)(a) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996;

                         (ii)    mewn cynllun hyfforddi yn yr ystyr o “training scheme” a bennir yn rheoliad 75(1)(b) o’r Rheoliadau hynny; neu

                       (iii)    mewn cwrs cymwys yn yr ystyr o “qualifying course” a bennir yn rheoliad 17A(7) o’r Rheoliadau hynny;

(c)         mewn perthynas â chyfranogiad person yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal;

(d)         mewn perthynas â chyfranogiad person yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol;

(e)         mewn perthynas â chyfranogiad ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter;

(f)          o dan gynllun pensiwn galwedigaethol, mewn perthynas â phensiwn neu daliad cyfnodol arall a wneir o dan gynllun pensiwn personol, neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau—

                           (i)    pan fo gorchymyn methdaliad wedi ei wneud mewn perthynas â’r person y gwnaed y taliad mewn perthynas ag ef neu, yn yr Alban, ystad y person hwnnw’n destun secwestraeth neu oruchwyliwr barnwrol wedi ei benodi ar ystad y person hwnnw o dan adran 41 o Ddeddf Cyfreithwyr (Yr Alban) 1980;

                         (ii)    pan fo’r taliad wedi ei wneud i ymddiriedolwr mewn methdaliad neu unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ran y credydwyr; a

                       (iii)    pan nad yw’r person y cyfeirir ato yn is-baragraff (i) nac unrhyw aelod o deulu’r person hwnnw yn meddu, neu pan na thrinnir hwy fel pe baent yn meddu, unrhyw incwm arall ar wahân i’r taliad hwnnw.

(7) Os yw ceisydd, mewn perthynas â chwmni, mewn safle cyfatebol i safle unig berchennog neu bartner ym musnes y cwmni hwnnw, caniateir trin y ceisydd fel pe bai’n unig berchennog neu bartner o’r fath, ac mewn achos o’r fath—

(a)         er gwaethaf paragraff 60 (cyfrifo cyfalaf) rhaid diystyru gwerth daliad y ceisydd yn y cwmni hwnnw; a

(b)         rhaid trin y ceisydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (8), fel pe bai’n meddu swm o gyfalaf sy’n hafal i werth, neu, yn ôl fel y digwydd, cyfran y ceisydd o werth, cyfalaf y cwmni hwnnw ac y mae darpariaethau blaenorol y Bennod hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo’r swm hwnnw, fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddid gan y ceisydd.

(8) Am gyhyd ag y bo’r ceisydd yn ymgymryd â gweithgareddau yng nghwrs busnes y cwmni, rhaid diystyru’r swm y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu o dan is-baragraff (7).

(9) Pan drinnir ceisydd fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan unrhyw un o is-baragraffau (1), (4) neu (5) mae darpariaethau blaenorol y Bennod hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm y cyfalaf hwnnw, fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddir gan y ceisydd.

Rheol lleihau cyfalaf tybiannol: pensiynwyr

65.(1)(1) Pan drinnir ceisydd sy’n bensiynwr fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan baragraff 64(1) (cyfalaf tybiannol), rhaid lleihau’r swm y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu—

(a)         yn achos wythnos sy’n dilyn—

                           (i)    yr wythnos berthnasol y bodlonir mewn perthynas â hi yr amodau a bennir yn is-baragraff (2); neu

                         (ii)    yr wythnos sy’n dilyn yr wythnos berthnasol honno ac yn bodloni’r amodau hynny,

o swm sydd i’w benderfynu o dan is-baragraff (3);

(b)         yn achos wythnos nad yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddi, ond pan fo—

                           (i)    yr wythnos honno’n wythnos sy’n dilyn yr wythnos berthnasol; a

                         (ii)    yr wythnos berthnasol honno’n wythnos y bodlonir ynddi’r amod yn is-baragraff (4),

o swm sydd i’w benderfynu o dan is-baragraff (5).

(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i wythnos ostyngiad pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amodau canlynol—

(a)         bod y ceisydd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan y cynllun hwn; a

(b)         oni bai am baragraff 64(1), byddai’r ceisydd wedi cael gostyngiad mwy yn y dreth gyngor o dan y cynllun hwn yn yr wythnos honno.

(3) Mewn achos y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid i’r gostyngiad yn swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu at ddibenion is-baragraff (1)(a) fod yn hafal i swm cyfanredol y canlynol—

(a)         swm sy’n hafal i’r swm ychwanegol o ostyngiad yn y dreth gyngor, y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)(b);

(b)         os yw’r ceisydd wedi hawlio credyd pensiwn y wladwriaeth yn ogystal, swm unrhyw gredyd pensiwn y wladwriaeth neu unrhyw swm ychwanegol o gredyd pensiwn y wladwriaeth y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 21(1) o Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([171]) (cyfalaf tybiannol);

(c)         os yw’r ceisydd wedi hawlio budd-dal tai yn ogystal, swm unrhyw fudd-dal tai neu unrhyw swm ychwanegol o’r budd-dal hwnnw y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 47(1) o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006([172]) (cyfalaf tybiannol);

(d)         os yw’r ceisydd wedi hawlio lwfans ceisio gwaith yn ogystal, swm unrhyw lwfans ceisio gwaith ar sail incwm y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 113 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996([173]) (cyfalaf tybiannol); ac

(e)         os yw’r ceisydd wedi hawlio lwfans cyflogaeth a chymorth lwfans swm unrhyw lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 115 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008([174]) (cyfalaf tybiannol).

(4)  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), at ddibenion is-baragraff (1)(b) yr amod yw fod y ceisydd yn bensiynwr ac y byddai hawl ganddo i gael gostyngiad yn y dreth gyngor yn yr wythnos berthnasol oni bai am baragraff 64(1).

(5) Mewn achos o’r fath, mae’r gostyngiad yn swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu at ddibenion is-baragraff (1)(b) yn hafal i swm cyfanredol y canlynol—

(a)         swm y budd-tal treth gyngor y byddai hawl gan y ceisydd i’w gael yn yr wythnos berthnasol oni bai am baragraff 64(1);

(b)         os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 21 o Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002, i gael credyd pensiwn y wladwriaeth mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael;

(c)         os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 47(1) o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006, i gael budd-dal tai neu swm ychwanegol o fudd-dal tai mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm sy’n hafal i—

                           (i)    mewn achos pan nad oes budd-dal tai yn daladwy, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael; neu

                         (ii)    mewn unrhyw achos arall, y swm sy’n hafal i’r swm ychwanegol o fudd-dal tai y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael;

(d)         os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 113 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996, i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 1(3) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael; ac

(e)         os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 115 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008, i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael.

(6) Ond os yw’r swm a grybwyllir ym mharagraff (a), (b), (c), (d) neu (e) o is-baragraff (5) (“y swm perthnasol”) mewn perthynas â rhan-wythnos, rhaid penderfynu’r swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan y paragraff hwnnw drwy—

(a)         rhannu’r swm perthnasol gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y rhan-wythnos honno, a

(b)         lluosi canlyniad y cyfrifiad hwnnw gyda 7.

(7) Rhaid ailbenderfynu’r swm a benderfynwyd o dan is-baragraff (5), o dan yr is-baragraff hwnnw, os yw’r ceisydd yn gwneud cais pellach am ostyngiad yn y dreth gyngor a’r amodau yn is-baragraff (8) wedi eu bodloni, ac mewn achos o’r fath—

(a)         mae paragraffau (a) i (e) o is-baragraff (5) yn gymwys fel pe rhoddid y geiriau “wythnos ddilynol berthnasol” yn lle’r geiriau “wythnos berthnasol”; a

(b)         yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), mae’r swm fel y’i hail benderfynwyd yn cael effaith o’r wythnos gyntaf sy’n dilyn yr wythnos ddilynol berthnasol sydd dan sylw.

(8) Yr amodau yw—

(a)         y gwneir cais pellach 26 neu ragor o wythnosau ar ôl—

                           (i)    y dyddiad y gwnaeth y ceisydd y cais am ostyngiad yn y dreth gyngor y triniwyd y ceisydd gyntaf mewn perthynas ag ef, fel pe bai’n meddu’r cyfalaf dan sylw o dan baragraff 64(1);

                         (ii)    mewn achos pan wnaed o leiaf un ailbenderfyniad yn unol ag is-baragraff (7), y dyddiad y gwnaeth y ceisydd gais ddiwethaf am ostyngiad yn y dreth gyngor a arweiniodd at ailbenderfynu’r swm wythnosol, neu

                       (iii)    y dyddiad y peidiodd ddiwethaf hawl y ceisydd i gael gostyngiad yn y dreth gyngor,

pa un bynnag ddigwyddodd ddiwethaf; a

(b)         byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i gael gostyngiad o’r dreth gyngor o dan y cynllun hwn, oni bai am baragraff 64(1).

(9) Rhaid i’r swm a ailbenderfynir yn unol ag is-baragraff (7) beidio â chael effaith os yw’n llai na’r swm a oedd yn gymwys yn yr achos hwnnw yn union cyn ailbenderfynu; ac mewn achos o’r fath rhaid i’r swm uchaf barhau i gael effaith.

(10) At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “rhan-wythnos” (“part-week”)—

(a)         mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(a), yw cyfnod sy’n llai nag wythnos ac y caniateir gostyngiad o’r dreth gyngor ar ei gyfer o dan y cynllun hwn;

(b)         mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(b), yw cyfnod sy’n llai nag wythnos ac y mae budd-dal tai yn daladwy ar ei gyfer;

(c)         mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(c), (d) neu (e) yw—

                           (i)    cyfnod o lai ag wythnos, sydd y cyfan o’r cyfnod y mae cymhorthdal incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, neu, yn ôl fel y digwydd, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, yn daladwy ar ei gyfer; a

                         (ii)    unrhyw gyfnod arall o lai nag wythnos y mae’n daladwy ar ei gyfer;

ystyr “wythnos berthnasol” (“relevant week”) yw’r wythnos ostyngiad neu’r rhan-wythnos pan gymerwyd i ystyriaeth y cyfalaf dan sylw, yr amddifadodd y ceisydd ei hunan ohono o fewn ystyr paragraff 64(1)—

(a)         am y tro cyntaf, at y diben o benderfynu hawlogaeth y ceisydd i ostyngiad; neu

(b)         ar achlysur dilynol at y diben o benderfynu neu ailbenderfynu hawlogaeth y ceisydd i ostyngiad ar yr achlysur dilynol hwnnw, a phan barodd y penderfyniad neu’r ailbenderfyniad hwnnw fod y ceisydd naill ai’n dechrau cael neu’n peidio â chael gostyngiad;

ac os pennir mwy nag un wythnos ostyngiad drwy gyfeirio at baragraffau (a) a (b) o’r diffiniad hwn, y ddiweddaraf neu’r ddiweddarach o’r cyfryw wythnosau gostyngiad neu, yn ôl fel y digwydd, y ddiweddaraf neu’r ddiweddarach o’r cyfryw ran-wythnosau, yw’r wythnos berthnasol;

ystyr “wythnos ddilynol berthnasol” (“relevant subsequent week”) yw’r wythnos ostyngiad neu’r rhan-wythnos sy’n cynnwys y diwrnod pan wnaed y cais pellach, neu, os gwnaed mwy nag un cais pellach, pan wnaed y cais olaf o’r fath.

Rheol lleihau cyfalaf tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr

66.(1)(1) Pan drinnir ceisydd nad yw’n bensiynwr fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan baragraff 64(1) (cyfalaf tybiannol), rhaid lleihau’r swm y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu—

(a)         yn achos wythnos sy’n dilyn—

                           (i)    yr wythnos berthnasol y bodlonir mewn perthynas â hi yr amodau a bennir yn is-baragraff (2); neu

                         (ii)    yr wythnos sy’n dilyn yr wythnos berthnasol honno ac yn bodloni’r amodau hynny,

o swm sydd i’w benderfynu o dan is-baragraff (3);

(b)         yn achos wythnos nad yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddi, ond pan fo—

                           (i)    yr wythnos honno’n wythnos sy’n dilyn yr wythnos berthnasol; a

                         (ii)    yr wythnos berthnasol honno’n wythnos y bodlonir ynddi’r amod yn is-baragraff (4),

o swm sydd i’w benderfynu o dan is-baragraff (5).

(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i wythnos ostyngiad (neu, yn achos personau nad ydynt yn bensiynwyr, rhan-wythnos) pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amodau canlynol—

(a)         bod y ceisydd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan y cynllun hwn; a

(b)         oni bai am baragraff 64(1), byddai’r ceisydd wedi cael gostyngiad mwy yn y dreth gyngor o dan y cynllun hwn yn yr wythnos honno.

(3) Mewn achos y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid i’r gostyngiad yn swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu at ddibenion is-baragraff (1)(a) fod yn hafal i swm cyfanredol y canlynol—

(a)         swm sy’n hafal i’r swm ychwanegol o ostyngiad yn y dreth gyngor, y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)(b);

(b)         os yw’r ceisydd wedi hawlio budd-dal tai yn ogystal, swm unrhyw fudd-dal tai neu unrhyw swm ychwanegol o’r budd-dal hwnnw y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 49(1) o Reoliadau Budd-dal Tai 2006([175]) (cyfalaf tybiannol);

(c)         os yw’r ceisydd wedi hawlio cymhorthdal incwm yn ogystal, swm y cymhorthdal incwm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 51(1) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (cyfalaf tybiannol);

(d)         os yw’r ceisydd wedi hawlio lwfans ceisio gwaith yn ogystal, swm unrhyw lwfans ceisio gwaith ar sail incwm y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 113 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996([176]) (cyfalaf tybiannol); ac

(e)         os yw’r ceisydd wedi hawlio lwfans cyflogaeth a chymorth lwfans swm unrhyw lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 115 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008([177]) (cyfalaf tybiannol).

(4)  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), at ddibenion is-baragraff (1)(b) yr amod yw nad yw’r ceisydd yn bensiynwr ac y byddai hawl ganddo i gael gostyngiad yn y dreth gyngor yn yr wythnos berthnasol oni bai am baragraff 64(1).

(5) Mewn achos o’r fath, rhaid i swm y gostyngiad yn swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu fod yn hafal i swm cyfanredol y canlynol—

(a)         swm y budd-dal treth gyngor y byddai hawl gan y ceisydd i’w gael yn yr wythnos berthnasol oni bai am baragraff 64(1);

(b)         os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 49(1) o Reoliadau Budd-dal Tai 2006, i gael budd-dal tai neu swm ychwanegol o fudd-dal tai mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm sy’n hafal i—

                           (i)    mewn achos pan nad oes budd-dal tai yn daladwy, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael; neu

                         (ii)    mewn unrhyw achos arall, y swm sy’n hafal i’r swm ychwanegol o fudd-dal tai y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael;

(c)         os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 51(1) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987, i gael cymhorthdal incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, yn yr ystyr a roddir i “benefit week” gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael;

(d)         os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 113 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996, i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 1(3) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael; ac

(e)         os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 115 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008, i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael.

(6) Ond os yw’r swm a grybwyllir ym mharagraff (a), (b), (c), (d) neu (e) o is-baragraff (5) (“y swm perthnasol”) mewn perthynas â rhan-wythnos, rhaid penderfynu’r swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan y paragraff hwnnw drwy—

(a)         rhannu’r swm perthnasol gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y rhan-wythnos honno, a

(b)         lluosi canlyniad y cyfrifiad hwnnw gyda 7.

(7) Rhaid ailbenderfynu’r swm a benderfynwyd o dan is-baragraff (5), o dan yr is-baragraff priodol, os yw’r ceisydd yn gwneud cais pellach am ostyngiad yn y dreth gyngor ac os yw’r amodau yn is-baragraff (8) wedi eu bodloni, ac mewn achos o’r fath—

(a)         mae paragraffau (a) i (e) o is-baragraff (5) yn gymwys fel pe rhoddid y geiriau “wythnos ddilynol berthnasol” yn lle’r geiriau “wythnos berthnasol”; a

(b)         yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), mae’r swm fel y’i hail benderfynwyd yn cael effaith o’r wythnos gyntaf sy’n dilyn yr wythnos ddilynol berthnasol sydd dan sylw.

(8) Yr amodau yw—

(a)         y gwneir cais pellach 26 neu ragor o wythnosau ar ôl—

                           (i)    y dyddiad y gwnaeth y ceisydd y cais am ostyngiad yn y dreth gyngor, y triniwyd y ceisydd gyntaf mewn perthynas ag ef, fel pe bai’n meddu’r cyfalaf dan sylw o dan baragraff 64(1);

                         (ii)    mewn achos pan wnaed o leiaf un ailbenderfyniad yn unol ag is-baragraff (7), y dyddiad y gwnaeth y ceisydd gais ddiwethaf am ostyngiad yn y dreth gyngor a arweiniodd at ailbenderfynu’r swm wythnosol, neu

                       (iii)    y dyddiad y peidiodd ddiwethaf hawl y ceisydd i gael gostyngiad yn y dreth gyngor,

pa un bynnag ddigwyddodd ddiwethaf; a

(b)         byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i gael gostyngiad o’r dreth gyngor o dan y cynllun hwn, oni bai am baragraff 64(1).

(9) Rhaid i’r swm a ailbenderfynir yn unol ag is-baragraff (7) beidio â chael effaith os yw’n llai na’r swm a oedd yn gymwys yn yr achos hwnnw yn union cyn yr ailbenderfyniad; ac mewn achos o’r fath rhaid i’r swm uchaf barhau i gael effaith.

(10) At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “rhan-wythnos” (“part-week”)—

(a)         mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(a), yw cyfnod sy’n llai nag wythnos ac y caniateir gostyngiad o’r dreth gyngor ar ei gyfer o dan y cynllun hwn;

(b)         mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(b), yw cyfnod sy’n llai nag wythnos ac y mae budd-dal tai yn daladwy ar ei gyfer;

(c)         mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(c), (d) neu (e) yw—

                           (i)    cyfnod o lai ag wythnos, sydd y cyfan o’r cyfnod y mae cymhorthdal incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, neu, yn ôl fel y digwydd, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, yn daladwy ar ei gyfer; a

                         (ii)    unrhyw gyfnod arall o lai nag wythnos y mae’n daladwy ar ei gyfer;

ystyr “wythnos berthnasol” (“relevant week”) yw’r wythnos ostyngiad neu’r rhan-wythnos pan gymerwyd i ystyriaeth y cyfalaf dan sylw, yr amddifadodd y ceisydd ei hunan ohono o fewn ystyr paragraff 64(1)—

(a)         am y tro cyntaf, at y diben o benderfynu hawlogaeth y ceisydd i ostyngiad; neu

(b)         ar achlysur dilynol at y diben o benderfynu neu ailbenderfynu hawlogaeth y ceisydd i ostyngiad ar yr achlysur dilynol hwnnw, a phan barodd y penderfyniad neu’r ailbenderfyniad hwnnw fod y ceisydd naill ai’n dechrau cael neu’n peidio â chael gostyngiad,

ac os pennir mwy nag un wythnos ostyngiad drwy gyfeirio at baragraffau (a) a (b) o’r diffiniad hwn, y ddiweddaraf neu’r ddiweddarach o’r cyfryw wythnosau gostyngiad neu, yn ôl fel y digwydd, y ddiweddaraf neu’r ddiweddarach o’r cyfryw ran-wythnosau, yw’r wythnos berthnasol;

ystyr “wythnos ddilynol berthnasol” (“relevant subsequent week”) yw’r wythnos ostyngiad neu’r rhan-wythnos sy’n cynnwys y diwrnod pan wnaed y cais pellach, neu, os gwnaed mwy nag un cais pellach, pan wnaed y cais olaf o’r fath.

Cyfalaf a ddelir ar y cyd

67. Ac eithrio pan fo ceisydd yn meddu cyfalaf a ddiystyrir o dan baragraff 64(7) (cyfalaf tybiannol), os oes gan y ceisydd, ac un neu ragor o bersonau eraill, hawl fuddiannol mewn meddiant unrhyw ased cyfalaf, rhaid eu trin, yn absenoldeb tystiolaeth i’r gwrthwyneb, fel pe bai gan bob un ohonynt, mewn cyfrannau cyfartal, hawl mewn meddiant o’r holl fuddiant llesiannol yn yr ased ac mae darpariaethau blaenorol y Bennod hon yn gymwys at y diben o gyfrifo swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu, fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddir gan y ceisydd.

Cyfrifo incwm tariff o gyfalaf: pensiynwyr

68. Rhaid trin cyfalaf ceisydd sy’n bensiynwr, a gyfrifwyd yn unol â’r Rhan hon, fel pe bai’n incwm wythnosol([178]) o—

(a)         £1 am bob £500 uwchlaw £10,000 ond nid uwchlaw £16,000; a

(b)     £1 am unrhyw swm dros ben nad yw’n £500 cyflawn.

Cyfrifo incwm tariff o gyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr

69. Rhaid trin cyfalaf ceisydd nad yw’n bensiynwr, a gyfrifwyd yn unol â’r Rhan hon, fel pe bai’n incwm wythnosol([179]) o—

(a)         £1 am bob £250 cyflawn uwchlaw £6,000 ond nid uwchlaw £16,000; a

(b)     £1 am unrhyw swm dros ben nad yw’n £250 cyflawn.

RHAN 10

Myfyrwyr

PENNOD 1

Cyffredinol

Dehongli

70.(1)(1) Yn y Rhan hon—

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n cychwyn ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi, yn ôl pa un a yw’r cwrs dan sylw’n cychwyn yn y gaeaf, y gwanwyn, yr haf ynteu’r hydref, yn eu trefn; ond os gwneir yn ofynnol bod myfyrwyr yn dechrau mynychu eu cwrs yn Awst neu Fedi a pharhau i’w fynychu drwy gydol yr hydref, ystyrir bod blwyddyn academaidd y cwrs hwnnw’n cychwyn yn yr hydref yn hytrach na’r haf;

ystyr “cronfeydd mynediad” (“access funds”) yw—

(a)         grantiau a roddir o dan adran 68 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992([180]) at y diben o ddarparu cyllid i’w dalu ar sail ddisgresiynol i fyfyrwyr;

(b)         grantiau a roddir o dan adrannau 73(a) ac (c) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980([181]);

(c)         grantiau a roddir o dan erthygl 30 o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1993([182]) neu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill a wneir o dan erthygl 5 o Orchymyn Addysg Bellach (Gogledd Iwerddon) 1997([183]) sef, ym mhob achos, grantiau, neu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill, yn ôl fel y digwydd, at y diben o gynorthwyo myfyrwyr sydd mewn anawsterau ariannol;

(d)         taliadau disgresiynol a elwir “cronfeydd cymorth i ddysgwyr”, a roddir ar gael i fyfyrwyr addysg bellach gan sefydliadau, allan o gyllid a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr neu Weinidogion Cymru o ran Cymru o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002([184]) neu Brif Weithredwr Ariannu Sgiliau o dan adrannau 100 a 101 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009([185]); neu

(e)         Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn a roddir ar gael gan Weinidogion Cymru;

mae i “coleg addysg bellach” yr ystyr a roddir i “college of further education” gan Ran 1 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992([186]);

ystyr “cyfraniad” (“contribution”) yw—

(a)         unrhyw gyfraniad mewn perthynas ag incwm myfyriwr neu unrhyw berson y mae’r Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban neu awdurdod addysg yn ei gymryd i ystyriaeth wrth ganfod swm grant myfyriwr neu fenthyciad myfyriwr; neu

(b)         unrhyw symiau, a gymerir i ystyriaeth gan Weinidogion yr Alban neu awdurdod addysg wrth benderfynu swm lwfans neu fwrsari myfyriwr yn yr Alban o dan Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, sef symiau y mae Gweinidogion yr Alban neu awdurdod addysg o’r farn y byddai’n rhesymol i’r personau canlynol eu cyfrannu tuag at dreuliau’r deiliad—

                           (i)    deiliad y lwfans neu fwrsari;

                         (ii)    rhieni’r deiliad;

                       (iii)    priod neu bartner sifil rhiant y deiliad, neu berson sydd fel arfer yn byw gyda rhiant y deiliad fel pe bai’r person hwnnw’n briod neu’n bartner sifil y rhiant hwnnw; neu

                        (iv)    priod neu bartner sifil y deiliad;

ystyr “cwrs astudio” (“course of study”) yw unrhyw gwrs astudio, boed yn gwrs rhyngosod ai peidio a pha un a roddir grant am fynychu neu ymgymryd â’r cwrs ai peidio;

ystyr “incwm cyfamod” (“covenant income”) yw’r incwm gros sy’n daladwy i fyfyriwr amser llawn o dan Weithred Cyfamod gan riant y myfyriwr hwnnw;

ystyr “awdurdod addysg” (“education authority”) yw adran llywodraeth, awdurdod lleol yn yr ystyr a roddir i “local authority” fel y’i diffinnir gan adran 579 o Ddeddf Addysg 1996([187]) (dehongli), awdurdod addysg lleol yn yr ystyr a roddir i “local education authority” fel y’i diffinnir gan adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1973([188]), bwrdd addysg a llyfrgelloedd yn yr ystyr a roddir i “education and library board” a sefydlwyd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986([189]), unrhyw gorff sy’n gyngor ymchwil yn yr ystyr a roddir i “research council” at ddibenion Deddf Gwyddoniaeth a Thechnoleg 1965([190]) neu unrhyw adran llywodraeth, awdurdod, bwrdd neu gorff cyfatebol o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu unrhyw wlad arall y tu allan i Brydain Fawr;

 ystyr “cwrs astudio amser llawn” (“full-time course of study”) yw cwrs astudio amser llawn—

(a)     nas cyllidir yn gyfan gwbl nac yn rhannol gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr neu Weinidogion Cymru o ran Cymru o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002 neu Brif Weithredwr Ariannu Sgiliau, neu gwrs astudio amser llawn nas cyllidir yn gyfan gwbl nac yn rhannol gan Weinidogion yr Alban mewn coleg addysg bellach, neu gwrs astudio amser llawn sy’n gwrs o addysg uwch ac a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan Weinidogion yr Alban;

(b)         a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr neu Weinidogion Cymru o ran Cymru o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002 neu Brif Weithredwr Ariannu Sgiliau os yw’n cynnwys mwy nag 16 o oriau dysgu dan arweiniad bob wythnos i’r myfyriwr dan sylw, yn ôl y nifer o oriau dysgu dan arweiniad bob wythnos ar gyfer y myfyriwr hwnnw a bennir—

                           (i)    yn achos cwrs a gyllidir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002 neu Brif Weithredwr Ariannu Sgiliau, yng nghytundeb dysgu’r myfyriwr hwnnw a lofnodwyd ar ran y sefydliad a gyllidir gan y naill neu’r llall o’r personau hynny i gyflenwi’r cwrs hwnnw; neu

                         (ii)    yn achos cwrs a gyllidir gan Weinidogion Cymru, mewn dogfen a lofnodir ar ran y sefydliad a gyllidir gan Weinidogion Cymru i gyflenwi’r cwrs hwnnw; neu

(c)         nad yw’n addysg uwch, a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan Weinidogion yr Alban mewn coleg addysg bellach, ac sy’n cynnwys—

                           (i)    mwy nag 16 awr yr wythnos o ddysgu rhaglenedig mewn ystafell ddosbarth neu ar ffurf gweithdai o dan arweiniad uniongyrchol staff addysgu, yn unol â’r nifer o oriau a bennir mewn dogfen a lofnodir ar ran y coleg; neu

                         (ii)    16 awr neu lai bob wythnos o ddysgu rhaglenedig mewn ystafell ddosbarth neu ar ffurf gweithdai o dan arweiniad uniongyrchol staff addysgu, ac oriau ychwanegol o ddefnyddio pecynnau dysgu strwythuredig gyda chymorth gan y staff addysgu, a’r cyfanswm oriau yn fwy nag 21 awr yr wythnos ac yn unol â’r nifer o oriau a bennir mewn dogfen a lofnodir ar ran y coleg;

ystyr “myfyriwr amser llawn” (“full-time student”) yw person sy’n mynychu neu’n ymgymryd â chwrs astudio amser llawn, ac mae’n cynnwys myfyriwr ar gwrs rhyngosod;

ystyr “grant” (“grant”) (ac eithrio yn y diffiniad o “cronfeydd mynediad”) yw unrhyw fath o grant neu ddyfarniad addysgol, gan gynnwys unrhyw ysgoloriaeth, ysgoloriaeth ymchwil, arddangostal, lwfans neu fwrsari, ond nid yw’n cynnwys taliad o gronfeydd mynediad nac unrhyw daliad y mae paragraff 16 o Atodlen 7 neu baragraff 53 o Atodlen 9 (lwfansau a thaliadau ar gyfer cyrsiau astudio) yn gymwys iddo;

ystyr “incwm grant” (“grant income”) yw—

(a)         unrhyw incwm ar ffurf grant;

(b)         unrhyw gyfraniad, pa un a delir y cyfraniad ai peidio;

mae i “addysg uwch” yr ystyr a roddir i “higher education” gan Ran 2 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992;

ystyr “diwrnod olaf y cwrs” (“last day of the course”) yw—

(a)         yn achos cwrs cymwys, yw naill ai dyddiad diwrnod olaf y cwrs neu’r dyddiad y cwblheir yr arholiad terfynol mewn perthynas â’r cwrs hwnnw, pa un bynnag yw’r diweddaraf;

(b)         mewn unrhyw achos arall, dyddiad diwrnod olaf tymor academaidd terfynol y cwrs y cofrestrwyd y myfyriwr arno;

ystyr “cyfnod astudio” (“period of study”) yw—

(a)     yn achos cwrs astudio am un flwyddyn neu lai, y cyfnod sy’n cychwyn gyda dechrau’r cwrs ac yn diweddu gyda diwrnod olaf y cwrs;

(b)         yn achos cwrs astudio am fwy nag un flwyddyn, yn y flwyddyn gyntaf neu, yn ôl fel y digwydd, unrhyw flwyddyn ddilynol y cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol y cwrs, y cyfnod sy’n cychwyn gyda dechrau’r cwrs neu, yn ôl fel y digwydd, dechrau’r flwyddyn honno ac yn diweddu gyda naill ai—

                           (i)    y diwrnod cyn dechrau blwyddyn nesaf y cwrs mewn achos pan asesir grant neu fenthyciad y myfyriwr ar gyfradd sy’n briodol i fyfyriwr yn astudio drwy gydol y flwyddyn, neu, os nad oes gan y myfyriwr grant neu fenthyciad, pan fyddid wedi asesu benthyciad ar gyfradd o’r fath pe bai gan y myfyriwr hwnnw fenthyciad; neu

                         (ii)    mewn unrhyw achos arall, y diwrnod cyn dechrau’r gwyliau haf arferol sy’n briodol i gwrs y myfyriwr;

(c)         ym mlwyddyn derfynol cwrs astudio o fwy nag un flwyddyn, y cyfnod sy’n cychwyn gyda dechrau’r flwyddyn honno ac yn diweddu gyda diwrnod olaf y cwrs;

 ystyr “cyfnodau o brofiad” (“periods of experience”) yw cyfnodau o brofiad gwaith sy’n ffurfio rhan o gwrs rhyngosod;

mae i “cwrs cymwys” yr ystyr a roddir i “qualifying course” fel y’i diffinnir at ddibenion Rhannau 2 a 4 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996([191]);

mae i “cwrs rhyngosod” yr ystyr a ragnodir ar gyfer “sandwich course” yn rheoliad 2(10) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011([192]), rheoliad 2(6) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012([193]), rheoliad 4(2) o Reoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyriwr) (Yr Alban) 2007([194]) neu reoliad 2(10) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) (Gogledd Iwerddon) 2009([195]), yn ôl fel y digwydd;

ystyr “grant cynhaliaeth safonol” (“standard maintenance grant”) yw—

(a)     ac eithrio pan fo paragraff (b) neu (c) yn gymwys, yn achos myfyriwr sy’n mynychu neu’n ymgymryd â chwrs astudio ym Mhrifysgol Llundain neu sefydliad o fewn yr ardal a gyfansoddir o Ddinas Llundain a’r Dosbarth Heddlu Metropolitan, y swm a bennir am y tro ym mharagraff 2(2)(a) o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003([196]) (“Rheoliadau 2003”) ar gyfer myfyriwr o’r fath;

(b)         ac eithrio pan fo paragraff (c) yn gymwys, yn achos myfyriwr sy’n preswylio yng nghartref rhiant y myfyriwr hwnnw, y swm a bennir ym mharagraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2003;

(c)         yn achos myfyriwr sy’n cael lwfans neu fwrsari o dan Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, y swm o arian a bennir fel y “standard maintenance allowance” am y flwyddyn berthnasol briodol i’r myfyriwr a bennir yn y Student Support in Scotland Guide a ddyroddir gan Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban, neu’r hyn sy’n cyfateb agosaf yn achos bwrsari a ddarperir gan goleg addysg bellach neu awdurdod addysg lleol;

(d)         mewn unrhyw achos arall, y swm a bennir ym mharagraff 2(2) o Atodlen 2 i Reoliadau 2003 ac eithrio’r symiau a bennir yn is-baragraff (2)(a) neu (b) o’r paragraff hwnnw;

ystyr “myfyriwr” (“student”) yw person, ac eithrio person sy’n cael lwfans hyfforddi, sy’n mynychu neu’n ymgymryd ag—

(a)         cwrs astudio mewn sefydliad addysgol; neu

(b)         cwrs cymwys;

ystyr “benthyciad myfyriwr” (“student loan”) yw benthyciad tuag ar gynhaliaeth myfyriwr yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998([197]), adran 73 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 neu Erthygl 3 o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998([198]) ac mae’n cynnwys, yn yr Alban, bwrsari myfyriwr ifanc a delir o dan reoliad 4(1)(c) o Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr (Yr Alban) 2007([199]).

(2) At ddibenion y diffiniad o “myfyriwr amser llawn” (“full-time student”) yn is-baragraff (1), rhaid ystyried bod person yn mynychu neu, yn ôl fel y digwydd, yn ymgymryd â chwrs astudio amser llawn, neu ei fod ar gwrs rhyngosod—

(a)          yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), yn achos person sy’n mynychu neu’n ymgymryd â rhan o gwrs modiwlaidd a fyddai’n gwrs astudio amser llawn at ddibenion y Rhan hon, am y cyfnod sy’n cychwyn ar y diwrnod y mae’r rhan honno o’r cwrs yn dechrau ac yn diweddu—

                           (i)    ar y diwrnod olaf y mae’r person wedi ei gofrestru gyda’r sefydliad addysgol fel un sy’n mynychu neu’n ymgymryd â’r rhan honno fel cwrs astudio amser llawn; neu

                         (ii)    ar ba bynnag ddyddiad cynharach (os oes un) pan fo’r person yn gadael y cwrs yn derfynol neu’n cael ei ddiarddel ohono;

(b)         mewn unrhyw achos arall, drwy gydol y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad pan fo’r person yn dechrau mynychu neu ymgymryd â’r cwrs ac yn diweddu ar ddiwrnod olaf y cwrs neu ar ba bynnag ddyddiad cynharach (os oes un) pan fo’r person yn gadael y cwrs yn derfynol neu’n cael ei ddiarddel ohono.

(3) At ddibenion paragraff (a) o is-baragraff (2), mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw’n cynnwys—

(a)         pan fo person wedi methu arholiadau neu wedi methu â chwblhau’n llwyddiannus fodiwl a berthynai i gyfnod pan oedd y person yn mynychu neu’n ymgymryd â rhan o’r cwrs fel cwrs astudio amser llawn, unrhyw gyfnod yr oedd y person yn mynychu neu’n ymgymryd â’r cwrs mewn perthynas ag ef at y diben o ailsefyll yr arholiadau hynny neu’r modiwl hwnnw;

(b)         unrhyw gyfnod o wyliau o fewn y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw neu sy’n dilyn yn union ar ôl y cyfnod hwnnw, ac eithrio pan fo’r person wedi cofrestru gyda’r sefydliad addysgol i fynychu neu ymgymryd â’r modiwl terfynol yn y cwrs hwnnw, a’r gwyliau hynny yn dilyn yn union ar ôl y diwrnod olaf pan yw’n ofynnol i’r person fynychu neu ymgymryd â’r cwrs.

(4) Yn is-baragraff (2), ystyr “cwrs modiwlaidd” (“modular course”) yw cwrs astudio sy’n cynnwys dau neu ragor o fodiwlau, y mae’n ofynnol bod person wedi cwblhau nifer penodedig ohonynt yn llwyddiannus cyn y bydd y sefydliad addysgol yn ystyried bod y person hwnnw wedi cwblhau’r cwrs.

Trin myfyrwyr

71. Mae’r cynllun hwn yn cael effaith mewn perthynas â myfyrwyr yn ddarostyngedig i baragraff 72 (myfyrwyr a eithrir o’r hawlogaeth i gael gostyngiad treth gyngor o dan y cynllun hwn) a darpariaethau canlynol y Rhan hon.

Myfyrwyr a eithrir o’r hawlogaeth i gael gostyngiad treth gyngor o dan y cynllun hwn

72.(1)(1) Y myfyrwyr a eithrir o’r hawlogaeth i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn yw’r canlynol—

(a)         myfyrwyr sy’n bensiynwyr([200]); a

(b)         yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (7)—

                           (i)    myfyrwyr amser llawn, a

                         (ii)    myfyrwyr sy’n bersonau a drinnir fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr.

(2) Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys i fyfyriwr—

(a)         sy’n berson sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;

(b)         sy’n unig riant;

(c)         y byddai ei swm cymwysadwy, oni bai am y paragraff hwn, yn cynnwys y premiwm anabledd neu’r premiwm anabledd difrifol;

(d)         y byddai ei swm cymwysadwy, yn cynnwys y premiwm anabledd pe na bai’r myfyriwr yn cael ei drin fel pe bai’n alluog i weithio yn rhinwedd penderfyniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 171E o DCBNC;

(e)         sydd yn analluog i weithio, neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, ac wedi bod yn analluog felly neu’n cael ei drin felly yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(f)          sydd â’i alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, neu a drinnir ef fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, ac y bu ganddo, neu y triniwyd ef fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn unol â Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008([201]) am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân a wahenir gan doriad o ddim mwy na 84 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(g)         sydd â phartner sydd hefyd yn fyfyriwr amser llawn, os trinnir y myfyriwr neu’r partner hwnnw fel pe bai’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc;

(h)         sy’n geisydd sengl y lleolwyd plentyn gydag ef gan awdurdod lleol neu gorff gwirfoddol o fewn yr ystyr a roddir i “placed” gan Ddeddf Plant 1989([202]) neu, yn yr Alban, wedi ei letya gydag ef yn yr ystyr a roddir i “boarded out” gan Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968([203]);

(i)          sydd—

                           (i)    o dan 21 mlwydd oed ac nad yw ei gwrs astudio yn gwrs addysg uwch,

                         (ii)    yn 21 mlwydd oed ac wedi cyrraedd yr oedran hwnnw yn ystod cwrs astudio nad yw’n gwrs addysg uwch, neu

                       (iii)    yn berson ifanc cymwys neu’n blentyn yn yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “qualifying young person” a “child” gan adran 142 o DCBNC (plentyn a pherson ifanc cymwys);

(j)          os, mewn perthynas ag ef—

                           (i)    penderfynwyd ar ofyniad atodol yn yr ystyr a roddir i “supplementary requirement” o dan baragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003;

                         (ii)    rhoddwyd lwfans neu, yn ôl fel y digwydd, bwrsari, sy’n cynnwys swm o dan reoliad 4 o Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr (Yr Alban) 2007 neu, yn ôl fel y digwydd, o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg (Bwrsariaethau) (Yr Alban) 2007([204]), mewn perthynas â threuliau a dynnir;

                       (iii)    gwnaed taliad o dan adran 2 o Ddeddf Addysg 1962([205]) neu o dan neu yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

                        (iv)    rhoddwyd grant o dan reoliad 13 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005([206]), rheoliad 13 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 2000([207]), neu reoliad 41 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) (Gogledd Iwerddon) 2009; neu

                          (v)    penderfynwyd ar ofyniad atodol yn yr ystyr a roddir i “supplementary requirement” o dan baragraff 9 o Atodlen 6 i Reoliadau Dyfarniadau Myfyrwyr (Gogledd Iwerddon) 2003([208]) neu gwnaed taliad o dan Erthygl 50(3) o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986,

o ganlyniad i anabledd y myfyriwr oherwydd byddardod.

(3) Mae is-baragraff (2)(i)(ii) yn gymwys i geisydd hyd at ddiwedd y cwrs, yn unig, y cyrhaeddodd y ceisydd yr oedran o 21 ynddo.

(4) At ddibenion is-baragraff (2), unwaith y bydd is-baragraff (2)(e) yn gymwys i fyfyriwr amser llawn, os yw’r myfyriwr hwnnw wedyn, am gyfnod o 56 diwrnod neu lai, yn peidio â bod yn analluog i weithio, neu gael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, yna, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan â’r myfyriwr yn analluog i weithio drachefn, neu pan drinnir ef drachefn fel pe bai’n analluog i weithio, rhaid cymhwyso’r is-baragraff hwnnw i’r myfyriwr hwnnw ar unwaith, am gyhyd ag y bo’n parhau’n analluog i weithio, neu cyhyd ag y’i trinnir fel pe bai’n analluog i weithio.

(5) Yn is-baragraff (2)(i) mae’r cyfeiriad at gwrs addysg uwch yn gyfeiriad at gwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988([209]).

(6) Rhaid trin myfyriwr amser llawn y mae is-baragraff (2)(i) yn gymwys iddo fel pe bai’n bodloni’r is-baragraff hwnnw o’r dyddiad y gwnaeth y myfyriwr hwnnw gais am y gofyniad atodol, lwfans, bwrsari neu daliad, yn ôl fel y digwydd.

(7) Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys i fyfyriwr amser llawn am y cyfnod a bennir yn is-baragraff (8) os—

(a)         yw’r myfyriwr, ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn academaidd, gyda chydsyniad y sefydliad addysgol perthnasol, yn peidio â mynychu neu ymgymryd â chwrs oherwydd bod y myfyriwr—

                           (i)    yn ymgymryd â gofalu am berson arall; neu

                         (ii)    yn sâl;

(b)         y myfyriwr yn ddiweddarach wedi peidio ag ymgymryd â gofalu am y person hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, os yw’r myfyriwr yn ddiweddarach wedi gwella o’r salwch hwnnw; ac

(c)         nad yw’r myfyriwr yn gymwys i gael grant neu fenthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r cyfnod a bennir yn is-baragraff (8).

(8) Y cyfnod a bennir at ddibenion is-baragraff (7) yw’r cyfnod, na fydd yn hwy nag un flwyddyn, sy’n cychwyn ar y diwrnod y peidiodd y myfyriwr ag ymgymryd â gofalu am y person hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, y diwrnod y cafodd y myfyriwr adferiad o’r salwch hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn—

(a)         y diwrnod y mae’r myfyriwr yn ailddechrau mynychu neu ymgymryd â’r cwrs; neu

(b)          y diwrnod y bydd y sefydliad addysgol perthnasol wedi cytuno y caiff y myfyriwr ailddechrau mynychu neu ymgymryd â’r cwrs,

pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.

PENNOD 2

Incwm

Cyfrifo incwm grant

73.(1)(1) Rhaid i’r swm o incwm grant myfyriwr a gymerir i ystyriaeth wrth asesu incwm y myfyriwr, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), fod y cyfan o incwm grant y myfyriwr.

(2) Rhaid hepgor o incwm grant myfyriwr unrhyw daliad—

(a)         a fwriedir i ddiwallu ffioedd dysgu neu ffioedd arholiad;

(b)         mewn perthynas ag anabledd y myfyriwr;

(c)         a fwriedir i ddiwallu gwariant ychwanegol mewn cysylltiad ag astudiaeth breswyl yn ystod y tymor, i ffwrdd o sefydliad addysgol y myfyriwr;

(d)         oherwydd bod y myfyriwr yn cynnal cartref yn rhywle arall, ar wahân i’r man lle mae’r myfyriwr yn preswylio yn ystod ei gwrs;

(e)         ar gyfer unrhyw berson arall, ond hynny yn unig os yw’r person hwnnw’n preswylio y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad oes swm cymwysadwy mewn perthynas â’r person hwnnw;

(f)          a fwriedir i ddiwallu cost llyfrau a chyfarpar;

(g)          a fwriedir i ddiwallu costau teithio a dynnir o ganlyniad i bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs;

(h)         a fwriedir ar gyfer costau gofal plant i ddibynnydd sy’n blentyn;

(i)          o fwrsari addysg uwch i ymadawyr gofal, a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf Plant 1989.

(3) Pan nad oes gan fyfyriwr fenthyciad myfyriwr ac nas trinnir ef fel pe bai’n meddu benthyciad o’r fath, rhaid hepgor o incwm grant y myfyriwr—

(a)         y swm o £303 am bob blwyddyn academaidd mewn perthynas â chostau teithio; a

(b)         y swm o £390 am bob blwyddyn academaidd tuag at gostau llyfrau a chyfarpar,

pa un a dynnir y cyfryw gostau ai peidio.

(4) Rhaid hepgor hefyd, o incwm grant myfyriwr y grant ar gyfer dibynyddion a elwir yn lwfans dysgu rhieni, a delir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthygl 3 o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 neu adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

(5)  Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (6) a (7), rhaid dosrannu incwm grant myfyriwr—

(a)         yn ddarostyngedig i is-baragraff (8), mewn achos yw’n briodoladwy i’r cyfnod astudio, yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod hwnnw sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y cyfnod astudio ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cyfnod astudio;

(b)         mewn unrhyw achos arall, yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y cyfnod y mae’n daladwy ar ei gyfer ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cyfnod y mae’n daladwy ar ei gyfer.

(6) Rhaid dosrannu unrhyw grant mewn perthynas â dibynyddion a delir o dan adran 63(6) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968([210]) (grantiau mewn perthynas â darparu hyfforddiant i swyddogion awdurdodau ysbyty) ac unrhyw swm a fwriedir ar gyfer cynhaliaeth dibynyddion o dan Ran 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003 yn gyfartal dros y cyfnod o 52 wythnos neu, os oes 53 o wythnosau gostyngiad (gan gynnwys rhan-wythnosau) yn y flwyddyn, 53 wythnos.

(7) Mewn achos pan fo myfyriwr yn cael benthyciad myfyriwr, neu y gallai’r myfyriwr fod wedi caffael benthyciad myfyriwr drwy gymryd camau rhesymol ond nad oedd wedi gwneud hynny, rhaid i unrhyw swm a fwriadwyd ar gyfer cynnal dibynyddion ac nad yw is-baragraff (6) na pharagraff 77(2) (symiau eraill sydd i’w diystyru) yn gymwys iddo, gael ei ddosrannu dros yr un cyfnod ag y dosrennir y benthyciad myfyriwr neu, yn ôl fel y digwydd, y byddid wedi ei ddosrannu.

(8) Yn achos myfyriwr ar gwrs rhyngosod, rhaid hepgor unrhyw gyfnodau o brofiad sydd o fewn y cyfnod astudio, a rhaid dosrannu incwm grant y myfyriwr yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn dilyn yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod o brofiad ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cyfnod astudio.

Cyfrifo incwm cyfamod pan asesir cyfraniad

74.(1)(1) Pan fo myfyriwr yn cael incwm ar ffurf grant yn ystod cyfnod astudio a chyfraniad wedi ei asesu, rhaid i’r swm o incwm cyfamod y myfyriwr, a gymerir i ystyriaeth ar gyfer y cyfnod hwnnw ac unrhyw wyliau haf sy’n dilyn yn union wedyn, fod y swm cyfan o’r incwm cyfamod, llai, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), swm y cyfraniad.

(2) Rhaid penderfynu swm wythnosol incwm cyfamod y myfyriwr—

(a)         drwy rannu swm yr incwm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) gyda 52 neu 53, pa un bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau; a

(b)         drwy ddiystyru £5 o’r swm canlyniadol.

(3) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin y cyfraniad fel pe bai wedi ei gynyddu o ba bynnag swm (os oes un) y mae’r swm a hepgorir o dan baragraff 73(2)(g) (cyfrifo incwm grant) yn brin o’r swm a bennir ym mharagraff 7(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003 (gwariant teithio).

Incwm cyfamod pan nad asesir incwm grant neu nad asesir cyfraniad

75.(1)(1) Pan nad yw myfyriwr yn cael incwm ar ffurf grant, rhaid cyfrifo swm incwm cyfamod y myfyriwr fel a ganlyn—

(a)         rhaid diystyru unrhyw symiau a fwriadwyd ar gyfer unrhyw wariant a bennir ym mharagraff 73(2)(a) i (e) (cyfrifo incwm grant) ac sy’n angenrheidiol o ganlyniad i bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs;

(b)         rhaid dosrannu unrhyw incwm cyfamod, hyd at swm y grant cynhaliaeth safonol, nas diystyrir felly, yn gyfartal rhwng wythnosau’r cyfnod astudio;

(c)         rhaid diystyru, o’r swm a ddosrannwyd felly, y swm y byddid wedi ei ddiystyru o dan baragraff 73(2)(f) a (3) (cyfrifo incwm grant) pe bai’r myfyriwr wedi bod yn cael y grant cynhaliaeth safonol; a

(d)         rhaid rhannu’r balans, os oes un, gyda 52 neu 53, pa un bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, a’i drin fel incwm wythnosol y mae’n rhaid diystyru £5 ohono.

(2) Pan fo myfyriwr yn cael incwm ar ffurf grant ac nad oes cyfraniad wedi ei asesu, rhaid cyfrifo swm incwm cyfamod y myfyriwr yn unol â pharagraffau (a) i (d) o is-baragraff (1), ac eithrio—

(a)         rhaid lleihau gwerth y grant cynhaliaeth safonol o swm y cyfryw incwm grant llai swm sy’n hafal i gyfanswm unrhyw symiau a ddiystyrir o dan baragraff 73(2)(a) i (e); a

(b)     rhaid lleihau’r swm sydd i’w ddiystyru o dan is-baragraff (1)(c) o swm sy’n hafal i gyfanswm unrhyw symiau a ddiystyrir o dan baragraff 73(2)(f) ac (g) a (3).

Y berthynas â symiau sydd i’w diystyru o dan Atodlen 7

76. Rhaid peidio â diystyru unrhyw ran o incwm cyfamod neu incwm grant myfyriwr o dan baragraff 19 o Atodlen 7 (diystyru rhai taliadau elusennol a gwirfoddol etc.).

Symiau eraill sydd i’w diystyru

77.(1)(1) At y diben o ganfod incwm arall ac eithrio incwm grant, incwm cyfamod a benthyciadau a drinnir fel incwm yn unol â pharagraff 78 (trin benthyciadau myfyriwr), rhaid diystyru unrhyw symiau a fwriadwyd ar gyfer unrhyw wariant a bennir ym mharagraff 73(2) (cyfrifo incwm grant), sy’n angenrheidiol o ganlyniad i bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs.

(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys onid yw, ac i’r graddau y mae, y gwariant angenrheidiol yn fwy, neu’n debygol o fod yn fwy, na chyfanswm y symiau a ddiystyrir o dan baragraff 73(2) neu (3), 74(3), 75(1)(a) neu (c) neu 78(5) (cyfrifo incwm grant, incwm cyfamod a thrin benthyciadau myfyriwr) ynglŷn â gwariant cyffelyb.

Trin benthyciadau myfyriwr

78.(1)(1) Rhaid trin benthyciad myfyriwr fel incwm.

(2) Wrth gyfrifo’r swm wythnosol o’r benthyciad sydd i’w gymryd i ystyriaeth fel incwm—

(a)         mewn perthynas â chwrs sy’n parhau am un flwyddyn academaidd neu lai, rhaid dosrannu benthyciad sy’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod, sy’n dechrau gydag—

                           (i)    ac eithrio mewn achos pan fo is-baragraff (ii) yn gymwys, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf yr un flwyddyn academaidd;

                         (ii)    pan yw’n ofynnol bod y myfyriwr yn dechrau mynychu’r cwrs yn Awst, neu pan fo hyd y cwrs yn llai nag un flwyddyn academaidd, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y cwrs

ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cwrs;

(b)         mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs sy’n cychwyn ac eithrio ar 1 Medi, rhaid dosrannu benthyciad sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod—

                           (i)    sy’n dechrau gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd honno; a

                         (ii)    yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y flwyddyn academaidd honno,

ond gan hepgor unrhyw wythnosau gostyngiad sy’n digwydd yn gyfan gwbl o fewn y chwarter pan, ym marn yr awdurdod, y cymerir y cyfnod hwyaf o unrhyw wyliau, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae i “chwarter” yr ystyr a roddir i “quarter” at ddibenion Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005;

(c)         mewn perthynas â blwyddyn academaidd derfynol cwrs (nad yw’n gwrs sy’n parhau am un flwyddyn), rhaid dosrannu benthyciad sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd derfynol honno yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod, sy’n dechrau gydag—

                           (i)    ac eithrio mewn achos pan fo is-baragraff (ii) yn gymwys, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd honno;

                         (ii)    pan fo’r flwyddyn academaidd derfynol yn cychwyn ar 1 Medi, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl y cynharaf o 1 Medi neu ddiwrnod cyntaf tymor yr hydref,

ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cwrs;

(d)         mewn unrhyw achos arall, rhaid dosrannu’r benthyciad yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod sy’n dechrau gyda’r cynharaf o’r canlynol—

                           (i)    diwrnod cyntaf yr wythnos ostyngiad gyntaf ym Medi; neu

                         (ii)    yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl diwrnod cyntaf tymor yr hydref,

ac yn diweddu gyda'r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu’r diwrnod olaf ym Mehefin, ac ym mhob achos, o’r swm wythnosol fel y’i dosrannwyd rhaid diystyru £10.

(3) Rhaid trin myfyriwr fel pe bai’n meddu benthyciad myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd os—

(a)         rhoddwyd benthyciad myfyriwr i’r myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno; neu

(b)         y gallai’r myfyriwr gaffael benthyciad o’r fath mewn perthynas â’r flwyddyn honno drwy gymryd camau rhesymol i wneud hynny.

(4) Pan drinnir myfyriwr fel pe bai’n meddu benthyciad myfyriwr o dan is-baragraff (3), mae swm y benthyciad myfyriwr y mae’n rhaid ei gymryd i ystyriaeth fel incwm, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), fel a ganlyn—

(a)         yn achos myfyriwr y rhoddir benthyciad myfyriwr iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd, swm sy’n hafal i—

                           (i)    swm y benthyciad myfyriwr mwyaf y gall y myfyriwr hwnnw ei gaffael mewn perthynas â’r flwyddyn honno drwy gymryd camau rhesymol i wneud hynny; a

                         (ii)    unrhyw gyfraniad, pa un a dalwyd y cyfraniad hwnnw i’r myfyriwr ai peidio;

(b)         yn achos myfyriwr na roddwyd benthyciad myfyriwr iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd, swm y benthyciad myfyriwr mwyaf y byddid yn ei roi i’r myfyriwr hwnnw—

                           (i)    pe bai’r myfyriwr yn cymryd pob cam rhesymol i gael y benthyciad myfyriwr mwyaf y mae modd iddo’i gaffael mewn perthynas â’r flwyddyn honno; a

                         (ii)    pe na wneid unrhyw ddidyniad o’r benthyciad hwnnw yn rhinwedd gweithredu prawf modd.

(5) Rhaid didynnu o swm yr incwm a gymerir i ystyriaeth o dan is-baragraff (4)—

(a)         y swm o £303 am bob blwyddyn academaidd mewn perthynas â chostau teithio; a

(b)         y swm o £390 am bob blwyddyn academaidd tuag at gost llyfrau a chyfarpar,

pa un a dynnir costau o’r fath ai peidio.

Trin benthyciadau ffioedd

79. Rhaid diystyru fel incwm unrhyw fenthyciad ar gyfer ffioedd, a elwir hefyd yn fenthyciad ffioedd neu’n fenthyciad cyfrannu at ffioedd, a roddir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthygl 3 o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1988, adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 neu adran 73(f) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.

Trin taliadau o gronfeydd mynediad

80.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i daliadau o gronfeydd mynediad nad ydynt yn daliadau y mae paragraff 83(2) neu (3) (incwm a drinnir fel cyfalaf) yn gymwys iddynt.

(2) Rhaid diystyru fel incwm unrhyw daliad o gronfeydd mynediad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo.

(3)  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) o’r paragraff hwn a pharagraff 40 o Atodlen 7 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), rhaid diystyru fel incwm—

(a)         unrhyw daliadau o gronfeydd mynediad a fwriedir ac a ddefnyddir ar gyfer eitem o fwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref, neu rent ceisydd sengl neu, yn ôl fel y digwydd, y ceisydd neu unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, a

(b)         unrhyw daliadau o gronfeydd mynediad a ddefnyddir ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd yn atebol,

hyd at £20 yr wythnos.

(4) Pan wneir taliad o gronfeydd mynediad—

(a)         ar neu ar ôl 1 Medi neu ddiwrnod cyntaf y cwrs, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf, ond cyn cael unrhyw fenthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, a’r taliad wedi ei fwriadu at y diben o bontio’r cyfnod hyd nes ceir y benthyciad myfyriwr; neu

(b)         cyn diwrnod cyntaf y cwrs i berson gan ddisgwyl y bydd y person hwnnw’n dod yn fyfyriwr,

rhaid diystyru’r taliad hwnnw fel incwm.

Diystyru cyfraniad

81. Pan fo’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn fyfyriwr ac at y diben o asesu cyfraniad i grant neu fenthyciad myfyriwr y myfyriwr, cymerwyd i ystyriaeth incwm y partner arall, rhaid diystyru swm sy’n hafal i’r cyfraniad hwnnw at y diben o asesu incwm y partner arall hwnnw.

Diystyriad pellach o incwm myfyriwr

82. Pan fo unrhyw ran o incwm myfyriwr wedi ei chymryd i ystyriaeth eisoes at y diben o asesu hawlogaeth y myfyriwr hwnnw i gael grant neu fenthyciad myfyriwr, rhaid diystyru’r swm a gymerwyd i ystyriaeth wrth asesu incwm y myfyriwr hwnnw.

Incwm a drinnir fel cyfalaf

83.(1)(1) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm ar ffurf ad-daliad o dreth incwm a ddidynnwyd o incwm cyfamod myfyriwr.

(2) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm a delir o gronfeydd mynediad fel cyfandaliad sengl.

(3) Rhaid i swm a delir o gronfeydd mynediad fel cyfandaliad sengl, a fwriedir ac a ddefnyddir ar gyfer eitem ac eithrio bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent, neu a ddefnyddir ar gyfer eitem ac eithrio unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd hwnnw neu unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd yn atebol amdanynt, gael eu diystyru fel cyfalaf, ond am gyfnod, yn unig o 52 wythnos o ddyddiad y taliad.

Diystyru newidiadau sy’n digwydd yn ystod gwyliau’r haf

84. Wrth gyfrifo incwm myfyriwr, rhaid i awdurdod ddiystyru unrhyw newid yn y grant cynhaliaeth safonol, sy’n digwydd yn ystod y gwyliau haf cydnabyddedig sy’n briodol i gwrs y myfyriwr, os nad yw’r gwyliau hynny’n ffurfio rhan o gyfnod astudio’r myfyriwr o’r dyddiad y digwyddodd y newid hyd at ddiwedd y gwyliau hynny.

RHAN 11

Gostyngiadau estynedig

Gostyngiadau estynedig: pensiynwyr

85. Mae paragraffau 86 i 91 yn gymwys mewn perthynas â cheiswyr sy’n bensiynwyr.

Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr

86.(1)(1) Ac eithrio yn achos ceisydd sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth, bydd gan geisydd sydd â hawl i ostyngiad o dan y cynllun hwn (yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B) yr hawl i gael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)—

(a)         os oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys;

(b)         os peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys oherwydd bod y ceisydd neu bartner y ceisydd—

                           (i)    wedi cychwyn cyflogaeth fel enillydd cyflogedig neu hunangyflogedig;

                         (ii)    wedi cynyddu eu henillion o gyflogaeth o’r fath; neu

                       (iii)    wedi cynyddu nifer yr oriau a weithid mewn cyflogaeth o’r fath,

a disgwylir i’r gyflogaeth honno neu, yn ôl fel y digwydd, y cynnydd hwnnw yn yr enillion, neu’r cynnydd hwnnw yn nifer yr oriau, barhau am bum wythnos neu ragor;

(c)         os oedd y ceisydd neu bartner y ceisydd wedi bod â hawl i gael, ac wedi bod yn cael, budd-dal cyfrannol cymwys neu gyfuniad o fudd-daliadau cyfrannol cymwys am gyfnod di-dor o 26 wythnos o leiaf, cyn y diwrnod y peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys; a

(d)         nad oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael, ac nad oedd yn cael, budd-dal cymwys ar sail incwm, yn yr wythnos ostyngiad olaf pan oedd hawl gan y ceisydd, neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys.

(2) Rhaid trin ceisydd fel pe bai hawl ganddo i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B—

(a)         os peidiodd hawl y ceisydd i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn oherwydd bod ceisydd wedi gadael yr annedd yr oedd y ceisydd yn preswylio ynddi;

(b)         os oedd y diwrnod y gadawodd y ceisydd yr annedd naill ai yn yr wythnos y peidiodd ei hawlogaeth i fudd-dal cyfrannol cymwys, neu yn yr wythnos flaenorol; ac

(c)         os peidiodd yr hawlogaeth i fudd-dal cyfrannol cymwys mewn unrhyw un o’r amgylchiadau a restrir yn is-baragraff (1)(b).

Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr

87.(1)(1) Pan fo gan geisydd hawl i gael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys), mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn cychwyn ar y diwrnod sy’n dilyn yn union ar ôl y diwrnod y daeth hawl y ceisydd, neu bartner y ceisydd, i gael budd-dal cyfrannol cymwys i ben.

(2) Mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn dod i ben—

(a)         ar ddiwedd cyfnod o bedair wythnos; neu

(b)         ar y dyddiad pan nad yw’r ceisydd sy’n cael y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn atebol am dreth gyngor, os yw hynny’n digwydd gyntaf.

Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr

88.(1)(1) Ar gyfer unrhyw wythnos yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) y mae hawl gan y ceisydd i’w gael yw’r mwyaf o’r canlynol—

(a)         swm y gostyngiad treth gyngor yr oedd hawl gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B yn yr wythnos ostyngiad olaf cyn i hawl y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys ddod i ben;

(b)         swm y gostyngiad o dan y cynllun hwn y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B ar gyfer unrhyw wythnos ostyngiad yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, pe na bai paragraff 86 (gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr) yn gymwys i’r ceisydd; neu

(c)         swm y gostyngiad o dan y cynllun hwn y byddai hawl wedi bod gan bartner y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B, pe na bai paragraff 86 yn gymwys i’r ceisydd.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos symudwr.

(3) Pan fo ceisydd yn cael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) o dan y paragraff hwn, a bod partner y ceisydd yn gwneud cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn, rhaid i awdurdod beidio â dyfarnu gostyngiad yn unol â’r cais hwnnw yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig.

Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) – symudwyr: pensiynwyr

89.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)         i symudwr([211]); a

(b)         o’r dydd Llun sy’n dilyn diwrnod y symud.

(2) Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a ddyfernir, o’r dydd Llun pan ddaw’r paragraff hwn yn gymwys tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig, yw swm y gostyngiad a ddyfarnwyd i’r symudwr o dan y cynllun hwn ar gyfer yr wythnos ostyngiad olaf cyn y daeth hawl y symudwr, neu bartner y symudwr, i gael budd-dal cyfrannol cymwys i ben.

(3) Os yw atebolrwydd symudwr i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd newydd yn atebolrwydd i ail awdurdod, caiff y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) gymryd ffurf taliad gan yr awdurdod cyntaf i—

(a)         yr ail awdurdod; neu

(b)         yn uniongyrchol i’r symudwr.

Y berthynas rhwng gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a hawlogaeth i ostyngiad treth gyngor yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B

90.(1)(1) Os byddai gostyngiad ceisydd o dan y cynllun hwn wedi dod i ben pan beidiodd hawl y ceisydd i fudd-dal cyfrannol cymwys yn yr amgylchiadau a restrir ym mharagraff 86(1)(b) (gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr), ni fydd y gostyngiad hwnnw’n peidio â chael effaith tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig.

(2) Ni fydd Rhan 12 (cyfnod yr hawlogaeth a newid yn yr amgylchiadau) yn gymwys i unrhyw ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) sy’n daladwy yn unol â pharagraff 88(1)(a) neu baragraff 89(2) (swm gostyngiad estynedig – symudwyr: pensiynwyr).

Gostyngiadau parhaus pan hawlir credyd pensiwn y wladwriaeth: pensiynwyr

91.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)         hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn;

(b)         is-baragraff (2) wedi ei fodloni; ac

(c)         naill ai—

                           (i)    y ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth neu, os parhaodd hawlogaeth y ceisydd i lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm y tu hwnt i’r oedran hwnnw, wedi cyrraedd 65 mlwydd oed; neu

                         (ii)    partner y ceisydd wedi hawlio credyd pensiwn y wladwriaeth mewn gwirionedd.

(2) Ni fodlonir yr is-baragraff hwn ac eithrio pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ardystio wrth yr awdurdod fod partner y ceisydd wedi hawlio credyd pensiwn y wladwriaeth mewn gwirionedd, neu fod—

(a)         dyfarniad y ceisydd o—

                           (i)    cymhorthdal incwm wedi terfynu oherwydd bod y ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

                         (ii)    lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm wedi terfynu oherwydd bod y ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth neu 65 mlwydd oed; a

(b)         y ceisydd wedi hawlio neu’n cael ei drin fel pe bai wedi hawlio neu ei bod yn ofynnol i’r ceisydd wneud hawliad am gredyd pensiwn y wladwriaeth.

(3)  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), mewn achos pan fo’r paragraff hwn yn gymwys rhaid parhau i ddyfarnu gostyngiad o dan y cynllun hwn am y cyfnod o 4 wythnos sy’n cychwyn ar y diwrnod sy’n dilyn y diwrnod y peidiodd hawlogaeth y ceisydd i gael cymhorthdal incwm neu, yn ôl fel y digwydd, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, os yw’r ceisydd, a chyhyd ag y bo’r ceisydd, fel arall yn bodloni’r amodau ar gyfer hawlogaeth i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn.

(4) Pan ddyfernir gostyngiad o dan y cynllun hwn am y cyfnod o 4 wythnos yn unol ag is-baragraff (3) uchod, a diwrnod olaf y cyfnod hwnnw’n digwydd ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod olaf wythnos ostyngiad, yna rhaid parhau i ddyfarnu’r gostyngiad o dan y cynllun hwn tan ddiwedd yr wythnos ostyngiad y mae diwrnod olaf y cyfnod hwnnw’n digwydd ynddi.

(5) Drwy gydol y cyfnod o 4 wythnos a bennir yn is-baragraff (3) ac unrhyw gyfnod pellach a bennir yn is-baragraff (4)—

(a)         rhaid diystyru’r cyfan o incwm a chyfalaf y ceisydd;

(b)         uchafswm gostyngiad treth gyngor y ceisydd fydd yr hyn a oedd yn gymwys yn achos y ceisydd yn union cyn dechrau’r cyfnod hwnnw.

(6) Rhaid cyfrifo’r uchafswm gostyngiad treth gyngor yn unol â pharagraff 27(1) os, er y dyddiad pan gyfrifwyd ef ddiwethaf—

(a)         bu cynnydd yn atebolrwydd treth gyngor y ceisydd; neu

(b)      daeth newid yn ddyladwy yn y didyniad o dan baragraff 28 (didyniadau annibynyddion).

Gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr (cyffredinol)

92. Mae paragraffau 93 i 102 yn gymwys mewn perthynas â cheiswyr nad ydynt yn bensiynwyr.

Gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

93.(1)(1) Bydd gan geisydd sydd â hawl i ostyngiad o dan y cynllun hwn (yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D) yr hawl i gael gostyngiad estynedig—

(a)         os oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cymwys ar sail incwm;

(b)         os peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cymwys ar sail incwm oherwydd bod y ceisydd neu bartner y ceisydd—

                           (i)    wedi cychwyn cyflogaeth fel enillydd cyflogedig neu hunangyflogedig;

                         (ii)    wedi cynyddu eu henillion o gyflogaeth o’r fath; neu

                       (iii)    wedi cynyddu nifer yr oriau a weithid mewn cyflogaeth o’r fath,

a disgwylir i’r gyflogaeth honno neu, yn ôl fel y digwydd, yr enillion uwch hynny, neu’r nifer uwch o oriau, barhau am bum wythnos neu ragor; ac

(c)         os oedd y ceisydd neu bartner y ceisydd wedi bod â hawl i gael, ac wedi bod yn cael, budd-dal cymwys ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith neu gyfuniad o’r budd-daliadau hynny am gyfnod di-dor o 26 wythnos o leiaf, cyn y dyddiad y peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cymwys ar sail incwm.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(c), rhaid trin ceisydd neu bartner ceisydd fel pe bai hawl wedi bod ganddo i gael, ac wedi bod yn cael, budd-dal cymwys ar sail incwm neu lwfans ceisio gwaith yn ystod unrhyw gyfnod o lai na phum wythnos pan nad oedd hawl gan y ceisydd na phartner y ceisydd, mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw, i gael unrhyw un o’r budd-daliadau hynny oherwydd bod y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ymgymryd â gwaith am dâl o ganlyniad i gymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth.

(3) At ddibenion y paragraff hwn, pan fo ceisydd neu bartner ceisydd yn meddu’r hawl i gael, ac yn cael, lwfans ceisio gwaith cyd-hawliad, rhaid eu trin fel pe baent yn meddu’r hawl i gael, ac yn cael, lwfans ceisio gwaith.

(4) Rhaid trin ceisydd fel pe bai hawl ganddo i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D—

(a)         os peidiodd hawl y ceisydd i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn oherwydd bod ceisydd wedi gadael yr annedd yr oedd y ceisydd yn preswylio ynddi;

(b)         os oedd y diwrnod y gadawodd y ceisydd yr annedd naill ai yn yr wythnos y peidiodd ei hawlogaeth i fudd-dal cymwys ar sail incwm, neu yn yr wythnos flaenorol; ac

(c)         os peidiodd yr hawlogaeth i fudd-dal cymwys ar sail incwm mewn unrhyw un o’r amgylchiadau a restrir yn is-baragraff (1)(b).

(5) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os oedd rheoliad 6(5) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (gwaith am dâl: costau tai) yn gymwys mewn perthynas â cheisydd ar y diwrnod cyn y peidiodd hawlogaeth y ceisydd hwnnw i gael cymhorthdal incwm.

Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

94.(1)(1) Pan fo hawl gan geisydd i gael gostyngiad estynedig, mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn cychwyn ar y diwrnod sy’n dilyn yn union ar ôl y diwrnod y daeth hawl y ceisydd, neu bartner y ceisydd, i gael budd-dal cymwys ar sail incwm i ben.

(2) Mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn dod i ben—

(a)         ar ddiwedd cyfnod o bedair wythnos; neu

(b)         ar y dyddiad pan na fydd y ceisydd y mae’r gostyngiad estynedig yn daladwy iddo yn atebol am dreth gyngor, os digwydd hynny gyntaf.

Swm y gostyngiad estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

95.(1)(1) Ar gyfer unrhyw wythnos yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, swm y gostyngiad estynedig y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan y cynllun hwn yw’r mwyaf o’r canlynol—

(a)         swm y gostyngiad yr oedd hawl gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D yn yr wythnos ostyngiad olaf cyn i hawl y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cymwys ar sail incwm ddod i ben;

(b)         swm y gostyngiad y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D ar gyfer unrhyw wythnos ostyngiad yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, pe na bai paragraff 93 (gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn gymwys i’r ceisydd; neu

(c)         swm y gostyngiad y byddai hawl wedi bod gan bartner y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D, pe na bai paragraff 93 yn gymwys i’r ceisydd.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos symudwr.

(3) Pan fo ceisydd yn cael gostyngiad estynedig o dan y paragraff hwn, a phartner y ceisydd yn gwneud cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn, rhaid i’r awdurdod beidio â dyfarnu unrhyw ostyngiad o dan y cynllun hwn yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig.

Gostyngiadau estynedig – symudwyr: personau nad ydynt yn bensiynwyr

96.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)         i symudwr; a

(b)         o’r dydd Llun sy’n dilyn diwrnod y symud.

(2) Swm y gostyngiad estynedig a ddyfernir, o’r dydd Llun pan ddaw’r paragraff hwn yn gymwys tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig, yw swm y gostyngiad o dan y cynllun hwn, y byddai hawl wedi bod gan y symudwr i’w gael pe na bai hawl y symudwr, neu bartner y symudwr, i gael budd-dal cymwys ar sail incwm wedi dod i ben.

(3) Pan fo atebolrwydd symudwr i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd newydd yn atebolrwydd i ail awdurdod, caiff y gostyngiad estynedig gymryd ffurf taliad gan yr awdurdod cyntaf i—

(a)         yr ail awdurdod; neu

(b)         yn uniongyrchol i’r symudwr.

Y berthynas rhwng gostyngiad estynedig a hawlogaeth i ostyngiad yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D

97.(1)(1) Os byddai gostyngiad ceisydd o dan y cynllun hwn wedi dod i ben pan beidiodd hawl y ceisydd i fudd-dal cymwys ar sail incwm yn yr amgylchiadau a restrir ym mharagraff 93(1)(b), ni fydd yr hawlogaeth honno’n peidio â chael effaith tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig.

(2) Ni fydd paragraffau 104 a 105 (cyfnod yr hawlogaeth a newid yn yr amgylchiadau) yn gymwys i unrhyw ostyngiad estynedig sy’n daladwy yn unol â pharagraff 95(1)(a) neu 96(2) (swm y gostyngiad estynedig – symudwyr: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr

98.(1)(1) Bydd gan geisydd sydd â hawl i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn (yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D) yr hawl i gael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)—

(a)         os oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys;

(b)         os peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys oherwydd bod y ceisydd neu bartner y ceisydd—

                           (i)    wedi cychwyn cyflogaeth fel enillydd cyflogedig neu hunangyflogedig;

                         (ii)    wedi cynyddu eu henillion o gyflogaeth o’r fath; neu

                       (iii)    wedi cynyddu nifer yr oriau a weithid mewn cyflogaeth o’r fath,

a disgwylir i’r gyflogaeth honno neu, yn ôl fel y digwydd, yr enillion uwch hynny, neu’r nifer uwch o oriau, barhau am bum wythnos neu ragor;

(c)         os oedd y ceisydd neu bartner y ceisydd wedi bod â hawl i gael, ac wedi bod yn cael, budd-dal cyfrannol cymwys neu gyfuniad o fudd-daliadau cyfrannol cymwys am gyfnod di-dor o 26 wythnos o leiaf, cyn y diwrnod y peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys; a

(d)         nad oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael, ac nad oedd yn cael, budd-dal cymwys ar sail incwm, yn yr wythnos ostyngiad olaf pan oedd hawl gan y ceisydd, neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys.

(2) Rhaid trin ceisydd fel pe bai hawl ganddo i ostyngiad o dan y cynllun hwn yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D—

(a)         os peidiodd hawl y ceisydd i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn oherwydd bod y ceisydd wedi gadael yr annedd yr oedd y ceisydd yn preswylio ynddi;

(b)         os oedd y diwrnod y gadawodd y ceisydd yr annedd naill ai yn yr wythnos y peidiodd ei hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys, neu yn yr wythnos flaenorol; ac

(c)         os peidiodd yr hawlogaeth i fudd-dal cyfrannol cymwys mewn unrhyw un o’r amgylchiadau a restrir yn is-baragraff (1)(b).

Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr

99.(1)(1) Pan fo hawl gan geisydd i gael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys), mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn cychwyn ar y diwrnod sy’n dilyn yn union ar ôl y diwrnod y daeth hawl y ceisydd, neu bartner y ceisydd, i gael budd-dal cyfrannol cymwys i ben.

(2) Mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn dod i ben—

(a)         ar ddiwedd cyfnod o bedair wythnos; neu

(b)         ar y dyddiad pan nad yw’r ceisydd sy’n cael y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn atebol am dreth gyngor, os yw hynny’n digwydd gyntaf.

Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr

100.(1)(1) Ar gyfer unrhyw wythnos yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a fydd yn daladwy i geisydd o dan y cynllun hwn fydd y mwyaf o’r canlynol—

(a)         swm y gostyngiad yr oedd hawl gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D yn yr wythnos ostyngiad olaf cyn i hawl y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys ddod i ben;

(b)         swm y gostyngiad y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D ar gyfer unrhyw wythnos ostyngiad yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, pe na bai paragraff 98 (gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn gymwys i’r ceisydd; neu

(c)         swm y gostyngiad y byddai hawl wedi bod gan bartner y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D, pe na bai paragraff 98 yn gymwys i’r ceisydd.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos symudwr.

(3) Pan fo ceisydd yn cael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) o dan y paragraff hwn, os yw partner y ceisydd yn gwneud cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn, rhaid i’r awdurdod beidio â dyfarnu unrhyw ostyngiad o dan y cynllun hwn yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig.

Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) – symudwyr: personau nad ydynt yn bensiynwyr

101.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)         i symudwr; a

(b)         o’r dydd Llun sy’n dilyn diwrnod y symud.

(2) Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a ddyfernir, o’r dydd Llun pan ddaw’r paragraff hwn yn gymwys tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig, yw swm y gostyngiad a ddyfarnwyd i’r symudwr o dan y cynllun hwn ar gyfer yr wythnos ostyngiad olaf cyn y daeth hawl y symudwr, neu bartner y symudwr, i gael budd-dal cyfrannol cymwys i ben.

(3) Os yw atebolrwydd symudwr i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd newydd yn atebolrwydd i ail awdurdod, caiff y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) gymryd ffurf taliad gan yr awdurdod hwn i—

(a)         yr ail awdurdod; neu

(b)         yn uniongyrchol i’r symudwr.

Y berthynas rhwng gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a hawlogaeth i ostyngiad yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D

102.(1)(1) Os byddai gostyngiad ceisydd o dan y cynllun hwn wedi dod i ben pan beidiodd hawl y ceisydd i fudd-dal cyfrannol cymwys yn yr amgylchiadau a restrir ym mharagraff 98(1)(b) (gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr), ni fydd y gostyngiad hwnnw’n peidio â chael effaith tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig.

(2) Ni fydd paragraffau 104 a 105 (cyfnod yr hawlogaeth a newid yn yr amgylchiadau) yn gymwys i unrhyw ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) sy’n daladwy yn unol â pharagraffau 100(1)(a) neu 101(2) (swm y gostyngiad estynedig – symudwyr: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

Gostyngiadau estynedig: symudwyr i mewn i ardal awdurdod: personau nad ydynt yn bensiynwyr

103.(1)(1) Pan fo—

(a)         cais wedi ei wneud i awdurdod am ostyngiad o dan y cynllun hwn, a

(b)         y ceisydd, neu bartner y ceisydd, yn cael gostyngiad estynedig gan—

                           (i)    awdurdod bilio arall yng Nghymru;

                         (ii)    awdurdod bilio yn Lloegr;

                       (iii)    awdurdod lleol yn yr Alban; neu

                        (iv)    awdurdod lleol yng Ngogledd Iwerddon,

rhaid i’r awdurdod leihau unrhyw ostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan y cynllun hwn, o swm y gostyngiad estynedig hwnnw.

(2) At ddibenion y paragraff hwn mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” fel y’i diffinnir yn adran 1 o Ddeddf 1992.

RHAN 12

Cyfnod yr hawlogaeth a newid yn yr amgylchiadau

Y dyddiad pan fo hawlogaeth yn dechrau

104. Bydd gan unrhyw berson sy’n gwneud cais, neu y gwneir cais mewn perthynas ag ef, am ostyngiad o dan y cynllun hwn ac sydd â’r hawl fel arall i gael y gostyngiad hwnnw, hawl o’r fath o’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud yn unol â pharagraff 108 (y dyddiad pan wneir cais).

Y dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith

105.(1)(1) Ac eithrio mewn achosion pan fo paragraff 57 (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau, etc) yn gymwys, ac yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn ac (yn achos ceiswyr sy’n bensiynwyr), paragraff 106 (newid yn yr amgylchiadau pan delir credyd pensiwn y wladwriaeth), mae newid yn yr amgylchiadau sy’n effeithio ar hawlogaeth i ostyngiad o dan y cynllun hwn, neu ar swm y gostyngiad (“newid yn yr amgylchiadau”), yn cael effaith o’r diwrnod cyntaf y mae’r newid hwnnw’n digwydd mewn gwirionedd.

(2) Os y newid hwnnw yw terfynu hawlogaeth i unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal, y dyddiad y bydd y newid yn digwydd mewn gwirionedd fydd y diwrnod sy’n dilyn yn union ar ôl diwrnod olaf yr hawlogaeth i’r budd-dal hwnnw.

(3)  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), os y newid yn yr amgylchiadau yw newid yn swm y dreth gyngor sy’n daladwy, mae’n cael effaith o’r diwrnod y newidir y swm hwnnw mewn gwirionedd.

(4) Os y newid yn yr amgylchiadau yw newid yn y swm y mae person yn atebol i’w dalu mewn perthynas â threth gyngor o ganlyniad i reoliadau o dan adran 13 o Ddeddf 1992 (symiau gostyngedig o dreth gyngor) neu newidiadau yn y disgownt y gall annedd fod yn ddarostyngedig iddo o dan adran 11 neu 12 o’r Ddeddf honno, bydd yn cael effaith o’r diwrnod y bydd y newid yn y swm yn cael effaith.

(5) Os y newid yn yr amgylchiadau yw fod y ceisydd yn caffael partner, mae’r newid yn cael effaith ar y diwrnod y mae’r caffaeliad hwnnw’n digwydd.

(6) Os y newid yn yr amgylchiadau yw marwolaeth partner y ceisydd neu ymwahaniad y ceisydd â’r partner, mae’n cael effaith ar ddiwrnod y farwolaeth neu’r ymwahaniad.

(7) Os y newid yn yr amgylchiadau yw fod incwm, neu gynnydd yn swm incwm, ac eithrio budd-dal neu gynnydd yn swm budd-dal o dan DCBNC, wedi ei dalu mewn perthynas â chyfnod blaenorol ac nad oedd hawlogaeth i’r swm hwnnw o incwm yn ystod y cyfnod hwnnw, rhaid i’r newid yn yr amgylchiadau gael effaith o’r diwrnod cyntaf y byddai’r cyfryw incwm, pe bai wedi ei dalu fesul ysbaid priodol i’r incwm hwnnw yn y cyfnod hwnnw, wedi bod yn ddyladwy i’w gymryd i ystyriaeth at ddibenion y cynllun hwn.

(8) Heb leihau dim ar effaith is-baragraff (7), os y newid yn yr amgylchiadau yw talu incwm neu ôl-ddyled o incwm mewn perthynas â chyfnod blaenorol, mae’r newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith o’r diwrnod cyntaf y byddai’r cyfryw incwm, pe bai wedi ei dalu yn amserol fesul ysbaid priodol i’r incwm hwnnw yn y cyfnod hwnnw, wedi bod yn ddyladwy i’w gymryd i ystyriaeth at ddibenion y cynllun hwn.

Newid yn yr amgylchiadau pan delir credyd pensiwn y wladwriaeth

106.(1)(1) Mae is-baragraffau (2) i (4) yn gymwys pan fo—

(a)         y ceisydd yn cael credyd pensiwn y wladwriaeth;

(b)         y swm o gredyd pensiwn y wladwriaeth a ddyfernir i’r ceisydd yn newid, o ganlyniad i newid yn amgylchiadau’r ceisydd neu er mwyn cywiro camgymeriad swyddogol; ac

(c)         y newid yn y swm o gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n daladwy i’r ceisydd yn achosi newid yn swm y gostyngiad y mae’r ceisydd yn ei gael o dan y cynllun hwn.

(2) Os y newid mewn amgylchiad yw fod cynnydd yn y swm o gredyd pensiwn sy’n daladwy i’r ceisydd yn achos i—

(a)         cynnydd yn y gostyngiad a gaiff y ceisydd o dan y cynllun hwn, mae’r newid yn cael effaith ar y diwrnod y daw credyd pensiwn y wladwriaeth yn daladwy ar gyfradd uwch; neu

(b)         lleihad yn y gostyngiad a gaiff y ceisydd o dan y cynllun hwn, mae’r newid yn cael effaith ar y diwrnod—

                           (i)    y daw credyd pensiwn y wladwriaeth yn daladwy ar gyfradd uwch; neu

                         (ii)    y caiff yr awdurdod hysbysiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol o’r cynnydd yn swm credyd pensiwn y wladwriaeth,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(3) Os y newid mewn amgylchiad (“y newid perthnasol”) yw fod credyd pensiwn y wladwriaeth a delir i’r ceisydd wedi ei leihau ac o ganlyniad fod y gostyngiad a gaiff y ceisydd o dan y cynllun hwn yn lleihau—

(a)         mewn achos pan fo credyd pensiwn y wladwriaeth a delir i’r ceisydd wedi ei leihau oherwydd bod y ceisydd wedi methu â hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn brydlon ynghylch newid yn ei amgylchiadau, mae’r newid perthnasol yn cael effaith ar y diwrnod y lleihawyd credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

(b)         mewn unrhyw achos arall mae’r newid perthnasol yn cael effaith o’r diwrnod cyntaf—

                           (i)    y caiff credyd pensiwn y wladwriaeth ei leihau; neu

                         (ii)    y caiff yr awdurdod hysbysiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol o’r lleihad yn swm credyd pensiwn y wladwriaeth,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(4) Os y newid mewn amgylchiad yw fod credyd pensiwn y wladwriaeth a delir i’r ceisydd wedi ei leihau ac o ganlyniad i’r newid fod swm y gostyngiad a gaiff y ceisydd o dan y cynllun hwn yn cynyddu, mae’r newid yn cael effaith ar y diwrnod y daw credyd pensiwn y wladwriaeth yn daladwy ar y gyfradd is.

(5) Os y newid mewn amgylchiad sy’n digwydd yw fod dyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth wedi ei wneud i’r ceisydd neu bartner y ceisydd a bydd hynny’n achosi lleihad yn swm y gostyngiad a gaiff y ceisydd o dan y cynllun hwn, mae’r newid yn cael effaith ar y diwrnod—

(a)         pan fo’r hawlogaeth i gael credyd pensiwn y wladwriaeth yn dechrau; neu

(b)         pan fo’r awdurdod yn cael hysbysiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol o’r dyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(6) Yn achos ceisydd y dyfarnwyd iddo, neu i’w bartner, gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys y credyd cynilion yn unig, os digwydd—

(a)         newid amgylchiadau o fath a ddisgrifir yn unrhyw un o’r is-baragraffau (2) i (5), o ganlyniad i gyfrifiad neu amcangyfrif perthnasol; a

(b)         newid amgylchiadau sy’n benderfyniad perthnasol,

a bod pob un ohonynt yn peri newid yn swm y gostyngiad y mae’r ceisydd yn ei gael o dan y cynllun hwn, bydd y newid amgylchiadau y cyfeirir ato ym mharagraff (b) yn cael effaith o’r diwrnod a bennir yn is-baragraff (2), (3), (4) neu (5) yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas â’r newid y cyfeirir ato ym mharagraff (a).

(7) Os y newid mewn amgylchiad sy’n digwydd yw fod dyfarniad o gredyd gwarant wedi ei wneud i’r ceisydd neu bartner y ceisydd a bydd hynny’n achosi cynnydd yn swm y gostyngiad a gaiff y ceisydd o dan y cynllun hwn, mae’r newid yn cael effaith ar y diwrnod y mae’r credyd gwarant yn daladwy gyntaf.

(8) Os byddai newid yn yr amgylchiadau, oni bai am yr is-baragraff hwn, yn cael effaith o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn o fewn y cyfnod o 4 wythnos a bennir ym mharagraff 91 (gostyngiadau parhaus pan hawlir credyd pensiwn y wladwriaeth: pensiynwyr), mae’r newid hwnnw’n cael effaith ar y diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod o 4 wythnos.

(9) Yn y paragraff hwn—

ystyr “camgymeriad swyddogol” (“official error”) yw camgymeriad a wnaed gan—

(a)         yr awdurdod neu berson—

                           (i)    a awdurdodwyd i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau’r awdurdod mewn perthynas â’r cynllun hwn; neu

                         (ii)    sy’n darparu gwasanaethau mewn perthynas â’r cynllun hwn, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i’r awdurdod; neu

(b)         swyddog—

                           (i)    yr Adran Gwaith a Phensiynau; neu

                         (ii)    y Comisiynwyr Cyllid a Thollau,

tra’n gweithredu fel y cyfryw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw gamgymeriad a achoswyd yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan unrhyw berson neu gorff nas pennir ym mharagraff (a) neu (b) o’r diffiniad hwn, nac unrhyw wall cyfreithiol nas adnabuwyd fel gwall ac eithrio yn rhinwedd penderfyniad dilynol gan lys;

 ystyr “cyfrifiad neu amcangyfrif perthnasol” (“relevant calculation or estimate”) yw’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o incwm a chyfalaf y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd, a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion dyfarnu credyd pensiwn y wladwriaeth;

ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant determination”) yw newid yn y penderfyniad o incwm a chyfalaf y ceisydd, gan yr awdurdod gan ddefnyddio’r cyfrifiad neu amcangyfrif perthnasol, yn unol â pharagraff 33(1) (cyfrifo incwm pensiynwr mewn achosion o gredyd cynilion yn unig).

RHAN 13

Ceisiadau

Pwy gaiff wneud cais

107.(1)(1) Yn achos—

(a)         cwpl neu (yn ddarostyngedig i baragraff (b)) aelodau priodas amlbriod, rhaid i gais gael ei wneud gan ba un bynnag ohonynt y cytunant ddylai wneud y cais neu, os methant â chytuno, gan ba un bynnag ohonynt y penderfyna’r awdurdod; neu

(b)         aelodau o briodas amlbriod y mae paragraff 34 (cyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr, sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol) yn gymwys iddynt, rhaid i gais gael ei wneud gan ba un bynnag o’r partïon i’r briodas gynharaf sy’n parhau mewn bodolaeth y cytunant ddylai wneud y cais neu, os methant â chytuno, gan ba un bynnag ohonynt y penderfyna’r awdurdod.

(2) Pan fo person, sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd, yn analluog am y tro i weithredu, ac—

(a)         y Llys Gwarchod wedi penodi dirprwy sydd â phŵer i hawlio neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal ar ran y person hwnnw; neu

(b)         yn yr Alban, gweinyddir ystad y person hwnnw gan oruchwyliwr barnwrol neu unrhyw warcheidwad sy’n gweithredu neu a benodwyd o dan Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000([212]) sydd â phŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal ar ran y person hwnnw; neu

(c)         atwrnai sydd â phŵer cyffredinol neu bŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, i gael budd-dal, wedi ei benodi gan y person hwnnw o dan Ddeddf Atwrneiaethau 1971([213]), Deddf Atwrneiaethau Parhaus 1985([214]) neu Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005([215]) neu rywfodd arall,

caiff y dirprwy, goruchwyliwr barnwrol, gwarcheidwad neu atwrnai hwnnw, yn ôl fel y digwydd, wneud cais ar ran y person hwnnw.

(3) Pan fo person, sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd, yn analluog am y tro i weithredu, ac nad yw is-baragraff (2) yn gymwys i’r person hwnnw, caiff yr awdurdod, os gwneir cais ysgrifenedig iddo gan berson sydd, os yw’n berson naturiol, dros 18 mlwydd oed, benodi’r person hwnnw i arfer, ar ran y person sy’n analluog i weithredu, unrhyw hawl a allai fod gan y person sy’n analluog i weithredu o dan y cynllun hwn, ac i gael a delio, ar ran y person hwnnw ag unrhyw symiau sy’n daladwy i’r person hwnnw.

(4) Pan fo person, sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd, yn analluog am y tro i weithredu, a’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penodi person i weithredu ar ran y person hwnnw o dan reoliad 33 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Hawliadau a Thaliadau) 1987([216]) (personau analluog i weithredu), caiff yr awdurdod, os yw’r person a benodwyd felly yn cydsynio, drin y person hwnnw fel pe bai’r person hwnnw wedi ei benodi gan yr awdurdod o dan is-baragraff (3).

(5) Pan fo’r awdurdod wedi gwneud penodiad o dan is-baragraff (3) neu’n trin person fel penodai o dan is-baragraff (4)—

(a)         caiff ddirymu’r penodiad ar unrhyw adeg;

(b)         caiff y person a benodwyd ymddiswyddo o’i swydd ar ôl rhoi 4 wythnos o rybudd ysgrifenedig i’r awdurdod o’i fwriad i wneud hynny;

(c)         rhaid i unrhyw benodiad o’r fath derfynu pan hysbysir yr awdurdod o benodiad person a grybwyllir yn is-baragraff (2).

(6) Caniateir gwneud unrhyw beth o dan y cynllun hwn y mae’n ofynnol ei wneud gan neu i unrhyw berson sy’n analluog am y tro i weithredu, gan neu i’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (2), neu gan neu i’r person a benodir, neu a drinnir fel pe bai wedi ei benodi, o dan y paragraff hwn ac y mae derbynneb unrhyw berson o’r fath a benodwyd felly am unrhyw swm a dalwyd yn rhyddhad dilys i’r awdurdod.

(7) Rhaid i’r awdurdod—

(a)         hysbysu unrhyw berson sy’n gwneud cais ynghylch y ddyletswydd a osodir gan baragraff 113(1)(a) (dyletswydd i hysbysu ynghylch newid yn yr amgylchiadau);

(b)         esbonio’r canlyniadau posibl (gan gynnwys erlyn) os methir â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno; ac

(c)         nodi’r amgylchiadau y gallai newid ynddynt effeithio ar yr hawlogaeth i gael gostyngiad neu ar swm y gostyngiad.

Y dyddiad pan wneir cais

108.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), y dyddiad pan wneir cais yw—

(a)         mewn achos pan fo—

                           (i)    dyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys credyd gwarant wedi ei wneud i’r ceisydd neu bartner y ceisydd, a

                         (ii)    y cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn wedi ei wneud o fewn un mis i’r dyddiad y cafwyd, yn swyddfa briodol yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr hawliad am y credyd pensiwn y wladwriaeth honno sy’n cynnwys credyd gwarant,

diwrnod cyntaf yr hawlogaeth i gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys credyd gwarant, sy’n codi o’r hawliad hwnnw;

(b)         mewn achos pan fo—

                           (i)    ceisydd neu bartner y ceisydd yn berson sy’n cael credyd gwarant,

                         (ii)    y ceisydd yn dod yn atebol am y tro cyntaf i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd a feddiennir gan y ceisydd fel ei gartref, a

                       (iii)    y swyddfa ddynodedig yn cael y cais a wnaed i’r awdurdod o fewn un mis i ddyddiad y newid,

y diwrnod pan fo’r newid yn digwydd;

(c)         mewn achos pan fo—

                           (i)    dyfarniad o gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol wedi ei wneud i’r ceisydd neu bartner y ceisydd, a

                         (ii)    y cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn wedi ei wneud o fewn un mis i’r dyddiad y cafwyd yr hawliad am y cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith, lwfans cyflogaeth a chymorth neu gredyd cynhwysol,

diwrnod cyntaf yr hawlogaeth i gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu gredyd cynhwysol sy’n codi o’r hawliad hwnnw;

(d)         mewn achos pan fo—

                           (i)    ceisydd neu bartner y ceisydd yn berson sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol,

                         (ii)    y ceisydd yn dod yn atebol am y tro cyntaf i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd a feddiennir gan y ceisydd fel ei gartref, a

                       (iii)    y swyddfa ddynodedig yn cael y cais a wnaed i’r awdurdod o fewn un mis i ddyddiad y newid,

y dyddiad pan fo’r newid yn digwydd;

(e)         mewn achos pan fo—

                           (i)    y ceisydd yn gyn-bartner person yr oedd hawl ganddo, ar y dyddiad y bu farw’r person hwnnw, neu y gwahanodd y ceisydd a’r person hwnnw, i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn, a

                         (ii)    y ceisydd yn gwneud cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn o fewn un mis i ddyddiad y farwolaeth neu’r gwahanu,

dyddiad y farwolaeth neu’r gwahanu;

(f)          ac eithrio pan fodlonir paragraff (a), (b) neu (e), mewn achos pan fo’r swyddfa ddynodedig wedi cael cais, a gwblhawyd yn briodol, o fewn un mis (neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod) i’r dyddiad y dyroddwyd ffurflen gais i’r ceisydd, wedi i’r ceisydd yn gyntaf hysbysu’r awdurdod, ym mha bynnag fodd, o’i fwriad i wneud cais, dyddiad yr hysbysiad cyntaf;

(g)         mewn unrhyw achos arall, y dyddiad y ceir y cais yn y swyddfa ddynodedig.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(c) yn unig, rhaid trin person y dyfarnwyd iddo lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm fel pe bai hawl ganddo i gael y lwfans hwnnw ar gyfer unrhyw ddiwrnodau sy’n union ragflaenu diwrnod cyntaf y dyfarniad hwnnw pan fyddai’r person hwnnw, oni bai am reoliadau a wnaed o dan—

(a)         yn achos lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, paragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 (diwrnodau aros); neu

(b)         yn achos lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, paragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (diwrnodau aros),

wedi bod â hawl i gael y lwfans hwnnw.

(3) O ran y diffyg y cyfeirir ato ym mharagraff 7 o Atodlen 1 i’r cynllun hwn (cais dros y teleffon)—

(a)         pan fo’r diffyg wedi ei gywiro o fewn un mis (neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod) i’r dyddiad y tynnwyd sylw at y diffyg ddiwethaf gan yr awdurdod, rhaid i’r awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud yn briodol y tro cyntaf;

(b)         pan nad yw’r diffyg wedi ei gywiro o fewn un mis (neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod) i’r dyddiad y tynnwyd sylw at y diffyg ddiwethaf gan yr awdurdod, rhaid i’r awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud yn briodol y tro cyntaf os yw o’r farn bod ganddo wybodaeth ddigonol i wneud penderfyniad ar y cais.

(4) Rhaid i awdurdod drin cais diffygiol fel pe bai wedi ei wneud yn ddilys y tro cyntaf, os yw’r amodau a bennir yn is-baragraff (5)(a), (b) neu (c), mewn unrhyw achos penodol, wedi eu bodloni.

(5) Yr amodau yw—

(a)         pan fo paragraff 4(1)(a) o Atodlen 1 (ffurflen anghyflawn) yn gymwys, bod yr awdurdod yn cael, yn y swyddfa ddynodedig, y cais wedi ei gwblhau’n briodol neu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i’w gwblhau neu’r dystiolaeth, o fewn un mis ar ôl gofyn am y cyfryw, neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod; neu

(b)         pan fo paragraff 4(1)(b) o Atodlen 1 (cais nad yw ar y ffurflen gymeradwy, neu’r awdurdod yn gofyn am wybodaeth bellach) yn gymwys—

                           (i)    bod y swyddfa ddynodedig yn cael y ffurflen gymeradwy, a anfonwyd at y ceisydd, wedi ei chwblhau’n briodol o fewn un mis ar ôl ei hanfon at y ceisydd; neu, yn ôl fel y digwydd,

                         (ii)    bod y ceisydd yn cyflenwi pa bynnag wybodaeth neu dystiolaeth y gofynnwyd amdani o dan baragraff 4 o’r Atodlen honno, o fewn un mis ar ôl gofyn am y cyfryw,

neu, yn y naill achos neu’r llall, o fewn pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod; neu

(c)         pan fo’r awdurdod wedi gofyn am wybodaeth bellach, bod yr awdurdod yn cael, yn y swyddfa ddynodedig, y cais wedi ei gwblhau’n briodol neu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani o fewn un mis ar ôl gofyn am y cyfryw, neu o fewn pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod.

(6) Ac eithrio yn achos cais a wneir gan berson a drinnir fel pe na bai’n byw ym Mhrydain Fawr, pan nad yw person wedi dod yn atebol i awdurdod am dreth gyngor, ond rhagwelir y bydd y person hwnnw’n atebol felly o fewn cyfnod o 13 wythnos (y cyfnod perthnasol), caiff y person hwnnw wneud cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw mewn perthynas â’r dreth honno ac, ar yr amod bod atebolrwydd yn codi o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i’r awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud ar y diwrnod y mae’r atebolrwydd am y dreth yn codi.

(7) Ac eithrio yn achos cais a wneir gan berson a drinnir fel pe na bai’n byw ym Mhrydain Fawr, pan nad oes hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn ar yr adeg y mae’r awdurdod yn cael y cais, ond ym marn yr awdurdod, oni fydd yr amgylchiadau yn newid, bydd hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn am gyfnod sy’n cychwyn ddim hwyrach na’r drydedd wythnos ostyngiad ar ddeg ar ôl y dyddiad y gwnaed y cais (neu pa bynnag gyfnod arall a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod), caiff yr awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud ar ddyddiad yn yr wythnos ostyngiad sy’n union ragflaenu’r wythnos ostyngiad gyntaf yn y cyfnod o hawlogaeth hwnnw, a dyfarnu gostyngiad yn unol â hynny.

(8) Yn y paragraff hwn, ystyr “swyddfa briodol yr Adran Gwaith a Phensiynau” (“appropriate DWP office”) yw swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n ymdrin â chredyd pensiwn y wladwriaeth, neu swyddfa sydd fel arfer ar agor i’r cyhoedd ar gyfer cael hawliadau am gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith neu lwfans cyflogaeth a chymorth.

Ôl-ddyddio ceisiadau: pensiynwyr

109.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yr amser i wneud cais gan bensiynwr o dan y cynllun hwn, o ran unrhyw ddiwrnod pan fo’r ceisydd, ar wahân i fodloni’r amod o fod yn gwneud cais, yn meddu’r hawl i gael gostyngiad o’r fath, yw’r diwrnod hwnnw a’r cyfnod o dri mis sy’n dilyn yn union ar ei ôl.

(2) Mewn unrhyw achos pan fo paragraff 108(1)(a) (y dyddiad pan wneir cais) yn gymwys, nid yw is-baragraff (1) yn rhoi hawl i berson wneud cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod sy’n gynharach na 3 mis cyn y dyddiad y gwneir yr hawliad am gredyd pensiwn y wladwriaeth (neu y trinnir fel pe bai wedi ei wneud, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Hawliadau a Thaliadau) 1987([217])).

Ôl-ddyddio ceisiadau: personau nad ydynt yn bensiynwyr

110.(1)(1) Pan fo ceisydd, sy’n berson nad yw’n bensiynwr—

(a)         yn gwneud cais o dan y cynllun hwn sy’n cynnwys (neu y mae’r ceisydd yn ddiweddarach yn gofyn am iddo gynnwys) cyfnod cyn bo’r cais wedi ei wneud; a

(b)         o ddiwrnod yn y cyfnod hwnnw, hyd at y dyddiad y gwnaeth y ceisydd y cais (neu y gofynnodd yn ddiweddarach am i’r cais gynnwys cyfnod blaenorol), yr oedd gan y ceisydd, yn ddi-dor, reswm da dros fethu â gwneud cais (neu ofyn am i’r cais gynnwys y cyfnod hwnnw),

rhaid trin y cais fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad a benderfynir yn unol ag is-baragraff (2).

(2) Y dyddiad hwnnw yw’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)         y diwrnod cyntaf pan oedd gan y ceisydd reswm da yn ddi-dor;

(b)         y diwrnod 3 mis cyn y dyddiad y gwnaed y cais;

(c)         y diwrnod 3 mis cyn y dyddiad pan ofynnodd y ceisydd am i’r cais gynnwys cyfnod blaenorol.

Tystiolaeth a gwybodaeth

111.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i berson sy’n gwneud cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn fodloni is-baragraff (2), mewn perthynas â’r person sy’n gwneud y cais yn ogystal ag unrhyw berson arall y mae’n gwneud y cais mewn perthynas ag ef.

(2) Bodlonir yr is-baragraff hwn mewn perthynas â pherson—

(a)         os cyflwynir y cais ynghyd ag—

                           (i)    datganiad o rif yswiriant gwladol y person a gwybodaeth neu dystiolaeth sy’n cadarnhau bod y rhif hwnnw wedi ei ddyrannu i’r person; neu

                         (ii)    gwybodaeth neu dystiolaeth a fydd yn galluogi awdurdod i ganfod y rhif yswiriant gwladol sydd wedi ei ddyrannu i’r person; neu

(b)         os yw’r person wedi gwneud cais am i rif yswiriant gwladol gael ei ddyrannu i’r person hwnnw, ac os cyflwynwyd y cais am ostyngiad ynghyd ag—

                           (i)    tystiolaeth o’r cais am i rif yswiriant gwladol gael ei ddyrannu felly; a

                         (ii)    gwybodaeth neu dystiolaeth sy’n galluogi ei ddyrannu felly.

(3) Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)         yn achos plentyn neu berson ifanc y gwneir cais am ostyngiad mewn perthynas ag ef;

(b)         i berson—

                           (i)    a drinnir at ddibenion y cynllun hwnnw fel pe na bai ym Mhrydain Fawr;

                         (ii)    sy’n destun rheolaeth ymfudo o fewn yr ystyr a roddir i “a person subject to immigration control” gan adran 115(9)(a) o Ddeddf Ymfudo a Lloches 1999([218]); a

                       (iii)    na ddyrannwyd iddo rif yswiriant gwladol eisoes.

(4)  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), rhaid i berson sy’n gwneud cais, neu berson y dyfarnwyd iddo ostyngiad o dan y cynllun hwn, ddarparu pa bynnag dystysgrifau, dogfennau, gwybodaeth a thystiolaeth mewn cysylltiad â’r cais neu’r dyfarniad, neu unrhyw gwestiwn sy’n codi o’r cais neu’r dyfarniad, y gofynnir amdanynt yn rhesymol gan yr awdurdod er mwyn penderfynu ynghylch hawlogaeth y person hwnnw, neu barhad ei hawlogaeth, i ostyngiad o dan y cynllun hwn, a rhaid iddo wneud hynny o fewn un mis wedi i’r awdurdod ofyn iddo wneud hynny, neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod.

(5) Nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol bod person yn darparu unrhyw dystysgrifau, dogfennau, gwybodaeth neu dystiolaeth mewn perthynas â thaliad y mae is-baragraff (7) yn gymwys iddo.

(6) Pan wneir cais gan awdurdod o dan is-baragraff (4), rhaid i’r awdurdod—

(a)         hysbysu’r ceisydd, neu’r person y dyfarnwyd gostyngiad iddo o dan y cynllun hwn, ynghylch dyletswydd y ceisydd o dan baragraff 113 (dyletswydd i hysbysu ynghylch newidiadau yn yr amgylchiadau) i hysbysu’r awdurdod ynghylch unrhyw newid yn yr amgylchiadau; a

(b)         heb leihau dim ar gwmpas y ddyletswydd o dan baragraff 113, dynodi i’r person, naill ai ar lafar neu drwy hysbysiad neu drwy gyfeirio at ryw ddogfen arall sydd ar gael i’r person yn ddi-dâl os gofynnir amdani, y math o newid yn yr amgylchiadau y mae’n ofynnol hysbysu’r awdurdod yn ei gylch.

(7) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw un o’r taliadau canlynol—

(a)         taliad—

                           (i)    a ddiystyrwyd o dan baragraff 28 o Atodlen 7 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) neu baragraff 38 o Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr); neu

                         (ii)    a wnaed o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain;

(b)         taliad a ddiystyrir o dan baragraff 16 o Atodlen 8 (taliadau a wnaed o dan ymddiriedolaethau penodol a thaliadau penodol eraill) ac eithrio taliad o dan y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006);

(c)         taliad a ddiystyrir o dan baragraff 28(9)(b) neu (c) (didyniadau annibynyddion) ac eithrio taliad a wnaed o dan y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006)

(8) Pan fo ceisydd, neu berson y mae gostyngiad o dan y cynllun hwn wedi ei ddyfarnu iddo, neu unrhyw bartner, wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac yn aelod o gynllun pensiwn personol neu’n berson sydd â hawlogaeth i gael pensiwn o dan gynllun pensiwn personol, rhaid i’r person, pan ofynnir iddo gan yr awdurdod, ddarparu’r wybodaeth ganlynol—

(a)         enw a chyfeiriad deiliad y gronfa bensiwn;

(b)         pa bynnag wybodaeth arall, gan gynnwys unrhyw rif cyfeirnod neu rif polisi, y mae ei hangen i alluogi adnabod y cynllun pensiwn personol.

Diwygio cais a thynnu cais yn ôl

112.(1)(1) Caiff person sydd wedi gwneud cais ei ddiwygio ar unrhyw adeg cyn bo penderfyniad wedi ei wneud ar y cais, drwy gyflwyno neu anfon hysbysiad ysgrifenedig i’r swyddfa ddynodedig.

(2) Os oedd y cais wedi ei wneud dros y teleffon yn unol â Rhan 1 o Atodlen 1, caniateir gwneud y diwygiad hefyd dros y teleffon.

(3) Rhaid trin unrhyw gais a ddiwygir yn unol ag is-baragraff (1) neu (2) fel pe bai wedi ei ddiwygio y tro cyntaf.

(4) Caiff person sydd wedi gwneud cais dynnu’r cais yn ôl ar unrhyw adeg cyn bo penderfyniad wedi ei wneud ar y cais, drwy hysbysiad i’r swyddfa ddynodedig.

(5) Os oedd y cais wedi ei wneud dros y teleffon yn unol â Rhan 1 o Atodlen 1, caniateir tynnu’r cais yn ôl hefyd dros y teleffon.

(6) Bydd unrhyw hysbysiad o dynnu’n ôl a roddir yn unol ag is-baragraff (4) neu (5) yn cael effaith pan geir yr hysbysiad.

(7) Pan fo person, dros y teleffon, yn diwygio cais neu’n tynnu cais yn ôl, rhaid i’r person hwnnw (os gofynnir iddo wneud hynny gan yr awdurdod) roi cadarnhad o ddiwygio’r cais neu ei dynnu’n ôl, drwy gyflwyno neu anfon hysbysiad ysgrifenedig i’r swyddfa ddynodedig.

Dyletswydd i hysbysu ynghylch newidiadau yn yr amgylchiadau

113.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (7), rhaid i’r ceisydd (neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ran y ceisydd) gydymffurfio ag is-baragraff (2) os oes newid perthnasol yn digwydd yn yr amgylchiadau ar unrhyw adeg—

(a)         rhwng gwneud y cais a gwneud penderfyniad arno, neu

(b)         ar ôl gwneud y penderfyniad (os y penderfyniad yw fod hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn) gan gynnwys ar unrhyw adeg tra bo’r ceisydd yn cael gostyngiad o’r fath.

(2) Rhaid i’r ceisydd (neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ran y ceisydd) hysbysu ynghylch unrhyw newid yn yr amgylchiadau y gellid disgwyl yn rhesymol y byddai’r ceisydd (neu’r person hwnnw) yn gwybod y gallai effeithio ar hawlogaeth y ceisydd i gael gostyngiad, neu ar swm y gostyngiad, o dan y cynllun hwn (“newid perthnasol yn yr amgylchiadau”), drwy roi hysbysiad i’r awdurdod—

(a)         mewn ysgrifen; neu

(b)         dros y teleffon—

                           (i)    pan fo’r awdurdod wedi cyhoeddi rhif teleffon at y diben hwnnw neu at ddibenion Rhan 1 o Atodlen 1 oni fydd yr awdurdod yn penderfynu, mewn unrhyw achos penodol neu ddosbarth o achosion, na chaniateir rhoi hysbysiad dros y teleffon; neu

                         (ii)    mewn unrhyw achos neu ddosbarth o achosion y penderfynodd yr awdurdod y caniateir rhoi hysbysiad ynddo dros y teleffon; neu

(c)         drwy unrhyw ddull arall y cytuna’r awdurdod i’w dderbyn mewn unrhyw achos penodol,

o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod pan fo’r newid yn digwydd, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r newid ddigwydd, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(3) Nid yw’r ddyletswydd a osodir ar berson gan is-baragraff (1) yn cynnwys hysbysu ynghylch—

(a)         newidiadau yn swm y dreth gyngor sy’n daladwy i’r awdurdod;

(b)         newidiadau yn oedran y ceisydd neu oedran unrhyw aelod o deulu’r ceisydd;

(c)         yn achos ceisydd sy’n cael budd-dal perthnasol, newidiadau mewn amgylchiadau sy’n effeithio ar swm y budd-dal ond nid ar swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan y cynllun hwn ac eithrio terfynu’r hawlogaeth i gael y budd-dal.

(4) At ddibenion is-baragraff (3)(c) ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu gredyd cynhwysol.

(5) Er gwaethaf is-baragraff (3)(b) neu (c), mae’n ofynnol o dan is-baragraff (1) fod ceisydd yn hysbysu’r awdurdod ynghylch unrhyw newid yng nghyfansoddiad teulu’r ceisydd, sy’n digwydd pan nad yw person, a oedd yn aelod o deulu’r ceisydd, bellach yn berson o’r fath, oherwydd bod y person hwnnw wedi peidio â bod yn blentyn neu berson ifanc.

(6) Rhaid i berson y rhoddwyd gostyngiad iddo o dan y cynllun hwn ac sydd hefyd yn cael credyd pensiwn y wladwriaeth adrodd am—

(a)         newidiadau sy’n effeithio ar breswylfa neu incwm unrhyw annibynnydd sydd fel arfer yn preswylio gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer yn preswylio gydag ef;

(b)         unrhyw absenoldeb o’r annedd sy’n hwy, neu’n debygol o fod yn hwy, na 13 wythnos.

(7) Rhaid i berson y mae ei gredyd pensiwn y wladwriaeth yn cynnwys credyd cynilion yn unig adrodd hefyd am—

(a)         newidiadau sy’n effeithio ar blentyn sy’n byw gyda’r person hwnnw, a allai arwain at newid yn swm y gostyngiad o dan y cynllun hwn a ganiateir yn achos y person hwnnw, ond nid newidiadau yn oedran y plentyn;

(b)         unrhyw newid yn y swm o gyfalaf y person hwnnw sydd i’w gymryd i ystyriaeth, sy’n peri, neu a allai beri, bod swm cyfalaf y person hwnnw’n fwy nag £16,000;

(c)         unrhyw newid yn incwm neu gyfalaf—

                           (i)    annibynnydd y trinnir ei incwm a’i gyfalaf fel pe baent yn eiddo i’r ceisydd yn unol â pharagraff 31 (amgylchiadau pan fo cyfalaf ac incwm annibynnydd i gael eu trin fel eiddo i’r ceisydd); neu

                         (ii)    person y cyfeirir ato ym mharagraff 33(2)(e) (partner a drinnir fel aelod o’r aelwyd o dan baragraff 8),

a pha un a yw person o’r fath neu, yn ôl fel y digwydd, annibynnydd o’r fath yn peidio â byw neu’n dechrau byw neu’n ailddechrau byw gyda’r ceisydd.

(8) Nid oes raid i berson, sydd â hawl i ostyngiad o dan y cynllun hwn ac yn cael credyd pensiwn y wladwriaeth, adrodd wrth yr awdurdod am newidiadau ac eithrio’r newidiadau a bennir yn is-baragraffau (6) a (7).

RHAN 14

Penderfyniadau gan awdurdod

Penderfyniad gan awdurdod

114. Rhaid i awdurdod wneud penderfyniad ar gais am ostyngiad o dan y cynllun hwn o fewn 14 diwrnod ar ôl bodloni paragraffau 108 a 111 a Rhan 1 o Atodlen 1, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn.

Hysbysu ynghylch penderfyniad

115.(1)(1) Rhaid i awdurdod hysbysu mewn ysgrifen unrhyw berson yr effeithir arno gan benderfyniad a wneir gan yr awdurdod o dan y cynllun hwn—

(a)          yn achos penderfyniad ar gais, ar unwaith neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn;

(b)         mewn unrhyw achos arall, o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud y penderfyniad, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn.

(2) Os dyfarnu gostyngiad yw’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (1) gynnwys datganiad sy’n—

(a)         rhoi gwybod i’r person yr effeithir arno am y ddyletswydd a osodir gan baragraff 113(1)(b) (dyletswydd i hysbysu ynghylch newidiadau yn yr amgylchiadau);

(b)         esbonio’r canlyniadau posibl (gan gynnwys erlyn) os methir â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno; ac

(c)         nodi’r amgylchiadau y gallai newid ynddynt effeithio ar yr hawlogaeth i gael gostyngiad neu ar swm y gostyngiad.

(3) Os dyfarnu gostyngiad yw’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (1) gynnwys datganiad o’r modd y bodlonir yr hawlogaeth.

(4) Rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (1) gynnwys datganiad hefyd ynghylch y materion a bennir yn Atodlen 10.

(5) Caiff person yr effeithir arno ac y cyflwynodd neu anfonodd yr awdurdod hysbysiad o benderfyniad ato, o fewn un mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad o benderfyniad hwnnw, ofyn mewn ysgrifen i’r awdurdod ddarparu datganiad ysgrifenedig sy’n nodi rhesymau’r awdurdod am ei benderfyniad ar unrhyw fater a nodir yn yr hysbysiad.

(6) Rhaid anfon y datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn is-baragraff (5) at y person sy’n gofyn amdano o fewn 14 diwrnod neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn.

(7) At ddibenion y paragraff hwn rhaid trin person fel person yr effeithir arno gan benderfyniad awdurdod o dan y cynllun hwn os effeithir ar hawliau, dyletswyddau neu ymrwymiadau’r person hwnnw gan y penderfyniad hwnnw ac os yw’r person yn dod o fewn is-baragraff (8).

(8) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i—

(a)         y ceisydd;

(b)         yn achos person sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd ac yn analluog am y tro i weithredu—

                           (i)    dirprwy a benodwyd gan y Llys Gwarchod sydd â phŵer i hawlio neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal, ar ran y person; neu

                         (ii)     yn yr Alban, goruchwyliwr barnwrol neu unrhyw warcheidwad sy’n gweithredu neu a benodwyd o dan Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000 sydd â phŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal, ar ran y person; neu

                       (iii)    atwrnai sydd â phŵer cyffredinol neu bŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, i gael budd-dal, wedi ei benodi gan y person hwnnw o dan Ddeddf Atwrneiaethau 1971, Deddf Atwrneiaethau Parhaus 1985 neu Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu rywfodd arall;

(c)     person a benodwyd gan yr awdurdod o dan baragraff 107(3).

RHAN 15

Dyfarniad neu daliad o ostyngiad

Dyfarniad neu daliad o ostyngiad o dan y cynllun hwn

116.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fo hawl gan berson i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn mewn perthynas ag atebolrwydd y person hwnnw am dreth gyngor fel y caiff effaith mewn perthynas â blwyddyn ariannol, rhaid i’r awdurdod fodloni hawlogaeth y person hwnnw drwy leihau, i’r graddau sy’n bosibl, swm atebolrwydd y person hwnnw, y cyfeirir ato yn rheoliad 20(2) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992.

(2) Pan fo—

(a)         hawl gan berson i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn awdurdod mewn perthynas ag atebolrwydd y person hwnnw am dreth gyngor yr awdurdod fel y caiff effaith mewn perthynas â blwyddyn ariannol;

(b)         y person sydd â hawl i gael y gostyngiad yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y dreth gyngor; ac

(c)         yr awdurdod yn penderfynu y byddai’n amhriodol bodloni hawlogaeth y person hwnnw drwy leihau swm atebolrwydd y person hwnnw, y cyfeirir ato yn rheoliad 20(2) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992,

caiff yr awdurdod wneud taliad i’r person hwnnw o swm y gostyngiad y mae hawl gan y person hwnnw i’w gael, wedi ei dalgrynnu, pan fo angen, i’r geiniog agosaf.

(3)  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) rhaid gwneud unrhyw daliad a wneir o dan is-baragraffau (1) neu (2) i’r person sydd â hawl i gael y gostyngiad.

(4) Os gwnaed y cais gan berson ac eithrio’r person sydd â hawl i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn a’r person cyntaf hwnnw’n berson sy’n gweithredu yn unol â phenodiad o dan baragraff 107(3) (personau a benodir i weithredu dros berson sy’n analluog i weithredu) neu a drinnir fel pe bai wedi ei benodi felly yn rhinwedd paragraff 107(4), caniateir talu swm y gostyngiad i’r person hwnnw.

ATODLEN 1

Materion gweithdrefnol

RHAN 1

Y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn

Gweithdrefn y caiff person ei dilyn i wneud cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn

1. Mae paragraffau 2 i 7 o’r Atodlen hwn yn gymwys i gais am ostyngiad o dan y cynllun hwn.

2. Caniateir gwneud cais—

(a)         mewn ysgrifen,

(b)         drwy gyfathrebiad electronig yn unol â Rhan 4 o’r Atodlen hon, neu

(c)         os yw’r awdurdod wedi cyhoeddi rhif teleffon at y diben o gael ceisiadau o’r fath, dros y teleffon.

3.(1)(1) Rhaid gwneud unrhyw gais a wneir mewn ysgrifen i’r swyddfa ddynodedig a rhaid iddo fod—

(a)      ar ffurflen sydd wedi ei chwblhau’n briodol ac a gymeradwywyd gan yr awdurdod at ddibenion gwneud cais mewn ysgrifen; neu

(b)     yn y cyfryw ffurf ysgrifenedig y mae’r awdurdod yn derbyn sy’n ddigonol mewn amgylchiadau unrhyw achos penodol (neu ddosbarth o achosion) o ystyried digonolrwydd yr wybodaeth a thystiolaeth ysgrifenedig.

(2) Mae cais mewn ysgrifen yn ddiffygiol os na wneir y cais ar y ffurf a ddisgrifir ym mharagraff 3(1)(a) neu (b).

(3) Rhaid i unrhyw ffurflen a ddarperir gan yr awdurdod at y diben o wneud cais mewn ysgrifen gael ei darparu’n ddi-dâl.

4.(1)(1) Pan fo cais a wneir mewn ysgrifen yn ddiffygiol oherwydd—

(a)         ei fod wedi ei wneud ar y ffurflen a gymeradwywyd at y diben ond nad yw’r awdurdod yn ei dderbyn fel ffurflen a gwblhawyd yn briodol, caiff yr awdurdod ofyn i’r ceisydd gwblhau’r cais diffygiol; neu

(b)         ei fod wedi ei wneud mewn ysgrifen ond nid ar y ffurflen a gymeradwywyd at y diben hwnnw, ac nad yw’r awdurdod yn derbyn y cais fel un ar ffurf ysgrifenedig sy’n ddigonol yn amgylchiadau’r achos, o ystyried digonolrwydd yr wybodaeth a’r dystiolaeth ysgrifenedig, caiff yr awdurdod gyflenwi copi o’r ffurflen gymeradwy i’r ceisydd neu ofyn am wybodaeth neu dystiolaeth bellach.

(2) Bydd cais a wneir ar ffurflen a ddarparwyd gan yr awdurdod wedi ei gwblhau’n briodol os cwblheir ef yn unol â’r cyfarwyddiadau ar y ffurflen, gan gynnwys unrhyw gyfarwyddiadau i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth mewn cysylltiad  â’r cais.

5.(1)(1) Os yw cais a wneir drwy gyfathrebiad electronig yn ddiffygiol, rhaid i’r awdurdod roi cyfle i’r person sy’n gwneud y cais gywiro’r diffyg.

(2) Bydd cais a wneir drwy gyfathrebiad electronig yn ddiffygiol os nad yw’r ceisydd yn darparu’r holl wybodaeth y gofynnir amdani gan yr awdurdod.

6. Mewn achos penodol caiff yr awdurdod bennu na fydd cais a wneir dros y teleffon yn ddilys oni fydd y person sy’n gwneud y cais yn cymeradwyo datganiad ysgrifenedig o amgylchiadau’r person hwnnw a ddarperir gan yr awdurdod.

7.(1)(1) Os yw cais a wneir dros y teleffon yn ddiffygiol, rhaid i’r awdurdod roi cyfle i’r person sy’n gwneud y cais gywiro’r diffyg.

(2) Bydd cais a wneir dros y teleffon yn ddiffygiol os na fydd y ceisydd yn darparu’r holl wybodaeth y gofynnir amdani gan yr awdurdod yn ystod yr alwad deleffon.

RHAN 2

Y weithdrefn ar gyfer gwneud apêl

Gweithdrefn y caiff person ei dilyn i apelio yn erbyn penderfyniadau penodol yr awdurdod

8.(1)(1) Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad  yr awdurdod sy’n effeithio ar—

(a)         hawlogaeth y person hwnnw i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn; neu

(b)         swm unrhyw ostyngiad o dan y cynllun hwn,

gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod, yn datgan y mater sy’n peri tramgwydd i’r person hwnnw, ac ar ba sail y tramgwyddir y person hwnnw.

(2) Rhaid cyflwyno hysbysiad o dan is-baragraff (1) o fewn un mis o’r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad ynghylch penderfyniad yr awdurdod, neu pan fo person wedi gofyn am ddatganiad ysgrifenedig yn unol â pharagraff 115(5) o’r cynllun hwn (gofyn am ddatganiad o resymau ysgrifenedig), o fewn un mis o’r dyddiad y cyflwynwyd y datganiad o resymau.

9. Rhaid i’r awdurdod—

(a)         ystyried y mater y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(b)         hysbysu’r person a dramgwyddwyd mewn ysgrifen i’r perwyl, naill ai—

                           (i)    nad yw’r sail yn gadarn, gan roi rhesymau dros y gred honno; neu

                         (ii)    bod camau wedi eu cymryd i unioni’r tramgwydd, gan ddatgan pa gamau a gymerwyd.

10. Os yw’r person yn parhau wedi ei dramgwyddo ar ôl ei hysbysu o dan baragraff 9(b)(i) neu (ii), neu os yw’r awdurdod wedi methu â hysbysu’r person a dramgwyddwyd yn unol â pharagraff 9(b) o fewn dau fis ar ôl cyflwyno’r hysbysiad gan y person, caiff y person apelio i’r tribiwnlys prisio o dan adran 16 o Ddeddf 1992.

RHAN 3

Y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am ostyngiad disgresiynol

Gweithdrefn ar gyfer gwneud cais i awdurdod am ostyngiad o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992

11.(1)(1) Rhaid gwneud cais i awdurdod am ostyngiad o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992—

(a)         mewn ysgrifen,

(b)         drwy gyfathrebiad electronig yn unol â Rhan 4 o’r Atodlen hon, neu

(c)         os yw’r awdurdod wedi cyhoeddi rhif teleffon at y diben o gael ceisiadau o’r fath, dros y teleffon.

(2) Os—

(a)         yw’r awdurdod wedi gwneud penderfyniad o dan adran 13A(1)(c) mewn perthynas â dosbarth o achosion y gostyngir yr atebolrwydd ynddo; a

(b)         fel arall, byddai hawl gan berson yn y dosbarth hwnnw i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn,

caniateir trin cais y person hwnnw am ostyngiad o dan y cynllun hwn fel cais hefyd am ostyngiad o dan adran 13A(1)(c).

RHAN 4

Cyfathrebu electronig

Dehongli

12. Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—

mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn, tystysgrif, hysbysiad neu dystiolaeth arall;

ystyr “system gyfrifiadurol swyddogol” (“official computer system”) yw system gyfrifiadurol a gynhelir gan neu ar ran awdurdod, ar gyfer anfon, cael, prosesu neu storio unrhyw wybodaeth.

Amodau ar gyfer defnyddio cyfathrebu electronig

13.(1)(1) Caiff awdurdod ddefnyddio cyfathrebiad electronig mewn cysylltiad â chais am, a dyfarniad o, ostyngiad o dan y cynllun hwn.

(2) Caiff person ac eithrio’r awdurdod ddefnyddio cyfathrebiad electronig mewn cysylltiad â’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) os bodlonir yr amodau a bennir yn is-baragraffau (3) i (6).

(3) Yr amod cyntaf yw y caniateir i’r person hwnnw, am y tro, ddefnyddio cyfathrebiad electronig, gan awdurdodiad a roddwyd ar ffurf cyfarwyddyd gan Brif Weithredwr yr awdurdod.

(4) Yr ail amod yw fod y person yn defnyddio dull cymeradwy—

(a)         o ddilysu manylion adnabod anfonwr y cyfathrebiad;

(b)         o gyfathrebu yn electronig;

(c)         o ddilysu unrhyw gais neu hysbysiad a gyflenwir drwy gyfathrebiad electronig; a

(d)         yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), o gyflwyno unrhyw wybodaeth i’r awdurdod.

(5) Y trydydd amod yw fod unrhyw wybodaeth a anfonir drwy gyfathrebiad electronig mewn ffurf a gymeradwywyd at ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon.

(6) Y pedwerydd amod yw fod y person yn cadw pa bynnag gofnodion mewn ffurf ysgrifenedig neu electronig, a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir gan Brif Weithredwr yr awdurdod.

(7) Os yw’r person yn defnyddio unrhyw ddull arall, ac eithrio’r dull cymeradwy o gyflwyno unrhyw wybodaeth, rhaid trin yr wybodaeth honno fel pe na bai wedi ei chyflwyno.

(8) Yn y paragraff hwn, ystyr “cymeradwy” (“approved”) yw cymeradwy drwy gyfarwyddyd a roddwyd gan Brif Weithredwr yr awdurdod at ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon.

Defnyddio cyfryngwyr

14. Caiff awdurdod ddefnyddio cyfryngwyr mewn cysylltiad ag—

(a)         cyflenwi unrhyw wybodaeth drwy gyfathrebu electronig; a

(b)         dilysu neu ddiogelu unrhyw beth a drawsyrrir drwy ddulliau o’r fath,

a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod personau eraill yn defnyddio cyfryngwyr mewn cysylltiad â’r materion hynny.

Effaith cyflenwi gwybodaeth drwy gyfathrebu electronig

15.(1)(1) Rhaid trin unrhyw wybodaeth a gyflenwir drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig fel pe bai wedi ei chyflenwi yn y modd neu’r ffurf sy’n ofynnol gan unrhyw ddarpariaeth o’r cynllun hwn , ar y diwrnod y bydd yr amodau a osodir—

(a)         gan y Rhan hon; a

(b)         gan neu o dan ddeddfiad,

wedi eu bodloni.

(2) Caiff awdurdod benderfynu bod unrhyw wybodaeth i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflenwi ar ddiwrnod gwahanol (boed yn gynharach neu’n ddiweddarach) i’r diwrnod y darperir ar ei gyfer yn is-baragraff (1).

(3) Rhaid peidio ag ystyried bod gwybodaeth wedi ei chyflenwi i system gyfrifiadurol swyddogol drwy gyfathrebiad electronig hyd nes bo’r wybodaeth wedi ei derbyn gan y system y cyflenwir yr wybodaeth iddi.

Profi adnabyddiaeth o anfonwr neu dderbynnydd gwybodaeth

16. Os bydd angen profi, at ddibenion unrhyw achos cyfreithiol, adnabyddiaeth o—

(a)         anfonwr unrhyw wybodaeth a gyflenwyd drwy gyfathrebiad electronig i system gyfrifiadurol swyddogol; neu

(b)         derbynnydd unrhyw wybodaeth o’r fath a gyflenwyd drwy gyfathrebiad electronig o system gyfrifiadurol swyddogol,

rhagdybir mai’r anfonwr neu’r derbynnydd, yn ôl fel y digwydd, yw’r person y cofnodir ei enw fel y cyfryw ar y system gyfrifiadurol swyddogol honno.

Prawf o gyflenwi gwybodaeth

17.(1)(1) Os bydd angen profi, at ddibenion unrhyw achos cyfreithiol, fod y defnydd o gyfathrebiad electronig wedi arwain at gyflenwi unrhyw wybodaeth, rhagdybir bod hynny wedi digwydd—

(a)         pan fo unrhyw wybodaeth o’r fath wedi ei chyflenwi i’r awdurdod os yw cyflenwi’r wybodaeth honno wedi ei gofnodi ar system gyfrifiadurol swyddogol; neu

(b)         pan fo unrhyw wybodaeth o’r fath wedi ei chyflenwi gan yr awdurdod os yw cyflenwi’r wybodaeth honno wedi ei gofnodi ar system gyfrifiadurol swyddogol.

(2) Os bydd angen profi, at ddibenion unrhyw achos cyfreithiol, fod y defnydd o gyfathrebiad electronig wedi arwain at gyflenwi unrhyw wybodaeth o’r fath, rhagdybir na ddigwyddodd hynny os nad yw cyflenwi’r wybodaeth honno i’r awdurdod wedi ei gofnodi ar system gyfrifiadurol swyddogol.

(3) Os bydd angen profi, at ddibenion unrhyw achos cyfreithiol, pa bryd y derbyniwyd unrhyw wybodaeth o’r fath a anfonwyd drwy gyfathrebiad electronig, rhagdybir mai’r amser a’r dyddiad derbyn fydd yr amser a’r dyddiad a gofnodir ar system gyfrifiadurol swyddogol.

Prawf o gynnwys gwybodaeth

18. Os bydd angen profi, at ddibenion unrhyw achos cyfreithiol, yr hyn sy’n gynwysedig mewn unrhyw wybodaeth a anfonwyd drwy gyfathrebiad electronig, rhagdybir mai’r cynnwys yw’r hyn a gofnodwyd ar system gyfrifiadurol swyddogol.

ATODLEN 2

Symiau cymwysadwy: pensiynwyr

RHAN 1

Lwfansau personol

Lwfans personol

1. Y swm a bennir yng ngholofn (2) isod mewn perthynas â phob person neu gwpl a bennir yng ngholofn (1) yw’r swm a bennir at ddibenion paragraff 23(1)(a) o’r cynllun hwn.

 

Colofn (1)

Person, cwpl neu briodas amlbriod

Colofn (2)

Swm

 

(1) Ceisydd sengl neu unig riant—

(a)         o dan 65 oed;

(b)         65 oed neu drosodd.

 

 

£145.40;

 

£163.50.

(2) Cwpl—

(a)         y ddau aelod o dan 65 oed;

(b)         un aelod neu’r ddau yn 65 oed neu drosodd

 

 

£222.05;

 

£244.95.

 

(3) Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod ac nad oes yr un aelod o’r briodas wedi cyrraedd 65 oed—

(a)         ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas;

(b)         ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd.

 

 

 

 

 

 

£222.05;

 

 

 

£76.65.

 


 

(4) Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod ac un neu ragor o aelodau’r briodas yn 65 oed neu drosodd—

(a)         ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas;

(b)         ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd.

 

 

 

 

 

£244.95;

 

 

 

£81.45.

Symiau plentyn neu berson ifanc

2.(1)(1) Y symiau a bennir yng ngholofn (2) isod, mewn perthynas â phob person a bennir yng ngholofn (1), yw’r symiau ar gyfer y cyfnod perthnasol a bennir yng ngholofn (1), a bennir at ddibenion paragraff 23(1)(b) o’r cynllun hwn

 

Colofn (1)

Plentyn neu berson ifanc

Colofn (2)

Swm

Person mewn perthynas â’r cyfnod—

(a)         sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r person hwnnw ac yn dod i ben ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw;

(b)         sy’n cychwyn ar y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn ugeinfed pen-blwydd y person hwnnw.

 

 

£65.62;

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

£65.62.

(2) Yng ngholofn (1) o'r tabl, ystyr “y dydd Llun cyntaf ym Medi” (“the first Monday in September”) yw’r dydd Llun sy’n digwydd gyntaf yn ystod mis Medi mewn unrhyw flwyddyn.

RHAN 2

Premiwm teulu

Premiwm teulu

3. Y swm at ddibenion paragraff 23(1)(c) o’r cynllun hwn mewn perthynas â theulu y mae o leiaf un aelod ohono’n blentyn neu’n berson ifanc yw £17.40.

RHAN 3

Premiymau

4. At ddibenion paragraff 23(1)(d) o’r cynllun hwn, bydd y premiymau a bennir yn Rhan 4 yn gymwysadwy i geisydd sy’n bodloni’r amod a bennir yn y Rhan hon mewn perthynas â’r premiwm hwnnw.

5.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), at ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, unwaith y bydd premiwm yn gymwysadwy i geisydd o dan y Rhan hon, rhaid trin person fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal—

(a)         yn achos budd-dal y mae Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau sy’n Gorgyffwrdd) 1979([219]) yn gymwys iddo, yn ystod unrhyw gyfnod y byddai’r person, oni bai am y ddarpariaeth o’r Rheoliadau hynny, yn cael y budd-dal hwnnw; a

(b)         yn ystod unrhyw gyfnod a dreulir gan berson yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973([220]), neu gan Ddatblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd o dan adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990([221]) neu yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r person hwnnw’n cael lwfans hyfforddi.

(2) At ddibenion y premiwm gofalwr o dan baragraff 9 o’r Atodlen hon, ni ddylid trin person fel pe bai’n cael lwfans gofalwr yn rhinwedd is-baragraff (1)(a) ac eithrio pan a chyhyd ag y bo’r person yr hawliwyd y lwfans mewn perthynas â’i ofal yn dal i gael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA.

Premiwm anabledd difrifol

6.(1)(1) Yr amod yw fod y ceisydd yn berson ag anabledd difrifol.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin ceisydd fel pe bai’n berson ag anabledd difrifol—

(a)         yn achos ceisydd sengl, unig riant neu geisydd a drinnir fel pe na bai ganddo bartner o ganlyniad i is-baragraff (3) os, ac yn unig os—

                           (i)    yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a

                         (ii)    yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy; a

                       (iii)    nad oes neb sydd â hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr mewn perthynas â gofalu am y ceisydd;

(b)         yn achos ceisydd sydd â phartner, os ac yn unig os—

                           (i)    yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA;

                         (ii)    yw partner y ceisydd hefyd yn cael lwfans o’r fath neu, pan fo’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod, pob aelod arall o’r briodas honno’n cael lwfans o’r fath; a

                       (iii)    yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy,

a naill ai mae person sydd â hawl i gael ac yn cael, lwfans gofalwr mewn perthynas â gofalu am un aelod yn unig o’r cwpl, neu, os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod, am un neu ragor ond nid pob un o aelodau’r briodas, neu, yn ôl fel y digwydd, nad oes person sydd â hawl i gael ac yn cael, lwfans o’r fath mewn perthynas â gofalu am y naill na’r llall o aelodau’r cwpl, neu am unrhyw aelod o’r briodas.

(3) Pan fo gan geisydd bartner nad yw’n bodloni’r amod yn is-baragraff (2)(b)(ii), a’r partner hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall o fewn ystyr is-baragraff (4), rhaid trin y partner hwnnw at ddibenion is-baragraff (2) fel pe na bai’r partner hwnnw’n bartner i’r ceisydd.

(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae person yn ddall os yw’r person hwnnw wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948([222]) (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994([223]).

(5) At ddibenion is-baragraff (4), yn achos person y peidiwyd â’i gofrestru fel person dall wedi iddo adennill ei olwg, rhaid ei drin, er gwaethaf hynny, fel pe bai’n ddall ac yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir yn yr is-baragraff hwnnw am gyfnod o 28 wythnos yn dilyn y dyddiad y peidiwyd â chofrestru’r person felly.

(6) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(ii) a (2)(b)(iii) rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth—

(a)         person sy’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; neu

(b)         person sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall o fewn ystyr is-baragraffau (4) a (5).

(7) At ddibenion is-baragraff (2)(b) rhaid trin person—

(a)         fel pe bai’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, os byddai’r person hwnnw’n yn cael y lwfans hwnnw neu’r elfen honno felly, pe na bai wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 28 diwrnod;

(b)         fel pe bai’n cael elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y gyfradd a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 os byddai’r person yn cael yr elfen honno felly, pe na bai wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 28 diwrnod, er gwaethaf adran 86 o’r Ddeddf honno a rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno;

(c)         fel pe bai’n cael TALlA, os byddai’r person hwnnw’n cael y taliad hwnnw felly oni bai am atal y taliad dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb;

(d)         fel pe bai hawl ganddo i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr, os byddai ganddo hawl i gael ac y byddai’n cael y lwfans hwnnw felly pe na bai’r person y mae’r person hwnnw’n gofalu amdano yn glaf mewn ysbyty am gyfnod hwy nag 28 diwrnod.

(8) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iii) a (2)(b)—

(a)         rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth ddyfarniad o lwfans gofalwr, i’r graddau y mae taliad o’r cyfryw ddyfarniad wedi ei ôl-ddyddio ar gyfer cyfnod cyn y dyddiad y talwyd y dyfarniad gyntaf; a

(b)         mae cyfeiriadau at berson sy’n cael lwfans gofalwr yn cynnwys cyfeiriadau at berson a fyddai wedi bod yn cael y lwfans hwnnw oni bai am weithredu cyfyngiad o dan adran 6B neu 7 o Ddeddf Twyll Nawdd Cymdeithasol 2001([224]) (darpariaethau colli budd-dal).

Premiwm anabledd uwch

7.(1)(1) Yr amod yw bod—

(a)         elfen ofal y lwfans byw i’r anabl yn daladwy ar y gyfradd uchaf a ragnodir o dan adran 73(2) o DCBNC, neu y byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o’r Ddeddf honno, neu oni bai am leihad oherwydd traddodi i ysbyty;

(b)         elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy ar y gyfradd uwch a ragnodir yn unol ag adran 78(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o’r Ddeddf honno; neu

(c)     TALlA yn daladwy,

mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu’r ceisydd.

(2) Os peidir â bodloni’r amod yn is-baragraff (1) oherwydd marwolaeth plentyn neu berson ifanc, yr amod yw fod hawl gan y ceisydd neu bartner i gael budd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc o dan adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys).

Premiwm plentyn anabl

8. Yr amod yw fod plentyn neu berson ifanc y mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gyfrifol amdano ac sy’n aelod o aelwyd y ceisydd—

(a)         yn cael lwfans byw i’r anabl neu daliad annibyniaeth bersonol neu nad yw bellach yn cael y cyfryw lwfans neu daliad oherwydd bod y plentyn neu berson ifanc yn glaf, ar yr amod bod y plentyn neu berson ifanc yn parhau’n aelod o’r teulu; neu

(b)         yn ddall o fewn ystyr paragraff 6(4) o’r Atodlen hon neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall yn unol â pharagraff 6(5); neu

(c)         yn blentyn neu berson ifanc y mae adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys) yn gymwys at ddibenion hawlogaeth i fudd-dal plant ond yn unig am y cyfnod a ragnodir o dan yr adran honno, ac y cynhwyswyd premiwm plentyn anabl mewn perthynas ag ef yn swm cymwysadwy’r ceisydd yn union cyn marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw, neu peidiwyd â’i gynnwys yn swm cymwysadwy’r ceisydd oherwydd marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw.

Premiwm gofalwr

9.(1)(1) Yr amod yw fod hawl i gael lwfans gofalwr gan y ceisydd neu bartner y ceisydd, neu’r ddau ohonynt.

(2) Os oes premiwm gofalwr wedi ei ddyfarnu, ond—

(a)         bu farw’r person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal; neu

(b)         os peidiodd hawl y person y dyfarnwyd y premiwm mewn perthynas ag ef i gael lwfans gofalwr, neu os peidiodd â chael ei drin fel pe bai hawl ganddo i gael lwfans gofalwr,

rhaid trin y paragraff hwn fel pe bai wedi ei fodloni am gyfnod o wyth wythnos o’r dyddiad perthnasol a bennir yn is-baragraff (3).

(3) Y dyddiad perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw—

(a)         mewn achos o fewn is-baragraff (2)(a), y dydd Sul sy’n dilyn marwolaeth y person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal (neu ddyddiad y farwolaeth os digwyddodd y farwolaeth ar ddydd Sul);

(b)         mewn achos o fewn is-baragraff (2)(b), y dyddiad y peidiodd hawl y person a oedd â hawl i gael lwfans gofalwr.

(4) At ddibenion y paragraff hwn, rhaid trin person fel pe bai ganddo hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr yn ystod unrhyw gyfnod nad oedd o fewn cyfnod dyfarniad, ond y gwnaed taliad mewn perthynas ag ef yn lle dyfarniad.

Personau sy’n cael taliadau consesiynol

10. At y diben o benderfynu a oes premiwm yn gymwysadwy i berson o dan baragraffau 6 i 9 o’r Atodlen hon, rhaid trin unrhyw daliad consesiynol, a wnaed i ddigolledu’r person hwnnw oherwydd methiant i dalu unrhyw fudd-dal a grybwyllir yn y paragraffau hynny, fel pe bai’n daliad o’r budd-dal hwnnw.

Person sy’n cael budd-dal

11. At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae person i’w ystyried fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal os, ac yn unig os, telir y budd-dal mewn perthynas â’r person hwnnw ac mae’r person i’w ystyried felly yn ystod, yn unig, pa bynnag gyfnod y telir y budd-dal hwnnw mewn perthynas ag ef.

RHAN 4

Symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3

Premiwm

Swm

12.(1)(1) Premiwm Anabledd Difrifol—

(a)         pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 6(2)(a);

(b)         pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 6(2)(b)—

                           (i)    mewn achos pan fo rhywun yn cael lwfans gofalwr neu pan fo’r person hwnnw neu unrhyw bartner yn bodloni’r amod hwnnw yn rhinwedd paragraff 6(7) yn unig;

                         (ii)    mewn achos pan nad oes neb yn cael lwfans o’r fath.

 

 

 

£59.50;

 

 

 

 

 

 

 

£59.50;

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

£119.00.

 

(2) Premiwm Anabledd Uwch.

(2) £23.45 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y mae’r amodau a bennir ym mharagraff 7 o’r Atodlen hon wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef.

(3) Premiwm Plentyn Anabl.

(3) £57.89 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y mae’r amod a bennir ym mharagraff 8 o’r Atodlen hon wedi ei fodloni mewn perthynas ag ef.

(4) Premiwm Gofalwr.

(4) £33.30 mewn perthynas â phob person sy’n bodloni’r amod a bennir ym mharagraff 9 o’r Atodlen hon.

 

                    ATODLEN 3

Symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

RHAN 1

Lwfansau personol

1. Y symiau a bennir yng ngholofn (2) isod mewn perthynas â phob person neu gwpl a bennir yng ngholofn (1) yw’r symiau sydd i’w pennu at ddibenion paragraffau 24(1)(a) a 25(2)(a) a (b) o’r cynllun hwn

 

Colofn (1)

Person neu gwpl

Colofn (2)

Swm

(1) Ceisydd sengl—

 

(a)         sydd â hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd;

£71.70;

(b)         nad yw’n iau na 25;

£71.70;

(c)         nad yw’n iau na 18 ond sy’n iau na 25.

£56.80.

(2) Unig riant.

£71.70.

(3) Cwpl.

£112.55.

2. At ddibenion paragraff 1o’r Atodlen hon mae hawl gan geisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd—

(a)         os bodlonir paragraff 18 o’r Atodlen hon mewn perthynas â’r ceisydd; neu

(b)         os oes hawl gan y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd.

3.(1)(1) Y symiau a bennir yng ngholofn (2) isod mewn perthynas â phob person a bennir yng ngholofn (1), ar gyfer y cyfnod perthnasol a bennir yng ngholofn (1), yw’r symiau a bennir at ddibenion paragraffau 24(1)(b) a 25(2)(c) o’r cynllun hwn—

 

Colofn (1)

Plentyn neu berson ifanc

Colofn (2)

Swm

Person mewn perthynas â’r cyfnod—

 

(a)         sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw;

£65.62;

 

(b)         sy’n cychwyn ar y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn ugeinfed pen-blwydd y person hwnnw.

£65.62.

(2) Yng ngholofn (1) o'r tabl yn is-baragraff (1), ystyr “y dydd Llun cyntaf ym Medi” (“the first Monday in September”) yw’r dydd Llun sy’n digwydd gyntaf yn ystod mis Medi mewn unrhyw flwyddyn.

RHAN 2

Premiwm teulu

4.(1)(1) Y swm at ddibenion paragraffau 24(1)(c) a 25(2)(d) mewn perthynas â theulu y mae o leiaf un aelod ohono’n blentyn neu’n berson ifanc fydd—

(a)         pan fo’r ceisydd yn unig riant y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, £22.20;

(b)         mewn unrhyw achos arall, £17.40.

(2) Bydd y swm yn is-baragraff (1)(a) yn gymwys i unig riant—

(a)         yr oedd hawl ganddo i gael budd-dal treth gyngor ar 5 Ebrill 1998 ac yr oedd ei swm cymwysadwy ar y dyddiad hwnnw yn cynnwys y swm cymwysadwy dan baragraff 3(1) o Atodlen 1 i Reoliadau Budd-dal Treth Gyngor (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006([225]), fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw; neu

(b)         pan gaiff yr hawl i gael budd-dal treth gyngor os oedd yr unig riant hwnnw —

                           (i)    wedi ei drin fel pe bai hawl ganddo i gael y budd-dal hwnnw yn unol ag is-baragraff (3) ar y diwrnod cyn dyddiad yr hawliad am y budd-dal hwnnw; a

                         (ii)    hawl ganddo i gael budd-dal tai ar ddyddiad yr hawliad am fudd-dal treth gyngor, neu byddai hawl wedi bod ganddo i gael budd-dal tai ar y dyddiad hwnnw pe na bai’r diwrnod wedi digwydd yn ystod cyfnod di-rent, yn yr ystyr a roddir i “rent free period” fel y’i diffinnir gan reoliad 81 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006([226]),

ac os yw’r holl amodau a bennir yn is-baragraff (3) wedi parhau’n gymwys mewn perthynas â’r unig riant hwnnw.

(3) Yr amodau a bennwyd at ddibenion is-baragraff (2) yw, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar 6 Ebrill 1998—

(a)         nad yw’r ceisydd wedi peidio bod â hawl, neu ei drin fel pe bai ganddo hawl, i gael—

                           (i)    budd-dal treth gyngor (mewn perthynas â’r cyfnod cyn 1 Ebrill 2013), a

                         (ii)    gostyngiad o dan y cynllun hwn (mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2013);

(b)         nad yw’r ceisydd wedi peidio â bod yn unig riant;

(c)         os oedd hawl gan y ceisydd i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar 5 Ebrill 1998, bod y ceisydd, yn ddi-dor ers y dyddiad hwnnw, wedi bod â hawl i gael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu gyfuniad o’r budd-daliadau hynny;

(d)         os nad oedd hawl gan y ceisydd i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar 5 Ebrill 1998, nad yw’r ceisydd wedi ennill yr hawl wedyn i gael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm; ac

(e)         nad oes premiwm o dan baragraff 9 o’r Atodlen hon, neu elfen o dan baragraff 21 neu 22 o’r Atodlen hon, wedi dod yn gymwysadwy i’r ceisydd.

(4) At ddibenion is-baragraffau (2)(b)(i) a (3)(a), rhaid trin ceisydd fel pe bai hawl ganddo i fudd-dal treth gyngor yn ystod unrhyw gyfnod os nad oedd hawl o’r fath gan y ceisydd, neu os oedd hawl o’r fath a fu ganddo wedi dod i ben ac—

(a)         os, drwy gydol y cyfnod hwnnw, dyfarnwyd budd-dal tai i’r ceisydd ac os oedd swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys y swm cymwysadwy o dan baragraff 3(1)(a) o Atodlen 3 i Reoliadau Budd-dal Tai 2006 (cyfradd premiwm teulu unig riant); neu

(b)         os byddid wedi dyfarnu budd-dal tai i’r ceisydd yn ystod y cyfnod hwnnw pe na bai’r cyfnod hwnnw wedi bod yn gyfnod di-rent yn yr ystyr a roddir i “rent free period” fel y’i diffinnir gan reoliad 81 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006 ac os byddai swm cymwysadwy’r ceisydd drwy gydol y cyfnod hwnnw wedi cynnwys y swm cymwysadwy o dan baragraff 3(1)(a) o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny.

RHAN 3

Premiymau

5. Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff 6 o’r Atodlen hon, bydd y premiymau a bennir yn Rhan 4 o’r Atodlen hon, at ddibenion paragraffau 24(1)(d) a 25(2)(e) o’r cynllun hwn yn gymwysadwy i geisydd sy’n bodloni’r amod a bennir ym mharagraffau 9 i 14 o’r Atodlen hon mewn perthynas â’r premiwm hwnnw.

6. Yn ddarostyngedig i baragraff 7 o’r Atodlen hon, pan fo ceisydd yn bodloni’r amodau mewn perthynas â mwy nag un premiwm yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, un premiwm yn unig fydd yn gymwys i’r ceisydd, ac os bydd eu symiau’n wahanol, y swm uwch neu uchaf fydd yn gymwys.

7. Bydd modd i’r premiymau canlynol—

(a)         premiwm anabledd difrifol, y mae paragraff 11 o’r Atodlen hon yn gymwys iddo;

(b)         premiwm anabledd uwch, y mae paragraff 12 o’r Atodlen hon yn gymwys iddo;

(c)         premiwm plentyn anabl, y mae paragraff 13 o’r Atodlen hon yn gymwys iddo; a

(d)         premiwm gofalwr, y mae paragraff 14 o’r Atodlen hon yn gymwys iddo,

fod yn gymwysadwy, yn ychwanegol at unrhyw bremiwm arall a allai fod yn gymwys o dan yr Atodlen hon.

8.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), at ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, unwaith y bydd premiwm yn gymwysadwy i geisydd o dan y Rhan hon, rhaid trin person fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal—

(a)         yn achos budd-dal y mae Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau sy’n Gorgyffwrdd) 1979([227]) yn gymwys iddo, yn ystod unrhyw gyfnod y byddai’r person hwnnw, oni bai am ddarpariaethau’r Rheoliadau hynny, yn cael y budd-dal hwnnw; a

(b)         yn ystod unrhyw gyfnod a dreulir gan berson yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973([228]), neu gan Ddatblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd o dan adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990([229]) neu yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r person hwnnw’n cael lwfans hyfforddi.

(2) At ddibenion y premiwm gofalwr o dan baragraff 14 o’r Atodlen hon ni ddylid trin person fel pe bai’n cael lwfans gofalwr yn rhinwedd is-baragraff (1)(a) ac eithrio pan a chyhyd ag y bo’r person yr hawliwyd y lwfans mewn perthynas â’i ofal yn dal i gael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol sy’n daladwy o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA.

Premiwm anabledd

9. Yr amod yw—

(a)         pan fo’r ceisydd yn geisydd sengl neu’n unig riant, nad yw’r ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac y bodlonir yr amod ychwanegol a bennir ym mharagraff 10 o’r Atodlen hon; neu

(b)         pan fo gan y ceisydd bartner, naill ai—

                           (i)    nad yw’r ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth a bod y ceisydd yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir ym mharagraff 10(1)(a) neu (b); neu

                         (ii)    nad yw partner y ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth a bod partner y ceisydd yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir ym mharagraff 10(1)(a).

Amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd

10.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 8 o’r Atodlen hon, yr amod ychwanegol y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o’r Atodlen hon yw naill ai—

(a)         bod y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd—

                           (i)    yn cael un neu ragor o’r budd-daliadau canlynol: lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, TALlA, yr elfen anabledd neu’r elfen anabledd difrifol o’r credyd treth gwaith fel y’u pennir yn rheoliad 20(1)(b) ac (f) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002([230]), atodiad symudedd, budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan Ran 2 o DCBNC neu lwfans anabledd difrifol o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno, ond, yn achos budd-dal analluogrwydd hirdymor neu lwfans anabledd difrifol, hynny yn unig pan delir y budd-dal neu’r lwfans mewn perthynas â’r ceisydd; neu

                         (ii)    wedi bod yn cael budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan Ran 2 o DCBNC pan beidiodd yr hawlogaeth i’r budd-dal hwnnw oherwydd talu pensiwn ymddeol o dan y Ddeddf honno, a bod y ceisydd yn y cyfamser wedi parhau â hawlogaeth ddi-dor i—

(aa)        budd-dal treth gyngor (am y cyfnod hyd at1 Ebrill 2013), neu

(bb)       gostyngiad o dan y cynllun hwn (am y cyfnod sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2013), ac,

os oedd y budd-dal analluogrwydd hirdymor yn daladwy i bartner y ceisydd, bod y partner yn parhau’n aelod o’r teulu; neu

                       (iii)    wedi bod yn cael lwfans gweini neu lwfans byw i’r anabl ond ataliwyd taliadau o’r budd-dal hwnnw dros dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 113(2) o DCBNC neu lleihawyd hwy fel arall oherwydd bod y ceisydd, neu bartner y ceisydd, wedi mynd yn glaf o fewn ystyr paragraff 55(11)(i) (trin costau gofal plant); neu

                        (iv)    wedi bod yn cael taliad annibyniaeth bersonol, ond ataliwyd taliadau o’r budd-dal hwnnw dros dro yn unol ag adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 oherwydd bod y ceisydd wedi mynd yn glaf o fewn ystyr paragraff 55(11)(i) (trin costau gofal plant); neu

                          (v)    wedi bod yn cael TALlA ond ataliwyd taliadau ohono dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb; neu

                        (vi)    wedi cael, gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol, gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd o dan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006([231]), neu, yn yr Alban, o dan adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978([232]) (darparu gwasanaethau gan Weinidogion yr Alban), neu, yng Nghymru, o dan adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([233]) ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, neu, yng Ngogledd Iwerddon, wedi cael, gan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd, gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd o dan erthygl 30(1) o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu, yn cael taliadau ar ffurf grant, gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 10(3) o Atodlen 1 i Ddeddf 2006([234]) (darparu cerbydau ar gyfer pobl anabl) neu, yn yr Alban, gan Weinidogion yr Alban o dan adran 46 o Ddeddf 1978; neu

                      (vii)    yn ddall, ac o ganlyniad wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948([235])(gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994([236]); neu

(b)         bod y ceisydd—

                           (i)    yn analluog i weithio, neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno; a

                         (ii)    wedi bod yn analluog i weithio neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio am gyfnod di-dor o ddim llai nag—

(aa)        yn achos ceisydd sy’n derfynol wael yn yr ystyr a roddir i “terminally ill” yn adran 30B(4) o DCBNC, 196 diwrnod;

(bb)       mewn unrhyw achos arall, 364 diwrnod.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(vi), yn achos person y peidiwyd â’i gofrestru fel person dall wedi iddo adennill ei olwg, rhaid ei drin, er gwaethaf hynny, fel pe bai’n ddall ac yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir yn yr is-baragraff hwnnw am gyfnod o 28 wythnos yn dilyn y dyddiad y peidiwyd â chofrestru’r person felly.

(3) At ddibenion is-baragraff (1)(b), unwaith y bydd y premiwm anabledd yn gymwysadwy i geisydd yn rhinwedd bodloni ohono’r amod ychwanegol a bennir yn y ddarpariaeth honno, os yw’r ceisydd wedyn, am gyfnod o 8 wythnos neu lai, yn peidio â chael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, neu’n peidio â bod yn analluog i weithio, yna, pan â’n analluog i weithio felly drachefn, rhaid ei drin ar unwaith wedyn fel pe bai’n bodloni’r amod yn is-baragraff (1)(b).

(4) At ddibenion is-baragraff (1)(b), unwaith y bydd y premiwm anabledd yn gymwysadwy i geisydd yn rhinwedd bodloni ohono’r amod ychwanegol a bennir yn y ddarpariaeth honno, rhaid parhau i drin y ceisydd fel pe bai’n bodloni’r amod hwnnw am unrhyw gyfnod a dreulir gan y ceisydd yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant a ddarperir o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990 neu am unrhyw gyfnod pan fo’r ceisydd yn cael lwfans hyfforddi.

(5) At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan wahenir unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau o analluedd gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod, rhaid trin y cyfnodau hynny fel un cyfnod di-dor.

(6) At ddibenion y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson sydd, neu a oedd, yn cael budd-dal analluogrwydd hirdymor yn cynnwys person sydd neu a oedd yn cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar gyfradd hafal i’r gyfradd hirdymor, yn rhinwedd adran 30B(4)(a) o DCBNC (budd-dal analluogrwydd byrdymor i berson sy’n derfynol wael), neu a fyddai’n cael neu wedi cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar gyfradd o’r fath pe na bai cyfradd y budd-dal analluogrwydd byrdymor sydd eisoes yn daladwy i’r person hwnnw yn hafal i’r gyfradd hirdymor neu’n uwch, neu wedi bod yn hafal i’r gyfradd honno neu’n uwch.

(7) Yn achos ceisydd sy’n fuddiolwr cynllun ‘o fudd-dal i waith’ (sef person y mae rheoliad 13A(1) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) (Cyffredinol) 1995 ([237]) yn gymwys iddo ac sydd drachefn yn mynd yn analluog i weithio at ddibenion Rhan 12A o DCBNC) rhaid trin—

(a)         y cyfeiriad at gyfnod o 8 wythnos yn is-baragraff (3); a

(b)         y cyfeiriad at gyfnod o 56 diwrnod yn is-baragraff (5),

ill dau fel cyfeiriad at gyfnod o 104 wythnos.

(8) Nid oes hawl gan geisydd i gael y premiwm anabledd os oes gan y ceisydd, neu os trinnir ef fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith.

Premiwm anabledd difrifol

11.(1)(1) Yr amod yw fod y ceisydd yn berson ag anabledd difrifol.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin ceisydd fel pe bai’n berson ag anabledd difrifol—

(a)         yn achos ceisydd sengl, unig riant neu geisydd a drinnir fel pe na bai ganddo bartner o ganlyniad i is-baragraff (3) os, ac yn unig os—

                           (i)    yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a

                         (ii)    yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy; a

                       (iii)    nad oes neb sydd â hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr o dan adran 70 o DCBNC mewn perthynas â gofalu am y ceisydd;

(b)         yn achos ceisydd sydd â phartner, os ac yn unig os—

                           (i)    yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a

                         (ii)    partner y ceisydd hefyd yn cael lwfans o’r fath neu, pan fo’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod, pob aelod arall o’r briodas honno’n cael lwfans o’r fath; a

                       (iii)    yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy,

a naill ai mae person sydd â hawl i gael ac yn cael, lwfans gofalwr mewn perthynas â gofalu am un aelod yn unig o’r cwpl, neu, yn achos priodas amlbriod, am un neu ragor ond nid pob un o aelodau’r briodas, neu, yn ôl fel y digwydd, nad oes neb sydd â hawl i gael ac yn cael lwfans o’r fath mewn perthynas â gofalu am y naill na’r llall o aelodau’r cwpl, neu am unrhyw aelod o’r briodas amlbriod.

(3) Pan fo gan geisydd bartner nad yw’n bodloni’r amod yn is-baragraff (2)(b)(ii), a’r partner hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10(1)(a)(vii) a (2) o’r Atodlen hon, rhaid trin y partner hwnnw at ddibenion is-baragraff (2)(b)(ii) fel pe na bai’r person hwnnw’n bartner i’r ceisydd.

(4) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(ii) a (2)(b)(iii) rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth—

(a)         person sy’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; neu

(b)         person sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10(1)(a)(vii) a (2).

(5) At ddibenion is-baragraff (2)(b) rhaid trin person—

(a)         fel pe bai’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol sy’n daladwy ar y naill gyfradd neu’r llall o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA, os byddai’r person hwnnw’n yn cael lwfans neu daliad felly, pe na bai wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 28 diwrnod;

(b)         fel pe bai hawl ganddo i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr, os byddai ganddo hawl i gael ac y byddai’n cael y lwfans hwnnw pe na bai’r person y mae’r person hwnnw’n gofalu amdano yn glaf mewn ysbyty am gyfnod hwy nag 28 diwrnod.

(6) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iii) a (2)(b), rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth ddyfarniad o lwfans gofalwr i’r graddau y mae taliad o’r cyfryw ddyfarniad wedi ei ôl-ddyddio ar gyfer cyfnod cyn y dyddiad y talwyd y dyfarniad gyntaf.

(7) Yn is-baragraff (2)(a)(iii) a (b), mae cyfeiriadau at berson sy’n cael lwfans gofalwr yn cynnwys cyfeiriadau at berson a fyddai wedi bod yn cael y lwfans hwnnw oni bai am weithredu cyfyngiad o dan adran 6B neu 7 o Ddeddf Twyll Nawdd Cymdeithasol 2001([238]) (darpariaethau colli budd-dal).

Premiwm anabledd uwch

12.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yr amod yw—

(a)         bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd, neu fod y ceisydd i’w drin fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith; neu

(b)         bod elfen ofal y lwfans byw i’r anabl yn daladwy ar y gyfradd uchaf a ragnodir o dan adran 72(3) o DCBNC, neu byddai’n daladwy pe na bai budd-dal wedi ei  atal dros dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 113(2) o DCBNC neu oni bai am leihad oherwydd traddodi i ysbyty mewn perthynas ag—

                           (i)    y ceisydd; neu

                         (ii)    aelod o deulu’r ceisydd,

nad yw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

(c)         bod elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy ar y gyfradd uwch a ragnodir yn unol ag adran 78(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol ag adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 mewn perthynas ag—

                           (i)    y ceisydd; neu

                         (ii)    aelod o deulu’r ceisydd,

nad yw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

(d)     bod TALlA yn daladwy mewn perthynas ag—

                           (i)    y ceisydd; neu

                         (ii)    aelod o deulu’r ceisydd,

nad yw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth.

(2) Os peidir â bodloni’r amod yn is-baragraff (1) oherwydd marwolaeth plentyn neu berson ifanc, yr amod yw fod hawl gan y ceisydd neu bartner i gael budd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc o dan adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys).

(3) Ni fodlonir yr amod os yw’r person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)—

(a)         yn geisydd—

                           (i)    nad yw’n aelod o gwpl neu briodas amlbriod; a

                         (ii)    yn glaf o fewn ystyr paragraff 55(11)(e) o’r cynllun hwn (trin costau gofal plant) ac wedi bod yn glaf felly am gyfnod hwy na 52 wythnos; neu

(b)         yn aelod o gwpl neu briodas amlbriod y mae pob aelod ohono yn glaf o fewn ystyr paragraff 55(11)(e) ac wedi bod yn glaf felly am gyfnod hwy na 52 wythnos.

Premiwm plentyn anabl

13. Yr amod yw fod plentyn neu berson ifanc, sydd â’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gyfrifol amdano ac sy’n aelod o aelwyd y ceisydd—

(a)         yn cael lwfans byw i’r anabl neu daliad annibyniaeth bersonol, neu nad yw bellach yn cael lwfans neu daliad o’r fath oherwydd bod y plentyn neu’r person ifanc yn glaf, ar yr amod bod y plentyn neu’r person ifanc yn parhau’n aelod o’r teulu; neu

(b)         yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10 o’r Atodlen hon; neu

(c)         yn blentyn neu berson ifanc y mae adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys) yn gymwys mewn perthynas ag ef at ddibenion hawlogaeth i fudd-dal plant, ond yn unig am y cyfnod a ragnodir o dan yr adran honno, ac y cynhwyswyd premiwm plentyn anabl mewn perthynas ag ef yn swm cymwysadwy’r ceisydd yn union cyn marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw, neu peidiwyd â’i gynnwys yn swm cymwysadwy’r ceisydd oherwydd marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw; neu

(d)         yn cael TALlA.

Premiwm gofalwr

14.(1)(1) Yr amod yw fod hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd, neu’r ddau ohonynt, i gael lwfans gofalwr o dan adran 70 o DCBNC.

(2) Pan fo premiwm gofalwr wedi ei ddyfarnu ond—

(a)         bydd farw’r person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal; neu

(b)         mewn unrhyw achos arall, bod hawl y person, y dyfarnwyd y premiwm gofalwr mewn perthynas ag ef, i gael lwfans gofalwr yn dod i ben,

rhaid trin yr amod ar gyfer dyfarnu’r premiwm fel pe bai wedi ei fodloni am gyfnod o wyth wythnos o’r dyddiad perthnasol a bennir yn is-baragraff (3).

(3) Y dyddiad perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) fydd y canlynol—

(a)         os yw is-baragraff (2)(a) yn gymwys, y dydd Sul sy’n dilyn marwolaeth y person y dyfarnwyd lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal, neu ddyddiad y farwolaeth os bu farw ar ddydd Sul;

(b)         mewn unrhyw achos arall, y dyddiad y daeth i ben hawl y person, yr oedd ganddo hawl i gael lwfans gofalwr, i gael y lwfans hwnnw.

(4) Pan fo person, y bu hawl ganddo i gael lwfans gofalwr, yn gwneud cais am ostyngiad wedi i’w hawl i gael y lwfans hwnnw ddod i ben, rhaid trin yr amod ar gyfer dyfarnu’r premiwm gofalwr fel pe bai wedi ei fodloni am gyfnod o wyth wythnos—

(a)         o’r dyddiad y bu farw’r person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal;

(b)         mewn unrhyw achos arall, o’r dyddiad y daeth i ben hawl y person, yr oedd ganddo hawl i gael lwfans gofalwr, i gael y lwfans hwnnw.

Personau sy’n cael taliadau consesiynol

15. At y diben o benderfynu a oes premiwm yn gymwysadwy o dan baragraffau 10 i 14 o’r Atodlen hon, rhaid trin unrhyw daliad consesiynol, a wnaed i ddigolledu’r person hwnnw oherwydd methiant i dalu unrhyw fudd-dal a grybwyllir yn y paragraffau hynny, fel pe bai’n daliad o’r budd-dal hwnnw.

Personau sy’n cael budd-dal ar gyfer rhywun arall

16. At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae person i’w ystyried fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal os, ac yn unig os, telir y budd-dal mewn perthynas â’r person hwnnw ac mae’r person i’w ystyried felly yn ystod, yn unig, pa bynnag gyfnod y telir y budd-dal hwnnw mewn perthynas ag ef.

RHAN 4

Symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3

Premiwm

Swm

17.(1)(1) Premiwm Anabledd—

 

(a)         pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 9(a) o’r Atodlen hon;

£31.00;

(b)         pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 9(b) o’r Atodlen hon.

£44.20;

(2) Premiwm Anabledd Difrifol—

 

(a)         pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 11(2)(a) o’r Atodlen hon;

£59.50;

(b)         pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 11(2)(b) o’r Atodlen hon—

 

                           (i)    mewn achos pan fo rhywun yn cael lwfans gofalwr neu pan fo’r person hwnnw neu unrhyw bartner yn bodloni’r amod hwnnw yn rhinwedd paragraff 11(5) o’r Atodlen hon yn unig;

£59.50;

                         (ii)    mewn achos pan nad oes neb yn cael lwfans o’r fath.

£119.00.

(3) Premiwm Plentyn Anabl.

£57.89 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y mae’r amod a bennir ym mharagraff 13 o Ran 3 o’r Atodlen hon wedi ei fodloni mewn perthynas ag ef.

(4) Premiwm Gofalwr.

£33.30 mewn perthynas â phob person sy’n bodloni’r amod a bennir ym mharagraff 14 o’r Atodlen hon.

(5) Premiwm Anabledd Uwch.

(a)     £23.45 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff 12 o’r Atodlen hon mewn perthynas ag ef;

 

(b)                   £15.15 mewn perthynas â phob person—

 

                  (i)    nad yw yn blentyn neu berson  ifanc, ac

                (ii)              nad yw’n aelod o gwpl neu briodas amlbriod;

 y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff 12 o’r Atodlen hon mewn perthynas ag ef;

 

(c)     £21.75 pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl neu briodas amlbriod ac y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff 12 o’r Atodlen hon mewn perthynas ag aelod o’r cwpl hwnnw neu’r briodas amlbriod honno.

RHAN 5

Yr elfennau

18. Yn ddarostyngedig i baragraff 20 o’r Atodlen hon, mae hawl gan y ceisydd i gael un, ond nid y ddwy, o’r elfennau ym mharagraff 21 neu 22  o’r Atodlen hon os yw—

(a)         y ceisydd neu bartner y ceisydd wedi gwneud cais am lwfans cyflogaeth a chymorth;

(b)         bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd neu bartner y ceisydd alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith, neu fod y ceisydd neu bartner y ceisydd i’w drin felly; ac

(c)         naill ai bod—

                           (i)    y cyfnod asesu, yn yr ystyr o “assessment phase” fel y’i diffinnir yn adran 24(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2007([239]), wedi dod i ben; neu

                         (ii)    rheoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008([240]) (amgylchiadau pan nad yw’r amod bod y cyfnod asesu wedi dod i ben cyn bod hawlogaeth i’r elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith yn gymwys) yn gymwys.

19. Yn ddarostyngedig i baragraff 20, mae hawl gan y ceisydd i gael un, ond nid y ddwy o’r elfennau ym mharagraffau 21 a 22 os oes hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd.

20.(1)(1) Nid oes gan y ceisydd hawlogaeth o dan baragraff 21 neu 22 os oes hawl gan y ceisydd i gael y premiwm anabledd o dan baragraffau 9 a 10 o’r Atodlen hon.

(2) Os yw’r ceisydd a phartner y ceisydd ill dau’n bodloni paragraff 21 neu 22, yr elfen sydd i’w chynnwys yn swm cymwysadwy’r ceisydd yw’r elfen sy’n berthynol i’r ceisydd.

Yr elfen gweithgaredd perthynol i waith

21. Mae hawl gan y ceisydd i gael yr elfen gweithgaredd perthynol i waith os yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd neu bartner y ceisydd alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, neu ei fod i’w drin felly.

Yr elfen gymorth

22. Mae hawl gan y ceisydd i gael yr elfen gymorth os yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd neu bartner y ceisydd alluedd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith, neu ei fod i’w drin felly.

RHAN 6

Symiau’r elfennau

23. Swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith yw £28.45.

24. Swm yr elfen gymorth yw £34.80.

RHAN 7

Ychwanegiad trosiannol

25.(1)(1) Mae hawl gan y ceisydd i gael yr ychwanegiad trosiannol a gyfrifir yn unol â pharagraff 28 yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)         pan fo hawl gan ceisydd neu bartner y ceisydd (“y person perthnasol”) i gael lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd; neu

(b)         pan fo’r person perthnasol yn apelio yn erbyn penderfyniad trosi yn yr ystyr o “conversion decision” fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010([241]) ac—

                           (i)    y’i trinnir fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn rhinwedd rheoliad 30 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010; a

                         (ii)    nad yw’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm,

oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol a gyfrifid yn unol â pharagraff 28 o’r Atodlen hon yn ddim.

(2) Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—

(a)         gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29 o’r Atodlen hon;

(b)         terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan y cynllun hwn;

(c)         y person perthnasol yn peidio â bodloni gofynion is-baragraff (1)(a) neu (b), yn ôl fel y digwydd;

(d)         y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;

(e)         5 Ebrill 2020.

26.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)         hawl y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn dod i ben, yn rhinwedd terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd, o dan—

                           (i)    paragraff 25(2)(b) o’r Atodlen hon;

                         (ii)    is-baragraff (3)(b) o’r paragraff hwn; neu

                       (iii)    paragraff 27(3)(b) o’r Atodlen hon;

(b)         o fewn 12 wythnos ar ôl y terfyniad hwnnw ond cyn 5 Ebrill 2020, y ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn;

(c)          yn yr wythnos ostyngiad y daw’r ceisydd yn gymwys drachefn i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn, mae hawl gan y person perthnasol i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm; a

(d)         ar y dyddiad y mae’r ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn, nid oes hawl gan y ceisydd na phartner y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm na chymhorthdal incwm.

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae hawl gan y ceisydd, yn effeithiol o’r diwrnod y mae’r ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn, i gael ychwanegiad trosiannol o swm yr ychwanegiad trosiannol y byddid wedi ei ddyfarnu pe na bai hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol wedi dod i ben (ond gan gymryd i ystyriaeth yr effaith y byddai unrhyw newid yn yr amgylchiadau, a ddigwyddodd yn y cyfamser wedi ei gael yn rhinwedd paragraff 29), oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol yn ddim.

(3) Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—

(a)         gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29 o’r Atodlen hon;

(b)         terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan y cynllun hwn;

(c)         hawl y person perthnasol i gael y lwfans cyflogaeth a chymorth y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) yn dod i ben;

(d)         y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;

(e)         5 Ebrill 2020.

27.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ddigwydd yr amgylchiadau canlynol—

(a)         hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn dod i ben yn rhinwedd terfynu hawl y person perthnasol i gael lwfans cyflogaeth a chymorth, o dan—

                           (i)    paragraff 25(2)(c) o’r Atodlen hon;

                         (ii)    paragraff 26(3)(c) o’r Atodlen hon; neu

                       (iii)    is-baragraff (3)(c) o’r paragraff hwn;

(b)         y person perthnasol, cyn 5 Ebrill 2020, yn ennill yr hawl drachefn i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm;

(c)         ar y dyddiad y mae’r person perthnasol yn ennill yr hawl drachefn i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm, rheoliad 145(1) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 yn gymwys i’r person perthnasol; a

(d)         ar y dyddiad y mae’r person perthnasol yn ennill yr hawl drachefn i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm, nid oes hawl gan y ceisydd na phartner y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm na chymhorthdal incwm.

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae hawl gan y ceisydd, yn effeithiol o’r diwrnod y bydd hawlogaeth y person perthnasol i gael lwfans cyflogaeth a chymorth yn cael effaith at ddibenion gostyngiad o dan y cynllun hwn, i gael ychwanegiad trosiannol o swm yr ychwanegiad trosiannol y byddid wedi ei ddyfarnu pe na bai hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol wedi dod i ben (ond gan gymryd i ystyriaeth yr effaith y byddai unrhyw newid yn yr amgylchiadau, a ddigwyddodd yn y cyfamser wedi ei gael yn rhinwedd paragraff 29 o’r Atodlen hon), oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol yn ddim.

(3) Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—

(a)         gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29 o’r Atodlen hon;

(b)         terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan y cynllun hwn;

(c)         hawl y person perthnasol i gael y lwfans cyflogaeth a chymorth y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b) yn dod i ben;

(d)         y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;

(e)         5 Ebrill 2020.

RHAN 8

Swm yr ychwanegiad trosiannol

28.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 29 o’r Atodlen hon, swm yr ychwanegiad trosiannol yw’r gwahaniaeth rhwng y Swm A a’r Swm B (A>B).

(2) Pan wneir penderfyniad trosi yn yr ystyr o “conversion decision” fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010 (“Rheoliadau 2010”) mewn perthynas â’r person perthnasol—

(a)         Swm A yw’r swm sylfaenol y byddid wedi ei gymhwyso ar y diwrnod yr oedd y penderfyniad yn cael effaith, pe na bai’r penderfyniad hwnnw wedi ei wneud; a

(b)         Swm B yw’r swm sylfaenol a gymhwyswyd ar y diwrnod hwnnw o ganlyniad i’r penderfyniad.

(3) Pan fo’r person perthnasol yn apelio yn erbyn penderfyniad trosi fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau 2010 a thrinnir y person perthnasol fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn rhinwedd rheoliad 30 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau 2010—

(a)         Swm A yw’r swm sylfaenol y byddid wedi ei gymhwyso ar y diwrnod y triniwyd y person perthnasol gyntaf fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, pe na bai’r person perthnasol wedi ei drin felly; a

(b)         Swm B yw’r swm sylfaenol a gymhwyswyd ar y diwrnod hwnnw o ganlyniad i drin y person perthnasol felly.

(4) Yn y paragraff hwn a pharagraff 29, ystyr “swm sylfaenol” (“basic amount”) yw swm cyfanredol y cyfryw symiau a allai fod yn gymwys yn achos y ceisydd yn unol â pharagraff 24(1)(a) i (e) neu baragraff  25(2)(a) i (f) o’r cynllun hwn.

29.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), os digwydd unrhyw newid yn yr amgylchiadau sy’n arwain at gynnydd yn swm sylfaenol y ceisydd, rhaid lleihau’r ychwanegiad trosiannol a oedd yn gymwys yn union cyn y newid yn yr amgylchiadau, o swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng Swm C a Swm D (C>D).

(2) Os yw’r gwahaniaeth rhwng Swm C a Swm D yn fwy na swm yr ychwanegiad trosiannol a oedd yn gymwys yn union cyn y newid yn yr amgylchiadau, rhaid lleihau’r ychwanegiad trosiannol hwnnw i ddim.

(3) Swm C yw’r swm sylfaenol sy’n gymwys o ganlyniad i’r cynnydd.

(4) Swm D yw’r swm sylfaenol a oedd yn gymwys yn union cyn y cynnydd.

ATODLEN 4

Symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr

1. Pan fo dau neu ragor o baragraffau 2 i 5  o’r Atodlen hon yn gymwys mewn unrhyw achos penodol, mae’r uchafswm cyfanredol sydd i’w ddiystyru yn yr achos hwnnw o dan y paragraffau hynny wedi ei gyfyngu i—

(a)         £25 yn achos unig riant;

(b)         £20 mewn unrhyw achos arall.

2. Mewn achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, £25 o’r enillion.

3.(1)(1) Yn achos enillion o unrhyw gyflogaeth neu gyflogaethau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddi neu’n gymwys iddynt, £20.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gyflogaeth—

(a)         fel diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan awdurdod tân ac achub, a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004([242]) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(b)         fel diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan Wasanaeth Tân ac Achub yr Alban([243]);

(c)         fel gwyliwr y glannau cynorthwyol mewn perthynas â gweithgareddau achub arfordirol;

(d)         fel aelod o griw, neu ar gyfer lansio, bad achub pan fo’r gyflogaeth yn un rhan-amser;

(e)         fel aelod o unrhyw un o’r lluoedd tiriogaethol neu’r lluoedd wrth gefn a ragnodir yn Rhan I o Atodlen 6 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 2001([244]).

(3) Os—

(a)         diystyrir o dan is-baragraff (1) unrhyw enillion y ceisydd, neu enillion ei bartner os oes partner ganddo, neu enillion y ddau ohonynt; a

(b)         bod gan y naill neu’r llall neu’r ddau ohonynt enillion eraill,

cymaint o’r enillion eraill hynny na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r enillion a ddiystyrwyd o dan yr is-baragraff hwnnw, yn fwy nag £20.

4.(1)(1) Os yw’r ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, ei bartner, yn ofalwr, neu os yw’r ddau ohonynt yn ofalwyr, £20 o unrhyw enillion a geir o gyflogaeth y ceisydd neu’r ddau ohonynt.

(2) Os dyfernir y premiwm gofalwr mewn perthynas â’r ceisydd a hefyd mewn perthynas ag unrhyw bartner y ceisydd, rhaid cydgrynhoi eu henillion at ddibenion y paragraff hwn, ond ni chaiff y swm a ddiystyrir yn unol ag is-baragraff (1) fod yn fwy nag £20 o’r swm cyfanredol.

(3) Yn y paragraff hwn mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn ofalwr os bodlonir paragraff 14 o Ran 3 o Atodlen 3 (swm cymwysadwy ar gyfer gofalwyr) mewn perthynas â’r ceisydd.

5.(1)(1) Diystyrir £20 os yw’r ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, ei bartner—

(a)         yn cael—

                           (i)    budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan adran 30A o DCBNC;

                         (ii)    lwfans anabledd difrifol o dan adran 68 o’r Ddeddf honno;

                       (iii)    lwfans gweini o dan adran 64 o’r Ddeddf honno;

                        (iv)    lwfans byw i’r anabl;

                          (v)    taliad annibyniaeth bersonol;

                        (vi)    TALlA;

                      (vii)    unrhyw atodiad symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006([245]) (gan gynnwys atodiad o’r fath yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983([246]);

                    (viii)    yr elfen anabledd neu’r elfen anabledd difrifol o’r credyd treth gwaith o dan Atodlen 2 i Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a'r Gyfradd Uchaf) 2002([247]); neu

                        (ix)    lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd; neu

(b)         wedi ei gofrestru, neu’r ddau wedi eu cofrestru, yn ddall mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948([248]) (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994([249]); neu

(c)         yn analluog i weithio neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno, ac wedi bod yn analluog i weithio neu wedi cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio am gyfnod di-dor o ddim llai nag—

                           (i)    yn achos ceisydd sy’n derfynol wael yn yr ystyr a roddir i “terminally ill” yn adran 30B(4) o DCBNC, 196 diwrnod;

                         (ii)    mewn unrhyw achos arall, 364 diwrnod; neu

(d)         yn berson, sydd â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, neu’n cael ei drin fel pe bai â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn yr ystyr a roddir i “limited capacity for work” gan adran 1(4) o Ddeddf Diwygio Lles 2007, neu’n berson sydd â galluogrwydd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith, neu’n cael ei drin fel pe bai â galluogrwydd perthynol i waith yn yr ystyr a roddir i “limited capability for work-related activity” gan adran 2(5) o’r Ddeddf honno, a naill ai—

                           (i)    y cyfnod asesu, yn yr ystyr o “assessment phase” fel y’i diffinnir yn adran 24(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2007, wedi dod i ben; neu

                         (ii)    rheoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008([250]) (amgylchiadau pan nad yw’r amod bod y cyfnod asesu wedi dod i ben cyn bod hawlogaeth i’r elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith yn gymwys) yn gymwys.

(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), diystyrir £20 os oedd y ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, ei bartner, o fewn cyfnod o 8 wythnos a ddaeth i ben ar y diwrnod y cyrhaeddodd y ceisydd neu bartner y ceisydd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth, yn cael dyfarniad o fudd-dal tai neu fudd-dal treth gyngor neu’n cael gostyngiad o dan y cynllun hwn ac—

(a)         os diystyrwyd £20 mewn perthynas ag enillion a gymerwyd i ystyriaeth yn y dyfarniad hwnnw; a

(b)         os yw’r person yr oedd ei enillion yn gymwys ar gyfer y diystyru yn parhau mewn cyflogaeth ar ôl terfynu’r dyfarniad hwnnw.

(3) Mae’r diystyriad o £20 a bennir yn is-baragraff (2) yn gymwys ar yr amod nad oes toriad, ac eithrio toriad nad yw’n hwy nag 8 wythnos, yn—

(a)         hawlogaeth y person i gael budd-dal tai; neu

(b)         y cyfnod yr oedd yn cael gostyngiad o dan y cynllun hwn; neu

(c)         ei gyflogaeth,

yn dilyn y diwrnod cyntaf y dyfarnwyd mewn perthynas ag ef y budd-dal hwnnw neu’r gostyngiad hwnnw o dan y cynllun hwn.

(4) £20 yw’r uchafswm y caniateir ei ddiystyru o dan y paragraff hwn, hyd yn oed, pan fo gan y ceisydd bartner, os yw’r ceisydd yn ogystal â’i bartner yn bodloni gofynion y paragraff hwn.

6.(1)(1) Os—

(a)         yw’r ceisydd (neu os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw) yn berson y mae is-baragraff (5) yn gymwys iddo;

(b)         yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ei fodloni bod y person yn ymgymryd â gwaith esempt, fel y’i diffinnir yn is-baragraff (6); ac

(c)         nad yw paragraff 32 o’r cynllun hwn (pensiynwyr sy’n cael credyd gwarant) yn gymwys,

y swm a bennir yn is-baragraff (7) (“y swm penodedig”).

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw paragraffau 1 i 5 ac 8 o’r Atodlen hon yn gymwys; ond mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, ac os byddai’r swm penodedig yn llai na’r swm a bennir ym mharagraff 2, yna bydd paragraff 2 yn gymwys yn lle’r paragraff hwn.

(3) Er gwaethaf paragraff 30 (cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod), os yw is-baragraff (1) yn gymwys i un aelod o gwpl (“A”) rhaid peidio â’i gymhwyso i’r aelod arall o’r cwpl hwnnw (“B”) ac eithrio i’r graddau y darperir yn is-baragraff (4).

(4) Pan fo enillion A yn llai na’r swm penodedig, rhaid diystyru hefyd gymaint o enillion B, o’i gydgrynhoi ag enillion A, na fyddai’n fwy na’r swm penodedig; ond mae’r swm o enillion B y caniateir ei ddiystyru o dan yr is-baragraff hwn yn gyfyngedig i uchafswm o £20, oni fodlonir yr Ysgrifennydd Gwladol fod B hefyd yn ymgymryd â gwaith esempt.

(5) Mae’r is-baragraff yn gymwys i berson—

(a)         sy’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol;

(b)         sy’n cael budd-dal analluogrwydd;

(c)         sy’n cael lwfans anabledd difrifol;

(d)         a gredydir ag enillion ar sail analluedd i weithio neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith o dan reoliad 8B o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Credydau)1975([251]).

(6) Ystyr “gwaith esempt” (“exempt work”) yw gwaith yn yr ystyr a roddir i “exempt work” yn—

(a)         rheoliad 45(2), (3) neu (4) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008; neu (yn ôl fel y digwydd)

(b)         rheoliad 17(2), (3) neu (4) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) (Cyffredinol) 1995([252]),

ac wrth benderfynu a yw ceisydd neu aelod o gwpl yn ymgymryd ag unrhyw fath o waith esempt at ddibenion y paragraff hwn, nid yw’n berthnasol a yw’r person hwnnw, neu bartner y person hwnnw, yn ymgymryd â gwaith arall yn ogystal.

(7) Y swm penodedig yw’r swm o arian a grybwyllir o bryd i’w gilydd mewn unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (6) ac y mae’r gwaith y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn esempt yn ei rhinwedd (neu, os oes mwy nag un ddarpariaeth berthnasol o’r fath, ac os yw’r darpariaethau hynny’n crybwyll symiau gwahanol o arian, yr uchaf o’r symiau hynny).

7. Unrhyw swm, neu’r gweddill o unrhyw swm, y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 18 neu 19 o Atodlen 5 pe bai incwm y ceisydd nad yw’n enillion wedi bod yn ddigon i roi hawl i’r ceisydd gael diystyru’r swm llawn o dan y paragraffau hynny.

8. Ac eithrio pan fo’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gymwys am ddiystyriad o £20 o dan ddarpariaethau blaenorol yr Atodlen hon—

(a)         rhaid diystyru £5 os oes enillion gan geisydd nad oes ganddo bartner;

(b)         rhaid diystyru £10 os oes enillion gan geisydd y mae ganddo bartner.

9. Unrhyw enillion, ac eithrio enillion y cyfeirir atynt ym mharagraff 37(9)(b) o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr), sy’n deillio o gyflogaeth a ddaeth i ben cyn y diwrnod pan fo’r ceisydd yn bodloni gyntaf yr amodau ar gyfer hawlogaeth i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn.

10.(1)(1) Mewn achos pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni un, o leiaf, o’r amodau a bennir yn is-baragraff (2), ac enillion net y ceisydd yn hafal i neu’n fwy na chyfanswm y symiau a bennir yn is-baragraff (3), rhaid cynyddu o £17.10 y swm o enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan yr Atodlen hon.

(2) Amodau’r is-baragraff hwn yw—

(a)         bod y ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, naill ai’r ceisydd neu ei bartner, yn berson y mae rheoliad 20(1)(c) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a'r Gyfradd Uchaf) 2002([253]) yn gymwys iddo; neu

(b)         bod—

                           (i)    y ceisydd, neu unrhyw bartner y ceisydd, yn 25 oed o leiaf ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu

                         (ii)    os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl—

(aa)        un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; a

(bb)       swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm teulu o dan baragraff 3 o Atodlen 2; neu

                       (iii)    y ceisydd yn unig riant sy’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu

                        (iv)    y ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, un ohonynt, yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a pharagraff 5(1) uchod wedi ei fodloni mewn perthynas â’r person hwnnw.

(3) Y canlynol yw’r symiau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)—

(a)         unrhyw swm a ddiystyrir o dan yr Atodlen hon;

(b)         swm y costau gofal plant a gyfrifir yn ddidynadwy o dan baragraff 54(1)(c) o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm ar sail wythnosol: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr); ac

(c)         £17.10.

(4) Mae darpariaethau baragraff 10 (gwaith am dâl) o’r cynllun hwn yn gymwys wrth benderfynu a yw person yn gweithio am ddim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd ai peidio, ond hynny fel pe bai’r cyfeiriad at 16 awr yn is-baragraff (1) o’r paragraff hwnnw yn gyfeiriad at 30 awr.

11. Os gwneir taliad o enillion mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.

ATODLEN 5

Symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr

1. Yn ychwanegol at unrhyw swm sydd i’w ddiystyru yn unol â pharagraffau 2 i 6 o’r Atodlen hon, £10 o unrhyw rai o’r canlynol—

(a)         pensiwn anabledd rhyfel (ac eithrio i’r graddau y mae pensiwn o’r fath i gael ei ddiystyru o dan baragraff 2 neu 3 o’r Atodlen hon);

(b)         pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;

(c)         pensiwn sy’n daladwy i berson fel gwraig weddw, gŵr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi, o dan unrhyw bŵer Ei Mawrhydi, ac eithrio o dan ddeddfiad, i wneud darpariaeth ynglŷn â phensiynau ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau a wnaed yn anabl neu a fu farw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron;

(d)         taliad incwm gwarantedig ac, os yw swm y taliad hwnnw wedi ei ostwng i lai na £10 gan bensiwn neu daliad sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) neu (b) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011([254]), cymaint o’r pensiwn neu’r taliad hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig a ddiystyrwyd, yn fwy na £10;

(e)         taliad a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu unrhyw bensiwn neu daliad a grybwyllir yn unrhyw un o’r is-baragraffau blaenorol;

(f)          pensiwn a delir gan lywodraeth gwlad y tu allan i Brydain Fawr, sy’n cyfateb i unrhyw un o’r pensiynau neu’r taliadau a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) uchod;

(g)         pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria.

2. Y cyfan o unrhyw swm a gynhwysir mewn pensiwn y mae paragraff 1 yn ymwneud ag ef mewn perthynas ag—

(a)         angen y ceisydd am weini cyson;

(b)         anabledd eithriadol o ddifrifol y ceisydd.

3. Unrhyw atodiad symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006([255]) (gan gynnwys atodiad o’r fath yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983([256]) neu unrhyw daliad y bwriedir iddo ddigolledu am fethiant i dalu atodiad o’r fath.

4. Unrhyw bensiwn atodol o dan erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi) ac unrhyw daliad cyfatebol a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn i unrhyw berson nad oes hawl ganddo o dan y Gorchymyn hwnnw.

5. Yn achos pensiwn a ddyfarnwyd ar y gyfradd atodol o dan erthygl 27(3) o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi,, a phartneriaid sifil sy’n goroesi), y swm a bennir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 4 i’r Cynllun hwnnw.

6.(1)(1) Unrhyw daliad—

(a)         a wneir o dan unrhyw un o’r Offerynnau Dosbarthu i wraig neu ŵr gweddw, neu bartner sifil sy’n goroesi person—

                           (i)    yr oedd ei farwolaeth i’w briodoli i wasanaeth mewn swyddogaeth gyfatebol i wasanaeth fel aelod o luoedd arfog y Goron; a

                         (ii)    y terfynodd ei wasanaeth yn y cyfryw swyddogaeth cyn 31 Mawrth 1973; a

(b)         sy’n hafal i’r swm a bennir yn erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006.

(2) Yn y paragraff hwn ystyr “yr Offerynnau Dosbarthu” (“the Dispensing Instruments”) yw Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ar 19 Rhagfyr 1881, Y Warant Frenhinol ar 27 Hydref 1884 a’r Gorchymyn gan Ei Fawrhydi ar 14 Ionawr 1922 (dyfarniadau eithriadol o dâl, tâl aneffeithiol a lwfansau).

7. £15 o unrhyw lwfans rhiant gweddw y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 39A o DCBNC.

8. £15 o unrhyw lwfans mam weddw y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 37 o DCBNC.

9. Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety, swm, mewn perthynas â phob person y darperir llety o’r fath iddo am y cyfan neu unrhyw ran o wythnos, sy’n hafal i—

(a)         pan nad yw swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag unrhyw un wythnos mewn perthynas â llety o’r fath a ddarperir i berson o’r fath yn fwy nag £20, 100 y cant o’r cyfryw daliadau; neu

(b)         pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn fwy nag £20, £20 a 50 y cant o’r swm dros ben £20.

10. Os yw’r ceisydd—

(a)         yn berchen buddiant rhydd-ddaliad neu lesddaliad unrhyw eiddo neu’n denant unrhyw eiddo; a

(b)         yn meddiannu rhan o’r eiddo hwnnw; ac

(c)         â chytundeb rhyngddo a pherson arall sy’n caniatáu i’r person hwnnw feddiannu rhan arall o’r eiddo hwnnw yn gyfnewid am dalu rhent ac—

                           (i)    y swm a delir gan y person hwnnw yn llai nag £20 yr wythnos, y cyfan o’r swm hwnnw; neu

                         (ii)    y swm a delir yn £20 neu ragor yr wythnos, £20.

11. Pan fo ceisydd yn cael incwm o dan flwydd-dal a brynwyd gyda benthyciad, sy’n bodloni’r amodau canlynol—

(a)         bod y benthyciad wedi ei wneud fel rhan o gynllun a oedd yn peri bod dim llai na 90 y cant o dderbyniadau’r benthyciad yn cael eu defnyddio gan y person y rhoddwyd y benthyciad iddo i brynu blwydd-dal a ddaw i ben ar ddiwedd oes y person hwnnw, neu ddiwedd oes yr un sy’n goroesi o blith dau neu ragor o bersonau (y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn fel “y derbynyddion blwydd-dal”) sy’n cynnwys y person y rhoddwyd y benthyciad iddo;

(b)         ar yr adeg y gwnaed y benthyciad, bod y person y’i rhoddwyd iddo neu bob un o’r derbynyddion blwydd-dal, wedi cyrraedd 65 oed;

(c)         bod y benthyciad wedi ei sicrhau ar annedd ym Mhrydain Fawr, a bod y person y gwnaed y benthyciad iddo, neu un o’r derbynyddion blwydd-dal, yn berchen ystâd neu fuddiant yn yr annedd honno;

(d)         bod y person y gwnaed y benthyciad iddo, neu un o’r derbynyddion blwydd-dal, yn meddiannu’r annedd y sicrhawyd y benthyciad arni, fel cartref y person neu’r derbynnydd blwydd-dal hwnnw ar yr adeg y telir y llog; ac

(e)         y telir y llog sy’n daladwy ar y benthyciad gan y person y rhoddwyd y benthyciad iddo neu gan un o’r derbynyddion blwydd-dal,

y swm, a gyfrifir ar sail wythnosol, sy’n hafal i—

                           (i)    pan fo adran 369 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988([257]) (llog morgais sy’n daladwy ar ôl didynnu treth) yn gymwys i’r taliadau o’r llog ar y benthyciad, y llog sy’n daladwy ar ôl didynnu swm sy’n hafal i’r dreth incwm ar y cyfryw daliadau yn unol â’r ganran gymwysadwy o dreth incwm, o fewn yr ystyr a roddir i “the applicable percentage of income tax” gan adran 369(1A) o’r Ddeddf honno;

                         (ii)    mewn unrhyw achos arall, y llog sy’n daladwy ar y benthyciad heb ddidynnu swm o’r fath.

12.(1)(1) Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, a wneir i’r ceisydd gan Ymddiriedolwyr wrth arfer disgresiwn sy’n arferadwy gan yr Ymddiriedolwyr.

(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i daliadau a wneir i’r ceisydd gan Ymddiriedolwyr wrth arfer disgresiwn sy’n arferadwy ganddynt at y diben o—

(a)         caffael bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin neu danwydd cartref;

(b)         talu rhent, treth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn atebol i’w talu;

(c)         talu costau tai o fath a bennir yn Atodlen 2 i Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([258]).

(3) Mewn achos y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, £20 neu—

(a)         os yw’r taliad yn llai nag £20, y cyfan o’r taliad;

(b)         os, yn achos y ceisydd, diystyrir £10 yn unol â pharagraff 1(a) i (g) o’r Atodlen hon, £10 neu’r taliad cyfan os yw’n llai na £10; neu

(c)         os, yn achos y ceisydd, diystyrir £15 o dan baragraff 7 neu baragraff 8 o’r Atodlen hon ac—

                           (i)    nad oes gan y ceisydd ddiystyriad o dan baragraff 1(a) i (g) o’r Atodlen hon, £5 neu’r taliad cyfan os yw’n llai na £5;

                         (ii)    pan fo gan y ceisydd ddiystyriad o dan baragraff 1(a) i (g) o’r Atodlen hon, dim.

13. Unrhyw gynnydd mewn pensiwn neu lwfans o dan Ran 2 neu 3 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 a delir mewn perthynas â dibynnydd ac eithrio partner y pensiynwr.

14. Unrhyw daliad y mae llys wedi gorchymyn ei wneud i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o ganlyniad i unrhyw ddamwain, anaf neu glefyd a ddioddefwyd gan y person neu blentyn y person y gwneir y taliad iddo neu mewn perthynas ag ef.

15. Taliadau cyfnodol a wneir i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan gytundeb yr ymunwyd ynddo i setlo hawliad a wnaed gan y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd, am anaf a ddioddefwyd gan y ceisydd neu bartner y ceisydd.

16. Unrhyw incwm sy’n daladwy y tu allan i’r Deyrnas Unedig, yn ystod unrhyw gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r incwm hwnnw i’r Deyrnas Unedig.

17. Unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi taliadau incwm, a wneir mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, i sterling.

18. Pan fo’r ceisydd yn gwneud cyfraniad rhiant mewn perthynas â myfyriwr sy’n dilyn cwrs mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu’n ymgymryd ag addysg yn y Deyrnas Unedig, a’r cyfraniad hwnnw wedi ei asesu at y diben o gyfrifo—

(a)         o dan, neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan bwerau a roddir gan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998([259]), dyfarniad y myfyriwr hwnnw;

(b)         o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980([260]), bwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall y myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno, neu o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno, unrhyw daliad i’r myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno; neu

(c)         benthyciad myfyriwr y myfyriwr hwnnw,

swm sy’n hafal i swm wythnosol y cyfraniad rhiant hwnnw, ond hynny mewn perthynas, yn unig, â’r cyfnod yr asesir bod y cyfraniad hwnnw’n daladwy ar ei gyfer.

19.(1)(1) Pan fo’r ceisydd yn rhiant myfyriwr sydd o dan 25 oed, mewn addysg uwch, a naill ai—

(a)         ddim yn cael unrhyw ddyfarniad, grant na benthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r addysg honno; neu

(b)         yn cael dyfarniad a roddir yn rhinwedd Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno, neu fwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall o dan adran 49(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, neu daliad o dan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno,

a’r ceisydd yn gwneud taliadau i gyfrannu tuag at gynnal y myfyriwr, ac eithrio cyfraniad rhiant sy’n dod o fewn paragraff 18, swm a bennir yn is-baragraff (2) mewn perthynas â phob wythnos yn ystod tymor y myfyriwr.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), bydd y swm yn hafal i—

(a)         swm wythnosol y taliadau; neu

(b)         y swm ar gyfer lwfans personol i geisydd sengl sydd o dan 25 oed llai swm wythnosol unrhyw ddyfarniad, bwrsari, ysgoloriaeth, lwfans neu daliad y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(b),

pa un bynnag yw’r lleiaf.

(3) Yn y paragraff hwn a pharagraff 18 mae cyfeiriad at “benthyciad myfyriwr” (“student loan”) neu “grant” (“grant”) yn gyfeiriad at fenthyciad myfyriwr neu grant o fewn ystyr Rhan 10 o’r cynllun hwn.

20.(1)(1) Pan fo swm cymwysadwy ceisydd yn cynnwys swm ar gyfer premiwm teulu, £15 o unrhyw daliad cynnal, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wnaed neu sy’n ddyladwy, gan briod, partner sifil, cyn-briod neu gyn-bartner sifil y ceisydd, neu briod, partner sifil, cyn-briod neu gyn-bartner sifil partner y ceisydd.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), os oes mwy nag un taliad cynnal i’w gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw wythnos, rhaid cydgrynhoi’r holl daliadau o’r fath a’u trin fel pe baent yn daliad sengl.

21. Ac eithrio mewn achos sy’n dod o dan baragraff 10 o Atodlen 4, pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni unrhyw un o’r amodau yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw, unrhyw swm o gredyd treth gwaith i fyny at £17.10.

22. Pan nad yw cyfanswm gwerth unrhyw gyfalaf a bennir yn Rhan 2 (cyfalaf a ddiystyrir at ddibenion penderfynu incwm tybiedig yn unig) o Atodlen 8 yn fwy na £10,000, unrhyw incwm sy’n deillio mewn gwirionedd o gyfalaf o’r fath.

23. Ac eithrio yn achos incwm o gyfalaf a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 8, unrhyw incwm gwirioneddol o gyfalaf.

24. Os oedd gan y ceisydd, neu’r person a oedd yn bartner y ceisydd ar 31 Mawrth 2003, hawlogaeth ar y dyddiad hwnnw i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ond peidiodd yr hawlogaeth honno ar neu cyn 5 Ebrill 2003 yn rhinwedd, yn unig, rheoliad 13 o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) Diwygio (Rhif 3) 1999([261]) fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw, y cyfan o incwm y ceisydd.

ATODLEN 6

Symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

1. Yn achos ceisydd a fu’n ymgymryd â gwaith am dâl fel enillydd cyflogedig, neu a fyddai wedi bod yn ymgymryd â gwaith o’r fath pe bai’r gyflogaeth wedi bod ym Mhrydain Fawr—

(a)         os—

                           (i)    terfynwyd y gyflogaeth oherwydd ymddeol; ac

                         (ii)    ar ôl ymddeol, os oes hawl gan y ceisydd i gael pensiwn ymddeol o dan DCBNC, neu pan nad oes hawl o’r fath ganddo oherwydd, yn unig, methiant y ceisydd i fodloni’r amodau cyfrannu,

unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno, ond hynny am gyfnod, yn unig, sy’n cychwyn ar y diwrnod yn union ar ôl y dyddiad y terfynwyd y gyflogaeth;

(b)         os terfynwyd y gyflogaeth rywfodd ac eithrio drwy ymddeol, a hynny cyn diwrnod cyntaf hawlogaeth i ostyngiad o dan y cynllun hwn, unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno, ac eithrio—

                           (i)    unrhyw daliad o’r natur a ddisgrifir yn—

(aa)        paragraff 48(1)(e) o’r cynllun hwn, neu

(bb)       adran 28, 64 neu 68 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996([262]) (taliadau gwarantu, atal dros dro o’r gwaith ar seiliau meddygol neu famolaeth); a

                         (ii)    unrhyw ddyfarniad, swm neu daliad o’r natur a ddisgrifir yn—

(aa)        paragraff 48(1)(g) neu (i) o’r cynllun hwn, neu

(bb)       adran 34 neu 70 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (taliadau gwarantu ac atal dros dro o’r gwaith: cwynion wrth dribiwnlysoedd cyflogaeth),

gan gynnwys unrhyw daliad a wneir o ganlyniad i setlo cwyn i dribiwnlys cyflogaeth neu achos llys;

(c)         os, cyn diwrnod cyntaf hawlogaeth i ostyngiad o dan y cynllun hwn—

                           (i)    nad yw’r gyflogaeth wedi ei therfynu, ond

                         (ii)    nad yw’r ceisydd yn ymgymryd â gwaith am dâl,

unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno ac eithrio unrhyw daliad neu gydnabyddiaeth ariannol o’r natur a ddisgrifir ym mharagraff 1(b)(i) neu (ii)(bb) o’r Atodlen hon neu baragraff 48(1)(j) o’r cynllun hwn

2.Yn achos ceisydd a fu, cyn diwrnod cyntaf hawlogaeth i ostyngiad o dan y cynllun hwn—

(a)          yn ymgymryd â chyflogaeth ran-amser fel enillydd cyflogedig, neu, os oedd y gyflogaeth y tu allan i Brydain Fawr, a fyddai wedi bod yn ymgymryd â chyflogaeth o’r fath pe bai’r gyflogaeth wedi bod ym Mhrydain Fawr; a

(b)         wedi peidio ag ymgymryd â’r gyflogaeth honno, boed y gyflogaeth honno wedi ei therfynu ai peidio,

unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno ac eithrio—

                           (i)    pan fo’r gyflogaeth wedi ei therfynu, unrhyw daliad o’r natur a ddisgrifir ym mharagraff 1(b)(i) neu (ii)(bb) o’r Atodlen hon;

                         (ii)    pan nad yw’r gyflogaeth wedi ei therfynu, unrhyw daliad neu gydnabyddiaeth ariannol o’r natur a ddisgrifir ym mharagraff 1(b)(i) neu (ii)(bb) o’r Atodlen hon neu baragraff 48(1)(j) o’r cynllun hwn.

3. Yn achos ceisydd a fu’n ymgymryd â gwaith am dâl neu gyflogaeth ran-amser fel enillydd hunangyflogedig neu a fyddai wedi bod yn ymgymryd felly pe bai’r gyflogaeth wedi bod ym Mhrydain Fawr, ac sydd wedi peidio â bod yn gyflogedig felly, o’r dyddiad y peidiodd cyflogaeth y ceisydd, unrhyw enillion a oedd yn deillio o’r gyflogaeth honno ac eithrio enillion y mae paragraff 50(3) a (4) o’r cynllun hwn (enillion enillwyr hunangyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn gymwys iddynt.

4.(1)(1) Mewn achos y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo ac nad yw paragraff 5 yn gymwys iddo, £20; ond er gwaethaf paragraff 30 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm a chyfalaf teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod), pan fo’r paragraff hwn yn gymwys i geisydd, rhaid peidio â’i gymhwyso i bartner y ceisydd ac eithrio pan fo, ac i’r graddau y bo, enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan y paragraff hwn yn llai nag £20.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys swm ynglŷn â’r premiwm anabledd, premiwm anabledd difrifol, elfen gweithgaredd perthynol i waith neu elfen gymorth o dan Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)         y ceisydd yn aelod o gwpl a swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys swm ynglŷn â’r premiwm anabledd difrifol o dan Atodlen 3; a

(b)         y ceisydd neu bartner y ceisydd heb gyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac o leiaf un ohonynt yn ymgymryd â chyflogaeth.

5. Mewn achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, £25.

6.(1)(1) Mewn achos pan nad yw paragraff 4 na pharagraff 5 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r ceisydd ac, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys swm ynglŷn â’r premiwm gofalwr o dan Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr), £20 o enillion y person sydd, neu a oedd ar unrhyw adeg yn ystod yr wyth wythnos flaenorol, yn cael lwfans gofalwr, neu a drinnir yn unol â pharagraff 14(2) o’r Atodlen honno fel pe bai’n cael lwfans gofalwr.

(2) Os dyfernir y premiwm gofalwr mewn perthynas â’r ceisydd ac unrhyw bartner y ceisydd, rhaid cydgrynhoi eu henillion at ddibenion y paragraff hwn, ond ni chaiff y swm sydd i’w ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) fod yn fwy nag £20 o’r swm cyfanredol.

7. Pan ddyfernir y premiwm gofalwr mewn perthynas â cheisydd sy’n aelod o gwpl ac sydd â’i enillion yn llai nag £20, ond nis dyfernir mewn perthynas â’r aelod arall o’r cwpl, ac y mae’r aelod arall hwnnw’n ymgymryd â chyflogaeth—

(a)         a bennir ym mharagraff 9(1) o’r Atodlen hon, cymaint o enillion yr aelod arall hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm a ddiystyrwyd o dan baragraff 6, yn fwy nag £20;

(b)         ac eithrio un bennir ym mharagraff 9(1) o’r Atodlen hon, cymaint o enillion yr aelod arall hwnnw o’r cyfryw gyflogaeth arall hyd at £10, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm a ddiystyrwyd o dan baragraff 5, yn fwy nag £20.

8. Mewn achos pan nad yw paragraffau 4, 6, 7 a 9 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r ceisydd, a’r ceisydd yn un o gwpl ac aelod o’r cwpl hwnnw mewn cyflogaeth, £10; ond, er gwaethaf paragraff 30 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod), pan fo’r paragraff hwn yn gymwys i geisydd, rhaid peidio â’i gymhwyso i bartner y ceisydd ac eithrio pan fo, ac i’r graddau y bo, enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan y paragraff hwn yn llai na £10.

9.(1)(1) Mewn achos pan nad yw paragraffau 4, 6, 7 a 9 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r ceisydd, £20 o enillion sy’n deillio o un neu ragor o gyflogaethau fel—

(a)         diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan awdurdod tân ac achub, a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004([263])neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(b)         diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan Wasanaeth Tân ac Achub yr Alban([264]);

(c)         fel gwyliwr y glannau cynorthwyol mewn perthynas â gweithgareddau achub arfordirol;

(d)         fel aelod o griw, neu ar gyfer lansio, bad achub pan fo’r gyflogaeth yn un rhan-amser;

(e)         fel aelod o unrhyw un o’r lluoedd tiriogaethol neu’r lluoedd wrth gefn a ragnodir yn Rhan I o Atodlen 6 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 2001([265]);

ond, er gwaethaf paragraff 30 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod), pan fo’r paragraff hwn yn gymwys i geisydd, rhaid peidio â’i gymhwyso i bartner y ceisydd ac eithrio i’r graddau a bennir yn is-baragraff (2).

(2) Os yw partner y ceisydd yn ymgymryd â chyflogaeth—

(a)         a bennir yn is-baragraff (1), cymaint o enillion partner y ceisydd, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm o enillion y ceisydd a ddiystyrwyd y paragraff hwn, yn fwy nag £20;

(b)         ac eithrio un a bennir yn is-baragraff (1), cymaint o enillion partner y ceisydd o’r gyflogaeth honno hyd at £10, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm o enillion y ceisydd a ddiystyrwyd o dan y paragraff hwn, yn fwy nag £20.

10. Pan fo’r ceisydd yn ymgymryd ag un neu ragor o’r cyflogaethau a bennir ym mharagraff 9(1) o’r Atodlen hon, ond enillion y ceisydd yn deillio o’r cyfryw gyflogaethau yn llai nag £20 mewn unrhyw wythnos a’r ceisydd hefyd yn ymgymryd ag unrhyw gyflogaeth arall, cymaint o enillion y ceisydd o’r gyflogaeth arall honno hyd at £5 os yw’r ceisydd yn geisydd sengl neu hyd at £10 os oes gan y ceisydd bartner, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm o enillion y ceisydd a ddiystyrwyd o dan baragraff 9, yn fwy nag £20.

11. Mewn achos pan nad oes yr un o’r paragraffau 4 i 10 o’r Atodlen hon yn gymwys, £5.

12.(1)(1) Os yw—

(a)         y ceisydd (neu os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw) yn berson y mae is-baragraff (5) yn gymwys iddo;

(b)         yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ei fodloni bod y person hwnnw’n ymgymryd â gwaith esempt fel y’i diffinnir yn is-baragraff (6); ac

(c)         nad yw paragraff 14 o’r Atodlen hon yn gymwys,

y swm a bennir yn is-baragraff (7) (“y swm penodedig”).

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw paragraffau 4 i 11 o’r Atodlen hon yn gymwys; ond mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, ac os byddai’r swm penodedig yn llai na’r swm a bennir ym mharagraff 5 o’r Atodlen hon, yna bydd paragraff 5 yn gymwys yn lle’r paragraff hwn.

(3) Er gwaethaf paragraff 30 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu ceisydd ac o briodas amlbriod), os yw is-baragraff (1) yn gymwys i un aelod o gwpl (“A”) rhaid peidio â’i gymhwyso i’r aelod arall (“B”) o’r cwpl hwnnw ac eithrio i’r graddau y darperir yn is-baragraff (4).

(4) Pan fo enillion A yn llai na’r swm penodedig, rhaid diystyru hefyd cymaint o enillion B, na fyddai, o’i gydgrynhoi ag enillion A, yn fwy na’r swm penodedig; ond cyfyngir y swm o enillion B y caniateir ei ddiystyru o dan yr is-baragraff hwn i uchafswm o £20 oni fodlonir yr Ysgrifennydd Gwladol fod B hefyd yn ymgymryd â gwaith esempt.

(5) Mae’r is-baragraff yn gymwys i berson—

(a)         sy’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol;

(b)         sy’n cael budd-dal analluogrwydd;

(c)         sy’n cael lwfans anabledd difrifol; neu

(d)         a gredydir ag enillion ar sail analluedd i weithio neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith o dan reoliad 8B o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Credydau)1975.

(6) Ystyr “gwaith esempt” (“exempt work”) yw gwaith yn yr ystyr a roddir i “exempt work” yn—

(a)         rheoliad 45(2), (3) neu (4) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008([266]); neu (yn ôl fel y digwydd)

(b)         rheoliad 17(2), (3) neu (4) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) (Cyffredinol) 1995([267]),

ac wrth benderfynu a yw ceisydd neu aelod o gwpl yn ymgymryd ag unrhyw fath o waith esempt at ddibenion y paragraff hwn, nid yw’n berthnasol a yw’r person hwnnw, neu bartner y person hwnnw, yn ymgymryd â gwaith arall yn ogystal.

(7) Y swm penodedig yw’r swm o arian a grybwyllir o bryd i’w gilydd mewn unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (6) ac y mae’r gwaith y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn esempt yn ei rhinwedd (neu, os oes mwy nag un ddarpariaeth berthnasol o’r fath, ac os yw’r darpariaethau hynny’n crybwyll symiau gwahanol o arian, yr uchaf o’r symiau hynny).

13. Unrhyw swm, neu’r gweddill o unrhyw swm, y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 23 neu 24 o Atodlen 7 pe bai incwm y ceisydd nad yw’n enillion wedi bod yn ddigon i roi hawl i’r ceisydd gael diystyru’r swm llawn o dan y paragraffau hynny.

14. Pan fo ceisydd yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, enillion y ceisydd.

15. Unrhyw enillion sy’n deillio o gyflogaeth ac sy’n daladwy mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig am ba bynnag gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r enillion hynny i’r Deyrnas Unedig.

16. Os gwneir taliad o enillion mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.

17.Unrhyw enillion plentyn neu berson ifanc.

18.(1)(1) Mewn achos pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni un, o leiaf, o’r amodau a bennir yn is-baragraff (2), ac enillion net y ceisydd yn hafal i neu’n fwy na chyfanswm y symiau a bennir yn is-baragraff (3), rhaid cynyddu o £17.10 y swm o enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan baragraffau 4 i 12 o’r Atodlen hon.

(2) Amodau’r is-baragraff hwn yw—

(a)         bod y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, naill ai’r ceisydd neu ei bartner, yn berson y mae rheoliad 20(1)(c) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a'r Gyfradd Uchaf) 2002([268]) yn gymwys iddo; neu

(b)         bod—

                           (i)    y ceisydd, neu os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw yn 25 oed o leiaf ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu

                         (ii)    y ceisydd yn aelod o gwpl, a bod—

(aa)        un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; a

(bb)       swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm teulu o dan baragraff 4 o Atodlen 3; neu

                       (iii)    y ceisydd yn unig riant sy’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu

                        (iv)    y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, ac—

(aa)        swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd o dan baragraff 9, yr elfen gweithgaredd perthynol i waith o dan baragraff 21 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 3 yn eu tro;

(bb)       pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl, un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n bodloni’r amodau cymhwyso am y premiwm anabledd neu’r naill neu’r llall o’r elfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (aa) uchod ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

(3) Y canlynol yw’r symiau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)—

(a)         y swm a gyfrifwyd y ceir ei ddiystyru o enillion y ceisydd o dan baragraffau 4 i 12 o’r Atodlen hon;

(b)          y swm a gyfrifwyd o gostau gofal plant sy’n ddidynadwy o dan baragraff 54(1)(c) o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm ar sail wythnosol: personau nad ydynt yn bensiynwyr); ac

(c)         £17.10.

(4) Bydd darpariaethau paragraff 10 (gwaith am dâl) o’r cynllun hwn yn gymwys wrth benderfynu a yw person yn gweithio dim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd ai peidio, ond hynny fel pe bai’r cyfeiriad at 16 awr yn is-baragraff (1) o’r paragraff hwnnw yn gyfeiriad at 30 awr.

19. Yn yr Atodlen hon, ystyr “cyflogaeth ran-amser” (“part-time employment”) yw cyflogaeth y mae’r person yn ymgymryd â hi am lai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

ATODLEN 7

Symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

1. Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw ofal plant, teithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal

2. Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol.

3. Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter.

4. Unrhyw swm a dalwyd ar gyfer treth ar incwm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan baragraff 51 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

5. Unrhyw daliad mewn perthynas ag unrhyw dreuliau a dynnwyd neu sydd i’w tynnu gan geisydd—

(a)         a gymerwyd ymlaen gan sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu

(b)         sy’n wirfoddolwr,

os nad yw’r ceisydd hwnnw, fel arall, yn cael unrhyw gydnabyddiaeth ariannol neu elw o’r gyflogaeth ac na thrinnir ef fel pe bai’n meddu unrhyw enillion o dan baragraff 53(5) o’r cynllun hwn (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

6. Unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

7. Yn achos cyflogaeth fel enillydd cyflogedig, unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau a dynnir yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth.

8. Pan fo ceisydd yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, y cyfan o incwm y ceisydd.

9. Pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl cyd-hawliad yn yr ystyr o “joint-claim couple” at ddibenion Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 a phartner y ceisydd yn cael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, y cyfan o incwm y ceisydd.

10. Os oedd gan y ceisydd, neu’r person a oedd yn bartner y ceisydd ar 31 Mawrth 2003, yr hawl, ar y dyddiad hwnnw i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, ond daeth yr hawl honno i ben ar neu cyn 5 Ebrill 2003 yn rhinwedd, yn unig, rheoliad 13 o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) Diwygio (Rhif 3) 1999([269]) fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw, y cyfan o incwm y ceisydd.

11. Unrhyw lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, neu TALlA.

12. Unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu oherwydd methiant i dalu—

(a)         unrhyw daliad a bennir ym mharagraff 11 neu 14 o’r Atodlen hon;

(b)         cymhorthdal incwm;

(c)         lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(d)         lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.

13. Unrhyw atodiad symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006([270]) (gan gynnwys atodiad o’r fath yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983([271]) neu unrhyw daliad y bwriedir iddo ddigolledu am fethiant i dalu atodiad o’r fath.

14. Unrhyw lwfans gweini.

15. Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr neu unrhyw daliad cyfatebol.

16.(1)(1) Unrhyw daliad—

(a)         ar ffurf lwfans cynhaliaeth addysg a wnaed yn unol ag—

                           (i)    rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996([272]) (talu treuliau ysgol; dyfarnu ysgoloriaethau etc);

                         (ii)    rheoliadau a wnaed o dan adran 49 neu 73(f) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980([273]) (pŵer i gynorthwyo personau i fanteisio ar gyfleusterau addysg);

                       (iii)    cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992([274]);

(b)         cyfatebol i lwfans cynhaliaeth addysg o’r fath, a wnaed yn unol ag—

                           (i)    adran 14 neu adran 181 o Ddeddf Addysg 2002([275]) (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i roi cymorth ariannol at ddibenion sy’n ymwneud ag addysg neu ofal plant, a lwfansau mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant); neu

                         (ii)    rheoliadau a wnaed o dan adran 181 o’r Ddeddf honno; neu

(c)         yng Nghymru a Lloegr, ar ffurf cymorth ariannol a wnaed yn unol ag adran 14 o Ddeddf Addysg 2002.

(2) Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo, a wnaed yn unol ag—

(a)         rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996;

(b)         rheoliadau a wnaed o dan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980; neu

(c)         cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992,

mewn perthynas â chwrs astudio a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc neu berson sy’n cael lwfans cynhaliaeth addysg neu daliad arall a wnaed yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn is-baragraff (1).

17. Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd ar ffurf ad-daliad o dan reoliad 11(2) o Reoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyriwr Athrawon) (Ad-dalu etc) 2003([276]).

18.(1)(1) Unrhyw daliad a wnaed yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant1973([277]) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990([278]) ac eithrio—

(a)         taliad a wnaed yn lle cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith, budd-dal analluogrwydd, lwfans anabledd difrifol neu lwfans cyflogaeth a chymorth;

(b)         taliad o lwfans y cyfeirir ato yn adran 2(3) o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu adran 2(5) o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990; neu

(c)         taliad y bwriedir iddo ddiwallu’r costau byw sy’n ymwneud ag un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2) tra bo ceisydd yn ymgymryd ag addysg, hyfforddiant neu gynllun arall i helpu’r ceisydd i wella’i ragolygon cyflogaeth, oni bai bod y taliad yn Fenthyciad Datblygu Gyrfa a delir yn unol ag adran 2 o Ddeddf 1973, a chyfnod yr addysg neu hyfforddiant neu’r cynllun, a gynorthwyir gan y benthyciad hwnnw, wedi ei gwblhau.

(2) Yr eitemau a bennir yn yr is-baragraff hwn at ddibenion is-baragraff (1)(c) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.

19.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw rai o’r taliadau canlynol—

(a)         taliad elusennol;

(b)         taliad gwirfoddol;

(c)         taliad (nad yw’n dod o fewn paragraff (a) neu (b) uchod) a wnaed gan ymddiriedolaeth y mae ei chyllid yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd;

(d)         taliad o dan flwydd-dal a brynwyd—

                           (i)    yn unol ag unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i’r ceisydd; neu

                         (ii)    o gyllid sy’n deillio o daliad a wnaed,

o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd; neu

(e)         taliad (nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d)) a dderbyniwyd yn rhinwedd unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i’r ceisydd o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd.

(2) Rhaid peidio â chymhwyso is-baragraff (1) i daliad a wnaed neu sy’n ddyladwy gan—

(a)         cyn-bartner y ceisydd, neu gyn-bartner unrhyw aelod o deulu’r ceisydd; neu

(b)         rhiant plentyn neu berson ifanc pan fo’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw’n aelod o deulu’r ceisydd.

20. Yn ddarostyngedig i baragraff 40 o’r Atodlen hon, £10 o unrhyw rai o’r canlynol, sef—

(a)         pensiwn anabledd rhyfel (ac eithrio i’r graddau y diystyrir pensiwn o’r fath o dan baragraff 13 neu 14 o’r Atodlen hon);

(b)         pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;

(c)         pensiwn sy’n daladwy i berson sy’n wraig neu ŵr gweddw neu’n bartner sifil sy’n goroesi, o dan unrhyw un o bwerau Ei Mawrhydi ac eithrio deddfiad, i wneud darpariaeth ynghylch pensiynau ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau a wnaed yn anabl neu a fu farw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron;

(d)         taliad incwm gwarantedig, ac os yw swm y taliad hwnnw wedi ei leihau islaw £10 gan bensiwn neu daliad sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) neu (b) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011([279]), cymaint o’r pensiwn neu’r taliad hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig a ddiystyrir, yn fwy na £10;

(e)         taliad a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu unrhyw bensiwn neu daliad o’r fath a grybwyllir yn unrhyw un o’r is-baragraffau blaenorol;

(f)          pensiwn a delir gan lywodraeth gwlad y tu allan i Brydain Fawr, sy’n cyfateb i unrhyw un o’r pensiynau neu’r taliadau a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) uchod;

(g)         pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria.

21. Yn ddarostyngedig i baragraff 40 o’r Atodlen hon, £15 o unrhyw—

(a)         lwfans mam weddw a dalwyd yn unol ag adran 37 o DCBNC;

(b)         lwfans rhiant gweddw a dalwyd yn unol ag adran 39A o DCBNC.

22.(1)(1) Unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf y mae gan y ceisydd fuddiant llesiannol ynddo, neu y trinnir y ceisydd o dan baragraff 67 o’r cynllun hwn )cyfalaf a ddelir ar y cyd) fel pe bai ganddo fuddiant llesiannol ynddo ond, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nid incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 4, 5, 7, 11, 17 neu 30 i 33 o Atodlen 9.

(2) Incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 5, 7 neu 30 i 33 o Atodlen 9 ond i’r graddau canlynol yn unig—

(a)         unrhyw ad-daliadau morgais a wneir mewn perthynas â’r annedd neu’r fangre yn y cyfnod pan oedd yr incwm hwnnw’n cronni; neu

(b)         unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd yn atebol i’w thalu neu i’w talu mewn perthynas â’r annedd neu’r fangre ac a delir yn y cyfnod pan oedd yr incwm hwnnw’n cronni.

(3) Mae’r diffiniad o “taliadau dŵr” (“water charges”) ym mharagraff 2(1) o’r cynllun hwn yn gymwys i is-baragraff (2) o’r paragraff hwn gan hepgor y geiriau “, i’r graddau y mae a wnelo’r cyfryw daliadau â’r annedd a feddiennir gan berson fel ei gartref”.

23. Pan fo’r ceisydd yn gwneud cyfraniad rhiant mewn perthynas â myfyriwr sy’n dilyn cwrs mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu’n ymgymryd ag addysg yn y Deyrnas Unedig, a’r cyfraniad hwnnw wedi ei asesu at y diben o gyfrifo—

(a)         o dan, neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan bwerau a roddir gan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998([280]), dyfarniad y myfyriwr hwnnw;

(b)         o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980([281]), bwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall y myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno, neu o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno, unrhyw daliad i’r myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno; neu

(c)         benthyciad myfyriwr y myfyriwr hwnnw,

swm sy’n hafal i swm wythnosol y cyfraniad rhiant hwnnw, ond hynny mewn perthynas, yn unig, â’r cyfnod yr asesir bod y cyfraniad hwnnw’n daladwy ar ei gyfer.

24.(1)(1) Pan fo’r ceisydd yn rhiant myfyriwr sydd o dan 25 oed, mewn addysg uwch, a naill ai—

(a)         ddim yn cael unrhyw ddyfarniad, grant na benthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r addysg honno; neu

(b)         yn cael dyfarniad a roddir yn rhinwedd Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno, neu fwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall o dan adran 49(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, neu daliad o dan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno,

a’r ceisydd yn gwneud taliadau i gyfrannu tuag at gynnal y myfyriwr, ac eithrio cyfraniad rhiant sy’n dod o fewn paragraff 23 o’r Atodlen hon, swm a bennir yn is-baragraff (2) mewn perthynas â phob wythnos yn ystod tymor y myfyriwr.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), bydd y swm yn hafal i—

(a)         swm wythnosol y taliadau; neu

(b)         y swm ar gyfer lwfans personol i geisydd sengl sydd o dan 25 oed llai swm wythnosol unrhyw ddyfarniad, bwrsari, ysgoloriaeth, lwfans neu daliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b),

pa un bynnag yw’r lleiaf.

25. Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd gan blentyn neu berson ifanc neu annibynnydd.

26. Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref a pherson arall, nad yw’n berson y cyfeirir ato ym mharagraff 25 neu 27  o’r Atodlen hon, hefyd yn meddiannu’r annedd honno, a rhwymedigaeth dan gontract i wneud taliadau i’r ceisydd mewn perthynas â meddiannu’r annedd gan y person arall hwnnw neu aelod o’i deulu—

(a)         pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag unrhyw un wythnos mewn perthynas â meddiannu’r annedd, neu gan y person hwnnw ac aelod o’i deulu, yn llai nag £20, y cyfan o’r swm hwnnw; neu

(b)         pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn £20 neu’n fwy yr wythnos, £20.

27. Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety, swm, mewn perthynas â phob person y darperir llety o’r fath iddo am y cyfan neu unrhyw ran o wythnos, sy’n hafal i—

(a)         pan nad yw swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag un wythnos mewn perthynas â llety o’r fath a ddarperir i berson o’r fath yn fwy nag £20, 100 y cant o’r cyfryw daliadau;

(b)         pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn fwy nag £20, £20 a 50 y cant o’r swm dros ben £20.

28.(1)(1) Unrhyw incwm mewn nwyddau neu wasanaethau, ac eithrio pan fo paragraff 51(10)(b) o’r cynllun hwn (darpariaeth o gymorth o dan adran 95 neu 98 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999([282]) wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion) yn gymwys.

(2) Nid yw’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at “incwm mewn nwyddau neu wasanaethau” (“income in kind”) yn cynnwys taliad a wneir i drydydd parti mewn perthynas â’r ceisydd ac a ddefnyddir gan y trydydd parti i ddarparu buddion ar ffurf nwyddau neu wasanaethau i’r ceisydd.

29. Unrhyw incwm sy’n daladwy mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, yn ystod y cyfryw gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r incwm hwnnw i’r Deyrnas Unedig.

30.(1)(1) Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd mewn perthynas â pherson sy’n aelod o deulu’r ceisydd—

(a)         yn unol â rheoliadau o dan adran 2(6)(b), 3 neu 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002([283]) neu’n unol â chynllun a gymeradwywyd gan Weinidogion yr Alban o dan adran 71 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007([284]) (cynlluniau lwfansau mabwysiadu);

(b)         sy’n daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 15(1) o Ddeddf Plant 1989([285]) a pharagraff 15 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno (cyfraniad awdurdod lleol at gynhaliaeth plentyn pan fo’r plentyn yn byw gyda pherson o ganlyniad i orchymyn preswylio) neu, yn yr Alban, adran 50 o Ddeddf Plant 1975([286]) (taliadau tuag at gynhaliaeth plant);

(c)         sy’n daliad a wneir gan awdurdod, fel y’i diffinnir yn Erthygl 2 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995([287]), yn unol ag Erthygl 15 o’r Gorchymyn hwnnw a pharagraff 17 o Atodlen 1 iddo (cyfraniad gan awdurdod at gynhaliaeth plentyn);

(d)          yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig).

(2) Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, a wnaed i’r ceisydd yn unol â rheoliadau o dan adran 2(6)(b), 3 neu 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

31. Unrhyw daliad a wnaed i geisydd y lletywyd person gydag ef yn rhinwedd trefniadau a wnaed—

(a)         gan awdurdod lleol o dan—

                           (i)    adran 23(2)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety a chynhaliaeth ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt),

                         (ii)    adran 26 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995([288]) (dull o ddarparu llety i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol), neu

                       (iii)    rheoliad 33 neu 51 o Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal (Yr Alban) 2009([289]) (lwfansau maethu a gofal gan berthynas a lwfansau maethu); neu

(b)         gan sefydliad gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety gan sefydliadau gwirfoddol).

32. Unrhyw daliad, a wnaed i’r ceisydd neu bartner y ceisydd ar gyfer person (“y person dan sylw”), nad yw fel arfer yn aelod o aelwyd y ceisydd ond sydd yng ngofal y ceisydd dros dro, gan—

(a)         awdurdod iechyd;

(b)         awdurdod lleol, ond gan eithrio taliadau o fudd-dal tai a wnaed mewn perthynas â’r person dan sylw;

(c)         sefydliad gwirfoddol;

(d)         y person dan sylw yn unol ag adran 26(3A) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948([290]);

(e)         ymddiriedolaeth gofal sylfaenol a sefydlwyd o dan adran 16A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977([291]) neu a sefydlwyd drwy orchymyn a wnaed o dan adran 18(2)(c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006([292]); neu

(f)          Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([293]).

33. Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol yn unol ag adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989([294]) neu, yn ôl fel y digwydd, adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 neu adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (darparu gwasanaethau i blant a’u teuluoedd a chyngor a chymorth i blant penodol).

34.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wnaed gan awdurdod lleol yn unol ag adran 23C o Ddeddf Plant 1989 neu adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (dyletswydd awdurdodau lleol i hyrwyddo lles plant a phwerau i roi cymorth ariannol i bersonau sydd, neu a fu, yn eu gofal) i berson (“A”) ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys ac eithrio pan fo A—

(a)         wedi bod gynt yng ngofal y ceisydd, a

(b)         yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ac

(c)         yn parhau i fyw gyda’r ceisydd.

35.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad a gafwyd o dan bolisi yswiriant a drefnwyd i yswirio rhag y risg o fod yn analluog i gynnal yr ad-daliadau—

(a)         ar fenthyciad a sicrhawyd ar yr annedd a feddiennir gan y ceisydd fel cartref y ceisydd; neu

(b)         o dan gytundeb rheoleiddiedig yn yr ystyr o “regulated agreement” fel y’i diffinnir at ddibenion Deddf Credyd Defnyddwyr 1974([295]) neu o dan gytundeb hurbwrcas neu gytundeb gwerthiant amodol yn yr ystyron, yn eu trefn, a roddir i “hire-purchase agreement” a “conditional sale agreement” fel y’u diffinnir at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Hurbwrcas 1964([296]).

(2) Ni chaniateir diystyru taliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) ac eithrio i’r graddau nad yw’r taliad a gafwyd o dan y polisi hwnnw yn fwy na’r symiau, a gyfrifir ar sail wythnosol, a ddefnyddir i—

(a)         cynnal yr ad-daliadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, (1)(b); a

(b)         talu unrhyw swm sy’n ddyladwy ar ffurf premiymau ar—

                           (i)    y polisi hwnnw; neu

                         (ii)    mewn achos pan fo is-baragraff (1)(a) yn gymwys, polisi yswiriant a drefnwyd i yswirio rhag colled neu ddifrod i unrhyw adeilad, neu ran o adeilad, a feddiennir gan y ceisydd fel cartref y ceisydd, ac sy’n ofynnol fel amod o’r benthyciad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a).

36. Unrhyw daliad o incwm sydd i’w drin fel cyfalaf yn rhinwedd paragraff 61 o’r cynllun hwn (incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

37. Unrhyw—

(a)         taliad cronfa gymdeithasol a wnaed yn unol â Rhan 8 o DCBNC ( y gronfa gymdeithasol); neu

(b)         cymorth achlysurol.

38. Unrhyw daliad o dan Ran 10 o DCBNC (bonws Nadolig i bensiynwyr).

39. Pan wneir taliad o incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.

40. Ni chaiff y cyfanswm o incwm ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, incwm y teulu ac incwm unrhyw berson y trinnir y ceisydd hwnnw fel pe bai’n ei feddu o dan baragraff 30(3) (cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd  phriodasau amlbriod), sydd i’w ddiystyru o dan baragraff 74(2)(b) a pharagraff 75(1)(d) o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm cyfamod pan asesir cyfraniad, incwm cyfamod pan nad asesir incwm grant neu nad asesir cyfraniad), paragraff 78(2) o’r cynllun hwn (trin benthyciadau myfyriwr), paragraff 78(3) o’r cynllun hwn (trin taliadau o gronfeydd mynediad) a pharagraffau 20 ac 21 o’r Atodlen hon, mewn unrhyw achos, fod yn fwy nag £20 yr wythnos.

41.(1)(1) Unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).

(2) Unrhyw daliad gan neu ar ran person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—

(a)         partner neu gyn-bartner y person hwnnw nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrth y person hwnnw, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu a ffurfiodd bartneriaeth sifil gyda’r person hwnnw, nad yw wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ei diddymu pan fu farw;

(b)         unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu

(c)         unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.

(3) Unrhyw daliad gan neu ar ran partner neu gyn-bartner person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, ar yr amod nad yw’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ymwahanu neu ysgaru, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, nad oeddent wedi ymwahanu neu ysgaru neu, os oedd y partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ffurfio partneriaeth sifil, nad yw’r bartneriaeth sifil wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, nad oedd wedi ei diddymu ar yr adeg y digwyddodd y farwolaeth, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—

(a)         y person sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys;

(b)         unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu

(c)         unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.

(4) Unrhyw daliad gan berson sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—

(a)         nad oes gan y person hwnnw bartner na chyn-bartner nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb y ffurfiodd bartneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd, neu a fu, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a

(b)         gwneir y taliad i naill ai—

                           (i)    i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

                         (ii)    os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y taliad, yn blentyn neu’n berson ifanc neu’n fyfyriwr nad yw wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oes gan y person hwnnw riant neu lys-riant, i warcheidwad y person hwnnw,

ond hynny am y cyfnod, yn unig, o’r dyddiad y gwneir y taliad hyd at ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth y person hwnnw.

(5) Unrhyw daliad allan o ystad person a oedd yn dioddef o haemoffilia neu a oedd yn berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—

(a)         nad oedd gan y person hwnnw, ar ddyddiad ei farwolaeth (y dyddiad perthnasol) bartner na chyn-bartner nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb yr oedd wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc a oedd, neu a oedd wedi bod, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a

(b)         gwneir y taliad naill ai—

                           (i)    i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

                         (ii)    os oedd y person hwnnw, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn neu’n berson ifanc neu’n fyfyriwr nad oedd wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oedd gan y person hwnnw riant neu lys-riant, i warcheidwad y person hwnnw,

ond hynny am gyfnod, yn unig, o ddwy flynedd o’r dyddiad perthnasol.

(6) Yn achos person y gwneir taliad, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn, iddo neu er ei fudd, unrhyw incwm sy’n deillio o unrhyw daliad o incwm neu gyfalaf a wneir o dan, neu sy’n deillio o, unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau.

(7) At ddibenion is-baragraffau (2) i (6), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr Ymddiriedolaethau fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, a Chronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.

42. Unrhyw fudd-dal tai.

43. Unrhyw daliad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddigolledu am golli (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yr hawlogaeth i gael budd-dal tai.

44. Unrhyw daliad i reithiwr neu dyst mewn perthynas â phresenoldeb mewn llys, ac eithrio digollediad am golli enillion neu golli budd-dal sy’n daladwy o dan y Deddfau budd-dal.

45. Unrhyw daliad o ganlyniad i ostyngiad yn y dreth gyngor o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992 (gostyngiad atebolrwydd am dreth gyngor).

46.(1)(1) Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir—

(a)         o ran Lloegr, o dan reoliad 5, 6 neu 12 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 2003([297]) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);

(b)         o ran Cymru, o dan reoliad 5, 6 neu 11 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007([298]) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);

(c)         o ran yr Alban, o dan reoliad 3, 5 neu 11 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Yr Alban) (Rhif 2) 2003([299]) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd).

(2) Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Gweinidogion yr Alban neu Weinidogion Cymru sy’n gyfatebol i daliad neu ad-daliad a grybwyllir yn is-baragraff (1).

47. Unrhyw daliad a wneir i’r cyfryw bersonau sydd â hawl i gael buddion fel y penderfynir gan neu o dan gynllun a wnaed yn unol ag adran 13 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988([300]) yn lle talebau neu drefniadau cyffelyb mewn cysylltiad â darparu’r buddion hynny (gan gynnwys taliadau a wneir yn lle talebau cychwyn iach, talebau llaeth neu gyflenwi fitaminau).

48. Unrhyw daliad a wneir gan naill ai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder neu Weinidogion yr Alban o dan gynllun a sefydlwyd i gynorthwyo perthnasau a phersonau eraill i ymweld â phersonau a gedwir yn y ddalfa.

49.(1)(1) Pan fo swm cymwysadwy ceisydd yn cynnwys swm ar gyfer premiwm teulu, £15 o unrhyw daliad cynnal, ac eithrio cynhaliaeth plant, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wnaed neu sy’n ddyladwy, gan gyn-bartner y ceisydd, neu gyn-bartner partner y ceisydd.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), os oes mwy nag un taliad cynnal i’w gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw wythnos, rhaid cydgrynhoi’r holl daliadau o’r fath a’u trin fel pe baent yn daliad sengl.

(3) At ddibenion is-baragraff (1) rhaid trin taliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn lle cynhaliaeth fel pe bai’n daliad o gynhaliaeth a wnaed gan berson a bennir yn is-baragraff (1).

50.(1)(1) Unrhyw daliad o gynhaliaeth plant a wneir gan, neu sy’n deillio o, berthynas atebol pan fo’r plentyn neu berson ifanc y gwneir y taliad mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd, ac eithrio pan wneir y taliad gan y ceisydd neu bartner y ceisydd.

(2) Yn is-baragraff (1)—

ystyr “cynhaliaeth plant” (“child maintenance”) yw unrhyw daliad tuag at gynhaliaeth plentyn neu berson ifanc, gan gynnwys unrhyw daliad a wneir yn wirfoddol a thaliadau a wneir o dan—

(a)         Deddf Cynnal Plant 1991([301]);

(b)         Gorchymyn Cynnal Plant (Gogledd Iwerddon) 1991([302]);

(c)         gorchymyn llys;

(d)         gorchymyn cydsynio;

(e)         cytundeb cynhaliaeth a gofrestrwyd ar gyfer ei weithredu yn Llyfrau’r Cyngor a’r Sesiwn neu yn llyfrau’r llysoedd siryf;

ystyr “perthynas atebol” (“liable relative”) yw person a restrir yn y diffiniad o “liable relative” yn rheoliad 54 (dehongli) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987([303]), ac eithrio person sy’n dod o fewn is-baragraff (d) o’r diffiniad hwnnw.

51. Unrhyw daliad (ac eithrio lwfans hyfforddi) a wneir, boed gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu unrhyw berson arall, o dan Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1944([304]) i gynorthwyo personau anabl i gael neu gadw cyflogaeth er gwaethaf eu hanabledd.

52. Unrhyw lwfans gwarcheidwad.

53.(1)(1) Os yw’r ceisydd yn cael unrhyw fudd-dal o dan Ran 2, 3 neu 5 o DCBNC, unrhyw gynnydd yng nghyfradd y budd-dal hwnnw sy’n digwydd o dan Ran 4 (cynnydd ar gyfer dibynyddion) neu adran 106(a) (atodiad i’r anghyflogadwy) o’r Ddeddf honno, pan nad yw’r dibynnydd y telir y cynnydd mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd.

(2) Os yw’r ceisydd yn cael unrhyw bensiwn neu lwfans o dan Ran 2 neu 3 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006([305]), unrhyw gynnydd yng nghyfradd y pensiwn neu lwfans hwnnw o dan y Gorchymyn hwnnw, pan nad yw’r dibynnydd y telir y cynnydd mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd.

54. Unrhyw bensiwn atodol o dan erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi) ac unrhyw daliad cyfatebol a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn i unrhyw berson nad yw’n berson sydd â hawl o dan y Gorchymyn hwnnw.

55. Yn achos pensiwn a ddyfarnwyd ar y gyfradd atodol o dan erthygl 27(3) o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983([306]) (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi), y swm a bennir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 4 i’r Cynllun hwnnw.

56.(1)(1) Unrhyw daliad—

(a)         a wneir o dan unrhyw un o’r Offerynnau Dosbarthu i wraig neu ŵr gweddw, neu bartner sifil sy’n goroesi person—

                           (i)    yr oedd ei farwolaeth i’w phriodoli i wasanaeth mewn swyddogaeth gyfatebol i wasanaeth fel aelod o luoedd arfog y Goron; a

                         (ii)    y terfynodd ei wasanaeth yn y cyfryw swyddogaeth cyn 31 Mawrth 1973; a

(b)         yn hafal i’r swm a bennir yn erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006.

(2) Yn y paragraff hwn ystyr “yr Offerynnau Dosbarthu” (“the Dispensing Instruments”) yw Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ar 19 Rhagfyr 1881, Y Warant Frenhinol ar 27 Hydref 1884 a’r Gorchymyn gan Ei Fawrhydi ar 14 Ionawr 1922 (dyfarniadau eithriadol o dâl, tâl aneffeithiol a lwfansau).

57. Unrhyw ostyngiad o dan y cynllun hwn y mae hawl gan y ceisydd i’w gael.

58. Ac eithrio mewn achos sy’n dod o dan is-baragraff (1) o baragraff 18 o Atodlen 6, pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni unrhyw un o’r amodau yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw, unrhyw swm o gredyd treth gwaith i fyny at £17.10.

59. Unrhyw daliad a wneir o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968([307]), neu o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd) neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001([308]) (taliadau uniongyrchol).

60.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mewn perthynas â pherson sy’n cael, neu sydd wedi cael, cymorth o dan y llwybr hunangyflogaeth, unrhyw daliad i’r person hwnnw—

(a)         i dalu treuliau a dynnwyd yn gyfan gwbl ac yn angenrheidiol tra’n ymgymryd â’r gweithgaredd masnachol;

(b)         a ddefnyddiwyd, neu a fwriadwyd i’w ddefnyddio, i gynnal ad-daliadau ar fenthyciad a gymerwyd gan y person hwnnw at y diben o sefydlu neu gyflawni’r gweithgaredd masnachol,

y ceir neu y cafwyd cymorth o’r fath mewn perthynas ag ef.

(2) Mae is-baragraff (1) yn gymwys yn unig mewn perthynas â thaliadau a delir i’r person hwnnw allan o’r cyfrif arbennig.

61.(1)(1) Unrhyw daliad o ddyfarniad chwaraeon ac eithrio i’r graddau y’i gwnaed mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2).

(2) Yr eitemau a bennir at ddibenion is-baragraff (1) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.

(3) At ddibenion is-baragraff (2) nid yw “bwyd” (“food”) yn cynnwys fitaminau, mwynau neu atchwanegiadau dietegol arbennig eraill a fwriedir ar gyfer gwella perfformiad y person yn y gamp y gwnaed y dyfarniad mewn perthynas â hi.

62. Pan fo swm y lwfans cynhaliaeth a delir i berson mewn wythnos ostyngiad yn fwy na swm y lwfans ceisio gwaith ar sail incwm y byddai’r person hwnnw wedi ei gael yn yr wythnos ostyngiad pe bai wedi bod yn daladwy i’r person hwnnw llai 50c, y swm dros ben hwnnw.

63. Yn achos ceisydd sy’n cymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth, unrhyw daliad disgresiynol a wneir gan gontractwr parth cyflogaeth i’r ceisydd, boed ar ffurf ffi, grant, benthyciad neu rywfodd arall.

64. Unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001([309]).

65. Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol neu gan Weinidogion Cymru, i neu ar ran y ceisydd neu bartner y ceisydd mewn perthynas â gwasanaeth a ddarperir i ddatblygu neu gynnal gallu’r ceisydd neu bartner y ceisydd i fyw’n annibynnol yn llety’r ceisydd.

66. Unrhyw daliad o fudd-dal plant.

ATODLEN 8

Diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr

RHAN 1

Cyfalaf sydd i’w ddiystyru

1. Unrhyw fangre a gaffaelwyd i’w meddiannu gan y ceisydd ac y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd o fewn 26 wythnos ar ôl y dyddiad caffael neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.

2. Unrhyw fangre y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd, ac y mae’r ceisydd yn cymryd camau i gael meddiant ohoni ac wedi ceisio cyngor cyfreithiol, neu wedi cychwyn achos cyfreithiol gyda’r bwriad o gael meddiant, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y ceisiodd y ceisydd gyntaf y cyfryw gyngor neu y cychwynnodd gyntaf achos o’r fath, pa un bynnag yw’r cynharaf, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.

3. Unrhyw fangre y bwriada’r ceisydd ei meddiannu fel cartref iddo ac y mae angen gwneud atgyweiriadau neu newidiadau hanfodol iddi, er mwyn iddi fod yn addas i’w meddiannu felly, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y mae’r ceisydd yn cymryd y camau gyntaf i gyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi cyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny.

4. Unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol—

(a)         gan berson sy’n berthynas i’r ceisydd neu bartner y ceisydd fel cartref i’r person hwnnw pan fo’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth, neu’n analluog;

(b)         gan gyn-bartner y ceisydd fel cartref i’r person hwnnw; ond nid yw’r ddarpariaeth hon yn gymwys os yw’r cyn-bartner yn berson y mae’r ceisydd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu y ffurfiodd y ceisydd bartneriaeth sifil ag ef, sydd bellach wedi ei diddymu.

5. Unrhyw fuddiant yn y dyfodol mewn eiddo o unrhyw fath, ac eithrio tir neu fangre y caniataodd y ceisydd brydles neu denantiaeth arno neu arni, sy’n bodoli ar y pryd, gan gynnwys is-brydlesi neu is-denantiaethau.

6. Pan fo ceisydd wedi peidio â meddiannu’r hyn a oedd gynt yn annedd a feddiennid fel y cartref, yn dilyn ymwahaniad neu ysgariad y ceisydd oddi wrth ei bartner blaenorol, neu’n dilyn diddymu partneriaeth sifil rhwng y ceisydd a’i bartner blaenorol, yr annedd honno am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y peidiodd y ceisydd â meddiannu’r annedd neu, os meddiennir yr annedd fel cartref y partner blaenorol sydd hefyd yn unig riant, cyhyd ag y’i meddiennir felly.

7. Unrhyw fangre pan fo’r ceisydd yn cymryd camau rhesymol i waredu’r cyfan o fuddiant y ceisydd yn y fangre honno, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cymerodd y ceisydd y camau cyntaf o’r fath neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i waredu’r fangre honno.

8. Pob eiddo personol.

9. Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd pan fo’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig at ddibenion y busnes hwnnw, neu, os yw’r ceisydd wedi peidio â gweithredu felly, am ba gyfnod bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i ganiatáu gwaredu’r asedau hynny.

10. Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd—

(a)         os nad yw’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw, oherwydd rhyw glefyd neu anabledd corfforol neu feddyliol; ond

(b)         bod y ceisydd yn bwriadu gweithredu (neu, yn ôl fel y digwydd, gweithredu drachefn) fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw cyn gynted ag y bo’n gwella neu’n alluog i weithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw,

am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y gwneir y cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn, neu, os yw’n afresymol disgwyl i’r ceisydd ddechrau gweithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw o fewn y cyfnod hwnnw, am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i ddechrau gweithredu felly neu weithredu felly drachefn.

11. Gwerth ildio unrhyw bolisi yswiriant bywyd.

12. Gwerth unrhyw gontract cynllun angladd; ac at y diben hwn, ystyr “contract cynllun angladd” (“funeral plan contract”) yw contract lle—

(a)         y mae’r ceisydd yn gwneud un neu ragor o daliadau i berson arall (“y darparwr”);

(b)         y mae’r darparwr yn ymgymryd i ddarparu neu sicrhau y darperir, angladd yn y Deyrnas Unedig i’r ceisydd ar farwolaeth y ceisydd; ac

(c)         unig ddiben y cynllun yw darparu neu sicrhau y darperir, angladd i’r ceisydd ar farwolaeth y ceisydd.

13. Pan fo taliad ex gratia wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar neu ar ôl 1 Chwefror 2001 o ganlyniad i garcharu neu gaethiwo—

(a)         y ceisydd;

(b)         partner y ceisydd;

(c)         priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd; neu

(d)         priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd,

gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, swm sy’n hafal i’r taliad hwnnw.

14.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm unrhyw daliad ymddiriedolaeth a wneir i geisydd neu bartner ceisydd sydd yn—

(a)         person â diagnosis;

(b)         partner i berson â diagnosis, neu a oedd yn bartner i berson â diagnosis ar yr adeg y bu farw’r person â diagnosis; neu

(c)         rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis.

(2) Pan wneir taliad ymddiriedolaeth i—

(a)         person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a) neu (b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;

(b)         person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw.

(3)  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), swm unrhyw daliad gan berson y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo neu unrhyw daliad allan o ystad person y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo, a wneir i geisydd neu bartner ceisydd sydd yn—

(a)         person â diagnosis;

(b)         partner i berson â diagnosis, neu a oedd yn bartner i berson â diagnosis ar yr adeg y bu farw’r person â diagnosis; neu

(c)         rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis.

(4) Pan wneir taliad o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) i—

(a)         person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a) neu (b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;

(b)         person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw.

(5) Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson—

(a)         sy’n bartner y person â diagnosis;

(b)         yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis,

ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis yn cynnwys person a fyddai wedi bod yn berson o’r fath neu’n berson a fyddai’n gweithredu felly, pe na bai’r person â diagnosis yn preswylio mewn cartref gofal neu ysbyty annibynnol.

(6) Yn y paragraff hwn—

ystyr “person â diagnosis” (“diagnosed person”) yw person y gwnaed diagnosis ei fod yn dioddef o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, neu y gwnaed diagnosis ar ôl marwolaeth y person hwnnw ei fod wedi dioddef o’r clefyd hwnnw;

ystyr “ymddiriedolaeth berthnasol” (“relevant trust”) yw ymddiriedolaeth a sefydlwyd gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â phersonau a oedd yn dioddef, neu sydd yn dioddef, o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;

ystyr “taliad ymddiriedolaeth” (“trust payment”) yw taliad o dan ymddiriedolaeth berthnasol.

15. Swm unrhyw daliad, ac eithrio pensiwn rhyfel, a wneir i ddigolledu oherwydd bod y ceisydd, partner y ceisydd, priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd neu briod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd—

(a)         wedi bod yn gaeth lafurwr neu’n llafurwr dan orfodaeth;

(b)         wedi dioddef colled eiddo neu wedi dioddef niwed personol; neu

(c)         yn rhiant plentyn a fu farw,

yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

16.(1)(1) Unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan—

(a)         yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd yn y paragraff hwn fel “yr Ymddiriedolaethau”); neu

(b)         y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).

(2) Unrhyw daliad gan neu ar ran person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau ac a wneir i, neu er budd, partner neu gyn-bartner y person hwnnw—

(a)         nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrth y person hwnnw, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu

(b)         a ffurfiodd bartneriaeth sifil gyda’r person hwnnw, nad yw wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ei diddymu pan fu farw.

(3) Unrhyw daliad gan neu ar ran partner neu gyn-bartner person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau ac a wneir i, neu er budd y person sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys.

(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys—

(a)         os nad yw’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ymwahanu neu ysgaru, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, os nad oeddent wedi ymwahanu neu ysgaru, neu

(b)         pan fo’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ffurfio partneriaeth sifil, os nad yw’r bartneriaeth sifil wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, os nad oedd wedi ei diddymu pan ddigwyddodd y farwolaeth.

(5) Unrhyw daliad gan berson sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, pan—

(a)         nad oes gan y person hwnnw bartner na chyn-bartner nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb y ffurfiodd bartneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn sydd, neu a fu, yn aelod o aelwyd y person hwnnw; a

(b)         gwneir y taliad naill ai—

                           (i)    i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

                         (ii)    os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y taliad, yn blentyn neu’n fyfyriwr nad yw wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oes ganddo riant neu lys-riant, i unrhyw berson sy’n sefyll yn lle rhiant y plentyn neu’r person ifanc neu’r myfyriwr hwnnw,

ond hynny am gyfnod, yn unig, o’r dyddiad y gwneir y taliad hyd at ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth y person hwnnw.

(6) Unrhyw daliad allan o ystad person a oedd yn dioddef o haemoffilia neu a oedd yn berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, pan—

(a)         nad oedd gan y person hwnnw, ar ddyddiad ei farwolaeth (“y dyddiad perthnasol”) bartner na chyn-bartner nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb yr oedd wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn a oedd, neu a oedd wedi bod, yn aelod o aelwyd y person hwnnw; a

(b)         gwneir y taliad naill ai—

                           (i)    i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

                         (ii)    os oedd y person hwnnw, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn neu’n fyfyriwr nad oedd wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oedd ganddo riant neu lys-riant, i unrhyw berson sy’n sefyll yn lle rhiant y plentyn neu’r person ifanc neu’r myfyriwr hwnnw,

ond hynny am gyfnod, yn unig, o ddwy flynedd o’r dyddiad perthnasol.

(7) Yn achos person y gwneir taliad, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn, iddo neu er ei fudd, unrhyw adnodd cyfalaf sy’n deillio o unrhyw daliad o incwm neu gyfalaf a wneir o dan, neu sy’n deillio o, unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau.

17.(1)(1) Swm sy’n hafal i swm unrhyw daliad a wneir o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, i’r partner.

(2) Os gweinyddir y cyfan neu ran o’r taliad—

(a)         gan yr Uchel Lys neu’r Llys Sirol o dan Reol 21.11(1) o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998([310]) neu’r Llys Gwarchod, neu ar ran person pan na ellir gwneud y taliad ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd unrhyw lys o’r fath;

(b)         yn unol â gorchymyn a wneir o dan Reol 36.14 o Reolau Achosion Cyffredin 1993 neu o dan Reol 128 o’r Rheolau hynny; neu

(c)         yn unol â thelerau ymddiriedolaeth a sefydlwyd er budd y ceisydd neu bartner y ceisydd,

 y cyfan o’r swm a weinyddir felly.

18. Unrhyw swm a bennir ym mharagraff 19, 20, 21 neu 25 o’r Atodlen hon am gyfnod o un flwyddyn sy’n cychwyn gyda dyddiad derbyn y swm hwnnw.

19. Symiau a delir o dan bolisi yswiriant mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod i’r eiddo a feddiennir gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, ac i eiddo personol y ceisydd.

20. Cymaint o unrhyw symiau a delir i’r ceisydd neu a adneuir yn enw’r ceisydd at yr unig ddiben o—

(a)         prynu mangre y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd; neu

(b)         cyflawni atgyweiriadau neu newidiadau hanfodol i’r fangre a feddiennir, neu y bwriedir ei meddiannu, gan y ceisydd fel cartref y ceisydd.

21.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 22 o’r Atodlen hon, unrhyw swm a delir—

(a)         fel ôl-daliad o fudd-dal;

(b)         i ddigolledu am dalu budd-dal yn hwyr;

(c)         yn lle taliad o fudd-dal;

(d)         i unioni, neu ddigolledu am gamgymeriad swyddogol fel y’i diffinnir at ddibenion paragraff 22, sef swm nad yw’r paragraff hwnnw’n gymwys iddo;

(e)         gan awdurdod lleol allan o gyllid a ddarperir naill ai o dan adran 93 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000([311]) o dan gynllun a elwir “Cefnogi Pobl” neu adran 91 o Ddeddf Tai (Yr Alban) 2001([312]).

(2) Yn is-baragraff (1), ystyr “budd-dal” (“benefit”) yw—

(a)         lwfans gweini o dan adran 64 o DCBNC;

(b)         lwfans byw i’r anabl;

(c)         taliad annibyniaeth bersonol;

(d)         TALlA;

(e)         cymhorthdal incwm;

(f)          lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(g)         credyd pensiwn y wladwriaeth;

(h)         budd-dal tai;

(i)          budd-dal treth gyngor;

(j)          credyd treth plant;

(k)         cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 o DCBNC (cynnydd pan fo angen gweini cyson), ac unrhyw gynnydd pellach mewn pensiwn o’r fath o dan adran 105 o DCBNC (cynnydd ar gyfer anabledd eithriadol o ddifrifol);

(l)          unrhyw swm a gynhwysir oherwydd anabledd eithriadol o ddifrifol y ceisydd neu’r angen am weini cyson mewn pensiwn anabledd rhyfel neu bensiwn rhyfel gwraig neu ŵr gweddw;

(m)       unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001([313]);

(n)         credyd treth gwaith; neu

(o)         lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.

22.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), unrhyw daliad o £5,000 neu ragor, a wnaed i unioni, neu ddigolledu am gamgymeriad swyddogol mewn cysylltiad â budd-dal perthnasol ac a gafwyd yn llawn gan y ceisydd ar neu ar ôl y diwrnod yr enillodd y ceisydd yr hawl i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn.

(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), cyfanswm unrhyw daliadau a ddiystyrir o dan—

(a)         paragraff 7(2) o Atodlen 10 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987([314]);

(b)         paragraff 12(2) o Atodlen 8 i Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996([315]);

(c)         paragraff 9(2) o Atodlen 5 i Reoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor 2006([316]);

(d)         paragraff 20A o Atodlen 5 i Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([317]);

(e)         paragraff 11(2) o Atodlen 9 i Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008([318]),

os oedd y dyfarniad yr oedd y taliadau i’w diystyru ddiwethaf mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hynny naill ai’n terfynu yn union cyn y dyddiad perthnasol neu’n parhau mewn bodolaeth ar y dyddiad hwnnw.

(3) Bydd unrhyw ddiystyriad sy’n gymwys o dan is-baragraff (1) neu (2) yn cael effaith hyd nes daw’r dyfarniad i ben.

(4) Yn y paragraff hwn—

ystyr “y dyfarniad” (“the award”), ac eithrio yn is-baragraff (2), yw—

(a)         y dyfarniad o ostyngiad o dan y cynllun hwn pan geir y swm perthnasol, neu, os telir y swm perthnasol mewn mwy nag un rhandaliad, pan geir y rhandaliad cyntaf o’r swm hwnnw; a

(b)         os dilynir y dyfarniad hwnnw gan un neu ragor o ddyfarniadau pellach, sy’n dechrau yn union wedi i’r dyfarniad blaenorol ddod i ben, neu sydd bob un yn dechrau yn union wedi i’r un blaenorol ddod i ben, y cyfryw ddyfarniadau pellach tan ddiwedd yr olaf ohonynt, ar yr amod, ar gyfer y cyfryw ddyfarniadau pellach, mai’r ceisydd—

                           (i)    yw’r person a gafodd y swm perthnasol;

                         (ii)    yw partner y person hwnnw; neu

                       (iii)    a oedd yn bartner y person hwnnw ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;

mae i “camgymeriad swyddogol”—

(a)         pan fo’r camgymeriad yn ymwneud â budd-dal tai, neu fudd-dal treth gyngor (mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn 1 Ebrill 2013), yr ystyr a roddir i “official error” gan reoliad 1(2) o Reoliadau Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor (Penderfyniadau ac Apelau) 2001([319]); a

(b)         pan fo’r camgymeriad yn ymwneud ag unrhyw fudd-dal perthnasol arall, yr ystyr a roddir i “official error” gan reoliad 1(3) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (Penderfyniadau ac Apelau) 1999([320]);

ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw unrhyw fudd-dal a bennir ym mharagraff 21(2);

ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw’r dyddiad y gwnaed cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn; ac

ystyr “y swm perthnasol” (“the relevant sum”) yw’r taliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) neu’r cyfanswm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).

23. Os delir ased cyfalaf mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r cyfalaf hwnnw i sterling.

24. Gwerth yr hawl i gael incwm o gynllun pensiwn galwedigaethol neu gynllun pensiwn personol.

25. Unrhyw ôl-daliad o bensiwn atodol a ddiystyrir o dan baragraff 4 o Atodlen 5 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr) neu o unrhyw swm a ddiystyrir o dan baragraff 5 neu 6 o’r Atodlen honno.

26. Yr annedd a feddiennir fel y cartref; ond un annedd yn unig sydd i’w diystyru o dan y paragraff hwn.

27. Pan fo person yn dewis yr hawl i gael cyfandaliad o dan Atodlen 5 neu 5A i DCBNC neu o dan Atodlen 1 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-dal Ymddeol Graddedig) 2005([321]), neu pan drinnir ef fel pe bai wedi gwneud dewis o’r fath, a thaliad wedi ei wneud yn unol â’r dewis hwnnw, swm sy’n hafal i—

(a)         ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, swm unrhyw daliad neu daliadau a wneir ar gyfrif y cyfandaliad hwnnw; neu

(b)         swm y cyfandaliad hwnnw,

ond hynny cyhyd, yn unig, nad yw’r person hwnnw’n newid y dewis hwnnw o blaid cynnydd mewn pensiwn neu fuddion.

28. Unrhyw daliadau a wneir yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan—

(a)         adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001([322]) (taliadau uniongyrchol);

(b)         adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968([323]) (taliadau uniongyrchol mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymunedol);

(c)         adrannau 12A i 12C o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd);

(d)         Erthygl 15 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972([324]) (lles cymdeithasol cyffredinol); neu

(e)         adran 8 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002([325]) (taliadau uniongyrchol).

RHAN 2

Cyfalaf a ddiystyrir at ddibenion penderfynu incwm tybiedig yn unig

29. Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan fuddiant am oes neu o dan rent am oes.

30. Gwerth yr hawl i gael unrhyw rent, ac eithrio pan fo gan y ceisydd fuddiant atchweliadol yn yr eiddo y mae’r rhent yn daladwy amdano.

31. Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan flwydd-dal, neu werth ildio blwydd-dal o’r fath (os oes gwerth ildio).

32. Pan ddelir eiddo o dan ymddiriedolaeth, ac eithrio—

(a)         ymddiriedolaeth elusennol yn yr ystyr a roddir i “charitable trust” gan Ddeddf Elusennau 2011([326]); neu

(b)         ymddiriedolaeth a sefydlwyd gydag unrhyw daliad y mae paragraff 16  o’r Atodlen hon yn gymwys iddo,

a phan fo taliadau i gael eu gwneud o dan delerau’r ymddiriedolaeth, neu pan fo disgresiwn gan yr ymddiriedolwyr i wneud taliadau i’r ceisydd neu bartner y ceisydd neu’r ddau, neu er budd y naill neu’r llall neu’r ddau, yr eiddo hwnnw.

ATODLEN 9

Diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr

1. Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw ofal plant, teithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal, ond am 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn gyda dyddiad cael y taliad.

2. Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol, ond am 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn gyda dyddiad cael y taliad.

3. Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter, ond am 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn gyda dyddiad cael y taliad.

4. Yr annedd ynghyd ag unrhyw garej, gardd ac adeiladau allanol, a feddiennir fel arfer gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, gan gynnwys unrhyw fangre nas meddiennir felly ac y mae’n anymarferol neu’n afresymol ei gwerthu ar wahân, ond, er gwaethaf paragraff 30 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod), un annedd yn unig y caniateir ei diystyru o dan y paragraff hwn.

5. Unrhyw fangre a gaffaelwyd i’w meddiannu gan y ceisydd ac y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd o fewn 26 wythnos ar ôl y dyddiad caffael neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.

6. Unrhyw swm sy’n briodoladwy’n uniongyrchol i dderbyniadau gwerthiant unrhyw fangre a feddiennid gynt gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, ac sydd i’w ddefnyddio i brynu mangre arall y bwriedir ei meddiannu felly o fewn 26 wythnos ar ôl dyddiad y gwerthiant neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gwblhau’r pryniant.

7. Unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol—

(a)         gan bartner neu berthynas ceisydd sengl neu unrhyw aelod o’r teulu fel cartref i’r person hwnnw pan fo’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth neu’n analluog;

(b)         gan gyn-bartner y ceisydd fel cartref i’r person hwnnw; ond nid yw’r ddarpariaeth hon yn gymwys os yw’r cyn-bartner yn berson y mae’r ceisydd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu y ffurfiodd y ceisydd bartneriaeth sifil ag ef, sydd bellach wedi ei diddymu.

8. Pan fo ceisydd yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, y cyfan o gyfalaf y ceisydd.

9. Pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl cyd-hawliad yn yr ystyr o “joint-claim couple” at ddibenion Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 a phartner y ceisydd yn cael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, y cyfan o gyfalaf y ceisydd.

10. Unrhyw fuddiant yn y dyfodol mewn eiddo o unrhyw fath, ac eithrio tir neu fangre a osodwyd gan y ceisydd o dan brydles neu denantiaeth sy’n parhau mewn grym, gan gynnwys is-brydles neu is-denantiaeth.

11.(1)(1) Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd, pan fo’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig at ddibenion y busnes hwnnw, neu, os yw’r ceisydd wedi peidio â gweithredu felly, am ba gyfnod bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i ganiatáu gwaredu unrhyw ased o’r fath.

(2) Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd—

(a)         os nad yw’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw, oherwydd rhyw glefyd neu anabledd corfforol neu feddyliol; ond

(b)         bod y ceisydd yn bwriadu gweithredu, neu, yn ôl fel y digwydd, gweithredu drachefn, fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw cyn gynted ag y bo’n gwella neu’n alluog i weithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw,

am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y gwneir y cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn, neu y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud felly, neu, os yw’n afresymol disgwyl i’r ceisydd ddechrau gweithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw o fewn y cyfnod hwnnw, am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i ddechrau gweithredu felly neu weithredu felly drachefn.

(3) Yn achos person sy’n cael cymorth o dan y llwybr hunangyflogaeth, yr asedau a gaffaelwyd gan y person hwnnw at y diben o sefydlu neu gyflawni’r gweithgaredd masnachol y cafwyd cymorth o’r fath mewn perthynas ag ef.

(4) Yn achos person sydd wedi peidio ymgymryd â’r gweithgaredd masnachol y cafwyd cymorth mewn perthynas ag ef fel a bennir yn is-baragraff (3), yr asedau sy’n berthynol i’r gweithgaredd hwnnw am ba gyfnod bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i ganiatáu gwaredu unrhyw ased o’r fath.

12.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw ôl-daliad, neu unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu am ôl-ddyled oherwydd methiant i dalu’r canlynol—

(a)          unrhyw daliad a bennir ym mharagraffau 11, 13 neu 14 o Atodlen 7;

(b)         budd-dal ar sail incwm o dan Ran 7 o DCBNC;

(c)         lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(d)         unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001([327]);

(e)         credyd treth gwaith a chredyd treth plant;

(f)          lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm,

ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir yr ôl-daliad neu’r taliad consesiynol.

(2) Mewn achos pan fo cyfanswm unrhyw ôl-daliadau ac, os yw’n briodol, unrhyw daliad consesiynol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) mewn perthynas ag un o’r taliadau penodedig, budd-daliadau neu lwfansau, yn £5,000 neu’n fwy (y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn ac yn is-baragraff (3) fel “y swm perthnasol”) ac—

(a)         y’i talwyd er mwyn unioni neu ddigolledu am gamgymeriad swyddogol yn yr ystyr a roddir i “official error” fel y’i diffinnir gan reoliad 1(2) o Reoliadau Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor (Penderfyniadau ac Apelau) 2001 ([328]); a

(b)         y’i cafwyd gan y ceisydd yn llawn ar neu ar ôl 14 Hydref 2001,

bydd is-baragraff (1) yn cael effaith mewn perthynas ag ôl-daliad neu daliad consesiynol o’r fath naill ai am gyfnod o 52 wythnos o’r dyddiad y’i cafwyd, neu, os ceir y cyfan o’r swm perthnasol yn ystod cyfnod dyfarniad o ostyngiad o dan y cynllun hwn, am weddill y cyfnod hwnnw os yw’r cyfnod hwnnw’n hwy.

(3) At ddibenion is-baragraff (2), ystyr “cyfnod dyfarniad o ostyngiad o dan y cynllun hwn” (“the period of an award of a reduction under this scheme”) yw—

(a)          y dyfarniad y cafwyd y swm perthnasol ynddo gyntaf (neu ran gyntaf y swm perthnasol os telir ef mewn mwy nag un rhandaliad); a

(b)         os dilynir y dyfarniad hwnnw gan un neu ragor o ddyfarniadau pellach, sy’n dechrau yn union wedi i’r dyfarniad blaenorol ddod i ben, neu sydd bob un yn dechrau yn union wedi i’r un blaenorol ddod i ben, y cyfryw ddyfarniad pellach, ar yr amod, ar gyfer y cyfryw ddyfarniad pellach, mai’r ceisydd—

                           (i)    yw’r person a gafodd y swm perthnasol; neu

                         (ii)    yw partner y person a gafodd y swm perthnasol, neu a oedd yn bartner y person hwnnw ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw.

13. Unrhyw swm—

(a)         a delir i’r ceisydd o ganlyniad i ddifrodi neu i golli’r cartref neu unrhyw eiddo personol, ac a fwriedir ar gyfer ei atgyweirio neu’i amnewid; neu

(b)         a gaffaelwyd gan y ceisydd (boed ar ffurf benthyciad neu fel arall) yn benodol ar yr amod y’i defnyddir i wneud atgyweiriadau hanfodol neu welliant i’r cartref,

a ddefnyddir at y diben a fwriedir, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y’i talwyd neu’i caffaelwyd felly, neu am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau ar gyfer cyflawni’r atgyweiriadau, yr amnewidiad neu’r gwelliant.

14. Unrhyw swm—

(a)          a adneuwyd gyda chymdeithas dai yn yr ystyr o “housing association” fel y’i diffinnir yn adran 1(1) o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985([329]) fel amod o feddiannu’r cartref;

(b)         a adneuwyd felly ac sydd i’w ddefnyddio i brynu cartref arall,

am gyfnod o 26 wythnos neu am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gwblhau’r pryniant.

15. Unrhyw feddiannau personol ac eithrio rhai a gaffaelwyd gan y ceisydd gyda’r bwriad o leihau ei gyfalaf er mwyn sicrhau hawl i ostyngiad o dan y cynllun hwn, neu gynyddu swm y gostyngiad hwnnw.

16. Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan flwydd-dal neu werth ildio (os oes gwerth ildio) blwydd-dal o’r fath.

17. Pan fo cyllid ymddiriedolaeth yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd, gwerth cronfa’r ymddiriedolaeth a gwerth yr hawl i gael unrhyw daliad o dan yr ymddiriedolaeth honno.

18.(1)(1) Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd neu bartner y ceisydd o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd.

(2) Ond—

(a)         mae is-baragraff (1) yn gymwys, yn unig, am y cyfnod o 52 wythnos sy’n cychwyn gyda’r diwrnod pan fo’r ceisydd yn cael gyntaf unrhyw daliad o ganlyniad i’r niwed personol hwnnw;

(b)         nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw daliad dilynol a wneir i’r ceisydd o ganlyniad i’r niwed hwnnw (pa un a wneir y taliad gan yr un person ynteu berson arall);

(c)         bydd is-baragraff (1) yn peidio â bod yn gymwys i’r taliad, neu i unrhyw ran ohono, o’r diwrnod pan na fydd y ceisydd bellach yn ei feddu;

(d)         nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw daliad gan ymddiriedolaeth pan fo cyllid yr ymddiriedolaeth yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd.

(3) At ddibenion is-baragraff (2)(c), mae’r amgylchiadau pan nad yw ceisydd bellach yn meddu taliad neu ran ohono yn cynnwys amgylchiad pan fo ceisydd wedi defnyddio taliad neu ran ohono i brynu ased.

(4) Rhaid dehongli cyfeiriadau yn is-baragraffau (2) a (3) at y ceisydd fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at bartner y ceisydd (pan fo’n gymwys).

19. Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan fuddiant am oes neu o dan rent am oes.

20. Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm a ddiystyrir o dan baragraff 15 o Atodlen 6 neu baragraff 29 o Atodlen 7.

21. Gwerth ildio unrhyw bolisi yswiriant bywyd.

22. Pan fo unrhyw daliad o gyfalaf yn ddyladwy i’w dalu mewn rhandaliadau, gwerth yr hawl i gael y rhandaliadau sydd eto i’w talu.

23. Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989([330]) neu, yn ôl fel y digwydd, adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968([331]) neu adrannau 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995([332]) (darparu gwasanaethau i blant a’u teuluoedd a chyngor a chymorth i blant penodol).

24.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 23C o Ddeddf Plant 1989 neu adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (dyletswydd awdurdodau lleol o hyrwyddo lles plant a phwerau i roi cymorth ariannol i bersonau sydd neu a fu yn eu gofal) i berson (“A”), ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys ac eithrio pan fo A—

(a)         wedi bod gynt yng ngofal y ceisydd, a

(b)         yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ac

(c)         yn parhau i fyw gyda’r ceisydd.

25. Unrhyw—

(a)         taliad cronfa gymdeithasol a wnaed yn unol â Rhan 8 o DCBNC (y gronfa gymdeithasol); neu

(b)         cymorth achlysurol.

26. Unrhyw ad-daliad o dreth sydd i’w ddidynnu o dan adran 369 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988([333]) (didynnu treth o log ar fenthyciadau penodol) ar daliad o log benthyciad perthnasol at y diben o gaffael buddiant yn y cartref, neu wneud atgyweiriadau neu welliannau yn y cartref.

27. Unrhyw gyfalaf sydd i gael ei drin fel incwm yn rhinwedd paragraffau 52 neu 78 o’r cynllun hwn (cyfalaf a drinnir fel incwm, trin benthyciadau myfyriwr).

28. Pan wneir unrhyw daliad o gyfalaf mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.

29.(1)(1) Unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006), Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.

(2) Unrhyw daliad gan neu ar ran person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—

(a)         partner neu gyn-bartner y person hwnnw nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrth y person hwnnw, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu a ffurfiodd bartneriaeth sifil gyda’r person hwnnw, nad yw wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ei diddymu pan fu farw;

(b)         unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu

(c)         unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.

(3) Unrhyw daliad gan neu ar ran partner neu gyn-bartner person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—

(a)         y person sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys;

(b)         unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu

(c)         unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.

(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys—

(a)     os nad yw’r partner neu’r cyn-bartner a’r person hwnnw wedi ymwahanu neu ysgaru neu, os bu farw’r naill neu’r llall, nad oeddent wedi ymwahanu neu ysgaru, neu

(b)     pan ffurfiodd y partner neu’r cyn-bartner a’r person hwnnw bartneriaeth sifil, os nad yw’r bartneriaeth sifil honno wedi ei diddymu, neu os bu farw’r naill neu’r llall, nad oedd y bartneriaeth wedi ei diddymu ar adeg y farwolaeth,

(5) Unrhyw daliad gan berson sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—

(a)         nad oes gan y person hwnnw bartner na chyn-bartner nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb y ffurfiodd bartneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd, neu a fu, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a

(b)         gwneir y taliad naill ai—

                           (i)    i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

                         (ii)    os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y taliad, yn blentyn, person ifanc neu’n fyfyriwr nad yw wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oes ganddo riant neu lys-riant, i warcheidwad y plentyn neu’r person ifanc hwnnw neu warcheidwad y myfyriwr hwnnw,

ond hynny am y cyfnod, yn unig, o’r dyddiad y gwneir y taliad hyd at ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth y person hwnnw.

(6) Unrhyw daliad allan o ystad person a oedd yn dioddef o haemoffilia neu a oedd yn berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—

(a)         nad oedd gan y person hwnnw, ar ddyddiad ei farwolaeth (y dyddiad perthnasol) bartner na chyn-bartner nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb yr oedd wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc a oedd, neu a oedd wedi bod, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a

(b)         gwneir y taliad naill ai—

                           (i)    i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

                         (ii)    os oedd y person hwnnw, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn, person ifanc neu’n fyfyriwr nad oedd wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oedd ganddo riant neu lys-riant, i warcheidwad y plentyn neu’r person ifanc hwnnw neu warcheidwad y myfyriwr hwnnw,

ond hynny am gyfnod, yn unig, o ddwy flynedd o’r dyddiad perthnasol.

(7) Yn achos person y gwneir taliad, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn, iddo neu er ei fudd, unrhyw adnodd cyfalaf sy’n deillio o unrhyw daliad o incwm neu gyfalaf a wneir o dan, neu sy’n deillio o, unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau.

(8) At ddibenion is-baragraffau (2) i (7), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr Ymddiriedolaethau fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, a Chronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.

30.(1)(1) Pan fo ceisydd wedi peidio â meddiannu’r hyn a oedd gynt yn annedd a feddiennid fel y cartref, yn dilyn ymwahaniad neu ysgariad y ceisydd oddi wrth ei bartner blaenorol, neu’n dilyn diddymu partneriaeth sifil rhwng y ceisydd a’i bartner blaenorol, yr annedd honno am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y peidiodd y ceisydd â meddiannu’r annedd neu, os meddiennir yr annedd fel cartref y partner blaenorol sydd yn unig riant, cyhyd ag y’i meddiennir felly.

(2) Yn y paragraff hwn, mae “annedd” (“dwelling”) yn cynnwys unrhyw garej, gardd ac adeiladau allanol, a feddiennid gynt gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, ac unrhyw fangre nas meddiennid felly, ond y byddai’n anymarferol neu’n afresymol ei gwerthu ar wahân megis, yn benodol, yn yr Alban, unrhyw dir crofft y lleolir yr annedd arno.

31. Unrhyw fangre pan fo’r ceisydd yn cymryd camau rhesymol i waredu’r fangre honno, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cymerodd y ceisydd y camau cyntaf o’r fath neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i waredu’r fangre honno.

32. Unrhyw fangre y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd, ac y mae’r ceisydd yn cymryd camau i gael meddiant ohoni ac wedi ceisio cyngor cyfreithiol, neu wedi cychwyn achos cyfreithiol gyda’r bwriad o gael meddiant, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y ceisiodd y ceisydd gyntaf y cyfryw gyngor neu y cychwynnodd gyntaf achos o’r fath, pa un bynnag yw’r cynharaf, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.

33. Unrhyw fangre y bwriada’r ceisydd ei meddiannu fel cartref iddo ac y mae angen gwneud atgyweiriadau neu newidiadau hanfodol iddi, er mwyn iddi fod yn addas i’w meddiannu felly, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y mae’r ceisydd yn cymryd y camau gyntaf i gyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi cyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny.

34. Unrhyw daliad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddigolledu am golli (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yr hawlogaeth i gael budd-dal tai.

35. Gwerth yr hawl i gael pensiwn galwedigaethol neu bersonol.

36. Gwerth unrhyw gronfeydd a ddelir o dan gynllun pensiwn personol.

37. Gwerth yr hawl i gael unrhyw rent, ac eithrio pan fo gan y ceisydd fuddiant atchweliadol yn yr eiddo y mae’r rhent yn ddyladwy amdano.

38. Unrhyw daliad mewn nwyddau neu wasanaethau gan elusen neu o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).

39. Unrhyw daliad a wneir yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973([334]) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990([335]), ond am y cyfnod o 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn ar y diwrnod y ceir y taliad.

40. Unrhyw daliad o ganlyniad i ostyngiad o’r dreth gyngor o dan adran 13 o Ddeddf 1992, (gostyngiad atebolrwydd am dreth gyngor), ond am y cyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.

41. Unrhyw grant a wnaed yn unol â chynllun a wnaed o dan adran 129 o Ddeddf Tai 1988([336]) neu adran 66 o Ddeddf Tai (Yr Alban) 1988([337]) (cynlluniau ar gyfer taliadau i gynorthwyo tenantiaid awdurdodau tai lleol ac awdurdodau lleol i gael llety arall) sydd i’w ddefnyddio—

(a)         i brynu mangre y bwriedir ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd; neu

(b)         i gyflawni atgyweiriadau neu newidiadau sy’n ofynnol er mwyn gwneud mangre’n addas i’w meddiannu fel cartref i’r ceisydd,

ond am y cyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cafodd y ceisydd grant o’r fath, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi cwblhau’r pryniant, yr atgyweirio neu’r newidiadau a galluogi’r ceisydd i ddechrau meddiannu’r fangre honno fel cartref i’r ceisydd.

42. Unrhyw ôl-daliad o bensiwn atodol a ddiystyrir o dan baragraff 53 o Atodlen 7 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion) neu o unrhyw swm a ddiystyrir o dan baragraff 54 neu 55 o’r Atodlen honno, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir yr ôl-daliad.

43.(1)(1) Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir—

(a)         o ran Lloegr, o dan reoliad 5, 6 neu 12 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 2003([338]) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);

(b)         o ran Cymru, o dan reoliad 5, 6 neu 11 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007([339]) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);

(c)         o ran yr Alban, o dan reoliad 3, 5 neu 11 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Yr Alban) (Rhif 2) 2003([340]) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd),

ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad neu’r ad-daliad.

(2) Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Gweinidogion yr Alban neu Weinidogion Cymru sy’n gyfatebol i daliad neu ad-daliad a grybwyllir yn is-baragraff (1), ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad neu’r ad-daliad.

44. Unrhyw daliad a wneir i’r cyfryw bersonau sydd â hawl i gael buddion fel y penderfynir gan neu o dan gynllun a wnaed yn unol ag adran 13 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988([341])yn lle talebau neu drefniadau cyffelyb mewn cysylltiad â darparu’r buddion hynny (gan gynnwys taliadau a wneir yn lle talebau cychwyn iach, talebau llaeth neu gyflenwi fitaminau), ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.

45. Unrhyw daliad a wneir gan naill ai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder neu Weinidogion yr Alban o dan gynllun a sefydlwyd i gynorthwyo perthnasau a phersonau eraill i ymweld â phersonau a gedwir yn y ddalfa, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.

46. Unrhyw daliad (ac eithrio lwfans hyfforddi) a wneir, boed gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu unrhyw berson arall, o dan Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1944([342]) i gynorthwyo personau anabl i gael neu gadw cyflogaeth er gwaethaf eu hanabledd.

47. Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 3 o Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958([343]) i weithwyr gartref o dan y Cynllun Gweithwyr Gartref Dall.

48.(1)(1) Unrhyw swm o gyfalaf y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo ac—

(a)         a weinyddir ar ran person gan yr Uchel Lys neu’r Llys Sirol o dan Reol 21.11(1) o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998([344]) neu gan y Llys Gwarchod;

(b)         na ellir ei waredu ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd unrhyw lys o’r fath; neu

(c)         pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed, na ellir ei waredu ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd, cyn bo’r person hwnnw’n cyrraedd 18 mlwydd oed.

(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i swm o gyfalaf sy’n deillio o—

(a)         dyfarniad o iawndal am niwed personol i’r person hwnnw; neu

(b)         digollediad am farwolaeth un neu’r ddau riant pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed.

49. Unrhyw swm o gyfalaf a weinyddir ar ran person yn unol â gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995, neu o dan Reol 36.14 o Ddeddf Sesiwn (Rheolau Achosion Cyffredin Llysoedd Siryf) 1993([345]) neu o dan Reol 128 o’r Rheolau hynny, pan fo’r cyfryw swm yn deillio o—

(a)         dyfarniad o iawndal am niwed personol i’r person hwnnw; neu

(b)         digollediad am farwolaeth un neu’r ddau riant pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed.

50. Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr.

51. Yn achos person sy’n cael, neu sydd wedi cael, cymorth o dan y llwybr hunangyflogaeth, unrhyw swm o gyfalaf a gaffaelir gan y person hwnnw at y diben o sefydlu neu gyflawni’r gweithgaredd masnachol y ceir neu y cafwyd cymorth o’r fath mewn perthynas ag ef ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y caffaelwyd y swm hwnnw.

52.(1)(1) Unrhyw daliad o ddyfarniad chwaraeon am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cafwyd y taliad hwnnw ac eithrio i’r graddau y’i gwnaed mewn perthynas ag un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2).

(2) Yr eitemau a bennir at ddibenion is-baragraff (1) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.

(3) At ddibenion is-baragraff (2) nid yw “bwyd” (“food”) yn cynnwys fitaminau, mwynau neu atchwanegiadau dietegol arbennig eraill a fwriedir ar gyfer gwella perfformiad y person yn y gamp y gwnaed y dyfarniad mewn perthynas â hi.

53.(1)(1) Unrhyw daliad—

(a)         ar ffurf lwfans cynhaliaeth addysg a wnaed yn unol ag—

                           (i)    rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996([346]);

                         (ii)    rheoliadau a wnaed o dan adran 49 neu 73(f) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980([347]);

                       (iii)    cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992([348]);

(b)         cyfatebol i lwfans cynhaliaeth addysg o’r fath, a wnaed yn unol ag—

                           (i)    adran 14 neu adran 181 o Ddeddf Addysg 2002([349]) (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i roi cymorth ariannol at ddibenion sy’n ymwneud ag addysg neu ofal plant, a lwfansau mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant); neu

                         (ii)    rheoliadau a wnaed o dan adran 181 o’r Ddeddf honno; neu

(c)         yng Nghymru a Lloegr, ar ffurf cymorth ariannol a roddir yn unol ag adran 14 o Ddeddf Addysg 2002.

(2) Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo, a wnaed yn unol ag—

(a)         rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996;

(b)         rheoliadau a wnaed o dan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980; neu

(c)         cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992,

mewn perthynas â chwrs astudio a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc neu berson sy’n cael lwfans cynhaliaeth addysg neu daliad arall a wnaed yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn is-baragraff (1).

54. Yn achos ceisydd sy’n cymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth, unrhyw daliad disgresiynol a wneir gan gontractwr parth cyflogaeth i’r ceisydd, boed ar ffurf ffi, grant, benthyciad neu rywfodd arall, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.

55. Unrhyw ôl-daliad o lwfans cynhaliaeth a delir fel cyfandaliad, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.

56. Pan fo taliad ex gratia o £10,000 wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar neu ar ôl 1 Chwefror 2001 o ganlyniad i garcharu neu gaethiwo—

(a)         y ceisydd;

(b)         partner y ceisydd;

(c)         priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd; neu

(d)         priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd,

gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, £10,000.

57.(1)(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm unrhyw daliad ymddiriedolaeth a wneir i geisydd neu aelod o deulu’r ceisydd sydd yn—

(a)         person â diagnosis;

(b)         partner i berson â diagnosis, neu’r person a oedd yn bartner i berson â diagnosis ar y dyddiad y bu farw’r person â diagnosis;

(c)         rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis; neu

(d)         aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) neu berson a oedd yn aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis.

(2) Pan wneir taliad ymddiriedolaeth i—

(a)         person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a) neu (b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;

(b)         person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw;

(c)         person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu—

                           (i)    dwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw; neu

                         (ii)    ar y diwrnod cyn y diwrnod y bydd y person hwnnw—

(aa)         yn peidio â chael addysg amser llawn; neu

(bb)       yn cyrraedd 20 mlwydd oed,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(3)  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), swm unrhyw daliad gan berson y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo neu unrhyw daliad allan o ystad person y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo, a wneir i geisydd neu aelod o deulu’r ceisydd sydd—

(a)         yn bartner y person â diagnosis neu’n berson a oedd yn bartner y person â diagnosis ar y dyddiad y bu farw’r person â diagnosis;

(b)         yn rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis; neu

(c)         yn aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) neu’n berson a oedd yn aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) ar y dyddiad y bu farw’r person â diagnosis,

ond i’r graddau, yn unig, na fydd taliadau o’r fath yn fwy na chyfanswm unrhyw daliadau ymddiriedolaeth a wnaed i’r person hwnnw.

(4) Pan wneir taliad o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) i—

(a)         person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad hwnnw ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;

(b)         person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad hwnnw ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw; neu

(c)         person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad hwnnw ac yn diweddu—

                           (i)    dwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw; neu

                         (ii)    ar y diwrnod cyn y diwrnod y bydd y person hwnnw—

(aa)         yn peidio â chael addysg amser llawn; neu

(bb)       yn cyrraedd 20 mlwydd oed,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(5) Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson—

(a)         sy’n bartner y person â diagnosis;

(b)         sy’n aelod o deulu’r person â diagnosis;

(c)         yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis,

ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis yn cynnwys person a fyddai wedi bod yn berson o’r fath neu’n berson a fyddai’n gweithredu felly, pe na bai’r person â diagnosis yn preswylio mewn cartref gofal, cartref Abbeyfield neu ysbyty annibynnol ar y dyddiad hwnnw.

(6) In y paragraff hwn—

ystyr “person â diagnosis” (“diagnosed person”) yw person y gwnaed diagnosis ei fod yn dioddef o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, neu y gwnaed diagnosis ar ôl marwolaeth y person hwnnw ei fod wedi dioddef o’r clefyd hwnnw;

ystyr “ymddiriedolaeth berthnasol” (“relevant trust”) yw ymddiriedolaeth a sefydlwyd gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â phersonau a oedd yn dioddef, neu sydd yn dioddef, o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;

ystyr “taliad ymddiriedolaeth” (“trust payment”) yw taliad o dan ymddiriedolaeth berthnasol.

58. Swm unrhyw daliad, ac eithrio pensiwn rhyfel, a wneir i ddigolledu oherwydd bod y ceisydd, partner y ceisydd, priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd neu briod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd—

(a)         wedi bod yn gaeth lafurwr neu’n llafurwr dan orfodaeth;

(b)         wedi dioddef colled eiddo neu wedi dioddef niwed personol; neu

(c)         yn rhiant plentyn a fu farw,

yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

59. Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol neu gan Weinidogion Cymru, i neu ar ran y ceisydd neu bartner y ceisydd mewn perthynas â gwasanaeth a ddarperir i ddatblygu neu gynnal gallu’r ceisydd neu bartner y ceisydd i fyw’n annibynnol yn llety’r ceisydd.

60. Unrhyw daliad a wneir o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001([350]), neu o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968([351]), neu o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006([352]) (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd).

61. Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd yn unol â rheoliadau o dan adran 2(6)(b), 3 neu 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002([353]).

62. Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig).

ATODLEN 10

Materion sydd i’w cynnwys mewn hysbysiad

RHAN 1

Cyffredinol

1. Y materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn unrhyw hysbysiad a ddyroddir gan yr awdurdod yn unol â pharagraff 115 o’r cynllun hwn (hysbysu penderfyniad), yw’r materion a bennir yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon.

2. Rhaid i bob hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â hawl unrhyw berson, yr effeithir arno gan y penderfyniad, i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o dan baragraff 115(5) o’r cynllun hwn (ceisiadau am ddatganiad o resymau), ac o’r modd a’r amser y ceir gwneud hynny.

3. Rhaid i bob hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â hawl unrhyw berson, yr effeithir arno gan y penderfyniad, i apelio yn erbyn y penderfyniad yn unol â pharagraffau 8 a 10 o Atodlen 1 i’r cynllun hwn (gweithdrefn y caiff person ei dilyn i apelio yn erbyn penderfyniadau penodol yr awdurdod), ac o’r modd a’r amser y ceir gwneud hynny.

RHAN 2

Dyfarniadau o ostyngiadau pan fo credyd pensiwn y wladwriaeth neu ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn daladwy: pensiynwyr

4.(1)(1) Pan ddyfernir gostyngiad o dan y cynllun hwn i bensiynwr sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â’r canlynol—

(a)         y swm wythnosol arferol o dreth gyngor y byddai’r person yn atebol i’w dalu cyn dyfarnu unrhyw ostyngiad o dan y cynllun hwn, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(b)         yr uchafswm gostyngiad wythnosol y gallai person fod â hawl i’w gael o dan y cynllun hwn, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(c)         swm wythnosol arferol y gostyngiad y penderfynodd yr awdurdod fod hawl gan y person i’w gael o dan y cynllun hwn, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(d)         swm a chategori unrhyw ddidyniadau annibynyddion a wnaed o dan baragraff 30 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod), os oes rhai; ac

(e)         y diwrnod cyntaf y bydd hawl gan y person i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn,

ac mewn unrhyw achos pan fo’r swm y cyfeirir ato ym mharagraffau (a) i (c) yn diystyru ffracsiynau o geiniog, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw.

(2) Mewn achos pan fo gan bensiynwr, sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth, hawlogaeth yn unig i gael y credyd cynilion, rhaid i’r hysbysiad nodi hefyd y materion canlynol—

(a)         swm cymwysadwy’r person a sail y cyfrifiad;

(b)         swm y credyd cynilion a gymerwyd i ystyriaeth;

(c)         swm incwm a chyfalaf y person, fel yr hysbyswyd yr awdurdod ohonynt gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac y’u cymerwyd i ystyriaeth at ddibenion penderfynu’r gostyngiad o dan y cynllun hwn;

(d)         unrhyw addasiad a wnaed i incwm neu gyfalaf y person yn unol â pharagraff 33 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm pensiynwr mewn achosion credyd cynilion yn unig); ac

(e)         swm cyfalaf y person os yw paragraff 33(4) yn gymwys yn achos y person hwnnw.

(3) Pan fo hawl gan bensiynwr i gael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn unol â pharagraff 86 (gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr) o’r cynllun hwn, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â’r materion a bennir ym mharagraff 4(1).

RHAN 3

Dyfarniadau o ostyngiadau pan na thelir credyd pensiwn y wladwriaeth: pensiynwyr

5. Pan ddyfernir gostyngiad o dan y cynllun hwn i bensiynwr nad yw’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â’r canlynol—

(a)         y materion a bennir ym mharagraff 4(1);

(b)         swm cymwysadwy’r pensiynwr a’r modd y’i cyfrifwyd;

(c)         enillion wythnosol y pensiynwr; a

(d)         incwm ac enillion eraill y pensiynwr.

RHAN 4

Hysbysiad pan na wneir dyfarniad o ostyngiad: pensiynwyr

6. Os na ddyfernir gostyngiad i bensiynwr o dan y cynllun hwn—

(a)         ar sail incwm, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â’r canlynol—

                           (i)    y materion a bennir ym mharagraff 4(1)(a), a

                         (ii)    y materion a bennir ym mharagraff 5(b) i (d) pan nad yw’r pensiynwr yn cael credyd pensiwn y wladwriaeth;

(b)         am unrhyw reswm arall, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r rheswm pam na wnaed dyfarniad.

RHAN 5

Dyfarniadau o ostyngiadau pan fo cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, gostyngiad estynedig neu ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn daladwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

7.(1)(1) Pan fo person nad yw’n bensiynwr ac sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm yn cael dyfarniad o ostyngiad o dan y cynllun hwn, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â’r canlynol—

(a)     y swm wythnosol arferol o dreth gyngor y byddai’r person yn atebol i’w dalu cyn dyfarnu unrhyw ostyngiad o dan y cynllun hwn, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(b)         yr uchafswm gostyngiad wythnosol y gallai person fod â hawl i’w gael o dan y cynllun hwn, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(c)         swm wythnosol arferol y gostyngiad y penderfynodd yr awdurdod fod hawl gan y person i’w gael o dan y cynllun hwn, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(d)         swm a chategori unrhyw ddidyniadau annibynyddion, os oes rhai, a wnaed o dan baragraff 30 (cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a  phriodasau amlbriod) o’r cynllun hwn; ac

(e)         y diwrnod cyntaf y bydd hawl gan y person i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn,

ac mewn unrhyw achos pan fo’r swm y cyfeirir ato ym mharagraffau (a) i (c) yn diystyru ffracsiynau o geiniog, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw.

(2) Pan fo hawl gan berson nad yw’n bensiynwr i gael gostyngiad estynedig yn unol â pharagraff 93 o’r cynllun hwn (gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) neu ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn unol â pharagraff 98 o’r cynllun hwn (gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr), rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â’r materion a bennir ym mharagraff 7(1).

RHAN 6

Dyfarniadau o ostyngiad pan fo credyd cynhwysol yn daladwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

8. Pan ddyfernir gostyngiad o dan y cynllun hwn i berson sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol ac nad yw’n bensiynwr, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â’r canlynol—

(a)         y materion a bennir ym mharagraff 7(1);

(b)         swm cymwysadwy’r person fel y’i penderfynwyd yn unol â pharagraff 26 o’r cynllun hwn (swm cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr, sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol); ac

(c)         incwm y person fel y’i penderfynwyd yn unol â pharagraff 34 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol).

RHAN 7

Dyfarniadau o ostyngiad pan nad oes cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol yn daladwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

9. Pan ddyfernir gostyngiad o dan y cynllun hwn i berson nad yw’n bensiynwr ac nad yw’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â’r canlynol—

(a)         y materion a bennir ym mharagraff 7(1);

(b)         swm cymwysadwy’r person a’r modd y’i cyfrifwyd;

(c)         enillion wythnosol y person; ac

(d)         incwm wythnosol y person ac eithrio enillion.

RHAN 8

Hysbysiad pan na roddir dyfarniad o ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr

10. Pan na ddyfernir gostyngiad o dan y cynllun hwn i berson nad yw’n bensiynwr—

(a)         ar sail incwm, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â’r canlynol—

                           (i)    y materion a bennir ym mharagraff 7(a); a

                         (ii)    y materion a bennir ym mharagraff 8(b) ac (c) pan nad yw’r person yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol;

(b)         am unrhyw reswm arall, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r rheswm pam na wnaed dyfarniad.

RHAN 9

Hysbysiad pan drinnir incwm annibynnydd fel pe bai’n incwm y ceisydd: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr

11. Pan fo awdurdod yn gwneud penderfyniad o dan baragraff 31 o’r cynllun hwn (amgylchiadau pan fo cyfalaf ac incwm annibynnydd i gael eu trin fel eiddo i’r ceisydd), rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—

(a)         y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud drwy gyfeirio at incwm a chyfalaf annibynnydd y ceisydd, a

(b)     rheswm yr awdurdod dros wneud y penderfyniad hwnnw.



([1])           1992 p.14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17), a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(5) ac Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.              

([2])           O.S. 2012/3145 (Cy.317).

([3])           1996 p.18. Mewnosodwyd adrannau 75A a 75B gan adran 3 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p.22) a diwygiwyd hwy gan baragraffau 33 a 34 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p.18)           

([4])           2004 p.32.

([5])           1992 p.4. Gweler adrannau 64 i 67 o’r Ddeddf honno mewn perthynas â lwfans gweini.

([6])           O.S. 1983/686,, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1984/1675, 2001/420.

([7])           2007 (p.3); mae adran 989 yn diffinio “basic rate” gan gyfeirio at adran 6(2) o’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 6(2) gan adran 5 o Ddeddf Cyllid 2008 (p.9) ac adran 6 o Ddeddf Cyllid 2009 (p.10) a pharagraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

([8])           1995 p.18.

([9])           2002 p.16.              

([10])         2007 p.5.

([11])         2000 p.14; diwygiwyd adran 3 gan baragraffau 1 a 4 o Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14).         

([12])         2010 dsa 8.

([13])         O.S. 2003/431 (G.I. 9).

([14])         Diwygiwyd adran 141 gan adran 1 o Ddeddf Budd-dal Plant 2005 (p.6).

([15])         2002 p.21; diddymwyd adran 8 gan adran 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p.5) a Rhan 1 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno, ond nid yw’r darpariaethau hynny eto mewn grym.

([16])         2002 p.21.

([17])         2007 p.5; mae Rhan 1 yn ymwneud â’r lwfans cyflogaeth a chymorth, a rhoddir cyfeiriadau at y diwygiadau perthnasol.

([18])         Diwygiwyd adran 71 gan adran 67(1) o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p.30), a diddymwyd hi gan adran 90 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p.5) (nad yw eto mewn grym).

([19])         2000 p.7; diwygiwyd y diffiniad o “electronic communication” sy’n gynwysedig yn adran 15(1) gan adran 406 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p.21), a pharagraff 158 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.

([20])         Diwygiwyd adran 2(1)(a) gan baragraffau 169 a 171 o Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1).

([21])         Mewnosodwyd adran 17A gan adran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2009 (p.24) a diwygiwyd hi gan baragraffau 1 a 4 o Atodlen 7 a Rhannau 1 a 3 o Atodlen 14 (nad ydynt eto mewn grym) o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p.5). Diddymwyd yr adran gan Ran 4 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno (nad yw eto mewn grym).

([22])         1999 p.30.

([23])         2002 p.16.

([24])         O.S. 2011/517.

([25])         1995 p.18. Diwygiwyd adran 1(4) gan baragraffau 1 a 2(1) a (4) o Atodlen 7 i Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999; Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33); adran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2009 (p.24), a diddymir hi gan Ran 1 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Lles 2012 (nad yw eto mewn grym).

([26])         2006 p.41. Diwygiwyd y diffiniad o “health service hospital” gan baragraff 138 o Atodlen 4 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7).

([27])         2000 p.14; diwygiwyd adran 2 gan baragraffau 1 a 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14).

([28])         1978 p.29; mewnosodwyd adran 10F gan adran 108 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 (dsa 8).

([29])         Diwygir adran 2(1)(b) gan baragraff 24 (sydd mewn grym yn rhannol), o Atodlen 23 i Ddeddf Diwygio Lles 2012; diddymir adran 4 gan Ran 1 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno (nad yw eto mewn grym).

([30])         1996 p.18.

([31])         1972 p.70. Diwygiwyd y diffiniad hwn o “local authority” gan adran 102 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51) a pharagraff 8 o Atodlen 16 ac Atodlen 17 i’r Ddeddf honno. Gwnaed diwygiadau eraill i’r diffiniad hwnnw, ond nid ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([32])         1993 p.48. Amnewidiwyd y diffiniad o “occupational pension scheme” gan adran 239 o Ddeddf Pensiynau 2004 (p.35) a diwygiwyd ef gan O.S. 2007/3014.

([33])         1996 p.18. Mewnosodwyd adrannau 80A ac 80B gan adran 1 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p.22) a mewnosodwyd adrannau 80AA ac 80BB gan adran 3 o Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p.18). Y rheoliadau perthnasol a wnaed o dan yr adrannau hyn yw O.S. 2002/2788 ac O.S. 2003/921 (a wnaed o dan adrannau 80A ac 80B) ac O.S. 2010/1055 ac O.S. 2010/1059 (a wnaed o dan adrannau 80AA ac 80BB).

([34])         1995 p.26; diwygiwyd paragraff 1 gan baragraff 39 o Atodlen 2 i Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p.16); paragraff 13 o Atodlen 3 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5); paragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf Pensiynau 2007 (p.22); ac adran 1 o Ddeddf Pensiynau 2011 (p.19).

([35])         2012 p.5.

([36])         1993 p.48; amnewidiwyd y diffiniad o “personal pension scheme” gan adran 239 o Ddeddf Pensiynau 2004 (p.35) a diwygiwyd ef gan adrannau 70 a 114 o Ddeddf Cyllid 2007 (p.11) a pharagraff 23 o Atodlen 20 a pharagraff 3 o Atodlen 27 i’r Ddeddf honno.

([37])         1988 p.1.

([38])         2004 p.12.              

([39])         2002 p.16.              

([40])         O.S. 2006/214; diwygiwyd gan O.S. 2007/1356, 2007/2869.

([41])         2002 p.16. Diwygiwyd adran 3 gan baragraff 140 o Atodlen 24 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33), a chan O.S. 2002/1792.

([42])         1973 p.50. Amnewidiwyd adran 2 gan adran 25(1) o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19) a diddymwyd hi yn rhannol gan Ran 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38).

([43])         1990 p.35.

([44])         1978 p.29.

([45] )        Gweler y diffiniad o “landlord authority” yn adran 114 o Ddeddf  Tai 1985 (p.68). Diwygiwyd adran 114 gan adran 83(4) o Ddeddf Tai 1988(p.50); adrannau 129 ac 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) a pharagraff 10 o Atodlen 15 a Rhan IV o Atodlen 18 i’r Ddeddf honno; adran 222 o Ddeddf  Lleoliaeth 2011(p.20) a pharagraffau 9 a 12 o Atodlen 22 i’r Ddeddf honno; O.S. 1996/2325; ac O.S. 2010/866.

([46])         1985 p.68; diwygiwyd adran 105 gan O.S. 1996/2325; gan baragraff 5 o Atodlen 8 a pharagraff 5 o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) a chan O.S. 2010/866.  

([47])         1995 p.50; mewnosodwyd adran 49A mewn perthynas â Gogledd Iwerddon gan erthygl 5 o O.S. 2006/312 (G.I.1).

([48])         2010 p.15.                              

([49])         1999 p.27; diwygiwyd adran 3 gan adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p.28).

([50])         2009 mccc 2.          

([51])         2001 dsa 10.

([52])         2006 p.41.

([53])         2006 p.42.

([54])         2008 p.14; diwygiwyd adran 4 gan adran 189 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7).

([55])         2008 p.17; diwygiwyd adran 193 gan baragraffau 1 a 4 o Atodlen 17 a Rhan 27 o Atodlen 25 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20); diwygiwyd adran 196 gan adran 26(4) o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p.20) ac adrannau 178, 195 a 237 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 ac Atodlenni 19 a 25 i’r Ddeddf honno.

([56])         1993 p.39; diwygiwyd is-adran (2) gan O.S. 1996/3095 a1999/1563.

([57])         1992 p.4.

([58])         2002 p.16.              

([59])         1973 p.50; amnewidiwyd adran 2 gan adran 25 o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19), a diwygiwyd hi gan Ran 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38).    

([60])         2012 p.5.

([61])         2003 p.1; mewnosodwyd is-adran (2) gan adran 19 o Ddeddf Cyllid 2005 (p.7).  

([62])         1991 p.56.              

([63])         2002 dsa 3; amnewidiwyd adran 29 a mewnosodwyd adrannau 29A - 29G gan adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Dŵr etc (Yr Alban) 2005 (dsa 3).               

([64])         2002 p.21.              

([65])         Diwygiwyd adran 142 gan adran 1 o Ddeddf Budd-dal Plant 2005 (p.6).

([66])         1995 p.18. Amnewidiwyd adran 19 (ynghyd ag adrannau 19A i 19C) gan adran 46 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p.5); diddymwyd adran 17A gan Ran 4 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Lles 2012 er nad yw’r ddarpariaeth honno eto mewn grym. Yn y cyfamser gwnaed diwygiadau i adran 17A gan adrannau 48 a 59 o’r Ddeddf honno ac Atodlenni 7 ac 14 iddi.

([67])         2001 p.11; diwygiwyd adran 6B gan adrannau 9, 24 a 58 o Ddeddf Diwygio Lles 2009 (p.24) a pharagraffau 9 a 10 o Atodlen 2 a Rhan 1 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; adrannau 31, 33, 113, 118, 119, 121 a 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p.5) a pharagraffau 56 a 58 o Atodlen 2, paragraffau 15 ac 16 o Atodlen 3, a Rhannau 1 a 12 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno, ac o’r rheini y diwygiadau a wnaed gan adrannau 113(1)(b), 118(1) i (4) a 119 yn unig sydd mewn grym. Diwygiwyd adran 7 gan adran 14 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p.16) a Rhan 3 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno; adrannau 28 a 49 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5) a pharagraff 23 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno; adrannau 9, 24 a 58 o Ddeddf Diwygio Lles 2009 a pharagraffau 9 ac 11 o Atodlen 2, Rhan 1 o Atodlen 4 a Rhan 1 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (nid yw’r diwygiadau a wnaed gan adrannau 9, 31 ac Atodlen 7 eto mewn grym); O.S. 2011/2298; adrannau 31, 33, 118, 119 a 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 56 a 59 o Atodlen 2, paragraffau 15 a 17 o Atodlen 3 a Rhan 1 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno, ac o’r rheini y diwygiadau a wnaed gan adrannau 118 a 119 yn unig sydd mewn grym. Diddymwyd adran 8 gan adran 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a Rhan 1 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno, ond nid yw’r diddymiad hwnnw eto mewn grym. Gwnaed diwygiadau hefyd gan adrannau 1, 24, a 58 o Ddeddf Diwygio Lles 2009 a Rhan 1 o Atodlen 4 a Rhan 3 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; adrannau 31, 48, 113 a 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 56 a 60 o Atodlen 2, paragraff 12 o Atodlen 7 a Rhan 12 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno, ac o’r rheini y diwygiadau a wnaed gan adran 113 yn unig sydd mewn grym. Gwnaed diwygiadau i adran 9 gan adran 14 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 a Rhan 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno; adran 28 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 a pharagraff 23 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno; adrannau 9, 24 a 58 o Ddeddf Diwygio Lles 2009 a Rhan 1 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, nad oes yr un ohonynt mewn grym; a chan adrannau 31, 113 a 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 56 a 61 o Atodlen 2 a Rhan 1 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno, ac o’r rheini, y diwygiadau a wnaed gan adran 113 yn unig sydd mewn grym.

([68])         2007 p.5.

([69])         O.S. 2002/1792.                     

([70])         Gweler paragraffau 13 a 14 o’r cynllun hwn.

([71])         Gweler paragraffau 15 ac 16 o’r cynllun hwn.

([72])         Mewnosodwyd adran 145A gan adran 55(1) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (p.21).

([73])         2000 p.35.

([74])         1989 p.41; yn lle adran 23 rhoddwyd adrannau 22A i 22F gan adran 8(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23). Mae adran 22C mewn grym yn Lloegr ond adran 22C(11) yn unig sydd mewn grym yng Nghymru. Diwygiwyd adran 59(1)(a) gan adran 49 o Ddeddf Plant 2004 (p.31) a pharagraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008.

([75])         2002 p.38.

([76])         O.S. 2009/154.

([77])         O.S. 1987/2203 (G.I. 22).

([78])         1955 p.18.

([79])         1955 p.19.

([80])         1957 p.53.

([81])         1958 p.40.

([82])         1968 p.49.

([83])         1969 p.46.

([84])         1969 p.54.

([85])         1973 p.18.

([86])         1975 p.72; diddymwyd y Ddeddf hon mewn perthynas â Chymru a Lloegr gan Atodlen 15 i Ddeddf Plant 1989 (p.41). Mae’n parhau i gael effaith yn yr Alban.

([87])         1978 p.22.

([88])         2007 dsa 4.             

([89])         1986 p.55.              

([90])         1989 p.41.              

([91])         1995 p.36.

([92])         2006 p.52.              

([93])         2012 p.10.              

([94])         1992 p.14; diwygiwyd is-adrannau (2) ac (8) o adran 6 gan erthygl 2 o O.S.1997/74 a pharagraff 8 o’r Atodlen i’r offeryn hwnnw.

([95])         2007 p.21.              

([96])         1983 p.20.              

([97])         2003 dsa 13.

([98])         1995 p.46.

([99])         O.S. 1986/595 (G.I. 4).

([100])       1952 p.52.

([101])       1989 p.45.

([102])       OJ Rhif L 158, 30.4.04, t. 77. 

([103])       Cyhoeddwyd fersiwn gydgrynoëdig o’r Cytuniad hwn yn y Cyfnodolyn Swyddogol ar 30.3.2010 C 83.

([104])       1971 p.77.

([105])       1999 p.33

([106])       Gwnaed diwygiadau perthnasol i adran 94(1) gan adran 44 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 (p.41) ond nid yw’r darpariaethau hynny mewn grym. Mae diwygiadau eraill wedi eu gwneud, nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.             

([107])       O.S. 2006/1003; yr offerynnau perthnasol sy’n diwygio yw O.S. 2011/544, 2012/1547, 2012/2560.    

([108])       Gan gynnwys pensiynwyr mewn priodasau amlbriod, yn rhinwedd paragraff 5 o’r cynllun hwn.

([109])       O.S. 2005/3360.     

([110])       O.S. 2008/794.

([111])       O.S. 2005/3360.     

([112])       2012 p.5.

([113])       2012 p.5.

([114])       1973 p.50; amnewidiwyd adran 2 gan adran 25 o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19) a diwygiwyd hi yn ddiweddarach gan adran 29 o Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38) a Rhan 1 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno ac, mewn perthynas â’r Alban yn unig, adran 47 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19).          

([115])       1990 p.35; diwygiwyd adran 2 gan adran 47 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19); erthygl 4 o O.S. 1999/1820 a pharagraff 100 o Atodlen 2 i’r offeryn hwnnw; a pharagraff 20 o Atodlen 26 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15).              

([116])       Gweler paragraff 21 ynglŷn â’r terfyn cyfalaf ar gyfer cymhwystra, sef £16,000.

([117])       Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17).       

([118])       2002 p.16.              

([119])       Gweler paragraff 21 ynglŷn â’r terfyn cyfalaf ar gyfer cymhwystra, sef £16,000.

([120])       O.S. 2011/517.

([121])       Mewnosodwyd Rhan 12ZA gan adran 2 a mewnosodwyd Rhan 12ZB gan adran 4 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p.22).          

([122])       O.S. 2006/606.

([123])       1979 p.41.

([124])       Mae’r Cynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd wedi ei gynnwys fel atodiad i O.S. 1982/719; amnewidiwyd gan Atodiad 2 i O.S. 1990/2360. Gwnaed diwygiadau iddo yn y cyfamser, ond nid ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([125])       1837 p.2.

([126])       1937 p.32.              

([127])       1952 p.37.              

([128])       1972 p.7.

([129])       1975 p.82.              

([130])       O.S. 1979/597.       

([131])       O.S. 2005/3360.

([132])       1992 p.4; mewnosodwyd adran 30DD gan adran 63 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p.30). Mewnosodwyd adran 30E gan adran 3 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Analluogrwydd i Weithio) 1994 (p.18). Diddymir y ddwy adran gan Atodlen 8 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5) (nad yw eto mewn grym).

([133])       O.S. 2001/1004.

([134])       1996 p.17.              

([135])       2007 p.3; diwygiwyd pennawd ac is-adran (1) o adran 35 gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2012 (p.14) (“Deddf 2012”); mewnosodwyd is-adrannau (2) a (4) gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009 (p.10). Yn adran 36, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009. Yn adran 37, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009.       

([136])       1989 p.41; yn lle adran 23 rhoddwyd adrannau 22A i 22F gan adran 8(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23). Mae adran 22C mewn grym yn Lloegr, ond adran 22C(11) yn unig sydd mewn grym yng Nghymru.     

([137])       1995 p.36; diwygiwyd adran 26 gan baragraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007 (dsa 4).

([138])       O.S. 2009/210.

([139])       1948 p.29; mewnosodwyd adran 26(3A) gan adran 42(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19).  

([140])       2006 p.41. Sefydlwyd y Bwrdd Comisiynu o dan adran 1H o’r Ddeddf honno (a fewnosodwyd gan adran 9 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7)); mewnosodwyd adran 14D gan adran 25 o Ddeddf 2012.   

([141])       2006 p.42.              

([142])       1965 p.51.              

([143])       O.S. 2005/454.       

([144])       1980 p.46.              

([145])       Caniateir defnyddio pwerau yn adran 14A o Ddeddf 1992 i’w gwneud yn ofynnol bod cyflogwyr yn darparu gwybodaeth at y dibenion hyn.

([146])       1996 p.18.

([147])       O.S. 2001/1004.

([148])       2007 p.3; diwygiwyd pennawd ac is-adran (1) o adran 35 gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2012 (p.14) (“Deddf 2012”); mewnosodwyd is-adrannau (2) a (4) gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009 (p.10). Yn adran 36, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009. Yn adran 37, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009.

([149])       O.S. 2008/794.

([150])       2002 p.21.

([151])       1999 p.33.

([152])       1994 p.21.

([153])       O.S. 1996/207.

([154])       1980 p.46.

([155])       O.S. 1987/1967.

([156])       O.S. 1975/556.

([157])       O.S. 1999/3110.

([158])       2010 mccc 1.          

([159])       2010/2839 (Cy.233).              

([160])       2010 dsa 8.             

([161])       2006 p.21.

([162])       O.S. 2011/581.

([163])       O.S. 2003/237 (Cy.35).          

([164])       O.S.A, 2009/210.

([165])       O.S. 2004/219 (Cy.23).          

([166])       2006 p.41; diwygiwyd paragraff 9 gan adran 17(10) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7) (i ddisodli cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol gan gyfeiriadau at grwpiau comisiynu clinigol), ond nid yw’r darpariaethau hynny eto mewn llawn grym.

([167])       O.S. 1987/1967; mewnosodwyd Atodlen 1B gan O.S. 1996/206.

([168])       O.S. 1975/529.

([169])       2007 p.3; diwygiwyd pennawd ac is-adran (1) o adran 35 gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2012 (p.14) (“Deddf 2012”); mewnosodwyd is-adrannau (2) a (4) gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009 (p.10). Yn adran 36, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047, ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009. Yn adran 37, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047, ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009.

([170])       Y terfyn cyfalaf yw £16,000, gweler paragraff 21.

([171])       O.S. 2002/1792

([172])       O.S. 2006/214.

([173])       O.S. 1996/207.

([174])       O.S. 2008/794.

([175])       O.S. 2006/213.

([176])       O.S. 1996/207.

([177])       O.S. 2008/794.

([178])       Cymerir incwm o gyfalaf i ystyriaeth wrth gyfrifo incwm ceisydd sy’n bensiynwr, gweler paragraff 36(1)(i).

([179])       Cymerir incwm o gyfalaf i ystyriaeth wrth gyfrifo incwm ceisydd sy’n bensiynwr, gweler paragraff 54(1)(b)(ii).

([180])       1992 p.13.

([181])       1980 p.20.

([182])       O.S. 1993/2810.

([183])       O.S. 1997/1772.

([184])       2002 p.32.

([185])       2009 p.22.

([186])       1992 p.37.

([187])       1996 p.56.

([188])       1973 p.65.

([189])       O.S. 1986/594 (G.I. 3).

([190])       1965 p.4.

([191])       O.S. 1996/207.

([192])       O.S. 2011/1986.

([193])       O.S. 2012/3097 (Cy.313).

([194])       O.S.A. 2007/154.

([195])       Rh.S. 2009/373.

([196])       O.S. 2003/1994; offeryn perthnasol sy'n diwygio yw O.S. 2008/1477.

([197])       1998 p.30.

([198])       O.S. 1998/1760 (G.I. 14).

([199])       O.S.A. 2007/153.

([200])       Gweler paragraff 3(2)(a) o’r cynllun hwn.

([201])       O.S. 2008/794.

([202])       1989 p.41.

([203])       1968 p.49.

([204])       O.S.A. 2007/149.

([205])       1962 p.12.

([206])       O.S. 2005/52.

([207])       O.S. 2000/213.

([208])       Rh.S. 2003/459.

([209])       1988 p.40.

([210])       1968 p.46.

([211])       Gweler hefyd baragraff 103 mewn perthynas â phersonau sy’n symud i ardal yr awdurdod o ardal awdurdod arall.                             

([212])       2000 dsa 4.             

([213])       1971 p.27.

([214])       1985 p.29.

([215])       2005 p.9.

([216])       O.S. 1987/1968.

([217])       O.S. 1987/1968.

([218])       1999 p.33.

([219])       O.S. 1979/597.

([220])       1973 p.50.

([221])       1990 p.35.

([222])       1948 p.29.

([223])       1994 p.39.

([224])       2001 p.11.

([225])       O.S. 2006/216.

([226])       O.S. 2006/213.

([227])       O.S. 1979/597.

([228])       1973 p.50.

([229])       1990 p.35.

([230])       O.S. 2002/2005.

([231])       2006 p.41.

([232])       1978 p.29.

([233])       2006 p.42.

([234])       Diwygiwyd is-baragraff (3) gan adran 17 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7).

([235])       1948 p.29.

([236])       1994 p.39.

([237])       O.S. 1995/311.

([238])       2001 p.11.

([239])       2007 p.5.

([240])       O.S. 2008/794.

([241])       O.S. 2010/1907.

([242])       2004 p.21.

([243])       Mae adran 1A o Ddeddf Tân (Yr Alban) 2005 (dsa 5) yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 101 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Thân (Yr Alban) 2012 (dsa 8).

([244])       O.S. 2001/1004.

([245])       O.S. 2006/606.

([246])       O.S. 1983/686.

([247])       O.S. 2002/2005.

([248])       1948 p.29.

([249])       1994 p.39.

([250])       O.S. 2008/794.

([251])       O.S. 1975/556.

([252])       O.S. 1995/311.

([253])       O.S. 2002/2005.

([254])       O.S. 2011/517.

([255])       O.S. 2006/606.

([256])       O.S. 1983/686.

([257])       1988 p.1.

([258])       O.S. 2002/1492.

([259])       1998 p.30.

([260])       1980 p.37.

([261])       O.S. 1999/2734.

([262])       1996 p.18.

([263])       2004 p.21.

([264])       Mae adran 1A o Ddeddf Tân (Yr Alban) 2005 (dsa 5) yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 101 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Thân (Yr Alban) 2012 (dsa 8).

([265])       O.S. 2001/1004.

([266])       O.S. 2008/794.

([267])       O.S. 1995/311.

([268])       O.S. 2002/2005.

([269])       O.S. 1999/2734.

([270])       O.S. 2006/606.

([271])       O.S. 1983/686.

([272])       1996 p.56.

([273])       1980 p.44.

([274])       1992 p.37.

([275])       2002 p.32.

([276])       O.S. 2003/1917.

([277])       1973 p.50.

([278])       1990 p.35.

([279])       O.S. 2011/517.

([280])       1998 p.30.

([281])       1980 p.44.

([282])       1999 p.33.

([283])       2002 p.38.

([284])       2007 dsa 4.

([285])       1989 p.41.

([286])       1975 p.72.

([287])       O.S. 1995/755.

([288])       1995 p.36.

([289])       O.S. 2009/210.

([290])       1948 p.29.

([291])       1977 p.49.

([292])       2006 p.41.

([293])       2006 p.42.

([294])       1989 p.49.

([295])       1974 p.39.

([296])       1964 p.53.

([297])       O.S. 2003/2382.

([298])       O.S. 2007/1104 (Cy.116).

([299])       O.S. 2003/460.

([300])       1988 p.7.

([301])       1991 p.48.

([302])       O.S. 1991/2628.

([303])       O.S. 1987/1967.

([304])       1944 p.10.

([305])       O.S. 2006/606.

([306])       O.S. 1983/686.

([307])       1968 p.49.

([308])       2001 p.15.

([309])       O.S. 2001/1167

([310])       O.S. 1998/3132.

([311])       2000 c 22.

([312])       2001 dsa 10.

([313])       O.S. 2001/1167.

([314])       O.S. 1987/1967.

([315])       O.S. 1996/207.

([316])       O.S. 2006/215.

([317])       O.S. 2002/1792.

([318])       O.S. 2008/794.

([319])       O.S. 2001/1002.

([320])       O.S. 1999/991.

([321])       O.S. 2005/454.

([322])       2001 p.15.

([323])       1968 p.49.

([324])       O.S. 1972/1265 (G.I. 14).

([325])       2002 p.6.

([326])       2011 p.25.

([327])       O.S. 2001/1167.

([328])       O.S. 2001/1002.

([329])       1985 p.69.

([330])       1989 p.41.

([331])       1968 p.49.

([332])       1995 p.36.

([333])       1988 p.1.

([334])       1973 p.50.

([335])       1990 p.35.

([336])       1988 p.50.

([337])       1988 p.43.

([338])       O.S. 2003/2382.

([339])       O.S. 2007/1104 (Cy.116).

([340])       O.S. 2003/460.

([341])       1988 p.7.

([342])       1944 p.10.

([343])       1958 p.33.

([344])       O.S. 1998/3132.

([345])       O.S. 1993/1956.

([346])       1996 p.56.

([347])       1980 p.44.

([348])       1992 p.37.

([349])       2002 p.32.

([350])       2001 p.15.

([351])       1968 p.49.

([352])       2006 p.41.

([353])       2002 p.38.