R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid i'r celfyddydau yng Nghymru? OAQ(4)0084(CS)W
2. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Arolwg ar Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru? OAQ(4)0074(CS)
3. William Graham (Dwyrain De Cymru): A oes gan y Gweinidog gynlluniau i wella rôl Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru? OAQ(4)0069(CS)
4. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd digwyddiadau diwylliannol, megis digwyddiad WOMEX yn ddiweddar, i Gymru? OAQ(4)0083(CS)
5. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad y cyhoedd i gefn gwlad? OAQ(4)0080(CS)
6.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella
rhagoriaeth mewn chwaraeon yng Nghanol De Cymru?
OAQ(4)0070(CS)
7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa waith y mae eich adran yn ei wneud i hyrwyddo chwaraeon ymhlith pobl hŷn? OAQ(4)0073(CS)
8. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hyrwyddo chwaraeon cyn rôl Caerdydd fel prifddinas chwaraeon Ewrop yn 2014? OAQ(4)0075(CS)
9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid i chwaraeon yng Nghymru? OAQ(4)0085(CS)W
10. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i hyrwyddo amgueddfeydd lleol? OAQ(4)0068(CS)
11. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo chwaraeon amatur ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0076(CS)
12. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraniad WOMEX at gynyddu proffil diwylliannol Cymru yn rhyngwladol? OAQ(4)0072(CS)W
13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa drafodaethau a gafodd y Gweinidog â Cadw ynglŷn â chwifio baneri yng Nghestyll Cricieth a Harlech? OAQ(4)0077(CS)W TYNNWYD YNOL
14. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw adolygiadau a wnaed ers 2005 mewn perthynas â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000? OAQ(4)0078(CS)
15. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae'n ei wneud i ddiogelu safleoedd hanesyddol yng Nghymru? OAQ(4)0071(CS)