R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cymryd i sicrhau pwerau benthyg i Gymru? OAQ(4)1289(FM)W
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lwyddiant Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 i leihau'r defnydd o fagiau plastig? OAQ(4)1287(FM)W
3. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y Canllawiau Clinigol gan NICE nad ydynt wedi cael eu rhoi ar waith yng Nghymru? OAQ(4)1288(FM)
4. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio sgiliau menywod yn economi Cymru?OAQ(4)1279(FM)
5. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnwys ei drafodaethau diweddar â Phrif Weinidogion Llywodraethau eraill y DU? OAQ(4)1284(FM)W
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r cynnydd a wnaed i ddatblygu economi Cymru? OAQ(4)1278(FM)
7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa strategaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i leihau nifer yr achosion o wenwyn carbon monocsid?OAQ(4)1291(FM)
8. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae cynnydd mewn biliau tanwydd yn effeithio ar gartrefi yng Nghymru?OAQ(4)1280(FM)
9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar 16 Hydref?OAQ(4)1294(FM)
10. Byron Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa ddiwydiannau y mae am eu denu i Gymru yn y dyfodol?OAQ(4)1281(FM)
11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw strategaethau ymgysylltu sy’n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru sy'n hyrwyddo dealltwriaeth o faterion datganoledig?OAQ(4)1290(FM)
12. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer datblygiad economaidd rhanbarth Bae Abertawe?OAQ(4)1292(FM)
13. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo pobl y mae’r newidiadau mewn budd-daliadau yn effeithio arnynt? OAQ(4)1286(FM)
14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Gwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair sy’n cychwyn yng Nghymru yr wythnos hon? OAQ(4)1285(FM)W
15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau heintiadau clostridiwm difficile yng Nghymru?OAQ(4)1293(FM)