R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad economaidd menywod yng Nghymru? OAQ(4)1250(FM)
2. Eluned Parrott (Canol De Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y teithwyr ar reilffyrdd ledled Cymru?OAQ(4)1259(FM)
3. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru?OAQ(4)1251(FM)
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae polisïau Llywodraeth Cymru yn gwella lles ariannol trigolion Canol De Cymru? OAQ(4)1256(FM)
5. Leighton Andrews (Rhondda):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Gymru? OAQ(4)1242(FM)
6. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r stigma a gaiff ei roi ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl? OAQ(4)1245(FM)
7. Russell George (Sir Drefaldwyn):Pa asesiadau effaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cynnal o’r modd y mae datblygiadau ffermydd gwynt ar y tir yn effeithio ar gymunedau lleol yng Nghymru?OAQ(4)1257(FM)
8. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynlluniau i wella’r seilwaith cenedlaethol?OAQ(4)1252(FM)
9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i hybu twristiaeth yn Ynys Môn?OAQ(4)1254(FM)W
10. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu economi etholaeth Llanelli?OAQ(4)1258(FM)
11. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yn y drefn gynllunio yng Nghymru?OAQ(4)1248(FM)W
12. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad diweddar y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd? OAQ(4)1246(FM)W
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau orthodontig yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1241(FM)
14. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch cleifion yng Nghymru? OAQ(4)1249(FM)
15. Byron Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Strategaeth Hedfan Llywodraeth Cymru? OAQ(4)1255(FM)