Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Medi 2013 i’w hateb ar 1 Hydref 2013

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sefyllfa recriwtio meddygon yn ardal Ymddiriedolaeth Iechyd Betsi Cadwaladr? OAQ(4)1230(FM)W

 

2. Christine Chapman (Cwm Cynon):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y merched sy’n dewis pynciau STEM?OAQ(4)1227(FM)

 

3. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno cyflog byw yng Nghymru?  OAQ(4)1225(FM)

 

4. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r targedau a’r dangosyddion perfformiad allweddol sydd wedi’u nodi ar gyfer yr Uned Gyflawni yn ei werthusiad o broses cyflawni polisïau Llywodraeth Cymru? OAQ(4)1234(FM)

 

5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer mynd i’r afael â thlodi y tymor hwn?OAQ(4)1238(FM)

 

6. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith Comisiynydd y Gymraeg? OAQ(4)1231(FM)

 

7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofal plant ar gael yn fwy hwylus i rieni sy’n gweithio?OAQ(4)1224(FM)

 

8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau adfywio yn Nyffryn Clwyd?OAQ(4)1226(FM)

 

9. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gamau y mae’r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi busnesau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)1239(FM)

 

10. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch iechyd cyhoeddus i gynyddu nifer y bobl sy’n cael y brechlyn MMR er mwyn rhwystro lledaeniad y frech goch? OAQ(4)1237(FM)

 

11. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd):Pryd y bydd y Prif Weinidog yn cwrdd nesaf â Phrif Weinidogion Llywodraethau datganoledig y DU i drafod cyfansoddiad y DU? OAQ(4)1235(FM)W

 

12. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa ystyriaeth a roddwyd i gyflwyno prydau am ddim i bob plentyn mewn ysgolion babanod yng Nghymru, yn dilyn y datganiad diweddar gan Lywodraeth y DU? OAQ(4)1232(FM)W

 

13. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Cyfoeth Naturiol Cymru chwe mis ers ei sefydlu? OAQ(4)1228(FM)W

 

14. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa gamau y mae’r Prif Weinidog yn eu cymryd i helpu i ddatrys yr anghydfod ynghylch pensiwn diffoddwyr tân? OAQ(4)1229(FM)

 

15. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r rheini yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru y mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn effeithio arnynt? OAQ(4)1236(FM)