R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
1. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu'r pwerau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ddiogelu adeiladau hanesyddol? OAQ(4)0060(CS)
2. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pam nad oedd enwau aelodau’r panel cyn ymgynghori a aeth i'r gweithdai ar yr adolygiad arfaethedig o ddeddfwriaeth mynediad a hamdden awyr agored ar gael i'r cyhoedd? OAQ(4)0064(CS)
3. David Rees (Aberafan): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran gwella argaeledd rhandiroedd ledled Cymru? OAQ(4)0063(CS)
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i bysgota fel chwaraeon? OAQ(4)0054(CS)
5. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â mynediad agored i dir a dyfrffyrdd? OAQ(4)0065(CS)
6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu cyfleusterau chwaraeon ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0066(CS)
7. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu beicio yng Nghymru? OAQ(4)0057(CS)
8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae'n eu cymryd ynghylch ein treftadaeth grefyddol? OAQ(4)0055(CS)
9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y posibilrwydd o israddio'r pwll nofio rhyngwladol yn Abertawe? OAQ(4)0059(CS)
10. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer Parciau Cenedlaethol Cymru? OAQ(4)0056(CS)
11. Elin Jones (Ceredigion): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda rheolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru? OAQ(4)0061(CS)
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymestyn gweithgarwch chwaraeon a hamdden i blant a phobl ifanc sydd wedi eu hallgáu'n gymdeithasol? OAQ(4)0062(CS)
13. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am godi proffil menywod mewn chwaraeon? OAQ(4)0058(CS)