R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnal a chadw cefnffyrdd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)1223(FM)
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru dros y tair blynedd nesaf? OAQ(4)1212(FM)W
3. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiolrwydd yr Uned Gyflawni? OAQ(4)1211(FM)
4. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r meysydd y bydd yr Uned Gyflawni yn eu gwerthuso y tymor hwn? OAQ(4)1218(FM)
5. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weinyddiaeth Cynllun y Fargen Werdd yng Nghymru? OAQ(4)1206(FM)
6. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd? OAQ(4)1216(FM)
7. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ardal Fenter Caerdydd? OAQ(4)1221(FM)
8. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Menter, yn enwedig y rheini yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)1220(FM)
9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi terfyn ar ddefnyddio cwmnïau adeiladu sy’n cynnal cosbrestri? OAQ(4)1210(FM)
10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Cynllunio? OAQ(4)1217(FM)
11. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag ail adroddiad Comisiwn Silk? OAQ(4)1219(FM)W
12. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyngor caffael? OAQ(4)1207(FM)
13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i atal elusennau rhag cael eu gwahardd rhag ymgyrchu ar faterion sy’n bwysig iddynt? OAQ(4)1214(FM)
14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amseroedd aros y GIG yn nhymor nesaf y Cynulliad? OAQ(4)1205(FM)
15. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau y mae wedi’u cael gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder dros egwyl yr haf? OAQ(4)1222(FM)