Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Sesiwn gyda Rhodri Glyn Thomas AC ar ei waith ar gyfer Pwyllgor y Rhanbarthau, gan ganolbwyntio'n benodol ar ei waith fel rapporteur ar gymorth y wladwriaeth ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu.

 

Cyflwyniad

 

1.       Lluniwyd y papur hwn ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ("y Pwyllgor") ar 11 Gorffennaf 2013.  Mae'n rhoi gwybodaeth gefndir am waith Rhodri Glyn Thomas AC ar ei adroddiad i Bwyllgor y Rhanbarthau ar gymorth y wladwriaeth ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu.

 

Pwyllgor y Rhanbarthau

 

2.        Pwyllgor y Rhanbarthau yw cynulliad yr UE o gynrychiolwyr 'rhanbarthol' a lleol, ac un o ddau gorff ymgynghori (y llall yw Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop) y mae Sefydliadau'r UE yn ymgynghori â hwy yn ystod y broses o greu polisïau a deddfau'r UE.   Daw ei aelodaeth (344 aelod llawn a'r un nifer o eilyddion) o awdurdodau rhanbarthol a lleol ledled yr UE, wedi'u trefnu i 27 dirprwyaeth 'genedlaethol' (h.y. Aelod-wladwriaeth).

 

3.        Mae gan y DU 24 aelod llawn a 24 eilydd ar Bwyllgor y Rhanbarthau. O fewn hwn, mae gan Gymru ddau aelod llawn a dau eilydd, gyda Llywodraeth Cymru'n cyflwyno enwebeion Cymru, er mai Llywodraeth y DU sy'n enwebu holl gynrychiolwyr y DU yn ffurfiol.

 

4.        Yn draddodiadol, mae Llywodraeth Cymru wedi enwebu dau gynrychiolydd o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (un llawn ac un eilydd) a dau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Ar hyn o bryd, Aelodau Cymru yw:

 

-     Mick Antoniw AC (aelod llawn - ers diwedd Ebrill 2013 - yn cymryd lle Christine Chapman AC, a adawodd y swydd ym mis Tachwedd 2012)

-     Rhodri Glyn Thomas AC (eilydd)

-     Y Cynghorydd Bob Bright, arweinydd Casnewydd (aelod llawn)

-     Y Cynghorydd Chris Holley, cyn arweinydd Abertawe (eilydd)

 

Mandad newydd ar gyfer 2010-2015

 

5.       Cafodd Rhodri Glyn Thomas AC ei benodi'n ffurfiol i Bwyllgor y Rhanbarthau ar 26 Ionawr 2010, gyda mandad pum mlynedd.

 

6.       Mae Rhodri yn eistedd ar y Comisiwn Adnoddau Naturiol, sef y 'pwyllgor' sy'n gyfrifol am amaethyddiaeth, pysgodfeydd, yr amgylchedd ac ati. Mae Rhodri hefyd yn eistedd ar y Comisiwn Ad Hoc Dros Dro ar y Gyllideb. Sefydlwyd hwn yn 2011 i roi canolbwynt i gyfraniad Pwyllgor y Rhanbarthau i'r trafodaethau ar lefel yr UE ar y Fframwaith Ariannol Amlflwydd ar gyfer 2014-2020.

 

Rapporteuriaethau

 

7.        Mae Pwyllgor y Rhanbarthau'n mabwysiadu safbwyntiau gwleidyddol ar bolisïau'r UE a chynigion deddfwriaethol drwy gytuno ar adroddiadau.  Pan fydd y rhain mewn ymateb i ohebiaeth ffurfiol neu geisiadau gan un o Sefydliadau'r UE (y Comisiwn Ewropeaidd fel arfer) fe'u gelwir yn 'safbwyntiau'.  Pan na fydd y rhain mewn ymateb i ohebiaeth/cais ffurfiol, disgrifir adroddiadau o'r fath fel safbwyntiau 'rhag blaen'.

 

8.        Dros y 12 mis diwethaf mae Rhodri Glyn Thomas wedi cael ei enwebu i ysgrifennu tri adroddiad ar gyfer Pwyllgor y Rhanbarthau.

 

9.        Mae dau o'r rhain yn ymwneud â'i rôl ar Gomisiwn y Gyllideb, ac mae'r ddau adroddiad bellach wedi cael eu cwblhau:

 

-     Creu synergeddau gwell rhwng cyllideb yr UE, cyllidebau cenedlaethol a chyllidebau is-genedlaethol, sef safbwynt rhag blaen.  Mabwysiadwyd ym mis Ionawr 2013.

-     Synergeddau rhwng buddsoddi preifat ac ariannu cyhoeddus i gefnogi twf economaidd ar lefel leol a rhanbarthol (gan gynnwys defnyddio arian Banc Buddsoddi Ewrop), yn ôl cais Llywyddiaeth Iwerddon o'r UE.  Mabwysiadwyd ym mis Ebrill 2013.

 

10.     Mae'r trydydd adroddiad yn ymwneud â phwnc y papur hwn a'r sesiwn hon gyda'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Mae'n ymwneud â'r diwygiadau arfaethedig i'r rheoliadau presennol ynghylch cymorth y wladwriaeth ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu. Enwebwyd Rhodri Glyn Thomas gan ei grŵp gwleidyddol, y Cynghrair Ewropeaidd, i fod yn rapporteur ar gyfer safbwynt rhag-blaen Pwyllgor y Rhanbarthau ar adolygu'r rheoliadau hyn. Cafodd yr enwebiad ei gymeradwyo gan aelodau'r Comisiwn Adnoddau Naturiol ym mis Mai ac fe'i cadarnhawyd yn ffurfiol gan swyddfa wleidyddol Pwyllgor y Rhanbarthau ddiwedd mis Mai.

 

11.     Penodwyd Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa UE y Cynulliad, gan Rhodri i fod yn arbenigwr ar gyfer yr adroddiadau hyn.  Cyflawnodd Gregg y swydd hon yn flaenorol ar gyfer y ddau adroddiad gan Christine Chapman yn ystod ei chyfnod hi fel aelod o Bwyllgor y Rhanbarthau. Prif ddyletswyddau'r swydd yw trefnu, cydlynu a chynorthwyo i ddrafftio'r adroddiad a hwyluso'r gwaith gyda gwasanaethau a grwpiau gwleidyddol Pwyllgor y Rhanbarthau.

 

Adolygiad o'r fframwaith rheoleiddio mewn perthynas â chymorth y wladwriaeth ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu.

 

12.     Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnal adolygiad o'r rheoliadau presennol ynghylch Cymorth y wladwriaeth ar gyfer Pysgodfeydd a Dyframaethu, gyda'r bwriad o gyhoeddi rheoliadau diwygiedig yn 2014. Mae'r adolygiad hwn yn cael ei arwain gan y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Faterion Morol a Physgodfeydd, ar y cyd â'r Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Gystadleuaeth (sy'n gyfrifol am y fframwaith rheoleiddio cymorth y wladwriaeth yn yr UE). Fel rhan o'r adolygiad hwn, yn ddiweddar, cynhaliodd y Comisiwn Ewropeaidd ymgynghoriad cyhoeddus, a ddaeth i ben ar 17 Mehefin.[1]

 

13.     Mae Pysgodfeydd a Dyframaethu yn ddarostyngedig i gyfraith yr UE ar gymorth y wladwriaeth, sy'n rheoli'r defnydd o gymorth ariannol a mathau eraill o gymorth gan awdurdodau cyhoeddus mewn Aelod-wladwriaethau i gefnogi busnesau. Mae fframwaith cymorth y wladwriaeth yr UE wedi'i nodi yng nghytuniadau'r UE, a mabwysiadwyd is-ddeddfwriaeth (a chanllawiau) i egluro sut y mae'r egwyddorion sylfaenol yn y cytuniadau yn gweithio'n ymarferol. Mae hyn yn cynnwys yr amgylchiadau pan fydd yn cael ei ystyried na fydd cymorth y wladwriaeth yn bodoli a, lle mae'n bodoli, yr amgylchiadau lle y gellir ei ganiatáu neu lle mae'n cael ei wahardd.[2]

 

14.     Mae'r adolygiad sy'n cael ei gynnal gan y Comisiwn Ewropeaidd yn canolbwyntio ar ddau o'r prif reoliadau sy'n ymwneud â chymhwyso cymorth y wladwriaeth i'r sector pysgodfeydd a dyframaethu sector, yn ogystal â chyfres o 'ganllawiau' am gymorth yn y sector hwn:

 

-     Rheoliad (EC) Rhif 875/2007 o 24 Gorffennaf 2007 ar gymhwyso Erthyglau 87 ac 88 o'r Cytuniad mewn perthynas â chymorth de minimis yn y sector pysgodfeydd

-     Rheoliad (EC) Rhif 736/2008 o 22 Gorffennaf 2008 ar gymhwyso Erthyglau 87 ac 88 o'r Cytuniad i gymorth y wladwriaeth i fusnesau bach a chanolig eu maint sy'n cynhyrchu, prosesu a marchnata cynhyrchion pysgodfeydd (a elwir o hyn ymlaen yn "Rheoliad Eithriad Bloc")

-     Canllawiau ar gyfer cymhwyso cymorth y wladwriaeth i bysgodfeydd a dyframaethu (2008/C84/06), cyhoeddwyd 3 Ebrill 2008

 

15.     Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r rhwymedigaethau ar awdurdodau cyhoeddus i roi gwybod am ddefnydd cymorth y wladwriaeth o fewn y sector pysgodfeydd a dyframaethu, yn ogystal â'r egwyddorion y bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn eu defnyddio i asesu a yw'r cymorth yn gydnaws â Chytuniadau'r UE. Mae'r canllawiau hefyd yn nodi'r mathau o gymorth y mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn eu hystyried yn gydnaws.

 

16.     Mae gan y Comisiwn Ewropeaidd egwyddor sefydledig bod lefelau penodol o gymorth yn cael eu hystyried yn rhy isel neu'n ansylweddol i amharu ar y farchnad, sy'n golygu eu bod yn disgyn y tu allan i'r gyfundrefn cymorth y wladwriaeth. Gelwir cymorth o'r fath yn 'gymorth 'de minimis'. Yn y sector pysgodfeydd a dyframaeth, mae'r rheoliad 'de minimis' yn egluro'r lefel uchaf o gymorth (wedi'i osod ar €30,000 dros gyfnod o dair blynedd ariannol), yn ogystal â diffinio'r mathau o gymorth sy'n dod o fewn cwmpas y rheoliad hwn, a'r gofynion ar awdurdodau i ddarparu gwybodaeth i fonitro a chofnodi cymorth 'de minimis' a roddir i fusnesau o'r fath o fewn eu tiriogaeth.

 

17.     Mae'r 'rheoliad eithrio bloc' wedi'i anelu'n bennaf at roi fframwaith syml i awdurdodau cyhoeddus er mwyn iddynt allu sefydlu cynlluniau cymorth i fusnesau bach a chanolig sy'n weithgar ym maes cynhyrchu, prosesu a marchnata cynhyrchion pysgodfeydd, heb orfod rhoi gwybod yn unigol am cynlluniau o'r fath, a heb orfod cael cymeradwyaeth unigol gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae'r rheoliad yn nodi'r mathau o gymorth a gwmpesir gan y rheoliadau, gofynion o ran tryloywder, amodau ar gyfer eithrio, dwyseddau cymorth, effeithiau cymhelliant a chyfuno cymorth. Mae hefyd yn nodi gofynion ar gyfer monitro ac adrodd i'r Comisiwn Ewropeaidd gan Aelod-wladwriaethau. Y rhesymeg sylfaenol yw bod profiad yn dangos y mathau o gymorth nad ydynt yn cael effaith niweidiol ar y farchnad, sydd yn annadleuol, ac a all fynd drwy broses 'symlach' (sy'n cyfateb i 'hunan-ddatgan') heb craffu a chymeradwyaeth unigol gan y Comisiwn Ewropeaidd

 

18.     Ar gyfer y canllawiau a'r rheoliadau uchod, un o'r egwyddorion craidd sy'n sail i ddarpariaeth cymorth y wladwriaeth yw bod hyn yn gyson â pholisi cystadleuaeth yr UE a'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Bydd yr adolygiad o ddeddfwriaeth 2008, felly, yn edrych ar sut mae angen addasu'r fframwaith cyfreithiol yng nghyd-destun y diwygiadau diweddar a gytunwyd ar gyfer y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, ac yng ngoleuni'r profiadau dros y pum mlynedd diwethaf o ddefnyddio'r ddeddfwriaeth bresennol yn y sector pysgodfeydd a dyframaethu.

 

Adroddiad safbwynt gan Rhodri Glyn Thomas ar gymorth y wladwriaeth ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu

 

19.     Mae'r adroddiad safbwynt rhag-blaen a wneir gan Rhodri Glyn Thomas wedi cael ei amseru i alluogi cyfraniad gan awdurdodau lleol a rhanbarthol i'r adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn Ewropeaidd.

 

20.     Fel sy'n arferol yn achos mabwysiadu adroddiadau Pwyllgor y Rhanbarthau, bydd yr adroddiad yn mynd drwy broses fabwysiadu dau gam:

 

-     trafod a mabwysiadu'r adroddiad am y tro cyntaf yn y Comisiwn Adnoddau Naturiol ar 1 Hydref 2013

-     mabwysiadu'r adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 28-29 Tachwedd 2013.

 

21.     Mae angen cwblhau'r adroddiad erbyn 2 Medi er mwyn iddo gael ei gyfieithu, yn barod ar gyfer ei drafod yn y Comisiwn Adnoddau Naturiol ar 1 Hydref.  Fodd bynnag, oherwydd gwyliau'r haf, y terfyn amser gwirioneddol ar gyfer cyflwyno'r adroddiad yw diwedd mis Gorffennaf.

 

22.     Er mwyn paratoi'r adroddiad, mae Rhodri yn casglu tystiolaeth ym Mrwsel ac yng Nghymru.

 

23.     Ar 3-4 Gorffennaf, bydd Rhodri yn cael cyfarfodydd gyda'r swyddogion arweiniol o'r Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Gystadleuaeth a'r Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Morol a Physgodfeydd sy'n gyfrifol am y diwygiadau. Bydd hefyd yn cadeirio digwyddiad 'ymgynghori â rhanddeiliaid' ym Mhwyllgor y Rhanbarthau ar 4 Gorffennaf i glywed barn cynrychiolwyr cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ym Mrwsel.

 

24.     Mae'r broses casglu tystiolaeth yng Nghymru yn cynnwys y canlynol:

 

-     Cyfarfod gyda'r Gweinidog Adnoddau Naturiol Alun Davies AC ac uwch swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bysgodfeydd (9 Gorffennaf)

-     Cyfarfod gydag uwch swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n arwain ar bolisi pysgodfeydd (10 Gorffennaf)

-     Cyfarfod o'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd (11 Gorffennaf)

-     Gohebiaeth / ymgynghori â'r sector pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru

 

25.     Yn ogystal â hyn, mae'r broses casglu tystiolaeth yn cynnwys ymchwil desg (adroddiadau / astudiaethau), ac rydym yn trafod gyda'r Comisiwn Ewropeaidd y posibilrwydd o gael dadansoddiad o'r ymatebion mwyaf perthnasol i'w ymgynghoriad o'r lefel leol / rhanbarthol.

 

26.     Ar gyfer yr ymgynghoriad â rhanddeiliaid sy'n digwydd ar 4 Gorffennaf, rydym wedi gofyn i randdeiliaid ystyried y materion canlynol er mwyn helpu i hwyluso'r trafodaethau:

 

-     Gwybodaeth am bwysigrwydd y sector pysgodfeydd i'w rhanbarth / ardal (neu'r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli os mai rhwydwaith ydynt)

-     Eu profiadau wrth ddefnyddio'r rheoliadau cymorth y wladwriaeth presennol ar gyfer pysgodfeydd (de minimis a'r eithriad bloc): y defnydd a wneir o'r rhain; yr hyn sydd wedi gweithio'n dda; yr hyn sydd wedi bod yn anodd wrth ddefnyddio'r rheoliadau

-     Pa newidiadau yr hoffent eu gweld i'r rheolau presennol i'w gwella ac i'w gwneud yn haws i'w defnyddio, a pha newidiadau y maent yn ystyried yn arbennig o bwysig i sicrhau bod y rheolau'n cefnogi nodau ac amcanion y broses o ddiwygio'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a gytunwyd yn ystod Llywyddiaeth Iwerddon o'r UE. Yn benodol, efallai y byddant yn dymuno tynnu sylw at sut mae'r rheolau cymorth y wladwriaeth yn galluogi defnyddio Cronfa Pysgodfeydd Ewrop (a Chronfa Morol a Physgodfeydd Ewrop yn y dyfodol) i gefnogi ailstrwythuro'r sector pysgodfeydd, gan gynnwys arallgyfeirio i ffurfiau eraill o gyflogaeth; sut y mae'n cefnogi datblygu sector pysgodfeydd sy'n gystadleuol, arloesol a chynaliadwy; sut y mae'n helpu i gefnogi datblygiad y sector dyframaethu a chynhyrchion / prosesau a chadwyni cyflenwi arloesol. 

-     A oes ganddynt unrhyw bryderon penodol gyda gofynion y rheoliad e.e. o ran monitro ac adrodd, a'r pwysau y gallai hyn ei roi ar fuddiolwyr cymorth a gweinyddiaethau cyhoeddus sy'n gyfrifol am fonitro ac adrodd ar gydymffurfiaeth.

-     Unrhyw sylwadau eraill y maent yn dymuno eu gwneud.

 

27.     Byddai Rhodri Glyn Thomas yn croesawu cyfraniadau a sylwadau gan aelodau o'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar y materion pwysig hyn, er mwyn sicrhau bod yr adroddiad drafft yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion y sector pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru.

 

 

 

Rhodri Glyn Thomas AC

Eilydd Pwyllgor y Rhanbarthau

2 Gorffennaf 2013



[1] http://ec.europa.eu/dgs/maritimeaffairs_fisheries/consultations/state-aid/index_en.htm

[2] I gael esboniad pellach, gweler  tudalennau'r Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Morol a Physgodfeydd ynghylch cymorth gwladwriaethol