Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Mehefin 2013 i’w hateb ar 18 Mehefin 2013

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i gefnogi Nodau Datblygu’r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig?  OAQ(4)1132(FM)

 

2. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i’r clefyd coed ynn?OAQ(4)1138(FM)

 

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amseroedd aros ar gyfer triniaeth mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys?   OAQ(4)1123(FM)

 

4. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau dechrau adeiladu tai yng Nghymru? OAQ(4)1124(FM)

 

5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl gydag awtistiaeth yng Nghymru? OAQ(4)1127(FM)

 

6. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a yw Uned Gyflawni'r Prif Weinidog yn adolygu’r cynnydd a fu o ran cyflawni yng nghyswllt amseroedd aros i gleifion canser?   OAQ(4)1130(FM)

 

7. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?OAQ(4)1133(FM)

 

8. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â Llywodraeth y DU ynghylch Diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin? OAQ(4)1131(FM)W

 

9. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch y broses apelio ar gyfer Tribiwnlysoedd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth?   OAQ(4)1125(FM)

 

10. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gysylltiadau Cymru â Cuba?OAQ(4)1122(FM)

 

11. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gweithio â'i hasiantaethau partner i fynd i'r afael â cham-drin domestig? OAQ(4)1135(FM)

 

12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad y cyhoedd at ddeintyddion y GIG ym Mhowys? OAQ(4)1137(FM)

 

13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa ymateb a gafodd y Prif Weinidog i’w gais i sefydlu Confensiwn i drafod dyfodol cyfansoddiadol y DU? OAQ(4)1134(FM)W

 

14. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog mewnfuddsoddiad i Ogledd Cymru?OAQ(4)1126(FM)

 

15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hybu pynciau 'STEM' yng Nghymru? OAQ(4)1128(FM)