2011 Rhif 1605 (Cy. 186)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi, mewn perthynas â Chymru,  Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 284/2011 sy'n nodi amodau penodol a gweithdrefnau manwl ar gyfer mewnforio llestri cegin plastig polyamid a melamin sy'n tarddu o Weriniaeth Pobl Tsieina a Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Hong Kong, Tsieina neu a anfonwyd oddi yno (OJ Rhif L77, 23.3.2011, t.25) (“Rheoliad y Comisiwn”).

2. Mae’r Rheoliadau hyn —

(a)     yn gwahardd rhoi ar y farchnad lestri cegin plastig polyamid a melamin o Hong Kong a Tsieina nad ydynt yn cydymffurfio â’r amodau, neu na fuont yn destun y gwiriadau mewnforio a’r ardystiad a bennir yn Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3);

(b)     yn gwneud torri unrhyw waharddiad a bennir yn rheoliad 3 yn dramgwydd (rheoliad 4);

(c)     yn dynodi’r awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol o Reoliad y Comisiwn (rheoliad 5);

(ch) yn darparu mai dyletswydd awdurdodau bwyd lleol yw gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn a hysbysu’r Asiantaeth Safonau Bwyd os yw dadansoddiad labordy o fewnforion llestri plastig yn dynodi anghydymffurfiaeth â’r Rheoliad hwnnw (rheoliad 6);

(d)     yn darparu ar gyfer adennill, oddi ar y mewnforwyr, y costau a dynnir gan awdurdodau bwyd wrth gyflawni’r rheolaethau swyddogol sy’n ofynnol gan Reoliad y Comisiwn (rheoliad 7);

(dd)            yn pennu’r camau sydd i’w cymryd gan awdurdod bwyd pan nad yw llwyth wedi ei anfon ynghyd â’r dogfennau gofynnol, neu pan ganfyddir nad yw’n cydymffurfio rywfodd arall (rheoliad 8);

(e)     yn darparu ar gyfer hawl mewnforiwr i apelio yn erbyn penderfyniad gan swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd i gymryd camau o dan reoliad 8 (rheoliad 9);

(f)      yn darparu ar gyfer atal dros dro fannau cyflwyno cyntaf dynodedig (rheoliad 10); ac

(ff) yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 11).

3. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud yn ofynnol bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn adolygu’r modd y’u gweithredir a’u heffaith, ac yn cyhoeddi adroddiad, o fewn 5 mlynedd wedi i’r Rheoliadau ddod i rym, ac o fewn pob 5 mlynedd wedi hynny. Yn dilyn adolygiad, mater i Weinidogion Cymru, ar ôl cael cyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, fydd penderfynu a ddylai’r Rheoliadau barhau mewn grym fel y maent, neu a ddylid eu diwygio neu’u dirymu (rheoliad 12). Byddai angen offeryn pellach i ddirymu neu ddiwygio’r Rheoliadau.

4. Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol ynglŷn â chostau a buddion tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, ac y mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.

 


2011 Rhif 1605  (Cy.186 )

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011

Gwnaed                               28 Mehefin 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       30 Mehefin 2011

Yn dod i rym                      1 Gorffennaf 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(2), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([1]), ac a freinir bellach ynddynt hwy([2]).

I’r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Diogelwch Bwyd  1990 a bennir uchod, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([3]).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd (gan gynnwys diod)([4]).

 

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd  1990 maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([5]), ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â’r cyhoedd wrth baratoi a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2011.

Dehongli

2.(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o’r Ddeddf;

ystyr “cynnyrch perthnasol” (“relevant product”) yw llestri cegin plastig sy'n tarddu o Weriniaeth Pobl Tsieina a Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Hong Kong, Tsieina neu a anfonwyd oddi yno;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 284/2011 sy'n nodi amodau penodol a gweithdrefnau manwl ar gyfer mewnforio llestri cegin plastig polyamid a melamin sy'n tarddu o Weriniaeth Pobl Tsieina a Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Hong Kong, Tsieina neu a anfonwyd oddi yno([6]).

(2) Mae i unrhyw ymadrodd, a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg sy’n cyfateb iddo yn Rheoliad y Comisiwn, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a ddygir gan yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn; ac y mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sydd â’r rhif hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.

(3) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf wedi eu priodoli—

(a)     gan orchymyn o dan adran  2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 ([7]), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)     gan orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936([8]), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig;

rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'r cyfeiriad yn  ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y priodolwyd y swyddogaethau iddo felly.

Torri amodau ar fewnforio llestri cegin plastig o Tsieina

3.(1) Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad yng Nghymru unrhyw gynnyrch perthnasol sydd wedi ei fewnforio i’r Undeb Ewropeaidd ac eithrio drwy gydymffurfio â gofynion Erthygl 3(1), (2) a (3) (amodau mewnforio).

(2) Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad yng Nghymru  unrhyw gynnyrch perthnasol hyd nes bo—

(a)     y gwiriadau a bennir ym mharagraff 1(a) ac, yn ôl fel y digwydd,  paragraff 1(b) o Erthygl 6 (rheolaethau yn y man cyflwyno cyntaf) wedi eu cwblhau; a

(b)     yr awdurdod bwyd wedi rhoi datganiad yn unol ag Erthygl 3(4), sy’n dynodi bod y cynnyrch perthnasol yn cydymffurfio, ac felly’n dderbyniol i’w ryddhau i gylchredeg yn rhydd.

Tramgwyddau a chosbau

4. Mae unrhyw berson sy’n peidio â chydymffurfio â pharagraff (1) neu (2) o reoliad 3 yn euog o dramgwydd ac yn agored—

(a)     o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na’r uchafswm statudol; neu

(b)     o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Awdurdodau cymwys

5.(1) Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthyglau 3(1) a (4), 4, 6(1), 7 a 9 yw pob awdurdod bwyd o fewn ei ardal neu’i ddosbarth unedig ei hunan.

(2) Yr awdurdod cymwys at ddiben Erthygl 6(2) yw’r Asiantaeth.

Gweithredu a gorfodi

6.(1) Dyletswydd pob awdurdod bwyd o fewn ei ardal neu’i ddosbarth unedig ei hunan yw gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn a’r Rheoliadau hyn.

(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd—

(a)     hysbysu’r Asiantaeth ar unwaith ynghylch canlyniadau unrhyw ddadansoddiad labordy  y parodd yr awdurdod ei gynnal o dan Erthygl 6(1) os yw canlyniadau’r dadansoddiad hwnnw’n dynodi anghydymffurfiaeth; a

(b)     rhoi i’r Asiantaeth pa bynnag wybodaeth a chymorth y gofynnir amdanynt gan yr Asiantaeth mewn cysylltiad â gweithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn.

(3) Rhaid i Gomisiwn Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyflawni’r swyddogaethau a roddir i awdurdodau tollau o dan Erthygl 8.

Treuliau sy’n tarddu o reolaethau swyddogol

7.(1) Bydd y treuliau a godir yn unol ag Erthygl 27(1) o Reoliad 882/2004, ar fewnforiwr gan awdurdod bwyd mewn cysylltiad â’r gwiriadau a grybwyllir yn Erthygl 6(1), yn daladwy gan y mewnforiwr pan roddir galwad i dalu gan yr awdurdod bwyd mewn ysgrifen.

(2) Pan fo awdurdod bwyd yn canfod anghydymffurfiaeth—

(a)     â gofynion Erthygl 3(1), (2) neu (3) neu Erthygl 4; neu

(b)     yn dilyn y gwiriadau a grybwyllir yn Erthygl 6(1)(b),

bydd y treuliau a godir yn unol ag Erthygl 54(5) o Reoliad 882/2004, ar fewnforiwr gan awdurdod bwyd, yn daladwy gan y mewnforiwr pan roddir galwad i dalu gan yr awdurdod bwyd mewn ysgrifen.

(3) Ym mharagraffau (1) a (2) ac yn rheoliad 8(3),  ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau([9]).

Hysbysiadau a gweithredoedd mewn achos o anghydymffurfiaeth

8.(1) Os yw mewnforiwr yn cyflwyno llwyth o gynnyrch perthnasol ar gyfer ei fewnforio i Gymru, a hynny heb gyflwyno datganiad ac adroddiad labordy cysylltiedig yn unol â gofynion Erthygl 3(1), (2) a (3), caiff yr awdurdod bwyd, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wneud yn ofynnol bod y mewnforiwr yn cyflwyno datganiad o’r fath o fewn 14 diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno’r hysbysiad.

(2) Os yw’r gwiriadau y darperir ar eu cyfer yn Erthygl 6(1) yn dynodi—

(a)     pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (1), nad yw’r datganiad a bennir yn Erthygl 3(1) ynghyd â’r adroddiad labordy a bennir yn Erthygl 3(3) wedi ei gyflwyno erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad; neu

(b)     pan nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (1), nad yw’r datganiad a bennir yn Erthygl 3(1) ynghyd â’r adroddiad labordy a bennir yn Erthygl 3(3) wedi ei gyflwyno; neu

(c)     bod datganiad neu adroddiad labordy wedi ei gyflwyno nad yw’n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(1), (2) a (3); neu

(ch) nad yw’r cynnyrch perthnasol sy’n destun y gwiriadau yn bodloni—

                           (i)    prawf adnabod, neu

                         (ii)    gofynion Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd([10]),

rhaid i’r awdurdod bwyd gymryd y camau a bennir ym mharagraff (3).

(3) Rhaid i’r awdurdod bwyd, drwy hysbysiad ysgrifenedig—

(a)     gwneud yn ofynnol bod y mewnforiwr, o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno’r hysbysiad—

                           (i)    yn ail anfon y llwyth, i rywle sydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd,

                         (ii)    yn achos llestri cegin polyamid, eu rhwygo a’u toddi, a ffurfio’r cynnyrch canlyniadol yn eitemau at ddibenion ac eithrio’u rhoi mewn cysylltiad â bwyd, neu

                       (iii)    ar gost y mewnforiwr, dinistrio’r llwyth dan reolaeth swyddogol; a

(b)     hysbysu’r mewnforiwr y caiff yr awdurdod, yn unol ag Erthygl 54(2) a (5) o Reoliad 882/2004, os na chydymffurfir â gofynion is-baragraff (a), drefnu i ddinistrio’r llwyth ac adennill y costau storio a dinistrio oddi ar y mewnforiwr.

(4) Ceir cyflwyno unrhyw hysbysiad o dan baragraff (1) neu (3) i’r mewnforiwr neu i gynrychiolydd y mewnforiwr.

Hawliau apelio

9.(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 8(3) apelio i lys ynadon.

(2) Y weithdrefn a ddilynir mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) yw gwneud cwyn am orchymyn, a bydd Deddf Llysoedd yr Ynadon 1980([11]) yn gymwys i’r gweithrediadau.

(3) Y cyfnod a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan baragraff (1) fydd un mis o’r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad i’r person sy’n dymuno apelio, ac at ddibenion y paragraff hwn, ystyrir bod gwneud cwyn am orchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.

(4) Os yw llys ynadon, mewn apêl o dan baragraff (1), yn penderfynu bod penderfyniad y swyddog awdurdodedig yn anghywir, rhaid i’r awdurdod roi effaith i benderfyniad y llys.

(5) Caiff person a dramgwyddir gan wrthodiad llys ynadon i ganiatáu apêl a wnaed i’r llys o dan baragraff (1), apelio i Lys y Goron.

(6) Pan fo apêl wedi ei dwyn o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3), atelir effaith hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 8(3) hyd nes penderfynir yr apêl yn derfynol.

Atal dros dro ddynodiad man cyflwyno cyntaf

10.(1) Pan fo’r Asiantaeth wedi ei bodloni y byddai parhau i weithredu man cyflwyno cyntaf dynodedig o dan Erthygl 5 yn achosi risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd, caiff atal dros dro ddynodiad y man cyflwyno cyntaf,  yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw, i weithredwr y man cyflwyno.

(2) Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (1), bydd y man cyflwyno yn peidio â bod yn fan cyflwyno cyntaf dynodedig o dan Erthygl 5 i’r graddau a bennir felly yn yr hysbysiad hwnnw, hyd nes dynodir ef felly drachefn o dan Erthygl 5.

Cymhwyso amrywiol adrannau o’r Ddeddf

11.(1) Mae’r darpariaethau canlynol o’r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu unrhyw Ran ohoni i’w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)     adran 20 (tramgwyddau o ganlyniad i fai person arall);

(b)     adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy)([12]) gyda’r addasiad—

                           (i)    bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dorri rheoliad 3 fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, a

                         (ii)    yn is-adran (4), ystyrir bod y cyfeiriadau at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;

(c)     adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(ch) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)([13]), i’r graddau y mae’n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y’i cymhwysir gan baragraff (3)(a) uchod;

(d)     adran 35(2) a (3)([14]), i’r graddau y mae’n ymwneud â thramgwyddau o dan adran  33(2) fel y’i cymhwysir gan baragraff (3)(b) uchod;

(dd)            adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(e)     adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)([15]).

(2) Wrth gymhwyso adran 32 o’r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli’r cyfeiriadau yn is-adran (1) at y Ddeddf fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at Reoliad y Comisiwn.

(3) Mae’r darpariaethau canlynol o’r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf i’w dehongli fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at Reoliad y Comisiwn a’r Rheoliadau hyn—

(a)     adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(b)     adran 33(2), gyda’r addasiad bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” i’w ystyried yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o’r math a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (a) uchod; ac

(c)     adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

(4) Mae adran 34 o’r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyniadau) yn gymwys i dramgwyddau o dan reoliad 4 fel y mae’n gymwys i dramgwyddau sy’n gosbadwy o dan adran 35(2) o’r Ddeddf.

Adolygu statudol

12.(1) Cyn diwedd pob cyfnod adolygu, rhaid i’r Asiantaeth—

(a)     cynnal adolygiad o reoliadau 3 i 11;

(b)     nodi casgliadau’r adolygiad mewn adroddiad; ac

(c)     cyhoeddi’r adroddiad.

(2) Wrth gynnal yr adolygiad, rhaid i’r Asiantaeth, i’r graddau y bo’n rhesymol, roi sylw i’r modd y gweithredir ac y gorfodir Rheoliad y Comisiwn mewn Aelod-wladwriaethau eraill.

(3) Yn benodol, rhaid i’r adroddiad—

(a)     nodi’r amcanion y bwriedir i’r system reoleiddiol a sefydlir gan y Rheoliadau hyn eu cyrraedd;

(b)     asesu i ba raddau y cyrhaeddwyd yr amcanion hynny; ac

(c)     asesu a yw’r amcanion hynny’n parhau’n briodol, ac os felly, i ba raddau y gellid eu cyrraedd gyda system sy’n gosod llai o reoleiddio.

(4) Ystyr “cyfnod adolygu” (“review period”) yw—

(a)     y cyfnod o 5 mlynedd sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym; a

(b)     yn ddarostyngedig i baragraff (5), pob cyfnod dilynol o 5 mlynedd.

(5) Os cyhoeddir yr adroddiad o dan y rheoliad hwn cyn diwrnod olaf y cyfnod adolygu y mae’r adroddiad yn ymdrin ag ef, bydd y cyfnod adolygu dilynol yn cychwyn gyda’r diwrnod y cyhoeddir yr adroddiad hwnnw.

 

               

Lesley Griffiths

 

Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

28 Mehefin 2011



([1])           1990 p.16, amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o  “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 ac 48, yn eu trefn, gan baragraffau 12 ac 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999 ac wedyn fe'u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

([3])           1972 p.68.

([4])           O.S. 2005/1971.

 

([5])           OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.  Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor  sy'n addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

([6])           OJ Rhif L77, 23.3.2011, t.25.

([7])           1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

([8])           1936 p.49; rhaid darllen adran 6 ar y cyd â pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

([9])           OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1.  Pennir y testun diwygiedig mewn cywiriad (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1). Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 208/2011 sy’n diwygio Atodiad VII i Reoliad (EC) 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliadau’r  Comisiwn (EC) Rhif 180/2008 ac (EC) Rhif 737/2008 mewn perthynas â rhestri ac  enwau labordai cyfeirio yn yr UE  (OJ Rhif L58, 3.3.2011, t.29).

([10])         OJ Rhif L12, 15.1.2011, t.1.

([11])  1980 p.43.

([12])         Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

([13])         Diwygiwyd 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i’w bennu.

([14])         Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

([15])         Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.