R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. David Rees (Aberafan):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gofal iechyd yn y gymuned yng Nghymru?OAQ(4)1087(FM)
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cleifion sydd â chanser yng Nghymru?OAQ(4)1069(FM)
3. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y cynlluniau arfaethedig i werthu’r Post Brenhinol? OAQ(4)1074(FM)
4. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Gronfa Technolegau Iechyd? OAQ(4)1085(FM)
5. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gamau pellach y mae’r Prif Weinidog wedi eu cymryd yn rhinwedd ei gyfrifoldeb strategol dros bolisi ynni yn dilyn ei gyhoeddiad ar 1 Mai 2013? OAQ(4)1071(FM)W
6. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch darganfod clefyd Coed Ynn mewn coed yng Nglan y Fferi, Sir Gaerfyrddin?OAQ(4)1075(FM)
7. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnwys ei gyfarfod diwethaf gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru?OAQ(4)1072(FM)
8. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol sector twristiaeth Cymru?OAQ(4)1081(FM)
9. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru?OAQ(4)1068(FM)
10. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau?OAQ(4)1077(FM)
11. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Ngogledd Cymru?OAQ(4)1084(FM)
12. Mick Antoniw (Pontypridd):Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â Bil Cymru, a gafodd ei gynnig yn Araith y Frenhines? OAQ(4)1076(FM)
13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gamau y mae’r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi gwasanaethau gofal cartref mewn ardaloedd gwledig?OAQ(4)1082(FM)
14. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o lefelau staffio nyrsys yng Nghymru?OAQ(4)1079(FM)W
15. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):Pa mor fodlon yw’r Prif Weinidog bod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i gwmnïau yng Nghymru wrth brynu nwyddau a gwasanaethau, oni bai fod amgylchiadau eithriadol yn atal hynny?OAQ(4)1073(FM)