Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd)

Ymateb Lywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Chwefror 2026

Cyflwynwyd y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) (“y Bil”) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 16 Medi 2025. Mae angen cydsyniad deddfwriaethol Senedd Cymru ar rai elfennau o’r Bil, ac ar 2 Hydref 2025, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) ar gyfer y Bil gerbron y Senedd.

Dilynwyd hyn gan Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â gwelliant gan Lywodraeth y DU i’r Bil, a osodwyd ar 11 Rhagfyr 2025.

Ar 18 Rhagfyr, cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad adroddiad ar Femorandwm Rhif 1 (a osodwyd ar 2 Hydref 2025).

Ar hyn o bryd, bwriedir cynnal dadl ar yr LCM yn y cyfarfod llawn ar 24 Mawrth 2026.

 


 

 

1.         Cyflwyniad.. 3

2.        Ymateb i faterion a godwyd gan y Pwyllgor. 3

Casgliad 1. 3

Casgliad 2. 3

Casgliad 3. 4

Argymhelliad 1. 4

Argymhelliad 2. 5

Argymhelliad 3. 6

Argymhelliad 4. 7

Argymhelliad 5. 7

Argymhelliad 6. 8

Argymhelliad 7. 8

Argymhelliad 8. 9

 

 

 


 

1.       Cyflwyniad

Mae’r Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) yn gymhleth o ran ei natur drawsbolisi a, chan ystyried bod hynt y Bil yn uchelgeisiol o gyflym, mae Llywodraeth Cymru yn ymateb mor gyflym ac effeithlon â phosibl.

Diolchir i aelodau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am eu hadroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd). Mae’r ymatebion i bob un o argymhellion yr Adroddiad yn unigol wedi eu nodi isod

 

2.      Ymateb i faterion a godwyd gan y Pwyllgor

Mae’r ymateb hwn yn mynd i’r afael â thri chasgliad ac wyth argymhelliad yn yr Adroddiad, ac mae’n defnyddio’r rhifau cymalau yn y fersiwn o’r Bil a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin.

 

Casgliad 1.

Nododd y Pwyllgor:

Rydym yn cytuno ag asesiadau Llywodraeth Cymru, fel y’u nodir yn y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a osodwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog, fod angen cydsyniad y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29, ar gyfer cymalau 1 i 5; cymalau 7 i 10; cymal 12; cymalau 14 i 16; cymal 18 (yn rhannol); cymalau 20 i 25; Atodlen 1 (Rhannau 1, 2 a 6); ac Atodlenni 2 i 4 a 6 (yn rhannol).

Ymateb: Nodwyd y safbwynt hwn.

 

Casgliad 2.

Nododd y Pwyllgor:

Yn groes i farn Llywodraeth Cymru, fel y’i nodir yn y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, credwn fod angen cydsyniad y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29, ar gyfer cymalau 11, 13, 19 a 26, a Rhan 3 o Atodlen 1.

Ymateb: Nodwyd y safbwynt hwn. Fodd bynnag, yn unol â’r diwygiadau a gyhoeddwyd ar 12 Ionawr, bydd cymal 11 yn gymwys i Gymru fel y mae i Loegr. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y bydd cymal 11, fel y’i diwygiwyd, yn bodloni’r prawf yn Rheol Sefydlog 29. Gosodwyd LCM atodol sy’n adlewyrchu’r safbwynt hwn ar 27 Ionawr 2026.

 

Casgliad 3.

Nododd y Pwyllgor:

Oherwydd ei arwyddocâd a’i berthnasedd i faterion datganoledig, dylai Llywodraeth y DU ymgysylltu’n well ac yn fwy ystyrlon â Llywodraeth Cymru wrth i’r Bil hwn fynd drwy’r cyfnodau sy’n weddill yn Senedd y DU. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau nad oes canlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil.

Ymateb: Nodwyd y safbwynt hwn.

 

Argymhelliad 1.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru egluro ym mha “fforymau priodol”, ac â pha randdeiliaid, y mae wedi trafod y Bil.

Ymateb: Derbyn

Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at randdeiliaid ym mis Rhagfyr ynglŷn â chyflwyno’r Bil ac ymestyn cymal 11 i Gymru. Roedd hyn yn cynnig ymgysylltu pellach gan gynnwys yn benodol â’r canlynol:

      Cyrff hyd braich Llywodraeth Cymru

      Adrannau anweinidogol

      Cwmnïau sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru

      Comisiynwyr

      Estyn

      Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG

      TUC Cymru

      UNSAIN

      GMB

      Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT)

      Unite

      Yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU)

      USADW

      Y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN)

      PCS

      CBI Cymru

      Y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB)

      Prifysgolion Cymru

      MAKE UK

      Addysg Oedolion Cymru

      Y Sector Gwirfoddol

      Y Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus

      CLlLC

Mae arweinwyr polisi a Gweinidogion wedi cael eu hannog i ymgysylltu a rhannu â rhanddeiliaid eraill fel y maent yn ystyried sy’n briodol.

 

Argymhelliad 2.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru:

i.              egluro ei rôl o ran sicrhau yr ymgynghorir â chyrff cyhoeddus Cymreig datganoledig perthnasol ar y Bil, gan gynnwys a yw wedi/a yw’n bwriadu cydgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod ymgynghoriad digonol yn cael ei gynnal gan Lywodraeth y DU ei hun;

ii.             egluro pa gamau y bydd yn eu cymryd, os o gwbl, i sicrhau bod unrhyw faterion a nodir gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu’n llawn mewn gwelliannau i’r Bil os nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu ymgysylltu’n uniongyrchol â chyrff yr effeithir arnynt; a

iii.           cyflwyno adroddiad i’r Senedd ar sut yr ymdriniwyd yn y Bil â materion a nodwyd gan gyrff cyhoeddus datganoledig, cyn i'r Senedd drafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Ymateb: Derbyn yn rhannol (gweler pwynt iii)

Mewn perthynas â’r tri phwynt a nodwyd gan y Pwyllgor:

i.              Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau yr ymgynghorir â chyrff cyhoeddus Cymru ar oblygiadau’r ddeddfwriaeth.

Mae swyddogion Llywodraeth y DU yn datblygu cynllun gweithredu, a byddwn yn sicrhau bod hwn wedi ei deilwra ar gyfer y cyd-destun Cymreig. Mae sesiwn yn cael ei threfnu â swyddogion a chyrff cyhoeddus Cymru a fydd yn caniatáu iddynt godi materion yn uniongyrchol â swyddogion Llywodraeth y DU.

ii.             Wrth i faterion ddod i’r amlwg, mae’r materion hynny wedi cael eu codi â swyddogion Llywodraeth y DU a chyfarfodydd priodol wedi eu cynnull rhwng swyddogion i drafod.

iii.           Ymatebir yn briodol i unrhyw faterion a nodir gan gyrff cyhoeddus Cymru y byddant yn cyfathrebu amdanynt â Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU. Pan fo’n bosibl, hysbysir am unrhyw faterion a nodwyd a sut yr aed i’r afael â hwy yn y Bil gan Lywodraeth y DU cyn y ddadl yn y Senedd. Serch hynny, dylai’r Pwyllgor nodi bod y Cyfnod Adrodd wedi ei atal dros dro hyd nes rhoddir ystyriaeth bellach gan Lywodraeth y DU i gymhwyso’r ddyletswydd gonestrwydd i’r gwasanaethau cudd-wybodaeth.

 

Argymhelliad 3.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y pryderon a godwyd gan CLlLC ynghylch cyfundrefnau safonau a allai wrthdaro o ganlyniad i’r Bil hwn, a chyflwyno adroddiad i’r Senedd ar ganlyniadau’r trafodaethau hynny cyn i’r Senedd drafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Ymateb: Derbyn

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y materion a godwyd gan CLlLC, sydd wedi bod yn destun trafodaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o’r ddeialog barhaus ynglŷn â darpariaethau’r Bil. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â CLlLC i drafod y materion a godwyd ganddynt yn eu tystiolaeth ac wedi cytuno i gydweithio â llywodraeth leol i gytuno ar y camau gofynnol i sicrhau pontio llyfn o’r trefniadau presennol i’r trefniadau newydd.

 

Argymhelliad 4.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

 

Fel rhan o’i chyfrifoldebau am sicrhau y gweithredir y Bil yn effeithiol, dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gefnogi awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yr effeithir arnynt i sicrhau bod eu codau ymddygiad presennol a dogfennau safonau perthnasol eraill yn cael eu diwygio, os oes angen, er mwyn iddynt gydblethu’n effeithiol ag unrhyw ddarpariaethau yn y Bil os caiff ei ddeddfu.

 

Ymateb: Derbyn.

 

Bydd y dyletswyddau gonestrwydd proffesiynol a chodau ymddygiad yn gyfrifoldeb cyfreithiol ar yr awdurdodau lleol a chyrff eraill er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth, gan gynnwys ymgorffori darpariaethau mewn dogfennaeth leol.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyrff yng Nghymru i weithredu trefniadau priodol yn unol ag unrhyw ganllawiau ar gyfer y DU gyfan. Mae swyddogion Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eu bwriad i gyhoeddi canllawiau pellach yn dilyn y Cydsyniad Brenhinol y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau eu bod yn briodol ar gyfer y cyd-destun Cymreig a, phan fo angen, byddant yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chyrff eraill i nodi’r newidiadau gofynnol i’r canllawiau presennol sy’n benodol i Gymru i sicrhau cysondeb priodol.

 

Argymhelliad 5.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

 

Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am eglurhad gan Lywodraeth y DU ynghylch y rhesymau pam y mae cymalau 12 a 13 (sy’n ymwneud â’r troseddau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus) yn rhychwantu Cymru yn y Bil fel y'i cyflwynwyd, ond nid Gogledd Iwerddon na’r Alban.

 

Ymateb: Derbyn

 

Ar 12 Ionawr, cyhoeddwyd gwelliannau Llywodraeth y DU i’r Bil a fydd yn ymestyn Rhan 3 o’r Bil (Camymddwyn mewn swydd gyhoeddus) i’r Alban a Gogledd Iwerddon Gan ragdybio y bydd y gwelliannau hynny yn cael eu pasio, bydd Rhan 3 yn gymwys i’r DU gyfan.

 

Argymhelliad 6.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

 

Fel rhan o’i thrafodaethau parhaus ar y Bil a fydd yn llywio ei hargymhellion i’r Senedd ynghylch cydsyniad, dylai Llywodraeth Cymru egluro pam nad yw’r Bil yn rhoi unrhyw bwerau cychwyn i Weinidogion Cymru, nac yn darparu bod rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn cychwyn darpariaethau sy’n ymwneud â materion datganoledig.

 

Ymateb: Derbyn

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn codi’r cwestiwn hwn â Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi mai Bil ar gyfer y DU gyfan yw hwn, ac felly gall cychwyn fod yn fater i’w weithredu ar sail y DU gyfan i adlewyrchu’r sefyllfa honno. Ymddengys mai rhai sy’n ymwneud ag ymchwiliadau penodol yn yr Alban (Ymchwiliadau yn yr Alban i ddamweiniau angheuol a marwolaethau sydyn) a Gogledd Iwerddon (Ymchwiliadau o dan Ddeddf Crwneriaid (Gogledd Iwerddon) 1959) fel y nodir yng nghymal 25(5) yw’r unig eithriadau.

 

Argymhelliad 7.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Fel rhan o’i thrafodaethau parhaus ar y Bil a fydd yn llywio ei hargymhellion i’r Senedd ynghylch cydsyniad, dylai Llywodraeth Cymru nodi:

                      i.                a oes unrhyw bwerau cydredol neu gydredol plws yn y Bil heblaw am y rhai a nodwyd yn yr adroddiad hwn; a

                     ii.                 ii. cyfiawnhad Llywodraeth y DU dros gymryd y pwerau hyn.

Ymateb: Derbyn

Pwerau cydredol plws eraill

Nid oes unrhyw bwerau cydredol neu gydredol plws yn y Bil y tu hwnt i’r rhai a nodwyd gan y Pwyllgor.

Cyfiawnhad Llywodraeth y DU

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU am y cyfiawnhad hwnnw ac mae’n aros am ymateb.

 

Argymhelliad 8.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru gyfiawnhau sut y mae pob pŵer cydredol neu bŵer cydredol plws yn y Bil y mae’n argymell y dylai’r Senedd roi ei chydsyniad ar ei gyfer yn “achos eithriadol” fel y nodir yn ei hegwyddorion ar ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig.

Ymateb: Derbyn

Mae pwynt bwled 2 o baragraff 4 o Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig yn datgan:

“Os bydd Gweinidogion Cymru, mewn achosion eithriadol, yn cytuno y dylid creu pwerau cydredol, dylai pwerau o’r fath fod yn ddarostyngedig i’r mecanweithiau cydsynio perthnasol ac i’r eithriadau cysylltiedig o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fel nad yw’n ofynnol i’r Senedd gael cydsyniad ar gyfer dileu’r pwerau yn y dyfodol.”

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod pob un o’r pwerau cydredol plws yn y Bil yn eithriadol at ddibenion y paragraff uchod. Mae pob un ohonynt yn ffurfio rhan o system newydd ac anarferol o gyffredinol o ddyletswyddau cyffredin a osodir ar lawer o gyrff cyhoeddus ledled y DU. Mae’n gwneud synnwyr bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol bwerau i ddiwygio’r swyddogaethau hyn oherwydd eu bod yn ymestyn ar draws y DU gyfan.

At hynny, mae rhai o’r swyddogaethau sy’n ymwneud, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, â chymorth cyfreithiol, sy’n fater a gedwir yn ôl (mater y mae Llywodraeth y DU yn unig yn ymdrin ag ef). Yr Ysgrifennydd Gwladol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall pa newidiadau i’r system o dan y Bil all fod yn ofynnol o ganlyniad i’r effaith ar y system cymorth cyfreithiol, os o gwbl.

Pan fo’n berthnasol, mae’r sefyllfa gyfansoddiadol a’r setliad datganoli yn cael eu diogelu’n ddigonol drwy ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi eu cydsyniad ar gyfer defnyddio’r pwerau hyn