SL(6)708 Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2025

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 ac is-ddeddfwriaeth gysylltiedig arall yng Nghymru i weithredu darpariaethau Rhan 3 o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022. Mae'r diwygiadau'n cyflwyno gofynion gweithdrefnol newydd, yn egluro dyletswyddau a chymwyseddau deiliaid dyletswyddau, yn sefydlu mecanweithiau ar gyfer gorfodi ac apeliadau mewn perthynas â rheolaeth adeiladu, ac yn darparu trefniadau trosiannol ar gyfer gwaith a ddechreuwyd neu a gymeradwywyd cyn y dyddiad dod i rym.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau digyswllt i Reoliadau Adeiladu 2010 a diwygiadau canlyniadol i offerynnau statudol eraill.

Mae Rhan 2 (rheoliadau 2-15) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010.

Mae Rhan 3 (rheoliadau 16-18) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r is-ddeddfwriaeth a ganlyn:

·         Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010;

·         Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladau etc.) (Cymru) 2024;

·         Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024.

Mae Rhan 4 (rheoliadau 19-22) o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed.

Y weithdrefn

Negyddol.

Cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud gan Weinidogion Cymru cyn eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd annilysu'r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 23 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 6(11)(a), yn y rheoliad 27(3)(b) newydd, mae'n nodi “not later than five days”. Fodd bynnag, mae llawer o'r diwygiadau eraill a wneir i Reoliadau 2010 yn cyfeirio at gyfnodau o amser a ddisgrifir fel “working days” megis y diwygiad a wneir gan reoliad 6(5)(c). Yn ogystal, defnyddiwyd ffigurau yn hytrach na geiriau i fynegi cyfnodau o ddyddiau mewn mannau eraill yn y diwygiadau. Felly, a ddylai gyfeirio at “not later than 5 working days” yn y diwygiad hwn hefyd? Mae hyn hefyd yn digwydd yn y rheoliad newydd 16(2A) a fewnosodwyd gan reoliad 9(1)(d) o'r Rheoliadau hyn lle mae'n cyfeirio at “Not more than 5 days…”.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 6(13)(a), yn y rheoliad 27B(2)(b) newydd, mae'n cyfeirio'n anghywir at y materion a nodir yn “paragraphs (1) to (iii) of sub-paragraph (a)”. Fodd bynnag, dylid cyfeirio ato gan ddefnyddio rhifolyn Rhufeinig yn hytrach na rhifolyn Arabaidd fel “paragraphs (i) to (iii) of sub-paragraph (a)”. Fel arall, gellid ei ddehongli fel cyfeiriad at baragraff (1) o reoliad 27B.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 6(13)(a), yn y rheoliad 27B(3)(b) newydd, mae'r cyfeiriad at y materion a grybwyllir “in sub-paragraphs (aa) to (cc)” yn anghyflawn oherwydd nid yw'n nodi eu bod i'w cael yn is-baragraff (a)(i) o reoliad 27B(3). Felly, dylai gyfeirio at y materion a grybwyllir “in sub-paragraphs (aa) to (cc) of sub-paragraph (a)(i)” (fel enghraifft gywir, gweler y rheoliad 27C(3)(b) newydd a fewnosodwyd gan reoliad 6(14)(a) o’r Rheoliadau hyn). 

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 6(14)(a), yn y rheoliad 27C(2)(b) newydd, mae'n cyfeirio'n anghywir at y materion a nodir yn “paragraphs (i) to (iii) of sub-paragraph (a)”. Fodd bynnag, nid oes paragraff (iii) yn is-baragraff (a). Felly, dylai gyfeirio at y materion a nodir yn “paragraphs (i) and (ii) of sub-paragraph (a)”.

5.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 16(2)(a), yn y diffiniad newydd o “local authority” sydd wedi’i fewnosod yn rheoliad 2 o Reoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010, mae'n cyfeirio at “section 91ZD of the 1984 Act”. Fodd bynnag, mae Deddf Adeiladu 1984 wedi'i diffinio fel “the Act” gan reoliad 2 o'r Rheoliadau hynny. Felly, mae'r diffiniad newydd yn methu â defnyddio'r diffiniad cywir o Ddeddf Adeiladu 1984. Mae hefyd yn anghyson â'r diwygiadau testunol newydd eraill a wnaed i Reoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010 sydd wedi defnyddio'r diffiniad cywir.

6.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 16(7)(b), yn y testun newydd sy'n disodli rhywfaint o'r testun presennol yn rheoliad 14(1) o Reoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010, mae'n cyfeirio at “regulation 14E of the Building Regulations 2010”. Fodd bynnag, mae Rheoliadau Adeiladu 2010 wedi cael eu diffinio fel “the Principal Regulations” gan reoliad 2 o Reoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010. Felly, mae'r diwygiad testunol newydd yn methu â defnyddio'r diffiniad cywir o Reoliadau Adeiladu 2010. Mae hefyd yn anghyson â'r diwygiadau testunol newydd eraill a wnaed i Reoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010 sydd wedi defnyddio'r diffiniad cywir.

7.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 17(4), yn y rheoliad newydd 6A(1) sy'n cael ei fewnosod yn y Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladau etc.) (Cymru) 2024 mae'n cyfeirio at “waith adeilad risg uwch”. Yn ogystal, mae troednodyn cysylltiedig sy'n egluro bod y diffiniad o “higher-risk building work” i'w gael yn adran 120I(3) o Ddeddf Adeiladu 1984. Fodd bynnag, nid yw'n bosibl diffinio term drwy ran anweithredol o offeryn statudol fel troednodyn. Hefyd, nid yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn cynnwys darpariaeth sy’n cyfateb i adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978, sy’n darparu bod gan ymadroddion a ddefnyddir mewn is-ddeddfwriaeth yr ystyr sydd ganddynt yn y Ddeddf y gwneir yr is-ddeddfwriaeth oddi tani. Dylai is-offeryn Cymreig gynnwys darpariaeth bendant lle bynnag y bwriedir i ymadrodd gario ystyron sy’n dod o’r ddeddfwriaeth sylfaenol. Dylid mewnosod diffiniad o “waith adeilad risg uwch” / “higher-risk building work” yn y Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladau etc.) (Cymru) 2024 os bwriedir iddo ddwyn yr un ystyr ag a roddir gan Ddeddf Adeiladu 1984.

8.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 17(6), yn y rheoliadau newydd 13A(7)(d) a 13B(1) sydd wedi'u mewnosod yn Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024, mae cyfeiriadau at “y Ddeddf” pan fo'n ymddangos ei fod yn cyfeirio at Ddeddf Adeiladu 1984. Fodd bynnag, mae Deddf Adeiladu 1984 wedi'i diffinio fel “Deddf 1984” gan reoliad 2 o’r Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig etc.) (Cymru) 2024. Mae’r diwygiadau testunol newydd hyn, felly, yn methu â defnyddio'r diffiniad cywir o Ddeddf Adeiladu 1984. Maent hefyd yn anghyson â'r diwygiadau testunol eraill a wnaed i Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010 sydd wedi defnyddio'r diffiniad cywir megis y rheoliad newydd 6A(4) a fewnosodwyd gan reoliad 17(4) o'r Rheoliadau hyn.

9.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn rheoliad 17(10)(c), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'r diwygiad yn methu â nodi'n gywir y testun presennol i'w amnewid yn rheoliad 37 o'r Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladau etc.) (Cymru) 2024. Mae'n nodi'r testun fel “section 35 of the Act (penalty for contravening building regulations) does not apply”. Fodd bynnag, mae'r testun presennol yn nodi “section 35 of the 1984 Act does not apply” yn rheoliad 37 o Reoliadau 2024. Mae'r testun Cymraeg yn nodi'n gywir y testun presennol i'w amnewid, sydd i'w gael yn rheoliad 37 o'r Rheoliadau hynny.

10.Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn rheoliad 17(11), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'r diwygiad yn anghywir oherwydd bod y geiriau “substitute” a “for” yn y drefn anghywir. Mae, felly, yn nodi “substitute “Parts 2 - 5” for “Parts 1-6”” yn rheoliad 42(1) o Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladau etc.) (Cymru) 2024. Ond dylai nodi “for “Parts 2 - 5” substitute “Parts 1-6”” oherwydd “Parts 2 to 5” yw’r testun presennol yn rheoliad 42(1) a’r testun newydd a fydd yn ei ddisodli yw “Parts 1 - 6”. Mae'r diwygiad wedi'i ddisgrifio'n gywir yn y testun Cymraeg. Mae'r un gwall a gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg hefyd yn digwydd yn y diwygiad a wnaed gan reoliad 17(12)(a) o'r Rheoliadau hyn.

11. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 17(12)(b), gellid dadlau y dylai'r geiriau “ar ôl ffurflen 5(C)” / “after form 5(W)” ymddangos ar ddechrau'r disgrifiad yn nhestunau'r ddwy iaith. Yn ogystal, byddai'r diwygiad yn gliriach pe bai rhai geiriau ychwanegol fel “a nodir” / “set out” wedi'u cynnwys ar ôl “ffurflen 6(C)” / “form 6(W)” Fel arall, gellid darllen y diwygiad fel pe bai'n cyfarwyddo bod Ffurflen 6(C) / Form 6(W) i'w mewnosod yn yr Atodlen i'r Rheoliadau newydd hyn.

12. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 17(13)(a), yn y paragraff newydd 6(d) sydd wedi'i fewnosod yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladau etc.) (Cymru) 2024, mae'n cyfeirio at “asesiad y cleient o ba  bryd y mae goruchwyliaeth rheolaeth adeiladu yn ofynnol ar gyfer y gwaith arfaethedig”. Fodd bynnag, mae hefyd yn cyfeirio at “ar ba bryd y mae’r cleient yn ystyried bod mewnbwn rheolaeth adeiladu yn ofynnol” yn y paragraff 13 newydd a fewnosodir yn yr Atodlen honno i Reoliadau 2024 gan reoliad 17(13)(c) o’r Rheoliadau hyn. Yn ogystal, defnyddir y term “mewnbwn rheolaeth adeiladu” hefyd yn y rheoliad newydd 13B(4) a fewnosodwyd gan reoliad 17(6) o’r Rheoliadau hyn. A allai Llywodraeth Cymru, felly, gadarnhau a yw'r defnydd o'r term “goruchwyliaeth rheolaeth adeiladu” yn gywir yn y paragraff newydd 6(d) neu a ddylai nodi “mewnbwn rheoli adeiladu”? Mae'r un mater yn codi yn yr Atodlen, yn y Ffurflen 1(C) newydd, paragraff 4(c)(ii), Ffurflen 2(C), paragraff 3(e)(ii), a Ffurflen 4(C), paragraff 4(c)(ii), lle mae'r term “goruchwyliaeth rheolaeth adeiladu" hefyd wedi'i ddefnyddio.

13. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 17(13)(c), yn y paragraff 13 newydd, dylid defnyddio'r ymadrodd “caiff” yn hytrach na “gall” os yw'r paragraff yn rhoi pŵer cyfreithiol disgresiynol i'r awdurdod lleol i wrthod y mewnbwn rheoli adeiladu yn hytrach na mynegi posibilrwydd yn unig.

14.Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn rheoliad 18(2)(a), mae gwahaniaeth rhwng y testun Saesneg a'r testun Cymraeg. Yn y testun Saesneg, nodir y geiriau “, a power in—” ar ddiwedd y testun newydd a fydd yn disodli rhywfaint o’r testun presennol yn rheoliad 3(2)(b) o Reoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024. Ond yn y testun Cymraeg, nid yw ystyr y geiriau hynny wedi'i gynnwys ar ddiwedd y testun newydd sy'n disodli'r testun presennol. Fodd bynnag, ymddengys bod y testun Saesneg yn anghywir oherwydd nad yw'r geiriau “, a power in-” wedi'u nodi fel rhan o'r testun presennol i'w ddisodli. Effaith y diwygiad testunol, felly, a wnaed gan y testun Saesneg yw y bydd y geiriau hynny'n ymddangos ddwywaith ar ddiwedd y testun diwygiedig fel y bydd yn darllen fel “a power in- a power in-” nad yw'n gwneud synnwyr.

15. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Ym mhennawd rheoliad 19, mae'n cyfeirio at “Rheoliadau Adeiladu 2010” ond mae'r Rheoliadau hynny wedi'u diffinio fel “Rheoliadau 2010”. Mae hefyd yn anghyson â chorff y testun yn rheoliad 19 lle mae'r term diffiniedig “Rheoliadau 2010” wedi'i ddefnyddio.

16. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 19(b)(i), mae cyfeiriad at “adran 16 o’r Ddeddf” pan fo’r term “y Ddeddf” i’w weld yn cyfeirio at Ddeddf Adeiladu 1984. Fodd bynnag, nid yw'r term “y Ddeddf” wedi'i ddiffinio fel Deddf Adeiladu 1984 at ddiben y rheoliad hwn nac yn y Rheoliadau hyn. Yn ogystal, mae hefyd yn anghyson â darpariaethau trosiannol rheoliadau 21 a 22 lle mae teitl y Ddeddf honno wedi'i nodi'n llawn yn y cyfeiriadau.

17. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 19, defnyddir y termau “gwaith adeiladu” a “hysbysiad adeiladu” sef termau sydd wedi’u diffinio gydag ystyr yn Rheoliadau Adeiladu 2010. Fodd bynnag, nid yw'r termau hynny wedi'u diffinio gyda'r un ystyr at ddiben y rheoliad hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

 

 

18. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 21, defnyddir y term “hysbysiad adeiladu” hefyd, sef term sydd wedi’i ddiffinio gydag ystyr yn Neddf Adeiladu 1984. Yn yr un modd, defnyddir y termau “hysbysiad cychwynnol”, “planiau”, a “tystysgrif blaniau” yn rheoliad 22 sydd hefyd yn dermau a ddiffinnir yn y Ddeddf honno. Fodd bynnag, yr unig derm sydd wedi'i ddiffinio gydag ystyr ar gyfer rheoliad 21 neu 22 yw “tystysgrif blaniau” sydd wedi'i ddiffinio gydag ystyr ar gyfer rheoliad 22. Ymddengys y dylid diffinio'r holl dermau a ddiffinnir gan Ddeddf Adeiladu 1984 ac a ddefnyddir hefyd yn rheoliadau 21 a 22 at ddibenion y rheoliadau hynny. Yn ogystal, mae'n ymddangos ei bod yn anghyson diffinio rhai o'r termau hynny fel “tystysgrif blaniau” ond nid pob un ohonynt.

19.Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn yr Atodlen, yn y Ffurflen 5(C) newydd, ym mharagraff 2, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “and the work described above was” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “a’r gwaith uchod oedd”.

20. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn yr Atodlen, yn y Ffurflen 5(C)) newydd, ym mharagraffau 9 a 10, yn y testun Cymraeg, mae “it” wedi’i fynegi drwy ddefnyddio “ei fod” wrth gyfeirio at “(2)”. Fodd bynnag, mae'r ymadrodd “ei fod neu ei bod” wedi cael ei ddefnyddio mewn mannau eraill yn nhestun Cymraeg y Ffurflen hon ar bob achlysur wrth gyfeirio at “(2)”. Mae'r paragraffau hyn, felly, yn anghyson â'r dull a gymerwyd mewn mannau eraill yn nhestun Cymraeg y Ffurflen hon ac yn y Ffurflenni eraill.

21.Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn yr Atodlen, yn y Ffurflen 5(C) newydd, ym mharagraff 13, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “specified” ond gellid dadlau mai'r ystyr a roddir gan y testun Cymraeg yw “noted” (“nodwyd”). Mae'r gair “pennu” yn derm cliriach ar gyfer “specify”.

22. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn yr Atodlen, yn y Ffurflen 6(C) newydd, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, ym mhennawd y Ffurflen, caiff teitl y Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladau etc.) (Cymru) 2024 ei ddiffinio fel “(Rheoliadau 2024)”. Fodd bynnag, nid oes diffiniad cyfatebol i “(“the 2024 Regulations”)” yn nhestun Cymraeg pennawd y Ffurflen honno.

23. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn yr Atodlen, yn y Ffurflen 1(C) newydd, paragraff 4(a), Ffurflen 2(C), paragraff 3(c) a Ffurflen 4(C), paragraff 4(a), defnyddiwyd termau megis “carthbwll”, “carthffos” a “carthffos breifat” sydd wedi’u diffinio ag ystyr yn Neddf Adeiladu 1984. Fodd bynnag, nid ydynt wedi'u diffinio yn y Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladau etc.) (Cymru) 2024 nac yn y Ffurflenni hyn. Ymddengys y dylid diffinio'r termau hyn yn Rheoliadau 2024 neu yn y Ffurflenni hyn os bwriedir iddynt ddwyn yr un ystyr ag a roddir gan Ddeddf Adeiladu 1984.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

24. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae paragraff 2.1 o'r Memorandwm Esboniadol (Materion o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad) yn nodi fel a ganlyn:

Yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2025(SL(6)6061)[1], rydym wedi diwygio'r drafftio i reoliadau 15 o'r Rheoliadau hyn i fynd i'r afael â sylwadau yn y pwyntiau Craffu Technegol a godwyd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwyntiau adrodd 1 i 23.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

21 Ionawr 2026

 

 



[1] https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=45427