R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a
Sgiliau
1. Alun Ffred Jones (Arfon): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am niferoedd y disgyblion sy'n parhau
ag addysg cyfrwng Cymraeg ar ôl derbyn addysg gynradd cyfrwng
Cymraeg? OAQ(4)0254(ESK)W
2.William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am nifer yr awdurdodau addysg lleol yn Nwyrain De Cymru
sy’n destun mesurau arbennig? OAQ(4)0255(ESK)
3. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog
roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei gynlluniau ar gyfer addysg
uwch yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0261(ESK)
4. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan
Lywodraeth Cymru i sicrhau cymorth i ddisgyblion ag anghenion
arbennig o ran cael addysg cyfrwng Cymraeg?
OAQ(4)0259(ESK)W
5. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am brifysgolion Cymru o ran Safleoedd Leiden 2013 y
Ganolfan Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (CWTS)?
OAQ(4)0258(ESK)
6. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog
roi’r wybodaeth ddiweddaraf am asesiad ei adran o Gynllun
Strategol Cymraeg mewn Addysg Powys ar gyfer 2013-2014?
OAQ(4)0264(ESK)
7. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog mwy o amrywiaeth
yn y proffesiwn addysgu? OAQ(4)0252(ESK)
8. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am
gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gynorthwyo plant ag
anghenion addysgol arbennig? OAQ(4)0260(ESK)W
9. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am greu ysgolion uwchradd ffederal i helpu i
godi safonau addysgol? OAQ(4)0262(ESK)
10. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am ei ymdrechion i hyrwyddo'r iaith Gymraeg fel iaith
gymunedol? OAQ(4)0266(ESK)W
11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am ba ddarpariaethau sydd wedi'u gwneud yn y setliad
cyllido addysg ôl-16 ar gyfer unrhyw gostau adnoddau
ychwanegol y bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn mynd iddynt?
OAQ(4)0263(ESK)
12. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am
rôl y sector preifat wrth hyrwyddo'r iaith Gymraeg?
OAQ(4)0251(ESK)W
13. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae
Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni amcanion y Strategaeth
Addysg Cyfrwng Cymraeg? OAQ(4)0265(ESK)W
14. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am ei amcanion strategol mewn perthynas ag addysg
feithrin? OAQ(4)0256(ESK)
15. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am
ddarparu addysg uwchradd yn Islwyn? OAQ(4)0253(ESK)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth
1. Gwyn Price (Islwyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y genhedlaeth
nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru? OAQ(4)0249(EST)
2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith lefelau incwm gwario cartrefi ar yr economi? OAQ(4)0258(EST)
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i dwristiaeth yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)0253(EST)
4. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi adroddiad cynnydd ynghylch yr effaith ar gymunedau yn sgîl cyflwyno'r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol? OAQ(4)0261(EST)
5. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu gwasanaeth trên bob awr ar reilffordd y Cambrian? OAQ(4)0263(EST)
6. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0262(EST)
7. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â gwelliannau i'r gyffordd rhwng yr A55 a'r A483? OAQ(4)0252(EST)W
8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yn y 12 mis nesaf? OAQ(4)0255(EST)
9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei hystyriaethau ynghylch cael Ardal Twf Lleol yn Nyffryn Teifi? OAQ(4)0260(EST)W
10. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd wrth weithredu'r Adroddiad Dinas-ranbarthau? OAQ(4)0256(EST)
11. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd tuag at greu cysylltiadau trafnidiaeth gwell yng ngogledd-orllewin Cymru? OAQ(4)0251(EST)W
12. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo'r stryd fawr yng Nghymru? OAQ(4)0254(EST)
13. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i fynd i'r afael â diweithdra ymhlith ieuenctid yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)0250(EST)
14. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0259(EST)W
15. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i wella'r A487 o amgylch Pont Dyfi? OAQ(4)0257(EST)