R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
1. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o ferched ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon? OAQ(4)0006(CS)
2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod adeiladau hanesyddol mewn ardaloedd cadwraeth yng Nghymru? OAQ(4)0013(CS)
3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu ymdrin â'r diffiniad o ‘ddiogelwch’ yn y Bil Teithio Llesol (Cymru)? OAQ(4)0008(CS)
4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gyngor y mae Cadw yn ei roi ynglyn ag adfer adeiladau hanesyddol sydd â statws rhestredig? OAQ(4)0003(CS)
5. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau i hyrwyddo sector treftadaeth Cymru? OAQ(4)0007(CS)
6. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu beicio yn Islwyn? OAQ(4)0009(CS)
7. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0001(CS)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu ein treftadaeth adeiledig? OAQ(4)0004(CS)
9. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i gerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghymru? OAQ(4)0012(CS)
10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynyddu nifer y merched sy'n chwarae pêl-droed ar bob lefel? OAQ(4)0005(CS)
11. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i ddatblygu bowlio lawnt gefngrom? OAQ(4)0002 (CS)
12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad cydymffurfiaeth statudol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog? OAQ(4)0011(CS)
13. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer chwaraeon yn Nhorfaen? OAQ(4)0010(CS)