A red and white logo with a dragon  Description automatically generatedLlywodraeth Cymru 
  
 
 
 Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol – 27 Ionawr 2025
 Tlodi Tanwydd yng Nghymru
 
 
 llgovernancg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Cynnwys

A oes darlun cywir o dlodi tanwydd yng Nghymru heddiw, o ystyried bod data’n seiliedig ar Arolwg Byw yng Nghymru 2008 ac Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18. 3

Effaith bosibl newidiadau i feini prawf cymhwysedd y Taliadau Tanwydd Gaeaf ar dlodi tanwydd yng Nghymru. 3

Manylion y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd, gan gynnwys y mesurau effeithlonrwydd ynni a gynigir, newidiadau i feini prawf cymhwysedd, y dull o ddarparu gwasanaethau cynghori, a datblygu dull sy’n seiliedig ar ardal. 4

Sut y bydd newidiadau o'r rhaglen flaenorol yn effeithio ar gyflawni, yn enwedig o ran nifer yr aelwydydd a fydd yn cael cymorth. 6

I ba raddau y mae’r Rhaglen Cartrefi Clyd yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd parhaus yng Nghymru, ac os nad yw, pa gamau pellach sydd eu hangen. 7

Effeithiolrwydd y cymorth sydd ar gael i aelwydydd mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd, yn ogystal â’r Rhaglen Cartrefi Clyd. 8

Pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol wedi bod o ran cyrchu a defnyddio cyllid ECO Flex. 9

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i drechu tlodi plant 10

 


 

A oes darlun cywir o dlodi tanwydd yng Nghymru heddiw, o ystyried bod data’n seiliedig ar Arolwg Byw yng Nghymru 2008 ac Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18.

Ar 13 Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi’u modelu ar gyfer Cymru ym mis Hydref 2021[1]. Aed ati i gyfrifo'r amcangyfrifon gan ddefnyddio data sylfaenol o Arolwg Amodau Tai Cymru 2017-18, ynghyd â gwybodaeth wedi'i modelu am newidiadau i incwm cartrefi a phrisiau tanwydd rhwng 2017 a mis Hydref 2021. Gwnaethom ragor o newidiadau i'r amcangyfrifon hynny er mwyn ystyried yr effaith yr amcangyfrifwyd i’r pandemig COVID-19 ei chael ar drefniadau gwresogi.

Ar ôl i'r argyfwng ynni gydio, aeth Llywodraeth Cymru ati i adolygu'r amcangyfrifon ar gyfer mis Hydref 2021, gan ddefnyddio prisiau tanwydd ar gyfer trydan, nwy o'r prif gyflenwad ac olew gwresogi o fis Ebrill 2022 ymlaen. Gwnaethom ragdybio bod pob cartref yn manteisio ar y cap ar brisiau, gan gydnabod ei bod yn debygol bod y ffigurau hynny’n oramcangyfrif.

Po bellaf yr ydym yr awn o 2017-18, y mwyaf yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'r amcangyfrifon, er y gall tueddiadau hanesyddol, a data gweinyddol helpu i leihau'r ansicrwydd hwnnw. Ar hyn o bryd, nid oes modd llunio amcangyfrifon o dlodi tanwydd ar sail data gweinyddol yn unig. Er bod y Gofrestr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC), er enghraifft, yn gallu dangos pa mor ynni-effeithlon yw rhai mathau o gartrefi, ni all roi darlun cywir o bob math o gartrefi.

 

Er bod cost ynni yn parhau'n sylweddol uwch nag yr oedd cyn yr argyfwng, mae'r cap ar brisiau'n amrywio llawer llai nag yr oedd ychydig o flynyddoedd yn ôl. Rydym wrthi'n datblygu amcangyfrifon wedi'u diweddaru o dlodi tanwydd ar gyfer mis Hydref 2024, gan ragweld y byddant yn cael eu cyhoeddi yn ystod haf 2025. Bydd yr amcangyfrifon hynny'n seiliedig ar Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18, ynghyd â gwybodaeth wedi'i modelu a fydd yn seiliedig ar ddata gweinyddol e rmwyn adlewyrchu newidiadau diweddar i incwm cartrefi a phrisiau tanwydd.

 

Unwaith y bydd yr amcangyfrifon diwygiedig o dlodi tanwydd wedi dod i law, byddwn yn gweithio gyda'r Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd[2] i gytuno ar dargedau interim ystyrlon, a fydd yn seiliedig ar sgorau EPC, ar gyfer ein Cynllun Tlodi Tanwydd[3].

 

Effaith bosibl newidiadau i feini prawf cymhwysedd y Taliadau Tanwydd Gaeaf ar dlodi tanwydd yng Nghymru.

Un ffordd bwysig o fynd i’r afael â thlodi tanwydd yw rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl, gan gynnwys pensiynwyr. Mae sicrhau'r incwm mwyaf posibl, meithrin cadernid ariannol, a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl, yn brif flaenoriaethau.

Yn achos llawer o bobl hŷn yng Nghymru, mae’r ffaith eu bod yn cael Credydau Pensiwn yn datgloi eu hawl i Daliad Tanwydd y Gaeaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cyfarfod â'r Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru, ynghyd â'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, i drafod gweithredu ar y cyd i annog pobl hŷn yng Nghymru i hawlio Credyd Pensiwn erbyn y dyddiad cau ar 21 Rhagfyr. Bu swyddogion yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i gyrraedd cynifer o bobl hŷn â phosibl cyn y dyddiad cau i gynyddu nifer y bobl sy’n gymwys i gael taliadau tanwydd y gaeaf hwn. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ailrannu gyda rhanddeiliaid ledled Cymru y negeseuon am Gredyd Pensiwn a ddefnyddiwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr ymgyrch “Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi” a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru y gaeaf diwethaf. Bydd y neges yn annog pobl i gysylltu ag Advicelink Cymru er mwyn cael cymorth i hawlio Credyd Pensiwn. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r ymgyrch honno hefyd drwy boster a graffigyn ar sgrin ddigidol i'w harddangos mewn mannau cyhoeddus, fel meddygfeydd, y mae llawer o bobl hŷn yn ymweld â nhw’n rheolaidd.

Fel y mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi dangos, mae defnyddio setiau data i dargedu aelwydydd er mwyn rhoi gwybodaeth iddynt am eu hawliau, yn gallu arwain at ganlyniadau da.

Fel rhan o Symleiddio Budd-daliadau Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cyllido cynllun peilot 12 mis o hyd gan weithio gyda Policy in Practice i ganiatáu hyd 12 o Awdurdodau Lleol i ddadansoddi setiau data incwm presennol i adnabod trigolion sy’n gymwys ar gyfer budd-daliadau, gan gynnwys Credyd Pensiwn. Bydd y cynllun peilot yn cynyddu nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau, a bydd hefyd yn darparu gwersi gwerthfawr a fydd yn ein galluogi i ddatrys rhai o’r problemau sy’n ymwneud â llywodraethu data sy’n aml yn cael eu nodi fel rhwystrau i’r broses o symleiddio gwaith gweinyddu budd-daliadau Cymru.  Bydd y cynllun peilot yn dechrau y mis yma, a bydd ei effaith yn cael ei monitro drwy gydol cyfnod y cynllun, a chynhelir gwerthusiad llawn ohono ar ôl iddo ddod i ben. 

Gwelwyd cynnydd o 145% yn yr hawliadau Credyd Pensiwn a dderbyniwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystod yr 16 wythnos diwethaf o'u cymharu â'r 16 wythnos cyn cyhoeddiad y Canghellor am Daliad Tanwydd y Gaeaf[4].

 

Manylion y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd, gan gynnwys y mesurau effeithlonrwydd ynni a gynigir, newidiadau i feini prawf cymhwysedd, y dull o ddarparu gwasanaethau cynghori, a datblygu dull sy’n seiliedig ar ardal.

Y mesurau effeithlonrwydd ynni a gynigir

Bydd aelwydydd cymwys yn cael pecyn pwrpasol o fesurau i inswleiddio a datgarboneiddio eu cartrefi, gan arwain at filiau ynni is, a'u codi allan o dlodi tanwydd. Bydd asesiad o'r tŷ cyfan yn allweddol er mwyn cyrraedd y nod, a bydd yn cael ei gynnal yn annibynnol gan yr asiant cyflenwi er mwyn nodi'r mesurau mwyaf priodol ar gyfer pob cartref cymwys.

Er mai’n bwriad yw bod pob cartref sy'n manteisio ar Nyth yn newid yn syth i dechnoleg carbon isel, efallai na fydd hynny'n bosibl ym mhob achos. Gall gymryd cryn amser i osod pwmp gwres o'r aer, ac mae'n bwysig bod aelwydydd sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, sef, yn aml, y rhai mwyaf agored i niwed, yn cael cymorth drwy Nyth.

Os bydd yr asesiad o'r tŷ cyfan yn cadarnhau na fydd modd gosod pwmp gwres o'r aer ar y pryd, bydd mesurau'n cael eu cyflwyno i godi'r cartref allan o dlodi tanwydd ac i sicrhau bod yr eiddo'n barod ar gyfer gosod pwmp gwres o'r aer pan fydd modd gwneud hynny.

Cododd Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd bryder ynghylch deiliaid tai heb wres na dŵr poeth. Lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai llwybr argyfwng i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed, drwy ganiatáu i foeler gael ei atgyweirio unwaith. Os nad oes modd atgyweirio'r boeler, gallai fod yn fwy priodol gosod boeler nwy effeithlon yn ei le. Mae'n bosibl y bydd atgyweirio offer neu roi offer newydd i fwy o ddeiliaid tai yn arwain at oblygiadau o ran nifer y cwsmeriaid a fydd yn cael cymorth yn ystod blwyddyn nesaf y Rhaglen, felly byddwn yn mynd ati ddiwedd mis Mawrth 2025 i adolygu ac ailasesu'r sefyllfa.

Pan fydd y boeler yn cael ei atgyweirio, bydd asesiad o'r tŷ cyfan yn cael ei gynnal er mwyn nodi mesur pwrpasol y gellir ei gyflwyno er mwyn gwella effeithlonrwydd y cartref o ran ynni yn unol â PAS 2035. Pan fydd boeler newydd yn cael ei osod, bydd arolwg

ôl-osod yn cael ei gynnal, a mesurau'n cael eu nodi er mwyn gwella effeithlonrwydd y cartref o ran ynni.

 

Newid y meini prawf cymhwysedd

Un o ganfyddiadau'r adroddiad “Yr Iteriad nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Clyd: gwersi a ddysgwyd[5] oedd dibynnu ar fudd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd i fesur incwm isel ar gyfer y cynllun Nyth blaenorol. Gellir hwn arwain ar wrthod pobl ar incymau is sy’n ei chael hi'n anodd talu am eu hanghenion ynni yn y cartref.

Awgrymodd y cynllun peilot ar Gyflyrau Iechyd, bod diffinio incymau isel fel canran o lefel incwm canolrifol y DU yn ffordd o sicrhau bod rhaglenni nid yn unig yn targedu aelwydydd sy'n ei chael hi’n anodd talu'r costau sy'n gysylltiedig â chadw'u cartref yn gynnes, ond eu bod hefyd yn targedu pobl sydd mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd. Mae diffiniad o'r fath yn cyd-fynd yn well â sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur tlodi incwm isel cymharol, yn hytrach na mesur ar sail aelwydydd ar fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd.

Mae'r trothwy incwm isel Cartrefi Clyd newydd bellach yn rhoi cymhwyster i aelwydydd ag incwm sy'n is na 60% o'r cyfartaledd canolrifol. Nid yw taliadau neu fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd yn cael eu cynnwys wrth asesu incwm. 

Gwasanaethau cynghori

Mae'r ffaith bod y gwasanaeth cynghori yn cael ei ddarparu ar wahân i’r ochr gyflenwi yn elfen bwysig o'r cynllun newydd. Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn cynnig cyngor diduedd ar arbedion ynni yn rhad ac am ddim i bob cartref yng Nghymru. Wrth inni newid i dechnoleg carbon isel, mae'n bwysig bod aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd yn cael y cyngor annibynnol a fydd yn rhoi'r hyder iddynt newid i'r dechnoleg honno.

Mae'r rhaglen newydd yn un sydd wedi'i chydgysylltu'n well â chynlluniau ategol, er mwyn sicrhau'r budd mwyaf posibl i ddinasyddion Cymru. Mae annibyniaeth y gwasanaeth cynghori yn caniatáu iddo helpu aelwydydd i fanteisio ar y cynllun mwyaf priodol ar gyfer eu hamgylchiadau nhw, gan gynnwys Nyth, y cynllun Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni, (ECO), Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr (GBIS), yn ogystal â chymorth a allai fod ar gael oddi wrth awdurdodau lleol y deiliaid tai.  

Gall yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni gyfeirio deiliaid tai at amrywiaeth o wasanaethau cymorth eraill, gan gynnwys AdviceLink Cymru[6], cyngor ar effeithlonrwydd dŵr, a phartneriaid atgyfeirio.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Reolwyr Datblygu Partneriaethau sy'n cydweithio ag ystod eang o sefydliadau i gyrraedd aelwydydd mwy agored i niwed. Mae'r partneriaid hynny'n cynnwys yr awdurdodau lleol, y byrddau iechyd, y trydydd sector, megis y cynghorau gwirfoddol rhanbarthol, banciau bwyd a sefydliadau sy'n cefnogi'r cymunedau ethnig lleiafrifol amrywiol a geir yng Nghymru. 

Datblygu dull sy'n seiliedig ar ardaloedd

A hithau'n ddyddiau cynnar ar y cynllun newydd, mae swyddogion wrthi'n adolygu'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma er mwyn sicrhau bod yr elfen o'r rhaglen sy'n seiliedig ar alw yn cyflawni ei phrif amcanion o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd a'r argyfwng hinsawdd. Unwaith y bydd yr adolygiad hwnnw wedi'i gwblhau, bydd swyddogion yn canolbwyntio ar y dull sy'n seiliedig ar ardaloedd.

Ein huchelgais yw bod y 2020au yn ddegawd o ddatgarboneiddio ym maes tai, lle byddwn yn dysgu sut i uwchraddio tai cymdeithasol, tai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr, a thai rhent preifat yn effeithiol ac yn effeithlon mewn ffyrdd a fydd yn lleihau allyriadau carbon, a biliau ynni.

Bydd ffordd integredig o weithredu yn cael ei datblygu ar draws pob math o ddeiliadaethau a phob math o lefelau incwm er mwyn sbarduno datgarboneiddio, a bydd yn seiliedig ar y profiad a fagwyd wrth weithredu'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio[7] a mentrau eraill ym maes tai yng Nghymru.

Diben Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yw gwella ansawdd cartrefi cymdeithasol yng Nghymru. Bydd yr hyn a ddysgwn wrth inni uwchraddio'n 230,000 o gartrefi cymdeithasol yn dylanwadu ar sut y byddwn yn mynd ati i ddatgarboneiddio'r 1.2 miliwn o gartrefi preifat sydd gennym yng Nghymru ac i leihau biliau ar gyfer deiliaid tai ar draws pob mathau o ddeiliadaethau.

 

Sut y bydd newidiadau o'r rhaglen flaenorol yn effeithio ar gyflawni, yn enwedig o ran nifer yr aelwydydd a fydd yn cael cymorth.

Rydym wedi pennu cap uwch ar gyfer y gyllideb a roddir i bob cartref er mwyn adlewyrchu'r ffaith bod angen gwneud mwy o waith ôl-osod er mwyn i gartrefi roi‘r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil a symud ymlaen at ddyfodol glanach, carbon isel.

Rydym wedi estyn y meini prawf cymhwysedd er mwyn sicrhau ein bod yn targedu'r lleiaf cefnog, gan gyflwyno trothwy incwm isel, yn hytrach na dibynnu’n unig ar fudd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd.

 

Rydym wedi diweddaru'r Rheoliadau er mwyn caniatáu nifer o geisiadau, er mwyn caniatáu i foeleri gael eu hatgyweirio o dan amgylchiadau eithriadol ac i'n hasiantau cyflenwi osod mesurau ar yr adeg fwyaf priodol ar gyfer pob eiddo unigol. 

Rydym yn rhagweld y byddwn yn cynorthwyo 1,500 o ddeiliaid tai bob blwyddyn drwy'r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd, o gymharu â chyfartaledd o 4,000 o dan y cynllun Nyth blaenorol. Mae cyllideb o dros £30 miliwn ar gyfer y cynllun eleni, ac rydym yn cydnabod y bydd gwaith ôl-osod mwy costus a dyfnach yn effeithio ar nifer yr aelwydydd a fydd yn cael cymorth o dan y cynllun.

 

I ba raddau y mae’r Rhaglen Cartrefi Clyd yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd parhaus yng Nghymru, ac os nad yw, pa gamau pellach sydd eu hangen.

Ers 2011, mae Cynllun Nyth y rhaglen Cartrefi Clyd wedi chwarae rhan ganolog wrth fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd cartrefi ledled Cymru o ran ynni, gan  hoelio sylw ar aelwydydd incwm isel yn y cartrefi mwyaf aneffeithlon.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £251miliwn i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi drwy Nyth. Mae Nyth wedi helpu mwy na 61,000 o aelwydydd incwm is drwy osod mesurau yn eu cartrefi. Mae mwy na 210,800 wedi cysylltu â Nyth er mwyn cael cyngor rhad ac am ddim ar effeithlonrwydd ynni.

Yn ystod blwyddyn olaf cynllun Nyth, cafodd 4,816 o aelwydydd becyn gwella ynni yn y cartref, megis system gwres canolog, boeler, inswleiddio, panel solar ffotofoltäig neu bwmp gwres o'r aer. Mae'r gwelliannau hyn a ariannwyd drwy Nyth wedi arbed amcangyfrif o £595 ,ar gyfartaledd, ar fil ynni blynyddol pob un o'r aelwydydd. Arweiniodd gwiriadau hawl i fudd-daliadau a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod hwnnw at sefyllfa lle gallai pob aelwyd, ar gyfartaledd, fanteisio ar £4,233 o fudd-daliadau posibl.

O blith y 12,809 o aelwydydd a gysylltodd â llinell gymorth Nyth y llynedd, amcangyfrifwyd bod 64.6% wedi bod yn byw mewn tlodi tanwydd, ac o blith y rheiny, fod 30.6% yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol.

Mae Nyth yn helpu i wella effeithlonrwydd thermol yr eiddo sy'n cael cymorth. Ym mlwyddyn olaf Nyth, dyma'r sgôr SAP a roddwyd i aelwydydd cyn i becynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref gael eu gosod:

·         Roedd gan 5.6% o aelwydydd sgôr SAP o E;

·         roedd gan 29.8% o aelwydydd sgôr o F; ac

·         roedd gan 64.6% o aelwydydd sgôr o G.

Dyma'r sgôr SAP a roddwyd i aelwydydd ar ôl i becynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref gael eu gosod:

·         Roedd gan 20.2% o aelwydydd sgôr SAP o C;

·         roedd gan 61.2% o aelwydydd sgôr o D;

·         roedd gan 14.9% o aelwydydd sgôr o E; ac

·         roedd gan 3.6% o aelwydydd sgôr o F.

Mae boddhad cwsmeriaid gyda Nyth wedi bod yn gyson uchel dros oes y cynllun: Nododd 98% o'r cwsmeriaid eu bod yn fodlon â'r gwasanaethau cynghori a'r gosodiadau a ddarparwyd gan Nyth yn 2023-24.

 

 Effeithiolrwydd y cymorth sydd ar gael i aelwydydd mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd, yn ogystal â’r Rhaglen Cartrefi Clyd.

Gwneud y gorau o incwm

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio'r cymorth y mae ganddynt yr hawl i'w gael. Mae gennym grŵp rhanddeiliaid sydd wedi hen ennill ei blwyf ac sy'n gyrru'r gwaith hwn yn ei flaen, ac mae'n hymgyrch manteisio ar fudd-daliadau yn sicrhau canlyniadau ac yn codi ymwybyddiaeth am gymorth ariannol yng Nghymru.

Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, mae cynghorwyr Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi wedi helpu dros 36,800 o bobl gyda dros 120,000 o faterion,  mwy na 9,600 ohonynt yn ymwneud â phroblemau gyda dyledion. Cafodd pobl eu helpu i hawlio dros £10.4 miliwn mewn incwm ychwanegol.

Ers i'r Gronfa Gynghori Sengl gael ei chyflwyno ym mis Ionawr 2020, mae'r gwasanaethau wedi helpu mwy na 280,000 a o bobl i fynd i'r afael â thros 1.1 filiwn o broblemau lles cymdeithasol. Rhoddwyd cymorth i rai hawlio incwm ychwanegol o £137 miliwn a dilëwyd gwerth cyfanswm o £38.5 miliwn o ddyledion. Rydym yn cyflymu'n gwaith i symleiddio system Budd-daliadau Cymru, a chafodd Cam Cyntaf ein Trywydd ei gymeradwyo gan yr holl arweinwyr yng Nghyngor Partneriaeth Cymru yr wythnos diwethaf a bydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2025. 

Cronfa Cymorth Dewisol

Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd mwy o alw ar y Gronfa Cymorth Dewisol ac mae'r proffil wedi newid. Erbyn hyn, mae bron 50% o'r ceisiadau'n dod oddi wrth deuluoedd â phlant.

Bydd cyllideb y Gronfa yn parhau'n £38.5 miliwn ar gyfer 2024/25, gan ganiatáu i'r lefel honno o gymorth barhau, ar adeg pan fydd unigolion a theuluoedd ledled Cymru yn parhau i wynebu caledi ariannol eithafol.

Rhwng 1 Ebrill 2024 a 30 Medi 2024, cafodd 107,538 o geisiadau eu cefnogi drwy bron £15 miliwn o grantiau. O blith y grantiau hynny, roedd bron £8.8 miliwn yn daliadau arian parod a oedd yn helpu gyda chostau bwyd a nwy/trydan. 

Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
y bydd trefniadau newydd yn dod i rym ar gyfer yr elfen o'r Gronfa Cymorth Dewisol sy'n ymwneud â thanwydd nad yw'n cael ei ddarparu drwy'r grid. O dan y trefniadau newydd, bydd y swm untro ar gyfer tanc o olew neu nwy yn codi o £250 i £500, a bydd y swm ar gyfer canister nwy yn codi 18%, o £70 i £82.50.  Dim ond unwaith y caiff ymgeiswyr wneud cais am danc olew neu nwy.  Caiff ymgeiswyr wneud cais hyd at dair gwaith mewn unrhyw gyfnod treigl 12 mis ar gyfer canisterau nwy oddi ar y grid.  Ystyrir bod taliadau am olew a nwy oddi ar y grid yn daliadau a wneir o dan y Rhaglen Cymorth Ynni, a bydd y meini prawf presennol ar bwy sy'n gymwys i gael cymorth o'r Gronfa Cymorth Dewisol yn parhau'n ddigyfnewid.  Bydd y cynnydd hwn yn sicrhau bod y Gronfa Cymorth Dewisol  yn parhau i ddarparu cymorth gwerthfawr mewn argyfwng i bobl dan anfantais sy'n byw mewn tlodi ac nad oes ganddynt unrhyw fodd arall o gael cymorth.

Yn rhan o'u hymwneud parhaus â rhanddeiliaid a sefydliadau allweddol, mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â Sefydliad Bevan, Cyngor ar Bopeth a rhanddeiliaid allweddol eraill i drafod eu canfyddiadau diweddaraf am y Gronfa Cymorth Dewisol.

 

Mae adroddiad dadansoddi ar gael am y Gronfa ac mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng mis Mai 2022 a mis Mai 2023[8].

 

Y Sefydliad Banc Tanwydd

 

Ar 15 Tachwedd, cyhoeddodd y Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip £700,000 arall i gefnogi gwaith y Sefydliad Banc Tanwydd, gan olygu bod ein buddsoddiad eleni yn gyfanswm o £1.2 miliwn. Ers mis Mehefin 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu dros £6.3 miliwn i alluogi'r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno cynllun cenedlaethol Talebau Tanwydd a Chronfa Gwres yng Nghymru. Mae’r cynllun wedi darparu cymorth i aelwydydd cymwys sy’n talu ymlaen llaw am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu. Mae hyn yn cynnwys darparu talebau tanwydd i gartrefi sydd â mesuryddion rhagdalu a chyflenwad o olew neu nwy i’r rheini nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif rwydwaith nwy.

Mae 72,473 o dalebau tanwydd wedi cael eu rhoi ac maent wedi helpu 436 o aelwydydd i brynu tanwydd grid oddi ar y grid. Hyd yma, mae'r ymyriadau hyn wedi helpu i 180,014 o bobl. Mae adroddiadau gan y Sefydliad Banc Tanwydd yn dangos, yn achos 99.6% o'r unigolion y mae'n eu helpu, ei fod yn gallu darparu cymorth fel bod y gwres yn ôl ar yr un diwrnod y gofynnir am gymorth. Egwyddor graidd y Sefydliad Banc Tanwydd yw sicrhau bod y cymorth hwn (10 diwrnod o gymorth). ochr yn ochr â'r cyngor ariannol a chefnogaeth eu rhwydwaith cyflenwi, yn ddigon i roi amser i'r aelwyd sy'n cael cymorth fynd i'r afael â'r problemau sy'n golygu ei bod mewn argyfwng ynni yn y lle cyntaf.

 

Pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol wedi bod o ran cyrchu a defnyddio cyllid ECO Flex.

Ein huchelgais yw sicrhau bod y niferoedd mwyaf posibl yn gallu manteisio ar y cynllun ECO Flex yng Nghymru. Rydym yn mynd ati i ysgogi cymaint o gyllid â phosibl i Gymru o'r cynlluniau sydd ar gael ar lefel y DU gyfan er mwyn sicrhau bod cymorth ar gael i'r bobl mwyaf anghenus ac rydym wedi darparu gwerth £350,000 o gyllid.  Rydym yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, (CLlLC) i annog yr awdurdodau lleol i dyfu'r cynllun ECO flex. Rydym wrthi ar hyn o bryd ydym yn ystyried darparu cyllid ychwanegol i'r awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i baratoi a gweinyddu cynlluniau ECO Flex lleol.

Rydym wedi gweithio gyda CLlLC i sicrhau bod gan bob awdurdod lleol yng Nghymru gynllun ECO Flex a Datganiad o Fwriad. Un arwydd cynnar o lwyddiant yn hyn o beth yw bod gan bob awdurdod lleol gynllun ECO Flex erbyn hyn, ond rhaid cyfaddef nad yw cynlluniau pob un ohonynt wedi'u datblygu i'r un graddau. Mae'r cynllun ECO Flex ar ei ffurf bresennol wedi cyflwyno taliadau chwyddo ar gyfer cartrefi yng nghefn gwlad nad ydynt ar y grid nwy. Nod y taliadau hyn yw rhoi cymhelliad i gyflenwyr a gosodwyr ECO dargedu cartrefi anghysbell yng Nghymru a'r Alban. Maent wedi bod yn hynod lwyddiannus, i'r graddau bod buddsoddiad yr awdurdodau lleol o dan gynllun ECO4 Flex wedi hoelio sylw ar yr ardaloedd mwyaf gwledig, ac awdurdodau lleol mewn ardaloedd mwy trefol sydd wedi cael trafferth denu ECO Flex a chymorth ar gyfer aelwydydd sydd mewn toldi tanwydd.

Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda CLlLC a chynrychiolwyr pob awdurdod lleol i edrych ar sut orau y gallwn gefnogi awdurdodau gydag ECO Flex yn ystod 2024/25, a bydd grant arall yn cael ei ddyfarnu i bob awdurdod lleol yn y man.

 

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i drechu tlodi plant

Mae gan Lywodraeth y DU ysgogiadau pwysig i helpu i liniaru tlodi tanwydd. Mae angen ymateb integredig er mwyn helpu aelwydydd sydd, o'r naill aeaf i'r llall, yn ei chael yn anodd talu'u biliau ac rydym yn croesawu perthynas waith agos â Llywodraeth y DU i wireddu'n huchelgais gyffredin.

Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net yn fuan ar ôl iddo ymgymryd â'r rôl honno. Mynegodd Ysgrifennydd y Cabinet ei pharodrwydd i weithio'n agos gyda Llywodraeth newydd y DU ar ein huchelgais gyffredin o fynd i'r afael â thlodi er mwyn datblygu ffordd barhaol ac effeithiol warchod aelwydydd sydd mewn angen.

Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet gyfarfod cynhyrchiol iawn gyda'r Gweinidog Ynni a Defnyddwyr ddechrau mis Hydref i egluro cyfeiriad Lywodraeth y DU yn hyn o beth er mwyn i'r ddwy lywodraeth fedru cydweithio. Roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn croesawu'r bwriad inni weithio'n agored gyda'n gilydd i rannu polisïau er mwyn gwarchod aelwydydd Cymru yn well. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi  adborth am yr effeithiau y mae unrhyw gynigion yn eu cael ar ddeiliaid tai yng Nghymru sy'n ei chael hi'n anodd.

Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ystyried y posibilrwydd o dariff cymdeithasol a mathau eraill o ddisgowntio cymdeithasol. Rydym yn credu bod modd ariannu tariff cymdeithasol mewn ffordd flaengar sy’n rhoi cymorth i'r bobl fwyaf agored i niwed heb fod hynny’n cael effeithiau negyddol sylweddol ar aelwydydd eraill. Mae difrifoldeb a hirhoedledd yr argyfwng fforddiadwyedd yn golygu bod yn rhaid ystyried dulliau newydd, blaengar.

Mae'n swyddogion yn cysylltu a thrafod yn rheolaidd â'r swyddogion cyfatebol yn yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net. Mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i ystyried yr effaith y mae polisïau Llywodraeth y DU yn ei chael ar ddeiliaid tai yng Nghymru. Wrth inni edrych ar yr effaith y mae newidiadau polisi yn ei chael, mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny drwy lygaid pobl agored i niwed, pobl nad ydynt, yn aml, yn gallu fforddio newid y defnydd maent yn ei wneud o ynni, am resymau meddygol, neu am y rheswm syml na allant fforddio talu'u biliau ynni cynyddol.



[1] https://www.llyw.cymru/amcangyfrifon-tlodi-tanwydd-wediu-modelu-ar-gyfer-cymru-prif-ganlyniadau-ym-mis-hydref-2021

[2] CylchGorchwyl: Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd | LLYW. CYMRU

[3] Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035 [HTML] | LLYW. CYMRU

[4] Pension Credit applications and awards:November 2024 - GOV.UK

[5] Yr iteriad nesaf o'r rhaglen cartrefi clyd: gwersi a ddysgwyd [HTML] | LLYW. CYMRU

[6] Ymgyrch-hawliwch-yr-hyn-syn-ddyledus-i-chi | LLYW.CYMRU

Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio | LLYW.CYMRU

Y Gronfa Cymorth Dewisol: adroddiad dadansoddi | LLYW.CYMRU