Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Adroddiad:  CLA(4)-05-13 (Adroddiad 2): 4 Chwefror 2013

 

Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:

 

CLA 189: Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2012

 

Holodd y Pwyllgor John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, am y Gorchymyn drafft.

 

Roedd y sesiwn graffu hon yn dilyn gwaith cychwynnol y Pwyllgor o drafod y Gorchymyn drafft ar 21 Ionawr 2013. Mae'r darn perthnasol o adroddiad y Pwyllgor ar gyfer y dyddiad hwnnw, gan gynnwys cyngor cynghorwyr cyfreithiol y Pwyllgor, i'w weld yn Atodiad 1.

 

Cyn y cyfarfod, ysgrifennodd y Gweinidog at y Pwyllgor i ymdrin â'r pwyntiau adrodd a amlinellwyd yn y cyfarfod ar 21 Ionawr 2013. Mae'r llythyr i'w weld yn Atodiad 2.

 

Holodd y Pwyllgor y Gweinidog am y dull o gyflawni'r amcanion polisi a gynhwysir yn y Gorchymyn drafft, ac yn benodol pam nad oedd modd nodi swyddogaethau'r corff newydd yn glir mewn un testun deddfwriaethol wedi'i gydgrynhoi, yn hytrach na diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes.

 

Ymatebodd y Gweinidog gan egluro bod natur y Gorchymyn drafft yn peri mai diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes yn y modd a wnaed oedd y dull mwyaf amserol, ymarferol a phragmatig.

 

Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd yn diwygio'r Gorchymyn drafft mewn ymateb i'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor gan RSPB Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru ynghylch geiriad y ddyletswydd gwarchod natur yn y Gorchymyn drafft. Nododd hefyd ei fod yn fodlon y cydymffurfiwyd â phob dyletswydd o ran yr UE.

 

Rhoddodd y Gweinidog sicrwydd pellach i'r Pwyllgor y byddai'r Gorchymyn drafft yn cael ei ddiwygio fel bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn parhau i fod yn ddarostyngedig i'r gofyniad i lunio cynllun iaith Gymraeg, ac i gydymffurfio yn y dyfodol â'r safonau iaith Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Gorchymyn drafft

yn egluro y bydd y Gorchymyn yn cael ei wneud dim ond os ceir cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol. Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i amlinellu'r darpariaethau yn y Gorchymyn drafft y gwneir cais am gydsyniad yn eu cylch, a phan fydd y cydsyniad hwn wedi'i sicrhau.

 

Hoffai'r Pwyllgor ddwyn y materion a ganlyn i sylw'r Cynulliad:

 

·         mae'r Pwyllgor yn croesawu bwriad y Gweinidog i fynd i'r afael â'r pwyntiau y mae nifer o sefydliadau amgylcheddol wedi'u crybwyll ynghylch geiriad y ddyletswydd gwarchod natur yn y Gorchymyn drafft.

 

·         mae'r Pwyllgor yn croesawu eglurhad y Gweinidog y bydd y Gorchymyn drafft yn cael ei ddiwygio i sicrhau bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn parhau i fod yn ddarostyngedig i'r gofyniad i lunio cynllun iaith Gymraeg ac y bydd safonau iaith Gymraeg yn gymwys yn y dyfodol.

 

·         mae'r Pwyllgor o'r farn, er y byddai Bil wedi bod yn ddull deddfwriaethol gwell o gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, fod defnyddio Gorchymyn yn ddull amgen rhesymol ar yr achlysur hwn;

 

·         mae'r Pwyllgor yn nodi barn y Gweinidog nad oedd yn ymarferol drafftio Gorchymyn sy'n nodi swyddogaethau'r corff amgylcheddol newydd yn y dull y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei ffafrio o ran drafftio deddfwriaeth newydd, sef mewn modd sy'n symleiddio'r llyfr statud drwy gydgrynhoi deddfwriaeth Cymru a'i gwahanu oddi wrth ddeddfwriaeth sydd hefyd yn gymwys yn Lloegr[1].

 

 

Bydd trawsgrifiad o'r cyfarfod ar gael ar wefan y Cynulliad: 

http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1242

 

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol 

4 Chwefror 2013

 

 


Atodiad 1

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Darn a gymerwyd o Adroddiad CLA(4)-03-13: 21 Ionawr 2013

 

Cyflwynir y rhannau perthnasol o'r adroddiad fel a ganlyn:

 

1.           CLA 189:  Y nodyn a'r camau gweithredu a oedd yn codi o'r cyfarfod.

2.           CLA 189:  Y pwyntiau adrodd a atodwyd ar gyfer y Gorchymyn.

3.           CLA 189:  Atodiad A, y cyfeirir ato yn y pwyntiau adrodd.

 

1.        CLA189 – Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2012

Y Weithdrefn Uwchgadarnhaol.

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2013

 

Nododd y Pwyllgor y pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt ar gyfer y Gorchymyn hwn (yn atodedig isod) a'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan RSPB Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Cymru.

 

Cam gweithredu:  Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i'w gyfarfod ar 4 Chwefror 2013 er mwyn cynnal sesiwn graffu arall.

 

2.        CLA 189 Atodiad yn cynnwys pwyntiau adrodd

 

Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2012

 

Sefydlodd Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 gorff statudol newydd, Corff Adnoddau Naturiol Cymru gan ddarparu ar gyfer diben, aelodaeth, gweithdrefn, llywodraethiant ariannol a swyddogaethau cychwynnol y Corff.  Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â’r Corff, gan gynnwys darpariaeth ynglŷn ag addasu a throsglwyddo swyddogaethau amgylcheddol iddo.

 

Gweithdrefn:   Y Weithdrefn Gadarnhaol Ddyrchafedig

 

Mae’r weithdrefn gadarnhaol ddyrchafedig yn:-

·         Ymestyn y cyfnod o’r dyddiad y gosodir Gorchymyn drafft o 40 i 60 diwrnod

·         Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau, a phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac unrhyw argymhellion pwyllgor sydd â chyfrifoldeb dros gyflwyno adroddiad ar y Gorchymyn drafft a wnaed yn ystod y cyfnod 60 diwrnod

·         Ei gwneud yn ofynnol bod y Gorchymyn drafft yn cael ei ailosod gerbron y Cynulliad gyda datganiad yn crynhoi’r newidiadau, os gwneir unrhyw newidiadau sylweddol.

 

Unwaith y gosodir y Gorchymyn drafft diwygiedig, bydd yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol arferol.

 

Materion technegol: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:

 

21.2 (i) – ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw ‘intra vires’

 

Rhaglith

 

Ni chafwyd eto gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinidog, sy’n ofynnol o dan Adran 17 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011[2].

Mae Adran 17 yn darparu bod:-

 

 (1)     The Secretary of State's consent is required for an order under section 13 or 14 which transfers a function to, or confers a function on—

 

(a)     the Environment Agency,

 

(b)     the Forestry Commissioners, or

 

(c)     any other cross-border operator.

 

(2)     The Secretary of State's consent is required for an order under section 13 or 14 made by virtue of section 15 which in any other way modifies the non-devolved functions of a person referred to in subsection (1).

 

(3)     A Minister's consent is required for an order under section 13 or 14 which transfers a function to, or modifies the functions of, the Minister.

 

21.2 (v) Bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

 

Erthyglau 5, 6 a 7

 

Ni ddiffinnir “deddfiad lleol” a allai arwain at ansicrwydd gan fod yr Erthyglau hyn, i bob pwrpas, yn tacluso deddfwriaeth arall na chyfeirir ati’n benodol yn unrhyw un o’r Atodlenni.

 

Atodlen 3

 

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

 

Paragraff 4 (2)– Gan fod Asiantaeth yr Amgylchedd yn dal i arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â Chymru, dylai barhau i fod yn ddarostyngedig i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Effaith y diwygiad fyddai cael gwared â’r gofyniad ar Asiantaeth yr Amgylchedd i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg.

 

Atodlen 4

 

Rheoliadau Ffioedd Draenio Cyffredinol (Cyniferydd Perthnasol) 1993

 

Paragraff 31 (3)– Mae’r cyfeiriad at Reoliadau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Ardollau) (Cymru a Lloegr) 2011 yn cyfeirio at Reoliadau Asiantaeth yr Amgylchedd (Ardollau) (Cymru a Lloegr) 2011 a ailenwir yn ddiweddarach yn y Gorchymyn hwn. Mae hyn yn ddryslyd i’r darllenwr ac felly byddai ôl-nodyn addas o gymorth.

 

21.2 (vi) ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

 

Atodlen 2

 

Deddf Coedwigaeth 1967

 

Paragraff 42 (3) - Mae’r cyfeiriad at isadran 4 (a) yn anghywir a dylai gyfeirio at isadran (4).

 

Deddf Priffyrdd 1980

 

Paragraff 102 (3)– Nid yw’n glir a yw’r cyfeiriad at “organisation” yn ymwneud â’r tro cyntaf neu’r ail dro pan fo’n digwydd.

 

Deddf Adnoddau Dŵr 1991

 

Paragraff 198 (2)– Nid oes cyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd yn adran 118(b).

 

Deddf Aer Glân 1993

 

Paragraff 256- Dylai’r cyfeiriad at ‘appropriate authority’ gyfeirio at ‘appropriate agency’.

 


Atodlen 3

 

Rheoliadau Rheoli Plaleiddiaid 1986

 

Paragraff 20 (2)

 

Dylai hwn gyfeirio at ‘(if the area in which the intended aerial application is to take place in Wales)’.

 

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Coedwigaeth) (Prydain Fawr) 2004

 

Paragraff 158 (3) (b) a (5)– ni ellir ond newid y dyddiad gan fod Gorchymyn 2005 yn cyfeirio at Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005, yn hytrach na Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth (Prydain Fawr) 1993.

 

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996

 

Paragraff 72 -  Gan fod Asiantaeth yr Amgylchedd yn dal i arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â Chymru, dylai barhau i fod yn ddarostyngedig i’r Gorchymyn. Effaith y diwygiad yw cael gwared â’r gofyniad ar Asiantaeth yr Amgylchedd i baratoi cynllun iaith Gymraeg o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

 

Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2008

 

Paragraff 232– Mae paragraff 231 yn newid pob cyfeiriad at Asiantaeth (‘Agency’) heb eithrio rheoliad 2, nid oes diffiniad i hepgor ac felly nid yw’r diffiniad yn gwneud synnwyr.

 

Paragraff 233– Mae’r cyfeiriad at ‘Agency’ yn hytrach nag ‘Environment Agency’

 

Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ymgynghori ar Ddatganiad Polisi Cenedlaethol) 2009

 

Paragraff 260 (2) (a)– dylai’r cofnod gyfeirio at ‘forests and woodlands’ yn hytrach na ‘forests or woodlands’.

 

Rheoliadau Pwyllgorau Rhanbarthol Llifogydd ac Arfordir (Cymru a Lloegr) 2011

 

Paragraff 317 (2)– Nid yw’r cyfeiriad at ‘geiriau agoriadol’ yn y paragraff hwn yn gwneud synnwyr.

 

Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011

 

Paragraff 325  - Nid oes unrhyw gyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd na’r Asiantaeth yn rheoliad 3.

 

Rheoliadau’r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2012

 

Paragraff 334– mae’r cyfeiriad at reoliad 21 yn anghywir a dylai gyfeirio at reoliad 20.

 

Paragraff 335– mae’r cyfeiriad at reoliad 28 yn anghywir a dylai gyfeirio at reoliad 27.

 

Paragraff 336– mae’r cyfeiriad at reoliad 48 (5) yn anghywir a dylai gyfeirio at reoliad 45 (5).

 

Paragraff 337– mae’r cyfeiriad at reoliad 87 yn anghywir a dylai gyfeirio at reoliad 86.

 

Paragraff 338– mae’r cyfeiriad at reoliad 89 yn anghywir a dylai gyfeirio at reoliad 87.

 

Paragraff 339– nid yw’r cyfeiriad yn gwneud synnwyr.

 

 


Atodlen 5

 

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Apelau) (Cymru) 2002

 

Paragraff 6 mae “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” ond yn ymddangos unwaith.

 

Rhinweddau: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

Cyflwynir y Gorchymyn hwn o dan y pwerau a gynhwysir yn Adrannau 13 i 15 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011.

 

Mae’r nodyn briffio cyfreithiol dyddiedig Tachwedd 2012 (yn Atodiad A) yn rhoi rhagor o wybodaeth gefndirol am y Gorchymyn.

 

Mae’r Pwyllgor wedi cael gohebiaeth sydd, ymysg materion eraill, yn amlinellu materion o ran a yw amryw ddarpariaethau’r Gorchymyn a gyflwynir gan Atodlen 1 yn ‘ultra vires’, oherwydd nid ydynt yn cwrdd â’r prawf o dan Adran 16 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 o ran eu bod yn cael gwared ar ddiogelwch angenrheidiol.

 

Y prawf o dan y Ddeddf yw a yw Gweinidogion Cymru yn ystyried:

 

(a)  nad yw’r Gorchymyn yn cael gwared ar unrhyw ddiogelwch angenrheidiol, a

(b)  nad yw’r Gorchymyn yn atal unrhyw berson rhag parhau i arfer unrhyw hawl neu ryddid y gallai’r person hwnnw ddisgwyl yn rhesymol i barhau i’w arfer.

 

O fewn y rhaglith i’r Gorchymyn, ac wrth gyfeirio at y Gorchymyn mae Gweinidogion Cymru yn nodi eu bod o’r farn

 

nad yw’n dileu unrhyw ddiogelwch angenrheidiol nac yn atal neb rhag parhau i arfer unrhyw hawl neu ryddid y gallai’r person hwnnw ddisgwyl yn rhesymol barhau i’w harfer neu i’w arfer.

 

Mae tudalen 11 y Memorandwm Esboniadol yn nodi:-

 

In drafting this Order we have followed the general principle that we are transferring the existing functions of the three bodies in a manner which retains all existing protections and does not add any new restrictions on individual rights or freedoms.

 

Byddai’n anodd i’r Pwyllgor ragweld effaith ymarferol darpariaethau penodol o fewn y Gorchymyn. Fodd bynnag, pe byddai’r Pwyllgor yn dymuno, gellid cael tystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy o ran y datganiad a wnaed o fewn y rhaglith, cyn gosod y Gorchymyn terfynol.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Ionawr 2013

 

 


3.        CLA 189 - Atodiad A, y cyfeirir ato yn y pwyntiau adrodd

 

Paratowyd y ddogfen hon gan gyfreithwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi gwybodaeth a chyngor i Aelodau’r Cynulliad a’u staff am faterion y mae’r Cynulliad a’i bwyllgorau’n eu hystyried ac nid at unrhyw ddiben arall.  Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a’r cyngor a geir yn y ddogfen hon yn gywir, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw ddibyniaeth a roddir arnynt gan drydydd parti.

 

This document has been prepared by National Assembly for Wales lawyers in order to provide information and advice to Assembly Members and their staff in relation to matters under consideration by the Assembly and its committees and for no other purpose. Every effort has been made to ensure that the information and advice contained in it are accurate, but no responsibility is accepted for any reliance placed on them by third parties.

 

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2012      

 

Nodyn Briffio Cyfreithiol

 

1.  Cefndir

 

1.1     Ar 15 Tachwedd 2012, gosododd John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, ddrafft o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2012.

 

1.2     Bydd y Gorchymyn yn cael ei wneud yn unol â'r pwerau a roddwyd gan adrannau 13, 14, 15 a 35 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 ("Deddf 2011").

 

1.3     Hwn yw'r ail Orchymyn sy'n ymwneud â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru ('y Corff'), a sefydlwyd ar 19 Gorffennaf 2012 gan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 Rhif 1903 (Cy.230).

 

1.4     Mae'r Gorchymyn yn ddarostyngedig i fath o weithdrefn gadarnhaol a gaiff ei egluro ar dudalen 2 o'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Gorchymyn drafft. Mae'r weithdrefn a nodir yn Adran 19 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 yn ei gwneud yn ofynnol gosod Gorchymyn drafft am 40 diwrnod, ond yn nodi y gall y Cynulliad benderfynu, neu y gall pwyllgor sy'n gyfrifol am gyflwyno adroddiad ar y Gorchymyn drafft argymell - a hynny cyn pen 30 diwrnod ar ôl gosod y Gorchymyn drafft - y dylai'r weithdrefn gadarnhaol ddyrchafedig a nodir yn Adran 19 (6) – (9) fod yn gymwys.

 

          Os na wneir penderfyniad o'r fath, neu os caiff argymhelliad y mae'r pwyllgor yn ei wneud ei ddirymu gan benderfyniad gan y Cynulliad, ar ôl 40 diwrnod gellir gwneud cynnig i gymeradwyo'r Gorchymyn drafft.

 

          Mae’r weithdrefn gadarnhaol ddyrchafedig yn:

 

·      ymestyn y cyfnod o'r dyddiad pan osodwyd y gorchymyn drafft i 60 diwrnod;

·      ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau, a phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac unrhyw argymhellion pwyllgor sydd â chyfrifoldeb dros gyflwyno adroddiad ar y Gorchymyn drafft a wnaed yn ystod y cyfnod 60 diwrnod;

·      ei gwneud yn ofynnol bod y Gorchymyn drafft yn cael ei ailosod gerbron y Cynulliad gyda datganiad yn crynhoi’r newidiadau, os gwneir unrhyw newidiadau sylweddol.

 

Yna byddai'r Gorchymyn drafft diwygiedig yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol arferol.

 

1.5     Argymhellodd y Pwyllgor yn yr adroddiad a osododd ar 23 Tachwedd 2012 y dylai'r weithdrefn gadarnhaol ddyrchafedig fod yn gymwys yn achos y Gorchymyn.  Os na fydd y Cynulliad, erbyn 11 Ionawr 2013, yn penderfynu dirymu hyn (y dyddiad olaf y gellid ystyried hyn yn y Cyfarfod Llawn yw 9 Ionawr 2013), bydd gan y Pwyllgor tan 10 Chwefror 2013 i gyflwyno adroddiad ar y Gorchymyn.

 

2.  Gofynion Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011

 

2.1        Mae Adran 13 o'r Ddeddf yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru newid neu drosglwyddo swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru a swyddogaethau datganoledig Asiantaeth yr Amgylchedd neu'r Comisiwn Coedwigaeth, swyddogaethau Pwyllgor Llifogydd ac Arfordir Cymru neu unrhyw swyddogaethau datganoledig sydd gan unrhyw unigolyn yng nghyswllt amgylchedd Cymru i:

 

·      Weinidogion Cymru;

·      i un o'r sefydliadau sy'n bodoli eisoes; neu

·      i gorff newydd.

 

2.2     Mae Adran 16 (1) o'r Ddeddf yn datgan y gellir gwneud Gorchymyn o dan Adran 13 dim ond at ddibenion gwella'r dull o weithredu swyddogaethau cyhoeddus, gan roi sylw i effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, a sicrhau atebolrwydd i Weinidogion Cymru. Mae Adran 16(2) yn datgan y gellir gwneud Gorchymyn dim ond os na fydd yn dileu unrhyw ddiogelwch angenrheidiol neu os nad yw'n tresmasu ar y gallu i weithredu unrhyw hawliau sydd gan unigolion eisoes.

 

2.3     Mae Adran 17 yn ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gorchymyn sy'n trosglwyddo swyddogaeth neu'n rhoi swyddogaeth i Asiantaeth yr Amgylchedd, y Comisiwn Coedwigaeth neu unrhyw weithredwr trawsffiniol arall, neu os yw'n newid swyddogaeth nad yw wedi'i datganoli sydd gan un o'r cyrff a enwir uchod. Mae'n ofynnol cael cydsyniad Gweinidog ar gyfer gorchymyn sy'n trosglwyddo swyddogaeth i Weinidog, neu sy'n newid ei swyddogaethau.

 

2.4     Mae Adran 18 (1) o'r Ddeddf yn datgan bod yn rhaid i Weinidogion Cymru, wrth wneud Gorchymyn o dan Adran 13, ymgynghori ag unrhyw sefydliad neu unigolyn sy'n gweithredu swyddogaethau cyhoeddus y mae'r cynigion yn berthnasol iddynt, pobl eraill y bydd y cynigion yn cael effaith sylweddol ar eu buddion, ac unrhyw unigolyn arall y bernir ei bod yn addas ymgynghori â hwy.

 

2.5     Mae Adran 18 (2) o'r Ddeddf yn datgan, os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl cynnal ymgynghoriad o dan Adran 18 (1), yn ystyried ei bod yn briodol newid y cynnig i gyd neu ran o'r cynnig, rhaid iddynt ymgynghori ymhellach ar y newidiadau i'r graddau sy'n ymddangos yn addas.

 

2.6     Mae Adrannau 21 i 23 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 yn cynnwys cyfyngiadau ar allu Gweinidogion Cymru i greu swyddogaethau, i drosglwyddo a dirprwyo swyddogaethau, ac i greu troseddau.

 

2.7     Mae Llywodraeth Cymru yn nodi yn y Memorandwm Esboniadol sut y mae wedi cydymffurfio â phob un o'r gofynion hyn.

 

2.8     Mae'n bwysig nodi y gwneir y Gorchymyn dim ond os ceir cydsyniad o flaen llaw gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac unrhyw Weinidog o dan adran 17 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, ac er bod y rhaglith i'r Gorchymyn drafft yn datgan bod y cydsyniad hwn wedi'i sicrhau, bydd yn rhaid bodloni hyn cyn y gall Gweinidogion Cymru wneud y Gorchymyn.

 

3.  Y Gorchymyn

 

3.1        Diben y Gorchymyn yw trosglwyddo swyddogaethau i'r Corff o Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Comisiwn Coedwigaeth, ac i sicrhau bod swyddogaethau cyffredinol y Corff yn addas ar gyfer yr ystod y swyddogaethau y bydd yn eu gweithredu.

 

3.2        Mae'r Gorchymyn yn trosglwyddo holl swyddogaethau Comisiwn Coedwigaeth Cymru i'r Corff (ar wahân i swyddogaethau sy'n cael eu dileu fel nad ydynt yn cael eu dyblygu). Mae hefyd yn trosglwyddo nifer o swyddogaethau sydd gan Weinidogion Cymru o ran trwyddedu yng nghyswllt bywyd gwyllt i'r Corff.

 

3.3        Mae'r Gorchymyn yn trosglwyddo mwyafrif swyddogaethau'r Comisiwn Coedwigaeth mewn perthynas â Chymru i'r Corff, gan gynnwys ei swyddogaethau rheoli coedwigaeth. Caiff pwerau'r Comisiwn Coedwigaeth i wneud is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â Chymru a'i swyddogaethau mewn perthynas ag iechyd planhigion eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

 

3.4     Yn gyffredinol, caiff swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd eu trosglwyddo i'r Corff yng nghyswllt Cymru (ac Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n parhau i allu eu gweithredu mewn perthynas â Lloegr). Fodd bynnag, caiff rhai swyddogaethau sy'n ymwneud ag adnoddau dŵr a rheoli'r perygl llifogydd eu gwahanu mewn dull gwahanol, e.e. daw swyddogaethau sy'n ymwneud â rheoleiddio a rheoli afonydd trawsffiniol at ddibenion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn rhai a gaiff eu gweithredu ar y cyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Corff. Hefyd, ni chaiff Mordwyo Gwy ei gynnwys na nifer fach o swyddogaethau y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn parhau i'w gweithredu ar lefel y DU.

 

3.4        Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer diddymu Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Phwyllgor Ymgynghorol Gwarchod Amgylchedd Cymru a Phwyllgor Ymgynghorol Asiantaeth yr Amgylchedd yng nghyswllt Pysgodfeydd Rhanbarthol a Lleol.

 

3.5        Caiff y manylion ynghylch swyddogaethau'r corff eu cynnwys yn yr Atodlenni i'r Gorchymyn.

 

4.  Camau i'r Pwyllgor eu cymryd

 

4.1     Bydd Cynghorwyr Cyfreithiol y Pwyllgor yn llunio adroddiad drafft yn unol â Rheol Sefydlog 21, ynghyd â chyngor manwl, i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

 

 

Y Gwasanaethau Cyfreithiol                                               

Tachwedd 2012

 


 Atodiad 2

 

 

 

 

 

 

 

 



[1]Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Cyfarfod Llawn, Cofnod y Trafodion: Datganiad: Hygyrchedd i Gyfreithiau Cymru a Datblygu Llyfr Statud i Gymru – Y Wybodaeth Ddiweddaraf, 26 Mehefin 2012

[2] Mae tudalen 3 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi na wneir y Gorchymyn heb gael y cydsyniad angenrheidiol.