Mae’r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd i’r broses o reoli asedau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.  Mae’r ymchwiliad yn ystyried dau brif faes:

¡    y prosesau o ran rheoli ystâd Llywodraeth Cymru ei hun; a

¡    y canllawiau a’r gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru o ran rheoli asedau drwy’r sector cyhoeddus yn ehangach yng Nghymru, a’i gwaith yn hyrwyddo arferion da yn hyn o beth.

Ceir gwybodaeth bellach am gylch gorchwyl yr ymchwiliad ar dudalennau’r Pwyllgor ar ein gwefan.[1]

Mae’r Pwyllgor eisoes wedi cyhoeddi galwad am wybodaeth.[2] Fodd bynnag, cafwyd cyn lleied o ymateb, mae angen tystiolaeth bellach arno i gefnogi’r ymchwiliad hwn. I sicrhau bod y Pwyllgor yn deall y materion perthnasol ac i gael tystiolaeth briodol i’w hystyried, mae angen iddo ddatblygu dealltwriaeth o sut mae llywodraeth leol/cyrff iechyd yn mynd i’r afael â rheoli asedau.

I’r perwyl hwn, rydym yn chwilio am ragor o wybodaeth fanwl mewn perthynas â’r broses a’r arfer o reoli asedau o fewn eich sefydliad chi a byddem yn gwerthfawrogi be gallech ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani isod, a hynny mor gynhwysfawr â phosibl, a rhoi enghreifftiau lle byddai hynny’n briodol.

 

Cysylltiadau strategol ac arweinyddiaeth

1.        Sut mae rheoli asedau yn cyd-fynd â strategaeth gyffredinol eich sefydliad?

2.        A oes gan y sefydliad strategaeth gyffredinol i reoli asedau ac a oes ganddo gynlluniau wedi’u cyhoeddi sy’n ategu’r amcanion corfforaethol?

a.    Sut mae’r strategaeth hon yn cysylltu â’r strategaeth buddsoddi cyfalaf a chynllunio ariannol ehangach?

3.        Pwy sydd â’r cyfrifoldeb o arwain rheoli asedau:

a.    Ar lefel Cabinet/Bwrdd?

b.    Ar lefel Weithredol?

c.    Ar lefel Gwasanaeth?

4.        Sut mae Aelodau’r Cyngor/Bwrdd yn ymwneud â’r broses o reoli asedau a pha mor aml mae’r Cyngor/Bwrdd yn adolygu perfformiad asedau?

5.        A oes gan eich sefydliad adran eiddo benodol neu adran gyffelyb? Os oes, rhowch fanylion strwythur yr adran a’r berthynas ag adrannau gwasanaeth eraill.

6.        Ar draws y sefydliad (e.e. ar lefel Cyngor/Bwrdd, lefel Weithredol a lefel Gwasanaeth) a allwch chi ddangos bod eiddo’n cael ei ddefnyddio fel adnodd corfforaethol ac fel ffordd o hwyluso’r broses o ddarparu gwasanaethau?

 

Systemau a Phrosesau

7.        A allwch chi ddangos bod systemau gwybodaeth priodol ar gael i gefnogi cynnal a chadw eiddo?  A yw’r systemau gwybodaeth hyn yn cael eu defnyddio:

§  I fesur perfformiad yn erbyn cyrff eraill a/neu

§  I gysylltu â systemau perthnasol eraill (e.e. systemau gwybodaeth daearyddol)

8.        Pa mor aml mae’r sefydliad yn cynnal gwerthusiad opsiynau er mwyn sichrau bod yr ôl-groniad o’r gwaith cynnal a chadw eiddo yn cael ei reoli’n effeithiol?  

a.    A oes rhaglen o adolygiadau eiddo rheolaidd?  Os oes, beth mae’r rhain yn eu hystyried a pha mor aml y’u cynhelir?

b.    A yw’r wybodaeth am gostau rhedeg a’r effaith amgylcheddol ar gael i’r tîm adolygu?

9.        A allwch ddangos bod penderfyniadau ar brosiectau cyfalaf newydd a gwaith arall a gynllunir yn seiliedig ar achos busnes clir, gan gynnwys gwerthusiad opsiynau a chostau oes gyfan?

10.     Sut mae’r adran eiddo yn gweithio gydag adrannau gwasanaeth, a beth yw’r trefniadau ar gyfer ymwneud/cefnogi?

 

Adnoddau a gwerth am arian

11.     Beth yw lefel yr adnoddau sydd ar gael, ar lefel gorfforaethol, i adolygu asedau eiddo a chostau rhedeg? A yw hyn yn ddigonol?

12.     Pa wybodaeth am gostau eiddo yr adeiladau lle mae gwasanaethau wedi’u lleoli sydd ar gael i uwch reolwyr, a sut y caiff hyn ei ddefnyddio ganddynt wrth ystyried darparu gwasanaethau?

13.     A oes gan gynnal a chadw eiddo adnoddau digonol i fodloni ei amcanion polisi ac a roddir blaenoriaeth ddigonol i gynnal a chadw cyffredinol o fewn proses y gyllideb?

a.    A yw ariannu cynnal a chadw yn gysylltiedig â chyflwr yr asedau?

14.     O ystyried yr hinsawdd bresennol o leihau cylllidebau, a oes canfyddiad ar lefel gorfforaethol neu lefel gwasanaeth y dylid dargyfeirio’n uniongyrchol i wasanaethau rheng flaen yn hytrach na rheoli eiddo?

15.     A allwch roi enghreifftiau o sut mae’r sefydliad yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn cyflawni arbedion maint wrth reoli asedau?

16.     A allwch roi manylion o’r fframwaith sy’n bodoli i adolygu a gwella perfformiad rheoli asedau yn barhaus?

a.    A oes cynlluniau perfformio blynyddol, a gytunir arnynt gan Aelodau’r Cyngor/Bwrdd, sy’n gosod targedau clir ar gyfer gwella?

b.    A yw’r sefydliad yn cynnwys y wybodaeth hon mewn adroddiadau ar berfformiad cyhoeddus?

 

Canllawiau ac arfer da

17.     Pa ganllawiau, os o gwbl, a gaiff eu dilyn wrth reoli asedau yn y sefydliad?

18.     A ydych yn rhannu arfer da a gwersi a ddysgwyd ar reoli asedau â sefydliadau/cyrff proffesiynol eraill, ac os ydych, ym mha ffyrdd ydych yn gwneud hynny?

19.     A fyddai ffynhonell ganolog o arbenigedd ac arfer da o fudd i’r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac os byddai, lle dylai fod?

a.    A fyddai hyfforddiant mewn rheoli eiddo/asedau o fudd?

20.     Fel ymgais i wella rheoli asedau, a fyddai adroddiad arall tebyg i adroddiad 2010 Swyddfa Archwilio Cymru o fudd?



[1]Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Pwyllgor Cyllid, Ymchwiliad i’r broses o reoli asedau

[2]Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Pwyllgor Cyllid, Ymchwiliad i’r broses o reoli asedau